21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:10
Page 1
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:10
Page 2
Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Mai – Awst 2009 Croeso i'n rhaglen lawn ar gyfer yr Haf. Mae gennym yr holl ddigwyddiadau arferol a bydd Theatr Amser Cinio yn dychwelyd. Bydd hefyd cyfres o ddigwyddiadau 'Cinio a Chelf' a 'Sain a Chynddaredd' a gynhelir amser cinio bob dydd Gwener sy'n cynnwys geiriau a cherddoriaeth, a llawer o ddigwyddiadau cyffrous, unigryw. Welwn ni chi yno! Os ydych am dderbyn ein e-byst i'ch hysbysu neu'ch atgoffa am y digwyddiadau diweddaraf, e-bostiwch jo.furber@swansea.gov.uk Sylwer hefyd bod digwyddiadau'n cael eu cynnal o bryd i'w gilydd nad ydynt yn ein rhaglen argraffedig. Y ffordd orau o gael eich hysbysu am y rhain yw bod ar ein rhestr e-bostio ac edrych ar ein gwefan – www.dylanthomas.com Nos Wener 1 Mai 7.30pm
Darlleniad gan Dr. Kynpham Sing Nongkynrih
Dr. Kynpham
Bu Kynpham, un o brif feirdd yr India, yn Abertawe ym 1995 pan oedd ar daith gyda beirdd o ranbarth Khasi a drefnwyd gan Nigel Jenkins, ar gyfer Blwyddyn Lenyddiaeth y DU. Enillodd llyfr teithio Nigel sef Khasia in Gwalia Lyfr y Flwyddyn yng Nghymru ym 1996, a bydd yntau’n cyflwyno Kynpham sy’n fardd, yn awdur storïau ac yn gyfieithydd, sy’n ysgrifennu yn yr iaith Khasi ac yn Saesneg ac y mae ei waith wedi’i gyhoeddi a’i gyfieithu’n helaeth. Tocynnau: Pris Llawn £3.00 Consesiynau £2.10 PTL Abertawe £1.20
Dydd Sadwrn 2 Mai 1pm
Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - Brief Encounter gan Noel Coward Cyfle prin i weld addasiad llwyfan gan Adrian Metcalfe o ddarn Coward, a wnaed yn enwog wrth gwrs gan y fersiwn ffilm gyda Leslie Howard a Celia Johnson. Mae’r cynhyrchiad hwn sef cynhyrchiad Tour de Force mewn cydweithrediad â Theatr of the Dales, yn paru Adrian a Sonia Beck unwaith eto, a hwythau newydd orffen perfformio fel Arglwydd ac Arglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad diweddaraf Fluellen! Cyfarwyddir y cynhyrchiad gan David Robertson ac mae’n cynnwys cerddoriaeth Rachmaninoff a berfformir gan Rob Marshall, a fu hefyd yn ymddangos gydag Adrian yn y cynhyrchiad diweddar o Warmley sy’n seiliedig ar fywyd Daniel Jones. Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4
2
Mai - Awst 2009
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:10
Page 3
Nos Iau 7 Mai 7.00pm
Lansio Llyfr Gower in History: Myth, People, Landscape gan Paul Ferris Mae pobl a digwyddiadau’n goleuo’r gorffennol yn llyfr newydd Paul Ferris ‘Gower in History: Myth, People, Landscape’, sy’n amrywio o’r Foneddiges Goch a’r Dyn Crog i arbrawf rhyfela bacterol ar y traeth. Yn briodol iawn i fywgraffydd Dylan a Caitlin Thomas, mae hyd yn oed yn cynnwys rhywfaint am Dylan Thomas. MYNEDIAD A GWIN AM DDIM Dydd Gwener 8 Mai 1pm
Celf i Ginio Y cyntaf mewn cyfres fisol newydd o sgyrsiau byr ar amrywiaeth eang o bynciau celf y gallwch eu ffitio yn eich awr ginio, gan ddechrau gyda: CELFYDDYDAU FWDW HAITAIDD gan Phil Cope. Mae Phil sy’n awdur, ffotograffydd ac yn ymgyrchydd diwylliannol hefyd yn gadeirydd Cronfa Haiti. Dewch i weld, trafod a chlywed am y defnydd o ddoliau fwdw, piet tonneres cyn-Golombiaidd (cerrig taranau), cerfluniau crefyddol, baneri gleiniog, cerddi a storïau mewn seremonïau fwdw. Tocynnau: £5.00 YN UNIG GAN GYNNWYS cawl a brechdan o’n Caffi/Siop Lyfrau! Nos Wener 8 Mai 7.30pm
