Ty Agored - Rhifyn 1 2019

Page 1

TŷAgored Rhifyn 1 2019

Y Cylchgrawn ar gyfer Tenantiaid a Lesddeiliaid y Cyngor

Mae’r gwaith yn parhau i wella tai a stadau er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Cyfeiriad dychwelyd: Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN


Y tu mewn

Croeso i Tŷ Agored

ERTHYGLAU Ffocws ar... Cyflwyno Pennaeth newydd Tîm Tai ac Iechyd y Cyhoedd .................... 1 Dewch Ar-lein Abertawe ................... 2 Canolfannau cymunedol ................... 3

CYSYLLTIADAU LLEOL Gweithgareddau dan do ................... 4

TENANTIAETHAU A STADAU Llais y Tenantiaid ................................ Cefnogi preswylwyr gydag ailgylchu .................................. Newyddion Tai Lloches ....................... Sut hoffech chi dderbyn Tŷ Agored?.. HomeSwapper .................................. Cystadleuaeth Arddio ........................ Gwybodaeth Gyswllt .......................... Hwyl ar y Bws Chwarae yn Colliers Way ................................... Lansio Strategaeth Digartrefedd newydd ......................... Gwelliannau i Dai Cyngor / Safon Ansawdd Tai Cymru - y diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf ........................ Digwyddiad ailgylchu cymunedol mawr .................................... Diogelwch trydanol yn y cartref ........ Dulliau talu rhent ................................ Gwasanaethau cefnogi .....................

6 7 8 9 10 12 14 14 15 16 20 21 22 23

CYNGOR CYFFREDINOL Peidiwch â chael eich twyllo ............. Crimestoppers .................................... Anwedd a llwydni yn eich cartref ..... Cymorth i Gynilo ................................. Casgliadau ailgylchu a gwastraff 2019 ................................ Casgliadau Ailgylchu a Sachau Du Ymyl y Ffordd ...................

24 25 26 27 28 30

CYDRADDOLDEB Cyfeiriadur Dinas Iach ........................ 32 Allwn ni eich helpu? ........................... 32 MAE’R HOLL WYBODAETH YNG NGHYLCHGRAWN TŶ AGORED YN GYWIR WRTH FYND I’R WASG.

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

Croeso i’r rhifyn hwn o Tŷ Agored. Gobeithio y dewch o hyd i lwyth o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol, ond os oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran yr hyn yr hoffech ei weld yn rhifynnau’r dyfodol, rhowch wybod i ni. Rydym yn brysur yn cyflawni gwaith ar ein stadau er mwyn sicrhau bod holl eiddo’r cyngor yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Gallwch weld ein cynnydd o ran y rhaglen hon ar dudalennau 15-19. Mae cyngor defnyddiol ar dudalen 24 ar sut y gallwch sicrhau nad ydych yn ddioddefwr gweithred dwyllodrus. Gall llawer o’r gweithredoedd twyllodrus hyn fod yn argyhoeddiadol iawn, felly cymerwch yr amser i ddarllen y cyngor a ddarperir yn ofalus. Ar dudalen 28, dewch o hyd i ychydig o wybodaeth am ailgylchu gan gynnwys yr hyn y gallwch ei ailgylchu a’r hyn na allwch ei ailgylchu. Mae hwn yn destun poblogaidd gyda’n grwpiau tenantiaid, felly gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi. I orffen, mae’n wych gweld rhai lluniau o’n henillwyr o’r gystadleuaeth arddio, mae gerddi gwych o gwmpas - da iawn i chi gyd. Mae T ŷ Agored hefyd ar gael i’w ddarllen yn www.abertawe.gov.uk/tai Rachel Cole, Golygydd

Cysylltiadau Defnyddiol Golygydd - Rachel Cole .......................................................... Y Ganolfan Gyswllt Atgyweiriadau ........................................ Atgyweiriadau Brys y tu allan i Oriau Swyddfa ..................... Uned Cefnogi Cymdogaethau 24 awr .................................. Opsiynau Tai ............................................................................. Canolfan Gyswllt yr Amgylchedd ........................................... Ymholiadau Budd-dal Tai .........................................................

635045 635100 521500 648507 533100 635600 635353

Rhifau Swyddfeydd Tai Rhanbarthol Swyddfa Dai Ranbarthol Eastside .......................................... Swyddfa Dai Ranbarthol Treforys a’r Clâs .............................. Swyddfa Dai Ranbarthol Sgeti ................................................ Swyddfa Dai Ranbarthol Townhill a Mayhill .......................... Swyddfa Dai Ranbarthol Blaen-y-maes ................................ Swyddfa Dai Ranbarthol Gorseinon ...................................... Swyddfa Dai Ranbarthol Penlan ............................................ Swyddfa Dai Ranbarthol Canol y Dref ................................... Swyddfa Dai Ranbarthol West Cross ..................................... Mae pob rhif ffôn yn Abertawe (01792)

791251 601720 516810 513900 534060 897700 582704 650486 402500

Cyfeiriadau E-bost Swyddfeydd Tai Rhanbarthol SwyddfaDaiRanbartholBlaenymaes@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholEastside@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholGorseinon@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholTreforys@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholPenlan@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholSgeti@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholTownhill@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholCanolyDref@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholWestCross@abertawe.gov.uk Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat arall e.e. print bras, Braille, disg neu ddull arall, cysylltwch â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid Tai 01792 635045 neu ewch i’n gwefan www.abertawe.gov.uk/tai neu e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a byddwn yn ymdrin â gohebiaeth Gymraeg a Saesneg i’r un safonau ac amserlenni.


Ffocws ar... Cyflwyno Pennaeth newydd Tai ac Iechyd y Cyhoedd Penodwyd Mark Wade yn Bennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd ym mis Medi 2018. Mae gan Mark fôr o brofiad yn sectorau iechyd yr amgylchedd a thai.

Cefndir - gan Mark Dechreuais fy mywyd gwaith fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd dan Hyfforddiant i Gyngor Dinas Abertawe. Rwyf wedi ymddiddori ym maes tai a bod yn frwd drosto erioed, gan dreulio 10 mlynedd yn gweithio mewn llywodraeth leol pan oeddwn yn byw yn Lloegr ac, ar ôl cyfnod byr yng Nghastellnedd Port Talbot, ailymunais â Dinas a Sir Abertawe yn 2009. Ers hynny, rwyf wedi gweithio mewn nifer o dimau a’u rheoli ar draws y gwasanaeth Tai, gan gynnwys Adnewyddu ac Addasu, Cynllunio Busnes a thimau hen is-adran Diogelu’r Cyhoedd. Deuthum yn Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd dros dro ym mis Mawrth 2018 cyn cael fy mhenodi’n Bennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd fis Medi diwethaf. Mae fy meysydd cyfrifoldeb bellach yn cynnwys Gwasanaethau Landlordiaid, Cynllunio Busnes, Grantiau Tai yn ogystal â thimau Iechyd y Cyhoedd, gan gynnwys Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu, Rheoli Adeiladau, Safonau Masnach, Cofrestryddion a Gwasanaethau Profedigaeth.

Ymrwymiad i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru Safon darged Llywodraeth Cymru ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Rydym yn buddsoddi £169.5 miliwn rhwng nawr a 2020 fel ein bod yn bodloni SATC.

Rydym am sicrhau bod holl eiddo’r cyngor • Mewn cyflwr da • Yn ddiogel • Yn cael eu gwresogi’n ddigonol, yn ynnieffeithlon ac wedi’u hinswleiddio’n dda • Yn cynnwys cegin ac ystafell ymolchi fodern • Mewn lleoliad sy’n ddeniadol ac yn ddiogel

Adeiladu mwy o gartrefi’r cyngor Mewn rhifynnau blaenorol, byddwch wedi gweld lluniau o ddatblygiad Colliers Way ac rydym bellach wedi cyflwyno cais cynllunio am ail safle yng Ngellifedw. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gynnydd.

Eich barn am y Gwasanaeth Tai Un o’m tasgau allweddol cyntaf yw goruchwylio adolygiad comisiynu i wella ein gwasanaethau i gwsmeriaid a sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth mwy effeithlon. Os hoffech fynegi eich barn neu os oes gennych unrhyw syniadau am wella gwasanaethau neu bethau i’w cynnwys yn rhifynnau ein cylchgrawn Tŷ Agored yn y dyfodol, ffoniwch ein Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid, Alison Winter, ar 01792 635043 neu e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk.

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

1


Am ddysgu sut mae manteisio i’r eithaf ar y rhyngrwyd? Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu!

Cymerwch ran yn y cyrsiau AM DDIM i ddechreuwyr er mwyn i chi ddod ar-lein Dysgwch sut mae manteisio i’r eithaf ar y rhyngrwyd, anfon e-byst, arbed arian, trefnu gwyliau, syrfďŹ o’r we, cyfathrebu â ffrindiau a theulu a llawer mwy. Cynhelir y sesiynau AM DDIM hyn gan diwtor cymwysedig mewn lleoliadau ar draws Abertawe, gan gynnwys llyfrgelloedd ac adeiladau cymunedol. Bydd pob cwrs yn para 2 awr yr wythnos am 5 wythnos. Maen nhw i bobl heb unrhyw broďŹ ad, neu â phroďŹ ad cyfyngedig o ddefnyddio cyfriďŹ aduron, iPads neu dabledi Android i’w helpu i ddod ar-lein. Gallwch gofrestru ar gyfer un o’r cyrsiau hyn: 1.

