Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Page 1

Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

ABC llwyddiant ...


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Cynnwys Cyflwyniad

3

AGGCC a Gweithwyr Datblygu o Sefydliadau Partner

4

Mathau o Ofal Plant Cofrestru fel Gwarchodwr Plant

5–6

Gofal Sesiynol - Cylchoedd Chwarae a Gofal ar Ddechrau a Diwedd Dydd

7

Gofal Sesiynol - Cyfrwng Cymraeg

8

Gofal Dydd Llawn - Meithrinfeydd Dydd

9

Clybiau y Tu Allan i'r Ysgol

10

Cynlluniau Chwarae Gofal Plant yn Ystod y Gwyliau

11

Pwy i gysylltu â hwy a pham

12 – 13

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

14

Hyfforddiant Gofal Plant

15

Cymwysterau a hyfforddiant

16

Grantiau sydd ar gael

17 – 18

Gwybodaeth Ychwanegol a Sefydliadau Partner

19 – 24

2

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant…

Cyflwyniad Mae'r wybodaeth yn y llyfryn hwn ar gyfer pobl sy'n ystyried dechrau busnes gofal plant. Mae'n diffinio'r mathau o ofal plant sydd ar gael, a hefyd yn cynnwys disgrifiad byr o'r hyn sy'n rhan o ddechrau eich busnes gofal plant. Mae'r llyfryn hefyd yn cynnwys rhestr o rifau cyswllt defnyddiol i gael mwy o wybodaeth. Mae'r llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth am: l Gofrestru fel gwarchodwr plant l Sefydlu - Gofal Sesiynol (Cylch chwarae/gofal ar ddechrau a diwedd dydd) - Gofal Dydd Llawn (Meithrinfa Ddydd) - Clwb Gofal Plant y Tu Allan i Oriau'r Ysgol (Brecwast a/neu Glwb ar ôl Ysgol) - Clwb Gofal Plant yn Ystod y Gwyliau l Pwy i gysylltu â hwy a pham.

Ymchwil Marchnad Cyn dechrau eich busnes dylech ystyried y math o ofal plant sydd eisoes ar gael yn yr ardal a ddewiswyd gennych. Dylech hefyd ymchwilio i'r galw am y math o ofal plant rydych am ei ddarparu. Gall asesu galw rhieni eich helpu i benderfynu a fydd eich busnes yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ddarparu copi o'r Archwiliad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) i chi. Ymgynghorwyd ar yr archwiliad gyda rhieni/gofalwyr a darparwyr gofal plant yn Abertawe i nodi bylchau mewn darpariaeth gofal plant. Gallai'r ADGP fod yn offeryn defnyddiol wrth gynnal eich ymchwil i'r farchnad gan y gall eich caniatáu i chi nodi galw penodol.

Dinas a Sir Abertawe

3


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

R么l Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Mae'r AGGCC yn rheoli ac yn archwilio gwasanaethau gofal dydd i blant dan 8 oed, gan gynnwys: l l l l l l

Gwarchodwyr Plant Gofal dydd llawn Gofal dydd sesiynol Gofal y tu allan i'r ysgol Meithrinfeydd Chwarae mynediad agored

Mae'n rhaid i bob sefydliad gofal plant sy'n gofalu am blant dan 8 oed ac sy'n gweithredu am fwy nag 1 awr a 59 munud gofrestru gydag AGGCC. Prif nodau cofrestru yw hyrwyddo safon a diogelu plant, gan sicrhau y gofelir amdanynt mewn lleoliad diogel a phriodol. Rhaid i leoliad gofal plant ateb Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGGCC cyn gellir ei gofrestru. Os bydd eich busnes yn gofalu am blant dan 8 oed yn hwy na'r amser a nodwyd, a'ch bod heb eich cofrestru gydag AGGCC, byddwch yn torri'r gyfraith. Bydd yr AGGCC yn parhau i arolygu'r sefydliad(au) er mwyn sicrhau bod y person yn parhau i fodloni'r Safonau a Rheoliadau Gofynnol Cenedlaethol wrth weithredu. Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn www.cymru.gov.uk/aggcc. Gallwch hefyd gael copi caled drwy gysylltu 芒'ch swyddfa AGGCC ranbarthol.

Swyddogion Datblygu - Sefydliadau Partner Mae Dinas a Sir Abertawe yn cefnogi nifer o Swyddogion Datblygu a gyflogir gan sefydliadau partner. Gall y Swyddogion Datblygu hyn ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i leoliadau gofal plant arfaethedig a rhai sydd eisoes yn bodoli; mae hyn yn cynnwys dechrau neu ddatblygu busnes gofal plant. Sylwer mai arweiniad YN UNIG yw'r wybodaeth a dderbyniwch gan Swyddog Datblygu. Mae'r AGGCC yn cadw'r hawl i orfodi newidiadau lle maent yn teimlo nad yw'r lleoliad gofal plant yn bodloni'r safonau.

