DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 1
GLASOED? GLASOED?
Beth Beth sy'n sy'n mynd mynd ymlaen? ymlaen? Arweiniad i’r newidiadau rhyfeddol sy’n digwydd wrth i chi dyfu!
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 2
GLASOED YW... ... Pan fyddwch chi’n dechrau newid o fod yn blentyn i fod yn oedolyn. Nid yw popeth yn digwydd ar unwaith; mae’n gallu cymryd amser, hyd at tua dwy flynedd. Mae’n digwydd i bobl ar wahanol oedrannau hefyd. Mae’n gallu dechrau unrhyw bryd rhwng 8 a 17 oed.
Mae pawb yn wahanol, felly peidiwch â meddwl nad ydych chi’n ‘normal’ os nad yw pethau yr un fath i chi a’ch ffrindiau.
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 3
Cofiwch...
● Mae’r holl oedolion rydych chi’n eu hadnabod wedi bod trwy’r un peth (hyd yn oed eich Mam-gu a’ch Tad-cu – oesoedd yn ôl!) ● Mae pawb yn eich gr^ wp blwyddyn yn mynd trwy fwy neu lai yr un newidiadau â chi. ● Mae pawb yn cyrraedd yr un man yn y pen draw, ond PEIDIWCH AG OFNI GOFYN os ydych chi’n poeni am rywbeth neu os oes angen gwybodaeth arnoch.
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 4
TEIMLADAU Mae rhai newidiadau glasoed yr un fath ar gyfer bechgyn a merched. Mae glasoed yn dechrau gyda chynnydd mawr mewn hormonau sy’n rhoi negeseuon i rannau o’r corff i newid a thyfu. Gall yr hormonau hyn wneud i chi deimlo’n wahanol hefyd: gallech deimlo’n fwy dig, yn fwy cyffrous, yn fwy pwdlyd, yn fwy gofidus, yn fwy dagreuol. Fe all fod yn rhyfedd am fod eich teimladau’n neidio o un i’r llall yn gyflym, ond mae’n normal ac fe allai eich helpu chi siarad â phobl rydych chi’n ymddiried ynddynt yn â sut rydych chi’n teimlo. yngl^
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 5
Newid arall yw y gallech ddechrau ffansïo pobl eraill. Gallech gael teimladau am bobl o’r rhyw arall (bechgyn yn ffansïo merched … merched yn ffansïo bechgyn), neu gallech gael teimladau am bobl o’r un rhyw (merched yn ffansïo merched … bechgyn yn ffansïo bechgyn). Mae hyn yn normal, ac mae’n digwydd oherwydd y cemegau sy’n rhuthro o amgylch eich corff, yn dweud wrtho am ‘dyfu’. Fyddwch chi ddim wastad yn teimlo fel rydych chi’n teimlo wrth i chi ddechrau mynd trwy lasoed; bydd rhai atyniadau’n newid wrth i chi fynd yn h^ yn. Cofiwch nad oes y fath beth â ‘normal’, a dylech ymddiried yn sut rydych chi’n teimlo, cyn belled nad yw hynny’n rhoi dolur i neb arall. Os ydych chi’n teimlo’n bryderus neu’n ddryslyd, fe allai siarad â rhywun eich helpu chi. Os nad ydych chi am siarad â rhywun rydych chi’n ei adnabod, gallwch ffonio llinellau cymorth cyfrinachol. Mae rhai rhifau ar gefn y daflen hon.
Mae rhai newidiadau’n digwydd i ferched yn unig, ac mae rhai ohonynt yn digwydd i fechgyn yn unig. Dyma ychydig yn rhagor o wybodaeth amdanynt.
