SWANSEA | THEATR Y
GRAND THEATRE | ABERTAWE
Gwanwyn - Haf 2016
01792 475715
www.swanseagrand.co.uk
ONFA,808 R G 9 Y WM ROS £22 S N CYFA LACH D E A M R BEL Edrychwch ar sut E F D mae eich cyfraniadau at A
y Gronfa Adfer wedi galluogi’r awditoriwm i gael ei weddnewid.
Yn ogystal â hyn, mae’r ystafelloedd ymolchi blaen tˆy’n cael eu hadnewyddu. Mae prosiectau eraill yn yr arfaeth er mwyn gwella profiad ein cwsmeriaid ymhellach yn y dyfodol. CYN
AR ÔL
Placiau Teyrnged Ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig iawn wedi’i phersonoli neu eisiau rhoi neges deyrnged i anwylyd? Am £250 yn unig, gallwch brynu plac teyrnged a fydd yn aros ar sedd yn yr awditoriwm am bum mlynedd ar hugain.
Ewch i’n gwefan am fwy o fanylion. Diolch am eich cefnogaeth barhaus wrth ein helpu i godi’r arian hanfodol. Mae’r llyfryn hwn ar gael yn Saesneg. Ysbrydolwyd dyluniad y llyfryn gan nodweddion pensaernïol a’r cynllun lliwiau newydd yn Theatr y Grand Abertawe.
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Mer 4 Mai 1.00pm a 4.00pm
Iau 5 Mai 10.00am a 1.00pm
Syrpreis! Mae Peppa Pig, George a’u ffrindiau’n dychwelyd mewn sioe lwyfan fyw newydd sbon, Peppa Pig’s Surprise. Mae’n ddiwrnod braf ac mae Peppa yn chwarae’r tu allan gyda’i ffrindiau. Mae Mummy Pig a Daddy Pig wedi trefnu syrpreis iddi hi a George - dydyn nhw ddim yn gallu dyfalu beth yw e. Allwch chi?
Oedolion £10.00 - £16.50, Plant £8.00 - £14.50, Tocyn teulu (4) £58.00* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Gwe 6 Mai 7.30pm
Bydd Bye Bye Baby yn mynd â chi yn ôl trwy amser ar daith gerddorol trwy yrfa Frankie Valli & The Four Seasons. O’r cychwyn cyntaf yn y 1950au pan ymunodd Frankie â’r grˆ wp, bydd y sioe hon yn dathlu eu caneuon mwyaf llwyddiannus, megis Beggin’, Big Girls Don’t Cry, Let’s Hang On a Bye Bye Baby, gan arwain at ddiweddglo gwefreiddiol gwych.
£20.00* Mae consesiynau dethol ar gael
Sad 7 Mai 7.30pm
THE JOHNNY CASH ROADSHOW Yr unig sioe i’w chymeradwyo gan y teulu Cash! Croeso nôl i’r Johnny Cash Roadshow gyda’r canwr/cyfansoddwr caneuon mawr ei barch, Clive John. Nawr hyd yn oed yn fwy nag erioed, mae’r sioe yn cyflwyno’r Carter Sisters ac adran bres y JC Horns, gyda’r cyfan ar gefndir delweddau sgrîn sy’n ysgogi’r emosiynau. Heb os nac onibai, dyma’r dathliad gorau o Johnny Cash yn y byd.
£18.50 ac £20.50*
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Mer 11 - Sad 14 Mai 7.30pm, prynhawn Sad 2.00pm
Gyda Frank Vickery fel Tonto Evans, cyn-löwr, sy’n dwlu ar gerddoriaeth gwlad a gwerin ac sy’n hoff o wisgo fel Indiad America, gyda phenwisg plu a phopeth, ac sydd bellach wedi etifeddu arian. Mae’n breuddwydio am ymweld â’r Gorllewin Gwyllt a bwyta ffa ger tân gwersyll, ond mae gan Mair, ei wraig hir ei hamynedd ers tri deg o flynyddoedd, syniadau eraill. Fodd bynnag, mae eu holl gynlluniau’n gorfod cael eu rhoi o’r neilltu oherwydd ymchwiliad i lofruddiaeth...
£10.00 - £15.00*
Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson gyntaf (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Mae consesiynau dethol ar gael *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Maw 17 Mai 7.30pm Ymunwch â’r dathliad gwreiddiol a gorau o ganeuon mwyaf poblogaidd Motown gyda’r sioe wych, glodwiw, Dancing in the Streets. Mwynhewch egni a chyffro Dinas y Moduron mewn cynhyrchiad trawiadol llawn caneuon gwych. Gallwch ddisgwyl eich hoff ganeuon gan The Four Tops, The Temptations, Stevie Wonder a llawer mwy.
£25.00 a £27.00*
Mae consesiynau dethol ar gael
Maw 24 Mai Robert C Kelly, Óskar Eiriksson a GFour Productions LLC yn cyflwyno
7.30pm
Mae’r sioe hynod ddoniol hon yn llawn jociau un llinell a chaneuon parodi am byliau poeth a cholli’r cof. Dyma gomedi llawn canu a dawnsio gyda phedair menyw sy’n cwrdd ar hap ac yn gwneud hwyl ar ben eu bywydau llawn gwae wrth brofi ‘Y Newid Oes’.
£19.00 - £23.50* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Mer 18 - Sad 21 Mai 7.30pm, prynhawn Sad 2.00pm
Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Ian Ogilvy. Gyda ffefryn cynulleidfaoedd Abertawe, David Callister. Mae Brian Flowers a’i wraig yn cyrraedd eu gwyliau haf cyfnewid tˆy yn Sbaen i ddarganfod eu bod wedi cyfnewid tai yn ddiarwybod iddynt â gangster o Brydain. Mae’r helyntion yn gwaethygu ac mae’r ymgais i’w datrys yn mynd yn fwy gwirion wrth i gyn-bartneriaid gefeilliaid a chyrff marw’n dechrau ymddangos yn y ffars hynod ddifyr hon.
£9.50 - £16.00*
Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson gyntaf (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Perfformiad â dehongliad Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Iaith Arwyddion Iau 19 Mai 7.30pm
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Mer 25 Mai 7.30pm Yn dilyn ei pherfformiad clodwiw yng nghynhyrchiad y Watermill Theatre o Calamity Jane yn 2014, mae Jodie Prenger bellach yn ymgymryd â’r clasur o sioe gerdd Andrew Lloyd Webber a Don Black, Tell Me On A Sunday. Ar ôl yr egwyl, bydd Jodie yn cyflwyno Tell Me More, sgwrs agos ati am ei phrofiadau ei hun, sesiwn holi ac ateb a rhagor o ddatgeliadau cerddorol ar y ffordd.
£25.50 - £30.50*
Mae consesiynau dethol ar gael
Iau 26 Mai 2.15pm
A SALUTE TO THE 1940s THE DAD’S ARMY VARIETY SHOW SPECIAL Sioe amrywiaethol llawn caneuon gan y sêr a fu’n difyrru’r wlad yn ystod blynyddoedd tywyll y ddau ryfel byd: George Formby, Vera Lynn, Frank Sinatra, Gracie Fields, Max Miller a mwy. Gan gyd-fynd â ffilm newydd Dad’s Army, mae’r sioe hon yn cynnwys llawer o sgetshis gan ail-greu cast y rhaglen fythol poblogaidd.
