Ty agored rhifyn 1 2016 cym

Page 1

TyAgored ˆ Rhifyn 1 2016

Y cylchgrawn ar gyfer Tenantiaid a Lesddeiliaid y Cyngor

OpenHouse The Magazine for Council Tenants and Leaseholders

Gwella cartrefi a stadau Gweler tudalen 11

Cyfeiriad dychwelyd: Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN

Issue 1 2016

Improving homes and estates See page 11

Return Address: City and County of Swansea, Civic Centre, Oystermouth Road, Swansea, SA1 3SN


Croeso i

Direct Debit competition..................... 5

To find out more about the improvements that we are making to council properties and estates to bring them up to the Welsh Housing Quality Standard – go to page 11 for all the details. We hope you enjoy reading this edition which is packed full of information and interesting news. Look out for our regular features including ‘Tenants’ Voice’ on page 10 and ‘Local Links’ on page 8.

Pride in Penderry ............................... 4

Welcome to Open House, the magazine for Council tenants and leaseholders.

Sheltered tenants’ D-Day honour....... 1

Focus On…the Housing Improvement Team............................ 2

FEATURES

What’s Inside

OpenHouse welcome to

Tyˆ Agored : Rhifyn 1 2016

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a byddwn yn ymdrin â gohebiaeth Gymraeg a Saesneg i'r un safonau ac amserlenni.

6

MAE’R HOLL WYBODAETH YN TYˆ AGORED YN GYWIR WRTH FYND I’R WASG.

LOCAL LINKS

Cysylltiadau defnyddiol a chalendr y ganolfan

Open House is also available to read online at  www.swansea.gov.uk/housing

Allwn ni eich helpu chi?.......................28

Anne Webber, Editor

Cydlynu Ardaloedd Leol .................... 27

Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat arall e.e. print bras, Braille, disg neu ddull arall, ffoniwch  01792 635045, ewch i’n gwefan  http://www.abertawe.gov.uk/tai neu e-bostiwch  tai@abertawe.gov.uk

TENANCY AND ESTATE

CYDRADDOLDEB

Mae pob rhif ffôn yn dechrau gyda chôd Abertawe (01792)

Tenants' voice ..................................... 8

Newidiadau i’r LBA ........................... 26

Useful Contacts

Cymorth gyda Dyled ......................... 25

Sheltered Housing news ................... 10

Inswleiddio Llofftydd .......................... 24

Welsh Housing Quality Standard update ................................................ 11 HomeSwapper.................................... 16

Rheoliadau Newydd ar gyfer Perchnogion Cwn.............................. 23 ˆ

Changes to your Tenancy

Ailgylchu ............................................. 21

Swyddfa Dai Ranbarthol Eastside ..........................  791251 Swyddfa Dai Ranbarthol Treforys a’r Clâs .............  601720 Swyddfa Dai Ranbarthol Sgeti ................................  516810 Swyddfa Dai Ranbarthol Townhill a Mayhill ..........  513900 Swyddfa Dai Ranbarthol Blaenymaes ...................  534060 Swyddfa Dai Ranbarthol Gorseinon ......................  897700 Swyddfa Dai Ranbarthol Penlan ............................  582704 Swyddfa Dai Ranbarthol Canol y Ddinas ............... 650486 Swyddfa Dai Ranbarthol West Cross .....................  402500

Editor – Anne Webber .............................................  635045 Repairs Contact Centre ...........................................  635100 Out of Hours Emergency Repairs ...........................  521500 24 hour Neighbourhood Support Unit ..................  648507 Environment Contact Centre ...................................  635600 Housing Benefit Queries .........................................  635353

CYNGOR CYFFREDINOL

Rhifau Swyddfeydd Tai Rhanbarthol

Agreement...........................................18

Anghyfreithlon .................................... 20

District Housing Office Numbers

Mynd i’r Afael â Thipio

Universal Credit................................... 19

Credyd Cynhwysol...............................19

Tackling fly tipping...............................20

Tenantiaeth......................................... 18

GENERAL ADVICE

Newidiadau i’ch Cytundeb

Golygydd – Anne Webber ......................................  635045 Y Ganolfan Gyswllt Atgyweirio ...............................  635100 Atgyweiriadau Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa ....  521500 Uned Cefnogi Cymdogaethau 24 awr ..................  648507 Canolfan Gyswllt yr Amgylchedd ...........................  635600 Ymholiadau Budd-dal Tai .......................................  635353

Recycling ............................................ 21

HomeSwapper.................................... 16

Cysylltiadau Defnyddiol

New regulations for dog owners....... 23

Y Diweddaraf am Safon Ansawdd Tai Cymru..................................... ...... 11

Loft insulation ..................................... 24

Newyddion Tai Lloches ................... 10

Eastside District Housing Office ..............................  791251 Morriston & Clase District Housing Office ..............  601720 Sketty District Housing Office ..................................  516810 Townhill & Mayhill District Housing Office ..............  513900 Blaenymaes District Housing Office .......................  534060 Gorseinon District Housing Office ..........................  897700 Penlan District Housing Office ................................  582704 Town Centre District Housing Office .......................  650486 West Cross District Housing Office .........................  402500

Llais y Tenantiaid ................................ 8

Gallwch ddarllen T yˆ Agored ar-lein yn  www.abertawe.gov.uk/tai Anne Webber, Golygydd

Help with debt .................................. 25

TENANTIAETHAU A STADAU

I gael mwy o wybodaeth am y gwelliannau rydym yn eu gwneud i eiddo a stadau'r cyngor er mwyn iddynt fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i dudalen 11 am yr holl fanylion.

All telephone numbers are Swansea based (01792)

6

Changes to DLA.................................. 26

CYSYLLTIADAU LLEOL

EQUALITIES

Cystadleuaeth Debyd Uniongyrchol... 5

Local Area Coordination ................... 27

Balchder Penderi................................ 4

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y rhifyn hwn sy'n llawn gwybodaeth a newyddion diddorol. Cadwch lygad am ein herthyglau rheolaidd gan gynnwys ‘Llais y Tenantiaid’ ar dudalen 10, a ‘Chysylltiadau Lleol ’ ar dudalen 8.

Can we help you?............................... 28

Ffocws ar...........y Tîm Gwella Tai........ 2

If you require this information in a different format eg large print, Braille, disc or other, please contact  01792 635045 or visit our website  www.swansea.gov.uk/housing or email  housing@swansea.gov.uk

Lloches ................................................1

Croeso i T yˆ Agored, cylchgrawn i denantiaid a lesddeiliaid y cyngor.

ALL INFORMATION IN OPENHOUSE IS  CORRECT AT TIME OF GOING TO PRESS.

Anrhydedd Dydd D i Denantiaid

We welcome correspondence in Welsh and will deal with Welsh and English correspondence to the same standards and timescales.

TyAgored ˆ

ERTHYGLAU

Open House : Issue 1 2016

Y tu mewn


Cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd yn cael anrhydedd uchaf Ffrainc Mae dau o’n preswylwyr tai lloches wedi cael anrhydedd uchaf Ffrainc am chwarae rôl allweddol yng nglaniadau Dydd D. Roedd Richard Pelzer, 92 oed, sy’n byw yng nghyfadeilad Ty Dewi Sant yn Fforestfach, yn hynod falch o gael y Légion d’honneur ar ran Llywodraeth Ffrainc. Heb sylweddoli^ ar y pryd, roedd Mr Pelzer yn rhan o adeiladu un o arfau dirgel mwyaf yr Ail Ryfel Byd. Mulberry oedd yr enw côd a roddwyd i adeiladu harbwr ffug i alluogi’r cymheiriaid i lanio yn Ffrainc heb ddioddef cynifer o anafusion ag yn ystod Brwydr Dieppe ym 1942 pan gafodd 3367 eu lladd, eu clwyfo neu eu dal. Dywedodd Mr Pelzer y cafodd ei synnu'n fawr ar ôl derbyn ei lythyr yn rhoi gwybod iddo am y wobr ac roedd yn hynod falch o dderbyn ei fedal.

Yn ddiweddar, cyflwynwyd y Légion d’honneur hefyd ^ i Patrick Cullen sy’n byw yn Nhy Caerloyw. Meddai Patrick, “Roeddwn i’n 23 oed pan gymerais ran yng nglaniadau’r Dydd D, ac mae cydnabod hyn 71 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn anrhydedd fawr i mi.” Cafodd Patrick y fedal mewn cinio anrhydeddus yng nghwmni ffrindiau a theulu yng Ngwesty’r Towers. Meddai Barbara, ei wraig falch, “Roedd hyn yn achlysur arbennig i holl ffrindiau a theulu Patrick.”

Uchod: Mr Cullen Chwith: Mr Pelzer

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

1


Ffocws ar... y Tîm Gwella Tai

Dyma’r Tîm Gwella Tai sy’n gweithio’n agos gyda thenantiaid, contractwyr a staff o wasanaethau eraill er mwyn helpu i gyflwyno rhaglenni atgyweirio a gwella adeiladau sylweddol. Yn 2016/17, bydd y rhaglen waith yn fwy nag erioed o’r blaen a bydd buddsoddiad gwerth £60m yn helpu i wella stoc dai’r cyngor i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Arweinir y tîm gan David Meyrick, Rheolwr Gweithrediadau Technegol. Prif rôl y tîm yw rhoi cyngor, cefnogaeth ac arweiniad i denantiaid cyn, yn ystod ac ar ôl i waith atgyweirio gael ei wneud ar eiddo, gan weithio mewn partneriaeth â’r staff technegol sy’n rheoli'r prosiectau a’r contractwyr sy’n gwneud y gwaith. Cyn i unrhyw waith atgyweirio ddechrau, bydd y Swyddog Gwella Tai’n cysylltu â thenantiaid drwy lythyr neu’n bersonol er mwyn esbonio’r gwaith a wneir, pa mor hir bydd yn para a sut bydd yn effeithio arnynt pan fydd y gwaith yn mynd yn ei flaen.

