Cyfrol 3, Rhifyn 4
Gwasanaeth Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Medi 2012
Cymwysterau Proffesiynol Ni fu adeg well erioed i ennill cymhwyster gofal plant a/neu waith chwarae ffurfiol.
CYLCHLYTHYR Y GWASANAETH GWYBODAETH I DEULUOEDD
DINAS A SIR ABERTAWE
Gallai'ch opsiynau cwrs gynnwys; • Dysgu a Datblygu Gofal Plant - Lefelau 1, 2, 3 neu 5 • Gwaith Chwarae lefel 2 a 3 Gallai'ch dewis o leoliad gynnwys; • Adran Hyfforddiant Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=32394 • Coleg Gŵyr Abertawe http://www.gowercollegeswansea.ac.uk/ Opsiynau ariannu; Os ydych ar hyn o bryd wedi'ch cyflogi am fwy nag 16 awr yr wythnos, gallech fod yn gymwys i gael aich ariannu gan Adran Hyfforddiant Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe neu gan Sgiliau ar gyfer Diwylliant. Sgiliau ar gyfer Diwydiant http://wefo.wales.gov.uk/news/latest/111013skillsforindustry/?lang=cy y byddai'n rhaid i'ch cyflogwr wneud cais amdano. Byddai Sgiliau ar gyfer Diwydiant yn talu am bopeth ac eithrio cofrestru a'r dystysgrif, sef tua £110.00 a byddai'n rhaid i'ch cyflogwr dalu am hyn. Ni chaiff sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ddefnyddio hyn, ond dylai cwmnïau preifat, gweithwyr hunangyflogedig ac elusennau fod yn gymwys. Am ragor o wybodaeth am opsiynnau ariannu Adran Hyfforddiant Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe ffoniwch 01792 482600
Gall ymgeiswyr hefyd wneud cais i Grant Datblygu Gweithlu'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd dalu am y ffi gofrestru. Os nad ydych mewn cyflogaeth am dâl a byddech yn hoffi gwneud unrhyw un o'r cyrsiau y soniwyd amdanynt mewn perthynas â gofal plant a gwaith chwarae, gallech ofyn am ffurflen gais ariannu gan Grant Datblygu Gweithlu'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: Helen Davies Coleg Gŵyr, Abertawe Claire Bevan/Claire Hayes Hyfforddiant Cyflogaeth Kelly Wake (Gwaith Chwarae) Tîm Chwarae Plant Claire Wilkins (Gofal Plant) Tîm y Blynyddoedd Cynnar Christopher Jones (Ariannu) Tîm y Blynyddoedd Cynnar
01792 284132 01792 482698 01792 635156 01792 517222 01792 517222 1
Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa Sawl gwaith eleni rydych chi a'ch teulu wedi dal annwyd? Mae pawb yn gwybod ei bod yn ymddangos bod plant bach bob amser â thrwyn yn diferu, ond ydy'r feirws annwyd yn tueddu i fynd o un aelod o'r teulu i'r nesaf yn ystod misoedd oerach y gaeaf yn eich tŷ chi? Efallai nad yw mor bwysig i chi â'r argyfwng economaidd presennol neu droseddau treisgar, ond yn anffodus allwch chi ddim datrys y problemau hynny trwy gymryd gofal gwell o'ch hylendid anadlu a dwylo.
Mae'r Adran Iechyd wedi lansio'r ymgyrch EI DDAL, EI DAFLU, EI DDIFA i helpu i atal yr annwyd, y ffliw a feirysau eraill rhag lledu. Mae gorchuddio'ch trwyn a'ch ceg â hances bapur wrth besychu a thisian, cael gwared â'r hances bapur a glanhau'ch dwylo cyn gynted ag y bo modd yn gamau pwysig a all helpu i atal germau rhag lledu.
