Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Cyfrol 4, Rhifyn 1 Mis Medi 2013
Comisiynydd Plant Cymru
CYLCHLYTHYR Y GWASANAETH GWYBODAETH I DEULUOEDD
DINAS A SIR ABERTAWE
Medi
Beth mae'r comisiynydd yn ei wneud? Bydd y rheini ohonoch a ddaeth i'n cynhadledd gofal plant tair sir nôl ym mis Mawrth 2013 wedi clywed Eleri Thomas, y Prif Swyddog Gweithredol, yn siarad am waith pwysig Comisiynydd Plant Cymru. Mae gan lawer o wledydd Gomisiynwyr ac mae gan bob un ohonynt swydd ychydig yn wahanol, ond maent oll yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag niwed a bod cynifer o bobl â phosib yn gwybod am hawliau plant. Dyma rai o'r pethau y mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, a'i staff yn ei wneud i blant a phobl ifanc Cymru: • • • • • •
Dweud wrth bawb, gan gynnwys plant a phobl ifanc, am y Comisiynydd ac am hawliau plant Cwrdd â phlant a phobl ifanc a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud am fater sy'n effeithio arnynt Siarad â phlant a phobl ifanc am waith y Comisiynydd, beth arall y dylai ei wneud yn eu barn hwy a sut dylai wneud hynny Edrych ar waith sefydliadau fel cynghorau ac ymddiriedolaethau iechyd i weld a ydynt yn meddwl am hawliau plant Dweud wrth bobl sy'n gallu gwneud gwahaniaeth am yr hyn sy'n bwysig i blant a phobl ifanc a sut i wella pethau Rhoi cyngor a gwybodaeth i blant ac oedolion sy'n cysylltu â thîm y Comisiynydd.
Ydych chi'n gwybod am unrhyw blant/bobl ifanc a allai fod â diddordeb mewn bod yn Llysgennad Cymunedol? Plant/pobl ifanc yw'r rhain sy'n cael eu henwebu gan eu grwpiau cymunedol lleol i ymgymryd â 3 phrif swydd; 1. Dweud wrth eraill am CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn) 2. Dweud wrth eraill am Keith a Thîm y Comisiynydd Plant 3. Bod yn llais i'r Comisiynydd Plant ar lawr gwlad a rhannu'r pethau da sy'n digwydd mewn cymunedau lleol, yn ogystal â phethau y mae angen eu gwella fel y gall y Comisiynydd ddweud wrth eraill. Am fwy o wybodaeth am waith Comisiynydd Plant Cymru, ewch i www.complantcymru.org.uk Ffoniwch 01792 765600 neu e-bostiwch post@childcomwales.org.uk 1
Byth yn Rhy Ifanc
Gweithdy i warchodwyr plant yn Abertawe a gynhelir gan Elinor Stafford o PACEY Cymru I archwilio: • • • • •
Sut gall plant ifanc gymryd cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau Pam? Beth yw manteision cynnwys pobl ifanc? Sut? Llawer o syniadau syml, hawdd i roi cynnig arnynt A hefyd, syniadau am sut i gofnodi a chasglu tystiolaeth ar gyfer adroddiadau AGGCC Beth Nesaf? Rhowch gynnig arni i weld y gwahaniaeth y mae'n gallu'i wneud.
