Gwledd y Gaeaf ar y Glannau

Page 1

19 Tachwedd 2010 — 09 Ionawr 2011 Parc yr Amgueddfa, Abertawe www.nadoligaber tawe.com


Bydd llwyth o hwyl y Nadolig o 19 Tachwedd tan 9 Ionawr, pan fydd Parc yr Amgueddfa, yng ngerddi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, unwaith eto’n cael ei droi’n Wledd y Gaeaf ar y Glannau. Mwynhewch sglefrio iâ ar Lyn Iâ Admiral a Chylch Iâ Cochyn y Ceiliog Diogelwch Ffyrdd i blant; ymwelwch â Groto Siôn Corn, a noddir yn garedig gan Beefeater Glannau Abertawe, ewch i weld y ffair bleser i deuluoedd, cewch flas ar fwyd danteithiol ac wrth gwrs, byddwch yn ddewr ac ewch ar Olwyn Fawr Miles Hire. Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yw’r lle perffaith i ddathlu’r Nadolig.

Oriau Agor Dydd Sadwrn a dydd Sul Dydd Llun i ddydd Gwener (tan 17 Rhagfyr ac ar ôl 2 Ion) Dydd Llun i ddydd Gwener (o 20 Rhagfyr – 31 Rhag) Noswyl Nadolig Dydd Nadolig ^ yl San Steffan Gw Nos Galan

02

10:00am – 10:00 pm 12 ganol dydd – 10:00 pm 10:00am – 10:00pm 10:00am – 7:00 pm Ar gau 12 ganol dydd – 7:00pm 10:00am – 7:00 pm

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau 2010


Sglefrio Iâ Does dim ffordd well o fwynhau diwrnod neu noson yn y gaeaf nag ar lyn iâ awyr agored Admiral ac mae Cylch Cochyn i blant, yr unig un o’i fath yng Nghymru, yn ôl am flwyddyn arall. Cyfyngiadau taldra’n gymwys, felly mesurwch eich hunan yn erbyn model Cochyn y Ceiliog Diogelwch Ffyrdd cyn sglefrio. Mae prisiau’n dechrau o £5 y sesiwn. Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Gwybodaeth am Sglefrio a Chadw Lle 01792 637300

www.gwleddygaeafaryglannau.com

Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw, yn bersonol yng Nghanolfan Croeso Abertawe, Stryd Plymouth, Abertawe neu wrth lyn iâ Admiral o 19 Tachwedd. Argymhellir cadw lle’n gynnar ar gyfer y llyn a’r cylch er mwyn osgoi cael eich siomi. Yr amser olaf i ddechrau sglefrio ar y llyn a’r cylch yw awr cyn iddynt gau. Waterfront Winterland 2010

03


Groto Siôn Corn Ni fyddai Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’n gyflawn heb atyniad traddodiadol Groto Siôn Corn. Coblynnod Siôn Corn fydd yn cyfarch y rhai bach cyn iddynt gwrdd â Siôn Corn ei hun. Bydd yr holl ymwelwyr â’r groto’n derbyn anrheg Nadolig. Hefyd, bydd cyfle i gael llun gyda Siôn Corn. Rhowch eich llythyr Nadolig yn un o flychau post Swyddfa’r Post erbyn 18 Rhagfyr a bydd Siôn Corn ei hun yn ei ateb.

Prisiau £3.50 y plentyn £5.00 y plentyn

i weld Siôn Corn i weld Siôn Corn a chael llun

Oriau Agor 21 Tachwedd – 23 Rhagfyr Dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener 3:30pm – 7:00pm Dydd Sadwrn a dydd Sul

04

11:00am – 7:00pm

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau 2010


Hwyl y Nadolig

Bwyd a diod

Fel rhan o brofiad Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, gallwch fwynhau ein ffair bleser draddodiadol, gydag atyniadau gwych i bawb. Seren y sioe yw Olwyn Fawr Miles Hire y gellir ei gweld yn amlwg yn awyr y ddinas. Mae’n un o’r olwynion teithiol mwyaf yn y DU, felly ewch am drip 44m o uchder a mwynhewch y golygfeydd panoramig gwych dros Fae Abertawe. Mae rhai ffefrynnau’n dychwelyd gyda reid y Storm Eira neu gallwch farchogaeth ar y carwsél traddodiadol. Ein reid newydd ar gyfer 2010 yw Llygoden Loerig, sy’n mynd â’r teithwyr ar antur droellog fach.

Mae’r Nadolig bob amser yn gysylltiedig â bwyd a diod blasus ac mae gan Wledd y Gaeaf ar y Glannau amrywiaeth o stondinau i ddigoni’ch chwaeth.

Tripiau Ysgol ac ^ Ymweliadau Grw p Mae gennym becynnau arbennig ar gyfer tripiau ysgol ac ^ p. Os nad ydych ymweliadau grw wedi trefnu’ch un chi eto, ffoniwch 01792 635428 neu ewch i; www.nadoligabertawe.com

Adloniant a Nosweithiau Thema Bydd rhaglen o adloniant a nosweithiau thema hefyd ar gael yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau. Ewch i’r wefan am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Waterfront Winterland 2010

05


Siopa’r Nadolig Gyda dewis o dros 230 o siopau, gan gynnwys H&M a Disney, bydd siopwyr y Nadolig wrth eu boddau gyda’r amrywiaeth o frandiau a siopau annibynnol unigryw’r stryd fawr. Ewch i’r wefan am amseroedd agor y siopau.