Mae ymchwil wedi dangos nad yw pobl yn deall cymaint o wahaniaeth mae defnyddio a gwaredu hancesi papur a golchi dwylo'n ei wneud wrth helpu i atal yr annwyd a'r feirws ffliw mwy difrifol rhag lledu. Mae'r rhan fwyaf o oedolion yn dal rhwng dau a phum annwyd y flwyddyn ac mae babanod a phlant cyn oed ysgol yn cael rhwng saith a deg. Mae negeseuon EI DDAL, EI DAFLU, EI DDIFA yn syml: • EI DDAL Mae germau'n lledu'n hawdd. Cofiwch fod â hancesi papur bob amser a'u defnyddio wrth besychu neu disian. • EI DAFLU Gall germau fyw am sawl awr ar hancesi papur. Taflwch nhw yn y bin cyn gynted ag y bo modd • EI DDIFA Gall dwylo drosglwyddo germau i unrhyw beth rydych yn cyffwrdd ag ef. Glanhewch eich dwylo cyn gynted ag y bo modd.
Atal Damweiniau
Mae tua 15,000 o blant o dan 5 oed yn mynd i Adrannau Argyfyngau o ganlyniad i ddamwain bob blwyddyn yng Nghymru. Yn aml, mae'r damweiniau hyn yn arwain at anafiadau difrifol sy'n anablu ac, yn bwysicaf, gellir atal y rhan fwyaf ohonynt. Wrth i'r hydref a'r gaeaf nesáu, y clociau'n cael eu troi'n ôl a'r oriau o dywyllwch yn amlycach, efallai hoffech ymgymryd â phrosiect gyda'r plant yn eich gofal sy'n ystyried Diogelwch Ffyrdd, Diogelwch Beicio, Diogelwch cyn Noson Tân Gwyllt, Gorymdeithiau Llusern, etc. http://www.capt.org.uk/ Dyma ychydig o weithgareddau lliwio y gallech eu defnyddio gyda'r plant yn eich gofal: http://www.capt.org.uk/sites/default/files/activity/Colourful%20road%20safety_0.pdf http://www.capt.org.uk/sites/default/files/activity/Colourful%20cycling_0.pdf http://www.capt.org.uk/sites/default/files/activity/Colour%20me%20safe.pdf
2
Jump Rope for Heart Mae Artie’s Olympics yn gynllun gweithgaredd difyr a gynlluniwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon (SPG) i blant 3–8 oed. Ei nod yw annog plant ifanc i fod yn weithgar a mwynhau ymarfer corff wrth godi arian at elusen genedlaethol y galon a'u meithrinfa, eu hysgol neu eu grŵp. Mae'r cynllun hwn yn addas ar gyfer meithrinfeydd, ysgolion babanod, Sgowtiaid Beaver, Geidiau Rainbow, yn ogystal ag unrhyw grŵp arall sy'n gweithio gyda phlant ifanc. Dros ddyddiau neu wythnosau, byddwch yn dysgu gemau a gweithgareddau newydd i'r plant, y gallwch eu dewis o ddetholiad eang yn Arweiniad Trefnu Artie’s Olympics. Mae'n hawdd addasu'r holl weithgareddau ar gyfer oedran a gallu'r plant sy'n cymryd rhan. Trwy drefnu digwyddiad Artie’s Olympics, gallwch chi a'ch plant gael hwyl a helpu elusen genedlaethol y galon i achub bywydau. Y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw ffonio 01892 893913 neu e-bostio arties@bhf.org.uk
Blwyddyn Gyntaf fel Rheolwr yng Ngwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar Mae Cyngor Gofal Cymru'n datblygu arweiniad adnoddau arfer am ddim, 'Blwyddyn Gyntaf fel Rheolwr yng Ngwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar'. Ei nod yw cyfrannu i broffesiynoli Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar trwy ddatblygu a gwella gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd rheolwyr sydd newydd eu penodi. Bydd yr arweiniad yn: • Rhoi arweiniad 'hawdd ei ddarllen' i gynorthwyo rheolwyr newydd yn eu rolau rheoli nad yw'n dyblygu Arweiniad y Blynyddoedd Cynnar sydd ar gael ar hyn o bryd, ond yn ei ategu; • Rhoi arweiniad sy'n gysylltiedig â'r ACT lefel 5 ‘Gofalu am Blant a Dysgu a Datblygu’ ac yn ei gyfnerthu; • Rhoi arweiniad sy'n gysylltiedig â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol perthnasol; • Ffynhonnell wybodaeth y gellir cyfeirio ati i reolwyr newydd y Blynyddoedd Cynnar; • Datblygu rheolwyr hyderus a chymwys; a datblygu gwybodaeth am sgiliau rheoli. Mae holl leoliadau cofrestredig ac anghofrestredig AGGCC yn cael eu gwahodd i gwblhau arolwg ar y ddolen ganlynol i gael gwybodaeth hanfodol am yr adnodd. https://www.surveymonkey.com/s/FirstYearasaManagerinEarlyYearsServices_PracticeGuidance