Dathliad mewn barddoniaeth a cherddoriaeth o fywyd Letitia Anne Rhys Dathliad mewn barddoniaeth a cherddoriaeth o fywyd Letitia Anne Rhys, bardd ac awdur o Abertawe (1937-2008). Bydd siaradwyr a darllenwyr yn cynnwys llawer o ffrindiau a chydweithwyr Letitia gan gynnwys Stuart Jones, Ceri Thomas a’r cyfieithydd, Annest Wiliam. Mynediad am ddim, gwydraid o win a thameidiau
Letitia Anne Rhys
Nos Fercher 13 Mai
On the Edge wedi’i gyflwyno gan Mike Kelligan - Look Who’s Talking Now! Mae gwaith newydd a gwaith sydd eisoes yn bodoli gan ddramodwyr o Gymru yn parhau gyda ‘A Pair of Cardiff Pants!’, dwy ddrama gan yr arlunydd, y cyfansoddwr a’r dramodydd arobryn o Ferthyr, Alan Osborne. Alan Osborne
Tocynnau: £3-00
Rhaglen Lenyddiaeth
3
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:10
Page 4
Nos Iau 14 Mai 7.00pm
Lansio Llyfr: Chimera Antholeg o waith ysgrifennu myfyrwyr MA Coleg y Drindod Caerfyrddin Chimera - anghenfil deuben neu sarff danllyd? Asiad genetig neu freuddwyd na ellir ei gwireddu? Gair sy’n ddiriaethol neu’n nefolaidd? Chimera - gair sy’n golygu un peth neu bopeth? Dyma’r syniad y mae awdur y storïau byrion a’r cerddi hyn yn ceisio’i archwilio yn yr antholeg hon. Mae Chimera yn mynd â’r darllenydd ar daith drwy amser, gofod, ffantasi a realiti ar archwiliad sy’n cynnwys pob agwedd ar chimera, yn ddychmygol ac yn real, ym meddyliau ei awduron. Yn gasgliad o ddarnau gan awduron o bob oed a sawl cenedl ond un rhyw yn unig, mae Chimera yn defnyddio ac yn darlunio profiadau helaeth ac amrywiol ei awduron benywaidd ac yn creu sawl persbectif newydd i destun hynod ddiddorol. Mynediad a gwin am ddim Nos Wener 15 Mai 7pm
Sain a Chynddaredd! Cyfres newydd achlysurol o ddigwyddiadau, yn cyfuno geiriau a cherddoriaeth a ffurfiau eraill o gelf: Stuff Happens! Cyflwynir gan Graham Isaac Barddoniaeth, cerddoriaeth a chelf-fideo o Abertawe a thu hwnt. Noson danllyd yn cynnwys y farddoniaeth orau o bob cwr - o’r twr ifori i lefel y stryd, darllenwyr sy’n adnabyddus yn ‘the Crunch’ Junkbox, Canolfan Dylan Thomas, Framework Social, Prifysgol Abertawe a llawer o fannau eraill. Yn cynnwys perfformiadau cryno gan Graham Isaac, Peter Read, Simone-Mansell Broome, John Goodby, Adele Guemar, David Woolley, Al Kellermann, Nigel Jenkins ac eraill. Yn dod â holl feirdd a cherddi Abertawe ynghyd, gyda stondinau llyfrau, cerddoriaeth a fideo. Cefnogir gan Ganolfan Dylan Thomas a phrosiect System Farddoniaeth Fyd-eang Llyfrgell Farddoniaeth Canolfan y South Bank. Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM A HOLL GWRW POTEL BRAINS YN £2.00!! Nos Fercher 20 Mai 7.30pm
Sain a Chynddaredd! Cyfres newydd achlysurol o ddigwyddiadau, yn cyfuno geiriau a cherddoriaeth a ffurfiau eraill o gelf: Sea Holly (Llyfrau Seren), nofel gan Robert Minhinnick restr fer Gwobr Ondaatje Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth 2008. Heno, rydym yn cyflwyno triniaeth amlgyfrwng o Sea Holly, gyda ffilm, delweddau, cerddoriaeth fyw, darlleniadau a chorws. Os ydych yn mwynhau ffeiriau hwyl, twyni tywod, gamblo, alcohol, ac yn anad dim, dirgelwch, mae hwn ar eich cyfer chi. Cydweithrediad rhwng Llyfrau Seren, Cymru Gynaliadwy a’r Cyngor Llyfrau Cymraeg, mewn cydweithrediad â Chanolfan Dylan Thomas. Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60