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 6
Newidiadau merched Dyma’r pethau a all ddigwydd rywbryd yn ystod y blynyddoedd nesaf: ❀ Byddwch yn tyfu’n dalach ❀ Bydd eich corff yn mynd yn fwy llydan, yn enwedig eich cluniau ❀ Gallech chwysu mwy ac fe allai arogli’n gryfach ❀ Gallai eich croen fynd yn fwy seimllyd ac fe allech gael sbotiau (felly gwnewch yn si^ wr eich bod yn ymolchi bob dydd) ❀ Gallai eich gwallt fynd yn fwy seimllyd (dylech ei olchi’n aml) ❀ Bydd eich bronnau’n dechrau tyfu ❀ Bydd gwallt yn dechrau tyfu o dan eich breichiau, ar eich coesau a rhwng eich coesau (yr ardal gedorol) ❀ Bydd eich misglwyf yn dechrau
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 7
MISGLWYF/MISLIF Bydd merched yn dechrau cael mislif unrhyw bryd rhwng 8 a 17 oed. Mae hyn yn golygu bod eich misglwyf yn dechrau dod. Gallent fod yn afreolaidd i ddechrau (dydych chi ddim yn gwybod pryd byddant yn dod, na pha mor hir fydd rhwng un a’r un nesaf), ond fel arfer maent yn sefydlogi ac yn para 3-7 niwrnod, ac yn dod bob 28 niwrnod (bob mis fwy neu lai). PAM? Mae eich corff yn barod i gael baban pan fydd eich misglwyf yn dechrau (er dydyn ni ddim yn barod i ofalu am faban pan fyddwn ni mor ifanc â hynny). BETH SY’N DIGWYDD Y TU MEWN? Mae wyau’n dechrau cael eu cynhyrchu y tu mewn i’ch corff bob mis. Petai un o’r wyau bychan hyn yn cael ei ffrwythloni gan semen dyn, byddai’n dechrau tyfu fel baban. Y rhan fwyaf o fisoedd, felly, does dim angen yr wy ac mae’n dod allan o’ch corff, gyda leinin eich croth, fel gwaed. Mae’n diferu allan yn araf, weithiau ychydig yn drymach nag adegau eraill. Ar gyfartaledd, dim ond tua hanner cwpanaid sydd i gyd. A YDYW’N RHOI DOLUR? Mae hyn yn wahanol i bobl wahanol. Mae rhai merched a menywod, cyn neu yn ystod eu misglwyf, yn cael poen yn eu stumog neu eu cefn, ac mae rhai’n teimlo’n gyfoglyd neu ychydig yn wan weithiau. Ar y llaw arall mae eraill braidd yn
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 8
gallu dweud ei fod yn dod neu ei fod yno. Gofynnwch os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth o’i le arnoch, a mwy na ^ thebyg byddwch yn darganfod bod llawer o ferched hyn na chi wedi meddwl yr un peth. SUT RYDYM NI’N DELIO AG EF? Gall merched ddefnyddio tywelion misglwyf (neu ’padiau’, fel Always, Kotex neu Bodyform) yn eu nicers i socian y gwaed. ^ Gallai merched hyn ddefnyddio tamponau (fel Tampax neu Li-lets), a ddefnyddir y tu mewn i’r corff i socian y gwaed cyn iddo ddod allan. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y pecynnau neu gofynnwch am gyngor i wneud yn si^ wr eich bod yn deall beth rydych chi’n ei wneud, ac mae angen i chi newid padiau a thamponau’n rheolaidd. A FYDD E’N DIFETHA FY HWYL? Dylech fedru parhau i wneud unrhyw beth rydych chi’n teimlo fel ei wneud. Efallai na fyddwch chi’n teimlo fel mynd i nofio er enghraifft, ar y diwrnod neu ddau gyntaf pan allai fod ychydig yn drymach, ond yn sicr nid yw cael eich misglwyf yn golygu na ddylech chi gael bath! A dweud y gwir, dylech wr eich bod yn ymolchi neu’n cael bath bob dydd, wneud yn si^ yn enwedig pan fyddwch chi ’arno’ (yn cael eich misglwyf), i aros yn ffres.