3
Does yr un chwarae awyr agored yn "gwneud niwed i blant" Mae iechyd plant yn dioddef am eu bod yn colli'r cyfle i chwarae yn yr awyr agored, meddai grŵp o arbenigwyr. Mae'r dirywiad mewn chwarae "heb lawer o strwythur a goruchwyliaeth" yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl plant. Mae hefyd yn bygwth datblygiad tymor hir pobl ifanc. Roedd casgliad diweddar gan Unicef yn dweud bod plant Prydain ymhlith y rhai mwyaf anhapus mewn tabl o 21 o wledydd diwydiannol oherwydd eu diffyg cyfleoedd chwarae awyr agored. Mae 'chwarae go iawn' - cymdeithasol ryngweithiol, ymarferol, heb lawer o oruchwyliaeth - bob amser wedi bod yn rhan hanfodol o ddatblygiad plant a gallai ei golli gael goblygiadau difrifol. Yn ôl yr arbenigwyr, "Yn union fel yr epidemig gordewdra ymhlith plant sydd newydd synnu'r byd datblygedig, gallai gormod o 'chwarae sothach' (fel gormod o fwyd sothach) gael goblygiadau dychrynllyd i'r genhedlaeth nesaf." Mae gan bob plentyn yr hawl i ddysgu awyr agored dyddiol a dylid rhoi cymaint o werth ar yr amgylchedd awyr agored â'r tu mewn. Dylid rhoi'r un adnoddau, cynllunio, amser ac arian i ddarparu'r lle awyr agored â'r un y tu mewn ac ni ddylid ei weld fel rhywbeth ychwanegol ac opsiynol. Ydych chi'n rhoi digon o gyfle i'r plant yn eich gofal chwarae yn yr awyr agored? Cyn bo hir, bydd Dinas a Sir Abertawe'n cynnal Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a fydd yn ystyried y camau a ddefnyddir i hyrwyddo mynediad i chwarae, y gweithlu chwarae, lle i blant chwarae, gan gynnwys lle agored a chwarae dan oruchwyliaeth, etc. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Dîm Datblygu Chwarae Dinas a Sir Abertawe ar 01792 535154
Cefnogi Cynnar
yw mecanwaith Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau i blant anabl a phlant ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd. Mae Cefnogi Cynnar wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau a hyfforddiant i ddod â darparwyr gwasanaethau at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth â'r teulu er mwyn diwallu gofynion y plentyn a'r teulu. Y nod yw rhoi rhieni yng nghanol y broses gynllunio. Dechreuodd datblygu'r adnoddau Cefnogi Cynnar a'r hyfforddiant yn Lloegr ac rydym wedi'u diweddaru, gwneud gwelliannau lle bo angen a'u haddasu i weddu i gyd-destun Cymru. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu'ch deunyddiau am ddim, ewch i www.cefnogicynnarcymru.org.uk
4
Grant Gofal Ieuenctid a Phlant Penodol
Tîm Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar - Grant Gofal Ieuenctid a Phlant Penodol 2012-13 AIL ROWND Rydym bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ail rownd Grantiau Gofal Ieuenctid a Phlant Penodol. Gwahoddir ceisiadau gan sefydliadau newydd a phresennol sy'n cefnogi plant, pobl ifanc a/neu deuluoedd sy'n gallu dangos ymagwedd integredig at ofal plant a/neu ieuenctid drwy ddarparu gwasanaethau o safon sy'n fforddiadwy a hygyrch ac sy'n helpu teuluoedd i fynd i'r afael â chydbwysedd gwaith/bywyd. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener, 28 Medi 2012. Gellir lawrlwytho dogfennau o www.abertawe.gov.uk/fis neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch Dîm y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222.
