CONTRACT AR GYFER YMGYNGHORYDD BWYD
PYSGOD AMDANI
CYFLWYNIAD
Roedd y prosiect hwn yn seiliedig ar becyn addysg Pysgod Amdani a gynlluniwyd i ennyn diddordeb plant mewn pysgod fel bwyd a'u cyflwyno i'r gwahanol rywogaethau o bysgod, ryseitiau pysgod ac i'w hysbysu am fanteision iechyd bwyta pysgod. Cynigiwyd cyfle i ysgolion cynradd yn ardal Bae Abertawe ymweld i gyflwyno gwers ryngweithiol leol yn y Gymraeg a'r Saesneg ar fwyd môr.
Roedd y wers yn canolbwyntio ar y chwe rhywogaeth bwyd môr sy'n cael eu bachu neu eu cynaeafu amlaf yng Nghymru sef draenogyn y môr, cranc, lleden goch, corgimychiaid, cregyn gleision, a macrell sy'n cynrychioli pysgod gwyn, pysgod cregyn, lleden, a chategorïau pysgod olewog. Rhoddodd y wers ryngweithiol gyfle i'r plant ddysgu mwy am fwyd môr lleol, blasu'r rhywogaethau bwyd môr sy'n cael eu bachu, eu cynaeafu a'u gwerthu amlaf yn ardal Bae Abertawe a sut i goginio ryseitiau pysgod syml.
CYFLWYNO A CHANLYNIADAU
Derbyniwyd cronfa ddata o 191 o ysgolion cynradd yn ardal Bae Abertawe ym mis Gorffennaf 2020 a chysylltwyd â phob ysgol drwy e-bost i ddechrau er y derbyniwyd ymatebion awtomataidd oherwydd gwyliau'r haf. Anfonwyd e-byst pellach eto ar ddechrau mis Medi 2020, ond roedd ysgolion yn amharod i'n gwahodd gan y rhagwelwyd y byddai'r tymor cyntaf yn heriol yn dilyn absenoldeb disgyblion yn ystod COVID-19. Gwnaed galwadau ffôn dilynol a chadarnhawyd rhai apwyntiadau ym mis Ionawr 2021. Fodd bynnag, prin oedd yr ymatebion e-bost ac fe gysylltodd Cydlynydd y Prosiect a chynrychiolydd GGLlPBA hefyd ag ysgolion yn ardaloedd Abertawe. Hyrwyddwyd y prosiect mewn cylchlythyr i bob ysgol o Adran Addysg Cyngor Dinas Abertawe ac roedd cyflwyniad i benaethiaid (dros Zoom) ym mis Tachwedd 2021 wedi helpu i gychwyn diddordeb uniongyrchol gan rai ysgolion. Anfonwyd e-byst pellach dro ar ôl tro yn ystod y cyfnod hwn, a darganfuwyd bod sawl cyfeiriad e-bost o 50 o ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr a mwy yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot heb dderbyn yr e-bost cychwynnol gan fod eu cyfeiriadau e-byst wedi newid a diweddarwyd y gronfa ddata o ganlyniad.