4

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant…

Cofrestru fel gwarchodwr plant Mae gwarchodwyr plant yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain, ac maent wedi'u cofrestru i ofalu am hyd at 6 phlentyn dan 8 oed unig (gan gynnwys eu plant eu hunain). O ganlyniad i natur y swydd gall gwarchodwyr plant weithiau gynnig oriau hyblyg megis gofal gyda'r hwyr, ar benwythnosau neu, mewn rhai achosion, dros nos. Cofrestrir gwarchodwyr plant gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Byddwch yn ymwybodol bod rhaid i unrhyw berson sy'n gweithio yn ei gartref ei hun ac sy'n derbyn gwobr (ariannol neu wasanaeth tebyg yn ôl) am ofalu am blant dan 8 oed am fwy nag 1 awr 59 munud y dydd gofrestru gydag AGGCC. I gofrestru, mae'n rhaid i chi: l Fod dros 18 oed. l Mynd i sesiwn friffio a ddarperir gan PACEY Cymru. (Er mwyn cadw lle ar y sesiwn friffio, ffoniwch y Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 51722). l Cyflawni'r CACHE yn llwyddiannus. Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant o'ch cartref (CYPOP5). Mae'r CYPOP5 yn gwrs 14 awr a rennir i wahanol sesiynau. Mae'n rhaid cwblhau'r cwrs, ni waeth pa gymwysterau gofal plant eraill sydd gennych. l Cyflwyno rhannau un a dau eich cais i AGGCC. (Mae PACEY Cymru'n cynnig sesiynau mentora sydd wedi'u dylunio er mwyn eich helpu a'ch arwain trwy'r broses gwneud cais). Byddwch yn ymwybodol bod rhaid i chi, a phob aelod o’ch aelwyd dros 16 oed gwblhau gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Mae gwarchodwyr gofal plant yn hunangyflogedig ac maent yn cyddrafod contract am eu gwasanaeth y maent yn codi tâl amdano. Mae gwarchodwyr plant yn gyfrifol am dalu eu treth eu hunain a'u cyfraniadau yswiriant gwladol. Mae'r rhan fwyaf o warchodwyr plant cofrestredig yn aelodau o Gymdeithas Proffesiynnol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru). Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Swyddog Datblygu PACEY CYMRU ar 01792 572073.

Dinas a Sir Abertawe

5


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Cynllun Gwarchod Plant Cymunedol Mae'n rhaid i Warchodwr Plant Cymunedol gofrestru gydag AGGCC. Byddwch yn cynnig gwasanaeth ehangach na gwarchodwr plant. Mae'n cynnwys bod yn rhan o'r cynllun Gofal Plant Cymunedol a ariennir gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe i blant o dan 8 oed. Mae Gofal Plant Cymunedol yn rhan o'r gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd ehangach a gynigir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gweithio i gefnogi teuluoedd sy'n profi straen difrifol a/neu gyfnod anodd posib. Gall Gwarchodwr Plant Cymunedol hefyd ofalu am y plant mwyaf diamddiffyn, gan gynnwys plant ag anabledd, anawsterau ymddygiad a phlant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi teuluoedd plant sydd mewn perygl o gael eu lletya oherwydd anabledd, salwch neu os yw'r teulu wedi chwalu. Gellir disgwyl i warchodwyr plant gynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i rieni i'w hannog i ddatblygu eu sgiliau magu plant. I gael mwy o wybodaeth am Warchod Plant Cymunedol, ffoniwch y TĂŽm Cymorth i Deuluoedd ar 01792 633888.

Cymhwyster Gwarchod Plant Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant gartref (CYPOP 5). Mae'r uned 'Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant gartref' (CYPOP 5) yn un o'r unedau dewisol y gellir ei hastudio fel rhan o gymhwyster Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 FfCCh. Lluniwyd y cwrs yn arbennig ar gyfer gwarchodwyr plant a nanis. I fod yn warchodwr plant cymwys, mae'n rhaid i chi gyflawni'r uned yn llwyddiannus. Mae pedair uned arall y bydd rhaid i chi eu cyflawni os ydych yn dymuno mynd ymlaen i gymhwyster Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. I gael mwy o fanylion, ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222.

6

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant…

Gofal Sesiynol (Cylch Chwarae a/neu Ofal Dechrau a Diwedd Dydd) Mae cylchoedd chwarae fel arfer yn gweithredu o ganolfannau cymunedol, ysgolion neu adeiladau eglwysi ac yn cynnig gofal sesiynol i blant rhwng 2 a 5 oed. Gweithredir cylchoedd chwarae am 2 i 3 awr yn y bore a/neu'r prynhawn yn ystod y tymor yn bennaf. Mae Gofal Dechrau a Diwedd Dydd ar gael mewn ysgolion, ac mae'n cynnig gofal sesiynol i blant rhwng 3 a 4 oed. Mae clybiau dechrau a diwedd dydd yn caniatáu i blant meithrin yr ysgol aros ar safle'r ysgol drwy'r dydd. Er enghraifft, gall plant meithrin y bore ddefnyddio'r clwb dechrau a diwedd dydd ar ôl eu sesiwn ysgol i aros yn yr ysgol tan 3.20pm. Bydd plant sy'n mynd i'r ysgol feithrin yn y prynhawn yn defnyddio gofal dechrau a diwedd dydd yn y bore. Sylwer na chaniateir i blant fynychu mwy na phum sesiwn yr wythnos lle cynigir dwy sesiwn unrhyw ddydd, a bod rhaid cael egwyl rhwng sesiynau, heb blant dan ofal y darparwr.