£15.50* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Gwe 27 Mai 7.30pm Ffefrynnau glamrock, caneuon disgo poblogaidd, baledi pwerus ac anthemau parti gan ELO, Sweet, T.Rex, Queen, Elton John, David Essex, 10cc, Suzi Quatro, David Cassidy, The Carpenters, The Osmonds, The Bay City Rollers a mwy. Mae lleisiau rhagorol ynghyd â cherddorion sydd wedi perfformio gydag Ultravox, Mike Oldfield ac Asia yn addo profiad cerddorol gorau eich bywyd.
£22.50* Mae consesiynau dethol ar gael
Sad 28 Mai 7.30pm
PASHA IT’s ALL ABOUT YOU
Ar ôl ei daith lwyddiannus ledled y DU, Life Through Dance, mae Pasha Kovalev, enillwr Strictly Come Dancing 2014, yn eich croesawu i’w sioe ddawns gyffrous newydd, It’s All About You. Gallwch ddisgwyl noson arall o’ch hoff gerddoriaeth, dawnsio penigamp, egni a gwisgoedd ysblennydd. Adloniant gwych i’r teulu cyfan.
£18.50 - £24.50* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Maw 31 Mai 7.30pm yn cyflwyno
THE RONNIE SCOTT’S STORY
Yn syth o’r clwb jazz byd-enwog yn Llundain, bydd The Ronnie Scott’s All Stars, dan arweiniad cyfarwyddwr cerddorol y clwb, yn perfformio ar y llwyfan i ddathlu hanes Clwb Ronnie Scott. Gan gyfuno jazz fyw o safon ryngwladol o’r Ronnie Scott’s All Stars Quintet, troslais, a ffotograffau a fideo prin o’r archifau, mae The Ronnie Scott’s Story yn ddathliad gweledol a cherddorol o’r clwb o’i ddechrau diymhongar mewn bar islawr i’r lleoliad jazz presennol sydd wedi ennill clod rhyngwladol.
£16.50 - £21.50*
Mae consesiynau dethol ar gael
Gwe 3 Mehefin 7.30pm Teyrnged i un o’r uwch-grwpiau enwocaf erioed, The Traveling Wilburys, a oedd yn cynnwys pum eicon unigol: George Harrison, Roy Orbison, Jeff Lyne, Tom Petty a Bob Dylan.
£18.50 ac £20.50* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Mer 1 Mehefin 2.00pm a 4.30pm
Iau 2 Mehefin 11.00am a 2.00pm
Yn cyflwyno’r Tyranosor Rex i’r llwyfan, mae Dinosaur Zoo yn dod â’r creaduriaid cynhanesyddol dychrynllyd hyn yn fyw fel nad ydych erioed wedi’u gweld o’r blaen. O ddeinosoriaid bach annwyl i gewri â dannedd mawr danheddog, dewch i ryfeddu at ddeinosoriaid realistig anhygoel a rhyngweithio â nhw yn y sioe fyw ddychmygus a hynod ddifyr hon. Ond byddwch yn ofalus. Nid yw pob un o’r ymlusgiaid rheibus hyn mor ddof ag maen nhw’n ymddangos! “ANHYGOEL O DDA. Ddylai neb dros 3 oed sy’n dwlu ar ddeinosoriaid golli’r sioe hon!” Libby Purves, BBC Radio 4
£13.00 a £15.50* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Sad 4 Mehefin 7.30pm Byddai David Bowie’n ailddyfeisio ei gerddoriaeth a’i ddelwedd yn aml ac mae’n cael ei ystyried yn eang fel un o arloeswyr mwyaf dylanwadol dros y pum degawd diwethaf! Bu ei farwolaeth sydyn yn cyffwrdd â phobl ledled y byd, wrth i edmygwyr o bob oedran ddod ynghyd i alaru am un o gewri’r byd cerddoriaeth. Mae Ultimate Bowie yn talu teyrnged i waith y perfformiwr byd-enwog penigamp hwn.
£18.00*
Maw 7 Mehefin 7.30pm Os ydych yn hoffi cerddoriaeth a gitarau, byddwch yn DWLU ar y sioe hon! Mae Jimi Hendrix, Eric Clapton, Hank Marvin, Brian May a Slash yn rhai’n unig o’r arwyr gitâr eithriadol y bydd cyfle i chi fwynhau eu cerddoriaeth.
£20.00*
Caiff y cyngerdd byw arbennig hwn yn null ‘rockumentary’ ei berfformio gan gerddor clodwiw, hynod dalentog, Phil Walker, gyda chefnogaeth ei fand rhagorol.
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Iau 9 - Sad 11 Mehefin 7.30pm, prynhawn Sad 2.00pm
Mae chwe pherson wedi dod yn gyfrinachol ar Nos Galan Gaeaf i chwarae gêm ‘canfod pwy yw’r llofrudd’ mewn bwthyn gwledig ar ynys. Mae coridorau dirgel, llythyrau cyhuddol, adrannau cudd, cyrff yn y sedd ffenest a dirgelwch heb ei ddatrys ers pum mlynedd ar hugain yn arwain trwy hynt a helyntion at y diweddglo annisgwyl a brawychus.
£9.50 - £16.00*
Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson gyntaf (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Llun 13 Mehefin 8.00pm
14+
ADAM HILLS CLOWN HEART
Wedi’i ddisgrifio gan lawer fel ‘y dyn mwyaf hoffus ym myd comedi’, mae Adam Hills wedi prysur dod yn un o ddigrifwyr mwyaf poblogaidd y DU, gyda phymtheg sioe sydd wedi mynd ar daith dramor. Mae ei gyfuniad o gomedi cadarnhaol i godi’r hwyliau a’i natur ddigymell wedi ennill iddo sawl wobr, adolygiadau canmoliaethus a llu o edmygwyr o bedwar ban byd. “Os na allwch fwynhau Adam Hills, rhaid nad oes curiad calon gennych” The Scotsman
Maw 14 Mehefin
£21.50*
7.30pm
SAMANTHA BARKS Dewch i ymuno â Samantha Barks, seren y ffilm arobryn Les Misérables, ar ei thaith unigol gyntaf. Ar ôl dod i fri yn 2008 ar sioe dalent y BBC I’d Do Anything, gwefreiddiodd Samantha edmygwyr a beirniaid fel ei gilydd ac ers hynny mae wedi ymgymryd â’r prif rolau yn Cabaret ac Oliver!. Arweiniodd perfformiad Bark fel Éponine yng nghynhyrchiad y West End o Les Misérables at ei rôl ffilm gyntaf. Cafodd ei henwebu am Wobr y Screen Actors Guild a’i chyhoeddi’n Newydd£22.00 a £25.00* ddyfodiad Benywaidd Gorau Empire Magazine. www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Iau 16 a Gwe 17 Mehefin 6.30pm
£5.00* Dewch i fwynhau’r dathliad hwn o greu cerddoriaeth, gyda disgyblion o ysgolion cynradd o bob rhan o Ddinas a Sir Abertawe, gan gynnwsy ysgolion cynradd Waun Wen, Craigfelen, Pontarddulais, Blaenymaes, Illtud Sant, Terrace Road, Sgeti a Chwmrhydyceirw yn ogystal ag YGG Lôn-las ac YGG Gellionnen. Llywydd: Kevin Johns.