Bydd cyfle gennych hefyd i drafod y manteision, y newidiadau neu'r heriau sydd yn eich gwasanaeth a rhoi adborth arnynt mewn cyfarfod dilynol gydag Elinor. Dyddiad ar gyfer eich dyddiadur: Dydd Iau 19 Medi 2013 Amser: 7-9pm Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE Mae lleoedd yn brin felly ffoniwch y tîm GGD ar 01792 51722 i gadw lle, neu cysylltwch ag Elinor ar 01792 572073 / 07734 734162 / Elinor.stafford@pacey.org.uk i drafod ymhellach. Wyddech chi? Cyngor Dinas Abertawe yw'r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i ymrwymo i'w holl ysgolion, cynradd ac uwchradd, ddod yn Ysgolion sy'n Parchu Hawliau
Cyfarfod Meithrinfeydd Dydd Abertawe - Dewch i ymuno â ni
Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe yn cynnal ei gyfarfod Meithrinfeydd Dydd Abertawe cyntaf ar 7 Hydref 2013 yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe rhwng 1pm a 2pm. Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i rwydweithio, gwella cysylltiadau, rhannu arfer da a thrafod amrywiaeth o bynciau perthnasol. Bydd un cyfarfod bob tri mis ar gyfer aelodau Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA). Mae croeso i chi ffonio'r tîm GGD ar 01792 517222 os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch.
2
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant Erbyn hyn, byddwch yn ymwybodol o'r ddyletswydd a roddwyd ar bob Awdurdod Lleol gan Lywodraeth Cymru i gynnal Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob 3 blynedd, a chynnal adolygiadau rheolaidd wrth i ddata gofal plant newydd ddod ar gael, a hynny o leiaf bob blwyddyn. Hoffem ofyn i'r holl ddarparwyr gofal plant cofrestredig ein helpu i ymgymryd â'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant nesaf drwy gwblhau arolwg cyflym sydd ar gael yn http://abertawe.gov.uk/fis. Neu, os bydd angen copi caled o'r holiadur arnoch, ffoniwch Dîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe ar 01792 517222 a bydd un o aelodau'n tîm yn falch o'i anfon atoch. Gwerthfawrogir eich sylwadau yn fawr, a bydd eich atebion yn rhoi'r darlun mwyaf posib i ni am gyflenwad cyfredol gofal plant yn yr ardal. Caiff pob holiadur sy'n cael ei gwblhau ei gynnwys mewn cystadleuaeth a bydd yr enillydd, a gaiff ei ddewis ar hap, yn ennill £100.00. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r holiadur hwn yw 1 Tachwedd 2013. Rydym yn awyddus hefyd i gynifer o rieni â phosib gael dweud eu dweud am eu profiadau o ddefnyddio gofal plant yn yr ardal, felly gwnewch yn siŵr bod yr holl rieni sy'n mynd i'ch lleoliad yn ymwybodol y bydd holiadur i rieni ar gael cyn bo hir ar ein gwefan. A oes gennych chi gopi o 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Warchodwyr Plant'? Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn neu sut i gael y pecyn, ffoniwch y Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222, a byddant yn barod i'ch helpu. Neu mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y dolenni canlynol: http://www.food.gov.uk/business-industry/caterers/sfbb/sfbbchildminders/ Neu, ceir dolen isod ar gyfer y fersiwn addas i'w hargraffu y gellir ei chwblhau'n electronig: http://www.food.gov.uk/multimedia/pdfs/publication/sfbbwebfriendlychilminders0513.pdf Mae'r pecyn hwn ar gyfer gwarchodwyr neu ofalwyr plant cofrestredig mewn eiddo domestig sydd fel arfer yn darparu prydau a diodydd i'r plant y maent yn gofalu amdanynt. Os yw gwarchodwyr plant yn darparu prydau, byrbrydau neu ddiodydd (ac eithrio dŵr tap o'r prif gyflenwad) i blant neu fabanod a/neu'n ailgynhesu bwyd a ddarperir gan riant/ofalwr, neu'n ei dorri, mae'n rhaid iddynt bellach gydymffurfio â'r rheoliadau iechyd a diogelwch bwyd. Bydd 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Warchodwyr Plant' yn eu helpu i wneud hyn. Os nad ydych yn siŵr a yw'r pecyn hwn yn addas i chi, cysylltwch â'r gwasanaeth iechyd yr amgylchedd yn eich awdurdod lleol am gyngor.
