Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

Page 1


Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Medi – December 2010 Mae rhaglen hydref Canolfan Dylan Thomas yn cynnwys enwau sefydlog ochr yn ochr â lleisiau cyffrous newydd, lle mae awduron dawnus megis Gillian Clarke, Carol Ann Duffy a Don Paterson yn cymysgu â doniau newydd fel Tyler Keevil, Will Gritten a Richard Jones. Bydd Siobhan Campbell, Carrie Etter, Ian Gregson, a Rhys Trimble, yn darllen eu gwaith am y tro cyntaf yng Nghanolfan Dylan Thomas, a bydd y flwyddyn yn gorffen, yn addas iawn, gyda dathliad o waith hudol Dylan Thomas, A Child’s Christmas in Wales. Estynnwn wahoddiad cynnes i chi ymuno â ni am y gyfres hon o ddigwyddiadau a fydd yn eich diddanu, eich addysgu a'ch ysbrydoli. Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth Dydd Sadwrn, 4 Medi, 1pm

Theatr Amser Cinio: Something Unspoken gan Tennessee Williams Mae Fluellen Theatre Company yn cyflwyno Something Unspoken gan Tennessee Williams. Mae Cornelia Scott am wireddu Tennessee uchelgais ei bywyd: i gael ei phenodi'n llywydd y mudiad Daughters Williams of the Confederacy. Ond yn yr oriau llawn tyndra cyn y cyhoeddiad, mae rhywbeth yn bygwth - rhywbeth cuddiedig. Tennessee Williams yw bardd gorau theatr America yn yr ugeinfed ganrif, a chyn y perfformiad sgript mewn llaw o'r ddrama hynod ddiddorol hon, bydd sgwrs am ei fywyd a'i waith. Tocynnau: £5 Gillian Clarke

Nos Fercher, 15 Medi, 7.30pm

Ar yr Ymyl: Talking to Wordsworth gan Gillian Clarke Bardd Cenedlaethol Cymru mawr ei chlod yw Gillian Clarke ac rydym yn falch o lwyfannu darlleniad wedi'i ymarfer o Talking to Wordsworth, a gaiff ei gyflwyno gan Gillian ei hun. Cyn hyn bydd Highjinx Theatre’s adfywio Wishful Thinking. Tocynnau: £4 Nos Wener, 17 Medi, 7pm

Bright Young Things Bydd doniau newydd y byd llenyddol Tyler Keevil, Will Gritten a Susie Wild yn darllen o'u Susie Wild Will Gritten Tyler Keevil casgliadau cyntaf a gyhoeddwyd gan Parthian Books, ac yn trafod eu gwaith â golygydd ffuglen Parthian, Lucy Llewellyn.  www.brightyoungthings.info Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Parthian Books

2

Medi - Rhagfyr 2010


Nos Iau, 23 Medi, 7pm

John Tripp: The Meaning of Apricot Sponge Detholiad o ysgrifau John Tripp (1927-1986) - bardd, awdur storïau byrion a newyddiadurwr - awdur di-flewyn-ar-dafod ac, yn aml, dadleuol yr oedd ei angerdd a'i fywiogrwydd yn lledaenu'n aml dros y tudalennau a ysgrifennai i'w fywyd go iawn. Mae'r teitl newydd hwn yn cynnwys traethawd gan Peter Finch, a'r golygydd yw Tony Curtis, Athro Barddoniaeth ym Mhrifysgol Morgannwg sydd hefyd yn darparu rhagair beirniadol. Bydd Tony Curtis, enillydd Gwobr John Tripp Mab Jones, a'r awdur o Abertawe ac arbenigwr ynglyˆn â Tripp, Nigel Jenkins, yn darllen o'r llyfr. Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Parthian Books Nos Sadwrn, 25 Medi, 7.30pm

Don Paterson Mae un o feirdd gorau Prydain yn darllen o'i waith ei hun. Mae barddoniaeth Don Paterson wedi ennill cryn dipyn o wobrau, gan gynnwys Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau, Gwobr Barddoniaeth Whitbread, Gwobr Goffa Geoffrey Faber a Gwobr T.S. Eliot ar ddau achlysur. Yn fwyaf diweddar, Don enillodd Rain Wobr Forward 2009. Mae'n un o Gymrodorion y Paterson Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth, a chafodd OBE yn 2008 a Medel Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010. Mae Paterson yn dysgu barddoniaeth ym Mhrifysgol St Andrews, ac ers 1996 mae'n olygydd barddoniaeth gyda Picador MacMillan. Tocynnau: Pris Llawn: £6.50 Consesiwn: £4.50 PTL: £2.60 Dydd Sul, 26 Medi, 11am – 1pm