Cwrs cyfriďŹ aduron i ddechreuwyr - rydyn ni’n darparu cyfriďŹ aduron i’w defnyddio ar gyfer y cwrs

2. Cwrs Tabledi i Ddechreuwyr - dewch â’ch iPad neu dabled android eich hun i’w ddefnyddio ar y cwrs

I gael gwybodaeth am ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau cyrsiau, ffoniwch y TÎm Dysgu Gydol Oes yn Nhŷ Bryn ar 01792 470171 Fel arall, gofynnwch i rywun gadw lle ar-lein i chi yn www.dewcharleinabertawe.co.uk

2

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019


Canolfannau cymunedol Mae canolfannau cymunedol yn aml wrth wraidd cymunedau Abertawe, gan gynnig cyeoedd i breswylwyr lleol gymryd rhan mewn grwpiau a chlybiau a’u galluogi i gwrdd â phobl eraill a gwneud ffrindiau newydd. Lleolir dwy ganolfan yn Abertawe sy’n rhan annatod o’r gymuned ym Mlaen-y-maes a Phenlan.

Canolfan Gymunedol Blaen-y-maes Derbyniodd Canolfan Gymunedol Blaen-y-maes arian yn ddiweddar er mwyn gallu gwneud gwaith hanfodol i du allan yr adeilad. Gyda chymorth pwyllgor rheoli’r ganolfan, ac arian gan ymddiriedolaeth Pobl, gweddnewidiwyd tu allan y ganolfan gymunedol. Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen at weld mwy o breswylwyr yn defnyddio’r ganolfan. Ymysg y grwpiau sy’n defnyddio Canolfan Gymunedol Blaen-y-maes mae grwĚ‚p bingo, clwb bocsio, grwĚ‚p dinasyddion hyĚ‚n, dosbarthiadau fďŹ trwydd, gweithgareddau gwyliau, sesiynau cyngor a chymorth yn ogystal â phartĂŻon rheolaidd. Os hoffech logi Canolfan Gymunedol Blaen-y-maes, ffoniwch Brian Pridmore ar 07875 469858.

Canolfan Gymunedol Gogledd Penlan Mae Canolfan Gymunedol Gogledd Penlan ar gael i’w llogi! Wedi’i lleoli yng Nghilgant John Penry, mae gan y ganolfan gegin ymarferol, lolfa o faint canolig a neuadd chwaraeon fawr. Amrywia prisiau llogi’r ganolfan o ÂŁ10 i ÂŁ20 yr awr a gellir eu trafod. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn y ganolfan ar hyn o bryd: Mae clwb ieuenctid yn cael ei gynnal bob dydd Iau yn ystod y tymor o 4.00pm i 6.00pm. Mae ar gyfer pobl ifanc 8-16 oed ac mae’r gweithgareddau’n cynnwys pĂŞl-osgoi, creu llysnafedd a chrefftau, nosweithiau gemau a nosweithiau fďŹ lm. Mae grwĚ‚p pĂŞl-rwyd yn cwrdd ac yn chwarae ar nos Lun, o 7.00pm i 8.00pm. Mae croeso i bawb. Y pris yw ÂŁ2 am oedolyn a ÂŁ1 am blentyn. Mae’n rhaid bod plant o oed ysgol uwchradd ac yng nghwmni oedolyn. Croesewir pob math o grwpiau cymunedol, digwyddiadau ac achlysuron i’r ganolfan gymunedol. Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu digwyddiad, ffoniwch yr Ysgrifennydd Trefnu ar 07794 701007.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ganolfannau cymunedol yn ardal Abertawe trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/canolfannaucymunedol Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

3


CysylltiadauLleol Mae Cysylltiadau Lleol yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau a gynhelir yn eich ardal. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau o’r hyn yr hoffech i ni ei gynnwys, cysylltwch â ni.

Gweithgareddau dan do Oriel Gelf Glynn Vivian Mae Oriel Glynn Vivian yn lleoliad celf bywiog ac ysbrydoledig i bawb y gellir ymweld ag ef AM DDIM ac mae’n darparu lle ar gyfer arddangosfeydd celf hanesyddol, modern a chyfoes, gweithdai a gweithgareddau, sgyrsiau a theithiau tywys, a cherddoriaeth fyw a digwyddiadau. Yn dilyn ailddatblygiad yn 2016 mae siop a chafďŹ hefyd ar y sae, ac mae’r oriel bellach ar agor ac yn gwbl hygyrch i bawb. Oriau Agor: Dydd Mawrth - dydd Sul, 10.00am - 5.00pm. Mynediad olaf 4.40pm. Ar gau ar ddydd Llun ac eithrio dydd Llun GwĚ‚yl y Banc. 01792 516900 oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk www.abertawe.gov.uk/glynnvivian

Llyfrgell Ganolog Abertawe Mae gan Lyfrgell Ganolog Abertawe ddewis eang o lyfrau gan gynnwys llyfrau plant, cyfeirio, hanes lleol, print mawr a llyfrau llafar, yn ogystal â chyfriďŹ aduron a darllenwyr microfďŹ lm (awgrymir eu harchebu). Mae’r llyfrgell yn y Ganolfan Ddinesig ac mae ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 8.30am 8.00pm a dydd Sadwrn i ddydd Sul 10.00am - 4.00pm. 01792 636464 libraryline@abertawe.gov.uk www.abertawe.gov.uk/llyfrgellganolog

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n adrodd hanes diwydiant ac arloesedd yng Nghymru dros y 300 mlynedd diwethaf. Mae’r yr amgueddfa yn y Marina ac mae ar agor o 10am i 5pm bob dydd. Mynediad am ddim. 0300 111 2 333 glannau@amgueddfacymru.ac.uk www.amgueddfa.cymru/abertawe/digwyddiadau/

4

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019


Amgueddfa Abertawe Mae Amgueddfa Abertawe yn drysorfa o’r cyffredin a’r anghyffredin o orffennol a phresennol Abertawe, ac yn ffocws ar gyfer dyfodol y ddinas a’i phobl, yn ogystal â darparu proďŹ ad pleserus i ymwelwyr. Gallwch ymweld ag Amgueddfa Abertawe mewn dau leoliad - yr Amgueddfa ei hun ar Heol Ystumllwynarth, a’r Sied Dramiau yn Sgwâr Dylan Thomas yn y Marina. Mynediad am ddim. Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul 10.00am - 4.30pm (mynediad olaf 4.15pm). Ar gau ar ddydd Llun ac eithrio dydd Llun GwĚ‚yl y Banc. 01792 653763 Amgueddfa.Abertawe@abertawe.gov.uk www.swanseamuseum.co.uk/cy/

Canolfan Dylan Thomas Dysgwch i ‘Ddwlu ar y Geiriau’ yn y modd wnaeth Dylan yn arddangosfa barhaol y Ganolfan, sy’n archwilio bywyd, cyfnod a gwaith un o awduron gorau’r 20fed ganrif. Mae’r arddangosfa’n cynnwys man dysgu, gweithgareddau i blant, ardal arddangos dros dro a rhaglen ddigwyddiadau trwy’r wyddyn. Mae’r ganolfan yn Somerset Place yn Abertawe ac mae ar agor o 10.00am i 4.30pm bob dydd. 01792 463980 LlenyddiaethDylan.Thomas@abertawe.gov.uk www.dylanthomas.com

Theatr y Grand Abertawe Mae gan Theatr y Grand Abertawe ddewis eang o sioeau ac arddangosfeydd i bawb eu mwynhau. Gallwch brynu tocynnau ar gyfer sioe yn y swyddfa docynnau, trwy ffonio 01792 475715, gydag asiant tocynnau neu ar y we www.abertawe.gov.uk/digwyddiadauygrand. Mae Theatr y Grand Abertawe ar Stryd Singleton, Abertawe. Oriau agor y Swyddfa Docynnau: Dydd Llun - dydd Sadwrn, o 12.00 i 8.00pm ar ddiwrnod sioe, Dydd Llun - dydd Sadwrn, o 12.00 i 6.00pm ar ddiwrnod pan na fydd sioe. Ymunwch â’n rhestr e-bostio yn www.grandabertawe.co.uk 01792 475715 www.grandabertawe.co.uk

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

5


Helo, fy enw i yw Alison Winter a fi yw’r Swyddog Cyfranogiad. Dyma f’adroddiad rheolaidd am gyfranogiad tenantiaid yn Abertawe, lle dwi’n rhoi newyddion a gwybodaeth i chi am grwpiau lleol a grwpiau ar draws y ddinas a’r sir.

Grwpiau / Digwyddiadau Lleol Mae Cymdeithas Preswylwyr Clyne Court yn parhau i gwrdd yn gyson a thrafod y materion sy’n effeithio ar y 3 bloc o fflatiau. Meddai’r Cadeirydd Heather Elphick, “Hoffwn annog holl breswylwyr Clyne Court i ddod i’n cyfarfodydd. Rydym yn cael diweddariad gan staff y Swyddfa Dai, cynghorwyr lleol a siaradwr gwadd.”

Grwpiau ar draws y ddinas a’r sir Yn ystod cyfarfod diwethaf y Grŵp Adeiladau ac Atgyweiriadau, siaradodd Marion Jones a Nikki Phillips o’r Ganolfan Alwadau â’r tenantiaid am eu profiadau o adrodd am atgyweiriadau i’r Ganolfan Alwadau. Siaradodd y grŵp am brofiadau da a drwg o adrodd am atgyweiriadau, ac arweiniodd hyn at drafodaethau am systemau apwyntiadau, sut mae gwaith atgyweirio yn cael ei ddyrannu a sut mae methu galwadau gweithwyr yn effeithio ar atgyweiriadau tenantiaid eraill. Teimlodd y grŵp fod y cyfarfod o werth mawr, a bellach mae ganddynt ddealltwriaeth well o sut mae’r ganolfan alwadau’n gweithio.

6

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

Adolygir y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a’r Cynllun Gweithredu ar hyn o bryd i edrych ar ba welliannau y gellid eu gwneud i’r ffordd y mae tenantiaid yn gallu cymryd rhan a chael mynediad at wybodaeth. Derbyniodd aelodau o Banel Ymgynghorol y Tenantiaid arolwg yn gofyn am eu barn ac awgrymiadau a bydd cyfarfod gyda’r grŵp yn cael ei gynnal i drafod y casgliadau. Os hoffech chi gymryd rhan neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau, cysylltwch ag Alison Winter.