Hoffem atgoffa'r holl leoliadau gofal plant cofrestredig hefyd am bwysigrwydd sicrhau bod yr holl ymwelwyr yn llofnodi wrth gyrraedd a gadael y lleoliad mewn llyfr ymwelwyr. Mae pwynt 24.5 y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn nodi: ‘Ceir system ar gyfer rheoli mynediad i'r eiddo a chedwir cofnod o ymwelwyr.' 3
OFFERYN ARCHWILIO RHEOLI HEINTIAU LLEOLIADAU'R BLYNYDDOEDD CYNNAR Ydych chi wedi clywed am Offeryn Archwilio Rheoli Heintiau Lleoliadau'r Blynyddoedd Cynnar ?Datblygwyd hwn i helpu gweithwyr proffesiynol gofal plant adolygu eu heiddo, eu polisïau a'u gweithdrefnau o ran rheoli heintiau, gan eich helpu i sicrhau bod eich lleoliad yn bodloni'r safonau arfer gorau cyfredol. Drwy lawrlwytho a chyflwyno'r ddogfen i foodandsafety@swansea.gov.uk bydd swyddogion yn adolygu'ch ymatebion a chynnig cyngor ac arweiniad i chi ar faterion amrywiol sy'n ymwneud â rheoli heintiau. http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=55166 Nod yr offeryn archwilio yw lleihau'r posibilrwydd o groes-heintio mewn lleoliadau gofal plant ac felly lleihau'r tebygolrwydd o salwch. Yn gyffredinol, y farn yw bod yr offeryn archwilio yn adlewyrchu arfer gorau ac y dylid ei ddefnyddio ar y cyd â'r dogfennau canlynol y gellir eu defnyddio i gyfeirio atynt er mwyn cael mwy o wybodaeth. (lle ceir gwahaniaethau rhwng yr offeryn archwilio a'r dogfennau cyfeirio, yr wybodaeth yn yr offeryn archwilio sy'n cael y flaenoriaeth); Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006) Gwyliwch y Germau! Canllawiau ynghylch rheoli haint ar gyfer methrinfeydd, grwpiau chwarae a sefydliadau gofal plant eraill http://cymru.gov.uk/topics/health/protection/communicabledisease/publications/mindthegerms/?lan g=cy
Digwyddiad Rhwydweithio Darparwyr Gofal Plant Abertawe
Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer y chweched Digwyddiad Rhwydweithio blynyddol. Bydd digwyddiad eleni'n canolbwyntio ar 'Iaith a Chyfathrebu yn y Blynyddoedd Cynnar'. Cynhelir y digwyddiad yn Theatr y Grand Abertawe nos Iau 26 Medi 2013 rhwng 6pm a 9pm. Amgaeir y ffurflen cadw lle a gofynnwn i chi ddychwelyd hon erbyn dydd Iau 12 Medi 2013 fan bellaf. Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y noson.
4
Llongyfarchiadau i feithrinfa Flowers Day yn Abertawe a gafodd wobr Meithrinfa'r Flwyddyn 2013 ar gyfer Cymru yng Ngwobrau Meithrinfeydd NDNA yn Peterborough. Pleidleisiodd mamau a thadau dros y feithrinfa a chafodd ei dewis ar ôl proses feirniadu drwyadl sy'n cydnabod y cyfraniad y mae meithrinfeydd o safon yn eu gwneud i fywydau plant a rhieni.