4
Robert Minhinnick
Mai - Awst 2009
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:11
Page 5
Nos Iau 21 Mai 7.30pm
Poets in the Bookshop – gyda Martin Daws ‘Barddoniaeth beat y don newydd â naws gerddorol sy’n creu rhuban rhythmig o rethreg gyseiniol’(Adolygiad o w ˆ yl Fringe Caeredin 2008). Ysbrydolwyd Martin Daws o Ogledd Cymru i ysgrifennu barddoniaeth gan gerddi slam Efrog Newydd a welwyd yn y 1990au, ac roedd yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr John Trip am Farddoniaeth Ddarllenedig yn 2008, pan oedd Peter Read o Abertawe yn fuddugol. Sesiwn meic agored arferol hefyd. Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60
Martin Daws
Nos Wener 22 Mai 7.30pm
I Like that Stuff! – Digwyddiad Dathlu ar gyfer Adrian Mitchell
Adrian Mitchell
Noson o farddoniaeth a cherddoriaeth i ddathlu bywyd un o berfformwyr barddoniaeth gorau a mwyaf ysbrydoledig Prydain a chyfaill mawr i Abertawe, y bardd a’r dramodydd, Adrian Mitchell, a fu farw yn gynharach eleni. Bydd llu o’i ffrindiau o Abertawe yn cymryd rhan, gan gynnwys Nigel Jenkins a David Woolley, a gobeithio, gweddw Adrian sef Celia. Gyda cherddoriaeth gan Brian Breeze a ffrindiau. MYNEDIAD A GWIN AM DDIM
Dydd Sadwrn 23 Mai 1pm
Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn John Tripp’s Tragic Cabaret wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Peter Read Yn enwog am ei bortreadau o Dylan Thomas, mae Peter Read o Abertawe nawr yn mynd i’r afael ag un o feirdd eraill lliwgar Cymru. Roedd John Tripp yn rhan o’r genhedlaeth ymrysongar o feirdd o Gymru a oedd yn ysgrifennu yn Saesneg yn y 1960au, ac, yn debyg i Dylan Thomas, roedd yn rhyw fath o gymeriad dwys-ddigrif, a oedd yn tueddu i gael ei hun mewn helbul yn aml. Comisiynwyd y sioe un dyn hon gan Academi a chafwyd y perfformiad cyntaf yng Nghaerdydd yn gynharach eleni. Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4 Nod Fercher 27 Mai 7.30pm
Caffi Gwyddoniaeth Datblygiad Effaith Isel: Ymatebion Effaith Uchel i Newid yn yr Hinsawdd a Chynaladwyedd gan Dr. Larch Maxey Mynediad Am Ddim 1 – 6 Mehefin
Gŵyl Ffilmiau Bae Abertawe Gwledd o ffilmiau blynyddol Abertawe, rhai hir a byr o bob cwr o’r byd. Am fanylion llawn ewch i www.swanseafilmfestival.com
Rhaglen Lenyddiaeth
5
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:11
Page 6
Dydd Mawrth 9 Mehefin
Enillwyr Gwobr Dylan Thomas Rachel Trezise a Nam Le Ar ôl dwy wobr lwyddiannus gwerth £60,000 yn 2006 a 2008 rydym yn croesawu’r ddau enillydd - y ddau yn awduron storïau byrion - sef Rachel Tresize o’r Rhondda Rachel Trezise Nam Le a enillodd gyda Fresh Apples, a Nam Le a anwyd yn Fietnam a enillodd y llynedd gyda The Boat. Mae’r ddau wedi mynd o nerth i nerth ers ennill, ac mae Rachel ar fin cyhoeddi ei llyfr newydd gyda Harper Collins. Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60 Mark Ryan
Dydd Mercher 10 Mehefin
On the Edge - wedi’i gyflwyno gan Michael Kelligan - Look Who’s Talking Now! Mae gwaith newydd a gwaith sy’n bodoli eisoes gan ddramodwyr o Gymru yn parhau gyda ‘The Strange Case of Dr.Jekyll & Mr.Hyde’ fel yr adroddwyd i Carl Jung gan un o garcharorion Gwallgofdy Broadmoor gan Mark Ryan. Tocynnau: £3-00
Nos Iau 11 Mehefin 7.30pm