Val Taylor

Panel Ymgynghorol y Tenantiaid

Gyda thristwch mawr rydw i’n rhoi gwybod i chi am farwolaeth un o’n tenantiaid tymor hir, Val Taylor. Bu Val yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i denantiaid am dros 35 mlynedd a bu’n aelod o Banel Ymgynghorol y Tenantiaid, y Grŵp Llywio Tenantiaid, y Grŵp Adeiladau ac Atgyweiriadau a’r Grŵp Rheoli Stadau. Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli TPAS Cymru am nifer o ynyddoedd.

Gall unrhyw denant neu lesddeiliad fod yn aelod o Banel Ymgynghorol y Tenantiaid. Fel aelod bydd gofyn i chi roi eich barn am ddatblygiadau newydd yn y gwasanaeth neu newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau. Gellir gwneud hyn trwy holiaduron, trwy e-bost neu neges destun, neu drwy fynd i gyfarfodydd – gyda chi mae’r dewis. Os hoffech fod yn rhan o banel ymgynghorol y tenantiaid, ffoniwch Alison Winter ar y rhif isod.

Os hoffech ddweud eich dweud a chymryd rhan, ffoniwch Alison Winter, y Swyddog Cyfranogiad ar 01792 635043 neu e-bostiwch alison.winter@abertawe.gov.uk neu anfonwch neges destun gyda’ch sylwadau ynghyd â’ch enw a’ch cyfeiriad i 07775221453

Cefnogi preswylwyr gydag ailgylchu Os ydych chi’n newydd i’r broses ailgylchu a ddim yn siwĚ‚r sut i ddechrau arni mae’r TĂŽm Hyrwyddo Ailgylchu wrth law i gynnig cefnogaeth, cyfarpar ailgylchu a gwybodaeth. Mae’r tĂŽm wedi bod yn gweithio gyda Swyddfeydd Tai Rhanbarthol i gysylltu â phreswylwyr y mae angen ychydig bach mwy o gymorth arnynt er mwyn trefnu eu gwastraff yn effeithiol a chafwyd canlyniadau gwych. Mae Cyngor Abertawe wedi gosod terfyn o dair sach ddu ond os ydych yn ailgylchu gan ddefnyddio ein gwasanaeth casglu ymyl y ffordd ac mae angen mwy na thair sach ddu arnoch o hyd mae yna gynllun eithrio ar waith. Gallwch wneud cais am eithriad trwy ffonio 635600 neu e-bostio evh@abertawe.gov.uk. Gosodwyd y terfyn sachau du gan ein bod ni angen mwy o breswylwyr i ailgylchu er mwyn lleihau faint o arian yr ydym yn ei wastraffu trwy

anfon ailgylchu i saeoedd tirlenwi. Hefyd mae gennym dargedau ailgylchu caeth i’w cyrraedd. Os ydych yn cael trafferth ailgylchu, neu os oes angen mwy o gefnogaeth a chymorth arnoch i ddechrau arni gall ein TĂŽm Hyrwyddo Ailgylchu weithio gyda chi nes y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth yn gywir. Felly, os oes gennych wastraff sy’n cronni yn eich gardd neu yn eich tyĚ‚ a dim syniad lle i ddechrau cael gwared arno, cysylltwch â’r Swyddfeydd Tai Rhanbarthol a threfnir i’r TĂŽm Hyrwyddo Ailgylchu ymweld â chi. Am fwy o wybodaeth am wasanaethau ailgylchu sydd ar gael i bobl Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/ailgylchu.

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

7


Newyddion Tai Lloches Bore Coffi Macmillan Ym mis Mawrth, cymerodd nifer o’n cyfadeiladau lloches ran yn y Bore Coffi Macmillan. Dyma ddigwyddiad codi arian mwyaf elusen Ymchwil Canser Macmillan a bydd yr holl elw yn mynd i’r elusen. Cynhaliwyd un bore coffi ym Maes yr Efail, Gorseinon. Meddai cynrychiolydd o’r cyfadeilad fod “Digonedd o goffi, te a theisennau ar gael ar gyfer y preswylwyr a gymerodd ran, yn ogystal â nifer o gyfleoedd i ennill gwobrau. Roedd pawb wedi mwynhau’r digwyddiad a chodwyd £620.” Roedd rhai o’r cyfadeiladau eraill a gymerodd ran yn cynnwys Pantgwyn, Sgeti a Than yr Allt, Tre-gŵyr.

8

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019


Sut hoffech chi dderbyn TyĚ‚ Agored? Caiff TyĚ‚ Agored ei ddosbarthu fel copi papur i dros 14,000 o denantiaid a lesddeiliaid. Mae hefyd ar gael mewn fformatau eraill fel CD a phrint bras neu ar ein gwefan. Rydym bob amser yn edrych am ffyrdd i wella TyĚ‚ Agored ac arbed costau ar yr un pryd. Felly hoffem glywed gennych os yw’n well gennych ddarllen TyĚ‚ Agored ar-lein. Yn lle anfon copi papur, byddwn yn anfon fersiwn e-bost atoch. Yna gallwch ei ddarllen ble bynnag a phryd bynnag y mynnwch, gan ddefnyddio’ch ffĂ´n, eich tabled neu’ch cyfriďŹ adur personol - mae’n hawdd! Mae hyn yn ei wneud yn fwy hygyrch, yn gynaliadwy ac yn fwy cost-effeithiol gan y byddwn yn lleihau nifer y copĂŻau printiedig.

Os hoffech dderbyn TyĚ‚ Agored ar-lein, bydd rhaid i chi gwblhau ein ffuren “cofrestruâ€? www.abertawe.gov.uk/ebosttyagored Bydd angen y manylion canlynol arnom: • Enw a chyfeiriad • Cyfeiriad e-bost • Rhifau ffĂ´n CoďŹ wch ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt. Os yw’n well gennych dderbyn copi papur o TyĚ‚ Agored nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

9


Eisiau symud cartref?

Gall eich helpu! Gall cyfnewid eich cartref â thenant arall y cyngor neu Gymdeithas Tai fod yn gyflymach nag aros am drosglwyddiad. Gallwch chwilio am gartrefi yn Abertawe a’r ardaloedd cyfagos yn ogystal â threfi a dinasoedd eraill yn y DU.

Gall holl denantiaid Cyngor Abertawe sydd wedi bod yn denantiaid am fwy na 12 mis gofrestru gyda gwefan HomeSwapper a’i defnyddio AM DDIM Cam 1: Ewch i www.homeswapper.co.uk

Cam 2: Cofrestrwch eich enw a chreu cyfrinair ac enw defnyddiwr ar gyfer eich cyfrif

Cam 3: Rhowch wybod i Homeswapper am eich cartref presennol (lleoliad, nifer yr ystafelloedd gwely, gardd, parcio etc)

Cam 4:

Gallwch lawrlwytho’r ap HomeSwapper AM DDIM o’r Apple App Store neu Google Play ar gyfer Android.

10 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

Rhowch wybod i Homeswapper am y cartref yr ydych yn chwilio amdano (lleoliad, nifer yr ystafelloedd gwely, gardd, parcio etc).

Cam 5: Dewiswch ‘find a swap’ a dechreuwch edrych ar y tai sydd yn cyd-fynd â’ch dewisiadau.


Awgrymiadau: Cofiwch ychwanegu lluniau o’ch cartref. Mae gan y rhan fwyaf o gyfnewidiadau llwyddiannus o leiaf un llun o’r cartref. Mae lluniau yn rhoi mwy o wybodaeth i bobl am eich cartref. Ceisiwch ddangos eich cartref ar ei orau - gofynnwch i chi’ch hun “beth mae hyn yn ei ddangos i rywun sydd heb weld yr ystafell hon o’r blaen?”. Daliwch y camera yng nghornel yr ystafell i geisio cael cymaint ag y gallwch yn y llun. Hefyd, cofiwch fewngofnodi i’ch cyfrif yn aml i wirio’r cyfleoedd cyfnewid posib ac i sicrhau bod eich cyfrif yn aros ar waith.

www.homeswapper.co.uk

Eich sylwadau am gylchgrawn Tŷ Agored Oes gennych unrhyw sylwadau am y rhifyn hwn o gylchgrawn Tŷ Agored neu am unrhyw un o’r erthyglau yr ydych wedi’u darllen? Os felly, gallwch ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Tai, Dinas a Sir Abertawe, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN, Rhadbost RSCT-JJZH-KLJZ neu e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635045 Diolch am eich amser. Rhowch wybod i ni os ydych yn hapus i ni gyhoeddi eich sylwadau yng nghylchgrawn Tŷ Agored.

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

11


2018 - yr enillwyr... Yn ystod haf 2018, cynhaliwyd y 19eg gystadleuaeth arddio flynyddol i denantiaid a lesddeiliaid. Eleni, cafwyd mwy o ymgeiswyr nag erioed ac, unwaith eto, roedd safon uchel y gerddi wedi creu argraff dda ar y beirniaid. Dyma ddetholiad o luniau o erddi’r enillwyr. Gobeithio y bydd gweld y gerddi hyn yn annog mwy o denantiaid i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn 2019!

Yr enillydd cyffredinol oedd Richard Russ, sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth am sawl blwyddyn. Dyma’r tro cyntaf y mae wedi derbyn gwobr yr enillydd cyffredinol. Mae Richard yn treulio llawer o’i amser yn cynnal a chadw ac yn datblygu ei ardd fawr, y mae ganddi ardal laswelltog, patio, blodau gwyllt a gardd fwytadwy.