Gweithdy Barddoniaeth gyda Don Paterson Bydd Don Paterson yn arwain gweithdy yn null seminar agored ac yn trafod pob agwedd ar grefft y bardd, gan astudio cyfansoddi barddoniaeth fel ymarfer technegol, ymarferol ac ysbrydol, a chanolbwyntio ar bob cam y broses, o ysbrydoli i gyhoeddi. Dewch â phin, papur a dau neu dri chwestiwn da. Tocynnau: £15. Ffoniwch y ganolfan ar  01792 463980 i gadw lle. Nos Fercher, 29 Medi, 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe'n rhoi cyfle i unrhyw un ddysgu mwy am feysydd newydd, cyffrous ac amserol ym myd gwyddoniaeth. Wedi'i ddylunio i fod yn anffurfiol ac yn ddifyr, cynhelir y caffi fel arfer ar nos Fercher olaf pob mis. Am fwy o wybodaeth, ewch i  www.sciencecafewales.org Tocynnau: Mynediad am ddim

Rhaglen Lenyddiaeth

3


Nos Iau, 30 Medi, 7.30pm:

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Siobhan Campbell Cafodd trydydd casgliad llawn Siobhan Campbell Cross-Talk (Seren, 2009), ei ddisgrifio fel “a cunning sideways take on the pastoral” gan yr Irish Times. Mae Siobhan yn un o'r Prif Ddarlithwyr ym Mhrifysgol Kingston Llundain. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cylchgronau megis Poetry, Agenda a Poetry Ireland, ac Siobhan mae wedi ennill gwobrau yn y Gystadleuaeth Farddoniaeth Campbell Genedlaethol yn ogystal â chystadlaethau'r Troubadour a Wigtown. Mae peth o'i gwaith yn ymddangos yn The Field Day Anthology of Irish Writing and Identity Parade, New British and Irish Poets (Bloodaxe). Bydd y noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored lle gall aelodau'r gynulleidfa ddarllen cerdd yn Saesneg neu yn Gymraeg. Tocynnau: Pris Llawn: £4 Consesiwn: £2.80 PTL: £1.60 Dydd Sul, 3 Hydref, 10am – 4pm

Gweithdy Darganfod Shakespeare #1: Macbeth Cyfle i ddarganfod, gyda chryn fanylder, dair drama benigamp gan William Shakespeare - sef trasiedi, hanes a chomedi Peter gan ddechrau gyda Macbeth. Peter Richards (Cyfarwyddwr Richards Artistig Fluellen Theatre Company) ac actorion eraill yn archwilio un testun ym mhob sesiwn er mwyn cael gwell dealltwriaeth hanesyddol a theatraidd o'r dramâu, gan arddangos sut caiff y geiriau eu cymryd o'r dudalen a'u trosi'n ddarnau theatr byw. Tocynnau: £10 y dydd. Gellir cadw lle i'r dramâu ar wahân Ffoniwch Fluellen ar  01792 368269 i gadw lle. Nos Iau, 7 Hydref, 7.30pm

Digwyddiad Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Paul Henry a Richard Jones Mae Paul Henry ymhlith beirdd mwyaf blaenllaw Cymru a heno bydd yn lansio The Brittle Sea: New and Selected Poems (Seren). Ac yntau'n awdur pum casgliad, mae wedi darllen mewn gwyliau ar draws y DU ac Ewrop. Ac yntau'n wreiddiol yn gyfansoddwr caneuon, mae Henry wedi bod yn olygydd gwadd Poetry Wales ac mae'n diwtor ysgrifennu creadigol poblogaidd. Yn ddiweddar bu'n cyflwyno'r gyfres o Paul Henry raglenni celf 'Inspired' ar gyfer BBC Radio Wales. Yn darllen gydag ef mae'r bardd ac athro o Abertawe, Richard Jones, sy'n cydweithio â Paul o dan gynllun mentora'r Academi ar gyfer awduron ifanc talentog. Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Seren Books.