Nodwyd 191 o ysgolion cynradd er bod 2 ysgol wedi cau yn ystod adeg y prosiect (Ysgol Gynradd Brynhyfryd ac Ysgol Gymraeg Felindre) gydag ymateb o 33% a 64 ysgol yn manteisio ar y cynnig. Roedd llawer o ysgolion yn awyddus i gael mwy nag un wers, yr oeddem wedi gallu darparu ar eu cyfer, (oherwydd ymateb isel) ac yn targedu blwyddyn 5 a 6 yn bennaf ac weithiau blynyddoedd 3 a 4. Gwnaethom ddosbarthu dros 130 o becynnau adnoddau Pysgod Amdani a gafodd ymateb da. Defnyddiwyd y posteri yn y pecyn i adnabod rhywogaethau eraill yn ystod y wers, ac roedd y sticeri yn boblogaidd gyda'r llyfrau gwaith yn cael eu cwblhau ar ôl y wers neu aethpwyd â nhw adref. Doedden ni ddim yn gallu darparu ymarferion papur ychwanegol yn ystod y gwersi oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Roedd effaith COVID-19 yn golygu bod pob ysgol gynradd ar gau ar 20 Mawrth, 2020, gyda rhai yn ailagor ar 29 Mehefin am gyfnodau cyfyngedig gyda'r holl ysgolion ar gau ar gyfer gwyliau'r haf ar 17 Gorffennaf ac ysgolion yn ailagor ac yn dychwelyd yn raddol ar 14 Medi, 2020. Caeodd ysgolion cynradd eto ar 14 Rhagfyr gyda dysgu o bell yn dechrau ar 4 Ionawr, 2021. Effeithiodd hyn yn sylweddol ar y prosiect gyda'r rhan fwyaf o ysgolion yn amharod i wahodd ymwelwyr am o leiaf 12 mis a ohiriodd gyflwyniad y prosiect. Fodd bynnag, gwnaethom ddatblygu cwrs ar-lein yr oedd rhai ysgolion yn ei groesawu. Roedd y sesiynau ar-lein yn ffordd dda o ddarparu fersiwn wedi'i haddasu o'r sesiwn Pysgod Amdani, ond nid oedd y rhain mor effeithiol â'r sesiynau wyneb yn wyneb. Roedd y sesiynau ar-lein
yn cynnwys yr wybodaeth ynglŷn â'r gwahanol bysgod, y manteision, cynaliadwyedd a lle'r oedd y disgyblion yn cael gweld, cyffwrdd ac arogli'r pysgod yn unig. Nid oedd hi'n bosib cynnwys y sesiwn goginio a blasu. Roedd cael plant i gymryd rhan ar-lein hefyd yn fwy anodd na bod yn yr ystafell ddosbarth.
Gwnaethon ni hefyd hyrwyddo'r prosiect ar y radio yn Gymraeg a Saesneg ar Radio Cymru a Radio Wales ac ymddangosodd erthygl mewn papur newydd lleol gyda delweddau o blant yn
mwynhau'r wers. Byddai rhai ysgolion hefyd yn postio negeseuon am y sesiynau gyda delweddau ar gyfryngau cymdeithasol, a bob amser yn cynnwys adborth gwych.
Gwnaethom ddarparu amserlen o wersi i'w cyflwyno a sicrhau bod dyddiadau ac amseroedd ar gael i Gydlynydd y Prosiect wrth i ni symud ymlaen a chael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran adroddiadau cynnydd drwy gydol y broses o gyflwyno'r prosiect.
Cyflwynwyd 128 o wersi, a derbyniodd 3,205 o ddisgyblion y gwersi gydag 8 dosbarth yn cael eu cyflwyno ar-lein yn ystod COVID-19.
Dosbarthwyd 3,300 o ffurflenni 'cymeradwyo cyn cyflwyno' gydag ychydig yn unig yn gwrthod y wers yn bennaf oherwydd alergeddau ac amharodrwydd gan ddisgyblion i roi cynnig ar fwyd môr a rhywbeth yr oeddent yn anghyfarwydd ag ef.
CRYNODEB O'R
FFURFLEN WERTHUSO
Dosbarthwyd 128 o holiaduron am gyflwyniad yr hyfforddiant a chwblhawyd 102 ohonynt. Ni chwblhawyd rhai holiaduron oherwydd diffyg amser gan yr athro neu addawyd eu hanfon drwy e-bost yn ddiweddarach, ond di dderbyniwyd y rhain.