Rheoli'r Grŵp Chwarae/Gofal Dechrau a Diwedd Dydd Mae'n rhaid i'r rheolwr: l Gael o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn sefydliad gofal dydd a chanddynt gymhwyster gofal plant lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cyngor Gofal Cymru (NNEB, Diploma CACHE mewn Gofal plant, NVQ/QCF Lefel 3 neu gyfwerth). Y staff: l Dylai bod gan o leiaf 50% y staff gymhwyster gofal plant lefel 2 cydnabyddedig gan Y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Pan na ellir cyflawni hyn yn syth, bydd y person cofrestredig yn gosod cynllun gweithredu yn nodi sut y maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar ddyddiad er mwyn cyflawni hyn. Bydd yr AGGCC yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella. l Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Mae'r rhan fwyaf o grwpiau yn aelodau o'r Gymdeithas Darparwyr Cyn Ysgol Cymru (WPPA). Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Swyddog Datblygu WPPA drwy ffonio 01792 781108.

Dinas a Sir Abertawe

7


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Gofal Sesiynol (Cylch Meithrin - Cylchoedd Chwarae Cymraeg) Byddwch yn gweithio mewn lleoliad lle cynigir profiadau chwarae a dysgu i blant trwy gyfrwng y Gymraeg, wrth ddarparu cymorth a chefnogaeth werthfawr i deuluoedd o gefndiroedd di-Gymraeg sy'n dymuno dysgu Cymraeg. Fel arfer, cynhelir Cylchoedd Meithrin mewn canolfannau cymunedol, ysgolion neu eglwysi, gan gynnig gofal sesiynol i blant rhwng 2 a 5 oed. Cynhelir cylchoedd chwarae am 2 i 4 awr yn y bore a/neu'r prynhawn yn ystod y tymor yn bennaf. Sylwer na chaniateir i blant fynychu mwy na phum sesiwn yr wythnos lle cynigir dwy sesiwn unrhyw ddydd, a bod rhaid cael egwyl rhwng sesiynau, heb blant dan ofal y darparwr. Cynhelir Cylch Meithrin gan grŵp rheoli gwirfoddol y caiff pob rhiant wahoddiad i fod yn rhan ohono.

Rheoli'r Cylch Meithrin Mae'n rhaid i'r arweinydd: l Gael o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn sefydliad gofal dydd a chanddynt gymhwyster gofal plant lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cymru (NNEB, Diploma CACHE mewn Gofal plant, NVQ/QCF Lefel 3 neu gyfwerth). Y staff: l Mae'n rhaid i'r holl staff allu siarad Cymraeg. l Dylai o leiaf 50% o'r staff fod â chymhwyster gofal plant lefel 2 cydnabyddedig gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Pan na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cyfrifol yn amlinellu cynllun gweithredu yn manylu ar sut maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar amserlen i'w gyflawni. Bydd AGGCC yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella. l Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Mae'r holl grwpiau'n aelodau o'r Mudiad Meithrin (MM), sy'n gallu cynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad yn ogystal â'r cyfle i staff anghymwys ddilyn Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol MM, Cam Wrth Gam, er mwyn ennill cymhwyster Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 FfCCh. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch y Swyddog Datblygu MM ar 07800 540 221.

8

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant‌

Gofal Dydd Llawn (Meithrinfa Ddydd) Mae Meithrinfeydd Dydd yn darparu gofal amser llawn a rhan-amser i blant rhwng 3 mis a 5 oed. Maent yn gweithredu drwy'r flwyddyn, ac fel arfer ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm (ac mae rhai'n cynnwys dydd Sadwrn hefyd). Mae rhai meithrinfeydd hefyd yn cynnig gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol ac yn ystod y gwyliau. Mae'n rhaid i leoliadau'r meithrinfeydd fod yn briodol i'w defnyddio gan blant ifanc a dylent gael amgylchedd cartrefol ag ardal chwarae awyr agored, ardal dawel/cysgu, cegin a chyfleusterau newid/toiled. Dylid hefyd ystyried cael digon o leoedd parcio er mwyn i rieni allu gadael a chasglu eu plant yn ddiogel.

Rheoli'r Feithrinfa Ddydd Mae'n rhaid i reolwr y feithrinfa a'r staff: l Gael o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn sefydliad gofal dydd a chanddynt gymhwyster gofal plant Lefel 3 cydnabyddedig gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NNEB, Diploma CACHE mewn Gofal plant, NVQ/QCF Lefel 3 neu gyfwerth). l Mae'n rhaid i'r feithrinfa gael dirprwy a enwir sy'n gallu rheoli yn absenoldeb y rheolwr. Y staff: l Rhaid bod gan o leiaf 80% o'r staff nad ydynt yn goruchwylio gymhwyster lefel 2 gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, ac o leiaf hanner ohonynt gymhwyster lefel 3. Pan na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn gosod cynllun gweithredu yn nodi sut y maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf hyn a chytuno ar amserlen i gyflawni hyn. Bydd yr AGGCC yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella. l Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222.

Dinas a Sir Abertawe

9


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Clwb y Tu Allan i Oriau Ysgol (Brecwast a/neu Glwb ar 么l Ysgol) Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol yn gofalu am blant rhwng 4 a 14 oed. Mae clybiau'n gweithredu'n union cyn a/neu ar 么l y diwrnod ysgol. Gall plant 3 oed fynychu o bosib ond mae hyn yn ddibynnol ar y math o gofrestru ac yswiriant sydd gan y clwb. Mae clybiau'n darparu ardaloedd hwyl, diogel ac ysgogol i blant chwarae ynddynt er mwyn i'w rhieni/gofalwyr weithio neu hyfforddi. Gellir darparu brecwast i blant yn y bore neu fyrbryd yn y prynhawn. Mae'n rhaid i blant gael mynediad i ddiod yn rheolaidd. Fel arfer caiff clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol eu cynnal mewn ysgolion neu adeiladau cymunedol, a gallant fod dan reolaeth ysgol, pwyllgor rheoli gwirfoddol neu unigolion fel busnes preifat.