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 9
NEWIDIADAU BECHGYN Dyma’r pethau a all ddigwydd rywbryd yn ystod y blynyddoedd nesaf: ★ ★ ★ ★
★ ★ ★
★
Byddwch yn tyfu’n dalach Bydd eich corff yn mynd yn fwy llydan Gallech chwysu mwy a bydd yn arogli’n gryfach Gall eich croen fynd yn fwy seimllyd a gallech gael ^ eich bod yn ymolchi sbotiau (felly gwnewch yn siwr bob dydd) Gall eich gwallt fynd yn fwy seimllyd (dylech ei olchi’n aml) Bydd eich llais yn dechrau mynd yn ddyfnach (‘torri’) Bydd gwallt yn dechrau tyfu o dan eich breichiau, ar eich coesau, yn yr ardal gedorol o amgylch gwaelod eich pidyn, ar eich wyneb ac weithiau ar eich brest Bydd eich pidyn a’ch ceilliau’n mynd yn raddol fwy
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 10
Esbonio Rhai Geiriau HORMONAU – o gwmpas adeg glasoed, mae eich corff yn dechrau cynhyrchu’r cemegau hyn sy’n anfon negeseuon i ddweud wrth rannau o’ch corff dyfu neu newid. ORGANAU CENHEDLU – ar gyfer bechgyn, y pidyn a’r ceilliau. Ar gyfer merched, yr ardal o amgylch y wain. MASTYRBIAD – pan fyddwch yn rhwbio neu’n cyffwrdd â’ch organau cenhedlu am fod hynny’n teimlo’n braf. Fe all arwain at orgasm, pan fydd teimlad o gynnwrf yn cynyddu i uchafbwynt, ac yna i deimlad o ryddhad. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny, yn breifat. Mae’n eithaf normal, ni all eich niweidio chi, ac fe all eich helpu i ddod i adnabod eich corff a beth rydych chi’n ei hoffi. CODIAD – pan fydd y pidyn yn mynd yn galetach. Os yw bachgen yn cael ei gynhyrfu’n rhywiol, mae’r pibellau gwaed bychain yn y pidyn yn llenwi â gwaed. Mae’n tewhau ac yn mynd yn hirach ac yn ymestyn allan o’r corff. Mae hyn yn digwydd fel bod y pidyn yn gallu mynd i mewn i’r wain er mwyn gwneud baban. Weithiau gall y pidyn godi pan nad ydych yn teimlo’n rhywiol. Cofiwch, mae eich corff yn dod yn gyfarwydd â’r newidiadau, ac yn paratoi am fod yn oedolyn. ALLDAFLIAD (‘dod’) – pan fydd semen yn dod allan o ben y pidyn. Y rheswm dros hyn yw fel bod had y dyn yn gallu mynd i mewn i’r ^ fenyw, yn ystod rhyw, i gwrdd â’i hwy, i wneud baban. Wrth gwrs, y rhan fwyaf o’r amser, nid yw alldafliad yn arwain at feichiogrwydd. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd mewn perthynas rywiol yn defnyddio dulliau atal cenhedlu (fel condomau) i’w hatal rhag mynd yn feichiog. Gall alldafliad ddigwydd o ganlyniad i fastyrbiad, neu fe all ddigwydd yn eich cwsg. Gelwir hyn yn freuddwyd wlyb; ni allwn eu rheoli ac maen nhw’n eithaf normal. Allwch chi ddim dod a phi-pi yr un pryd! SEMEN – dyma’r hylif llaethog sy’n dod allan o’r pidyn pan fydd ^ bechgyn yn alldaflu. Mae’n cynnwys sberm, sy’n gallu ffrwythloni wy menyw i wneud baban.
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 11
YDW I’N NORMAL??
Mae’r newidiadau hyn yn gyffredinol a gallant ddigwydd i bobl ar wahanol oedrannau. Peidiwch â phoeni nad ydych chi yr un fath â phawb arall – mae’n beth da bod pawb yn wahanol. Os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth o’i le gyda’ch corff, ceisiwch siarad â rhywun amdano, a mwy na thebyg byddwch chi’n darganfod ei fod yn newid eithaf normal. Mae’n beth da dod i adnabod eich corff er mwyn i chi sylwi ar y newidiadau a dod i arfer â nhw. Edrychwch arno (defnyddiwch ddrych i edrych ar y rhannau nad ydynt yn amlwg!), teimlwch ef, carwch ef. Eich un chi ydyw i ofalu amdano a gwneud yn fawr ohono.