BETH OEDDECH CHI’N EI HOFFI AM Y WERS?
popeth, ond yn enwedig gweld yr holl bysgod y gallai'r disgyblion eu harchwilio
roedd y disgyblion wrth eu boddau ac wedi dysgu llawer
cyflwyniad rhagorol - addysgol a difyr
digonedd o bysgod i bawb roi cynnig arnynt
y cyfle i blant goginio a blasu
y manteision deietegol
y gweithgareddau ymarferol
addysgiadol a diddorol
yn cynnig ystod o brofiadau
roedd yn galluogi i'r holl synhwyrau gael eu defnyddio
'am brofiad' (disgybl ym mlwyddyn 5)
roedd yn gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd
un o'r gweithgareddau gorau i ddod i'r ysgol
llawer o ddisgyblion yn rhoi cynnig ar bysgod am y tro cyntaf
BETH NAD OEDDECH CHI'N EI
HOFFI AM Y WERS A SUT
GELLIR EI GWELLA?
Roedd sylwadau'n cynnwys y canlynol:
nid oedd yn ddigon hir
arogl cryf bwyd môr
rhywbeth i weddill y dosbarth ei wneud wrth i'r plant eraill goginio
Gwelliannau/awgrymiadau
pysgod byw mewn cynwysyddion
fideo ar-lein i ddangos sut maen nhw'n pysgota
taith rithiol o gwmpas pysgodfeydd Abertawe
disgyblion i ymweld â gwerthwr pysgod
amrywiaeth ehangach o bysgod e.e. môr lawes
ffiledu a diberfeddu
cardiau ryseitiau
map o'r DU yn dangos o ble mae'r pysgod yn dod
rhagor o gyfleoedd i goginio
rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd
Gwnaethom ymateb i rai o'r sylwadau ar ôl i ni dderbyn adborth am rannu'r plant nad oeddent yn coginio'n grwpiau i gwblhau'r llyfrau gwaith, a chael grwpiau i roi adborth ar faint o wahanol rywogaethau y gallent eu henwi. Lle'r oedd amser yn caniatáu a'r disgyblion yn awyddus, dangosom iddyn nhw sut i ddiberfeddu macrell a ffiledu draenogyn môr. Nid oedd yn bosib gwneud rhagor o goginio oherwydd y cyfyngiadau amser. Siaradom ni am gynaliadwyedd ond roedd yn anodd archwilio i ormod o fanylion gan fod pynciau eraill i'w cwmpasu. Roedd y gwersi yn aml yn para dros 90 munud yn hytrach na 75 munud gan fod y plant mor frwdfrydig ac roeddem yn awyddus i gynnwys cynifer ohonynt â phosib yn yr elfen goginio ymarferol.
I gloi, cafodd y gwersi dderbyniad da ac roedd pob ysgol yn frwdfrydig iawn gyda nifer yn gofyn i ni ddychwelyd. Byddent yn ein hargymell yn fawr i ysgolion eraill a gofynnon nhw a allen ni ddychwelyd ac ailadrodd y gwersi i grwpiau oedran eraill a chyflwyno categorïau bwyd eraill fel ffrwythau, llysiau, cynnyrch llaeth etc.