Mae enghreifftiau o’r math o waith a wneir yn cynnwys y canlynol: • • • • • • •

2

Gosod toeon newydd ac atgyweirio simneiau ^ Newid nwyddau dwr glaw ac estyll tywydd Rendro allanol wedi’i inswleiddio Adnewyddu ffenestri a drysau allanol Gwella cyfarpar diogelwch tân Gwella ceginau ac ystafelloedd ymolchi Gwaith amgylcheddol fel waliau terfyn a ffensys

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


O ran gwella ceginau ac ystafelloedd ymolchi, mae’r gwaith a wneir yn helaeth a gall fod yn anghyfleus i denantiaid wrth i eiddo gael cyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi dros dro. Er mwyn sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud yn tarfu cyn lleied â phosib ar bobl, bydd y Swyddog Gwella Tai a Swyddog Cyswllt Tenantiaid y contractwr yn ymweld â phob tenant i drafod y canlynol: • Cynllun tebygol y gegin a’r ystafell ymolchi newydd • Y pamffled gwybodaeth a’r ddogfen Cytundeb Gwaith Sylweddol, sy’n esbonio rolau a chyfrifoldebau’r cyngor, y contractwr a’r tenant • Cynlluniau lliw ar gyfer unedau cegin, wynebau gwaith, lloriau a gorffeniadau waliau • Amserlenni tebygol i gwblhau'r gwaith • A oes angen asesu addasiadau ar gyfer pobl anabl.

Yn ystod y gwaith, bydd y Swyddog Gwella Tai ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw bryderon neu gwynion. Pan gwblheir y gwaith, gofynnir i denantiaid lenwi holiadur boddhad er mwyn cyflwyno sylwadau ar safon y gwasanaeth a dderbyniwyd.

Gallwch gael gwybodaeth fwy manwl am y cynlluniau uchod ar dudalen 11 Y Diweddaraf am Raglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru.

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

3


Amgueddfa gymunedol Balchder Penderi Agorodd amgueddfa atgofion gymunedol Balchder Penderi ym mis Tachwedd 2015 yn 104 Ty Cymunedol, Rhodfa Broughton ym Mlaenymaes ac mae ar agor i unrhyw un ymweld â hi. Gofynnwyd i Len Burns, tenant o Blasmelyn sy’n 94 oed, agor yr amgueddfa gan ei fod ef a thenantiaid eraill wedi cyfrannu straeon ar gyfer yr amgueddfa. Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys hen luniau o’r ardal ac atgofion o weithio yn yr hen ddiwydiannau megis Mettoys a Smiths Crisps. Os oes gan unrhyw un unrhyw beth cofiadwy o’r ardal yr hoffent ei rannu, byddai’r amgueddfa’n ddiolchgar iawn - e-bostiwch Ian Smith, Curadur, yn mettoy@museumwales.ac.uk neu ffoniwch Debbie Jones, Cymunedau’n Gyntaf, ar  01792 578632. Lansiwyd chwaer-amgueddfa hefyd ar 18 Mawrth 2016 yng Nghanolfan Gymunedol De Penlan. Croeso i bawb ddod i rannu mwy o straeon a hanes ardal Penlan. Mae’r prosiect hwn yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau’n Gyntaf, Tai Gwalia, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Archifau Gorllewin Morgannwg, Casgliad Pobl Cymru, Llyfrgell Penlan, Severn Wye a’r gymuned. Yn y llun mae Len Burns ynghyd â William Evans, Aelod y Cabinet dros Wrth-dlodi, yn agoriad yr amgueddfa.

Eich sylwadau am gylchgrawn T yˆ Agored Oes gennych unrhyw sylwadau am y rhifyn hwn o gylchgrawn Tˆy Agored neu am unrhyw un o’r erthyglau yr ydych wedi’u darllen? Os felly, gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol:  Gwasanaethau Tai, Dinas a Sir Abertawe, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN Rhadbost RSCT-JJZH-KLJZ tai@abertawe.gov.uk 01792 635045

Diolch am eich amser. Rhowch wybod i ni os ydych yn hapus i ni gyhoeddi eich sylwadau yng nghylchgrawn Tˆy Agored.

4

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Cystadleuaeth Debyd Uniongyrchol i Denantiaid y Cyngor Dyma gyfle i chi ennill un o bum taleb Love2shop gwerth £1,000. Mae’r fenter hon yn annog tenantiaid i newid i gyfleustra a rhwyddineb talu rhent drwy ddebyd uniongyrchol. Cyfarwyddyd gan gwsmer i’w fanc neu ei gymdeithas adeiladu yw debyd uniongyrchol sy’n awdurdodi sefydliad i gasglu symiau amrywiol o arian o’i gyfrif, fel arfer ar gyfer taliadau rheolaidd am bethau fel biliau aelwyd (megis nwy, trydan, ffôn symudol, Sky) neu roddion elusennol. Yn dilyn llwyddiant lansio’r ymgyrch rhenti tai cymdeithasol cenedlaethol a gynhelir gan BACS y llynedd, mae’r cyngor wedi cofrestru i gynnig y cyfle i denantiaid gymryd rhan unwaith eto. Wrth newid i dalu eu rhent drwy ddebyd uniongyrchol, bydd gan denantiaid gyfle i ennill un o 5 gwobr a ariennir gan BACS o dalebau Love2shop gwerth £1,000.

Ariennir y fenter gan Bacs Payment Schemes Limited, y sefydliad nid er elw sy’n gyfrifol am ddebyd uniongyrchol yn y DU. Mae’r cyngor yn un o 30 o sefydliadau sydd eisoes yn cymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae gan denantiaid Dinas a Sir Abertawe tan 28 Hydref 2016 i gofrestru i dalu drwy ddebyd uniongyrchol, drwy ddychwelyd Ffurflen Cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol i’r Tîm Rhenti Canolog, Swyddfa Dai Blaenymaes, 73–89 Ffordd y Brain, Fforesthall, Abertawe SA5 5ED Ffoniwch y Tîm Rhenti ar  534094 i gael mwy o wybodaeth neu ewch i www. swansea.gov.uk/article/20571/Direct-Debitcompetition

Problemau dyled? Gwasgwch y botwm. Mae mynd i’r afael a’ch dyled yn rhywyddach na meddyliwch Bydd y Botwm Panig Dyled yn eich helpu i gymryd rheolaeth a chael cymorth priodol am ddim.

www.debtpanicswansea.org.uk

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

5


CysylltiadauLleol Mae Cysylltiadau Lleol yn darparu gwybodaeth am weithgareddau a gynhelir yn eich ardal. Os hoffech chi gyfrannu at rifynnau yn y dyfodol, ffoniwch  01792 635045. Gan fod y gwanwyn ar y gorwel a'r tywydd, gobeithio, ar fin gwella, dyma rai gweithgareddau awyr agored y mae Abertawe yn eu darparu i chi roi cynnig arnynt.

Beicio Ar dy feic - Mae gan Abertawe ddigonedd o lwybrau beicio gwych ac mae’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (Llwybrau 4 a 43) a’r Lôn Geltaidd (Gorllewin). Mae nifer o lwybrau beicio sy’n addas i deuluoedd yn ogystal â thraciau beicio mynydd mwy heriol yn ardal ˆ Abertawe a Gwyr. Gallwch bedalu eich ffordd o SA1 am daith 5 milltir ar hyd promenâd Bae Abertawe i’r Mwmbwls a galw am hufen iâ neu goffi ar y ffordd. Gallwch hefyd feicio drwy Ddyffryn Clun ˆ Am daith ac ar rai ffyrdd tawelach gogledd Gwyr. beicio hamddenol heb draffig, mae llwybr beicio ar lan Afon Tawe yn ddelfrydol.

Gallwch lawrlwytho dau fap llwybrau beicio Abertawe o www.abertawe.gov.uk/beicio Mae cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi creu llwybrau beicio Bae Abertawe a mapiau ohonynt yn null Tiwb Llundain. Mae’r llwybrau wedi’u dylunio ar gyfer cymudwyr ac yn canolbwyntio ar lwybrau sy’n cynnig y daith fwyaf uniongyrchol a gwastad, lle y bo modd, ac sy’n addas i bob math o feiciau. Maent yn cynnwys cymysgedd o lwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd, ar draws Abertawe. Am fwy o wybodaeth ac i ddefnyddio eu mapiau rhyngweithiol, ewch i www.cycleswanseabay.org.uk/

Sglefyrddio, BMX a Llafnrolio Mae parciau sglefyrddio gwych yn Abertawe lle gallwch arddangos a gwella’ch sgiliau sglefyrddio a BMX: • Parc Gwledig Dyffryn Clun, Llwybr BMX ‘Y Pump’ - Mae hwn wedi’i ailddylunio a’i adnewyddu i’w wneud yn fwy cyffrous i ddefnyddwyr. • Cwrs stryd Cyfadeilad Chwaraeon Elba, ˆ Tregwyr • Parc Treforys, Treforys • Cwrs stryd Parc Williams Casllwchwr • Parc Pontlliw, Pontlliw • Parc Victoria, hanner piben a chwrs stryd, Abertawe

6

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

• Parc Sglefyrddio West Cross, hanner piben gyda chodwyr, Heol y Mwmbwls • Parc ac Ardal Gemau Amlddefnydd Ynystawe, hanner piben a chwrs stryd, Ynystawe • Parc Hafod, Yr Hafod • Rhodfa Gors, Townhill • Mynydd Newydd (ardal y meysydd chwarae), Penlan (ger Canolfan Hamdden Penlan) • Ardal gemau amlddefnydd Blaen-y-maes, Portmead • Canolfan y Ffenics, Townhill • Parc Maesteg, St Thomas

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Tenis Paratowch ar gyfer Wimbledon trwy wella’ch sgiliau tenis. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrtiau tenis yn y parciau yn rhai mynediad agored, ond argymhellir i chi ffonio  01792 635411 i weld a yw’r cyrtiau a’r rhwydi ar gael cyn mynd yno i chwarae. Cyrtiau cyhoeddus Lleoliad

Ardal

Cyfleusterau

Prisiau

Angen cadw lle?

