Partneriaeth Ddysgu Abertawe yw'r Bartneriaeth Strategol ar draws Dinas a Sir Abertawe sy'n atebol i Lywodraeth Cymru.
…Dysgu? Ein Gweledigaeth... Dyheadau'r Bartneriaeth yw:
Cynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn dysgu, addysg a hyfforddiant ymhlith pobl o bob oed Datblygu hyder pobl Abertawe gan wella eu cyflawniad, eu cyrhaeddiad a'u cyflogadwyedd Cynllunio a gweithredu ffyrdd o wella ansawdd, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a maint y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yn Abertawe. Cyfrannu at ddatblygiad economaidd, cymdeithasol, iechyd a lles, cynhwysiad digidol, amgylcheddol a chymunedol Abertawe. Mae Partneriaeth Ddysgu Abertawe yn aelod o'r Bartneriaeth Ddysgu a Sgiliau Rhanbarthol sy'n dod â phartneriaid addysg ac adfywio ynghyd i helpu i ddarparu dyfodol gwell i ddysgwyr ac i ddatblygu Cynllun Cyflawni Rhanbarthol ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau ar draws canolbarth a gorllewin Cymru yn unol ag ymagwedd strategol y dyfodol Llywodraeth Cymru at yr agenda cyflogaeth a sgiliau. Cliciwch yma i gael mwy o fanylion.
“ deilliannau addysg corfforol ''
LEFEL 1 Dechreuwyr, SESIYNAU Cyn Lefel RHAGFLAS TGAU MYNEDIAD
LEFEL 2 Cyfwerth â: TGAU NVQ 2
' LEFEL 4 Cyfwerth â: NVQ 4 LEFEL 3 BTEC HND Cyfwerth â: Gradd Lefel UG Safon Uwch NVQ 3 GNVQ Uwch
LEFEL 5 Cyfwerth â: NVQ 5 Ôl-radd
Coleg Gŵyr PCYDDS AABO, Prifysgol Abertawe AOC CGGA LLETS
Wyddech chi? Mae 93% o fyfyrwyr yn dweud bod ein darpariaeth yn Dda neu'n Dda iawn. Ffynhonnell: Arolwg 'Llais y Dysgwr Cymru' gan Ipsos MORI.
Siarter y Dysgwyr Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni: Gwybodaeth Gwybodaeth gywir (ffioedd, manylion y cyrsiau, mynediad) Cyngor ac arweiniad am ddim (gyrfaoedd, anghenion unigol, ffynonellau o gefnogaeth ariannol) Deunyddiau marchnata priodol Polisïau a gweithdrefnau clir
Canolfannau Dysgu Adnoddau sy'n briodol i'r hyn rydych yn ei ddysgu Amgylchedd diogel, croesawgar
Profiad Dysgu Cyflwyniad llawn gwybodaeth i'ch cwrs Addysg o safon uchel gan staff â chymwysterau priodol Amrywiaeth o gyrsiau Asesu rheolaidd ac adborth ar eich cynnydd Cefnogaeth ar gyfer eich anghenion unigol Cyfleoedd rheolaidd i chi gyflwyno sylwadau ar y cwrs
Mwy o Gyfleoedd Cyngor ar ble i fynd nesaf Cyfleoedd ar gyfer cynnydd Cyngor ar gyfleoedd cyflogaeth
Disgwylir eich bod chi'n: Parchu hawliau a theimladau pobl eraill Cymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu eich hun (dyddiadau cwblhau gwaith cwrs, presenoldeb prydlon a rheolaidd, rhoi gwybod i diwtoriaid am unrhyw newidiadau) Dilyn y rheolau o ran iechyd a diogelwch Trin yr amgylchedd dysgu â gofal a pharch Ein helpu i nodi arferion da er mwyn ffurfio a gwella dyfodol dysgu gydol oes yn Abertawe.