ALLBYNNAU ERAILL
1. Pecyn addysg wedi'i ddiweddarugweler atodiad 1,2 (Cymraeg) ac atodiad 3 (cynllun gwers ar-lein)
2. Cyflwyno gwersi 75 munud gan gynnwys gwneud seigiau blasu pysgod i bob ysgol gynradd sydd wedi'i nodi gan y prosiect.
3. 'Ffurflen gymeradwyo cyn cyflwyno' sydd wedi ei chynllunio a'i chwblhau gan rieni - gweler atodiad 4 a 5
4. Ffurflen 'holiadur am gyflwyniad yr hyfforddiant' - wedi ei chynllunio a'i chwblhau gan athrawon - gweler atodiad 6 a 7 (y Gymraeg)
CASGLIAD
Er bod amseru'r prosiect yn anffodus a bod nifer yr ysgolion wnaeth gymryd rhan yn is na'r gobaith oherwydd COVID-19, roedd yr ymateb gan bob ysgol yn hynod gadarnhaol gyda'r rhan fwyaf yn gofyn i ni ddychwelyd. Ymwelwyd â rhai ysgolion fwy nag unwaith, ac roeddem wedi gallu dysgu disgyblion eraill ym mlynyddoedd 5 a 6 mewn gwahanol flynyddoedd academaidd gan arwain at ymgysylltu â thros 3,200 o blant. Roedd rhai plant yn gyndyn o gyffwrdd, arogli a blasu'r bwyd môr i ddechrau ond erbyn diwedd y wers roeddent wedi mwynhau'r profiad a rhoi cynnig ar bysgod nad oeddent wedi'u bwyta o'r blaen. Roedd y rhan fwyaf yn awyddus i rannu'r ryseitiau a choginio'r seigiau gartref. Yn gyffredinol, roedd yn brosiect hynod lwyddiannus a gafodd ymateb da yr oedd pob plentyn wedi elwa ohono. Dywedodd llawer o'r plant wrthym eu bod yn meddwl bod y seigiau pysgod yn "flasus iawn" - yr anrhydedd mwyaf a faint roedden nhw'n edrych ymlaen at y sesiwn nesaf!
Cynllun Gwers
Pwnc: Pysgod Amdani
Agwedd: Gweithgareddau arweinir gan yr Athro gyda arddangosfa coginio rhyngweithiol..
Bwriad: I wella gwybodaeth pysgod fel bwyd.
Canlyniad: Dylid y disgybl fedru):
1 )Adnabod gwahanol rhywogaethau o bysgod.
2) Esbonio buddion iechyd pysgod.
3) Disgrifio’r gwahanol ffyrdd o goginio pysgod.
SS = Sgiliau Sylfaenol
C&A = Cwestiwn ac Ateb
Amser Dull (sut) Cynnwys (beth) Asesiad Adnoddau 10 mun Cyflwyniad gan yr Athro
Cyflwyniad: Cyflwyno eich hun ac esbonio pam I chi yma. Braslun o fwriad a chanlyniadau’r wers.
Y person cyntaf I godi braich I ateb y joc yn gywir fydd y gwirfoddolwr
cogydd cyntaf nes mlaen yn y wers….
Pam bod y pysgodyn wedi cochi?
Am ei fod yn Eog!
neu
Beth I chi’n galw pysgodyn sy’n ymddwyn yn amheus?
Fishy!
Ffurfiannol
Asesu
gwybodaeth
blaenorol
25 mun Gweithgaredd rhyngweithiol a arweinir gan yr Athro
C&A I asesu gwybodaeth presennol o bysgod fel bwyd
Fel dosbarth -sawl gwahanol fath o bysgod gallwch chi enwi? Sawl un o rhain I chi wedi bwyta? Sut oedden nhw’n blasu?
Esboniwch bod gwahanol rhywogaethau o bysgod ar gael a bod y pysgod sydd yma heddi o Fae Abertawe.
Codwch y pysgodyn cyntaf – dangoswch I’r dosbarth cyfan fel bod y disgyblion yn gallu gweld y marciau, esgyll (fins) a’r dannedd. Annog nhw I gyffwrth ac arolgu’r pysgodyn. Wrth neud hyn esboniwch o ble ddaw’r pysgodyn, ffeithiau diddordol am y pysgodyn a gofynnwch gwestiynau fel beth yw pwrpas yr esgyll ayyb.
Son am gynaldwyaeth – y pwysigrwydd o bysgota’n gyfrifol er mwyn gofalu am yr amgylchedd a natur a sicrhau pysgod I’r dyfodol. Defnyddio mecryll fel engraifft - y ffordd cynaladwy yw ei ddal gyda llinell neu mewn rhwydi ar hyd yr afordir.