4

Medi - Rhagfyr 2010


Dydd Sadwrn, 9 Hydref, 1pm

Theatr Amser Cinio: The Lesson gan Eugene Ionesco Mae Fluellen Theatre Company yn cyflwyno The Lesson gan Eugène Ionesco. Mae comedi abswrdaidd gwych Ionesco yn adrodd hanes athro sy'n rhoi gwersi preifat i ddisgybl sy'n ymddangos fel petai'n hynod ddawnus. Ond nid yw popeth fel y mae i'w weld ar y dechrau mewn drama sydd wedi cael ei disgrifio fel “sbring torchog o drais wedi'i gyfangu.” Roedd Eugène Ionesco yn un o leisiau mwyaf blaenllaw theatr yr ugeinfed ganrif yn Ewrop a bydd y perfformiad sgript mewn llaw o'r ddrama ddychanol glasurol hon yn dilyn sgwrs am ei fywyd a'i waith. Tocynnau: £5 Dydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Hydref

Archif Menywod Cymru, 13eg Gynhadledd Flynyddol Mae'r gynhadledd yn gyfle unigryw i rwydweithio ymhlith arbenigwyr mewn hanes menywod a'r rhai sydd â diddordeb mewn cadw tystiolaeth ddogfennol o fywydau menywod yng Nghymru ar hyd y canrifoedd. Mae croeso cynnes i'r cyhoedd ddod i ran neu'r cyfan o'r gynhadledd, a fydd yn cynnwys cinio dathlu gyda cherddoriaeth gan Jen Wilson o Treftadaeth Jazz Cymru. Tocynnau: Ewch i  www.womensarchivewales.org for details, and to book your place. Nos Fercher, 20 Hydref, 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Am fwy o wybodaeth, ewch i  www.sciencecafewales.org Tocynnau: Mynediad am ddim Nos Iau, 21 Hydref, 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gydag Ian Gregson Ian Gregson

Teitl y llyfr diweddaraf o gerddi gan Ian Gregson yw How We Met (Salt, 2008). Rhoddwyd Call Centre Love Song, detholiad o'i gerddi, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward fawr ei bri. Mae wedi cyhoeddi cerddi ac adolygiadau yn y London Review of Books, y TLS a'r Poetry Review, ymhlith eraill. Mae ei lyfrau beirniadol yn cynnwys The New Poetry In Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007). Ers 1977, mae wedi dysgu yn adran Saesneg Prifysgol Bangor lle mae bellach yn Athro. Bydd y noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored lle caiff aelodau'r gynulleidfa ddarllen cerdd yn Saesneg neu yn Gymraeg. Tocynnau: Pris Llawn: £4 Consesiwn: £2.80 PTL: £1.60

Rhaglen Lenyddiaeth

5


27 Hydref – 9 Tachwedd

Gw ˆyl Dylan Thomas - “A Home from Home for the Thomases” Thema'r ŵyl eleni – a drefnwyd gan David Woolley gyda Jeff Towns - yw'r nifer sylweddol o Thomasiaid sydd wedi cyfrannu'n fawr at lenyddiaeth Cymru a'r tu hwnt. Yn ogystal â Dylan ei hun, bydd digwyddiadau yn canolbwyntio ar R.S., Edward, Wynford Vaughan, Gwyn a John Ormond Thomas. Bydd y cyfranogwyr yn cynnwys awduron cyfoes o safon megis Andrew Motion, Gwyneth Lewis, Alexis Lykiard, Mike Jenkins, aa'r fintai farddonol a cherddorol wych o Ganada, The Fugitives. Byddwn yn cynnal y perfformiad llawn cyntaf yn Abertawe o sioe un dyn newydd am David Lloyd Gorge, a bydd Peter Hain yn trafod ei lyfr newydd am Nelson Mandela. Bydd arddangosfa'r w ˆ yl eleni yn cynnwys arddangosfa am y Thomasiaid, a'r cyfle cyntaf i weld dwdlau gan Dylan a'r artist a darlunydd, Dodie Masterman. Bydd llyfryn ar wahân ar gael ym mis Medi. Dydd Sul, 14 Tachwedd, 10am – 4pm