AABO Mae Adran Addysg Barhaus i Oedolion (AABO) Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfleoedd dysgu rhan-amser, yn seiliedig ar y gymuned ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru. Mae ein cyrsiau yn amrywio o sesiynau rhagflas byr a chyrsiau achrededig i dystysgrifau AU a gradd ran-amser mewn Dyniaethau. Mae'r cyrsiau yn hyblyg o ran amser yn ogystal â lleoliad. Gallwch astudio yn ystod y dydd neu gyda'r nos er mwyn cyd-fynd â'ch bywyd, ac mae'r rhan fwyaf o gyrsiau'n agored i unrhyw un, boed ganddo gymwysterau eisoes ai peidio. Ffôn: 01792 602188 E-bost: addysg.oedolion@abertawe.ac.uk Gwefan: www.swansea.ac.uk/dace
Coleg Gŵyr Abertawe Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol amser llawn a rhan-amser o lefel mynediad i lefel 5. Rydym yn cefnogi lles dysgwyr a'u hanghenion dysgu ychwanegol, ac yn darparu cyngor ac arweiniad ar arian, gyrfaoedd a chyfleoedd cynnydd. Ewch i'n gwefan neu ewch i un o'r desgiau yn nerbynfa'r campws i gael manylion am sut i wneud cais. Ffôn: 01792 284000/284450 Gwefan: www.coleggwyrabertawe.ac.uk
Carchar EM Mae carchar Abertawe yn cyflwyno sgiliau hanfodol, sgiliau TGCh a chyflogadwyedd i gefnogi carcharorion i ddod o hyd i swydd ar ôl cael eu rhyddhau. Mae'r carchar yn croesawu ein cysylltiadau â Phartneriaeth Ddysgu Abertawe i sicrhau y gall carcharorion barhau â'u dysgu yn y gymuned. Ffôn: 01792 485372 E-bost: mary.perrott@hmps.gsi.gov.uk
Addysg Oedolion Cymru Mae Addysg Oedolion Cymru yn darparu addysg mewn cymunedau lleol â'r nod o ffurfio'r dyfodol trwy ddysgu democrataidd. Rydym yn ymdrechu i ddiddymu rhwystrau i ddysgu ac adeiladu sgiliau ar gyfer hunanddatblygiad a chyflogaeth i hyrwyddo dinasyddiaeth, iechyd a lles. Mae'r cyrsiau'n cynnwys: ESOL, Sgiliau Hanfodol, Cyfrifiaduron, Celf a Chrefft, Gwerthfawrogi Cerddoriaeth a Llenyddiaeth, Cynrychioli Dysgu Cymunedol a llawer mwy. Ffôn: 01792 467791 Website: www.addysgoedolion.cymru
Dysgu Cymraeg Uned Dysgu Gydol OeS Mae Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Hyfforddiant Cyflogaeth (LLU) Dinas a Sir Abertawe yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch mewn lleoliadau cymunedol ar gyfer dysgwyr ôl-16. Mae'n gweithio i wella sgiliau cyflogaeth a rhagolygon oedolion. Mae'r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â'r Sectorau Addysg Bellach, Addysg Uwch a Gwirfoddol er mwyn ategu ei ddarpariaeth ac i greu llwybrau cynnydd ar gyfer dysgwyr. Mae'r cyfleoedd a gynigir yn cynnwys dosbarthiadau TG, Dysgu fel Teulu a Sgiliau Hanfodol, ynghyd â nifer o weithgareddau celf a chrefft. Ffôn: 01792 470171 E-bost: llsenquiries@swansea.gov.uk Gwefan: www.abertawe.gov.uk/dysgugydoloes
Bellach mae cyfleoedd gwell i ddysgu Cymraeg nag erioed o'r blaen. Ni waeth beth yw eich rhesymau dros ddysgu Cymraeg - ar gyfer y gwaith, y teulu neu i gael hwyl - gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r cwrs sy'n addas i chi. Rydym ym Mhrifysgol Abertawe a chynigir cyrsiau ar bob lefel ar draws Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr a Sir Benfro. Ffôn: (01792) 60 20 70 E-bost: dysgucym raeg@ abertawe .ac .uk Gwefan: www.swansea.ac.uk/cy/dysgucymraeg
CGGA Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe yn cynnig hyfforddiant o safon sy'n addas ar gyfer aelodau'r trydydd sector yn ardal Abertawe. Mae ein cyrsiau yn helpu i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder mewn sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr. Rydym yn cynnig cyrsiau achrededig a chyrsiau nad ydynt yn achrededig sy'n hygyrch ac yn fforddiadwy. E-bost: Training@scvs.org.uk Neu ewch i'r rhan hyfforddiant o'r wefan i gael mwy o wybodaeth: Gwefan: www.scvs.org.uk/services-fororganisations/training
PRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn sefydliad egnïol ac uchelgeisiol â champws yn Abertawe, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan. Mae'r brifysgol wedi'i gwreiddio'n gadarn yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu ac mae'n cynnal cysylltiadau agos â diwydiant, masnach a'r gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein holl gyrsiau wedi'u selio ar y gallu i ddefnyddio gwybodaeth mewn sefyllfaoedd go iawn, ac mae'r rhaglenni'n hyblyg er mwyn diwallu anghenion y rhai sydd ag ymrwymiadau gwaith a chartref prysur. Rhoddir croeso cynnes i fyfyrwyr aeddfed gan eu bod yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'w hastudiaethau, sydd o fudd i bawb ar y cwrs. Ffôn: 01792 481000 E-bost: enquiry@sm.uwtsd.ac.uk Gwefan: www.pcydds.ac.uk
Credydau llun: wedi'u cynnwys gyda chaniatâd caredig Becky Dix a Sian Sullivan.