Parc Coed Bach

Pontarddulais 3 chwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Parc Coed Gwilym

Clydach

2 gwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Parc Cwmdoncyn

Uplands

4 cwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Parc De la Beche

Sgeti

4 cwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

ˆ Cyfadeilad Chwaraeon Elba Tregwyr

3 chwrt

Llogi cwrt o £0.80 (PTL)

Oes

Bae Langland

Langland

6 chwrt

Llogi cwrt o £2.90 (PTL)

Oes

Gerddi’r Mwmbwls

Y Mwmbwls

3 chwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Parc Llewelyn

Treforys

1 cwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Parc Williams

Casllwchwr

1 cwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Parc Pontlliw

Pontlliw

2 gwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Parc Victoria

Abertawe

2 gwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Parc Ynystawe

Ynystawe

1 cwrt

Am ddim drwy gydol y flwyddyn Nac oes

Gallwch hefyd chwarae tennis yng Nghanolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt. Mae 4 cwrt allanol yno sy’n addas i bob oed. Ffoniwch  01792 235040 am fwy o wybodaeth. Gellir cael mwy o wybodaeth am Gyrtiau Tenis Abertawe, gan gynnwys ym mha le i ddod o hyd i bobl i chwarae yn eu herbyn, yn www.allplaytennis.com

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

7


Helo, fy enw i yw Alison Winter a fi yw’r Swyddog Cyfranogiad. Dyma f’adroddiad rheolaidd am gyfranogiad tenantiaid yn Abertawe, lle dwi’n rhoi newyddion a gwybodaeth i chi am grwpiau lleol a grwpiau ar draws y ddinas a’r sir.

Grwpiau lleol Yn ddiweddar cynhaliodd aelodau o Gymdeithas Preswylwyr Clyne Court eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, lle gwnaethant enwebu pwyllgor newydd ar gyfer y flwyddyn sy’n dod. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r pwyllgor newydd. Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod roedd Thomas Williams, Swyddog Ailgylchu, i drafod sut gellir gwella ailgylchu yn Clyne Court. ˆ y diweddaraf am gynnydd y Hefyd, cafodd y grwp rhaglen adnewyddu yn Clyne Court a chafodd y cyfle i drafod problemau â’r contractwyr, swyddogion o’r cyngor ac aelodau'r ward lleol.

8

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

Grwpiau ar draws y ddinas a’r sir Rhoddwyd cyflwyniad i’r grwp Sheltered Reps gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) am newidiadau i’r pensiwn gwladol a chredydau pensiwn. Roedd aelod o’r Tîm Rhenti yno hefyd i ateb ˆ â budd-daliadau unrhyw ymholiadau eraill ynglyn neu dalu rhent. Cafwyd adborth cadarnhaol ac anogwyd tenantiaid i gysylltu â’r AGPh i sicrhau bod eu lwfans pensiwn cyfredol yn gywir ac o’r math diweddaraf. I gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Pensiynau, dilynwch y ddolen hon www.gov.uk/

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Mae aelodau o Banel Ymgynghorol y Tenantiaid (PYT) wedi mynd i ddau gyfarfod yn ddiweddar. Y cyntaf oedd “The Christmas Debt Hangover” gyda Paula Montez, Swyddog Cynhwysiad Ariannol, a fu’n ˆ trafod sut i sicrhau Nadolig heb ddyledion. Bu’r grwp hefyd yn edrych ar y gwahanol ffyrdd o gael benthyg arian neu brynu ar gredyd a chafodd ei synnu gan symiau ad-dalu terfynol rhai benthycwyr a pha mor hawdd oedd mynd i ddyled. Bu Paula hefyd yn trafod y gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sydd mewn ˆ i geisio help dyled ac yn annog aelodau o’r grwp os oedden nhw neu unrhyw un o’u ffrindiau neu aelodau eu teulu'n cael trafferth rheoli eu dyled. Gellir cysylltu â Paula trwy ffonio 01792 534098, neu e-bostio Paula.montez@Swansea.gov.uk

Cynhaliwyd yr ail gyfarfod, “Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff”, gan Ganolfan yr Amgylchedd. Bu’r ˆ yn ystyried 'milltiroedd bwyd' – y pellter mae grwp bwyd yn teithio nes cyrraedd eich plât, ac effaith y dewisiadau a wneir wrth brynu bwyd e.e. gallai bwyd lleol fod yn ddrutach ond mae’n helpu’r ˆ hefyd yn ystyried ffyrdd ffermwyr lleol. Bu’r grwp o leihau gwastraff bwyd. Roedd adborth am y digwyddiad yn gadarnhaol dros ben. Os hoffech chi wybod mwy am yr ymgyrch Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff, dilynwch y ddolen hon http://wales.lovefoodhatewaste.com/cy

ˆ Adborth Tyˆ Agored Yn ddiweddar cyfarfu Grwp i drafod rhifyn diwethaf Tyˆ Agored. Soniodd rhai ˆ am yr amrywiaeth eang o erthyglau aelodau o’r grwp gan deimlo bod rhywbeth ar gael at ddant pawb. ˆ yn hoffi’r dyluniad, y cynllun a’r lliwiau a Roedd y grwp gwnaeth awgrymiadau ar gyfer rhifynnau yn y dyfodol. Mae sesiynau galw heibio’n dal i gael eu cynnal ym Man Cymunedol Tesco Fforestfach bob dydd Llun rhwng 1.30pm a 3.30pm. Galwch heibio am sgwrs neu i ddefnyddio’r rhyngrwyd am ddim yn y cyfleuster cymunedol pwrpasol hwn. Mae Credyd Cynhwysol wedi bod yn brif ffocws dros yr wythnosau diwethaf, lle mae Paula Montez, Swyddog Cynhwysiad Ariannol, wedi bod ar gael i roi help a chyngor. Yn sgîl llwyddiant sesiynau galw heibio Man Cymunedol Tesco Fforestfach, aethom ati i dreialu sesiynau galw heibio misol ym Man Cymunedol Tesco Llansamlet rhwng mis Ionawr a mis Mehefin. Cynhaliwyd y sesiynau ar ddydd Gwener olaf y mis rhwng 10am a 12pm ac roedd y Swyddog Cynhwysiad Ariannol yno i roi cyngor ar eich cyfrif rhent, budd-dal tai a Chredyd Cynhwysol.

Ymgyrch Recriwtio Panel Ymgynghorol y Tenantiaid (PYT) Gall unrhyw denant neu lesddeiliad fod yn aelod o Banel Ymgynghorol y Tenantiaid. Byddwn yn gofyn eich barn chi, fel aelod, am bolisïau a gweithdrefnau ac am syniadau i wella gwasanaethau. Gallwch wneud hyn trwy holiaduron, e-byst a negeseuon testun neu drwy fynd i gyfarfodydd. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r grwpiau neu’r cyfarfodydd hyn, neu os hoffech ddweud eich dweud a chymryd rhan, ffoniwch Alison Winter, Swyddog Cyfranogiad, ar 01792 635043 neu e-bostiwch Alison.winter@abertawe.gov.uk  www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

9


Newyddion Tai Lloches Bu preswylwyr Tyˆ Dewi Sant yn dathlu 25 mlynedd ers sefydlu’r cyfadeilad gyda pharti a oedd yn cynnwys bwffe ac adloniant. Mae 77 o fflatiau yn y cyfadeilad, ac mae rhai tenantiaid hirsefydlog yn dal i fyw yno, gan gynnwys y tenant Viv Davies sydd wedi byw yn y cyfadeilad ers iddo agor a chyflwynwyd tusw o flodau iddi. Meddai’r warden, Linda, “Mae hwn yn ddigwyddiad sy’n garreg filltir i’r cyfadeilad, ac rwy’n falch bod pawb wedi cael amser da."

gwneud gemwaith ac yn cael amser da.” Mae’r llun yn ein dangos yn rhoi sgarffiau, hetiau a blancedi i Fyddin yr Iachawdwriaeth i’w dosbarthu dros y gaeaf. ˆ o bobl sy’n Mae’r Clwb Coffi Creadigol yn grwp cwrdd am goffi, sgwrs a rhywfaint o waith crefft yn lolfa Llety Lloches Llys Elba bob dydd Iau, rhwng 11am ac 1pm, ac mae’n agored i breswylwyr a’r rhai nad ydynt yn breswylyr. Yn ddiweddar, maent wedi bod yn brysur yn gwneud myffiau troi a throsi i helpu pobl â dementia ac maent wedi rhoi 24 ohonynt i gleifion Tyˆ Waunarlwydd. Diben Cysurwyr Myffiau Troi a Throsi yw darparu gweithgaredd ysgogi i ddwylo aflonydd, yn enwedig i bobl â dementia tebyg i Alzheimer’s sy’n aml yn hoffi sicrwydd a chysur. Gall Myffiau Troi a Throsi ddiwallu anghenion llawer o bobl â’r salwch hwn drwy eu helpu i gadw dwylo aflonydd yn brysur.