Gweithdy Darganfod Shakespeare #2: Henry V Dyma gyfle i ddarganfod mewn peth manylder dair drama benigamp gan William Shakespeare - sef trasiedi, hanes a chomedi - yn canolbwyntio'r mis hwn ar Henry V. Bydd Peter Richards (Cyfarwyddwr Artistig Fluellen Theatre Company) ac actorion eraill yn archwilio un testun fesul sesiwn er mwyn cael gwell dealltwriaeth hanesyddol a theatraidd o'r dramâu, gan arddangos sut caiff y geiriau eu cymryd o'r dudalen a'u trosi'n ddarnau theatr byw. Tickets: £10 y dydd. Gellir cadw lle i'r dramâu ar wahân. . Ffoniwch Fluellen ar  01792 368269 i gadw lle. Nos Fercher, 17 Tachwedd, 7.30pm

Lansio Llyfr: Jon Gower - Uncharted Dewch i wrando ar ddau ymddiddanwr dawnus sy'n rhannu cariad at lyfrau wrth iddynt sgwrsio am awr. Bydd yr hanesydd ac adroddwr hanesion digyffelyb o Abertawe, Peter Steadyn sgwrsio gyda Jon Gower am ei nofel ddiweddaraf Uncharted, llyfr a ddisgrifiwyd gan Jan Morris fel bod yn "unflaggingly and unfailingly inventive". Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Gomer. Dydd Sadwrn, 20 Tachwedd am 1pm

Theatr Amser Cinio: Protest gan Vaclav Havel

Vaclav Havel

Bydd Fluellen Theatre Company yn cyflwyno Protest gan Václav Havel. Mae hunan arall Havel, Vaneˇk, yn ymweld â chartref hen ffrind er mwyn ei ddarbwyllo i lofnodi deiseb i wrthwynebu'r gyfundrefn ormesol sy'n rheoli bywydau'r ddau ohonynt. Ond mae popeth yn mynd o'i le. Y ddrama bwerus hon am gyfrifoldeb yr artist i frwydro yn erbyn problemau cymdeithasol yw rhan olaf triawd gwych Havel o ddramâu am Vaneˇk; roedd y ddwy flaenorol (Audience and The Unveiling) yn boblogaidd tu hwnt pan gawsant eu perfformio yng Nghanolfan Dylan Thomas. Cyn y perfformiad sgript mewn llaw bydd sgwrs am fywyd a gwaith Václav Havel. Tocynnau: £5

6

Medi - Rhagfyr 2010


Nos Fercer, 24 Tachwedd, 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Am fwy o wybodaeth, ewch i  www.sciencecafewales.org Tocynnau: Mynediad am ddim Nos Iau, 25 Tachwedd, 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Carrie Etter Bu'r Times Literary Supplement yn canmol The Tethers (Seren, 2009), sef casgliad cyntaf Carrie Etter’s sy'n hanu'n wreiddiol o America, fel "un o'r casgliadau cyntaf mwyaf uchelgeisiol a graenus dros y blynyddoedd diwethaf." Mae hefyd wedi golygu blodeugerdd, Infinite Difference: Other Carrie Etter Poetries by UK Women Poets (Shearsman, 2010), ac roedd ei phamffled, The Son (Oystercatcher, 2009), yn un o Ddewisiadau Pamffled y Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth. Mae hi'n Uwch Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa ac mae wedi bod yn blogio ers pum mlynedd yn  www.carrieetter.blogspot.com Bydd y noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored lle caiff aelodau'r gynulleidfa ddarllen cerdd yn Saesneg neu yn Gymraeg. Tocynnau: Pris Llawn: £4 Consesiwn: £2.80 PTL: £1.60 Nos Iau, 2 Rhagfyr, 7.30pm

Codi Arian i'r Sefydliad Meddygol Digwyddiad blynyddol i godi arian ar gyfer y Medical Foundation for the Care of Victims of Torture. Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth a barddoniaeth, ac mae manylion ychwanegol ar gael gan  jack.fell@yahoo.co.uk Tocynnau: Pris Llawn: £7 Consesiwn: £5 Dydd Sul, 5 Rhagfyr, 10am – 4pm

