Rhifyn 1 Haf 2012
Croeso i rifyn cyntaf… Cylchlythyr Cyn-ysgol Iach Abertawe. Bydd hwn yn gyhoeddiad chwarterol a anfonir i bobl lleoliad cyn-ysgol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn lleol.
Sefydlwyd gwefan y Cynllun Cynysgol Iach yn ddiweddar, ewch i: http://www.swansea.gov.uk/index.c fm?articleid=49220
Lansiwyd y Cynllun Cyn-ysgol Iach yng Nghanolfan Ddatblygu Richard Ley ar 21 Chwefror 2012. Nod y lansiad oedd cynyddu ymwybyddiaeth lleoliadau cyn-ysgol a sefydliadau partner o’r Cynllun Cynysgol Iach. Bu’r lansiad yn llwyddiannus, gyda mwy na 30 lleoliad cyn-ysgol yn mynegi diddordeb yn y cynllun. Diolch yn fawr i bawb a ddaeth; y gwesteion a’r siaradwyr.
Mae’n ffordd wych o rannu arferion da gyda lleoliadau cyn-ysgol eraill a dathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau. Bob chwarter byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth gan bob lleoliad cyn-ysgol sydd eisiau ymddangos yn y cylchlythyr. Efallai y bydd rhai rhifynnau yn canolbwyntio ar thema benodol, fel y rhifyn hwn, sy’n canolbwyntio ar rannu arferion da gydag eraill.
Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am y saith pwnc a gynhwysir yn y Cynllun Cyn-ysgol Iach. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau defnyddiol â gwybodaeth am faterion iechyd.
Cynhaliwyd Hyfforddiant Traed Prysur yng Nghanolfan Richard Ley ar 23 Ebrill 2012. Darparwyd yr hyfforddiant er mwyn cynyddu hyder i ddarparu gweithgareddau corfforol mewn lleoliadau cyn-ysgol. Roedd y sesiwn yn cynnwys arddangosiadau gweithgarwch corfforol a gweithgareddau gyda bwyd. Roedd potiau drewllyd, gemau cyffwrdd a chreu delweddau gyda gweddillion bwyd hefyd yn rhan o’r gweithgareddau.
Roedd y gweithgareddau corfforol yn gwneud i ni feddwl o ddifrif am sut y gallem ddefnyddio’r pecyn gyda’r plant yn ein lleoliad
Bydd y gemau gweithredu yn ddefnyddiol iawn, ac rwy’n gwybod y bydd y plant yn eu mwynhau yn fawr
Mae Dechrau’n Deg Waun Wen yn gwneud gwaith ardderchog gyda’r Plât Bwyta’n Iach.
Dysgu sut i frwsio fy nannedd, diolch i Cynllun Gwên
Edrychwch ar gynnwys siwgr y losin a’r diodydd gwahanol!!
Yn Dechrau’n Deg Pentrechwyth rydym wedi bod yn cynnal sesiynau coginio 6 wythnos i rieni a phlant bach wedi’u seilio ar hwyl, bwyd a chwarae actif i blantos bach!!
Isod mae rhai sylwadau o’r ffurflenni gwerthuso:
“Mwynhaom ni’n dau, ac mae fy mhlentyn yn bwyta ffrwythau gwahanol ar ôl eu treial yma” “Rwyf i a fy mhlentyn wedi mwynhau popeth am y cwrs” “Rydym ni’n dau wedi mwynhau’r cwrs ac mae wedi rhoi syniadau i mi eu ceisio adref”
Mae hwn yn syniad gwych i leoliadau sy’n gallu darparu sesiynau rhieni!! Os nad ydych yn gallu darparu sesiynau rhieni, efallai y byddai anfon ryseitiau gartref neu gynnwys rysáit mewn cylchlythyr neu ar hysbysfwrdd yn ffordd neis o anfon negeseuon gartref am y gwaith rydych chi’n ei wneud yn eich lleoliadau.
Wythnos Caru Parciau 21/07/2012 - 29/07/2012 Wythnos Genedlaethol Gordewdra Plant 05/07/2012 - 11/07/2012 Wythnos Bwydo ar y Fron 01/08/2012 - 07/08/2012 Wythnos Genedlaethol y Teulu 25/08/2012 - 31/08/2012
Catrin Jones, Ymarferydd Cyn-ysgol Iach 01792 607375 catrin.jones10@wales.nhs.uk Tîm Iechyd y Cyhoedd ABM Llawr 12, Canolfan Oldway, 36 Stryd y Berllan, Abertawe SA1 5AW