Sad 18 Mehefin 7.30pm
THE PROCLAIMERS Dros y blynyddoedd mae’r gefeilliaid, Craig a Charlie Reid, wedi cael llwyddiant aruthrol ledled y byd ac ym mis Ebrill y llynedd rhyddhawyd eu degfed albwm ar label Cooking Vinyl. Maent wedi cornelu’r farchnad lle mae pop, gwerin, new wave a phync yn gwrthdaro. Dewch i glywed y clasuron Sunshine on Leith, (I’m Gonna Be) 500 Miles, Letter From America, I’m on My Way, Let’s Get Married a mwy.
£29.00* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. *All tickets include a 50p Restoration Fund contribution. Online booking fee applies. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
BILL BAILEY LIMBOLAND
Maw 21 a Mer 22 Mehefin 8.00pm
Y bwlch rhwng sut rydym yn dychmygu ein bywydau i fod a sut maen nhw mewn gwirionedd yw testun sioe newydd Bill, Limboland. O’i deithiau ledled y byd, mae’n adrodd hanes difyr taith gyda’r teulu i Norwy i weld Goleuni’r Gogledd a aeth yn draed moch, mae’n cwyno am fyd nad yw’n cydweddu â’n disgwyliadau ac mae’n myfyrio ynghylch gwir natur hapusrwydd.
£25.50* 18+
Iau 23 Mehefin 7.30pm The Dreamboys yw sioe dynion stripio mwyaf poblogaidd y DU, yn berffaith ar gyfer noson mas gyda’r merched. Gan ymddangos fel gwesteion arbennig ar rai o raglenni teledu mwyaf adnabyddus y DU, megis The X Factor, Britain’s Got Talent, Celebrity Big Brother, Loose Women, This Morning a The Only Way Is Essex, nid yw’n rhyfedd bod The Dreamboys wedi ennill yr acolad o fod yr unig grˆ wp stripio gwrywaidd erioed i feddu ar statws selebs.
£17.50 - £27.50* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Gwe 24 Mehefin 7.30pm
MUGENKYO TAIKO DRUMMERS Dewch i brofi pˆ wer rhythmau taranllyd ar ddrymiau taiko anferth, coreograffi mygydau dirgel, cydamseriad perffaith, delweddau milwrol ôlapocalyps a hiwmor heintus - gyda’r cyfan yn berfformiad cyfareddol o egni pur. “Yn union pan oeddech yn meddwl nad oedd modd iddo fynd yn fwy pwerus, mae ei ddwysedd yn dyblu.” Edinburgh Evening News
£14.00 - £21.50* Mae consensiynau dethol ar gael
Sad 25 Mehefin 7.30pm
£20.50 a £22.50*
Mae’r sioe yn dathlu treftadaeth un o fandiau mwyaf llwyddiannus y byd, Eagles. Gyda cherddorion sydd wedi’u henwebu ar gyfer Grammy, mae’r band Ultimate Eagles, sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn atgynhyrchu caneuon clasurol megis Hotel California, Take It Easy a Desperado gyda chymaint o barch a chywirdeb fel y byddwch yn credu eich bod yn gwrando ar y peth go iawn!!
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Mer 29 Mehefin - Sad 2 Gorff 7.30pm, sioe brynhawn Sad 2.00pm
BLITHE SPIRIT Gan Noel Coward Yng nghomedi clasurol Noel Coward, mae’r cymdeithaswr a’r nofelydd, Charles Condomine, yn gwahodd y gyfryngwraidd ecsentrig, Madame Arcati, i’w dˆy er mwyn cynnal seans, gan obeithio casglu deunydd ar gyfer ei lyfr nesaf. Mae hyn yn mynd o chwith pan fo ysbryd ei wraig gyntaf ddiflas, Elvira, yn aflonyddu arno. Ar ôl y seans, mae hi’n ymdrechu’n barhaus i darfu ar briodas Charles â’i ail wraig, Ruth, nad yw’n gallu gweld na chlywed yr ysbryd.
£9.50 - £16.00*
Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson gyntaf (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
12+
Llun 4 Gorff 7.30pm Ers i Jeremy Corbyn ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, mae wedi trawsnewid ei blaid ei hun a’r ffordd mae gwleidyddiaeth yn cael ei chyflwyno yn y wlad. Mae taith #JC4PM yn dathlu ei wleidyddiaeth newydd gyda rhestr o ddigrifwyr, beirdd a siaradwyr penigamp.
£20.50 £50.50 Seddi premiwm* Mae consesiynau dethol ar gael
Maw 5 Gorff 7.30pm
THE BILLY FURY YEARS Wedi’i ganmol fel ‘y Fury gorau ers Fury’,mae Michael King a’i gasgliad gwych o gerddorion yn mynd â chi ar daith trwy yrfa gerddorol hoff seren roc a rôl Prydain. Dyma sioe gyffrous ddwy awr sy’n llawn caneuon mwyaf poblogaidd Billy Fury wedi’u perfformio yn null gwirioneddol Fury.
£18.50* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Mer 6 Gorff 7.30pm Mae’r Corners, fel y’u gelwid yn hoffus, wedi ennill parch selogion cerddoriaeth y 60au ym mhobman ac wedi cwblhau chwe thaith theatr genedlaethol. Mae ganddynt flynyddoedd o brofiad o gefnogi sêr eiconig o’r 60au megis Chip Hawkes, Chris Farlowe, Dave Berry, Mike d’Abo, Mike Pender, PP Arnold, Steve Ellis a Wayne Fontana ac enwi ond ychydig!
£18.50* Mae consesiynau dethol ar gael
Iau 7 Gorff 7.30pm
Ynghyd â’u hetiau porc-pei a’u sbectol haul, mae’r Brodyr chwedlonol yn dychwelyd ar eu Jailbreak Tour newydd sbon. Gyda mwy na dwy awr o’r blues, Motown, soul a chomedi gorau o ddwy ffilm y Blues Brothers, gan gynnwys y caneuon poblogaidd Everybody Needs Somebody, Soul Man, Respect a Shake a Tail Feather.
£19.50 a £23.00* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Adain y Celfyddydau Mer 4 ac Iau 5 Mai 7.15pm Shoreline Theatre yn cyflwyno
12+
Gan Dennis Potter
Stori gamarweiniol o syml sy’n adrodd gweithgareddau saith plentyn, sy’n cael eu chwarae gan oedolion, ar un prynhawn o haf yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Maent yn rhedeg, yn chwarae ac yn ymladd mewn coed, cae ac ysgubor; mae eu dicter, eu hymrysonau a’u hofnau’n adlewyrchu sut mae oedolion yn rhyngweithio â’i gilydd.
£8.50, £6.50* Consesiynau Maw 10 Mai
DDIAD GWAHO IO IN IG
7.30pm Dewch i ginio gyda ni sy’n cyfuno bwyd a chomedi o safon yn null Only Fools and Horses. Mae Marlene a Boycie yn cynnal cinio gala, ond a fydd pethau’n mynd yn ôl y bwriad gyda Del, Rodney ac Uncle Albert ar restr y gwesteion? Dylech ddisgwyl noson llawn anhrefn a llanast.
