35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 24
Parhau â’r sgwrs Abertawe Gynaliadwy Yn Addas i’r Dyfodol
Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol, parhau â’r sgwrs Nod y llyfryn ymgynghori hwn yw eich annog i ymuno â’r sgwrs am lunio dyfodol Cyngor Abertawe a’n dinas dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r cyngor yn gwario tua £750m y flwyddyn ar wasanaethau sy’n cyffwrdd â bywydau bron ein holl breswylwyr bron bob dydd. Bydd y cyngor bob amser yn ymrwymedig i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a blaenoriaethu’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau, ond mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd fwy cynaliadwy o gyflwyno gwasanaethau a bod yn glir am yr hyn nad ydym ei eisiau yn y dyfodol. Y llynedd dechreusom sgwrs Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol trwy geisio’ch barn ar sut y dylid arbed miliynau o bunnoedd wrth reoli’r galw cynyddol am wasanaethau a gwella’r hyn rydym am ei wneud. Cymerodd miloedd ohonoch ran ac ystyriwyd eich barn wrth wneud penderfyniadau ar flaenoriaethu gwasanaethau. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi llwyddo i arbed miliynau o bunnoedd trwy leihau costau rheoli, effeithlonrwydd wrth brynu ac arbedion mewn gwasanaethau penodol a byddwn yn gwneud hynny eto eleni. Ond mae angen arnom nawr i chi edrych ymlaen ac ymuno â ni yn y drafodaeth am ba wasanaethau sy’n bwysig i chi. Rydym hefyd am wybod beth mae preswylwyr a chymunedau’n fodlon ei wneud drostynt eu hunain ac eraill yn hytrach na dibynnu ar y cyngor. Rydym am i chi gymryd rhan yn y drafodaeth trwy roi eich barn i ni am y syniadau yn y llyfryn hwn a thrwy awgrymu syniadau am sut gallwch chi neu eich cymuned neu’ch sefydliad gyfrannu at newid ffurf gwasanaethau yn y dyfodol. Fel y llynedd, ein hymrwymiad i chi yw y byddwn yn gwrando ar yr hyn a ddywedoch, yn ystyried eich barn ac yn adrodd yn ôl. Os oes angen yr wybodaeth hon mewn fformat arall arnoch, e.e. print bras, e-bostiwch www.abertawe.gov.uk/abertawegynaliadwy neu ffoniwch 01792 636092.
Sustainable Swansea Fit for the future
Abertawe Gynaliadwy Yn addas i’r dyfodol
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 23
2
Y E
Ble rydym ni nawr Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth gynghorau lleol eu bod yn wynebu gostyngiadau blynyddol o 4.5% yn eu cyllidebau i’r dyfodol a ragwelir – 2% y flwyddyn yn fwy na’r hyn a nodwyd yn flaenorol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i Abertawe arbed o leiaf £70m yn y tair blynedd nesaf, a hynny’n ogystal â phwysau eraill ar wasanaethau. Ymysg y pwysau ariannol ar y cyngor mae disgwyliadau cynyddol gan gwsmeriaid, galw cynyddol am ofal cymdeithasol a chost gynyddol gwaredu ar wastraff. Mae hyn yn golygu yn y dyfodol bod angen i ni beidio â gwneud rhai pethau, yn ogystal â symleiddio gwasanaethau a bod yn graffach ac yn fwy effeithlon. Hyd yn oed petai cyllid diderfyn gennym, ni allem barhau yn yr un modd oherwydd bod angen i ni newid yr hyn yr ydym yn ei wneud fel y gallwn gyflawni canlyniadau gwell i bobl. Yn y dyfodol byddwn yn canolbwyntio o hyd ar wasanaethau hollbwysig megis gofal cymdeithasol, addysg, casglu gwastraff a darparu goleuadau stryd. Trwy wneud pethau’n wahanol megis trawsnewid gofal cymdeithasol i oedolion, newid goleuadau stryd am rai ynni-effeithlon a chynyddu ailgylchu trwy’r fenter gwastraff sachau du ‘Cadwch at 3’, gallwn ddarparu gwasanaethau gwella lleihau pwysau ariannol. Ond efallai bydd rhai pethau y bydd rhaid i ni beidio â gwneud mwyach gan nad ydynt yn rhoi gwerth am arian neu nad yw pobl eu heisiau mwyach. Mae angen i ni gael eich barn am hynny. Bydd rhaid i breswylwyr a sefydliadau cymunedol hefyd wneud mwy o bethau drostynt eu hunain gan fod modd iddynt wneud hynny’n fwy effeithiol na’r cyngor neu oherwydd nad oes gan y cyngor yr arian i wneud popeth mwyach. Ni wnaed unrhyw benderfyniadau am ffurf gwasanaethau yn y dyfodol ac ni chaiff unrhyw benderfyniadau eu gwneud cyn i breswylwyr gael y cyfle i fynegi eu barn. Bydd y cyngor yn ystyried pob barn cyn gwneud penderfyniadau terfynol.