Rheoli'r Clwb y Tu Allan i Oriau'r Ysgol l

Mae'n rhaid i reolwr clwb gael o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn lleoliad gofal dydd a chymhwyster lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cyngor Gofal Cymru (e.e. addysg blynyddoedd cynnar neu waith chwarae priodol i'r swydd ac oedran y plant).

Y staff: l Dylai 50% o'r staff sy'n weddill fod 芒 chymhwyster gofal plant lefel 2 gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Pan na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn gosod cynllun gweithredu yn nodi sut y maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar ddyddiad er mwyn cyflawni hyn. Bydd yr AGGCC yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella. l Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Mae clybiau gofal plant y tu allan i'r ysgol fel arfer yn aelodau o Glybiau Plant Cymru. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Swyddog Datblygu ar 01269 831010.

10

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant…

Clwb Gofal Plant/Cynllun Chwarae yn ystod y Gwyliau Mae clybiau/cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau yn darparu gofal i blant rhwng 4 a 14 oed, ac maent yn gweithredu yn ystod y gwyliau ysgol ac weithiau yn ystod diwrnodau HMS ysgolion. Mae'n bosib y gall plant 3 oed fynychu ond mae hyn yn ddibynnol ar y math o gofrestriad ac yswiriant sydd gan y clwb/cynllun chwarae. Bydd cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, a darperir diodydd a byrbrydau cyson i'r plant drwy'r dydd. Fel arfer, darperir cinio pecyn gan y rhieni a dylid ei gadw'n ddiogel. Fel arfer caiff clybiau/cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau eu cynnal mewn ysgolion neu adeiladau cymunedol, a gallant fod dan reolaeth ysgol, pwyllgor rheoli gwirfoddol neu unigolion fel busnes preifat.

Rheoli'r Clwb/Cynllun Chwarae yn ystod y Gwyliau l

Mae'n rhaid i reolwr clwb gael o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn lleoliad gofal dydd a chymhwyster lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cyngor Gofal Cymru (e.e. addysg blynyddoedd cynnar neu waith chwarae priodol i'r swydd ac oedran y plant).

Y staff: l Dylai 50% o'r gweithwyr chwarae sy'n weddill fod â chymhwyster lefel 2 mewn gofal plant neu feysydd gwaith chwarae perthnasol. Mae'n rhaid i weithwyr chwarae sydd heb brofiad blaenorol dderbyn hyfforddiant ar chwarae a phwysigrwydd mathau gwahanol o chwarae i ddatblygiad plant. Pan na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn gosod cynllun gweithredu yn nodi sut y maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf hyn a chytuno ar amserlen i gyflawni hyn. Bydd yr AGGCC yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella. l Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Mae Clybiau Plant Cymru a'r Tîm Chwarae i Blant yn cynnig cymorth i sefydlu a chefnogi cynlluniau chwarae, clybiau chwarae a darpariaeth chwarae debyg arall. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Swyddog Datblygu Clybiau Plant Cymru ar 01269 831010 neu'r Tîm Chwarae i Blant ar 01792 635480.

Dinas a Sir Abertawe

11


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Pwy i gysylltu â hwy Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Abertawe Ffôn: 01792 517222

Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) Cymru. Swyddog Datblygu PACEY Ffôn: 01792 572073 Cynllun Gwarchod Plant Cymunedol, Tîm Cymorth i Deuluoedd Tîm Cefnogi Teuluoedd Ffôn: 01792 633888 Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (WPPA) Swyddog Datblygu WPPA Ffôn: 01792 781108 Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru Ffôn: 01824 707 823 Busnes Cymru Ffôn: 01792 572800E-bost: southwest@businesswales.org.uk Mudiad Meithrin (MM) Swyddog Datblygu Ffôn: 07800 540 221 Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs Swyddog Datblygu Ffôn: 01269 831010 Tîm Chwarae i Blant Ffôn: 01792 635480 Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Ffôn: 0300 790 0126 Gwefan: cssiw.org.uk 12

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant… Mwy o wybodaeth am gofrestru, materion cyffredinol ac er mwyn darganfod a oes sefydliadau gofal plant eraill yn yr ardal. Gall GGD eich helpu i farchnata eich busnes. Caiff gwybodaeth am eich sefydliad ei chynnwys yn ein cronfa ddata, ac fe'i hanfonir at rieni/gofalwyr pan fydd angen gofal plant arnynt. Mae GGD hefyd yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad ar unrhyw ddeddfwriaeth newydd neu rai sydd wedi cael eu diweddaru. I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant, Gwybodaeth am gofrestru'n warchodwr plant. Cefnogaeth ac arweiniad drwy'r broses gofrestru. Mynediad i gyngor a chefnogaeth barhaus ar ôl cofrestru.