Chris Kinsey
Cerddi Gweld a Hedfan – Chris Kinsey Mewn cydweithrediad ag Achub Milgwn Cymru (GRW) ac Ysbyty Adar Gw ˆyr. Bydd Chris Kinsey, Bardd Bywyd Gwyllt BBC y Flwyddyn 2008, yn cyflwyno casgliad o ‘gerddi cw ˆn ac adar’ o’i chasgliadau Kung Fu Lullabies a Houndlove. Rhoddir yr holl elw i GRW ac Ysbyty Adar Gw ˆyr. Tocynnau: Pris Llawn £5.00 Consesiynau £4-00 Dydd Gwener 12 Mehefin 1pm
Celf i Ginio - Rhai Artistiaid Naratif o Gymru – Keith Bayliss Sgwrs ddarluniadol anffurfiol gan yr artist o Abertawe, Keith Bayliss, sy’n archwilio gwaith artistiaid o Gymru y mae eu gwaith yn arddangos naratif barddonol personol, gan gynnwys Tony Goble, William Brown a Clive HicksJenkins. Tocynnau: £5.00 YN UNIG GAN GYNNWYS cawl a brechdan o’n Caffi/Siop Lyfrau!
6
Mai - Awst 2009
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:11
Page 7
Nos Wener 12 Mehefin 7.30pm
Sain a Chynddaredd! Ffynhonnau Sanctaidd: Cymru, Ar y Ffordd Phil Cope a Ffynnon Bydd yr awdur a’r ffotograffydd Phil Cope yn rhoi sgwrs ddarluniadol ac yn darllen cerddi sy’n cyd-fynd â’i lyfr o ddelweddau trawiadol o “Mae gan Ffynnon ffordd swynol a hudol o ddiweddaru caneuon traddodiadol... Ffynhonnau Sanctaidd Cymru. Yn mae’r hen ganeuon yn cadw eu hurddas.” gwmni iddo bydd y band Cymreig The New York Times, 2003 mawr eu clod, Ffynnon, a fydd “Cerddoriaeth werin Geltaidd goeth a gwefreiddiol wedi’i thrwytho mewn jazz ac hefyd yn perfformio set gyfan yn yn cyfuno’r traddodiadol a’r arloesol.” ystod ail hanner y noson. BBC Radio 2. Tocynnau: Pris Llawn £9.00 Consesiynau £7.00 Nos Fawrth 16 Mehefin 7.30pm
Rough Diamonds 09 #1 Am newid eich pryd a gwedd? Eich ffordd o fyw? Eich golwg ar y byd cyfan? Dewch i Rough Diamonds 09, arddangosfa ar gyfer dramâu newydd gan ddarpar ddramodwyr Prifysgol Abertawe! Mae’r rhaglen hon dros ddwy noson yn cynnwys dramâu sy’n edrych ar fywyd o safbwynt pâr o Jacs uchelgeisiol Abertawe sydd am agor bar gwin a chelf, meddyg ifanc sy’n mynd ar goll ac yn cael ei hunan yn Fiji a stiward y terasau pêl-droed sydd wedi syrffedu ar ei waith ac sydd am gyrraedd adref heb gael ei ddyrnu. Dyma’r drydedd flwyddyn y mae rhaglen Greadigol a Chyfryngau Prifysgol Abertawe wedi ymuno â Chanolfan Dylan Thomas i gyflwyno detholiadau o waith myfyrwyr MA sy’n graddio. Cymeradwywyd y ddau ddiwethaf gan gynulleidfaoedd ac mae rhai o’r dramâu sydd wedi ymddangos wedi mynd ymlaen i gael cynyrchiadau proffesiynol hyd llawn. Perfformir y darnau wrth ddal y sgript gan aelodau o Gwmni Theatr Fluellen, Abertawe, ac fe’u cyfarwyddir gan y dramodydd D.J. Britton, darlithydd mewn ysgrifennu dramatig ym Mhrifysgol Abertawe. Ymhlith awduron eleni mae Jude Brazier, Rebacca Carrington, Sarah Elliot, Catrin Howell, Louise Hinchen, Angela Hughes, Glynis Judge, Vanessa Macdonald, Andrew Miles, Matt Williams, Rachel Williams, a Casey Westlake, a rhai gwesteion annisgwyl. Tocynnau: £3 (Consesiwn myfyrwyr £2) Nos Wener 19 Mehefin 7.00pm
Seventh Quarry a Darllen Barddoniaeth Gydag August Bover o Gatalonia a Kristine Doll o UDA. Y diweddaraf mewn cyfres o ddarlleniadau a gyflwynir gan gylchgrawn The Seventh Quarry, mewn cydweithrediad â Cross-Cultural Communications, Efrog Newydd, gan ei olygydd, y bardd o Abertawe, Peter Thabbit Jones. Gyda cherddoriaeth gan y canwr-cyfansoddwr Terry Clarke.