Wyddech chi? Gallwch wneud gwahaniaeth trwy ymuno yn y drafodaeth
Ymunwch â’r drafodaeth a dywedwch eich barn wrthym. Ewch i www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea
3
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 22
Egwyddorion Cyllidebol Y llynedd cytunodd y cyngor ar gyfres o Egwyddorion Cyllidebol i helpu i arwain ein hymagwedd at Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol. Cefnogwyd y rhain gan y cyhoedd a byddant yn helpu i arwain y sgwrs barhaus ac yn darparu ymagwedd a arweinir gan bolisïau’r cyngor. Dyma’r egwyddorion dan sylw: • Mae popeth yn cael ei gynnwys. Byddwn yn adolygu pob maes gwariant, gan gynnwys blaenoriaethau, ac ni chaiff unrhyw opsiynau eu diystyru. • Cefnogi’r rhai mewn perygl trwy ganolbwyntio adnoddau ar bobl ddiamddiffyn, gan ddefnyddio meysydd targed yn benodol. • Dewisiadau ar sail tystiolaeth o angen, gwerth am arian ac a oes modd ei wneud yn rhatach ac yn wahanol. • Bydd llai o arian i’w wario. • Bydd y cyngor yn parhau i fod mor effeithlon â phosib trwy leihau costau rheoli a biwrocratiaeth. • Cynyddu incwm trwy godi’r tâl llawn am wasanaethau, lleihau cymorthdaliadau a gwerthu gwasanaethau i sefydliadau eraill. • Ystyried cyflwyno gwasanaethau’n wahanol, er enghraifft trwy gydweithredu ag eraill. • Gall ymyrryd yn gynnar, ataliaeth a rheoli galw wella canlyniadau i bobl a lleihau gwariant a chostau yn y dyfodol. • Annog mwy o breswylwyr a chymunedau i helpu eu hunain fel rhan o wasanaethau cynaliadwy.
Wyddech chi? Mae’n rhaid i’r cyngor arbed £70m erbyn 2018 Sustainable Swansea Fit for the future
Abertawe Gynaliadwy Yn addas i’r dyfodol
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 21
4
Y E
Cwestiynau allweddol Nod Parhau â’r Sgwrs yw rhoi sylw ar rai cwestiynau allweddol yr ydym am i breswylwyr, cymunedau, ein staff, busnesau a sefydliadau eraill feddwl amdanynt i’n helpu i sicrhau bod gwasanaethau’r cyngor yn gynaliadwy ac yn addas i’r dyfodol. Dylanwadwyd arnynt gan yr Egwyddorion Cyllidebol a’r heriau ariannol a wynebwn a bwriedir iddynt ein helpu i gael dealltwriaeth am ffurf y cyngor a’n dinas yn y dyfodol. Y cwestiynau yw: • Beth yw diben craidd y cyngor? • Beth yw’r blaenoriaethau tymor hir i’r ardal? • Pa wasanaethau y mae preswylwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf? • Beth ddylai’r cyngor beidio â’i wneud? • Datblygu gweithredu/cyfrifoldeb cymunedol – pa wasanaethau y mae preswylwyr, cymunedau a grwpiau’n fodlon eu darparu drostynt eu hunain a thros eraill?