£41.00* (Gan gynnwys pryd 3 chwrs a choffi) I weld y fwydlen, ewch i www.swanseagrand.co.uk
*All tickets include a 50p Restoration Fund contribution. Online booking fee applies.
Adain y Celfyddydau Iau 12 Mai 1.00pm a 7.15pm Cwmni Theatr Fluellen yn cynnwys
TAFFY SHAKESPEARE gan Francis Hardy Mae Kevin Johns yn dychwelyd fel Ianto Pugh, a adawodd Gymru er mwyn chwilio am gyfoeth a chlod yn Llundain fel digrifwr llwyfan ond sydd bellach yn ysgrifennu dramâu Shakespeare (neu dyna beth mae’n ei ddweud!).
Nos £10.00, £8.00* Consesiynau Prynhawn £8.00, £6.00* Consesiynau Mer 18 ac Iau 19 Mai 7.15pm
£8.50, £6.50* Consesiynau Coleg Gwyr ˆ Abertawe’n cyflwyno
CONTEMPORARY THEATRE SHOWCASE Yn sgîl llwyddiant Oedipus, mae myfyrwyr o’r Cwrs Actio Un Flwyddyn yn dychwelyd i berfformio darn cyfoes dan gyfarwyddyd Mike Waters, darlithiwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Antic.
Sad 21 Mai 11.00am - 4.30pm
DIWRNOD AGORED WISEMAN STAGE SCHOOL Dewch i wylio ein disgyblion mewn amgylchedd dosbarth yn dangos i chi’r hyn maen nhw’n ei wneud bob wythnos yn ogystal â’r holl ganolbwyntio a gwaith caled sy’n cael eu rhoi i’w hyfforddiant. E-bostiwch wisestage@gmail.com neu ffoniwch 07769 990997 am fwy o wybodaeth
Oedolion £6.50, Plant £5.50*
Gwe 27 Mai 2.00pm
PRYNHAWN GYDA KEV JOHNS A’I WESTEION
Maw 31 Mai
Bydd Ben Thomas, aelod talentog o Ymddiriedolaeth Syr Harry Secombe, yn ymuno â Kev. Pan oedd Ben yn 10 oed, fe berfformiodd yn Godspell gan y Gorseinon Players a chyfwelodd Kev ag ef fel y perfformiwr ifancaf i chwarae Ioan Fedyddiwr.
£8.50*
7.00pm Groundswell Dance Company yn cyflwyno
Bydd myfyrwyr Groundswell Dance Company yn rhoi enghreifftiau o’u gwaith mwyaf gwreiddiol a diweddar hyd yma, wrth arddangos eu cynnydd parhaus a’u sgiliau fel dawnswyr a pherfformwyr.
£8.00, £6.50* Consesiynau Gwe 3 Mehefin 1.00pm a 7.15pm Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno
LEIR & CO
Drama newydd gan Ron Meldon Mae cyfres Shakespeare 400 Fluellen yn parhau gyda drama newydd ragorol gan Ron Meldon sy’n rhoi tro modern i stori King Lear.
Nos £10.00, £8.00* Consesiynau Prynhawn £8.00, £6.00* Consesiynau
Mer 8 Mehefin
10+
7.45pm
Arwr ysbrydolus. Rebel amherffaith. Athrylith tactegol. Gwrthryfelwr. 200 mlynedd ar ôl tanio, mwg a mwstwr Trafalgar, mae Nelson yn edrych ar y byd o frig ei golofn â llygad eironig a sylwgar. Mae’n cynnwys trafodaeth ar ôl y sioe.
£10.00, £8.00* Consesiynau Gwe 10 Mehefin 8.00pm Gerundagula Productions yn cyflwyno
MEET THE REAL MAGGIE THATCHER Mae Meet the Real Maggie Thatcher yn rhoi mewnwelediad diddorol a diarbed, weithiau, i un o arweinwyr gwleidyddol mwyaf dadleuol ein hoes. Wedi’i henwebu am y Ddramau Orau yn y Gwobrau Theatr Stiwdio Cenedlaethol 2014.
£10.00, £8.00* Consesiynau Sad 11 Mehefin 7.45pm
GYLES BRANDRETH
16+
WORD POWER!
Dysgwch hi! Defnyddiwch hi! Goresgynnwch y byd! Mae iaith yn bwerus. Dewch i wrando ar enillwr gwobr Gw ˆ yl Ymylol Caeredin, Gyles Brandreth, meistr ffraethineb a gair, ar daith hynod ddifyr ac annisgwyl ar garped hud o gwmpas byd rhyfeddol geiriau.
£18.50*
Adain y Celfyddydau
DDIAD GWAHO IO IN G I
Maw 14 Mehefin 7.30pm Dewch heibio i’r caffi diymhongar hwn am noson i’w chofio wrth i René jyglo gyda’r Gestapo, y Gwrthsafiad, ei garwriaethau dirgel a’i wraig, Edith. Sioe cinio comedi ddigri’ dros ben na ddylech ei cholli!
£41.00* (Gan gynnwys pryd 3 chwrs a choffi) I weld y fwydlen, ewch i www.swanseagrand.co.uk
Sad 9 Gorff 6.00pm
NOSON O CHWERTHIN A DAGRAU Dewch i ymuno â myfyrwyr iau a hˆyn o Ysgol Drama a Theatr Gerdd Theatr y Grand am noson o chwerthin a dagrau gyda chaneuon, drama a chomedi.
£7.00, £5.50* Consesiynau
Sad 16 Gorff 1.30pm
BAD GUYS DYNION BACH, TRAFFERTH MAWR Mae Derek, Ernie a Dick wedi syrffedu ar fod yn dda. RHAID bod mwy o hywl i’w gael trwy fod yn ddihirod. Dewch i weld sêr “Spot Bots”, sef y Three Half Pints, mewn comedi newydd hynod ddoniol llawn anhapon, sy’n berffaith i deuluoedd â phlant 5-11 oed.
Plant £10.50, Oedolion £6.50, Teulu (4) £29.00*
Digwyddiadau Rheolaidd Mer 25 Mai a 29 Mehefin 8.00pm
16+
Yn chwerthin ers 1999. Dewch i weld sêr comedi’r dyfodol, heddiw! Os yw’n hawdd tramgwyddo yn eich erbyn, cadwch draw!
£11.00*
Iau 26 Mai a 14 Gorff
1.30pm Dawnsio’r Prynhawn Ymunwch â ni am brynhawn arbennig o ddawnsio dilyniant a neuadd hawdd. Mae croeso i bawb, yn enwedig y rhai 50 oed a hˆyn. Darperir lluniaeth.
£4.00* 28 Mai 12.30pm
Cefn Golau gan Jaye Swift
25 Mehefin Sliding Doors 12.30pm gan Kelsey Jade Richards 30 Gorff 12.30pm
A Completely Professional Person gan Glen Davies
£6.00, £4.50* Consesiynau FFILMIAU DYDD GWENER Gwe 29 Gorff Only Two Can Play 2.00pm (1962) Gwe 5 Awst How Green Was 2.00pm My Valley (1941) Gwe 12 Awst Zulu (1964) 2.00pm
£5.50 y f film neu gwyliwch y 3 am £13.50*
Dewch i fwynhau dangosiad prin o dair ffilm glasurol â chysylltiad Cymreig. Hefyd rhoddir cefndir addysgiadol a ffeithiau difyr am bob ffilm.