August Bover
Kristine Doll
Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM
Rhaglen Lenyddiaeth
7
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:11
Page 8
Dydd Sadwrn 20 Mehefin 1pm
Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - The Vice gan Luigi Pirandello Drama gyntaf Pirandello. Darn hynod ddiddorol lle mae dyn yn wynebu’i wraig wedi iddo ddarganfod ei bod yn caru ar y slei gyda’i gyfreithiwr. Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4 Nos Fawrth 23 Mehefin 7.30pm
Lansio Nu: Fiction and Stuff Mae dau amcan i’r fenter newydd Parthaidd hon, Nu: Fiction and Stuff. I ddechrau, mae Nu yn ceisio rhoi llwyfan i awduron ifanc o genhedlaeth newydd i arddangos eu talent mewn cyhoeddiad o safon, a’r nod o gyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib. Yn ail, mae Nu yn ceisio ysbrydoli a chymell darpar awduron i ddilyn eu syniadau a’u huchelgais. Bydd cenhedlaeth newydd o awduron yn creu cenhedlaeth o waith ysgrifennu newydd, a’r gobaith yw y bydd Nu yn darparu ysgogiad pwysig i’r broses honno o greu. Ymhlith y cyfranwyr mae’r awduron o Abertawe, Allan Kellermann, Susie Wild a Rebecca John, yn ogystal â thraethawd ffoto gan Jonathan Morris, y mae ei arddangosfa Sgwâr y Castell i’w weld yn Oriel y Coridor yng Nghanolfan Dylan Thomas ar hyn o bryd. MYNEDIAD A GWIN AM DDIM Nos Iau 25 Mehefin 7.30pm
Poets in the Bookshop – gydag Ivy Alvarez Ganwyd y bardd gwadd, Ivy Alvarez, yn Ynysoedd y Philipines, ei magu yn Tasmania ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi a’i berfformio’n helaeth, bu’n artist preswyl sawl gwaith ac mae wedi ennill amrywiaeth o wobrau. Ei chasgliad llawn diweddaraf yw Mortal (Gwasg Red Mortal). Sesiwn meic agored arferol hefyd. Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60
Ivy Alvarez
Dydd Sadwrn 27 Mehefin 1pm
Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - The Duck Variations gan David Mamet Comedi gwych gan yr awdur o America, David Mamet, lle mae dau ddyn oedrannus yn trafod hwyaid, y gyfraith, cyfeillgarwch a marwolaeth Tocynnau: Full Price £5 Concessions £4 Nos Fawrth 30 Mehefin 7.30pm
Rough Diamonds 09 #1 Gweler tudalen 7 am fanylion Tocynnau: £3 (Consesiwn i fyfyrwyr £2)
8
Mai - Awst 2009
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:11
Page 9
Nos Iau 2 Gorffennaf 7.30pm
Sain a Chynddaredd! Gwledd o farddoniaeth a cherddoriaeth gyda beirdd o Gymru, Samantha Wynne Rhydderch – (ei chasgliad mwyaf diweddar yw ‘Not in These Shoes’ (Picador); Damian Walford Davies – (daeth Suit of Lights o Seren yn 2009), a Tiffany Atkinson –(ei chasgliad diweddaraf yw Kink and Particle (Seren). Gyda cherddoriaeth gan Dylan Fowler - mae Dylan yn gitarydd a chyfansoddwr clodfawr sydd wedi cydweithio gyda Richard a Danny Thompson, yn ogystal â cherddorion o Dwrci, y Ffindir a dwyrain Ewrop – “cerddoriaeth â chalon ac enaid...penderfyniad i anwybyddu ffiniau cydnabyddedig” (BBC) Cynhyrchiad ar y cyd â Cegin Productions
Samantha Wynne Rhyderch
Damian Walford Davies
Tiffany Atkinson
Dylan Fowler