Ffurfiannol Asesiad y disgyblion o’u gwybodaeth am bysgod a buddion iechyd pysgod
Amrywiaeth o bysgod ffres cyfan o Fae Abertawe. Diheintydd dwylo
Cranc a gorgimychiaid wedi’u coginio Bowlenni Offer plastic a rolyn papur glas
Ail adrodd gyda gweddill y pysgod. Pan yn dangos y cranc a’r gorgiymchiaid, rhowch gyfle iddynt flasu cranc wedi’i goginio a rhai gorgimychiaid.
Yn ystod hwn esboniwch fuddion iechyd pysgod gan gynnwys:
- Olew Omega (C: os rhywun wedi clywed amdano? Beth yw ei rhinweddau? Pam mae fe’n dda i ni?
- Fitamin B i greu gwaed, newid bwyd i egni
- Fitamin A ar gyfer croen a llygaid iach
- Fitamin D I helpu’r corff cael calsiwm o’r bwyd (dda I greu esgyrn)
- Protin I adeiladu cyhyrau
35 mun Arddangosfa Goginio
rhyngweithiol
Hefyd cyfeiriwch at iechyd a ffresni’r pysgodyn
Dylai’r llygaid fod yn llachar a chlir a’r pysgodyn yn aroglu o’r mor –hwn yn arwydd bod y pysgod yn ffres.
SS Cyfathrebu – Disgyblion I gyfathrebu’r atebion yn ystod y sesiwn rhyngweithiol C&A
SS Datrys problem – disgyblion i ddefnyddio eu gallu i ddatrys problemau trwy ddod o hyd i’r atebion cywir.
Pryd 3 – Darnau pysgod crensiog gyda dip pys a mintys a coesau ciwcymber
- Gofyn am 3 gwirfoddolwr + ennillydd y joc ar ddechrau’r wers. Pawb I olchi dwylo a gwisgo ffedog a menyg.
- Un disgybl I dorri’r ‘cornflakes’ yn fan a chymysgud gyda’r caws parmesan mewn desgl bas.
- Un arall i rhoi blawd mewn bowlen a’r trydydd I dorri wyau mewn bowlen a’u cymysgu.
- Torri’r pysgod I ddarnau bach a rhoi I’r disgybl cyntaf I roi yn y blawd wedyn pasio I’r ail I rhoi yn yr wy a’r trydydd I roi yn y briwsion caws.
- Ail adrodd y broses yma 4/5 gwaith. Disgyblion I dynnu’r ffedogau a dychwelyd I’w seddi.
- Athro I gogino’r pysgod a gweini gyda’r dip pys a coesau ciwcymber.
- Bydd y 4ydd disgybl wedi malu’r pys a chymysgu gyda’r mintys I greu’r dip
Pryd 4 – dip mecryll gyda choesau bara
Lleden neu bysgod gwyn arall
Blawd
Cornflakes
Wyau
Parmesan Pys
Mintys ffres neu saws mint
Halen a phupur
Coesau
Ciwcymber
Mecryll mwg
Hufen sur
Sibwns
Lemwn
Coesau bara
5 mun C&A ar lafar
arweiniwyd gan yr Athro
- Gofyn am 2 wirfoddolwr arall. Y ddau I olchi dwylo, gwisgo ffedog a menyg.
- Un disgbl I dorri’r sibwns a gwasgu sudd lemwn
- Disgybl arall I dynnu’r croen o’r mecryll mwg, roi mewn bowlen a’I falu’n fan.
- Ychwanegu hufen sur, y sibwns, sudd lemwn, halen a phupur a’I droi’n dda. Gweini hwn fel dip gyda coesau bara.
- Y dobsarth cyfan I flasu’r darnau pysgod gyda’r dip a choesau ciwcymber a’r dip mecryll gyda’r coesau bara.
SS Gweithio gydag eraill – Disgyblion I weithio fel grwp I greu’r rysait.
