Dinas a Sir Abertawe
Mewn newid i'r gweithdrefnau cadw lle arferol, nid oes angen taliad siec arnom erbyn hyn i sicrhau'ch lle, fodd bynnag... ...dylech wybod bod cyfrifoldeb am reoli absenoldeb wedi'i drosglwyddo i adran cyfrifon derbyniadwy (CD) Dinas a Sir Abertawe a fydd yn: ■ Cyflwyno anfoneb o £50.00 y person y cwrs am unrhyw absenoldeb. ■ Os nad yw'r anfoneb wedi cael ei thalu o fewn 35 niwrnod, bydd yr adran Cyfrifon Derbyniadwy yn anfon nodyn atgoffa. ■ Os yw heb ei thalu o hyd ar ôl 14 diwrnod, caiff hysbysiad o rybudd llys ei gyhoeddi. ■ Os na thelir yr anfoneb ar ôl cyhoeddi'r rhybudd llys, caiff ei ystyried yn ddyled gyfreithiol a bydd yn destun erlyniad llys. ■ Bydd yr is-adran Cyfrifon Derbyniadwy yn anfon pob gohebiaeth i'r lleoliad gofal plant/blynyddoedd cynnar a fydd â'r cyfrifoldeb terfynol am wneud y taliad. ■ Os bydd unrhyw daliadau heb eu talu, ni chaiff y lleoliad ei dderbyn mwyach ar gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol. Sylwer ■ Ar ôl cwblhau’r cwrs Hylendid Bwyd yn llwyddiannus, gall y corff dyfarnu gymryd o leiaf 3 mis i anfon y tystysgrifau. Mae Corff Dyfarnu’r cymhwyster hwn yn gofyn i’r holl ymegsiwyr ddarparu prawf adnabod. Dylai ymgeiswyr ddod ag un o’r eitemau canlynol gyda hwy i’r hyfforddiant. ❖ Pasbort dilys ❖ Trwydded Yrru Cerdyn-llun y DU wedi’i llofnodi ❖ Cerdyn Adnabod Dilys a roddwyd gan Luoedd EM, yr Heddlu ❖ Cerdyn adnabod arall â llun arno e.e. cerdyn adnabod gweithwyr, cerdyn adnabod myfyrwyr, cerdyn teithio
2
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
■ Bydd y cyrsiau hyn yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. ■ Cyfyngir lleoedd i DDAU gynrychiolydd y lleoliad ■ Ni dderbynnir archebion cyn y dyddiadau cadw lle a nodir. ■ Os rhoddir digon o rybudd am beidio â dod (h.y. 10 niwrnod gwaith) ni chodir tâl amdano. ■ Ni ddarperir bwyd a lluniaeth yn y cyrsiau hyfforddi felly dylai cynrychiolwyr ddod â’r rhain gyda hwy. I gadw’ch lle, ffoniwch: Siân Fennell ar 01792 635400 Comisiynir yr holl wasanaethau yn y llyfryn hwn yn allanol ac er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y rhaglen hyfforddi yn gweithredu'n effeithlon, nid yw'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn gyfrifol am unrhyw faterion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â hwyluswyr a lleoliadau cyrsiau. Croesewir sylwadau am eich profiadau hyfforddi a'ch dymuniadau am hyfforddiant yn y dyfodol – ewch i www.abertawe.gov.uk/fis
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
3
Dinas a Sir Abertawe
Cynnwys Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Plant ....................................................5 - 7 Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith .....................................................8 Hanfodion Hylendid Bwyd - RSPH Lefel 2.................................9 - 11 Amddiffyn Plant - Lefel 2..........................................................12 – 14 Hyfforddiant Ymlyniad .....................................................................15 Trafod â Llaw....................................................................................16 Ymwybyddiaeth o Anabledd............................................................17 Cynyddu Ymwybyddiaeth o ADHD, Awtistiaeth a Syndrom Asperger ........................................................................17 Sachau Straeon ...............................................................................18 Bwyd, Hwyl a Chwarae Gweithgar i Blant Bach..............................19 Lleferydd ac Iaith - Beth ydynt a Sut mae Manteisio i'r Eithaf arnynt.................................................................................20 Rhoi Triongl Cynllunio'r Cyfnod Sylfaen ar Waith ............................21 Cysylltiadau Hyfforddiant.................................................................22 Amodau a Thelerau Hyfforddiant ...............................................23-24
4
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Plant Hwylusir gan RT Training Services ■ Mae'r cyrsiau 12 awr hyn ar gyfer darparwyr gofal plant yn benodol. ■ Bydd y cyrsiau'n ymdrin â phob agwedd ar ganfod a thrin anafiadau a chyflyrau cyffredin ymhlith plant, cofnodi damweiniau a gweithdrefnau mewn argyfwng. ■ Mae'r holl dystysgrifau a gyflwynir ar ôl cwblhau'r cyrsiau cymorth cyntaf yn ddilys am 3 blynedd.