Sad 18 Mehefin ac 20 Awst 8.00pm Bluestocking Lounge yn cyflwyno
Burlesque
18+
Disgwylir i’r tymheredd codi’r haf hwn gyda’r seren brydferth ryngwladol, Bettsie BonBon, a’r perfformiwr polyn boylésg arobryn, Sir Midnight Blues, ym mis Mehefin. Prif act y sioe ym mis Awst fydd Whisky Falls benigamp.
£15.50* Sad 13 Awst 10.00am - 4.00pm
Mynediad Am Ddim
Llun 22 - Gwe 26 Awst
Yn galw ar bob ddarpar seren theatr gerdd! Bydd pedwar gweithiwr proffesiynol o’r West End yn cynnal gweithdy wythnos yn Adain Gelfyddydau Theatr y Grand Abertawe. O ddydd Llun i ddydd Iau caiff y dyddiau eu rhannu’n sesiwn fore ac yn sesiwn brynhawn; bydd y bore ar gyfer plant 7-11 oed a’r prynhawn ar gyfer y rhai 12-17 oed. Bydd y ddau grˆ wp yn dod ynghyd ddydd Gwener 26 Awst i weithio ar ddarn i’w berfformio am 6pm y noson honno (£4.00).
25 lle yn unig sydd ar gael ar gyfer pob sesiwn am £50.00 yr un Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01792 475715 i gadw lle
Mae’r cyfle hwn yn werth gwych am arian ac mae’r prosiect y West End yn Abertawe wedi cael ei ariannu’n rhannol trwy grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru a sicrhawyd gan Dîm Celfyddydau mewn Addysg Dinas a Sir Abertawe.
Cyfarfodydd a Chynadleddau Ydych chi wedi ystyried defnyddio Theatr y Grand Abertawe ar gyfer eich digwyddiad nesaf? Rydym wedi trefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, o sesiynau hyfforddi bach i gynadleddau rhyngwladol. Ffoniwch Carol ar Abertawe Swansea 478586 neu e-bostiwch carol.rowden@swansea.gov.uk
Arddangosfeydd Maw 3 Mai - Gwe 3 Mehefin Prifysgol Cymru’r Lefelau 1 a 2 a’r Ystafell Wen Drindod Dewi Sant Maw 7 - Gwe 1 Gorff Coleg Gˆ wyr Lefelau 1 a 2 a’r Ystafell Wen Maw 5 - Gwe 15 Gorff Ysgol Tregwyr ˆ Lefelau 1 a 2 a’r Ystafell Wen Maw 19 - Gwe 29 Gorff Lefel 1
Grwp ˆ Celf Llwchwr
Maw 19 - Gwe 29 Gorff Ystafell Wen
Dwlu ar y geiriau a’r lluniau
Maw 19 - Gwe 29 Gorff Lefel 2
Cyfeillion y Glynn Vivian
Maw 2 - Gwe 8 Awst Arddangosfa Lefelau 1 a 2 a’r Ystafell Wen BEEP Maw 9 - Gwe 26 Awst Lefel 1 a’r Ystafell Wen
Gˆ wyl Wnïo Abertawe
Mer 31 Awst - Gwe 9 Medi Lefelau 1 a 2
Cystadleuaeth International Images for Science
Am fanylion llawn, ewch i www.swanseagrand.co.uk
Gwe 8 Gorff
ROY CHUBBY BROWN
7.30pm
16+
Mae Roy Chubby Brown yn athrylith comedi ac yn un o ddigrifwyr mwyaf doniol y byd. Ystyrir nad yw ei berfformiadau ysgytwol yn addas i deledu’r brif ffrwd, ond mae ei fideos a’i DVDs yn gwerthu yn eu miliynau. Mae hefyd wedi mynd â’i frand o hiwmor ledled y byd, gyda llwyddiant anferthol yn Awstralia, y Dwyrain Canol, UDA a Hong Kong. Rhybudd: os yw’n hawdd eich tramgwyddo, cadwch draw.
£21.50*
Sad 9 Gorff 7.30pm
A DEREK ACORAH SPECIAL Ymunwch â Derek Acorah mawr ei fri mewn digwyddiad arbennig, gyda thri chyfryngydd gwadd arall ynghyd â’r dyn ei hun yn fyw ar y llwyfan mewn cyflwyniad unigryw. Wedi’i adnabod ledled y byd fel un o’r enwau mwyaf blaenllaw ym myd ffenomena seicig, mae Derek yn ‘gyfryngwr cwbl fodern’ gwirioneddol sy’n apelio at bob cenhedlaeth. Sioe ymchwiliadol at ddiben adloniant.
£20.00* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
FROM THE TEAM THAT BROUGHT YOU DREAMBOATS AND PETTICOATS
THE GREATEST SUMMER HOLIDAY OF THEIR LIVES!
Featuring
ANTONY COSTA from Blue
Including the smash hits...
A TEENAGER IN LOVE 9 SWEETS FOR MY SWEET TURN ME LOOSE 9 LITTLE SISTER 9 SUSPICION HIS LATEST FLAME 9 CAN’T GET USED TO LOSING YOU SAVE THE LAST DANCE FOR ME and many more...
‘A SHOW THAT HITS ALL THE RIGHT NOTES’ THE ARGUS
Mae’r lluniau’n dangos y cast blaenorol
BILL KENWRIGHT AND LAURIE MANSFIELD PRESENT SAVE THE LAST DANCE FOR ME By LAURENCE MARKS & MAURICE GRAN FEATURING THE HITS OF DOC POMUS & MORT SHUMAN AND MANY MORE...
‘A FEEL-GOOD ‘JUKEBOX’ MUSICAL DELIVERED IN RIP-ROARING STYLE’ THE TELEGRAPH
O’r tîm a oedd yn gyfrifol am sioe hynod lwyddiannus Dreamboats and Petticoats, bydd Save the Last Dance for Me yn mynd â chi’n ôl trwy ‘gerddoriaeth a hud’ y 60au cynnar, cyfnod pan oedd pob wythnos yn cyflwyno clasur roc a rôl arall. Bydd y daith hiraethlon hon yn codi’ch hwyliau wrth fynd â chi’n ôl i oes aur cerddoriaeth gan ddilyn dwy chwaer yn eu harddegau trwy haf ‘63. Am y tro cyntaf heb eu rhieni, mae’r chwiorydd yn mynd ar wyliau i lan y môr. Yn llawn rhyddid a hwyliau da, maent yn cwrdd ag Americanwr ifanc golygus sy’n eu gwahodd i ddawns yn y ganolfan llu awyr Americanaidd leol. Ond nid yw cariad ifanc a rhamant gwyliau byth mor syml â’r syniad ohonynt, ac yn fuan mae’r chwiorydd yn sylweddoli bod bywyd a chariad yn gallu bod yn fwy lliwgar na’r byd sy’n dal yn gwylio’i hun mewn du a gwyn.