Gweithdy Darganfod Shakespeare #3 Twelfth Night Dyma gyfle i ddarganfod mewn peth manylder dair drama benigamp gan William Shakespeare - sef trasiedi, hanes a chomedi - a fydd yn canolbwyntio'r mis hwn ar Twelfth Night. Bydd Peter Richards (Cyfarwyddwr Artistig Fluellen Theatre Company) ac actorion eraill yn archwilio un testun fesul sesiwn er mwyn cael gwell dealltwriaeth hanesyddol a theatraidd o'r dramâu, gan arddangos sut caiff y geiriau eu cymryd o'r dudalen a'u trosi'n ddarnau theatr byw. Tocynnau: £10 y dydd. Gellir cadw lle i'r dramâu ar wahân. Ffoniwch Fluellen ar  01792 368269 i gadw lle. Nos Fercher, 8 Rhagfyr, 7.30pm

Ar yr Ymyl: Night Horse gan Catrin Clarke Mae tensiynau'n cynyddu wrth i fam a'i merch aros i filwr ddod adre o Afghanistan. Dewch i wrando ar ddarlleniad wedi'i ymarfer o Night Horse, a fu'n fawr ei glod pan ddarlledwyd yn gyntaf ar Radio 4 yn 2009. Tocynnau: £4

Rhaglen Lenyddiaeth

7


Nos Wener, 10 Rhagfyr, 7.30pm

Carol Ann Duffy a Gillian Clarke: Bardd Cenedlaethol Cymru Ar Daith Mewn cydweithrediad ag

Gillian Clarke

Carol

Ann Duffy Bydd Gillian Clarke Bardd Cenedlaethol Cymru, a Carol Ann Duffy y Bardd Llawryfog, yn darllen ac yn trafod eu gwaith. Dyfarnwyd i'r ddau fardd hwn y gydnabyddiaeth uchaf: y galw i fyfyrio ynghylch emosiynau cenedl a'u dehongli. Daeth Gillian Clarke yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2008. Ar ôl dwy flynedd lwyddiannus yn y swydd, dyma gyfle i chi glywed gwaith newydd gan y Bardd Cenedlaethol, yn ogystal â detholiad o'i chatalog cefn helaeth. Ers dod yn Fardd Llawryfog yn 2009, mae Carol Ann Duffy wedi ysgrifennu ar bynciau mor amrywiol â'r sgandal dros dreuliau seneddol, y cwmwl llwch llosgfynyddig a sawdl clwyfedig David Beckham. Rydym yn falch o'i chroesawu'n ôl i Ganolfan Dylan Thomas. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Daith y Bardd Cenedlaethol ar draws Cymru trwy gydol yr hydref, a drefnwyd gan Academi. Am ddyddiadau eraill y daith, ewch i  www.academi.org neu e-bostiwch  post@academi.org ffoniwch  029 2047 2266. Noddir prosiect Bardd Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i weinyddu gan Academi. Tocynnau: Pris Llawn: £10 Consesiwn: £7, sy'n cynnwys gostyngiad £1 oddi ar unrhyw lyfr newydd a brynir ar y noson.

Nos Fawrth, 14 Rhagfyr, 7pm

Nadolig yng Nghymru Dathliad hudol Fluellen Theatre Company, mewn geiriau a cherddoriaeth, o Nadoligau'r gorffennol a heddiw, gyda pherfformiad cyflawn o'u haddasiad clodwiw o waith Dylan Thomas A Child’s Christmas In Wales, gyda Delyth Jenkins ar y delyn. Tocynnau: Pris Llawn: £6.00 Consesiwn: £4.00, sy'n cynnwys gwydraid o win twym neu sudd ffrwyth yn yr egwyl. Nos Fercher 15 Rhagfyr, 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Rhys Trimble Bardd, perfformiwr a golygydd dwyieithog yw Rhys Trimble, sy'n byw yng ngogledd Cymru. Fe'i ganed ym 1977 yn Livingstone, Zambia a'i fagu yng Ngwent a Phontneddfechan. Cyhoeddwyd ei waith yn Poetry Wales, Tears in the Fence, Seventh Quarry, Coffee House Poetry, Aesthetica, Skald aac amrywiaeth o gylchgronau Rhys Trimble eraill ac mewn rhaglenni radio. Mae ei waith diweddar yn cynnwys 'Dancing', gyda Zoë Skoulding ac Alan Holmes, ar drac i'r band, Parking Non-Stop. Bydd y noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored lle caiff aelodau'r gynulleidfa ddarllen cerdd yn Saesneg neu yn Gymraeg. Tocynnau: Pris Llawn: £4 Consesiwn: £2.80 PTL: £1.60