Cwrs 1: Ebrill 2012 Dyddiad:
Dydd Mercher 18 a dydd Iau 19 Ebrill 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
Cwrs 2: Ebrill 2012 Dyddiad:
Dydd Sadwrn 21 ac 28 Ebrill 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
5
Dinas a Sir Abertawe
Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Plant (Parhad)
Cwrs 3: Mai 2012 Dyddiad:
Dydd Mercher 2, 9, 16 a 23 Mai 2012
Amser:
6.00pm – 9.00pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
Cwrs 4: Mehefin 2012 Dyddiad:
Dydd Mercher 13 a dydd Iau 14 Mehefin 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Ebrill 2012
Cwrs 5: Gorffennaf 2012 Dyddiad:
Ystafell Bwyllgor 3, dydd Mawrth 3, dydd Llun 9 a dydd Mawrth 10 Gorffennaf 2012
Amser:
6.00pm – 9.00pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 3 Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Mai 2012
6
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Plant (Parhad)
Cwrs 6: Medi 2012 Dyddiad:
Dydd Sadwrn 8 a 15 Medi 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 1, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Gorffennaf 2012
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
7
Dinas a Sir Abertawe
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Hwylusir gan RT Training Services Argymhellir y cwrs hwn ar gyfer cynorthwywyr cymorth cyntaf brys enwebedig, mewn gweithleoedd lle ceir llai o risg iechyd a diogelwch. Mae hefyd yn ddelfrydol i unrhyw un sydd am fynd ar gwrs cymorth cyntaf undydd. Dyma rai o'r pynciau yr ymdrinnir â hwy: ■ Rheoliadau iechyd a diogelwch (cymorth cyntaf) ■ ■ ■ ■ ■ ■ ■
Rheoli digwyddiad Blaenoriaethau cymorth cyntaf Trin person anymwybodol Dadebru Cardio-anadlol (CPR) Sioc Gwaedu Anafiadau cyffredin yn y gweithle
Cwrs: Medi 2012 Dyddiad:
Dydd Llun 10 Medi 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Gorffennaf 2012
8
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Hanfodion Hylendid Bwyd RSPH Lefel 2 Hwylusir gan RT Training Services Pwy ddylai fynd ar y cwrs hwn? Mae’r cwrs hwn yn addas i bawb sy’n trin a thrafod bwyd, gan gynnwys y cyhoedd, ac mae’n arbennig o addas i’r rhai sy’n gweithio mewn ceginau neu ddyletswyddau rheng flaen wrth baratoi, prosesu neu werthu bwyd. Bydd yr hyfforddwyr yn addasu’r cwrs i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio yn y sector gofal plant, gan roi sylw arbennig i’r lleoliadau amrywiol y caiff bwyd ei baratoi. Rhaid i ymgeiswyr ddangos cerdyn adnabod â llun arno i sefyll yr arholiad Dyma rai o'r pynciau yr ymdrinnir â hwy: ■ ■ ■ ■ ■ ■
Bwydydd risg uchel Achosion a dulliau atal gwenwyn bwyd Deddfwriaeth diogelwch bwyd Rheoli hylendid Rheoli tymheredd HACCP - trosolwg
Cyflwyno'r cwrs Cyflwynir y cwrs mewn ystafell ddosbarth gyda gwaith grŵp a thasgau ymarferol. Darperir llyfrau gwaith ac anogir ymgeiswyr i wneud nodiadau ychwanegol. Mae cwblhau'r cwrs yn amodol ar basio arholiad ffurfiol ar ddiwedd y dydd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif gan Gorff Dyfarnu Highfield dros gydymffurfio. Mae’r cymhwyster ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel 2. Manylion y cwrs trosodd. Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
9
Dinas a Sir Abertawe
Hanfodion Hylendid Bwyd
RSPH Lefel 2
(Parhad)
Cwrs 1: Ebrill 2012 Dyddiad:
Dydd Mawrth 24 Ebrill 2012
Amser:
9.30am – 4.00pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
Cwrs 2: Mai 2012 Dyddiad:
Dydd Sadwrn 19 Mai 2012
Amser:
9.30am – 4.00pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