Digwyddiad Gofal Plant Cyflwynodd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe ddigwyddiad rhwydweithio amlasiantaeth yng Nghanolfan Blant Abertawe, Penlan, Abertawe ar 4 Gorffennaf 2012 fel rhan o Wythnos Genedlaethol Gofal Plant. Daeth llawer o sefydliadau gwahanol i'r digwyddiad, gan gynnwys Gweithffyrdd, Cynllun Gwên, Maethu Abertawe, Iaith a Chwarae, y Llyfrgell Deganau Deithiol, Genesis2, Dechrau'n Deg a phob un ohonynt yn hyrwyddo'i waith.
Fforwm Darparwyr Gofal Plant
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wella cyfathrebu â darparwyr ac mae'n awyddus i gael gwybod eich barn am ddatblygu fforwm darparwyr gofal plant ar y we. Os byddai'n ffordd ddefnyddiol i chi gyfathrebu, rhwydweithio a rhannu arfer da, ffoniwch ni ar 01792 51722 neu e-bostiwch fis@swansea.gov.uk i roi gwybod i ni.
5
Gweithio gyda busnesau yn yr awdurdod lleol
Fel Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o helpu teuluoedd sy'n byw yn Abertawe i ddod o hyd i ofal plant addas. Mae angen i lawer o rieni ddod o hyd i ofal plant er mwyn gweithio. Fel darparwr gofal plant, oes gennych gontract ar hyn o bryd gyda busnesau yn Abertawe er mwyn darparu gwasanaeth addas i deuluoedd eu gweithwyr? Gallai fod ar ffurf neilltuo nifer bach o leoedd gofal plant neu gostau is i rieni sy'n gweithio i gwmnïau penodol. Os ydych, hoffem wybod mwy. Os yw'ch busnes yn cynnig unrhyw un o'r gwasanaethau isod, neu efallai rhywbeth arall nad ydym wedi meddwl amdano, llenwch y ffurflen atodedig a'i hanfon yn ôl atom ar e-bost - fis@swansea.gov.uk neu drwy'r post - FIS, 5ed Llawr, Oldway, 36 Stryd y Berllan, Abertawe. SA1 5LD. •
Ydych chi'n cynnig cyfraddau is i fusnesau? Ydyn
Nac ydyn
Os ydych, rhestrwch y busnesau:_____________________________________________ •
Ydych chi'n cynnig lleoedd cadw i blant rhieni sy'n gweithio i fusnesau? Ydyn Nac ydyn. Os ydych, nodwch y busnesau a faint o leoedd sy'n cael eu cadw: ______________________________________________________________
•
Ydych chi'n cynnig manteision eraill i rieni o fusnesau penodol? Os ydych, dywedwch wrthym.
__________________________________________________________________________ •
A fyddai diddordeb gennych mewn cynnig unrhyw un o'r uchod, os oedd galw gan fusnesau penodol? Byddai Na fyddai
•
Os byddai, pa fath o fantais fyddech chi'n ei chynnig, e.e. gostyngiad 10%, nifer penodol o leoedd gofal plant etc._____________________________
___________________________________________________________________________
Tîm Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar 5ed Llawr, Canolfan Oldway 36 Stryd y Berllan Abertawe SA1 5LD 01792 635400/01792 517222 E-bost: fis@swansea.gov.uk Gwefan: www.abertawe.gov.uk/fis Tanysgrifiwch i'n gwasanaeth am ddim i gael y newyddion diweddaraf! 6