Mae preswylwyr Coed Lan, y Crwys, wedi ffurfio Clwb Gwau a Chlebran (Knitters and Natters) sy’n cwrdd bob wythnos. Meddai un o’i aelodau, Lorna, ˆ ychydig fisoedd yn ôl. Rydym “Ffurfiom y grwp yn gwau, yn clebran llawer, yn tynnu lluniau, yn

Yn rhoi 24 o Fyffiau Troi a Throsi i Gartref Nyrsio Tyˆ Waunarlwydd. Chwith: Cysylltwr Cymunedol, Corliss Horton, a Warden Tai Lloches, Sallyanne Taylor, gyda rhai aelodau o'r Clwb Coffi Creadigol yn Nhai Lloches Llys ˆ bob dydd Iau rhwng 11am ac 1pm. Elba yn Nhregwyr

10 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Safon Ansawdd Tai Cymru Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf Safon darged Llywodraeth Cymru ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Mae'r safon yn dweud y dylai pob cartref fod: • Mewn cyflwr da Rhaid i anheddau fod yn sefydlog, heb unrhyw leithder nac adfeiliad, gyda chydrannau allweddol yr adeilad mewn cyflwr da - toeon, waliau, drysau a simneiau. • Yn ddiogel Ni ddylai anheddau fod ag unrhyw beryglon a allai achosi difrod difrifol, a dylai'r rhain fod yn ddiogel mewn mannau allweddol yn y cartref; dylai systemau gwresogi a thrydanol fod yn ddiogel ac o fath diweddar; dylai drysau a ffenestri ddarparu lefelau da o ddiogelwch; dylai unrhyw berygl o gwympo o uchder gael ei atal; dylai mesurau diogelwch tân fod mewn cyflwr da ac wedi'u dylunio'n dda. • Yn cael eu gwresogi'n ddigonol, yn ynnieffeithlon ac wedi'u hinswleiddio'n dda Dylai fod modd gwresogi anheddau'n ddigonol, gan sicrhau fod systemau gwresogi'n ynni-effeithlon a bod eiddo'n cael eu hinswleiddio'n dda. • Yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern Dylai cyfleusterau ceginau ac ystafelloedd ymolchi fod yn weddol fodern ac mewn cyflwr da, yn ddigonol i ddiwallu anghenion yr aelwyd ac wedi eu gosod yn effeithiol er mwyn osgoi damweiniau.

gyfer anghenion yr aelwyd, lle bo modd. Mae cryn dipyn o waith eisoes wedi'i wneud er mwyn cyflawni'r safon hon yn y 13,503 o gartrefi sy'n eiddo i'r cyngor, ac sy'n cael eu rheoli ganddo, ac mae cynnydd yn cael ei wneud i sicrhau bod Safon Ansawdd Tai Cymru'n cael ei chyflawni'n llawn erbyn 2020. Mae swm sylweddol o arian eisoes wedi cael ei wario ar y gwelliannau a disgwylir i £200 miliwn ychwanegol gael ei wario rhwng nawr a 2020. Ariennir y gwaith yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae yna nifer o raglenni. Efallai bydd angen mwy o waith ar rai eiddo nag eraill er mwyn bodloni'r safon. Pan fydd y gwaith gwella'n dechrau, bydd tenantiaid yn cael gwybod ymlaen llaw ac yn unigol am y gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer eu cartrefi, gan gynnwys dyddiadau dechrau tebygol, beth i'w ddisgwyl a phwy fydd y contractwr. Yn flynyddol, tua mis Chwefror, mae'r cyngor yn gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac yn cytuno ar y gwaith a fydd yn cael ei wneud. Mae'r wybodaeth ganlynol yn darparu manylion am y gwaith sydd wedi'i gwblhau hyd yn hyn, a'r gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn yr

• Mewn lleoliadau sy'n ddeniadol ac yn ddiogel Dylai cartrefi gael eu lleoli mewn amgylcheddau y gall preswylwyr eu mwynhau ac ymfalchïo ynddynt. • Yn cyd-fynd â gofynion penodol yr aelwyd Dylai'r llety a ddarperir yn yr annedd fod yn addas ar

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

11


Mewn cyflwr da Diogelu rhag y gwynt a'r tywydd - Dyma gynllun sydd wedi cael ei ddylunio i gyfuno nifer o atgyweiriadau i gartrefi o fewn un cynllun. Mae'r gwaith yn aml yn cynnwys toeon newydd, inswleiddio llofftydd, estyll tywydd, cafnau, clymau waliau, inswleiddio waliau a silffoedd ffenestri. Ers mis Ebrill 2010, mae 2,378 o gartrefi wedi derbyn gwelliannau diogelu rhag y gwynt a'r tywydd, a bwriedir i 1,863 o gartrefi eraill dderbyn y gwaith hwn dros y 4 blynedd nesaf. Mae rhaglen hefyd ar waith i wella'r tyrau fflatiau yn Stryd Matthew, Clyne Court a Jeffrey's Court lle mae'r gwaith yn cynnwys gosod cladin newydd, toi, ffenestri newydd, gwelliannau i ardaloedd cymunedol, ac ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr eiddo sydd yn y rhaglen diogelu rhag y gwynt a'r glaw ar gyfer blynyddoedd ariannol 2014-2016. Mae hyn yn cynnwys gwaith a gwblhawyd yn ystod 2014, gwaith sy'n parhau/bron â'i gwblhau ar gyfer 2015 a gwaith sy'n dechrau yn 2016. (Mae'r flwyddyn ariannol o fis Ebrill i fis Mawrth.) Ardal 2014 2015 2016 Penlan 112 148 55 Waun Wen 40 27 Gendros 31 27 Caemawr 42 53 37 Waunarlwydd 29 Penllergaer 28 Llanllienwen - dros 3 mlynedd 177 Mayhill 137 122 192 McRitchie Place - dros 2 flynedd 71 West Cross 62 Sgeti 27

Cladin sy'n helpu i gadw eiddo'n gynnes yw Inswleiddio Waliau Allanol (EWI). Bydd yr holl gynlluniau diogelu rhag y gwynt a'r tywydd yn defnyddio EWI a fydd yn helpu i ostwng biliau gwresogi a sicrhau bod yr eiddo'n aros yn gynnes am gyfnod hirach. Y bwriad yw gwella golwg allanol yr eiddo hefyd a'r strydoedd a'r gymdogaeth yn gyffredinol.

12 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Toi Mae 2,290 o eiddo wedi cael toeon newydd ers mis Ebrill 2010. Mae cynlluniau newydd yn yr arfaeth ar gyfer y 4 blynedd nesaf i wella dulliau diogelu rhag y tywydd. Trefnir i 288 o eiddo ychwanegol a 5 bloc o fflatiau lefel isel gael toeon yn 2016/17. Dengys y tabl hwn yr ardaloedd lle mae cynlluniau yn yr arfaeth ar gyfer 2016 i 2019 To ar Oleddf Ardaloedd 2016 2017 2018 2019 Blaenymaes 112 105 Y Clâs (Ewenny Place) 117 Fflatiau Sgeti 5 bloc Toeon Clai Townhill 37 Wimpey No-Fines Penlan 59 Y Crwys a Llangynydd 22 Penyrheol, Gorseinon 53

Adnewyddu Toeon Gwastad Ardaloedd 2016 2017 2018 Stryd Crofft a'r Stryd Fawr 2 floc (Fflatiau Lefel Isel) Rheidol Court 50 Cynllun simneiau Caiff simneiau eu tynnu fel arfer os bydd cynlluniau adnewyddu toeon neu ddiogelu rhag y gwynt a'r tywydd ar waith ond, os nad ydynt, maent yn cael eu rhoi mewn cynllun simneiau ar wahân. Yn 2014, tynnwyd 47 o simneiau â blaenoriaeth i'w dymchwel i lawr, gyda 118 ychwanegol yn yr arfaeth ar gyfer 2015, gan ychwanegu cartrefi eraill yn ôl yr angen. Yn 2016, bydd 221 o simneiau yn cael eu tynnu neu eu hatgyweirio. Balconïau Mae cyfanswm o 399 o falconïau wedi cael eu hatgyweirio neu eu diweddaru hyd yn hyn, gyda 48 eraill yn yr arfaeth yn rhaglen 2015/16.

2019

sydd ar y cerdyn neu'r llythyr. Ni fydd y gwaith hwn yn para'n hir, a bydd y drws yn helpu i wella'ch diogelwch ac i gadw eich eiddo'n gynhesach. Os oes gennych anawsterau wrth geisio bod gartref ar gyfer y gwaith hwn, gofynnwch i'r staff beth gellir ei wneud. Byddant yn gwneud eu gorau i'ch helpu a'ch cynghori. Atgyweiriadau adeileddol Mae angen nifer o atgyweiriadau adeileddol ar stadau tai'r cyngor, gan gynnwys gwaith i waliau cynnal a gwelliannau i'r system ddraenio. Mae £300,000 wedi cael ei glustnodi i wneud y gwaith

Mae'r rhaglen adnewyddu drysau bron â dod i ben ac mae 9,571 o eiddo wedi cael drysau uPVC newydd neu ddrysau tân newydd ers mis Ebrill 2010. Weithiau mae'n anodd cael mynediad i osod drysau newydd. Os byddwch yn derbyn neges yn eich hysbysu bod angen gosod drws newydd, cysylltwch â'r Swyddfa Dai Ranbarthol neu'r rhif

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016 13


Yn ddiogel

Ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern

Diogelwch Tân Mae cryn dipyn o waith yn cael ei wneud i wella diogelwch tân mewn blociau o fflatiau a chyfadeiladau a rennir, gan gynnwys gosod drysau tân mewn, goleuadau argyfwng ac arwyddion newydd. Roedd 2,584 o'r drysau newydd a osodwyd ers mis Ebrill 2010 yn ddrysau tân a fydd yn gwella'r diogelwch tân mewn fflatiau sy'n arwain at ardaloedd cymunedol. Mae drysau newydd o safon uwch wedi cael eu gosod mewn fflatiau a fydd yn diogelu preswylwyr am 60 munud. Mae gwaith arall i wella diogelwch tân yn cynnwys gwaith i ardaloedd ac ystafelloedd cymunedol llety lloches, gosod ysgeintwyr mewn rhai cyfadeiladau a systemau larwm tân newydd. Mae pedwar cyfadeilad wedi cael ysgeintwyr newydd, sy'n gwella diogelwch tân yn y blociau.