Tickets: Pris Llawn £5.00 Consesiynau £3.50 PTL Abertawe £2.00 Dydd Gwener 10 Gorffennaf 1pm
Celf i Ginio - Cyfarwyddo Shakespeare gan Peter Richards Mae Peter Richards, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Fluellen wedi bod yn gyfarwyddwr theatr am dri deg saith o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi caffael cryn wybodaeth ymarferol ynghylch bywyd a dramâu Shakespeare wrth gyfarwyddo cynyrchiadau ledled Ewrop. Bydd yn trafod heriau cyfieithu testun Shakespearaidd i’r llwyfan a sut mae ein hagweddau at ei ddramâu wedi newid dros y blynyddoedd. Tocynnau: £5.00 YN UNIG GAN GYNNWYS cawl a brechdan o’n Caffi/Siop Lyfrau! Dydd Iau 16 Gorffennaf
Poets in the Bookshop – gyda Cynthia Kraman Y bardd gwadd y mis hwn yw’r bardd o Efrog Newydd, Cynthia Kraman, - canoloeswr a chanddi ddoethuriaeth o Brifysgol Llundain a chyn bync-rociwr gyda’r band o Seattle Chinas Comidas! Ei chyfrol ddiweddaraf o gerddi yw The Touch gan Lyfrau Bowery – “Llyfr rhagorol, anghyffredin, ysgytiol, diysgog, cyfareddol, doniol iawn, wedi’i llunio’n berffaith.”(Bob Holman). Sesiwn meic agored arferol hefyd. Tickets: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60
Rhaglen Lenyddiaeth
9
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:11
Page 10
Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf 1pm
Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - Warmley gydag Adrian Metcalfe a Rob Marshall Cyfle arall i weld portread cynnes a theimladwy o gyfaill mawr Dylan Thomas pan oedd yn blentyn, y cyfansoddwr o Abertawe, Daniel Jones. Mae Jones yn hel atgofion yn ddiweddarach yn ei fywyd am y dyddiau cynnar, sefydlu'r ‘Warmley Broadcasting Corporation’, llwyddiant Dylan, a thristwch ei farwolaeth gynnar yn y pen draw. Gyda'r pianydd o Abertawe, Rob, yn chwarae'r gwaith gwreiddiol gan Jones. Tocynnau: Pris Llawn £5 Consesiynau £4 Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf 1pm
Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - John Tripp’s Tragic Cabaret wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Peter Read Am fanylion gweler 23 Mai uchod. Tocynnau: Pris Llawn £5 Consesiynau £4 Dydd Sadwrn 8 Awst 1pm
Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - A Beast, an An Angel and a Madman wedi’i gyflwyno gan Gwmni Theatr Fluellen Mae taith wib boblogaidd Fluellen am fywyd a gwaith Dylan Thomas yn dychwelyd, sy'n cynnwys geiriau Dylan a'r rhai a oedd yn ei adnabod, gyda cherddoriaeth fyw gan y delynores Delyth Jenkins. Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4 Dydd Sadwrn 1 a Dydd Sadwrn 8 Awst 1pm
Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - Dylan Thomas yn America yn cynnwys Peter Read Ar ôl dros 100 o berfformiadau, mae Peter Read yn dychwelyd unwaith eto gyda’i bortread anghyffredin, doniol iawn a theimladwy o ddirywiad araf Dylan drwy gyfres o deithiau i UDA. Wedi ei addasu gan Gwynne Edwards o eiriau gwych Dylan ei hun, mae’r sioe hon wedi cael adolygiadau 5 seren yng Ngw ˆ yl Caeredin, ac wedi ymddangos yn Llundain ac Efrog Newydd.