Cwrs 3: Mai 2012 Dyddiad:
Dydd Llun 28 Mai 2012
Amser:
9.30am – 4.00pm
Lleoliad:
Ymddiriedolaeth Datblygu Gorseinon, Millers Drive, Gorseinon, Abertawe SA4 4QN
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
10
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Hanfodion Hylendid Bwyd
RSPH Lefel 2
(Parhad)
Cwrs 4: Mehefin 2012 Dyddiad:
Dydd Gwener 29 Mehefin 2012
Amser:
9.30am – 4.00pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Ebrill 2012
Cwrs 5: Gorffennaf 2012 Dyddiad:
Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2012
Amser:
9.30am – 4.00pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Mai 2012
Cwrs 6: Medi 2012 Dyddiad:
Dydd Mawrth 18 Medi 2012
Amser:
9.30am – 4.00pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Gorffennaf 2012
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
11
Dinas a Sir Abertawe
Amddiffyn Plant Lefel 2 Nod y diwrnod yw rhoi dealltwriaeth i'r cyfranogwyr o egwyddorion sylfaenol diogelu plant, y fframwaith deddfwriaethol a pholisi eu hasiantaeth. Galluogi cyfranogwyr i ystyried eu gwerthoedd a'u hagweddau eu hunain o ran diogelu plant. Rhoi cyfle i'r cyfranogwyr ystyried pryd a sut bydd y materion hyn yn effeithio arnynt, ac ymarfer y broses benderfynu.
Cwrs 1: Ebrill 2012 Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe Hwylusir gan Beverley Edwards, Swyddog Datblygu Gwasanaethau a Staff – y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dyddiad:
Dydd Gwener 27 Ebrill 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Uned Hyfforddi Llwyncelyn, Heol y Cocyd, y Cocyd, Abertawe SA2 0FJ
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
Cwrs 2: Mai 2012 Hwylusir gan Catherine Williams – Figure 8 Management Dyddiad:
Dydd Sadwrn 5 Mai 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
12
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Amddiffyn Plant Lefel 2
(Parhad)
Cwrs 3: Mai 2012 hwylusir gan Catherine Williams – Figure 8 Management Dyddiad:
Dydd Llun, 14 Mai 2012
Amser:
6.00pm – 9.00pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 2, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
Cwrs 4: Mehefin 2012 Hwylusir gan Beverley Edwards, Swyddog Datblygu Gwasanaethau a Staff – y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dyddiad:
Dydd Iau 21 Mehefin 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Uned Hyfforddi Llwyncelyn, Heol y Cocyd, y Cocyd, Abertawe, SA2 0FJ
Gellir cadw lle o: fis Ebrill 2012
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
13
Dinas a Sir Abertawe
Amddiffyn Plant Lefel 2
(Parhad)
Cwrs 5: Gorffennaf 2012 Hwylusir gan Beverley Edwards, Swyddog Datblygu Gwasanaethau a Staff – y Gwasanaethau Cymdeithasol Dyddiad:
Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Uned Hyfforddi Llwyncelyn, Heol y Cocyd, y Cocyd, Abertawe SA2 0FJ
Gellir cadw lle o: fis Mai 2012
Cwrs 6: Medi 2012 Hwylusir gan Catherine Williams – Figure 8 Management Dyddiad:
Dydd Sadwrn 22 Medi 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Gellir cadw lle o: fis Gorffennaf 2012
14
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Hyfforddiant Ymlyniad Hyrwyddwyd gan Julia Forde, Swyddog Datblygu Gwasanaethau a Staff – y Gwasanaethau Cymdeithasol Mae’r cwrs hwn yn helpu i ddeall ymlyniad ac ystyried yr effaith y mae trawma plentyndod yn ei gael ar blant ac ystyried y dulliau a all helpu plant sy’n profi effeithiau trawma er mwyn dechrau meithrin hyder.