Rhaglen ceginau ac ystafelloedd ymolchi Mae gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn yr eiddo y mae eu hangen arnynt yn rhan fawr o wella eiddo er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Dros y 4 blynedd diwethaf mae 742 o eiddo wedi derbyn ceginau newydd, ac mae 1,066 o eiddo wedi derbyn ystafelloedd ymolchi newydd. Gan ddibynnu ar anghenion unigol, efallai bydd gosodiadau'n cael eu haddasu'n arbennig, a bydd angen i denantiaid ag anghenion meddygol penodol drafod hyn ag aelod o staff pan fyddant yn ymweld. Mae 1,820 ychwanegol wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2016 gyda niferoedd cynyddol yn y blynyddoedd i ddilyn.

Systemau mynediad llais O 2014 i 2018, bydd 79 o flociau cymunedol yn elwa o systemau mynediad llais a gaiff eu gosod neu eu hadnewyddu. Yn ystod 2015, cynhaliwyd y cynlluniau hyn yn Nhreforys, Penlan a Chanol y Ddinas, ac mae drysau awtomatig wedi eu gosod yng nghyfadeiladau lloches ym Mhlas Melyn, Llys Talacharn a Llys Gwalia. Bydd ychwanegu drysau cadarn i'r blociau'n gwella diogelwch ac yn galluogi tenantiaid i reoli pwy sy'n cael mynediad i'r blociau.

Gwresogi diogel Gwresogi Caiff boeleri nwy eu hadnewyddu fel rhan o raglen gynlluniedig lle caiff y systemau hynaf eu blaenoriaethu. Bwriedir cael boeleri cyfunol effeithlon ym mhob eiddo, gyda 9,854 wedi cael eu gosod hyd yn hyn. Cyfnewid tanwydd Caiff tenantiaid y dewis i newid tanwyddau gwresogi i naill ai nwy neu olew os oes ganddynt lo neu drydan. Mae 12 eiddo ar y rhestr i gael eu haddasu yn 2016 ac, ers mis Ebrill 2010, mae 108 o eiddo wedi cyfnewid tanwydd. Cynigir adnewyddu systemau gwresogi hefyd. Gall tenantiaid ofyn am waith bach, er enghraifft clociau amseru, thermostatau ystafell neu reiddiadur ar gyfer ystafell os nad oes un yn yr ystafell eisoes. Mae 77 o eiddo ar restr cynllun 2016 i gael eu hadnewyddu.

14 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

Mae'r tablau canlynol yn dangos yr ardaloedd a nifer yr eiddo sy'n rhan o gynllun ceginau ac ystafelloedd ymolchi 2016 a 2017. 2016 Ardal Nifer yr eiddo Y Trallwn 270 Bonymaen 205 Pentrechwyth 171 Winch Wen 393 Port Tennant 177 St Thomas 137 Heol Hollett 126 Ardal Cilgant Brondeg 194 Ardal Cilgant Samuel 316 Ardal Heol Arennig 378 2017 Ardal Nifer yr eiddo Gellifedw 229 Caemawr 183 Y Clâs 616 Clydach 451 Craig-cefn-parc 50 Cwm Felin Fach 221 Cwmryhdyceirw 124 Llanllienwen 220 Penllergaer 88 Pontardulais 280 Ar gyfer pob cynllun ceginau ac ystafelloedd ymolchi, caiff boeleri eu diweddaru gyda boeler cyfunol os nad ydynt wedi'u gosod eisoes. Hefyd caiff eiddo ei ailweirio os nad yw'r weirio'n gyfredol bellach ond, yn gyffredinol, byddant yn ailweirio ardal y gegin yn unig er mwyn ychwanegu socedi a gosod gwyntyllau echdynnu.

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Larymau mwg Mae 6,748 o eiddo wedi cael larymau mwg gwifredig newydd ers 2010, ac mae'r cyngor yn bwriadu sicrhau bod o leiaf dau larwm mwg sy'n gweithio ym mhob cartref. Mae'r cyngor yn profi'r rhain yn flynyddol fel rhan o'i wasanaeth gwresogi blynyddol; fodd bynnag, dylech brofi'ch larymau'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gweithio. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'r Ganolfan Alwadau Atgyweirio Tai neu'ch Swyddfa Dai Ranbarthol.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys arolygu storfeydd ac adeileddau gardd, sicrhau bod terfynau'n sefydlog. Ni fydd hyn oll yn berthnasol i bob eiddo, felly cynhelir asesiad gan gynnwys unrhyw beth y bydd ei angen. Profi ac ailweirio trydanol Caiff holl eiddo'r cyngor eu profi ar gyfer diogelwch trydanol bob 10 mlynedd. Profwyd 8,464 o eiddo ers 2010. Os nad yw'r systemau trydanol yn bodloni amodau'r prawf, yna bydd rhaid ailweirio'r eiddo. Mae'r profion diogelwch hyn yn faes gwaith hanfodol ac mae'n bwysig caniatáu mynediad i'w cyflawni. Yn ogystal â gwaith profi trydanol, caiff cartrefi eu hailweirio bob 30 mlynedd. Ailweiriwyd 2,679 o eiddo ers mis Ebrill 2010. Mae'n rhaid i'r weirio fod yn ddiogel ond os nad yw eich eiddo wedi cael ei ailweirio am 30 mlynedd, efallai na fydd digon o socedi at eich defnydd, ac efallai na fydd safle'r socedi'n ymarferol ar gyfer nifer yr offer trydanol sydd bellach yn cael eu defnyddio yn y rhan fwyaf o gartrefi. Bydd ailweirio'n gwella hyn ac yn sicrhau fod yr eiddo'n gyfoes.

Wedi eu lleoli mewn amgylcheddau diogel a deniadol Cynllun Cyfleusterau Allanol Bwriad y cynllun hwn yw sicrhau y bodlonir holl ganllawiau Safon Ansawdd Tai Cymru a sicrhau bod gerddi'n ddiogel ac yn addas i'w defnyddio.

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Cynllun Atgyweiriadau Cylchol Bwriad y rhaglen hon yw gwneud gwaith i'r elfennau adeiladu y mae angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd arnynt. Mae'r math o waith sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer 2016 yn cynnwys gwasanaethu ffenestri i sicrhau eu bod mewn cyflwr da, profi'r grisiau er mwyn sicrhau bod y canllawiau a'r grisiau'n ddiogel ac mewn cyflwr da, profi a chlirio cwteri a chafnau dwˆr glaw, gosod gorchuddion newydd ar fesuryddion nwy a thrydan allanol, a phaentio ardaloedd cymunedol. Yn 2015, roedd 1,101 o eiddo wedi eu cynnwys mewn ardaloedd megis Townhill a Gorseinon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fwy o wybodaeth am y cynlluniau sy'n effeithio ar eich eiddo, cysylltwch â'ch Swyddfa Dai Ranbarthol yn y lle cyntaf.

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016 15


Y Diweddaraf am Wefan Gwasanaeth ar-lein am ddim i denantiaid y cyngor a chymdeithasau tai sydd am symud i gartref mwy neu lai yw HomeSwapper. Cyflwynwyd newidiadau yn ddiweddar i’r ffordd y mae tenantiaid yn defnyddio HomeSwapper. Mae HomeSwapper wedi gweithio gyda thenantiaid dros y misoedd diwethaf i ddatblygu setiau newydd o welliannau newydd a chyffrous wedi’u dylunio i wneud y profiad o gyfnewid yn haws nag erioed. Mae’r broses gofrestru bellach yn symlach i wneud cofrestru gyda HomeSwapper yn gynt ac yn symlach.

Lawrlwythwch Lun Proffil (Gallwch ddefnyddio’ch tyˆ os dymunwch)

System Negeseuon Newydd – gallwch weld eich holl negeseuon mewn un lle, gweld os yw defnyddiwr arall ar-lein (smotyn gwyrdd wrth ymyl ei enw defnyddiwr), a gweld yn hawdd os yw neges rydych wedi’i hanfon wedi cael ei darllen. I wneud pethau’n haws, gallwch gofrestru a mewngofnodi gyda Facebook (sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost ar Facebook yr un peth â’ch cyfeiriad e-bost ar HomeSwapper­).

16 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Ceir chwiliadau a hysbysebion gwell sy’n ei wneud yn haws i denantiaid ddod o hyd i gynifer o gyfleoedd cyfnewid â phosib.

% cyfateb newydd – gweld sut rydych yn cyfateb. Yr uchaf yw’r rhif, y gorau y byddwch yn cyfateb.

Ceir nodwedd ‘Gofyn am lun’ bellach - os nad oes gan rywun lun ond hoffech weld un, cliciwch ar y botwm ‘Gofyn am lun’ - bydd y person yn cael ei ysgogi i lanlwytho llun.