Suddwr Platiau
Hob Bowlenni Offer
Papur glas Ffedogau
Menyg
Masgiau gwyneb
Sebon llaw
Diheintydd a chwistrell gwrth facteria
Plenary/Asesiad llawn
C: Sawl pysgodyn I chi wedi gweld heddiw?
C: Gall unrhyw un enwi’r rhywogaethau I gyd?
C: Sawl un I chi wedi blasu?
C: Pa un oedd well gennych? Pam?
SS Cyfathrebu – Disgyblion I gyfathrebu eu atebion yn ystod C&A.
Ffurfiannol
Asesu os gall
y disgyblion gofio pob math o bysgod
Cynllun Gwers Rhithwir
Pwnc: Bwyd yw Pysgod
Ymagwedd: Gweithgareddau dan arweiniad yr athro gydag arddangosiad coginio rhyngweithiol.
Nod: gwella gwybodaeth am bysgod fel bwyd.
Canlyniadau (dylai'r myfyriwr allu):
1) Adnabod rhywogaethau gwahanol o bysgod.
2) Esbonio manteision iechyd pysgod.
3) Disgrifio gwahanol ffyrdd o goginio gyda physgod.
Paratoi cyn y wers
SA = Sgiliau Allweddol
C ac A = Cwestiwn ac
Ateb
Bydd y pysgod a'r bwyd môr canlynol yn cyrraedd ar ddiwrnod y wers o Swansea Fish. Bydd angen hambyrddau arnoch i arddangos y pysgod wrth eu dangos i'r disgyblion a rhywfaint o bapur cegin neu fenyg untro wrth drin y pysgod. Bydd hefyd angen rhai platiau neu hambyrddau i ddal y samplau.
1 cimwch cyfan wedi'i goginio
1 draenogyn môr cyfan
1 macrell cyfan
1 leden goch gyfan neu ledod eraill fel lleden fwyd
100g cregyn gleision neu gocos yn eu cregyn
200g corgimychiaid wedi'u coginio (at gyfer blasu)
200g cig cranc wedi'i goginio (ar gyfer blasu)
4 ffiled macrell mwg
Nodiadau i athrawon ar gyfer paratoi cyn y wers
1. Corgimychiaid i gael eu torri'n 2 neu'n 3 darn a'u rhoi ar ffyn coctel
2. Cig cranc i'w gymysgu a thua 1/2 llwy de neu lai wedi'i roi ar gracer bach neu sleisen o giwcymbr.
3. Cynhwysion y pâté - macrell mwg, crème fraiche, lemwn, pupur
Cyfarpar - 2 fwrdd torri, cyllell finiog a pheth gwasgu lemon, 2 fowlen, fforc neu stwnsiwr tatws i stwnsio'r macrell, llwyau i gymysgu a'i roi ar gracers, platiau neu hambyrddau i'w harddangos
Unwaith y bydd y pâté wedi'i gymysgu - rhowch 1/2 llwy de ar gracer
Efallai mai'r peth gorau yw cadw'r grŵp yn ddim mwy na 30 mewn nifer, felly pan ddewch chi i ddangos y pysgod, bydd y disgyblion yn cael cyfle i weld a chyffwrdd o leiaf ychydig o'r pysgod os nad y cyfan os yw pob athro dosbarth yn mynd ag un pysgodyn ar y tro i ddangos i bob dosbarth cyn cyfnewid!
Rhestr siopa
1 twb crème fraiche neu iogwrt naturiol
2 lemwn
pupur
120 cracyrs bach plaen
2 giwcymbr mawr (wedi ei sleisio'n 60 darn yr un ar gyfer tameidiau o gig cranc i’w blasu)
Ffyn coctel
Amser Dull (sut) Cynnwys (Beth) Asesiad Adnoddau
10 munud Cyflwyniad dan arweiniad athro
Cyflwyniad: Cyflwynwch eich hun ac esboniwch pam rydych chi yno. Amlinellwch nodau a chanlyniadau'r wers.