Diwrnodau rhyfedd, gwirion ac unigryw i'w dathlu yn eich lleoliad http://www.holidayinsights.com/moreholidays/october.htm MEDI 2013 9fed – Diwrnod Tedi Bêrs 10fed - Diwrnod Cyfnewid Syniadau 13eg - Diwrnod Meddwl yn Gadarnhaol 15fed - Diwrnod Gwneud Het 16eg - Diwrnod Casglu Cerrig 16eg - Diwrnod Cenedlaethol Chwarae a Gwneud 16eg - Diwrnod Rhieni sy'n Gweithio pedwerydd dydd Sadwrn ym mis Medi - Diwrnod Rhyngwladol Cwningod HYDREF 2013 Byw'n Iach 5ed - Diwrnod Gwneud Rhywbeth Hyfryd 6ed - Diwrnod Mad Hatter 7fed - Diwrnod Gwenu'r Byd 16eg – Diwrnod y Pennaeth 25ain – Diwrnod Pasta'r Byd pedwerydd dydd Sadwrn ym mis Hydref - Diwrnod Gwneud Gwahaniaeth 27ain – Diwrnod Cenedlaethol Adrodd Stori Mae'r NSPCC wedi lansio ymgyrch The Underwear Rule, i helpu rhieni a gofalwyr i siarad â'u plant am gadw'n ddiogel rhag cam-drin rhywiol. Mae gwybodaeth am yr ymgyrch, gan gynnwys y fideo swyddogol, ar gael ar we-dudalen yr ymgyrch http://www.nspcc.org.uk/conversations 'The Underwear Rule - Talk PANTS and help keep your child safe ' Mae The Underwear Rule yn ffordd syml o helpu rhieni i gadw'u plant yn ddiogel rhag cam-drin. Gall sgyrsiau syml helpu i ddiogelu plant rhag cam-drin. Bydd trafod PANTS yn helpu'ch plentyn i ddeall y rheol. Gallwch ddysgu'r Underwear Rule yn http://www.nspcc.org.uk/underwear 5
Rhaglen Hyfforddiant Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe Yn rhaglen hyfforddiant mis Ebrill i fis Medi 2013, cafwyd cynnydd yn nifer y lleoedd a oedd ar gael ar y cwrs Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Plant, ac mae'r rhaglen hyfforddiant ar gyfer mis Hydref i fis Mawrth 2014 yn parhau â'r cynnydd hwn, gyda chyfanswm o 155 o leoedd Cymorth Cyntaf ar gael. Mewn ymgynghoriad diweddar â darparwyr gofal plant, nodwyd galw am gynnydd yn nifer y cyrsiau Diogelwch Bwyd Lefel 2, ac Amddiffyn Plant Lefel 2. I'r perwyl hwn felly rydym bellach yn cynnal chwech o bob un o'r cyrsiau hyn dros y chwe mis nesaf, gan gynnig cyfanswm o 350 o leoedd i gynrychiolwyr ar gyrsiau gorfodol. Dyma rai cyrsiau i gadw llygad amdanynt yn y llyfryn hwn: 'Cyflwyniad i'r Ysgol Goedwig' a gaiff ei gynnal yng Nghanolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob ym mis Mawrth, dewch â'ch esgidiau glaw ar gyfer hwn! 'Ffyrdd Cadarnhaol o Newid Ymddygiad', sy'n cael ei gynnal ar un dydd Sadwrn ym mis Tachwedd, a 'Chyflwyniad i'r Cyfnod Sylfaen'. Mae Coleg Gŵyr yn darparu cwrs cyffrous â'r nod o hyrwyddo defnyddio sgiliau rhifedd gyda phlant rhwng 0 a 5 oed - 'Hwyl gyda Rhifau' ac mae Menter Iaith wedi llunio sesiwn brynhawn i hyrwyddo'r Gymraeg mewn lleoliadau plant. Mae disgwyl i bob cwrs fod yn boblogaidd, felly cadwch le'n gynnar. Mae'r rhaglen hon hefyd yn cyflwyno Adran Reoli, gyda nifer o gyrsiau cyffrous ar gynnig sydd wedi'u llunio'n benodol ar gyfer rheolwyr neu berchnogion. Yn olaf, mae'n werth nodi y bydd angen i bob lleoliad/gwarchodwr plant gwblhau copi newydd o'r amodau a thelerau sydd yng nghefn y llyfryn.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe 5ed Llawr, Canolfan Oldway 36 Stryd y Berllan Abertawe SA1 5LD 01792 635400/01792 517222 E-bost: fis@swansea.gov.uk www.abertawe.gov.uk/fis
6
7