12 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019


2il safle

3ydd safle

Andrea Evans

Juliet Rees

Gardd gymunedol orau

Gardd fwytadwy orau

Gardd gynwysyddion orau

Laugharne Court

Mountbatten Court

Andrew George

Newydd-ddyfodiad gorau

Gwobr dewis y beirniaid

Judith Hatton

Paul Davies

Gardd blodau gwyllt orau

Gardd ffordd o fyw orau

Patrick McCormack

Stephen Rees

Defnydd gorau o le bach/ cyfyngedig Josie Phillips

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019 13


Gwybodaeth Gyswllt Efallai y bydd angen i’r cyngor gysylltu â chi o bryd i’w gilydd ynglŷn â’ch rhent, gwelliannau i eiddo neu faterion eraill sy’n gysylltiedig â thai, felly mae’n bwysig bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf fel y gallwn gysylltu â chi pan fo angen. Mae hyn yn cynnwys eich rhif ffôn cartref, eich rhif ffôn symudol a’ch cyfeiriad e-bost. Mae’r cyngor yn cysylltu mwyfwy â chwsmeriaid drwy anfon negeseuon testun. Mae llawer o adrannau’r Gwasanaeth Tai, fel y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol, y Tîm Rhent, Opsiynau Tai a’r Uned Cefnogi Tenantiaid yn defnyddio negeseuon testun. Rydym yn gweld ei bod yn ffordd dda iawn o drosglwyddo negeseuon i denantiaid yn gyflym ac rydym wedi sylwi bod y rhan fwyaf o denantiaid yn ei gweld yn ffordd rwydd o ymateb i ni. Rhowch wybod i ni os bydd unrhyw un o’ch manylion cyswllt yn newid fel ein bod ni’n gallu diweddaru’n system a pharhau i gysylltu â chi pan fo angen i ni wneud hynny.

Hwyl ar y Bws Chwarae yn Colliers Way Fel yr ydych yn debygol o wybod yn barod, adeiladodd y cyngor dai newydd yng Nghwrt Trefor a Colliers Way ym Mhenlan yn ddiweddar. Dechreuodd y tenantiaid symud i mewn i’w tai newydd ym mis Rhagfyr 2017. Ymwelodd Bws Chwarae’r cyngor ag ardal Cwrt Trefor ar 15 Awst 2018. Daeth 6 phlentyn o’r ardaloedd uchod i’r digwyddiad a chawsant amser gwych! Yn ogystal â’r plant, ymunodd rhai rhieni (a hyd yn oed teidiau a neiniau!) yn yr hwyl hefyd gan orffen y diwrnod wedi’u gorchuddio mewn paent wyneb! Gan fod Cwrt Trefor a Colliers Way yn gymuned

14 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

newydd, rhoddodd y Bws Chwarae gyfle i’r plant, a’u teuluoedd, ddod i adnabod ei gilydd yn well a gwneud ffrindiau newydd. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant enfawr a hoffai’r preswylwyr weld y Bws Chwarae yn dychwelyd i’r ardal yn y dyfodol.


Lansio Strategaeth Digartrefedd newydd Mae’r cyngor wedi lansio Strategaeth Digartrefedd newydd, sy’n ceisio darparu mynediad at gyngor o safon, llety a chefnogaeth i bawb ar y cye cynharaf bosib er mwyn osgoi digartrefedd. Mae’r strategaeth wedi cael ei datblygu yn dilyn adolygiad eang, a edrychodd yn fanwl ar nifer y bobl ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn Abertawe a’r gwasanaethau sydd wedi eu rhoi ar waith er mwyn eu helpu. Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori a gasglodd farn pobl sydd wedi bod yn ddigartref, sefydliadau sy’n cynnig cefnogaeth a llety ac elusennau eraill megis Crisis a Shelter. O ganlyniad uniongyrchol i’r ymgynghoriad a thystiolaeth o’r adolygiad, cwblhawyd y Strategaeth Digartrefedd ddrafft ynghyd â chynllun gweithredu. Bydd y strategaeth ar waith am bedair blynedd ac mae ganddi nifer o gamau gweithredu, sy’n ceisio lleihau lefelau digartrefedd. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y mae’r cyngor yn bwriadu ei wneud dros y 4 blynedd nesaf: • Lleihau gorchmynion troi allan a deall y rhesymau dros denantiaethau y rhoddwyd y gorau iddynt. • Adolygu a gwella cyngor ar dai sydd ar gael ar-lein

• Datblygu rhaglen addysg i gynyddu gwybodaeth am broblemau tai a digartrefedd i bobl ifanc • Gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r angen cynyddol am gyngor ar fudd-daliadau lles, gwneud yn fawr o incwm, a dyledion. • Gwella’r gefnogaeth a’r cyngor a gynigir i landlordiaid preifat er mwyn cynyddu’r cyenwad o lety a rentir yn breifat sy’n fforddiadwy ac o safon. • Datblygu atebion llety a rennir ar gyfer aelwydydd sengl dan 35 oed. • Gwella mynediad at wasanaethau cefnogi iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer aelwydydd digartref. Mae’r strategaeth lawn a’r cynllun gweithredu ar gael ar-lein www.abertawe.gov.uk/article/46708/ Lansio-Strategaeth-Digartrefedd-newydd Neu os hoffech dderbyn copi caled, ffoniwch Rosie Jackson ar 01792 635046.

Problemau dyled? Gwasgwch y botwm. Mae mynd i’r afael â’ch dyled yn haws nag a feddyliwch. Bydd y Botwm Panig Dyled yn eich helpu i ymdopi a chael cymorth priodol am ddim.

www.debtpanicswansea.org.uk

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019 15


Gwelliannau i Dai Cyngor/Safon Ansawdd Tai Cymru - y diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf Safon darged Llywodraeth Cymru ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

Cyflawni SATC yn Abertawe Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y cyngor yn buddsoddi dros £156 miliwn i wella cartrefi a stadau i gyrraedd SATC erbyn mis Rhagfyr 2020. Rhoddir rhan o’r buddsoddiad hwn i’r cyngor fel grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr blynyddol gwerth £9,100,000 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwaith hwn yn helpu i wella lles y rhai sy’n byw yn nhai a stadau’r cyngor, yn ogystal â darparu buddion cymunedol. Bydd y gwaith gwella y mae angen ei wneud ar gartrefi’n amrywio oherwydd ei fod yn bosib y bydd angen mwy o waith ar rai nag eraill er mwyn cyrraedd y safon. Bydd tenantiaid yn cael gwybod yn unigol ymlaen llaw am y gwaith arfaethedig yn eu cartrefi, gan gynnwys dyddiadau dechrau posib, enw’r contractwr, a fydd lwfans aflonyddwch a’r swm a geir etc. Mae’r wybodaeth ganlynol yn edrych ar ba waith sydd wedi’i gwblhau hyd yn hyn a’r hyn sydd ar y gweill ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Cynlluniau toeon Mae’r cynlluniau toeon yn cynnwys inswleiddio llofftydd, a fydd yn gwella effeithlonrwydd ynni ac yn helpu gyda biliau gwresogi. Mae 4,320 o eiddo wedi cael toeon newydd ers mis Ebrill 2010. Dengys y tabl hwn yr ardaloedd a nifer y cartrefi sydd wedi derbyn toeon newydd yn 2017/18 a’r rhai a gynllunnir ar gyfer 2019.

Ardaloedd Blaen-y-maes Bôn-y-maen

2017

2018

2019

106 36

Fflatiau Sgeti Toeon Clai Townhill gan gynnwys Port Tennant

37

Gŵyr gan gynnwys Dynfant, Y Crwys, Llangynydd a Phenclawdd

63

Gorseinon a Phenyrheol

84

Wimpey No Fines Penlan Amrywiol

16 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

32

60


Rhaglen diogelu rhag y gwynt a’r tywydd Mae’r rhaglen hon yn cynnwys inswleiddio a gwella waliau allanol a thoeon yr eiddo. Ers mis Ebrill 2010, mae’r cyngor wedi cwblhau gwaith ar 3,573 o eiddo ac mae gwaith wedi’i gynllunio ar gyfer 1,174 o eiddo eraill dros y 2 flynedd nesaf. Mae’r tabl canlynol yn nodi’r rhaglen diogelu rhag y gwynt a’r tywydd ar gyfer y blynyddoedd rhwng 2017 a 2020. Mae’n cynnwys y gwaith a gwblhawyd yn 2017/2018 a’r gwaith a gynllunnir ar gyfer 2019 a thu hwnt.

Ardal

2017

2018

2019

Clydach (Tanycoed) Penlan

10 48

Blaen-y-maes, Ardal Heol Woodford

54

Cyfadeilad Tirdeunaw Pontarddulais

2020

21 26

25

30

Fforesthall, Heol Cae Conna

42

Y Trallwn - Talycopa

40

Townhill - Tower Gardens

18

Cyfadeilad Llwyncethin a fflatiau Maes Glas

40

Amrywiol gan gynnwys Townhill, Gŵyr a Chaemawr

3

Felindre

4

Waunarlwydd

140

Penllergaer

11

23

Casllwchwr

30

64

Craig-cefn-parc

13

33

Cwmbwrla

49

West Cross

60

57

Tai BISF West Cross

32

28

Sgeti

29

30

74 55

Gellifedw

42

Y Clâs

55

87

67

72

Winsh Wen Stryd Crofft

36

31

29

115

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

17


Cynllun Simneiau Bydd y cynllun hwn yn gwaredu, yn atgyweirio neu’n ailadeiladu’r simnai. Ar gyfer cynlluniau ‘toeon newydd’ a ‘diogelu rhag y gwynt a’r tywydd’, mae’r simneiau’n cael eu gwaredu, os yw’n bosib, am fod cywyno boeleri cyfunol yn golygu nad oes eu hangen mwyach. Bydd hyn yn lleihau’r anghenion cynnal a chadw parhaus ac yn atal problemau lleithder a threiddiad dwĚ‚r posib y gall simneiau gwag eu hachosi. Yn 2017, gwaredwyd neu atgyweiriwyd simneiau mewn 340 o eiddo, ac yn 2018 cynhaliwyd gwaith ar 244 o eiddo yn Mayhill, Cwmrhydyceirw, Llanllienwen a Chilâ Uchaf. Bydd gwaith yn cael ei wneud i 254 o eiddo yn Llwynderw, Pentrechwyth a Townhill.

cynnal gan gynnwys gwaith ar waliau cynnal lle maent yn cefnogi’r tir drws nesaf iddynt. Os oes gennych unrhyw bryderon mewn perthynas â’r waliau yn eich gardd, ffoniwch y Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai ar 01792 635100. Bydd gwaith draenio hefyd yn cael ei gynnal mewn rhai ardaloedd.