Peter Read
Tocynnau: Pris Llawn £5 Consesiynau £4 Dydd Sadwrn 22 Awst 1pm
One State of Happiness: Dylan Thomas and Laugharne wedi’i gyflwyno gan Gwmni Theatr Fluellen Mae 2009 yn nodi chwe deg mlynedd ers i Dylan Thomas symud i’r Tyˆ Cychod yn Nhalacharn. Mae ‘One State of Happiness’ yn daith drwy flynyddoedd olaf ei fywyd yn Nhalacharn yng ngeiriau Dylan, ei ffrindiau a’i deulu. Daw’r teitl o lythyr a ysgrifennwyd gan Dylan i’w gymwynaswraig a pherchennog y Tyˆ Cychod, Margaret Taylor, lle mae’n disgrifio Talacharn fel a ganlyn - “the pubbed and churched, shopped, gulled, and estuaried one state of happiness”. Tocynnau: Pris Llawn £5 Consesiynau £4
10
Mai - Awst 2009
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:11
Page 11
Digwyddiadau eraill, Cyrsiau, Gweithdai etc... Cynhelir digwyddiadau rheolaidd drwy gydol mis Mai a mis Mehefin yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe, gan gynnwys bardd gwadd misol /sesiwn meic agored ar ail ddydd Iau y mis a Diwrnod Llenyddiaeth ar 31 Mai sy’n cynnwys Robert Minhinnick, Lynne Barrett-Lee ac eraill. Am fanylion llawn ffoniwch ganolfan Celfyddydau Pontardawe 01792 863722 nue t.evans2@neath-porttalbot.gov.uk Mae tymor llawn o ddigwyddiadau bob nos Lun o fis Mai i fis Medi yn Nhyˆ Cychod Dylan Thomas yn Nhalacharn i ddathlu 60 mlynedd ers i Dylan a Caitlin Thomas symud i’r Tyˆ Cychod. Mae’r rhain yn cynnwys Aeronwy Thomas, y Fonesig Joan Bakewell, Dic Jones, Gillian Clarke a Catrin Dafydd. Am fanylion llawn ffoniwch 01994 232726 neu boathouse@carmarthenshire.gov.uk neu ewch i www.dylanthomasboathouse.com
Digwyddiadau yn Aberteifi – Word Up! Yng nghaffi’r Castell yn Aberteifi bob dydd Iau cyntaf y mis, gyda bardd gwadd a meic agored. E-bostiwch simone@simonemb.com neu ffoniwch 01559 370517. Hefyd cynhelir gweithdai a chyrsiau yng Nghanolfan Ceridwen – gweler www.ceridwencentre.co.uk Nos Wener 8 Mai 6.30pm
Prifysgol Gogledd Carolina, Wilmington, UDA yn cyflwyno Dylan Thomas Bydd myfyrwyr o’r Brifysgol sydd wedi bod yn rhan o raglen gyfnewid ag Abertawe yn cyflwyno perfformiad o gerddi, storïau byrion, llythyrau cariad a detholiadau o ddramâu gan Dylan sydd wedi eu hysbrydoli yn ystod eu cyfnod yn Abertawe. Bydd eu perfformiad yn canolbwyntio ar berseinedd ysgrifennu Dylan. MYNEDIAD AM DDIM Dydd Sadwrn Mai 9 - 10am tan 4pm – Canolfan Dylan Thomas Abertawe
Diwrnod Perfformwyr - ar gyfer beirdd, cantorion, actorion ac athrawon. Bydd y bardd, y gantores opera a’r athrawes llais, Rona Campbell, yn cynnig diwrnod i ‘anadlu bywyd i’ch perfformiad’ gydag ymarferion anadlu a thaflu’r llais, a bydd yn cynnwys iechyd, osgo, cyflwyno a dysgu heb boen! Tocynnau: £30 - I gadw lle neu am fwy o fanylion ffoniwch Rona ar 01978 312790, 07758 617660 neu ronacampbell@talktalk.net 28 - 30 Mai Oriel Gelf Gyfoes, Capel Salem, Banc Bell, y Gelli
Jamborî Barddoniaeth y Gelli Gwledd wahanol o farddoniaeth 'arbrofol' sy'n ymwneud â'r brif w ˆ yl, yn cynnwys John James, Wendy Mulford, Peter Finch, Zoe Skoulding, John Goodby, David Greenslade ac eraill. Am fanylion llawn, e-bostiwch goodbard@yahoo.co.uk Dydd Sadwrn/Dydd Sul 6 a 7 Mehefin - Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
