Cyfeiriannu ym Mharc Singleton Mae
CYFEIRIANNU yma ym MHARC SINGLETON wedi'i gynllunio ar gyfer cyfeirianwyr dibrofiad a phrofiadol. Dylai'r rhai dibrofiad ddarllen y rhannau esboniadol nesaf, ac yna dewis cwrs hawdd i roi cynnig arno. Mae cyfeiriannu'n weithgaredd hamdden pleserus gyda phwyslais ar sgiliau darllen map. Gelir hefyd ei ddefnyddio fel camp gystadleuol fel y mae'r adran 'heriau' yn awgrymu.
CYRSIAU A AWGRYMIR. Mae'r cyrsiau canlynol yn amrywio o ran hyd ac anhawster. Gallwch lunio'ch cwrs eich hun, fel a nodir uchod, ond cofiwch bod graddau anhawster gwahanol gan y rheolfannau fel y'u disgrifir yn yr adran nesaf. Cofiwch hefyd, bod cyfeiriannu'n ymwneud â dewis llwybrau rhwng y rheolfannau, felly dewiswch y rhain fel bod anhawster y cwrs yn cyd-fynd â'ch sgiliau. Dechrau a gorffen wrth y Bwthyn Swisaidd, sy'n cael ei ddangos ar y map gan driongl coch.
AMCAN Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o bwyntiau rheoli, drwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r pwyntiau rheoli. Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel a ddangosir gan linell y raddfa. PELLTEROEDD Gellir cyfrif y pellter o un pwynt i'r llall drwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â cham dyn. CYFARWYDDIADAU I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear. Bydd hyn yn eich helpu i gadarnhau pa ffordd i'w dilyn ar gyffordd llwybrau anodd. Y CWMPAWD. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw'r saethau hir ar y map yn pwyntio i'r gogledd. Mae'r cwmpawd yn arbennig o ddefnyddiol i gael cyfeiriadau manwl gywir ar draws ardaloedd lle nad oes unrhyw lwybrau, ac i benderfynu pa ffordd i fynd ger cyffyrdd llwybrau etc. Defnyddio cwmpawd onglydd: 1 2 3 4
Gosodwch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi'n bwriadu ei ddilyn ar y map. Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn unol â llinellau'r gogledd ar y map. Codwch y cwmpawd o'r map a'i ddal o'ch blaen, gan bwyntio ymlaen. TROWCH EICH HUN gyda'r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â'r llinellau yn y capsiwl. Ewch yn eich blaen ar y ffordd y mae blaen y cwmpawd bellach yn cyfeirio ati.
RHEOLFANNAU A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo mewn coch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyfateb i'r un rheolfan ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y blwch priodol ar y 'cerdyn' rheolfan ar eich map. HERIAU A Dewiswch rai o'r rheolfannau i lunio cwrs, ac yna dod o hyd iddynt yn eu trefn. Ar gyfer cystadleuaeth, cychwynnwch y cystadleuwyr bob rhyw funud ar y tro i osgoi dilyn, a'u hamseru i weld pwy sy'n mynd o gwmpas y cwrs gyntaf gan ddod o hyd i'r set gyfan o reolfannau! B Dewch o hyd i'r holl reolfannau neu ddetholiad ohonynt, mewn unrhyw drefn. Gosodwch derfyn amser ar gyfer cystadleuaeth, gyda chosbau am fod yn hwyr. C.
Rasys cyfnewid i dimau o dri yn rhedeg fel unigolion neu dri phâr: I Dewiswch gwrs gweddol fyr. Cychwynnwch redwyr cyntaf pob tîm gyda'i gilydd. Pan fyddant yn dychwelyd, byddant yn cychwyn eu hail redwyr, a byddan nhw yn eu tro yn cychwyn y trydydd aelod. Y tîm buddugol fydd yr un lle mae'r trydydd aelod yn cyrraedd adref gyntaf. ii Dewiswch dri chwrs, fel bod gan bob aelod o'r tîm gwrs gwahanol i'w redeg. Gall y cyrsiau gael rhai rheolfannau cyffredin. Cychwynnwch bawb gyda'i gilydd a'r tîm buddugol yw'r un lle mae'r tri aelod nôl yn gyntaf, wedi cwblhau eu cyrsiau.
A
1.5km. Byr a hawdd Dechrau - 21 -19 - 17 - 15 - 14 - 13 - 11 - 9 - Diwedd
B
2.5km Canolradd – Hawdd Dechrau - 24 - 23 - 8 - 5 - 6 - 3 - 7 - 10 - 13 - 19 - 22 - Diwedd
C
3.2km Mwy anodd Dechrau - 20 - 18 - 17 - 16 - 12 - 11 - 6 - 2 - 1 - 4 - 22 - Diwedd
Ch
NEU Sawl rheolfan gallwch chi ymweld â hi mewn amser penodol, 30 neu 45 munud dyweder.
DISGRIFIADAU O'R RHEOLFANNAU 1 2 3 4 5 6 7 8
Wal bridd, ochr y Gn Dryslwyn, pen D Adfail, cornel y DO Wal, pen DO Adfail, cornel y DO Cors, ochr y Gn Cornel wal Tro yn y clawdd
9 10 11 12 13 14 15 16
Cyffordd wal/ffens Cyffordd llwybr Clogfaen, ochr y Dn Cornel ffos Pwll, ochr y DO Llwybr yn croesi, ochr y Gn Adfail, cornel y DO Clogfaen, ochr y Gn
17 18 19 20 21 22 23 24
Dryslwyn, ochr y D Dryslwyn, ochr y Dn Cyffordd llwybr Tro yn y gwli Dryslwyn, ochr y GDdn Dryslwyn, ochr y D Cnwc ochr y GOn 5m Dryslwyn, ochr y D
Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol ym Mharc Singleton gyda help grant gan Gronfa Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru. Roedd adran Barciau Dinas Abertawe wedi gosod y marcwyr. Eich clwb lleol yw CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE a luniodd y map a chynllunio'r cwrs. I gael mwy o wybodaeth am gyrsiau parhaol lleol a digwyddiadau e-bostiwch contact@sboc.org.uk, neu ewch i wefan y clwb yn www.sboc.org.uk MWY O WEITHGAREDDAU Mae hamdden a champ cyfeiriannu'n ffynnu ym mhob rhan o'r wlad, wedi'i drefnu gan glybiau lleol, ac mae nifer o ddigwyddiadau bob wythnos, yn bennaf ar y Sul. I gael mwy o wybodaeth am gynnal eich diddordeb a'ch sgiliau, cysylltwch â'r canlynol: National Office, BRITISH ORIENTEERING FEDERATION, 8a Stancliffe House,Whitworth Road, Darly Dale, MATLOCK, Derbyshire DE4 2HJ Ffôn: 01629 734042 E-bost: info@britishorienteering.org.uk
Peter Ribbans, Ysgrifennydd Aelodaeth, CYMDEITHAS CYFEIRIANNU CYMRU 22 The Willows, RAGLAN, Gwent NP5 2HB
membership@WOA.org.uk