Efallai eich bod yn teimlo y gallech gynnig cymorth a chefnogaeth i deuluoedd mewn angen yn eich ardal drwy fod yn Warchodwr Cymunedol. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm plant ac anableddau. Help, cefnogaeth ac arweiniad o ran sefydlu eich busnes gan gynnwys cymorth gyda pholisïau a mynd i'r afael â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i sefydlu eich busnes, gan gynnwys cymorth gyda pholisïau, gweithdrefnau a sut i fynd i'r afael â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Bydd gwasanaeth Busnes Cymru newydd Llywodraeth Cymru yn helpu i gefnogi twf cynaliadwy mentrau bach a chanolig eu maint. Mae Busnes Cymru yn wasanaeth ymroddedig sy'n darparu mynediad i wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i fusnesau yn uniongyrchol ac o'r sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. Cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i sefydlu eich busnes, gan gynnwys cymorth gyda pholisïau, gweithdrefnau a sut i fynd i'r afael â rheoliadau AGGCC a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i sefydlu eich busnes, gan gynnwys cymorth gyda pholisïau, gweithdrefnau a sut i fynd i'r afael â rheoliadau AGGCC a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Os hoffech fwy o wybodaeth am y Tîm Chwarae, neu os oes diddordeb gennychmewn sefydlu clwb chwarae neu gynllun chwarae ac angen gwybod ble i ddechrau, cysylltwch â'r Tîm Chwarae. Trwy fynd i wefan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gallwch lawrlwytho copi o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Dinas a Sir Abertawe

13


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) Asiantaeth weithredol y Swyddfa Gartref a sefydlwyd i helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel yw'r GDG. Drwy ddarparu mynediad ehangach i wybodaeth cofnodion troseddol, mae'r GDG yn helpu cyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i nodi ymgeiswyr a allai fod yn anaddas ar gyfer gwaith penodol, yn enwedig os yw'n cynnwys cyswllt gyda phlant neu aelodau diamddiffyn eraill o'r gymdeithas. Bydd rhaid i bobl sy'n dymuno gweithio gyda phlant neu aelodau diamddiffyn eraill o'r gymdeithas dderbyn datgeliad manwl.

Beth yw gwiriad GDG? Bydd gweithwyr yn derbyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i sicrhau bod hawl gyfreithiol ganddynt i ymgymryd 芒 r么l eu swydd. Bydd y gwasanaeth yn ymchwilio i hanes cofnod troseddol yr ymgeiswyr er mwyn i'r cyflogwr allu gwneud penderfyniad recriwtio deallus ar sail yr wybodaeth y daethpwyd o hyd iddi yn y Gwiriad GDG. Mae C么d Ymarfer y GDG a'r Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr yn nodi nad yw cyflogwyr yn cael gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr sydd 芒 chefndir troseddol ac mae'n rhaid iddynt drin ymgeiswyr yn gyfartal. Dylai cyflogwyr wneud penderfyniad recriwtio sy'n dibynnu ar a yw unrhyw wybodaeth droseddol a gyflwynwyd iddynt yn berthnasol i'r swydd y byddai'r ymgeisydd yn ei gwneud. - Ceir mwy o wybodaeth yn http://www.personnelchecks.co.uk/dbschecks/#sthash.fxuh0XWc.dpuf

14

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant…

Cymwysterau ac Opsiynau Gyrfa Mae Cyngor Gofal Cymru yn darparu gwybodaeth am y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Ceir rhestr fanwl o gymwysterau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant perthnasol ar y wefan: http://www.ccwales.org.uk/news/2013/10/02/earlyyearsand-childcare-qualification-list-launched/ Mae nifer o wahanol ffyrdd o gael cymhwyster gofal plant neu gymhwyster gwaith chwarae gan gynnwys hyfforddiant mewn cyflogaeth, mynychu coleg neu drwy Ganolfannau Dysgu Gydol Oes. Efallai yr hoffech astudio'r cwrs yn amser llawn neu'n rhan-amser, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Gallai cyrsiau amser llawn roi cyfle i fyfyrwyr fynd allan i'r gweithle ac felly eu galluogi i ymarfer yr hyn y maent wedi'i ddysgu. Mae hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol o weithio ochr yn ochr â staff cymwys a phlant o oedrannau gwahanol sy'n berthnasol i'r cwrs. Mae cyrsiau rhan-amser yn cynnig yr hyblygrwydd i fyfyrwyr barhau neu ddechrau cyflogaeth wrth gwblhau cymhwyster gofal plant. Efallai y bydd rhaid i fyfyrwyr fynd i'r coleg am rai oriau bob wythnos, fel arfer gyda'r nos. Am fwy o wybodaeth a chyngor am y cwrs gorau i chi, cysylltwch â'ch coleg lleol, Gyrfaoedd Cymru neu'r Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. I gael mwy o wybodaeth am gyrsiau ac i drafod eich gofynion penodol, cysylltwch â'r coleg yn uniongyrchol.

Ffôn: 01792 284000/890700

Mae Gyrfaoedd Cymru'n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd diduedd, dwyieithog, am ddim, i bobl o bob oedran - gan gysylltu addysg a busnesau. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Gyrfaoedd Cymru, ffoniwch Gyrfaoedd Cymru'n uniongyrchol ar 0800 028 4844.

Dinas a Sir Abertawe

15


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Abertawe Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Abertawe yn cynnig cyrsiau am ddim, gan gynnwys: l l l l l l l

Cymorth cyntaf i ofalwyr plant Cymorth Cyntaf yn y gweithle Datblygiad Plant Rheoli a Gwerthfawrogi Amrywiaeth Hylendid Bwyd Sylfaenol Y Cyfnod Sylfaen Arddangosfeydd Rhyngweithiol

l l l l l l

Cyfoethogi Chwarae i Blant Trafod 창 llaw Diogelu Plant Yr Elfen Fusnes o Ofal Plant Cymraeg Cyfle Cyfartal

Hefyd, mae nifer o sefydliadau yn Ninas a Sir Abertawe sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddiant, gan gynnwys:

Cymdeithas Darparwyr Cyn-oed Cymru Mudiad Meithrin Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs PACEY Cymru Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe ar 01792 517222.