Llun 11 - Sad 16 Gorff 7.30pm, Mer a sioe brynhawn Sad 2.30pm
£12.00 - £29.00*
Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson gyntaf (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Mae rhai consensiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Llun 18 Gorff
Mellin Theatre Arts yn cyflwyno
7.00pm
XSCAPE TO THE BEAT
Ysgol ddawns leol yn Theatr y Grand Abertawe yw Mellin Theatre Arts ac mae eu sioe ddwywaith y flwyddyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc leol berffformio ar lwyfan y theatr. Dewch i gefnogi’r myfyrwyr sy’n perfformio amrywiaeth o ganeuon a dawnsio, gan gynnwys bale, jazz, modern, hip hop a thapddawnsio, yn ogystal â darnau o theatr gerdd.
Oedolion £10.50, Plant £8.00* Gwe 22 Gorff 7.30pm
The Bohemians yw’r band teyrnged Queen mwyaf deinamig a chyffrous sy’n teithio’r DU, Ewrop a’r byd ar hyn o bryd. Wedi’i sefydlu ym 1996, mae The Bohemians yn ail-greu cyfnod Queen ar ei anterth, gan gynnwys gwirionedd y 70au a swyn yr 80au.
£19.00* Mae consesiynau dethol ar gael
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Maw 19 - Iau 21 Gorff
Maw a Mer 6.30pm Iau 1.30pm a 4.30pm
Gydag enillwyr Britain’s Got Talent, Ashleigh a Pudsey. Mae ysbïwr diweddaraf Prydain wedi’i ryddhau oddi ar ei dennyn... ac yn barod am antur! Eich gorchwyl, petaech yn ei dderbyn, yw ymuno â ni am antur sbïo ryngweithiol sy’n addas i’r teulu cyfan, gyda hoff enillwyr Britain’s Got Talent pawb. Rhaid i’r cudd-ymchwilwyr, Ashleigh and Pudsey, drechu eu carn-elyn Dr Feline a’i gathfyrgleriaid acrobatig sydd am reoli’r byd. Mae angen eich help chi ar Ashleigh a Pudsey i ddod o hyd i gliwiau a datrys codau a phosau, ac, yn y diwedd, byddwch yn curo’ch ‘pawennau’ mewn cydnabyddiaeth o’r ci dawnsio gorau!
Oedolion £15.50, Plant £12.50, Tocyn teulu (4) £50.00* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Llun 25 Gorff 1.30pm a 4.00pm
Ewch, ewch ewch, dihunwch LazyTown i sioe egnïol, ryngweithiol, gyffrous newydd sbon sy’n llawn i’r ymylon gyda chanu, dawnsio, acrobateg, cerddoriaeth a hwyl. Mae Robbie ar ei fwyaf drygionus a Sportacus ar ei orau arwrol wrth iddo ymuno â Stephanie i annog Ziggy i ddilyn ffordd fwy heini o fyw. Gyda No One’s Lazy in LazyTown, Bing Bang a Never Say Never. Yn addas i’r rhai 3 i 103 oed!
Oedolion £13.00, Plant £10.50, Tocyn teulu (4) £42.00* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Maw 26 Gorff 7.00pm Mer 27 Gorff 2.00pm & 6.00pm
6+
Ewch yn nes at y cyffro nag erioed o’r blaen wrth i’r sioe deuluol ryngweithiol a gwefreiddiol hon fynd â chi y tu ôl i lenni eich hoff ffilmiau i ddarganfod y wyddoniaeth a’r cyfrinachau sydd ynghlwm wrth greu effeithiau arbennig ffilmiau. Teimlwch y gwres o dân mawr ar y llwyfan, rhyfeddwch at angenfilod ffuglen wyddonol erchyll, cewch eich ysgwyd gan dywydd apocalyptaidd a sefwch yn gadarn trwy ffrwydradau anferth!!
Gwe 29 Gorff
£13.00 a £14.50*
7.30pm
SOUNDS OF THE 50s LIVE MAE SIOE RADIO’R BOBLOGAIDD YN DOD YN FYW! Yn dilyn ei gyfres boblogaidd ar Radio 2 y BBC, mae Leo Green yn cyflwyno Sounds of the 50s Live. Mae ei gerddorion a’i gantorion yn canu ffefrynnau Elvis, Buddy Holly, James Brown, Sam Cooke, Bill Haley, LIVE! Frankie Laine, The Drifters, Julie London, Peggy Lee, THE HIT RA DIO COMES TO 2 SHOW Cliff Richard, Jackie Wilson LIFE! LEO GREEN PRESENTS a llawer mwy, gyda’r cyfan SOUNDS OF THE 50’s LIVE ON STAGE WITH HIS MUSICIANS & SINGERS!!! yn troi o gwmpas straeon The SOUNDS OF THE 50’s band Leo a’i sacsoffon. Y caneuon gorau o’r degawd gorau yn THE GREATEST SONGS FROM THE hanes cerddoriaeth! GREATEST DECADE OF MUSIC! will
perform hits ELV IS, from the likes SAM COO BUDDY HOLLY, JAM of KE, ES BROWN BILL HALEY RAY CHARLES, , FATS , FRA NKIE LAINE, THE DOMINO, FRA DRIFTERS, JULIE LON NKIE LYMON & THE DON, CLI TEENAGER NEIL SED FF RIC S, AKA, JAC HA KIE WILSO RD, PEGGY LEE , N & MANY MORE
£15.50 - £21.50*
THE NEXT ‘SOUNDS OF THE 50’S ON BBC RADIO 2 WITH LEO GREEN’ WILL BEGIN ON APRIL 4TH 2016.
LIVE!!!
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Maw 2 - Sad 6 Awst 7.30pm, prynhawn Sad 2.00pm
gan James Cawood
George Telfer (Emmerdale)
Corrinne Wicks (Doctors, Emmerdale)
Hen gaban hela anghysbell yn ucheldiroedd yr Alban yw lleoliad y ddrama ias a chyffro ddiweddaraf gan James Cawood (Stone Cold Murder). Mae dramodydd enwog a’i wraig yn aros am gyrhaeddiad ei awen newydd, actor ifanc swynol a charismatig sy’n benderfynol o gael rôl yng nghynhyrchiad diweddaraf y dramodydd. Mae’r hyn sy’n dechrau fel clyweliad diniwed ei olwg, er macâbr, yn troi’n fuan yn noson o droeon annisgwyl gan arwain o’r diwedd at ... lofruddiaeth.
£9.50 - £16.00*,
Ewch i weld y Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson gyntaf ddwy ddrama (mae amodau a thelerau’n berthnasol) am £21.00 ▲ Rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Drama ddwbl
Maw 9 - Sad 13 Awst 7.30pm, prynhawn Sad 2.00pm
Gary Turner (Emmerdale)
Neil Roberts (Holby, Emmerdale)
Kim Taylforth (London’s Burning)
MAE GAN BAWB ANGHENFIL Y TU MEWN IDDYNT. Mae Dr. Henry Jekyll yn credu bod gan ddynion ddwy ochr bendant: un dda, un ddrwg. Ac yntau’n benderfynol o wahanu’r ddwy, mae’n llwyddo yn ei arbrofion. Fodd bynnag, wrth wneud hyn mae’n rhyddhau Hyde, hunan arall erchyll nad oes modd ei reoli. Paratowch i gael eich dychryn yn arw mewn addasiad dramatig newydd o glasur a melodrama Gothig llawn awyrgylch Robert Louis Stevenson.