Bydd ap ar gyfer iOS ac android yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael cyn bo hir.

www.homeswapper.co.uk  www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016 17


Mae eich Cytundeb Tenantiaeth yn Newid… Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gwneud rhentu cartref yn symlach ac yn haws i denantiaid yng Nghymru. Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ym mis Ionawr 2016, ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar yr arweiniad a'r rheoliadau y bydd rhaid i landlordiaid Cymru - gan gynnwys y cyngor - eu rhoi ar waith. Hyd yn hyn, nid oes dyddiad pendant am roi’r ddeddf ar waith yn llawn, ond disgwylir y bydd yn digwydd ar ddiwedd 2016, efallai ychydig yn hwyrach gan ddibynnu ar y cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n gynnar eto, ond pan roddir Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar waith, bydd tenantiaid yn derbyn ‘contract meddiannu’ newydd. Bydd dau fath: • Contract diogel, wedi’i fodelu ar denantiaeth ddiogel yr awdurdod a chaiff ei ddefnyddio gan y cyngor a chymdeithasau tai. • Contract safonol, a fydd ar waith yn y sector rhentu preifat. Yn nes at adeg ei roi ar waith, bydd mwy o wybodaeth ar gael i denantiaid, ond yn y cyfamser, http://gov.wales/topics/housing-and-regeneration/legislation/ gellir gweld y ddeddf yn rentingbill/?skip=1&lang=cy.

18 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Budd-dal i bobl sy’n gweithio ac yn ennill incwm isel ac i bobl sy'n ddi-waith yw Credyd Cynhwysol. Dechreuodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ddarparu Credyd Cynhwysol i breswylwyr Abertawe ym mis Gorffennaf 2015 ac mae'r newid hwn bellach yn effeithio ar nifer cynyddol o denantiaid. Ar hyn o bryd, mae'n dal i effeithio ar hawlwyr newydd sy’n sengl ac sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn unig. Fodd bynnag, ym mhen hir a hwyr, bydd pawb o oedran gweithio (16-64) yn derbyn eu holl fudd-daliadau’n uniongyrchol mewn un taliad Credyd Cynhwysol. Telir Credyd Cynhwysol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu fel cyfandaliad misol i helpu gyda chostau byw a thai dyddiol, ac nid yn uniongyrchol i’ch cyfrif rhent mwyach (Budd-dal Tai gynt). Mae hyn yn golygu, os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, bydd rhaid i chi dalu eich holl rhent eich hun. Mae hwn yn newid sylweddol, ac os oes angen cymorth arnoch i sefydlu dull talu sy’n addas i chi i sicrhau y telir eich rhent, gall Tîm Rhenti Tai'r cyngor eich helpu. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig os bydd y newid yn effeithio arnoch. Bydd rhaid i chi gyflwyno’ch cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein: www.gov.uk/universal-credit. NID OES FFURFLEN GAIS BAPUR. Bydd rhaid i chi REOLI’CH CAIS AR-LEIN hefyd.

Credyd Cynhwysol: • Disodlwyd Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Tai, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chymhorthdal Incwm gan Gredyd Cynhwysol. • Mae’n fudd-dal brawf modd, sy’n golygu bod y cyfanswm rydych yn ei dderbyn yn dibynnu ar swm yr incwm a chyfalaf (cynilion a rhai mathau o eiddo) sydd gennych. • Mae’n fudd-dal i bobl o oedran gweithio. Os oes angen cefnogaeth arnoch, cofiwch Mae’n bwysig iawn bod tenantiaid sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn talu eu rhent ar amser er mwyn osgoi cronni ôl-ddyledion rhent.

gysylltu â Thîm Rhenti’r cyngor. Gall roi mwy o wybodaeth a chyngor i chi am Gredyd Cynhwysol neu dalu’ch rhent. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Rhenti ar

01792 534094 neu e-bostiwch rentsteam@swansea.gov.uk

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am dalu’ch rhent ar wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/sutidalueichrhent  www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016 19


Mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon Mae’r cyngor wedi cynnal ymgyrch i lanhau nifer o strydoedd mewn cymuned yn Abertawe. Nododd Cyngor Abertawe bedair stryd yn Townhill sy’n wynebu problemau tipio anghyfreithlon trwy’r amser. Mae Heol Gomer, Heol Gwylfa, Heol Geiriol a Heol Ceri wedi’u nodi’n fannau lle mae tipio anghyfreithlon yn rhemp, gan gynnwys gadael sachau sbwriel ar y strydoedd. I helpu i ddatrys y broblem, ymwelodd aelodau o dimau ailgylchu a thai’r cyngor â’r ardal dros sawl diwrnod. Roedd rhan o’r gwaith yn cynnwys ceisio darganfod pwy oedd yn gyfrifol am dipio anghyfreithlon. Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae’r fenter hon yn ceisio gwella cymunedau lleol i bobl sy’n byw ynddynt. “Ceir tipio anghyfreithlon cyson mewn sawl cymuned yn Abertawe ac mae’n rhywbeth rydym am fynd i’r afael ag ef.” Roedd y fenter hefyd yn ceisio gwella perfformiad ailgylchu yn y strydoedd lle gwelwyd bod y lefelau ailgylchu’n isel. Ar y diwrnod casglu, dewisodd swyddogion ailgylchu nifer o sachau du a roddwyd allan i’w casglu yn y strydoedd hynny a chawsant eu harchwilio i ddidoli'r deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, “Roedd llawer o gartrefi yn y strydoedd penodol hyn yn rhoi mwy o sachau du allan i’w casglu na’r terfyn a ganiateir ac mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu gadael, gan ychwanegu at y broblem o dipio anghyfreithlon. Rydym wedi casglu’r sachau hyn fel y gallwn ddangos swm y deunydd y gellir ei ailgylchu sydd ynddynt a, gobeithio, annog preswylwyr i wneud y peth cywir. Rydym yn darparu gwasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd i bob aelwyd yn Abertawe. Rydym yn wynebu heriau ariannol anodd yn Abertawe ac mae ailgylchu’n un ffordd y gall preswylwyr ein helpu i leihau ein costau.”

Yn y llun uchod o’r chwith i’r dde: John Player, Philippa Williams (Swyddogion Cymdogaeth), Christopher Wells (Tîm Ailgylchu), Fran Williams (Tîm Gorfodi) a Thomas Williams (Tîm Ailgylchu) rhan o’r prosiect i roi cyngor iddynt ar sut i gael gwared ar eu gwastraff yn gywir, ac mae masgot ailgylchu’r cyngor ‘Sammy’r Wylan’ wedi bod yn ymweld ag ysgolion lleol i ledaenu’r neges ailgylchu. Mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod nifer y digwyddiadau o dipio anghyfreithlon yn yr ardal wedi gostwng ers dechrau’r prosiect. Bwriedir parhau â gwaith ymgysylltu yn yr ardal yn y dyfodol gyda’r posibilrwydd o gymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy’n parhau i droseddu ar ôl y cyfnod addysgu. Disgwylir i waith tebyg gael ei gwblhau mewn rhannau eraill o Abertawe lle mae’r lefelau ailgylchu’n isel a lle mae tipio anghyfreithlon yn parhau. Cofiwch wneud y canlynol er mwyn sicrhau y caiff eich sbwriel ei gasglu: • Rhowch sachau sbwriel a deunydd i'w ailgylchu allan - ar ôl 7pm y noson cyn y casgliad - cyn 7am ar ddiwrnod y casgliad • Rhowch sachau a biniau ar y palmant yn union y tu allan i’ch eiddo’n unig. •

Caiff sachau du eu casglu unwaith y pythefnos yn yr wythnos gasglu binc. Caiff uchafswm o 3 sach ddu eu casglu gan bob aelwyd yn ystod pob casgliad pythefnosol.

• Rhowch sachau allan yn ystod yr wythnos gasglu gywir yn unig. • Gellir casglu eitemau mawr o wastraff megis celfi a nwyddau gwyn gan y cyngor os trefnir hyn ymlaen llaw, a hynny am ffi fach, neu’n rhad ac am ddim i bobl sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol.

Rydym wedi cysylltu â thros gant o breswylwyr fel

20 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Ailgylchu Mae 16 o leoedd ar draws Abertawe lle gellir ailgylchu amrywiaeth o eitemau. Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gau Ddydd Nadolig, Dydd ˆ San Steffan a Dydd Calan. Gwyl Mae gan 5 Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref y cyngor gyfleusterau i ailgylchu a chael gwared ar wastraff cartref am ddim. Nid ydynt yn gallu derbyn gwastraff masnach, masnachol, adeiladu na dymchwel. Ceir gwybodaeth am holl safleoedd y cyngor, ynghyd â’r oriau agor, ar gael yn www.abertawe.gov.uk/safleoeddailgylchu

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref – yr hyn y gellir ei ailgylchu ac ym mha le Deunydd cartref

Llansamlet

Y Clun

Garngoch

Penlan

Tir John

Ffoil alwminiwm

Batris – ceir

Ñ

Ñ

Ñ

Ñ

Batris – cartref

Llyfrau

✓ Ñ

Ñ

Ñ

Caniau (bwyd a diod)

Cardbord

Carpedi

Ñ

Ñ

Cerameg

Dillad/tecstilau

Olew coginio

Nwyddau trydanol

Peiriant olew

Ñ

Tiwbiau fflworoleuol

Oergelloedd/rhewgelloedd

Ñ

Ñ

Ñ

Ñ

Celfi

Silindrau nwy

Gwastraff gardd

Gwydr (poteli a jariau)

Gwydr (ffenest/plât)

Ñ

Ñ

Cemegau cartref

Ñ

Ñ

Ñ

Cyfarpar cartref mawr

Ñ

Ñ

Ñ

Ñ

 www.abertawe.gov.uk/tai  www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016 21