16

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant…

Grantiau ar gael dan y Strategaeth Genedlaethol Gofal Plant Grantiau Datblygu'r Gweithlu Hyd at £200 ar gael i fyfyrwyr sy'n cwblhau cymhwyster mewn gofal plant, e.e. QCF Lefel 2, 3 a 5 mewn Dysgu a Datblygu Gofal Plant. Mae gan bob grant feini prawf penodol: l Mae'n rhaid i chi fod dros 16 oed ac yn byw yn Ninas a Sir Abertawe. l Mae'n rhaid eich bod wedi ceisio pob trywydd ariannu grant arall e.e. cyfrif dysgu unigol neu grantiau dechrau perthnasol. l Rhaid bod y cwrs hyfforddiant heb ddechrau, am na ellir ei ôl-dalu. Am fwy o wybodaeth, neu i gael ffurflen gais, ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222.

Grantiau ar gael i Warchodwyr Plant Grantiau Sefydlu Gwarchodwr Plant Mae'r grant ar gael i bob gwarchodwr plant newydd sydd wedi mynd i Sesiwn Friffio PACEY ac sydd wedi cwblhau'r uned, "Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant gartref (CYPOP 5)". Dylai'r gwarchodwyr plant fod wedi cyflwyno rhannau 1 a 2 yr Isafswm Safonau Cenedlaethol i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a bod Arolygydd AGGCC wedi'i ddyrannu iddynt. Mae'r grant yn cynnwys hyfforddiant hanfodol, blwyddyn o yswiriant am ddim, blwyddyn o aelodaeth PACEY Cymru am ddim, llyfrau arian parod, cofrestri presenoldeb etc.

Grantiau Cefnogaeth i Warchodwyr Plant Hyd at uchafswm o £200 ar gael i bob gwarchodwr plant sydd wedi cwblhau'r uned 'Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant gartref (CYPOP 5)' ac sy'n cofrestru gyda’r AGGCC ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i geisiadau fod yn seiliedig ar eitemau diogelwch hanfodol a nodir gan eich Arolygydd AGGCC yn ystod ei ymweliad a'r rhestr treuliau cymwys.

Grant Cefnogaeth i Warchodwyr Plant Presennol Mae hyd at £200 ar gael i warchodwyr plant sydd wedi bod yn gweithio ers dros flwyddyn. Mae'r grant yn daliad unigol a fydd yn ceisio mynd i'r afael â materion cynaladwyedd dros dro a allai fod wedi digwydd am reswm penodol. Nod y grant yw cefnogi gofalwyr plant presennol sydd wedi'u cofrestru ag AGGCC ar adeg pan allai lleoedd gofal plant fod ar gael. Gellir defnyddio'r grant at ddibenion cyhoeddusrwydd, yswiriant, eitemau Iechyd a Diogelwch hanfodol ac eitemau eraill ar y rhestr treuliau cymwys.

Dinas a Sir Abertawe

17


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Grantiau ar gyfer Lleoliadau Grŵp Grant Strategaeth Gofal Plant Hyd at uchafswm o £5,000 yn benodol ar gyfer: l Sefydlu neu ehangu darpariaeth, h.y. creu lleoedd gofal plant newydd. l Cynaladwyedd darpariaeth gofal plant o safon sydd eisoes yn bodoli. Os ariennir lleoedd newydd neu fel grant cynaladwyedd, dylid ei gyfyngu i'r isafswm y mae ei angen ar gyfer hyfywedd a dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn rhoi sylw priodol i'r argymhellion a amlinellwyd yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (CSA). Gellir dyrannu grantiau cynaladwyedd os yw lleoliadau'n diwallu anghenion cymunedol ac mewn perygl difrifol o gau. Gofynnir am dystiolaeth o strategaeth gynaladwyedd yn y dyfodol.

Pwy all wneud cais? l l l

Sefydliadau gofal plant grŵp sy'n cynnig Gofal Sesiynol, Gofal Dydd Llawn a/neu Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol/Gofal Gwyliau Sefydliadau gofal plant sydd eisoes wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Neu bobl sydd am reoli lleoliadau gofal plant grŵp sydd eisoes wedi cyflwyno'u cais cofrestru ac wedi derbyn Arolygydd AGGCC.

Mae pob grant yn dibynnu ar argaeledd ac ni ellir eu gwarantu (Mae gan bob grant feini prawf penodol). I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222.

18

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant…

Sefydliadau Partner a Gwybodaeth Ychwanegol Y Tîm Atal ac Ymyrryd yn Gynnar Un o ddyletswyddau'r Tîm Atal ac Ymyrryd yn Gynnar yw cydlynu nifer o bartneriaethau strategol a gweithredol sy'n cynnwys dod â'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ynghyd i gynllunio a datblygu gofal plant yn Abertawe (yn y gorffennol cyfrifoldeb Tîm Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar oedd hyn). Mae'r tîm yn cynnwys sawl prosiect: l Dechrau'n Deg l Teuluoedd yn Gyntaf l Tîm Hwyluso Teuluoedd l Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe a l Datblygiad Gofal Plant, a cheisio datblygu, gwella a mynd i'r afael â gofal plant, cefnogaeth i deuluoedd a themâu perthnasol yn holistig ar draws Dinas a Sir Abertawe. Mae'r elfen Datblygu Gofal Plant yn canolbwyntio'n bennaf ar ddyletswyddau a amlinellwyd yn Neddf Plant 2004 a Deddf Plant 2006, gan gynnwys darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â'r teulu, gofal plant, cymorth i deuluoedd, cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, asesu bylchau mewn darpariaethau gofal plant a sicrhau bod digon o wasanaethau gofal plant ar gael i rieni sy'n gweithio. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 635400.