£9.50 - £16.00*,
Ewch i weld y Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson gyntaf ddwy ddrama (mae amodau a thelerau’n berthnasol) am £21.00 ▲ Rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Mer 17 Awst 7.30pm
ARRIVAL UK Arrival UK yw un o’r bandiau teyrnged Abba y mae’r galw mwyaf amdanynt yn y byd erbyn hyn, ac maen nhw wedi perfformio i gynulleidfaoedd llawn yn y DU, Ewrop, UDA, Rwsia, Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia.
£18.50*
Gwe 19 Awst 7.30pm
TOTALLY TINA Sioe rifiw deyrnged arobryn i frenhines y byd roc, sydd wedi ennill clod rhyngwladol. Gyda band byw â chwe aelod, pedwar dansiwr trawiadol a gallu anhygoel Justine i ddynwared Brenhines Roc a Soul o’r dyddiau cynnar i ddychweliad unigol Tina yn yr 80au, mae’r deyrnged hon yn Simply the Best.
£20.00*
Mae consesiynau dethol ar gael
Maw 16 Awst 7.30pm
ACϟDC UK Mae ACϟDC UK yn cyfleu holl gyffro llwyfan ACϟDC i’r dim. Maen nhw’n edrych yr un peth, maen nhw’n swnio’r un peth ac maen nhw’n ail-greu awyrgylch cyngerdd roc a rôl ACϟDC yn fyw. Back in Black, Dirty Deeds, Thunderstruck, You Shook Me All Night Long, Highway To Hell a llawer mwy.
£18.50* Iau 18 Awst
Mae consesiynau dethol ar gael
7.30pm
ARE YOU EXPERIENCED? The Jimi Hendrix Experience Band teyrnged gorau’r byd i Jimi Hendrix. Pan fyddwch yn gwrando ar Are You Experienced? gyda John Campbell, byddwch yn gwybod bod rhywbeth arbennig iawn yn digwydd. Mae’r gwaith gitâr yn berffaith ac yn swynol o ddeheuig ar yr un pryd. Y llais YW Hendrix ac mae tebygrwydd corfforol John Campbell i Hendrix yn drawiadol. Sweeney Entertainments yn falch o gyflwyno
T.REXTASY I Love to Boogie Mae’r band hwn bellach wedi’i gynabod fel yr unig fand deyrnged byw swyddogol yn y byd sy’n ymwneud yn benodol â Marc Bolan a T.Rex a’r unig fand sydd wedi’i gymeradwyo gan deulu ac ystâd Marc Bolan a chynaelodau gwreiddiol T.Rex.
£18.00 a £19.50*
£18.00* Sad 20 Awst 7.30pm
‘A STUNNING PRODUCTION.
FABULOUS FROM BEGINNING TO END. DESERVES TO BE ONE OF YOUR FAVOURITE THINGS’ DAILY ECHO
LUCY E O’BYRNp Runner U in last year’s THE VOICE as Maria
Bill Kenwright presents A NEW PRODUCTION OF
THE SOUND OF MUSIC Music by
Lyrics by
RICHARD
OSCAR
RODGERS HAMMERSTEIN II Book by
HOWARD and RUSSEL LINDSAY CROUSE Suggested by ‘The Trapp Family Singers’ by Maria Augusta Trapp Presented by special arrangement with R&H Theatricals Europe www.rnh.com
‘LUCY O’BYRNE IS QUITE POSSIBLY THE BEST MARIA SINCE JULIE ANDREWS HERSELF’ THE SCOTSMAN
Perfformiad â disgrifiad sain Iau 25 Awst 2.30pm
‘A REAL JOY’
‘HEAVENLY’
THE STAGE
EVENING NEWS
Bydd un o’r sioeau cerdd gorau erioed yn dychwelyd i’r llwyfan mewn cynhyrchiad gwych newydd i swyno y rhai ifanc a’r rhai sy’n teimlo’n ifanc. Mae’r cynhyrchiad newydd ysblennyd hon yn adrodd stori wir y teulu byd-enwog o gantorion, o’r dechrau rhamantaidd a’u chwiliad am hapusrwydd i’w dihangfa gyffrous i ryddid ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd.
‘BRILLIANT’
Mae LUCY O’BYRNE, yn syth ar ôl ei llwyddiant ar raglen y BBC, The Voice, yn chwarae’r brif rôl, Maria. Daeth yn ail yn y gystadleuaeth yn gynharach eleni, gan greu argraff fawr ar y wlad ac ar y canwr llwyddiannus will.i.am gydag ystod syfrdanol ei llais. Mae’r sgôr fythgofiadwy’n cynnwys rhai o’r caneuon mwyaf cofiadwy i gael eu perfformio erioed ar lwyfan, gan gynnwys Edelweiss, My Favorite Things, Do-ReMi, Climb Ev’ry Mountain, So Long Farewell ac, wrth gwrs, The Sound of Music.
Maw 23 Sad 27 Awst 7.30pm, Mer, Iau a phrynhawn Sad 2.30pm
£19.50 - £39.50*
Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson gyntaf (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Cynnig hanner pris i blant ar gyfer perfformiadau a seddi dethol Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Mae’r lluniau’n dangos y cast blaenorol
THE MAIL
Mer 31 Awst 12.30pm a 3.00pm Aliens love underpants Of every shape and size But there are no underpants in space So here’s a big surprise! Mae’r stori ryfedd a doniol hon, sy’n seiliedig ar y llyfr poblogaidd i blant, yn cael ei hail-greu ar y llwyfan am y tro cyntaf erioed. Gydag effeithiau syfrdanol, anturiau gwirion, cerddoriaeth wreiddiol (a llawer o estroniaid wrth gwrs!), bydd y cynhyrchiad newydd sbon a doniol hwn yn difyrru’r teulu cyfan. Byddwch yn chwerthin eich TRÔNS bant! “Sioe wych i’r teulu cyfan” Primary Times Aliens Love Underpants © Claire Freedman and Ben Cort 2007
£13.00* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Sad 23 Gorff 10.00am - 4.00pm
Diwrnod Grand Mas Ymunwch â ni am ddiwrnod agored yn Theatr y Grand Abertawe
Perfformiadau drama/cerddorol Arddangosiadau technegol Teithiau y tu ôl i’r llenni Celf a chrefft Adrodd straeon MYNE DIA AM D Raffl DDIM Gemau drama Am y manylion llawn, ewch i www.swanseagrand.co.uk
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
‘THE BIGGEST LIVE THEATRE SENSATION OF ALL TIME’ THE OBSERVER
THE RECORD-BREAKING INTERNATIONAL SENSATION
LLun 12- SAD 17 Medi 2016
H ET A F AR R Y YN
H ET A RF A LLUN 3 - SAD 8 HYD 2016 YR YN FOLLOWING TEN YEARS OF THE AGATHA CHRISTIE THEATRE COMPANY A NEW CHAPTER - FROM THE WRITERS OF MURDER, SHE WROTE BILL KENWRIGHT
PRESENTS
ADAPTED FOR THE STAGE BY DAVID ROGERS
G TO ASTIN STAR C NOUNCED N BE A
DIRECTED BY ROY MARSDEN Mae Bill Kenwright yn cyflwyno cynhyrchiad newydd gan dîm ysgrifennu talentog arobryn Levinson and Link, y mae eu gwaith yn cynnwys y cyfresi ditectif Murder, She Wrote a Columbo. Mae calon y dramodydd Alex Dennison yn torri pan gaiff corff Monica Welles, ei ddyweddi a’i brif actores, ei ddarganod a hithau wedi marw ar ôl lladd ei hun, mae’n debyg. Flwyddyn yn union ers y noson dyngedfennol honno, mae Alex yn galw’r un cast a chriw ynghyd yn yr un theatr ar gyfer darlleniad o’i ddrama newydd. Ond wrth i’r darlleniad ddechrau, mae’n dod yn amlwg bod Alex yn credu y cafodd Monica ei llofruddio ac mae’n bwriadu dod o hyd i’w llofrudd...