Diogelwch Tân Gwnaed llawer o waith i wella diogelwch tân mewn blociau o fatiau a chyfadeiladau lloches, sy’n cynnwys gosod drysau tân, goleuadau argyfwng ac arwyddion newydd gwell. Bydd fatiau ag ardaloedd cymunedol yn cael drysau newydd o safon uwch a fydd yn darparu diogelwch tân 60 munud i breswylwyr. Bydd gwaith diogelwch tân arall yn cynnwys gosod taenellwyr a systemau larwm tân newydd yn ardaloedd cymunedol cyfadeiladau lloches.

Taenellwyr

Balconïau Atgyweiriwyd neu adnewyddwyd 864 o falconïau ers mis Ebrill 2010. Bydd gwaith yn cael ei wneud i 59 o fatiau yn ystod 2018/19.

Rhaglen Adnewyddu Drysau Ers mis Ebrill 2010, mae 10,588 o eiddo wedi derbyn drysau allanol newydd. Roedd 2,755 o’r rhain yn ddrysau tân.

Gwaith ar gyfadeiladau lloches Gosodwyd ffenestri newydd ym Mhlasmelyn a bydd gwaith yn cael ei gynnal yn Nhŷ Dewi Sant a Gloucester House er mwyn gosod ystafelloedd gwydr newydd.

Atgyweiriadau adeileddol, atgyweiriadau a gwelliannau draenio Bydd nifer o atgyweiriadau adeileddol yn cael eu

18 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

Gosodwyd taenellwyr yn saith o’r cyfadeiladau lloches mwyaf. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i osod taenellwyr ym mhob bloc o fatiau uchel - mae’r gwaith wedi dod i ben yn Jeffreys Court ac mae’r gwaith yn parhau yn Stryd Matthew. Ar hyn o bryd mae’r tÎm yn datblygu’r systemau taenellwyr ar gyfer y blociau sy’n weddill.

Systemau mynediad llais Mae systemau mynediad llais yn helpu i gadw’r blociau’n ddiogel ac yn rhoi’r cye i denantiaid reoli mynediad. Maent hefyd yn sicrhau bod yr ardaloedd cymunedol yn fwy diogel ac yn rhwystro unrhyw un nad oes ganddo reswm i fod yno rhag cael mynediad i’r blociau.


Erbyn hyn mae gan fatiau yn Sgeti, y Clâs, Waunarlwydd ac Uplands systemau mynediad llais wedi’u hadnewyddu. Gwnaed gwelliannau i fynediad i ddrysau yng nghyfadeilad lloches Gloucester House.

Larymau Mwg Mae larymau mwg wedi’u gosod ym mhob eiddo erbyn hyn ac ers 2010 mae dros 10,300 wedi’u hadnewyddu. Trefnir bod 458 o eiddo ychwanegol yn cael larymau mwg newydd yn 2018/19. Yn 2017, gosodom larymau mwg newydd hefyd mewn rhai cyfadeiladau lloches gan ddefnyddio system cysylltiadau radio. Mae hon yn galluogi’r cyngor i wirio a yw’r larymau’n gweithio ac a ydynt hefyd yn cysylltu â gwasanaethau cefnogi megis Llinell Ofal. Yn ogystal, mae’r cyngor yn gwirio larymau mwg yn ynyddol fel rhan o’i wasanaeth gwresogi blynyddol. Fodd bynnag, dylid proďŹ â€™r rhain yn rheolaidd i weld a ydynt yn gweithio. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich larwm neu os oes angen i chi nodi nam, ffoniwch y Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai ar 01792 635100 neu eich Swyddfa Dai Ranbarthol leol.

ProďŹ ac ailweirio trydanol Caiff holl eiddo’r cyngor eu proďŹ ar gyfer diogelwch trydanol bob 10 mlynedd. Os nad yw’r gwaith trydanol yn pasio’r prawf, bydd angen cynnal gwaith gwella ar yr eiddo. Mae’n bwysig bod tenantiaid yn caniatĂĄu mynediad er mwyn cynnal y proďŹ on diogelwch hyn. Profwyd 11,416 o eiddo ers mis Ebrill 2010. Mae eiddo’n cael ei ailweirio bob 30 mlynedd. Ers mis Ebrill 2010, ailweiriwyd 5,012 o eiddo.

Ffordd o fesur effeithlonrwydd ynni yn eich cartref yw’r Weithdrefn Asesu Safonol (SAP) ac mae’n cael ei chofnodi ar Dystysgrif Perfformiad Ynni. Mae hyn yn edrych ar wresogi, goleuo ac inswleiddio ac mae’n darparu sgôr ar gyfer eich cartref. Pan rydym yn ychwanegu to, boeler, waliau allanol ac insiwleiddio ar gyfer toeon newydd, bydd hyn yn gwella sgôr SAP eich cartref.

Cyfnewid tanwydd Caiff tenantiaid y dewis o newid tanwydd cynhesu i naill ai nwy neu olew os oes ganddynt lo neu drydan ar hyn o bryd. Ers mis Ebrill 2010, mae 87 o eiddo wedi newid o ddefnyddio glo i nwy.

Gwelliannau Gall tenantiaid ofyn am eitemau bach o waith megis clociau amseru, thermostatau ystafell neu reiddiadur ar gyfer ystafell os nad oes un yn yr ystafell eisoes neu os nad yw’r un presennol yn cynhesu’r ystafell yn ddigonol.

Cynllun Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi Bydd ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn cael eu gosod mewn eiddo y mae eu hangen arnynt. Hyd yn hyn, mae 5,427 o eiddo wedi derbyn ceginau ac mae 5,706 o eiddo wedi derbyn ystafelloedd ymolchi.

Gwresogi Caiff boeleri eu hadnewyddu fel rhan o raglen gynlluniedig lle caiff y systemau hynaf eu blaenoriaethu. Y nod yw bod boeleri effeithlon yn cael eu gosod ym mhob eiddo. Mae 10,425 o foeleri newydd wedi’u gosod hyd yn hyn. Gosodwyd boeleri cymunedol newydd mewn rhai cyfadeiladau lloches sy’n darparu system wresogi fwy effeithlon i 504 o eiddo.

Lefelau gradd effeithlonrwydd ynni

Fel rhan o’r cynllun, gellir addasu ceginau ac ystafelloedd ymolchi er mwyn diwallu anghenion unigol. Gall tenantiaid drafod anghenion meddygol â staff pan fyddant yn ymweld â hwy a chyn i’r gegin a’r ystafell ymolchi gael eu dylunio.

Mae’r Gwasanaeth Tai’n edrych yn fanylach ar ei lefelau gradd ynni yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Weithiau, bydd yr eiddo’n cael ei ailweirio neu bydd angen iddo gael ei ailweirio’n rhannol er mwyn sicrhau bod gan y gegin socedi digonol.

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019 19


Bydd gan denantiaid ddeg wythnos o rybudd am y gwaith a bydd aelod o staff yn ymweld â hwy, gan roi cye iddynt drafod y cynllun yn gyffredinol ac i godi unrhyw anghenion penodol y gall fod ganddynt. Wyth wythnos cyn i’r gwaith ddechrau, bydd dylunydd cegin yn dod ac yn cynllunio dyluniad y gegin ac mae dewis o ddyluniadau cegin. Bydd hyn yn darparu ar gyfer nwyddau gwyn presennol, megis eich peiriant golchi a’ch oergell. Mae’n bwysig bod mynediad yn cael ei ganiatĂĄu pan fydd y gwaith yn cael ei wneud fel bod y gwelliannau’n cael eu cynnal. Y nod yw gorffen y gwaith o fewn 4 i 5 wythnos. Weithiau, gosodir ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd mewn eiddo gwag er mwyn iddynt fod yn barod pan fo’r tenant newydd yn symud i mewn. Yn ystod 2017, gosodwyd ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd mewn dros 1,800 o eiddo. Dechreuodd rhaglen 2018 ym Mlaen-y-maes, Casllwchwr a Gorseinon a dylai’r gwaith yn yr ardaloedd hyn ddod i ben erbyn mis Mawrth 2019. Gellir dod o hyd i’r amserlen ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi ar ein gwefan www.abertawe.gov.uk/article/45171/SafonAnsawdd-Tai-Cymru---Y-Diweddaraf-am-y-

Rhaglen-Gyfalaf---Hydref-2018 Yn yr un modd, gallwch gysylltu â’ch Swyddfa Dai Ranbarthol leol neu ffoniwch 01792 635117.

Cynllun Cyeusterau Allanol Mae’r gwaith ar gyfer ein cynllun Cyeusterau Allanol wedi dechrau ac mae rhai ardaloedd yng Ngorseinon wedi’u cwblhau ac mae’r gwaith yn parhau ym Mhenlan. Cynhaliwyd arolygon ym Môny-maen, Pentrechwyth a Phort Tennant er mwyn paratoi ar gyfer dechrau’r gwaith. Bydd y gwelliannau hyn yn canolbwyntio ar yr ardal y tu allan i’ch eiddo (e.e ffensys a llwybrau) er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw faterion hygyrchedd a diogelwch.