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Mae'n drosedd gofalu am blentyn rhywun arall am fwy na 2 awr y dydd heb gofrestru gydag AGGCC. Mae AGGCC yn sicrhau bod gwasanaethau gofal yn bodloni gofynion y cyhoedd o ran safon drwy gyfres o archwiliadau (gweler Safonau Gofynnol Cenedlaethol). Mae AGGCC yn gyfrifol am reoli gwasanaethau gofal dydd i blant, gan gynnwys Meithrinfeydd Dydd, Gwarchodwyr Plant, Cylchoedd Chwarae, Clybiau Gofal Plant y Tu Allan i Oriau'r Ysgol, Clybiau Gofal yn ystod y Gwyliau. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 790 0126.

Dinas a Sir Abertawe

19


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun?

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim i ddarparwyr gofal plant, cyflogwyr, sefydliadau a rhieni/gofalwyr plant rhwng 0-19 oed. Gall y GGD ddarparu gwybodaeth am: l Ddod o hyd i ofal plant priodol l Materion ariannol - talu am ofal l Dechrau busnes gofal plant eich hun plant l Cyfleoedd hamdden a diwrnodau hwyl l Grwpiau Babanod a Phlant Bach l Cynlluniau chwarae a gweithgareddau l Bod yn warchodwr plant l Opsiynau gyrfa/gweithio mewn yn ystod y gwyliau l Mynediad i hyfforddiant ar gyfer gofal plant l darparwyr gofal plant Cefnogaeth i Deuluoedd Grantiau ac arian sydd ar gael ar gyfer gwarchodwyr plant presennol ac arfaethedig. Anghenion arbennig, gan gynnwys grwpiau cefnogi i rieni plant ag anghenion arbennig/anableddau; A llawer, llawer mwy ... Os na fydd y GGD yn gallu ateb eich ymholiad yn uniongyrchol, gallant eich cyfeirio at sefydliadau lleol neu genedlaethol perthnasol. Felly cysylltwch 창 ni am unrhyw beth sy'n ymwneud ag anghenion eich teulu. Ffoniwch 01792 517222 am fwy o wybodaeth neu ewch i'n gwe-dudalen: www.swansea.gov.uk/fis

Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru) Mae PACEY yn hyrwyddo gofal plant cofrestredig o safon yng Nghymru a Lloegr er mwyn i blant, teuluoedd a chymunedau elwa o'r gofal plant a'r addysg gorau. Trwy weithio mewn partneriaeth 창'r llywodraeth, awdurdodau lleol a sefydliadau gofal plant eraill, y nod yw sicrhau bod pob gwarchodwr plant cofrestredig yn cael mynediad i wasanaethau, hyfforddiant, gwybodaeth a chefnogaeth i'w galluogi i wneud eu gwaith yn broffesiynol. Elusen gofrestredig. Cwmni a gyfyngir gan warant. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 572073 neu e-bostiwch: info@ncma.org.uk www.pacey.org.uk

20

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant… NDNA Cymru Elusen yw'r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA), â'r nod o wella datblygiad ac addysg plant yn eu blynyddoedd cynnar, drwy ddarparu gwasanaethau cefnogi i aelodau. Mae ganddi aelodaeth ffyniannus o ddarparwyr meithrin ar draws y sectorau preifat, gwirfoddol a'r rhai a gynhelir. Mae NDNA am ddatblygu, hybu a chynnal safonau uchel mewn addysg a gofal er lles y plant, eu teuluoedd a'u cymunedau lleol. Cydnabyddir y gymdeithas fel llais y sector. I gael mwy o fanylion, ffoniwch NDNA Cymru ar 01824 707823 neu Ewch i: www.ndna.org.uk

Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (PPA Cymru) Elusen gofrestredig â'r nod o wella datblygiad, gofal ac addysg plant yng Nghymru drwy annog rhieni i ddeall ac i ddarparu ar gyfer eu hanghenion drwy grwpiau cyn-oed ysgol o safon. Y gobaith yw rhoi hyder i oedolion wneud y defnydd gorau o'u gwybodaeth a'u hadnoddau er eu lles eu hunain ac er lles plant cyn-oed ysgol. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 781108.

Mudiad Meithrin (MM) - Arbenigwyr Cymreig arweiniol yn y blynyddoedd cynnar Elusen gofrestredig. Cwmni a gyfyngir gan warant. Y nod yw rhoi cyfle i bob plentyn cyn-oed ysgol yng Nghymru i elwa o brofiadau'r blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. MM yw'r prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar Cymraeg yn y sector gwirfoddol. Mae Swyddogion Datblygu MM yn gweithio’n lleol i gynnig arweiniad a chyngor ymarferol i staff, gwirfoddolwyr a rhieni. Ffoniwch y Swyddfa Ranbarthol ar 07800 540 221.

Clybiau Plant Cymru Elusen gofrestredig. Cwmni a gyfyngir gan warant. Diben y sefydliad yw rhoi cymorth i gymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o safon. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01269 831010.