Cwrs: Mai 2012 Dyddiad:
Dydd Gwener 11 Mai 2012
Amser:
9.30am – 4.30pm
Lleoliad:
Uned Hyfforddi Llwyncelyn, Heol y Cocyd, y Cocyd, Abertawe, SA2 0FJ
Gellir cadw lle o: fis Mawrth 2012
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
15
Dinas a Sir Abertawe
Trafod â Llaw ar gyfer Ymarferwyr Gofal Plant Hwylusir gan RT Training Services Datblygwyd y cwrs hwn i'r rhai sy'n trafod â llaw fel rhan o'u rôl o ddydd i ddydd yn y sector gofal plant. Dyma rai o'r pynciau yr ymdrinnir â hwy: ■ pwysigrwydd gofal y cefn ■ yr asgwrn cefn ■ achosion poen cefn ■ egwyddorion symud effeithlon ■ codi a symud plant ■ codi a symud offer ■ beth mae'r gyfraith yn ei ddweud am symud a thrafod â llaw
Cwrs: Mehefin 2012 Dyddiad:
Dydd Mawrth 26 Mehefin 2012
Amser:
9.30am – 1.00pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Ebrill 2012
16
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd Hwylusir gan John Thomas - Interplay Cwrs diddorol a rhyngweithiol sy'n cyfuno theori a chyfranogiad y rhai sydd ar y cwrs a fydd yn cyflwyno syniadau a gweithgareddau chwarae cynhwysol y gellir eu haddasu yn eich lleoliad.
Cwrs: Mehefin 2012 Dyddiad: Amser: Lleoliad:
Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2012 9.30am – 12.30pm Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN Gellir cadw lle o: fis Ebrill 2012
Cynyddu Ymwybyddiaeth o ADHD, Awtistiaeth a Syndrom Asperger Hwylusir gan Alison Griffiths – Seicolegydd Addysg Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi trosolwg o ADHD, Awtistiaeth a Syndrom Asperger. Byddwn yn ystyried canfod, cyflwyno a rheoli gan ganolbwyntio ar y Blynyddoedd Cynnar lle bo modd. Hefyd, bydd llawer o gyfle i drafod a byddwn yn tynnu ar brofiadau'r grŵp.
Cwrs: Medi 2012 Dyddiad: Amser: Lleoliad:
Dydd Iau 20 Medi 2012 9.30am – 2.45pm Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe, SA5 7AZ Gellir cadw lle o: fis Gorffennaf 2012
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
17
Dinas a Sir Abertawe
Hyfforddiant Sachau Straeon Hwylusir gan Lyfrgell Deganau Deithiol Abertawe ■ Hybu defnyddio Sachau Straeon fel teclyn gwerthfawr wrth wella adrodd straeon trwy ddod â straeon yn fyw, gan gynyddu diddordeb plant mewn llyfrau ac annog sgwrsio a sgiliau lleferydd ac iaith. ■ Rhoi'r cyfle i fod yn greadigol, cynllunio a dylunio sach straeon yn seiliedig ar y llyfr straeon â darluniau a ddewiswyd gennych, yn briodol i oedran a cham datblygu'r plant y gweithioch chi gyda hwy. ■ Gobeithir y bydd yn rhoi'r hyder i chi hybu gwerth rhannu llyfrau â'r teuluoedd rydych yn gweithio gyda hwy. ■ Cael diwrnod dymunol a difyr mewn awyrgylch anffurfiol.