Wyddech chi…? Rydym wedi torri miliynau o bunnoedd mewn costau rheoli
Ymunwch â’r drafodaeth a dywedwch eich barn wrthym. Ewch i www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea
5
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 20
Ffurf ein cyngor yn y dyfodol Hyd yn hyn mae’r cyngor wedi nodi pedwar prif faes gwaith lle bydd y cyngor yn datblygu ei rôl fel sefydliad arweiniol yn Abertawe sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau sy’n gynaliadwy ac yn addas i’r dyfodol. Nawr rydym am gael barn pobl am sut i gyflawni’r nodau hyn. Ni wnaed unrhyw benderfyniadau am yr ymagwedd hon ac ni fyddant yn cael eu gwneud nes bod pobl wedi mynegi eu barn. • Effeithlonrwydd Mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu harbed dros y blynyddoedd diwethaf trwy wella’r ffordd y mae’r cyngor yn gweithio a lleihau’r gorbenion. Byddwn yn ystyried parhau i leihau costau rheoli, datblygu arferion gweithio wedi’u symleiddio, gwella gwasanaethau cefnogi a chreu mwy o incwm i wrthbwyso costau. • Modelau cyflawni newydd Yn y dyfodol, bydd mwy o breswylwyr yn gallu gwneud mwy o fusnes gyda’r cyngor yn amlach ar-lein a thros y ffôn. Byddwn hefyd yn ystyried y ffordd yr ydym yn comisiynu gwasanaethau, yn ymuno â sefydliadau eraill i gyflwyno gwasanaethau ac yn gweithio gyda chymunedau fel y gallant drosfeddiannu rhai gwasanaethau. Gyda’i gilydd bydd y rhain yn gwella canlyniadau a/neu’n lleihau costau. • Ataliaeth Ein her fwyaf yw lleihau’r galw am wasanaethau yn y lle cyntaf. Mae profiad mewn meysydd fel gwasanaethau plant ac oedolion wedi dangos y gallwn atal costau yn y dyfodol a gwella canlyniadau trwy ymyrryd yn gynt. Trwy weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid gallwn hefyd leihau’r galw am lawer o wasanaethau a fydd hefyd yn gwella canlyniadau a/neu’n lleihau pwysau ariannol. • Rhoi terfyn ar wasanaethau Yn y dyfodol, bydd y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor yn cael eu pennu gan yr hyn sydd wedi’i brofi’n effeithiol a p’un a yw’r gwasanaeth yn rhan o ddiben craidd y cyngor. Bydd hyn yn golygu y gallai’r cyngor beidio â darparu rhai gwasanaethau nad yw pobl am i ni eu darparu neu nad ydynt yn arwain at ganlyniadau gwell neu deilwng. Oherwydd yr heriau ariannol, ni allwn barhau i wneud popeth yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Sustainable Swansea Fit for the future
Abertawe Gynaliadwy Yn addas i’r dyfodol
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 19
6
Y E
Amserlen Parhau â’r Sgwrs Mae eich barn yn bwysig a bydd yn ein helpu i wneud penderfyniadau. Cam un: Tan fis Tachwedd 2014 Hoffem i chi ymateb i’r wybodaeth yn y llyfryn hwn neu drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/abertawegynaliadwy lle cewch fwy o wybodaeth Cam dau: Gaeaf 2014/15 Bydd mwy o ymgysylltu ar gynigion y gyllideb y bydd y cabinet yn eu hystyried wrth benderfynu ar arbedion penodol. Cam Tri: Disgwylir i benderfyniad terfynol y cyngor ar y gyllideb gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2015.
Sut gallwch chi helpu Gallwch chwarae ran weithredol trwy ymuno yn y sgwrs neu drwy gynnig i ymuno â grw ˆ p er mwyn cefnogi gwasanaethau neu sefydlu eich grw ˆ p eich hun. Byddwn yn eich helpu i wneud hynny. AR-LEIN: Cwblhewch yr arolwg yn www.abertawe.gov.uk/abertawegynaliadwy @swanseacouncil City & County of Swansea COPÏAU CALED: Casglwch un o’r Ganolfan Ddinesig, un o’n llyfrgelloedd, ein swyddfeydd tai neu adeiladau dinesig eraill sy’n agored i’r cyhoedd. Gallwch e-bostio sustainableswansea@swansea.gov.uk a byddwn yn anfon copi atoch neu ddarparu un mewn fformat arall.
Ymunwch â’r drafodaeth a dywedwch eich barn wrthym. Ewch i www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea
7
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 18