Bydd y person cyntaf i roi ei law i fyny ac ateb y jôc yn cael bod yn gogydd gwirfoddol cyntaf i ni yn nes ymlaen yn y wers... Pa fath o bysgodyn sydd i'w weld gyda'r hwyr? Seren fôr
Sesiwn holi ac ateb i asesu gwybodaeth gyfredol am bysgod fel bwyd
Faint o wahanol fathau o bysgod allwch chi eu henwi fel dosbarth? Faint o'r rhain wyt ti wedi eu bwyta? Sut flas oedden iddyn nhw?
Ffurfiannol
Asesu am wybodaeth flaenorol
25 munud Gweithgaredd rhyngweithiol dan arweiniad
athro
Os oes mwy nag un dosbarth yn bresennol - rhannwch yn grwpiau neu ddosbarthiadau o ddim mwy na 30 yr un.
Esboniwch fod yna wahanol rywogaethau (mathau) o bysgod a bod y pysgod sydd gyda chi heddiw wedi dod o Fae Abertawe.
Athro i ddewis y pysgodyn cyntaf; mynd ag ef o gwmpas y dosbarth er mwyn i'r plant gael gweld y marciau, yr esgyll a'r dannedd. Gofynnwch a ydyn nhw'n adnabod y pysgodyn - ydyn nhw'n gallu enwi pob pysgodyn? Anogwch nhw i gyffwrdd ac arogli'r pysgodyn. Wrth wneud hyn, esboniwch o ble mae'r pysgod, ffeithiau diddorol amdano, a holwch y plant h.y. Beth yw pwrpas yr esgyll/y cragennau? Y gwahaniaeth rhwng pysgod olewog a physgod gwyn?
Siarad am gynaliadwyedd – pwysigrwydd pysgota'n gyfrifol fel y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau pysgod ffres ac i ofalu am yr amgylchedd a natur. Er enghraifft a ddylid dal macrell drwy ffunen bysgota neu drwy bysgota arfordirol. Diwylliant cregyn gleision yn hongian o raff etc.
Ffurfiannol Asesu gwybodaeth
myfyrwyr am
bysgod a'r
manteision
iechyd
Athro i nodi enwau pysgod ar fwrdd
Amrywiaeth o bysgod cyfan ffres
Bae Abertawe
Hylif diheintio dwylo
Cranc/corgimychiaid wedi'i goginio
Cyfarpar plastig a rôl o bapur cegin glas
15 munud
Ailadroddwch gyda physgod eraill. Wrth ddangos y cranc a'r corgimychiaid, cynigiwch gyfle i'r myfyrwyr flasu ychydig o gig crancod/gorgimychiaid wedi'i goginio.
Yn ystod hyn, esboniwch fanteision iechyd bwyta pysgod gan gynnwys:
- Olewau Omega (C: Oes unrhyw un wedi clywed amdanynt? Ar gyfer beth mae'n dda?)
- Fitamin B ar gyfer gwneud gwaed, newid bwyd i egni
- Fitamin A ar gyfer llygaid iach a chroen
- Fitamin D i helpu eich corff i gael calsiwm o fwyd (yn dda ar gyfer esgyrn)
- Mae protein yn datblygu eich cyhyrau
Hefyd, dylech nodi'r canlynol: Dylai llygaid fod yn glir ac yn ddisglair i ddangos eu bod yn ffres ac y dylent arogli fel y môr.
Arddangosiad coginio rhyngweithiol.
Sylwer: Myfyrwyr i gyfleu eu hatebion yn ystod y sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol.
Sylwer: Myfyrwyr i ddefnyddio eu galluoedd datrys problemau i ddod o hyd i'r atebion cywir.
Saig 3 – Dip Macrell gyda dip ffyn bara
- Gofynnwch am 2 wirfoddolwr arall. Y ddau i olchi eu dwylo a gwisgo ffedog a menig.