AR WERTH NAWR!
ETH ARFA R Y YN
MAW 18 SAD 22 HYD 2016
LLUN 23 SAD 28 ION 2017
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Ysgol Drama a Theatr Gerdd Theatr Y Grand 3 oed hyd at oedolion Amserau’r dosbarthiadau: O ddydd Llun i ddydd Gwener, 4.30pm - 9.30pm Ffoniwch Maria King ar 07974 345909
Teithiau y tu ôl i’r
Llenni
Ydych chi erioed wedi eisiau gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i len y theatr?
Sad: 14 Mai, 21 Mai, 11 Mehefin, 16 Gorff, 6 Awst, 13 Awst 10.00am. Mae’n hanfodol cadw lle. 01792 475715. Oedolion £5.50, plant £3.00
Mwynhau’r Theatr Am chwarae mwy o ran? Yna ymaelodwch â Chlwb Theatr y Grand Abertawe
£10 Oedolion
Ffoniwch 01792 475715
£25 Teulu (2 oedolyn, 2 aelod iau)
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.grandtheatreclub.org.uk
www.swanseagrand.co.uk
£5 Aelodau Iau (dan 17).
01792 475715
Cefnogaeth Mae Theatr y Grand Abertawe yn eiddo i Ddinas a Sir Abertawe, sy’n ei hariannu a’i rheoli. Darperir cefnogaeth ariannol hefyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Aelod y Cabinet dros Adfywio: Cyng. Robert Francis-Davies, Pennaeth Diwylliant a Thwristiaeth: Tracey McNulty.
Cysylltiadau theatr: Rhif ffôn: 01792 475242 E-bost: paul.hopkins2@swansea.gov.uk Mae Theatr y Grand, Abertawe yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth y mae’n ei derbyn gan y sefydliadau canlynol. Os bydd gan eich cwmni ddiddordeb mewn cefnogi’r theatr, cysylltwch ag un o’r uchod.
CYFLEUSTERAU Seddau Heb Freichiau Mae nifer o seddi heb freichiau ar gael. Sennheiser System Mae gennym system glyw Is-goch Sennheiser. Gellir cael clustffonau am flaendal ad-daladwy o £5 o’r ciosg losin. Goleuadau Strôb Atgoffir cwsmeriaid fod goleuadau ‘Strôb’ yn cael eu defnyddio gyda rhai sioeau a chynyrchiadau. *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Sut i archebu Mae’r Swyddfa Docynnau ar agor Llun - Sadwrn 9.30am - 8.00pm, ac am 1 awr cyn perfformiadau dydd Sul. Archebu tocynnau 01792 475715 Gallwch brynu tocynnau dros y ffôn neu drwy’r post, yn bersonol neu ar-lein yn www. swanseagrand.co.uk (D.S. Bydd yn rhaid talu ffi brynu wrth brynu tocynnau ar-lein). Consesiynau* Lle cynigir consesiynau, gallant gynnwys rhai o’r canlynol: 16 ac yn iau, 65 ac yn hˆ yn. Gellir gofyn i chi brofi eich oedran. Myfyrwyr mewn addysg amser llawn sy’n gallu dangos cerdyn Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol neu Fyfyriwr Tramor dilys neu gerdyn tebyg. Ysgolion pobl ifanc 18 oed ac yn iau a’r rhai sydd mewn addysg amser llawn. Trefnwyr grwpiau pobl sy’n archebu 10+ o docynnau ar gyfer un perfformiad ar y tro. PTL deiliaid cardiau PTL Abertawe. Clwb Theatr Wrth gyflwyno cerdyn aelodaeth dilys. Sylwer y gellir gofyn i chi brofi eich hawl i gonsesiwn wrth archebu tocyn neu gyrraedd am y perfformiad. Derbynnir y rhan fwyaf o’r prif gardiau credyd (tâl o 2%) a debyd. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i: Dinas a Sir Abertawe. Rhif minicom y Swyddfa Docynnau yw 01792 654456. Teipdestun ar gyfer cwsmeriaid â nam ar eu clyw. Ni all Dinas a Sir Abertawe dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau, y tu hwnt i’w rheolaeth, a all ddigwydd ar ôl cyhoeddi’r cyhoeddiad hwn. I dderbyn y llyfryn hwn mewn fformat gwahanol, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau. Cynllun Hynt. Mae Cynllun Hynt yn gerdyn aelodaeth Cymru gyfan sy’n galluogi deiliad y cerdyn i gael tocyn am ddim ar gyfer cynorthwyydd neu ofalwr personol ym mhob un o’r theatrau a’r sinemâu sy’n cymryd rhan. Ffoniwch 0844 2578858 neu ewch i www.hynt.co.uk am fwy o wybodaeth. Os oes angen y gwasanaeth Text Relay arnoch, ffoniwch 18001 0844 2578858. www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Amodau a thelerau gwerthu 1. Ystyrir cyfnewid tocynnau mewn argyfwng yn unig ac mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i wrthod cyfnewid tocyn. Os caiff tocyn ei gyfnewid, bydd ar gyfer perfformiad arall o’r un cynhyrchiad. Codir £1.00 y tocyn. 2. Ni roddir unrhyw ad-daliadau ond ar gyfer digwyddiadau wedi’u canslo. 3. Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i gyflwyno gostyngiadau a newidiadau eraill o ran prisiau heb roi rhybudd. 4. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i’r rhaglen a hybysebir. 5. Ni chaniateir defnyddio camerâu na chyfarpar recordio na sigarennau electronig. 6. Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad ac, ar adegau, gall fod angen cynnal archwiliadau diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch y cwsmeriaid. 7. Dan amgylchiadau eithriadol, mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i gynnig seddi gwahanol i’r rhai a nodir ar y tocyn. 8. Archwiliwch eich tocyn - adeg ei dderbyn gan nad oes modd unioni camgymeriadau bob amser. 9. Os darperir uwchdeitlau Saesneg ar gyfer perfformiad, dylai cwsmeriaid holi staff y Swyddfa Docynnau (adeg archebu) ynglˆyn ag addasrwydd seddi. 10. Un cynnig yn unig sy’n berthnasol ar unrhyw adeg.
Rhoddir yr amodau a’r telerau llawn ar gais neu yn www.swanseagrand.co.uk.
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Scamp Theatre yn cyflwyno
Yn seiliedig ar y llyfr gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler, awduron Y Gryffalo 3+
MAW 6 a MER 7 MEDI 2016 ‘Stick Man lives in the family tree With his Stick Lady Love and their stick children three...’
‘Zesty and delightful. A clever compelling treat.’ The Independent Stick Man © 2008 Julia Donaldson and Axel Scheffler. Published by Alison Green Books, an imprint of Scholastic Children’s Books.
AR WERTH NAWR!