Cyd-fynd â gofynion penodol yr aelwyd Wrth gywyno’r cynlluniau, mae’r cyngor yn bwriadu mynd i’r afael ag unrhyw anghenion yr aelwyd lle y bo’n bosib. Gall tenantiaid wneud ceisiadau penodol am newidiadau er mwyn eu helpu i barhau i fyw yn eu cartreďŹ yn ystod y rhaglen addasiadau. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch yr adran Adnewyddu ac Addasu ar 01792 635330 neu e-bostiwch adnewyddutrefol@abertawe.gov.uk

Digwyddiad ailgylchu cymunedol mawr Ddydd Mercher 3 Hydref 2018 cynhaliwyd digwyddiad ailgylchu cymunedol mawr yn Waunarlwydd. Dilyna hyn ddigwyddiad tebyg blaenorol a gynhaliwyd ym Mhortmead ac a fu’n llwyddiant mawr. Ymunodd swyddogion o’r TĂŽm Hyrwyddo Ailgylchu a thimau NEAT â’r tĂŽm gofalwyr tai. Cafodd preswylwyr eu hysbysu am y digwyddiad ďŹ s ymlaen llaw a chynghorwyd hwy i roi eu gwastraff ac eitemau y gellir eu hailgylchu allan ar ymyl y ffordd ar y diwrnod hwn. Cafodd preswylwyr eu hannog i achub ar y cye i glirio’u gerddi am y digwyddiad unigryw hwn. Yn ystod y diwrnod, cliriodd y tĂŽm NEAT chwyn o feysydd parcio, cwteri, llwybrau a rhodfeydd. Ysgubwyd ardaloedd gydag ysgubwr stryd bach.

20 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

Achubodd swyddogion o’r tĂŽm Hyrwyddo Ailgylchu ar y cye i guro ar ddrysau, gan gynnig cyngor a gwybodaeth ynglyĚ‚n ag ailgylchu. Aeth gofalwyr stadau tai â’r holl wastraff ac ailgylchu a oedd wedi’u gosod ar ymyl y ffordd. At ei gilydd, gwnaeth y gofalwyr y canlynol: • Cwblhau 18 taith i’r Ganolfan Fyrnu • Ailgylchu gwastraff gardd, nwyddau gwyn ac eitemau y gellir eu hailgylchu. • Mynd â 9.3 tunnell o wastraff i’r domen.


Diogelwch trydanol yn y cartref Mae nifer y tanau cartref a gaiff eu hachosi gan gyfarpar trydanol wedi cynyddu. Er mwyn cadw’ch cartref mor ddiogel â phosib, dilynwch yr argymhellion isod:

Peidiwch â gorlwytho socedi plwg trwy blygio gormod o eitemau i mewn i un soced.

Peidiwch â gadael cyfarpar trydanol ymlaen neu’n gwefru dros nos neu pan fyddwch chi allan o’r tyĚ‚.

Gwiriwch eich eitemau trydanol yn rheolaidd. Os yw eich cyfarpar yn gwneud swĚ‚n rhyfedd neu os nad yw’n gweithio’n gywir, peidiwch â’i ddefnyddio.

Profwch eich larymau mwg bob mis er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio.

Mae Safonau Masnach hefyd wedi amlygu peryglon prynu eitemau trydanol ffug. Gellir prynu eitemau ffug megis sythwyr gwallt, camerâu digidol a gwefrwyr ffonau symudol am ffracsiwn pris yr eitemau go iawn. Fodd bynnag, wrth eu proďŹ ,

darganfuwyd bod nifer o’r eitemau o safon wael ac yn beryglus. Mae’r tÎm Safonau Masnach eisiau pwysleisio i breswylwyr Abertawe bod prynu’r eitemau hyn yn gallu golygu eich bod chi’n prynu eitem sy’n eich rhoi chi a’ch teulu mewn perygl.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch yn eich cartref, gan gynnwys diogelwch tân ar ein gwefan www.abertawe.gov.uk/article/35294/Diogelwch-yn-eich-ty-cyngor

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019 21


Dulliau talu rhent Mae ffurenni ar gael ar-lein neu gallwch ofyn i’ch Swyddog Rhent amdanynt drwy ffonio 601720 / 534094 neu e-bostio rhenti@abertawe.gov.uk Bydd angen cerdyn talu electronig arnoch, gofynnwch i’ch Swyddog Rhent, neu ffoniwch ni ar 601720 / 534094. Ni fydd taliadau a wneir ar ddydd Iau neu ddydd Gwener yn dangos tan yr wythnos ganlynol Payzone - Gallwch ddefnyddio cerdyn electronig i dalu mewn unrhyw siop sy’n dangos logo payzone. Am restr o’r siopau hyn, ewch i www.payzone.co.uk Drwy gysylltu â’ch Swyddog Rhent Dros y rhyngrwyd

Dros y ffĂ´n

Yn eich swyddfa dai leol

Gallwch dalu drwy ddefnyddio cerdyn debyd, Switch, Solo, Maestro neu gredyd drwy ffonio 601720 / 534094 neu eich Swyddfa Dai Ranbarthol leol yn ystod oriau swyddfa Ewch i wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk a chliciwch ar “Gwnewch e ar-leinâ€? a “Taluâ€?. Os cewch unrhyw anawsterau, ffoniwch 601720 / 534094 am gymorth Os ydych yn gwybod eich rhif cyfeirnod rhent, gallwch ffonio ein gwasanaeth awtomataidd Cymraeg 0300 456 2775 / Saesneg 0300 456 2765 ar unrhyw adeg. (Os nad ydych yn gwybod eich cyfeirnod rhent, ffoniwch 601720 / 534094) Yn y Ganolfan Ddinesig a’r Swyddfeydd Tai Rhanbarthol canlynol: Townhill, Sgeti, West Cross, Blaen-y-maes, Penlan, Canol y Ddinas, Treforys, Eastside (Gorseinon - taliadau â cherdyn yn unig) Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, caiff eich Costau Tai eu talu i chi’n uniongyrchol gan yr AGPh. Ffoniwch yr AGPh ar 0345 600 0723 os nad ydych wedi derbyn eich costau tai

22 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019


Gwasanaethau cefnogi Budd-dal Tai

I gywyno cais newydd am Fudd-dal Tai, ffoniwch y TĂŽm Hawlio ar 635353 neu e-bostiwch caisnewyddamfudd-daliadau@abertawe.gov.uk Er mwyn trafod eich hawliad â Swyddog Budd-dal Tai, ffoniwch 635353 neu e-bostiwch budd-daliadau@abertawe.gov.uk

Swyddog Cynhwysiad Ariannol

Os ydych yn cael anhawster gyda thalu eich rhent, ffoniwch Lesley Jenkins ar 01792 534064 E-bost rhenti@abertawe.gov.uk

UCT - Uned Cefnogi Tenantiaid

Dinas a Sir Abertawe sy’n rheoli’r UCT, a all gynnig gweithiwr cefnogi i helpu gyda phroblemau ariannol neu unrhyw faterion cefnogi eraill gyda’ch tenantiaeth. Ffoniwch eich Swyddog Rhent neu’r Uned Cefnogi Tenantiaid ar 774360 os teimlwch fod angen cefnogaeth arnoch

Opsiynau Tai

Cyngor ar arian a dyledion - hefyd, rhoddir cyngor am ddim os yw’ch tenantiaeth mewn perygl. Galwch heibio i 17 Y Stryd Fawr, Abertawe SA1 1LF 01792 533100 opsiynautai@abertawe.gov.uk Cyngor ar Bopeth Abertawe Ail Lawr, City Gates, 50a Stryd y Gwynt, Abertawe SA1 1EE 0300 3309 082 www.adviceguide.org.uk/wales.htm Os ydych wedi’ch bygwth â digartrefedd, cynigir cyngor a chymorth i chi am ddim 01792 469400 Llinell Gymorth Cyngor ar Dai 0845 800 4444 www.sheltercymru.org.uk/?lang=cy Cyngor ar ddyledion gan Stepchange 0800 138 1111 www.stepchange.org Yn Awyddus i Weithio - Gweithffyrdd - Os hoffech gael cyngor ar sut i ddod o hyd i swydd, ffoniwch RhadffĂ´n 0800 328 6370 neu 01792 637112. www.workways.co.uk TyĚ‚ Agored: Rhifyn 1 2019 23


Peidiwch â chael eich twyllo Gall twyllwyr eich dal mewn nifer o ffyrdd trwy e-bost, dros y ffôn, trwy’r post neu ar-lein. Maent yn ymddangos yn ddilys ac yn aml yn honni eu bod yn rhywun o’ch banc, eich darparwr ffôn, CThEM neu hyd yn oed yr heddlu. Mae nifer o breswylwyr Abertawe wedi adrodd eu bod wedi dioddef wrth i dwyllwyr gysylltu â hwy dros y ffôn, gan honni eu bod yn cynrychioli Talk Talk. Maent yn dweud wrth y bobl eu bod mewn dyled neu fod problem gyda’u rhyngrwyd a bod rhaid talu i ddatrys hyn. Mae twyll ffôn arall yn ymwneud â CThEM pan gaiff y preswylwyr alwad i’w hysbysu eu bod nhw mewn dyled ac mae’n rhaid talu’r arian o fewn 24 awr neu bydd gwarant i’w harestio yn cael ei chyflwyno. Yna bydd y twyllwr yn gofyn am fanylion cerdyn credyd er mwyn talu, neu gofynnir i chi brynu cardiau iTunes ac e-bostio’r côd.

Ceir llawer o fathau eraill o weithredoedd twyllodrus. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys: • Gweithredoedd twyllodrus sy’n ymwneud â loteri neu gystadleuaeth - byddwch yn clywed eich bod wedi ennill swm mawr o arian drwy loteri neu mewn cystadleuaeth nad oeddech yn rhan ohoni. I hawlio’r arian, rhaid i ddioddefwyr anfon ffi er mwyn ei ryddhau. • Gweithredoedd twyllodrus cariad/rhamant targedir pobl sy’n defnyddio gwefannau canfod cariad gan dwyllwyr sy’n creu proffiliau ffug ac yn camarwain y dioddefwr trwy feithrin perthynas ar-lein. Mae dioddefwyr yn aml yn cael eu perswadio i roi arian i helpu eu ‘partner’ ar-lein. • Gweithredoedd twyllodrus catalogau - anogir dioddefwyr i brynu cynnyrch sy’n addo ‘gwyrthiau gwella’ am brisiau sy’n fargen. Ond nid yw’r nwyddau hyn yn werthfawr iawn, ac nid ydynt

24 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

yn rhoi’r canlyniadau maent yn eu haddo. Efallai na fydd y cynnyrch yn eich cyrraedd hyd yn oed! • Twyll buddsoddiad - Mae hwn yn cynnwys galwyr diwahoddiad yn ffonio cwsmeriaid i gynnig cynnyrch megis gwin, diemwntau a thir fel cyfle buddsoddi. Yn aml, nid yw’r cynnyrch yn bodoli ac, hyd yn oed os yw, ni fydd yr arian sy’n cael ei addo’n eich cyrraedd.