Ysgrifennu Barddoniaeth ar gyfer llyfrau a’r llwyfan gyda Peter Read a Rona Campbell Mae’r awdur a’r actor Peter Read wedi ennill Gwobr John Tripp ar gyfer Barddoniaeth Lafar ac mae saith o’i ddramâu wedi eu perfformio’n broffesiynol ac mae wedi cyhoeddi dau gasgliad o gerddi. Mae gwaith y bardd Rona Campbell wedi ei ganmol gan Ted Hughes a’i berfformio gan Placido Domingo. Mae hefyd yn gantores opera broffesiynol ac mae’n cynnal dosbarthiadau ar ddefnyddio’r llais. Tocynnau: £60 - I gadw lle neu am fwy o fanylion, ffoniwch Peter ar 07931 614180
Rhaglen Lenyddiaeth
11
21643-09 Dylan Programme W:Layout 1
22/4/09
10:11
Page 12
YD
Arddangosfeydd yn Oriel y Coridor, Canolfan Dylan Thomas... 6 Mai – 7 Mehefin
Cymundeb Lluniadau cyfrwng cymysg ar
IWE
DDA
Broo Th Dydd m MYN e yn laomas B Merch EDIA nsio ydd er 3 D AM ei ch y bar Mehe DDIM asglia dd o A fin 7p A LL d new berte m Can if UNI AETHydd ‘Jui i, Simoolfan Dy www ce of t ne Man lan .sim he Le sell one mon mb. com’.
RAF
bapur gan Penny Hallas 9 Mehefin - 5 Gorffennaf
Sgwâr y Castell Ffotograffau gan Jonathan Morris Nu gan Parthian - antholeg o waith ysgrifennu newydd o Gymru a lansiwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas ar 23 Mehefin. Meddai Jonathan, “Rwyf wedi tynnu lluniau nid yn unig o lanciau yn Sgwâr y Castell Abertawe, ond rwyf hefyd wedi tynnu lluniau mwy personol, mwy ystyriol wrth ymweld â’u cartrefi. Mae wedi bod yn un o’m nodau hefyd i ddangos i’r cyhoedd ochr arall, mwy personol y llanciau sy’n defnyddio Sgwâr y Castell, gan fod gogwydd negyddol bob amser i’r hyn y mae llanciau’n eu gwneud yng nghanol y ddinas. Fy nod cyffredinol yw bod yn feirniadol ond yn gadarnhaol wrth eu cynrychioli.” 7 Gorffennaf - 2 Awst
The Holy Wells of Cornwall taith ffotograffig gan Phil Cope. 4 Awst - 6 Medi
John Uzzell Edwards – Paentiadau Newydd Mae’r sioe un dyn hon yn arddangosfa o’r paentiadau diweddaraf yng ‘Nghyfres y Cwilt Cymreig’ gan John Uzzell Edwards sydd wedi’i arddangos yn helaeth. ‘Felly pam rwyf yn ymddiddori cymaint mewn cwiltiau a blancedi Cymreig? Fel bachgen a dreuliodd ei blentyndod yng Nghwm Rhymni, fe’m magwyd yn defnyddio’r rhain, ond dim ond yn ddiweddar y mae eu strwythur, amrywiaeth y defnyddiau a’r dewis o liwiau wedi fy rhyfeddu. Gwnaed cwiltiau yng Nghymru ers diwedd y 18fed ganrif. Roeddent yn cyflawni’r angen ymarferol am orchuddion gwelyau cynnes, ac roeddent yn ffurf gynnar o ailgylchu dillad a oedd wedi treulio a samplau teilwriaid. Roeddent hefyd yn enghraifft o wniadwaith gorau'r cyfnod. Ond i mi maent gymaint yn fwy na hyn - maent yn rhan o fynegiant artistig ein cyndeidiau, ac felly'n rhan bwysig o'n diwylliant Cymreig. 01792 463980 www.dylanthomas.com dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
www.dylan-thomas-books.com
Gwneir pob ymdrech i sichau bod y manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd. Photograffig: Ivy Alvarez – Rachel Duncan (Australia); 15 May – Zara Bird Wood; Adian Mitchell – David Sillitoe; Rachel Trezise – Huw John; Nam Le – Dylan Thomas Prize Ltd.
12
Mai - Awst 2009
21643-09 Designprint
Canolfan Dylan Thomas, Somerset Place, Abertawe SA1 1RR
!