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 12
Bwytewch yn dda – bwytewch ddigon o ffrwythau a llysiau a dim gormod o fwydydd melys neu ^r. Ymarferwch seimllyd, ac yfwch ddigon o ddw bob dydd os yw’n bosib – mae cerdded yn ymarfer corff gwych; fe all gyd-fynd â gweddill eich bywyd prysur, byddwch yn gweld y byd yn agos ac mae’n gymdeithasol – gallwch ei wneud gyda ffrindiau a byddwch yn gweld pobl eraill.
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 13
Weithiau, gall gwylio’r teledu a darllen cylchgronau wneud i chi gredu bod pawb i fod yn berffaith, yn denau, yn hardd, bla bla bla!!
^ CHREDU HYNNY! PEIDIWCH A Nid bywyd go iawn yw hynny. Edrychwch o’ch cwmpas pan fyddwch chi’n mynd i’r dref – dyna fywyd go iawn, a byddwch chi’n gweld bod pobl yn dod ym mhob siâp a maint. Mae’n dda teimlo’n ffit ac yn iach, ond peidiwch â cheisio edrych fel unrhyw un arall. Chi yw chi – ac mae ^ hynny’n cwl!
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 14
Rhannau o’r Corff Dewch i ni edrych yn fanylach ar yr organau cenhedlu. blew allanol clitoris (lwmp sensitif)
wrethra (twll pi-pi)
fagina
blew allanol penis
pledren
(wili)
wrethra (tiwb pi-pi)
sgrotwm
ceilliau ^ (bols)
DAS Puberty Wel
22/3/07
16:18
Page 15
Cwestiynau? Dyma ddechrau eich bywyd fel oedolyn ifanc. Mae bod yn oedolyn yn golygu eich bod yn cael gwneud mwy o bethau, ond mae hefyd yn golygu bod yn fwy cyfrifol am ofalu amdanoch eich hunan. Ond mae hynny’n datblygu dros amser, ac yn sicr nid yw’n golygu eich bod ar eich pen eich hun!!! Mae’n bwysig eich bod chi’n deall beth sy’n digwydd i chi, a pham. Os ydych chi’n dal i fod yn â rhywbeth rydych chi wedi yn ansicr yngl^ darllen amdano yma, gofynnwch i rieni, yn rydych gofalwyr, athro/athrawes neu rywun h^ chi’n ymddiried ynddo/ynddi. Byddwch yn garedig wrth y rheiny sydd o’ch cwmpas, peidiwch â phoeni na phigo ar bobl am eu bod yn wahanol; mae pawb yn mynd drwy newidiadau mawr. Siaradwch â’ch rhieni, gofalwyr, neu rywun h^ yn rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi (fel brawd neu chwaer h^ yn/modryb/mam-gu neu dad-cu) os ydych chi’n poeni, yn ansicr neu am ddweud wrthynt sut rydych chi’n teimlo.
DAS Puberty Wel
21/3/07
14:47
Page 16
Cysylltiadau defnyddiol Childline – llinell gymorth 24 awr i bobl ifanc ag unrhyw broblem 0800 1111 Fpa UK – Gwybodaeth am iechyd rhyw Llinell gymorth : 0845 122 8690 Info-nation (I Gael Gwybod) – canolfan galw heibio gyda llawer o wybodaeth am wasanaethau pellach – Ffordd y Brenin, Abertawe, Ffôn 01792 484010 neu Destun 07930 328607 www.cliconline.co.uk – gwefan wybodaeth i bobl ifanc, gan gynnwys gwybodaeth am iechyd www.teenagehealthfreak.org – cyngor i bobl ifanc ar faterion iechyd Cofiwch, fwy na thebyg does dim byd rydych chi’n poeni amdano neu am ei ofyn sydd heb gael ei ofyn o’r blaen! Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Abertawe Tŷ Cydweli, Llys Siarter, Ffordd Ffenics Llansamlet Abertawe SA7 9FS Ffôn: 01792 784858