Sut i osgoi gweithredoedd twyllodrus • Peidiwch â rhannu eich PIN ag unrhyw un • Peidiwch â rhoi manylion banc na manylion personol i rywun nad ydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo • Peidiwch ag ateb unrhyw negeseuon testun digymell • Gwiriwch gyfeiriadau e-bost gwefannau’n ofalus. Gall gweithredwyr twyllodrus ddefnyddio gwefannau annilys a chanddynt gyfeiriadau tebyg i rai dilys • Ni fydd loterïau go iawn yn gofyn i chi dalu ffi i gasglu eich enillion • Gosodwch feddalwedd wrthfirysau ar eich cyfrifiadur ac ar eich ffôn clyfar os ydych yn ei ddefnyddio fel cyfrifiadur • Peidiwch ag ymateb i bobl sy’n ffonio i geisio gwerthu buddsoddiadau i chi. Rhowch y ffôn i lawr. Ni fydd cwmnïau buddsoddi dilys byth yn ffonio’n ddiwahoddiad. • Peidiwch ag anfon arian dramor neu at rywun nad ydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.


• DilĂŤwch bob neges e-bost heb ei darllen os daw gan rywun nad ydych yn ei adnabod. Os ydych yn agor neges drwy gamgymeriad ac mae ganddi atodiad, peidiwch ag agor yr atodiad hwnnw. Gall fod yn ďŹ rws.

Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod! Nid oes unrhyw ffyrdd sy’n sicr o gynnig arian cyym i chi. Mae gan fanciau systemau diogelu ar waith ac mae’n debygol bydd banc yn gofyn cwestiynau

os ydych yn trosglwyddo swm mawr o arian i gyfrif banc tramor. Mae twyllwyr yn gwybod hyn a byddant yn gofyn i chi ddweud celwydd wrth y banc a rhoi esgus pam yr ydych yn anfon yr arian.

Lle i gael cyngor ar weithredoedd twyllodrus Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr: Siaradwyr Cymraeg 03454 040505 Siaradwyr Saesneg 03454 040506 Safonau Masnach Abertawe 01792 635600 Safonau.Masnach@abertawe.gov.uk

Taclo’r Tacle yn gofyn i breswylwyr Abertawe siarad yn ddienw Mae’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn cynnal ymgyrch yn Abertawe i gynyddu ymwybyddiaeth o weithgarwch troseddol o’r enw County Lines. County Lines yw pan fydd troseddwyr o ddinasoedd mawr fel Lerpwl, Llundain a Birmingham yn ehangu’u rhwydweithiau delio cyffuriau i ardaloedd eraill yn y wlad. Mae’r gweithgaredd hwn yn dod â thrais, ecsbloetiaeth a cham-driniaeth i gymunedau. Mae Taclo’r Tacle eisiau lleihau effaith rhwydweithiau County Lines yn Abertawe. Caiff plant ac oedolion diamddiffyn eu recriwtio er mwyn cludo arian a cyffuriau ar draws y wlad. Mae hyn yn golygu bod y gwir droseddwyr ymhell o’r weithred ac yn llai tebygol o gael eu dal. Mae’r gangiau’n dueddol o sefydlu sylfaen gyffuriau am gyfnod byr, gan feddiannu cartref person diamddiffyn (gelwir hyn yn ‘cuckooing’). Yna, defnyddir oedolion a phlant i weithio fel cludwyr cyffuriau.

Meddai Ella Rabaiotti, Rheolwr Cymru dros Daclo’r Tacle, “Mae angen cymorth y cyhoedd arnom i darfu ar y rhwydweithiau troseddwyr hyn ac i atal y tristwch maent yn ei achosi i’r dioddefwyr. Bydd rhoi gwybod am unrhyw weithgareddau amheus yn gallu diogelu nifer o unigolion sydd wedi’u gorfodi i mewn i’r rhwydweithiau hyn. Mae’n helusen yn sicrhau bod pawb sy’n cysylltu â ni yn aros yn anhysbys. Bob amser. Cadwyd yr addewid hwn am dros 30 o ynyddoedd. Ni fydd unrhyw un yn gwybod eich bod chi wedi cysylltu â ni, ac efallai bydd eich gwybodaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr. Felly, siaradwch am yr hyn rydych chi’n ei wybod.â€?

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am rwydweithiau cyffuriau County Lines, gallwch gysylltu â ni yn hollol anhysbys ar 0800 555 111 neu trwy ein ffuren anhysbys ar-lein yn crimestoppers-uk.org.

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019 25


Anwedd a llwydni yn eich cartref Beth yw anwedd? Mae lleithder yn yr aer drwy’r amser, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Ceir lleithder pan fo aer llaith, cynnes yn cyrraedd arwynebau oer, sy’n peri i’r aer gyddwyso a ffurďŹ o diferion o ddwĚ‚r, gan arwain yn aml at ddarnau o lwydni du. Mae gweld anwedd ar ffenestri yn y bore’n rhywbeth cyfarwydd i lawer o bobl, yn enwedig yn ystod y gaeaf. Fel arfer, dyma arwydd cyntaf problem anwedd. Os ceir anwedd dros gyfnod hir, bydd arwyddion eraill yn dechrau ymddangos megis darnau llaith ar waliau, papur wal yn pilio ac yn y pen draw dwf llwydni du.

Sut byddwch yn gwybod a oes anwedd yn eich cartref? Os oes anwedd yn eich cartref, byddwch yn dechrau gweld arwyddion ohono’n gyym iawn sy’n cynnwys: • Ffenestri’n stemio • Waliau gwlyb • Mannau llaith ar waliau

• Defnyddiwch y swm lleiaf o ddwĚ‚r y mae ei angen ar gyfer coginio llysiau. • Wrth lenwi’r bath, trowch y dwĚ‚r oer ymlaen yn gyntaf, yna ychwanegwch y dwĚ‚r poeth – bydd yn lleihau’r stĂŞm sy’n arwain at anwedd hyd at 90%. • Peidiwch byth â sychu’r golch ar reiddiaduron. • Sychwch y golch yn yr awyr agored os oes modd, neu rhowch ef yn yr ystafell ymolchi gyda’r drws ar gau a’r ffenestr ar agor neu’r ffan echdynnu ymlaen. • Gadewch dyllau awyr ffenestri ar agor drwy’r wyddyn. • Os ydych chi’n defnyddio sychdawr, gwnewch yn siwĚ‚r ei fod yn cael ei wagio y tu allan i’ch eiddo (mae pecynnau DIY ar gael ar gyfer hyn) neu fod y sychdawr yn un o’r rhai newydd sy’n cyddwyso.

Trin llwydni Os ydych yn sylwi ar lwydni’n yn tyfu yn eich cartref, dylech ei drin ar unwaith er mwyn ei atal rhag lledaenu ac achosi mwy o ddifrod. PEIDIWCH â defnyddio cannydd i drin y llwydni.

• Aroglau llwydni ar ddillad mewn wardrobau

Ewch ati i sterileiddio’r man yr effeithir arno gyda golchiad ffyngladdol (ar gael o’r rhan fwyaf o siopau DIY). Sicrhewch eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

Os gadewir anwedd i ddatblygu’n llwydni, gall arwain at eiddo diolwg, llwydaidd. Gall hefyd waethygu neu achosi problemau iechyd megis asthma a chyyrau ehangach.

Archwiliwch y man yr effeithir arno am wythnos ac, os oes angen, ewch ati i’w drin eto. Bydd defnyddio paent sy’n trin llwydni’n helpu i atal y llwydni rhag dychwelyd.

• Papur wal yn pilio • Arwyddion o dwf llwydni

Lleihau anwedd Mae’n bosib lleihau swm yr anwedd yn eich cartref drwy ddefnyddio llai o ddŵr. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol – • Coginiwch gyda chaeadau ar sosbenni bob amser a throwch y gwres i lawr pan fydd y dŵr wedi berwi.

26 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

Os byddwch yn parhau i gael problemau gyda llwydni ac anwedd yn eich eiddo, ffoniwch y Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai ar 01792 635100 neu ewch ar-lein www. abertawe.gov.uk/caisamwellacartref


Cymorth i Gynilo Cewch gymorth gyda chynilo arian os ydych ar incwm isel Mae cynilion yn gallu eich helpu chi a’ch teulu i baratoi a chynllunio am y dyfodol. Mae Cymorth i Gynilo yn gynllun cynilo newydd ar gyfer pobl ar incwm isel sydd yn hawlio budd-daliadau penodol. Trwy’r cynllun gallwch roi hyd at £50 y mis i gadw am hyd at 4 blynedd. Ar ôl 2 ynedd cewch fonws 50%, yn seiliedig ar y balans mwyaf yr ydych wedi ei gynilo yn ystod y cyfnod hwnnw. Telir y bonws i’ch cyfrif banc, nid eich cyfrif Cymorth i Gynilo. Cefnogir Cymorth i Gynilo gan y llywodraeth felly mae holl gynilion y cynllun yn ddiogel. Am fwy o wybodaeth am gymhwysedd a manylion ar sut i ymgeisio, dilynwch y ddolen ar wefan y Llywodraeth www.gov.uk/get-help-savings-low-income

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019 27


Recycling and waste collections 2019 Which calendar should I use?