Dinas a Sir Abertawe

21


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun? Y Tîm Chwarae i Blant Mae'r Tîm Chwarae i Blant yn gweithio ar draws Abertawe yn hyrwyddo pwysigrwydd Chwarae. Maent yn ceisio sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn cyfleoedd i chwarae yn eu cymuned leol. Mae'r tîm yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol i helpu i sefydlu a chefnogi cynlluniau chwarae, darpariaeth chwarae â staff a mannau chwarae lleol ac maent yn gweithio gyda theuluoedd i ddysgu mwy am sut gall chwarae eu cefnogi i ddatblygu fel uned deuluol. Gall y Tîm Chwarae hefyd ddarparu hyfforddiant o safon ym mhob maes sy'n ymwneud â darparu gofal i blant a phobl ifanc, yn ogystal â chyngor ariannol. Mae Bws Chwarae Teithiol Dec Sengl Abertawe yn rhan o'r Tîm Chwarae i Blant, sy'n caniatáu i blant 0 i 14 oed chwarae yng nghanol eu cymunedau, yn bennaf o fewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf ac Adfywio a lle nad oes llawer o ddarpariaeth/mannau chwarae. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 635480.

Busnes Cymru Bydd gwasanaeth Busnes Cymru newydd Llywodraeth Cymru yn helpu i gefnogi twf cynaliadwy mentrau bach a chanolig eu maint. Mae Busnes Cymru yn wasanaeth ymroddedig sy'n darparu mynediad i wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i fusnesau yn uniongyrchol ac o'r sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. Ffôn: 01792 572800 E-bost: southwest@businesswales.org.uk

Gwasanaethau Digidol CThEM Mae sefydlu a rheoli busnes yn gallu bod yn heriol, felly mae CThEM yn darparu amrywiaeth eang o gymorth a chefnogaeth i'ch helpu i reoli'ch busnes, gan gynnwys fideos, e-byst, e-ddysgu, aps cadw cofnod a chyflwyniadau ar-lein (gweminarau). Gweminarau (cyflwyniadau ar-lein) Gellir recordio'r rhain ymlaen llaw neu'n "fyw" a darparu'r cyfle i'ch aelodau fynychu seminar dros y we l l

Mae gweminarau byw yn rhyngweithiol a gellir holi cwestiynau. Maent yn para oddeutu awr. Mae gweminarau a recordiwyd yn rhoi llawer o wybodaeth treth ar dudalennau YouTube y CThEM. Mae'r gweminarau sydd wedi'u recordio ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

http://www.hmrc.gov.uk/cymraeg/gweminarau.htm 22

Dinas a Sir Abertawe


ABC llwyddiant… Dysgwch ar gyflymder sy'n gyfforddus i chi gydag e-ddysgu CThEM Ydych chi'n hunangyflogedig? Ei nod yw eich helpu i ddysgu ar eich cyflymdra eich hun a phryd mae'n ymarferol i chi. Mae cynnyrch e-ddysgu'r CThEM yn cynnwys adrannau ar: l l l

sut a phryd i roi gwybod i CThEM os ydych wedi dechrau hunangyflogaeth sut y gall cadw cofnodion busnes cywir eich helpu i hawlio treuliau a lwfansau treth sut a phryd rydych yn talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol i CThEM

Mae hefyd yn cynnwys astudiaethau achos ymarferol ynglŷn â datblygu'ch busnes, gan gynnwys TAW a chyflogi staff http://www.hmrc.gov.uk/startingup/help-support.htm#3

ACAS Y nod yw eich helpu gyda'ch cysylltiadau cyflogaeth trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad, hyfforddiant a gweithio gyda chi - yn bosib trwy eu gwasanaethau datrys problemau. Siaradwch â nhw am gontractau cyflogaeth a datganiadau ysgrifenedig, deddfwriaeth cyflogaeth newydd, rheoli disgyblaeth, cwynion, absenoldeb o'r gwaith a materion tebyg. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 08457 47 47 47.

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) Y sefydliad ymbarél ar gyfer gweithgaredd gwirfoddol ar draws Dinas a Sir Abertawe, gan gefnogi, datblygu a chynrychioli sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau. Os ydych yn ystyried dechrau grŵp newydd ac angen cymorth ar sut i ddechrau, am wirfoddoli neu am recriwtio gwirfoddolwyr, llunio cyfansoddiad, gwybodaeth a chyngor ar gyllid, neu am wybod sut y bydd y newidiadau diweddaraf mewn Cyfraith Elusennol yn effeithio ar eich sefydliad a llawer mwy... Gall CGGA helpu. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 544000 neu Ewch i: www.scvs.org.uk

Dinas a Sir Abertawe

23


Ystyried dechrau busnes gofal plant eich hun? Canolfan Byd Gwaith Mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi cyflwyno Rheolwyr Partneriaeth Gofal Plant i gefnogi twf darpariaeth gofal plant lleol. Maent yn gweithio ochr yn ochr 芒 phartneriaid gofal plant a chyflogwyr i ddiwallu anghenion gofal plant rhieni di-waith. Mae gan y gwasanaeth Raglen Bargen Newydd i Rieni Sengl hefyd sy'n cynnig cyngor ar fudddaliadau unigol (Credydau Treth). Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 494104/494056.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe SA1 5LD. Ff么n: 01792 517222 Gwefan: www.abertawe.gov.uk/fis E-bostiwch: fis@swansea.gov.uk Twitter: @AbertaweGIA

24

Dinas a Sir Abertawe


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.