Cwrs: Gorffennaf 2012 Dyddiad:
Dydd Gwener 6 Gorffennaf 2012
Amser:
9.30am – 3.30pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Mai 2012
18
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Bwyd, Hwyl a Chwarae Gweithgar i Blant Bach Hwylusir gan Tracie Jennett – Cydlynydd Iaith a Chwarae Mae ‘Bwyd, Hwyl a Chwarae Gweithgar i Blant Bach’ yn adnodd newydd cyffrous ar gyfer ymarferwyr a theuluoedd y Blynyddoedd Cynnar. Fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o annog plant ifanc i fod yn weithgar, datblygu trwy weithgarwch a chwarae, mwynhau eu bwyd, archwilio bwyd trwy weithgareddau sy'n gysylltiedig â bwyd, a bwyta'n dda. Mae'r pecyn adnoddau (ar gael i'r rhai ar y cwrs) yn cyd-fynd â mentrau a rhaglenni eraill sy'n cefnogi iechyd y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru.
Cwrs: Mehefin 2012 Dyddiad:
Dydd Llun 18 Mehefin 2012
Amser:
1.00pm – 4.00pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Ebrill 2012
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
19
Dinas a Sir Abertawe
Lleferydd ac Iaith - Beth ydynt a Sut mae Manteisio i'r Eithaf arnynt Hwylusir gan Hannah Murtagh, Therapydd Lleferydd ac Iaith Dechrau'n Deg/Cychwyn Cadarn Bydd y cwrs yn cynnwys: Beth yw cyfathrebu? ■ Datblygiad lleferydd ac iaith o enedigaeth i 4 oed ■ Sut mae datblygu sgiliau lleferydd ac iaith plentyn ■ Manteisio i'r eithaf ar botensial cyfathrebu plentyn ■ Rhai anawsterau cyfathrebu cyffredin, arwyddion, symptomau a beth i'w wneud nesaf
Cwrs: Gorffennaf 2012 Dyddiad:
Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2012
Amser:
10.00am – 1.00pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Mai 2012
20
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
Dinas a Sir Abertawe
Rhoi Triongl Cynllunio'r Cyfnod Sylfaen ar Waith Hwylusir gan Emma Amirat – Athrawes Gyswllt Dechrau'n Deg ■ Cyflwyniad i egwyddorion y Cyfnod Sylfaen a'r ‘Triongl Cynllunio’ ■ Golwg ar y camau cyntaf i greu'ch amgylchedd dysgu ■ Sut mae creu cynlluniau ysgrifenedig sy'n dangos sut mae'ch lleoliad yn bodloni canllawiau'r Cyfnod Sylfaen.