Marchnad Dan Do Abertawe A hithau’n siop dan yr unto, marchnad dan do fwyaf Cymru yw’r lle i fod ar gyfer eich holl nwyddau Nadolig.

Gwasanaeth Lapio a Phacio am Ddim Diolch i fasnachwyr canol dinas Abertawe, bydd Helpwyr Nadolig BID Abertawe ar gael i bacio a lapio’ch holl anrhegion gwerthfawr bob dydd Sadwrn o 20 Tachwedd yn Sgwâr y Santes Fair.

Hamdden Gyda thros 90 o leoedd i fwyta ac yfed, cymerwch bleser dros y Nadolig mewn un o’n lleoedd bwyta niferus. Mae atyniadau megis Theatr y Grand, Abertawe, Plantasia, Amgueddfa Abertawe, LC ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac enwi ychydig yn unig, yn cynnal digonedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau ac mae diwylliant clybiau a thafarnau lliwgar Abertawe’n deffro ar ôl iddi nosi. 06

NADOLIG Abertawe


Ymwelwch â chanol dinas Abertawe am wledd o siopa a hwyl y Nadolig, gan gynnwys agor gorsaf fysus newydd Dinas Abertawe ar 6 Rhagfyr.

Digwyddiadau’r Nadolig Dyma rai o uchafbwyntiau’r Nadolig 13 a 14 Tach

Gweithdy Argraffu Cardiau Nadolig Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

20 Tach

Parti Lansio’r Nadolig Lleoliadau Amrywiol yng Nghanol y Ddinas, 10:00am - 4:00pm

21 Tach

Gorymdaith a Chynnau Goleuadau’r Nadolig o 5:00pm

22 Tach

The Christmas Crooners Theatr y Grand, Abertawe

26 Tach - 19 Rhag

Marchnad / Adloniant y Nadolig Stryd Rhydychen a Ffordd y Dywysoges

27 ac 28 Tach

Ffair Werdd y Nadolig Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

3 a 4 Rhag

24ain Flwyddyn Bumbles of Mumbles Theatr y Grand, Abertawe

11 a 12 Rhag

Adeiladu Mawr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

15 Rhag - 16 Ion

Pantomeim Snow White and the Seven Dwarfs Theatr y Grand, Abertawe

27 - 31 Rhag ac 2 Ion

Disgleiria Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Swansea CHRISTMAS

07


Cludiant Cyhoeddus

Meysydd Parcio

Bydd Gorsaf Fysus newydd a chyfoes Dinas Abertawe’n ailagor i’r cyhoedd ar 6 Rhagfyr. Yn y cyfamser, bydd gwasanaethau’n parhau i weithredu o gyfres o safleoedd bws dros dro trwy ganol y ddinas. I gael manylion a’r wybodaeth ddiweddaraf am fysus, ewch i; www.swanseacitycentre.com/ busstation I gael yr holl wybodaeth am deithio, ewch i; www.traveline-cymru.info

I ymweld â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, a’r siopau a’r cyfleusterau yng nghanol y ddinas, rydym yn argymell meysydd parcio talu ac arddangos y cyngor, lle mae modd parcio am ddim bob dydd Sul. Mae BID Abertawe bellach yn cynnig yr awr gyntaf am ddim ym mhob maes parcio NCP yng nghanol y ddinas.

Parcio a Theithio Osgowch draffig y Nadolig gyda gwasanaethau Parcio a Theithio arobryn Abertawe yng Nglandwr, Fforestfach a Ffordd Fabian. Mae’n costio dim ond £2.20 i barcio trwy’r dydd ac i hyd at 4 person deithio ar fysus trwy’r dydd a bydd y cyfleusterau ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 21 Tach a 24 Rhag. I gael yr holl wybodaeth am yr amserlenni a manylion eraill, ewch i; www.abertawe.gov.uk/ parkandride

www.nadoligabertawe.com

Shopmobility Mae Canolfan Shopmobility Abertawe, yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, mewn lleoliad perffaith i unrhyw un sydd â phroblemau symudedd. Gallwch hurio sgwteri trydan neu gadeiriau olwyn trydan neu a weithredir â llaw. Am fwy o wybodaeth neu i archebu, ffoniwch 01792 461785

Gwybodaeth Os ydych am dderbyn diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill yn Abertawe, tanysgrifiwch ar; www.fyabertawe.info Os oes angen y llyfryn hwn arnoch mewn fformat gwahanol, ffoniwch y Gwasanaethau Marchnata ar 01792 635478. Roedd yr holl fanylion yn gywir adeg argraffu. Ewch ar y wefan am y newyddion diweddaraf.

Design & Art Direction www.visions-creative.com

08

NADOLIG Abertawe


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.