Cwestiynau cyffredin Pam mae’n rhaid i bethau newid? Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth gynghorau eu bod yn wynebu toriadau mwy nag erioed o’r blaen ac mae angen i ni baratoi ar gyfer y rhain a’r pwysau eraill rydym yn eu hwynebu. Beth gallwch ei wneud amdano? Gallwch ymuno â’r drafodaeth a chael eich dweud. Ond gallwch wneud mwy na hynny trwy ymuno â grŵp lleol neu ddechrau eich grŵp eich hun i weithio gyda’r cyngor trwy helpu yn eich cymuned neu ddarparu gwasanaeth. Beth fydd yn digwydd os na fydd amser gen i? Dyma bwnc a fydd yn effeithio ar bob un ohonom. Trwy gymryd rhan, byddwch yn cael y cyfle i fynegi’ch barn neu hyd yn oed helpu i gefnogi gwasanaeth. Mae hefyd yn ymwneud â gwneud eich rhan i leihau costau mewn meysydd megis gwastraff ac ailgylchu, sbwriel a baw cŵn yn ogystal â chefnogi aelodau hŷn o’r teulu Onid yw pobl yn cefnogi gwasanaethau’r cyngor eisoes? Ydynt. Dyna pam rydym yn gwybod y gall mwy o weithredu cymunedol helpu i ddarparu gwasanaethau a lleihau’r galw. Mae gan Abertawe lawer o sefydliadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn gweithio mewn meysydd sy’n amrywio o ofal cymdeithasol i ymgyrchoedd yn erbyn taflu sbwriel. Dros amser, os bydd hynny’n briodol, gall rhai ohonynt ddisodli’r gwasanaethau rydym ninnau’n eu darparu. Beth os na all y cyngor wneud yr holl arbedion? Nid yw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn. Mae’n rhaid i ni newid oherwydd bod angen i ni wneud arbedion a gwella gwasanaethau ar yr un pryd. Rydym am lunio cynllun tymor hir i leihau’r galw am wasanaethau fel y gallwn osgoi toriadau tymor byr sy’n gallu bod yn niweidiol. Beth sy’n digwydd nawr? Cwblhewch yr holiadur yn y ddogfen hon neu ewch i www.abertawe.gov/abertawegynaliadwy
Sustainable Swansea Fit for the future
Abertawe Gynaliadwy Yn addas i’r dyfodol
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 17
8
Y E
Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol Hoffem gael eich barn gychwynnol am lunio dyfodol Cyngor Abertawe; caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio i gyfeirio penderfyniadau’r cyngor am wasanaethau a chyllidebau yn y dyfodol. Cyflwynwch eich ffurflen wedi’i chwblhau mewn unrhyw un o adeiladau’r cyngor neu ei phostio i: Abertawe Gynaliadwy, Dinas a Sir Abertawe, RHADBOST (SWC0034), Abertawe SA1 1ZZ Os hoffech gwblhau’r arolwg hwn mewn fformat arall, e.e. print bras, ffoniwch 636732 neu e-bostiwch sustainableswansea@swansea.gov.uk Ticiwch yr hyn yn y rhestr isod sy’n eich disgrifio orau: Aelod o’r cyhoedd Person busnes unigol Cynghorydd Dinas a Sir Abertawe Aelod o sefydliad gwirfoddol Yn gweithio i Ddinas a Sir Abertawe Aelod o bartneriaeth strategol Aelod o grwˆp cymunedol neu fforwm cydraddoldeb Aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol Yn cynrychioli grwˆp o fusnesau Arall (Nodwch isod)
Ymunwch â’r drafodaeth a dywedwch eich barn wrthym. Ewch i www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea
9
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 16
Pa rai o wasanaethau’r cyngor sydd bwysicaf i chi yn eich cymuned? (I gael rhestr o’r gwasanaethau, ewch i’n gwefan)
Ydych chi’n meddwl y dylai’r cyngor ddarparu unrhyw wasanaethau mewn ffordd wahanol (e.e. gyda chymorth partneriaid, aelodau’r gymuned, preswylwyr)?
A oes gwasanaethau y dylai’r cyngor roi’r gorau i’w darparu yn eich barn chi?
Sustainable Swansea Fit for the future
Abertawe Gynaliadwy Yn addas i’r dyfodol
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 15
10
Y E
Pe bai’r cyngor yn lleihau rhai o’i wasanaethau neu’n rhoi gorau iddynt, pa rai fyddai’n effeithio fwyaf arnoch chi neu’ch cymuned?
Beth rydych chi’n meddwl y gallech chi, preswylwyr eraill neu grwpiau cymunedol ei wneud i leihau effaith newidiadau ar wasanaethau yn eich ardal?
A hoffech chi gymryd rhan yng ngham nesaf y broses Ymgysylltu ynglŷn â’r Gyllideb? Hoffwn
Na hoffwn
Oes gennych ddiddordeb mewn gwneud mwy i gefnogi darpariaeth gwasanaethau yn eich ardal a ddarperir gan y cyngor ar hyn o bryd. Oes
Nac oes
Ymunwch â’r drafodaeth a dywedwch eich barn wrthym. Ewch i www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea
11
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 14
Rhowch eich manylion cyswllt os gwelwch yn dda (er mwyn cael adborth a chymryd rhan yng ngham nesaf y broses ymgysylltu). Cyfeiriad E-bost: Cyfeiriad: Côd Post: Amdanoch chi: Ydych chi? Gwryw
Benyw
Beth yw eich oedran? Dan 18 oed 18 – 39 oed 40 – 65 oed Dros 65 oed Parhewch ar ddalen ar wahân os oes angen. Ni allwn ymateb i sylwadau’n unigol; caiff sylwadau eu dadansoddi a chaiff adroddiad adborth cyffredinol ei lunio. Diolch am gymryd rhan.
Sustainable Swansea Fit for the future
Abertawe Gynaliadwy Yn addas i’r dyfodol
35785-14 Sustainable Swansea Booklet_Layout 1 11/09/2014 09:50 Page 13
12