- Un disgybl i dorri'r sibwns a gwasgu'r sudd lemwn
- y llall i dynnu croen y macrell mwg a stwnshio'r pysgod mewn powlen
- ychwanegu'r crème fraiche, y sudd lemwn, y pupur a'u cymysgu'n dda.
Macrell mwg
Crème fraiche
Lemon
Suddiwr
Platiau
Powlenni
Cyfarpar
Rôl o bapur cegin
glas
- Gofynnwch am 3 gwirfoddolwr arall i roi'r macrell ar gracers gan
ddefnyddio llwy.
Rhagor o wirfoddolwyr i weithredu fel gweinyddesau i ddosbarthu'r cracers
Ffedogau
Mygydau wyneb
Hylif diheintio dwylo
Hylif diheintio dwylo a chwistrellydd gwrthfacterol
Sylwer: Myfyrwyr i weithio fel grŵp i greu'r saig.
Crynodeb
Wrth i rai myfyrwyr wneud y pâté, yr athro i wirio gwybodaeth....
C: Ydych chi wedi coginio pysgod o'r blaen?
C: Oes gennych chi unrhyw syniadau eraill o beth i'w wneud gyda physgod?
C: Sawl pysgodyn ydych chi wedi ei weld heddiw?
C: A all unrhyw un enwi pob rhywogaeth?
C: Sawl un ydych chi wedi ei flasu?
C: Pa un oedd eich ffefryn? Pam?
5 munud Sesiwn holi ac ateb ar lafar dan arweiniad athro
Sylwer: Myfyrwyr i gyfleu eu hatebion yn ystod sesiwn holi ac ateb fer.
Ffurfiannol
Asesu a all myfyrwyr gofio rhywogaethau
Athro i nodi atebion ar y bwrdd
PYSGOD AMDANI - FFUFLEN CANIATÂD
Annwyl Riant/Gofalydd
Rydym yn dysgu am bysgod a bwyta’n iach. Fel rhan o’n gwaith, rydym yn cynllunio i’r plant flasu gwahanol bysgod a gwneud pryd o fwyd pysgod.
A wnewch chi lanw’r ffurflen isod a’i ddychwelyd i’r ysgol erbyn --------------------------------
Dymuniadau gorau
(Athro/Athrawes dosbarth)
FY MHLENTYN:________ _______________________________________
DIM
Alergeddau/anoddefiad bwyd neu resymau crefyddol/diwylliannol dros beidio a bwyta bwyd neilltuol
Or MAE
Alergeddau/anoddefiad bwyd neu resymau crefyddol/diwylliannol dros beidio a bwyta bwyd neilltuol.
Ni ddylai fy mhlentyn drafod na bwyta’r bwydydd canlynol:__________________________________
Os oes gan eich plentyn alergedd difrifol i unrhyw fwyd, siaradwch gyda’i athro/athrawes ddosbarth
Rwy’n rhoi caniatad i fy mhlentyn wisgo plaster neu fenig plastig i ymuno yn y sesiwn fwyd os oes ganddyn nhw doriad neud gyflwr croen ar eu dwylo ar ddiwrnod y sesiwn fwyd.
Rwy’n rhoi fy nghaniatâd i luniau neu fideos o fy mhlentyn i gael eu tynnu ar gyfer hyrwyddo.
Enw rhiant/gofalydd
Arwyddo:________________________________ Dyddiad __ ___________________
PYSGOD AMDANI - FFURFLEN WERTHUSO
I’w gwblhau gan athro/athrawes sy’n bresennol.
Enw’r ysgol: ………………...........
Enw’r athro/athrawes: ………………………………………………………………………
Dyddiad y wers: ..........................................................................................................
Beth oeddech chi’n hoffi am y wers?
Oedd yna unrhywbeth nad oeddech chi’n ei hoffi? Os hynny sut gellir gwella’r wers?
Oes unrhywbeth arall yr hoffech ei weld?
Unrhyw sylwadau eraill?
Diolch yn fawr am eich adborth.