Casgliadau ailgylchu a gwastraff 2019 Pa galendr ddylwn i ei ddefnyddio?

Check the number in the top right corner of your 2018 calendar and replace it with the same numbered calendar from the opposite page.

What if I don’t have a calendar to check?

Gwiriwch y rhif yng nghornel dde uchaf calendar 2018 a’i newid gyda’r calendr â’r un rhif o’r dudalen gyferbyn.

Beth os nad oes gen i galendr i’w wirio?

• Use our online collection search at: www.swansea.gov.uk/recyclingsearch

• Defnyddiwch ein cyfleuster chwilio ar-lein yn: www.abertawe.gov.uk/chwiliocasgliadau

• Contact us to find out: recycling@swansea.gov.uk 01792 635600

• Cysylltwch â ni i gael gwybod: ailgylchu.ucc@abertawe.gov.uk 01792 635600

Follow us

Dilynwch ni

For helpful advice and information on recycling and waste in Swansea follow us at: @recycle4swansea www.facebook.com/recycleforswansea

Ar gyfer cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch ailgylchu a gwastraff yn Abertawe, dilynwch ni yn: @ailgylchutawe www.facebook.com/ailgylchutawe

Quality second hand goods available for bargain prices! EĞǁ ƐƚŽĐŬ ĚĂŝůLJ͘ tŚĂƚ ǁŝůů LJŽƵ ĮŶĚ͍ • • • •

TVs & Hi-Fis Electrical appliances Furniture Home accessories

• • • •

DVD’s, CD’s & Vinyl Garden & Outdoor Sports Equipment Much, Much More!

www.swansea.gov.uk/reuseshop

Open 7 days: 9:30 - 16:30 Llansamlet Recycling Centre, Ferryboat Close, Swansea Enterprise Park Ar agor 7 niwrnod: 9:30 - 16:30 Canolfan Ailgylchu Llansamlet, Clôs Ferryboat, Parc Menter Abertawe

28 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

Nwyddau ail-law o safon ar gael am brisiau rhad! Stoc ŶĞǁLJĚĚ ďŽď ĚLJĚĚ͘ ĞƚŚ ĨLJĚĚǁĐŚ ĐŚŝ͛Ŷ Ğŝ ĚĚĂƌŐĂŶĨŽĚ͍ • • • •

^ĞƟĂƵ dĞůĞĚƵ Ă ,ŝͲ&ŝƐ Nwyddau Trydanol Dodrefn Nwyddau Cartref

• • • •

DVDs, CDs a Finyl Yr Ardd a’r Tu Allan KīĞƌ ŚǁĂƌĂĞŽŶ Llawer, Llawer Mwy!

www.abertawe.gov.uk/siopailddefnyddio


Make sure you select the correctly numbered calendar! (See opposite page)

Sicrhewch eich bod yn dewis y calendr â’r rhif cywir! (Gweler y dudalen gyferbyn)

Recycling and waste collections 2019 Casgliadau ailgylchu a gwastraff 2019

Paper & Card Papur a Cherdyn

Glass & Cans Gwydr a Chaniau

Food Waste Gwastraff Bwyd

Recycling and waste collections 2019 Casgliadau ailgylchu a gwastraff 2019

1

Garden Waste Gwastraff Gardd

Paper & Card Papur a Cherdyn

Glass & Cans Gwydr a Chaniau

Food Waste Gwastraff Bwyd

2

Garden Waste Gwastraff Gardd

GREEN WEEK / WYTHNOS WERDD

GREEN WEEK / WYTHNOS WERDD

3

3

Plastic Plastig

Food Waste Gwastraff Bwyd

Non-recyclables Gwastraff arall

Plastic Plastig

PINK WEEK / WYTHNOS BINC

Food Waste Gwastraff Bwyd

Non-recyclables Gwastraff arall

PINK WEEK / WYTHNOS BINC

January Ionawr

February Chwefror

March Mawrth

January Ionawr

February Chwefror

March Mawrth

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

1 2 3 7 8 9 10 14 15 16 17 21 22 23 24 28

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

1 2 3 7 8 9 10 14 15 16 17 21 22 23 24 28

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24

April Ebrill

May Mai

June Mehefin

April Ebrill

May Mai

June Mehefin

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

1 8 15 22 29

6 13 20 27

1 8 15 22 29

6 13 20 27

2 9 16 23 30

3 10 17 24

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

3 10 17 24

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

2 9 16 23 30

3 10 17 24

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

3 10 17 24

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

July Gorffennaf

August Awst

September Medi

July Gorffennaf

August Awst

September Medi

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

1 8 15 22 29

5 12 19 26

2 9 16 23 30

1 8 15 22 29

5 12 19 26

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

6 13 20 27

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

3 10 17 24

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

6 13 20 27

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

2 9 16 23 30

3 10 17 24

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

8 15 22 29

October Hydref

November Tachwedd

December Rhagfyr

October Hydref

November Tachwedd

December Rhagfyr

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S

2 9 16 23 30

7 14 21 28

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

8 15 22 29

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

1 8 15 22 29

2 9 16 23 30

3 10 17 24

2 9 16 23 30

3 10 17 24 31

4 11 18 25

5 12 19 26

6 13 20 27

7 14 21 28

8 15 22 29

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019 29


Casgliadau Ailgylchu a

Papur a cherdyn gyda’i gilydd SACHAU AR WAHÂN

Wythnos Werdd

Metel, gwydr a ffoil gyda’i gilydd Dylech wacáu a gwastadu blychau cardbord rhychiog a’u gosod o dan eich sachau gwyrdd

Gwastraff gardd

Poteli plastig, potiau, tybiau a hambyrddau

Wythnos Binc

3 Bob Wythnos

30 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

Gwastraff na ellir ei ailgylchu’n unig

Gwastraff bwyd


Sachau Du Ymyl y Ffordd 31

Rhowch hyn ar eich oergell neu’ch hysbysfwrdd!

I ddod o hyd i’ch diwrnod casglu ac i lawrlwytho calendr ailgylchu ar gyfer eich cyfeiriad, ewch i www.abertawe.gov.uk/chwilioailgylchu

Rhowch y sachau a’r biniau allan ar ôl 7pm y noson cyn diwrnod y casgliad a chyn 7am ar fore’r casgliad.

Gallwch gael mwy o sachau ailgylchu a biniau bwyd o llyfrgelloedd a swyddfeydd tai. Am restr lawn o leoliadau, ewch i www.abertawe.gov.uk/mwyosachau

3

Cadwch at 3! Mae hawl gan bob aelwyd i roi uchafswm o 3 sach ddu i’w casglu bob pythefnos. Ailgylchwch bopeth y gallwch i leihau eich gwastraff sachau du. Os oes sticer ar eich sach ac os bydd y criw casglu’n ei gadael, rydych chi wedi gwneud camgymeriad. Symudwch y sach o ymyl y ffordd a dilynwch yr arweiniad ar y sticer. Gall peidio â gwneud hyn arwain at hysbysiad o gosb benodol o £100. Gall eitemau eraill gael eu hailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu. Am restr lawn o leoliadau ac eitemau a dderbynnir, ewch i www.abertawe.gov.uk/canolfannauailgylchu Mae’r cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu y telir amdano ar gyfer eitemau cartref ‘swmpus’ megis dodrefn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.abertawe.gov.uk/gwastraffswmpus www.abertawe.gov.uk/ailgylchu evh@abertawe.gov.uk 01792 635600

Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019 31


Cyfeiriadur Dinas Iach Adnodd iechyd a lles cymunedol Abertawe Mae Cyfeiriadur Dinas Iach Abertawe’n adnodd ar-lein er mwyn i chi chwilio am amrywiaeth eang o sefydliadau a grwpiau sy’n gallu cefnogi iechyd a lles. Mae gan y Cyfeiriadur Dinas Iach un o’r rhestrau mwyaf cynhwysfawr yn Abertawe ar gyfer grwpiau, clybiau a sefydliadau sy’n gallu cynnig cefnogaeth, addysg ac anogaeth i chi deimlo’n iach ac yn dda. Defnyddiwch y chwiliad i ganfod gwybodaeth am ystod o sefydliadau cefnogi lleol a chenedlaethol.

www.healthycitydirectory.co.uk

Allwn ni eich helpu? Oes anhawster gennych yn darllen print mân neu efallai eich bod yn teimlo eich bod yn boddi dan swm yr wybodaeth rydych yn ei gweld ar lythyrau, taflenni a ffurflenni cais? Os mai dyma yw’r achos, gallwn ddarparu gwybodaeth i chi mewn ffyrdd eraill. Gallwn anfon gwybodaeth atoch mewn print bras, Braille neu ar gryno ddisg neu dâp. Os ydych yn siaradwr Cymraeg neu’n dysgu Cymraeg, gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth i chi yn Gymraeg. I dderbyn gwybodaeth mewn fformat arall, rhowch wybod i’r staff yn eich Swyddfa Ranbarthol neu cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy ffonio 01792 635045 neu e-bostio tai@abertawe.gov.uk Os oes angen help arnoch i gwblhau ffurflen rydym wedi’i rhoi i chi, gofynnwch i’r staff yn eich Swyddfa Ranbarthol am gymorth. Mae ystafell gyfweld breifat ar gael os nad ydych yn dymuno gwneud hyn yn y dderbynfa. Mae gan ein

32 Tŷ Agored: Rhifyn 1 2019

holl Swyddfeydd Tai Rhanbarthol systemau dolen glyw, chwyddwydrau llaw, arweiniadau llofnod, pinnau gafael mawr a chymhorthion eraill sydd ar gael i’w defnyddio wrth y ddesg yn y dderbynfa neu yn yr ystafell gyfweld. Mae’n bwysig i ni eich bod yn gallu cael mynediad at yr holl wasanaethau sydd ar gael i chi gan y Gwasanaeth Tai; felly os hoffech i ni wneud pethau’n wahanol i chi, gofynnwch a byddwn yn hapus i wneud hynny.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.