Cwrs : Medi 2012 Dyddiad:
Dydd Iau 13 Medi 2012
Amser:
10.00am – 3.00pm
Lleoliad:
Canolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan, Abertawe SA5 7AZ
Gellir cadw lle o: fis Gorffennaf 2012
Rhaglen Hyfforddiant: Ebrill – Medi 2012
21
Cysylltiadau Hyfforddi Eraill Byddwn bob amser yn ceisio diwallu eich anghenion hyfforddi ond mae’n bosibl bydd ein cyrsiau yn llawn ar adegau neu efallai nad ydym yn cynnig yr union gwrs y mae ei angen arnoch. Bydd sefydliadau eraill sy’n gweithio ym maes gofal plant yn falch o helpu. I gael mwy o fanylion am sefydliadau eraill sy’n cynnig hyfforddiant yn ardal Abertawe, ffoniwch: Clybiau Plant Cymru Kids Clubs Wales 01792 462502 Cymdeithas Darparwyr Cyn –ysgol Cymru (Cymru PPA) 01792 781108 Mudiad Meithrin 01970 639639 Y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol (NCMA) 0844 8801820 Tim Chwarae Plant 01792 635154 Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) 01792 544000 Chwarae Iawn 01792 794884 Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y llyfryn hyfforddi hwn cysylltwch â: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe Llawr 5, Canolfan Oldway, 36 Stryd y Berllan, Abertawe. SA1 5LD 01792 635400 / 01792 517222 Mae copïau o'r llyfryn hwn ar gael yn Saesneg ar gais 22
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
AMODAU A THELERAU HYFFORDDIANT Disgwylir y canlynol gan bawb sy'n dod i'r holl gyrsiau hyfforddi: ■ moesgarwch, cwrteisi, parch a gonestrwydd ar bob adeg ■ prydlondeb ac aros am hyd y cwrs. Nid yw gofyn am ganiatâd hwyluswr y cwrs i adael yn gynnar ar y diwrnod hyfforddi'n dderbyniol. Sylwer mai'r lleiafswm oriau cyfranogi gofynnol gan y byrddau dyfarnu yw'r oriau a nodir ar eich cadarnhad er mwyn iddynt roi tystysgrifau. Mae gan hyfforddwyr yr hawl i wrthod mynediad i gynrychiolwyr sy'n cyrraedd mwy na 10 munud yn hwyr. Yn yr un modd, mae gan hyfforddwyr yr hawl i wrthod tystysgrif i gynrychiolwyr sy'n gadael fwy na 15 munud cyn diwedd dynodedig y cwrs. ■ mynd ati i gyfranogi, cyfrannu at gynnwys y cwrs a dangos diddordeb ynddo ■ cyflwyno pob cwyn ffurfiol am y rhaglen hyfforddi'n ysgrifenedig. Dylai cwynion fod yn ffeithiol, yn gywir ac yn adeiladol eu naws a'u hanfon at y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd o fewn 10 niwrnod. Bydd disgwyl i leoliadau gofal plant - gwarchodwyr, meithrinfeydd dydd, grwpiau chwarae, clybiau gofal plant y tu allan i'r ysgol a grwpiau tebyg: ■ lenwi’r ffurflen Amodau a Thelerau o fewn pythefnos o gadw lle dros y ffôn ■ Gwneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe'. ■ Peidio ag anfon mwy na 2 gynrychiolydd o'r un lleoliad gofal plant i'r un cwrs. ■ Canslo 10 niwrnod gwaith cyn dyddiad dechrau'r cwrs. ■ Cytuno i ildio’r ffi lawn am fethu â dod a chanslo lle'n hwyr. Canslo yw canslo, ni waeth beth yw difrifoldeb y rheswm.
AMODAU A THELERAU HYFFORDDIANT Rwyf wedi trafod yr uchod â'r holl weithwyr a fydd yn mynd ar y cyrsiau hyn. Rwyf i, a'r holl staff yn y lleoliad, yn cytuno i'r amodau a thelerau a amlinellwyd (ticiwch).
J J J J
LLEOLIAD GOFAL PLANT: CYFEIRIAD E-BOST: RHIF FFÔN: DYDDIAD Y RHAGLEN HYFFORDDI: LLOFNOD: PRINTIWCH EICH ENW HEFYD: DYDDIAD DYCHWELYD Y BONYN:
■ Sylwer bod yr amodau a thelerau hyn yn gyfreithiol rwymol. Bydd methu cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a amlinellwyd yn arwain at eich lleoliad yn cael ei dynnu oddi ar ein systemau a'i wahardd rhag cyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol a gynigir gan Ddinas a Sir Abertawe. ■ Adolygir yr Amodau a Thelerau'n flynyddol. RHAID dychwelyd copi wedi'i lofnodi i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) cyn i chi/eich staff fynd ar unrhyw hyfforddiant. Dychwelwch y slip hwn i:
Ê
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe Llawr 5, Canolfan Oldway 36 Stryd y Berllan Abertawe SA1 5LD