8

Medi - Rhagfyr 2010


Arddangosfeydd Oriel y Coridor 10 Awst – 5 Medi

‘Lluniadau’ - Alan Bicknell Mae Alan Bicknell yn nodi am yr arddangosfa hon: “things on stilts, bunkbeds, moths, those props and struts that are used to hold up wayward buildings, Morvern Callar's use of words like 'goldish' and 'rampant', lamps - always lamps, people with pipes in their faces, that wall in Penarth where someone's written 'Wolfey 97', or might be 93, can't remember, the huge pram me and mum pushed to the jumble sale, the clothes I wore later that day, makeshift barns, archways and ceilings a little too tall for me to reach…” 7 Medi – 3 Hydref

Lucy Bevan ‘You went to Belarus, so I went to Paris’ “Trefnais ymweliad i’m calonogi am fod fy nghariad wedi mynd i Felarws am ddeufis. Datblygodd pob dydd yn stori newydd gan esgor ar y lluniau hyn. Mae’r arddangosfa’n ddetholiad o ffotograffau Polaroid SX-70 ac Image/Spectra a dynnwyd ym Mharis a’r cylch.” 5 Hydref – 24 Hydref

‘Taking the LeAP - Moving on to Comp’ Prosiect amlgyfrwng tra llwyddiannus yw ‘Taking the LeAP - Moving on to Comp’ wedi'i ddylunio i ymdrin â phryderon plant Blwyddyn 6 yn ystod eu tymor olaf yn yr ysgol gynradd. Wedi'i dylunio gyda phant o flynyddoedd 5 - 8, mae'r arddangosfa hon yn dangos ac yn dathlu cyflawniadau'r plant sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y prosiect. 26 Hydref – 21 Tachwedd

Arddangosfa Gw ˆ yl Dylan Thomas Bydd arddangosfa yr ŵyl eleni, yn Oriel y Coridor ac ystafell gefn yr arddangosfa ‘Man and Myth’, yn cynnwys adran am y llu o Thomasiaid sydd wedi cyfrannu at lenyddiaeth Cymreig, a'r cyfle cyntaf i weld dwdlau gan Dylan a'r artist a darlunydd, Dodie Masterman.

Rhaglen Lenyddiaeth

9


Ymunwch â Chyfeillion Canolfan Dylan Thomas Fel Cyfaill, byddwch yn derbyn y manteision canlynol, a fydd yn para am flwyddyn: • • • • •

Prisiau consesiynol ar docynnau ar gyfer pob digwyddiad yn y Rhaglen Lên 10% oddi ar lyfrau newydd yn ein siop lyfrau Gwahoddiadau i lansiadau ac arddangosfeydd preifat Postio â blaenoriaeth ac e-byst atgoffa Mynediad i Raffl y Cyfeillion.

Ffoniwch ni ar  01792 463980 neu e-bostiwch  dylanthomas.lit@swansea.gov.uk am fwy o fanylion am y cynllun cyffrous hwn.

Canolfan Dylan Thomas Somerset Place, Abertawe SA1 1RR  dylanthomas.lit@swansea.gov.uk  www.dylan-thomas-books.com

MANSELL ST

IO N

W

IN

D

DE O

R

A

R

W

PA

ST

ST

SO

Y WA

➙ ES

S A IN S

B URY

S

ME RS E T

VIC

TO R

IA

A RO

D

SWA N M U SU SE A EM

WAT E R M U S UF R O N T EM

Marina

E AC

Y WA

T E S CO

PL

T

OYS

D UTH ROA TERMO

AR ’S RY MA ST

ESS INC PR

S TAT

W

H .M . P R IS O N

CH

Castle

Gra d Thean tre BUS

ND

Cast Squa le re

AY

T

QU

EE D STR

Plantas ia

STRA

OXFOR

K

Parc Tawe

CASTLE ST

THE

WAY INGS

T

OR

NCP

REE

HS T

A

 01792 463980  www.dylanthomas.com

Dyla Thom n Centr as e

Dyla Thom n Theat as re

Civ Centic re

Cefnogir gan: hybu llên literature promotion

Credydau Lluniau: Paul Henry gan Owen Sheers; Carol Ann Duffy © Academi a John Briggs; Jon Gower © Emyr Jenkins; Don Paterson © Murdo McLeod

CYNGOR LLYFRAU CYMRU WELSH BOOKS COUNCIL

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd.

10

Medi - Rhagfyr 2010


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.