Deunydd cartref

Llansamlet

Y Clun

Garngoch

Penlan

Tir John

Matresi

Ñ

Ñ

Metel (sgrap)

Paent/cemegau cartref

Ñ

Ñ

Papur

Plastigion (sachau pinc)

Plastigion – mawr (e.e. celfi)

Polystyren

Ñ

Ñ

Ñ

Ñ

Rwbel

Esgidiau

Pridd

Setiau teledu a monitorau

Tetra Paks a chartonau diod

Pren (arall e.e. MDF, lloriau

Ñ

Ñ

Ñ

Pren

Gwastraff cartref (na ellir

Ñ

Compost am ddim i’r cyhoedd Ñ

Ñ

Ñ

Ñ

Cyfyngiad uchder 2m

Ñ

laminedig, drysau cau)

ei ailgylchu)

Ñ

Y Siop Gornel

Mae’r siop arloesol hon yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) Llansamlet. Mae ar agor 7 niwrnod yr wythnos. Mae’r Siop Gornel yn gwerthu amrywiaeth o eitemau gan gynnwys llyfrau, teganau, crochenwaith, addurniadau, celfi ac eitemau trydanol. Bwriadwyd anfon yr holl eitemau yn y siop i safle tirlenwi neu eu torri’n ddarnau i’w hailgylchu. Mae staff yn y CAGC yn gofyn i’r cyhoedd a oes modd ailddefnyddio’r eitemau maent yn eu taflu. Yna bydd unrhyw beth y gellir ei ailddefnyddio’n mynd yn syth i’r Siop Gornel i aros am gartref newydd. Bydd hyn yn cadw cryn dipyn o ‘wastraff’ o’r safleoedd tirlenwi ac yn rhoi bywyd newydd i lawer o eitemau. Oherwydd llwyddiant ysgubol y siop a swm y deunydd sy’n ei chyrraedd, bu’n rhaid ehangu’r siop

22 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

sawl gwaith. Erbyn hyn mae adran gyfan ar gyfer eitemau trydanol yn unig, lle byddwch yn dod o hyd i bopeth o lampau i setiau teledu, mae pob un ohonynt wedi cael eu profi am ddiogelwch. Mae prisiau’r holl eitemau’n dechrau o £1 a bydd yr holl arian a godir yn cael ei roi tuag at brosiectau addysgol a gynhelir gan dîm ailgylchu’r cyngor. Gallwch hefyd brynu coed tân, briquettes sy’n ystyriol o’r amgylchedd a boncyffion. Dewch heibio i gael bargen. Mae croeso bob amser i stoc newydd, felly os ydych yn clirio’r tyˆ gallwch ddod ag unrhyw eitemau y gellir eu hailddefnyddio yn syth i’r Siop Gornel. Cofiwch fod sbwriel un dyn yn drysor dyn arall. Oriau agor Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 4.30pm Dydd Gwener 8.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn a dydd Sul 8.30am i 3.30pm  www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Rheoliadau newydd i berchnogion cwn Ers mis Ebrill 2016 bu’n ofyniad cyfreithiol i osod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru ar ôl i Aelodau'r Cynulliad bleidleisio i gymeradwyo rheoliadau newydd ar 20 Hydref 2015. ˆ (Cymru) Daeth y Rheoliadau Microsglodynnu Cwn 2015 i rym ar 6 Ebrill 2016, sy’n ei gwneud yn ofynnol i roi microsglodyn ar bob ci dros 8 wythnos oed a chofrestru manylion y ceidwad ar gronfa ddata gymeradwy. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae’r ddeddfwriaeth yn rhan o gyfres o fesurau i wella lles cwn yng Nghymru. Maeˆ hyn yn cynnwys gwahardd coleri sioc electronig, cyflwyno safonau uwch ar gyfer bridio cwn a chomisiynu ˆ adolygiad dan arweiniad yr RSPCA ar sut i fod yn berchennog cyfrifol ar gi. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, “Byddwn yn annog perchennog pob ci sydd heb osod microsglodyn ar ei gi i wneud hynny cyn gynted â phosib. Mae perchennog yn llawer mwy tebygol o gael hyd i’w gi sydd wedi mynd ar goll, wedi’i ddwyn neu’i anafu os oes microsglodyn wedi’i osod ar y ci.

ˆ niwsans a pheryglus.” helpu i reoli cwn Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop, “Mae microsglodynnu’n broses syml lle defnyddir nodwydd i fewnblannu microsglodyn bach o dan groen yr anifail. Yna mae’n rhaid i’r rhif cyfeirnod unigryw sy’n cael ei gadw ar y microsglodyn gael ei gofrestru ar gronfa ddata gyfatebol gyda manylion cyswllt ceidwad neu berchennog yr anifail.” Bydd yn dal yn ofynnol o dan y gyfraith i gi wisgo coler ac arno dag sy’n nodi enw a manylion cyswllt y perchennog pan fydd mewn lle cyhoeddus I gael rhagor o wybodaeth am ficrosglodynnu, cysylltwch â’ch milfeddyg neu arbenigwr gofal anifeiliaid anwes sydd wedi cael hyfforddiant addas. Mae rhai sefydliadau’r trydydd sector hefyd yn gallu cynnig cymorth i helpu unigolion i ˆ ficrosglodynnu eu cwn.

Dylai’r gallu i gysylltu pob ci â’i berchennog annog perchnogion a bridwyr i fod yn fwy cyfrifol, a dylai

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016 23


24 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Cymorth gyda dyled Os oes gennych broblemau dyled gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud neu le i droi, ond mae yna gymorth ar gael. Cysylltwch â’r elusen ddyled StepChange ( www.stepchange.org, neu 0800 138 111 – yn rhad ac am ddim o bob ffôn) i gael cyngor cyfrinachol, di-dâl. Gallwch gofrestru ar-lein i dderbyn e-byst yn cynnig cyngor dyled di-dâl: 7 niwrnod, 7 ffordd o ddelio â dyled. Ceisiwch osgoi gorddrafftiau anfwriadol Mae’r rhain yn digwydd pan fo’r banc yn caniatáu i daliad adael eich cyfrif pan nad oes gennych ddigon o arian ynddo. Mae’n codi tâl enfawr am hyn ac mae’n bosib na fyddwch yn gwybod amdano nes ei bod hi’n rhy hwyr. Os ydych yn gwybod na fydd digon o arian yn eich cyfrif am fil sy’n ddyledus, ceisiwch ei ddiddymu. Gofynnwch i’r cwmni beidio ag anfon y cais am dâl i’ch cyfrif. Os nad yw hyn yn llwyddiannus - neu os ydych am fod yn sicr - diddymwch y cyfarwyddyd i dalu gyda’r banc. Bydd rhaid i chi drefnu modd arall o dalu neu dalu ar amser arall. Os na allwch ddiddymu’r tâl, neu nad ydych yn dymuno ei ddiddymu, gofynnwch i’r banc roi gorddrafft i chi, neu gynyddu eich terfyn gorddrafft presennol. Gallwch wynebu ambell daliad am unrhyw un o’r pethau hyn, ond ni fyddant mor uchel â dechrau defnyddio eich cyfleuster gorddrafft yn anfwriadol.

Ad-daliadau wythnosol? Beth am fenthyciad LASA? Os na allwch fforddio gwneud taliad ar y prydam rywbeth, gall trefnu taliadau bychain, wythnosol fod yn gymorth mawr. Mae benthycwyr carreg drws, siopau taliadau wythnosol a chatalogau'n ffyrdd poblogaidd o brynu’r hyn mae ei angen arnoch chi gan ledaenu’r ad-daliadau dros nifer o wythnosau. Y cwestiynau i’w gofyn yw SAWL wythnos? a Beth yw’r CYFANSWM byddwch yn ei ad-dalu? Cyn derbyn benthyciad neu brynu unrhyw beth ar gredyd, gwiriwch a all yr undeb credyd lleol eich helpu yn ei le (www.lasacreditunion.coop). Mae’n debygol y gallwch wneud yr un ad-daliadau wythnosol yr oeddech yn bwriadu eu gwneud ond bydd yn cymryd llai o wythnosau i’w talu, gan eich rhyddhau o ddyled yn gynt, ar gost llawer llai. Gall y gwahaniaeth yn y gost beri syndod.

Os codir taliadau banc am eich bod yn cael trafferth gyda thaliadau ac mae hyn wedi gwaethygu eich sefyllfa, yna gallwch geisio gofyn am yr arian yn ôl wrth y banc. Gofynnwch i StepChange am gyngor. Ystyriwch gyfrif banc sylfaenol Mae’r rhan fwyaf o fanciau erbyn hyn yn cynnig cyfrifau banc sylfaenol, heb gyfleuster gorddrafft. Os nad oes gennych ddigon o arian yn eich cyfrif, ni fydd y taliad yn cael ei brosesu, ac felly ni fyddwch yn cael ffïoedd annisgwyl. (Gall y cwmni y dylech wedi’i dalu godi taliad arnoch o hyd, os nad ydych yn talu ar yr amser gofynnol - ond ni all y banc wneud hyn.) Rhagor o wybodaeth: www.moneyadviceservice.org.uk/en/articles/ basic-bank-accounts  www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016 25


Gwybodaeth bwysig os ydych yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) ar hyn o bryd Mae LBA yn dod i ben i’r rhan fwyaf o bobl. Mae budd-dal newydd o’r enw Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB) wedi cael ei gyflwyno i helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd tymor hir.

Mae Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) yn dod i ben i bobl a anwyd ar ôl 8 Ebrill 1948 ac a oedd ^ ar 8 Ebrill 2013 (y dyddiad y yn 16 oed neu’n hyn cyflwynwyd TAB). Bydd hyn yn digwydd hyd yn oed os ydych yn derbyn dyfarniad amhenodol neu dymor hir. Nid yw LBA yr un peth â TAB.

Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB) Beth yw TAB? Mae TAB yn helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol a achosir gan afiechyd tymor hir neu anabledd os ydych yn 16-64 oed.

C. Pryd bydda i’n gwybod pryd bydd fy LBA yn dod i ben? A. Byddwch yn parhau i dderbyn LBA nes bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) yn ysgrifennu i ddweud wrthych pryd bydd yn dod i ben. Bydd y llythyr y byddwch yn ei dderbyn yn eich gwahodd i wneud cais am TAB ac yn esbonio wrthych yr hyn bydd rhaid i chi ei wneud nesaf. Cadwch lygad am lythyr gan yr AGPh.

Gallech dderbyn rhwng £21.80 a £139.75 yr wythnos*. Mae’r gyfradd yn dibynnu ar sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch, yn hytrach na dibynnu ar y cyflwr ei hun.

C. Beth dylwn i ei wneud ar ôl derbyn y llythyr gan yr AGPh? A. Ar ôl derbyn eich llythyr, bydd gennych 28 niwrnod o’r dyddiad ar y llythyr i benderfynu a ydych am wneud cais ar gyfer TAB. Gan na fydd modd i chi ddewis cadw LBA, mae’n werth dysgu mwy am TAB.

Ewch i www.gov.uk/dla-ending i gael gwybod mwy am LBA yn dod i ben a gwneud cais am TAB www.gov.uk/pip.

Bydd angen i chi gyflawni asesiad gwaith i asesu lefel y cymorth y byddwch yn ei dderbyn. Caiff eich cyfradd ei hailasesu’n rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir.

*Symiau 2015-16 yw’r rhain. Caiff cyfraddau budd-daliadau eu hadolygu bob blwyddyn

C. Bydd hyn yn effeithio ar fudd-daliadau eraill? A. Mae’n bosib y bydd budd-daliadau eraill yr ydych chi neu eich gofalwr yn eu derbyn, megis Lwfans Symudedd neu Lwfans Gofalwr, yn dod i ben hefyd neu’n newid.

Pwysig Ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi a byddwch yn parhau i dderbyn LBA os: • Cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948 • Rydych dan 16 oed

26 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Cydlynu Ardaloedd Lleol Braidd dros wyth mis sydd wedi mynd heibio ers i Abertawe lansio menter Cydlynu Ardaloedd Lleol gyntaf Cymru i helpu pobl i deimlo’n llai ynysig ac unig ac yn fwy cysylltiedig a’u cymdogion a’u cymunedau. Wedi’i ddatblygu’n wreiddiol yn Awstralia, mae Cydlynu Ardaloedd Lleol ar waith mewn tair o’n cymunedau i ddechrau – Sgeti, St Thomas a Bonymaen, a Gorseinon a Chasllwchwr – ac os bydd y cynllun yn llwyddiant, gellid ei ehangu er lles pobl a chymunedau ar draws Abertawe. Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn un man cyswllt mewn cymuned i unrhyw un o unrhyw oedran sydd am wybodaeth neu gyngor ar yr hyn sy’n digwydd yn ei ardal leol, ac i’w hysbysu am sut gall gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Maent hefyd yn gweithio gyda phobl anabl, pobl â phroblemau ˆ teuluoedd a gofalwyr i iechyd meddwl, pobl hyn, ddarparu ychydig o gefnogaeth ychwanegol pan fo’i hangen i atal problemau pob dydd rhag troi’n argyfwng. Meddai Jon Franklin, Cydlynydd Ardaloedd Lleol Sgeti, “Nod Cydlynu Ardaloedd Lleol yw helpu pobl i greu cysylltiadau yn eu cymunedau, darganfod ffyrdd o helpu eu hunain a rhoi hwb i’w hyder trwy helpu pobl eraill.

Meddai Dan Morris, Cydlynydd Ardaloedd St Thomas a Bonymaen, “Pan fyddwch yn gofyn i bobl beth yw’r peth pwysicaf yn eu bywydau, bydd y rhan fwyaf yn dweud eu teulu, neu eu ffrindiau, bod â rhywle i fyw, teimlo’n ddiogel a gweld dyfodol y gallan nhw edrych ymlaen ato. Dyma sylfaen ‘bywyd da’.” Dyma lle mae Cydlynu Ardaloedd Lleol yn chwarae rhan; mae’n ffordd o gefnogi pobl a chymunedau i ddatblygu’r sgiliau a’r syniadau sy’n angenrheidiol i ddod o hyd i atebion ymarferol i faterion a phroblemau pob dydd, aros yn gryf a chreu’r ‘bywyd da’ hwnnw. Meddai Ronan Ruddy, Cydlynydd Ardaloedd Lleol yng Ngorseinon a Chasllwchwr, “Ers dechrau’r swydd hon mae wedi bod yn fraint i mi gwrdd â phobl fendigedig sy’n gwneud llawer o bethau gwych yma. Rwy’n gallu rhoi cyngor a gwybodaeth, a hefyd gysylltu pobl ag eraill sy’n rhannu’r un diddordebau.”

“Yn y gorffennol pan oedd angen cymorth arnoch gyda rhywbeth neu pan oeddech yn teimlo’n unig, byddech yn gofyn i gymydog. Rydym yn gwybod trwy ein gwaith bod pobl yn wir gwerthfawrogi’r teimlad o gymuned ac yn mwynhau cyfrannu ato. Rydym yn gweithio i ddarganfod sgiliau a doniau naturiol pobl fel y gall pawb elwa.” Mae’r ymagwedd yn rhan o nod Cyngor Abertawe i atal problemau pob dydd rhag troi’n argyfyngau a chefnogi cymunedau i fod yn lleoedd gwych i bawb fyw ynddynt. Pan fo pobl yn gysylltiedig, maent yn teimlo’n rhan o fywyd y gymuned ac eisiau cyfrannu ato. Mae hyn i gyd yn helpu pobl i aros yn iachach am fwy o amser a threchu teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd.

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016 27


Yn ogystal â darparu gwybodaeth, cyngor a chysylltiadau â grwpiau a gweithgareddau, mae cydlynwyr hefyd yn cysylltu pobl â’r arbenigwyr sy’n gallu rhoi cyngor ar dai, dyledion a budd-daliadau a chyfleoedd gwirfoddoli. A phan fo angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol i helpu pobl i atal argyfwng, gall Cydlynwyr Ardaloedd Lleol helpu hefyd.

Manylion cyswllt Cydlynwyr Ardaloedd Lleol: Sgeti, Tyˆ Coch, Derwen Fawr, Parc Sgeti: Jon Franklin 07471 145351. Jon.Franklin@swansea.gov.uk

Aeth Ronan ymlaen i ddweud, “Mae’r gefnogaeth rydym yn ei darparu yn anffurfiol: gallai fod dim mwy na sgwrs dros baned, beth bynnag sy’n addas i’r unigolyn.” Meddai’r Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, “Rwy’n falch iawn o’r gwaith y mae ein Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn ei wneud. Mae pobl leol wedi gafael yn y syniad ac yn dod ynghyd i helpu ei gilydd i gadw’n iach, yn ddiogel ac yn hapus.” Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am Gydlynu Ardaloedd Lleol, ewch i www.abertawe.gov. uk/article/21264/Cydlynu-Ardaloedd-Lleol--Cwestiynau-Cyffredin

St Thomas, Glannau SA1: Dan Morris 07471 154352. Daniel.Morris@swansea.gov.uk Gorseinon, Pentre’r Ardd, Pontybrenin a Chasllwchwr Ronan Ruddy 07471 145353. Ronan.Ruddy@swansea.gov.uk Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jane Tonks trwy 01792 636645. jane.tonks@swansea.gov.uk

Allwn ni eich helpu? Oes anhawster gennych yn darllen print mân neu efallai eich bod yn teimlo eich bod yn boddi dan swm yr wybodaeth rydych yn ei gweld ar lythyrau, taflenni a ffurflenni cais.

Rhanbarthol systemau dolen glyw, chwyddwydrau llaw, arweiniadau llofnod, pinnau gafael mawr a chymhorthion eraill sydd ar gael i’w defnyddio wrth y ddesg yn y dderbynfa neu yn yr ystafell gyfweld.

Os mai dyma yw’r achos, gallwn ddarparu gwybodaeth i chi mewn ffyrdd eraill. Gallwn anfon gwybodaeth i chi mewn print bras, Braille neu ar gryno ddisg neu dâp. Os ydych yn siaradwr Cymraeg neu’n dysgu Cymraeg, gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth i chi yn Gymraeg neu yn Saesneg a Chymraeg.

Mae’n bwysig i ni eich bod yn gallu cael mynediad i’n holl wasanaethau sydd ar gael i chi gan y Gwasanaeth Tai; felly os hoffech i ni wneud pethau’n wahanol i chi, gofynnwch a byddwn yn hapus i wneud hynny.

I dderbyn gwybodaeth mewn fformat arall, rhowch wybod i’r staff yn eich Swyddfa Ranbarthol neu cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy ffonio 01792 635045 eu drwy e-bostio  tai@abertawe.gov.uk Os oes angen help arnoch i gwblhau ffurflen rydym wedi’i rhoi i chi, gofynnwch i’r staff yn eich Swyddfa Ranbarthol am gymorth. Mae ystafell gyfweld breifat ar gael os nad ydych yn dymuno gwneud hyn yn y dderbynfa. Mae gan ein holl Swyddfeydd Tai

28 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2016

 www.abertawe.gov.uk/tai  tai@abertawe.gov.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.