Dylan Thomas 2014 Abertawe - Gorffennaf - Medi

Page 1


Croeso!

Rydym hanner ffordd drwy ddathliadau Dylan Thomas 2014 ac mae digon o ddigwyddiadau gwych i ddod o hyd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi. Mae amrywiaeth o deithiau tywys ar gael yn Abertawe gyda Chwmni Theatr Lighthouse, Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Theatr Fluellen. Bydd Menna Elfyn, un o feirdd enwocaf Cymru’n cynnal Gw ˆ yl Lenyddiaeth Ddwyieithog a bydd Brian Turner, y milwr-fardd, yn darllen o’i gofiant. Gellir gweld arddangosfa Nodiaduron lwyddiannus Dylan Thomas tan ddiwedd mis Awst ac mae arddangosfa Abertawe Dylan yn Amgueddfa Abertawe yn parhau tan fis Tachwedd. Gwrandewch ar gyfres Jazz Dan y Wenallt Stan Tracey yn Neuadd Bentref Reynoldston neu cymerwch ran yn Nhaith Feicio Canmlwyddiant Dylan Thomas o Dalacharn i Ganolfan Dylan Thomas.

Bydd Prifysgol Abertawe’n cynnal Dylan Dilyffethair: Cynhadledd ganmlwyddiant Dylan Thomas. Gallech hefyd fwynhau diwrnod o gerddoriaeth, cerddi, adrodd straeon, celf a theatr yng Ngw ˆ yl Green Fuse ym Mharc Cwmdoncyn. Mae rhagor o wybodaeth a manylion cadw lle ar gael yn www.dylanthomas.com.

Tocynnau: S Safonol C Consesiynau PTL Pasbort i Hamdden 100 DT

Digwyddiad a ariennir gan DT 100

Dylan Thomas 2014 supported event.


Tan ddydd Sul 31 Awst

Tan ddydd Sul 2 Tachwedd

Arddangosfa Nodiaduron Dylan Thomas Canolfan Dylan Thomas

Abertawe Dylan Amgueddfa Abertawe

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys y pedwar nodiadur cerddi a ysgrifennwyd rhwng 1930 a 1934, a’r nodiadur rhyddiaith coch sydd hefyd yn dyddio o’r cyfnod hwn. Yn ogystal, ceir deunydd ategol megis detholiadau o lythyron sy’n cyfeirio at y cerddi a’r prosesau a ddilynwyd i’w hysgrifennu, a hunanbortread mewn pensil lliw a frasluniodd Dylan ar gefn llythyr i Pamela Hansford Johnson. Mae’r eitemau wedi’u benthyg o Brifysgol Daleithiol Efrog Newydd, Buffalo. Mynediad Am Ddim (01792 463980

Dyma arddangosfa sy’n dathlu’r Abertawe a fu’n gyfarwydd i Dylan, lle cafodd ei eni a’i fagu, lle bu’n gweithio ac yn chwarae a sut y dylanwadodd hyn ar ei waith. Mae Amgueddfa Abertawe wedi gweithio gydag arbenigwr Dylan Thomas, Jeff Towns, ac mae’r arddangosfa’n cynnwys darluniau gan Wyn Thomas. Mynediad Am Ddim (01792 653763

100

Diolch i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg am y llun

3


Nos Fercher 2 Gorffennaf, 7.00pm

Casgliad Cerddi’r Brifysgol yn Buffalo - Dr Michael Basinski a Dr James Maynard Canolfan Dylan Thomas Bydd Michael Basinski, curadur Casgliad Cerddi Llyfrgelloedd y Brifysgol, Prifysgol Buffalo, Prifysgol Talaith Efrog Newydd, a James Maynard, Curadur ar y Cyd, yn trafod eu casgliad helaeth o ddeunyddiau sy’n ymwneud â Dylan Thomas a James Joyce. Tocynnau: S £4, C £2.80, PTL £1.60 (01792 463980 100

Dydd Sadwrn 5 a dydd Sul 6 Gorffennaf, dydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Awst, dydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Medi, 10:30am – 12:30pm

Teithiau Return Journey O Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i Barc Cwmdoncyn Cynhyrchiad promenâd, mewn cydweithrediad â Chanolfan Dylan Thomas, trwy strydoedd Abertawe gan ddechrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac yn dod i ben ym Mharc Cwmdoncyn. Dewch i ail-fyw taith yr awdur drwy’r Blitz yn Abertawe drwy olygfeydd a seiniau’r ddinas. Mae’r perfformiad yn defnyddio perfformwyr lleol ac yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol am Abertawe yn ystod ieuenctid Dylan. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn pecyn gwybodaeth gyda detholiadau o waith Dylan, hanes a mapiau’r cyfnod. Tocynnau: S £9, C £7 (01792 463980

100


Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf 1pm

Dydd Sul, 6 Gorffennaf, 10am

Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno Last Things gan Peter Barnes Canolfan Dylan Thomas

Taith Feicio Canmlwyddiant Dylan Thomas Talacharn i Ganolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mae dau thesbiad oedrannus yn paratoi ar gyfer y sioe olaf gan berfformio’u drama adnabyddus “gw ˆ r a gwraig”. Comedi dywyll ond doniol dros ben gan un o ddramodwyr mwyaf gwrthryfelgar y ganrif ddiwethaf.

Dewch i fwynhau golygfeydd prydferth ar daith feicio 57 milltir rhwng dau leoliad sy’n gysylltiedig â bywyd a gwaith Dylan Thomas. Yn dechrau:- Maes Parcio’r Castell, Talacharn.

Mae holl gynyrchiadau Ffocws ar y Theatr yn gynyrchiadau sgriptmewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad.

Tocynnau: £20 (bydd unrhyw arian sydd dros ben yn mynd i Ganolfan Canser Maggies, Abertawe) 8 wheelrights.org.uk/events.htm

Tocynnau: S £5 PTL £2 (01792 463980

Diolch i Wheelrights am y llun

5


Nos Fercher 9 Gorffennaf, 7.30pm

Dydd Iau 10 Gorffennaf Mawrth 2015

Awduron yn Dychwelyd: Cynan Jones, Owen Martell a gwesteion arbennig Canolfan Dylan Thomas

Dylan’s Words: A Waterfront Literary Trail Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dewch i ymuno â ni am ddigwyddiad Abertawe yng nghyfres Awduron yn Dychwelyd y Cyngor Prydeinig, lle mae awduron sydd wedi teithio gyda’r Cyngor Prydeinig yn adrodd straeon am eu profiadau. Ar y noson, byddwn yn croesawu’r awduron arweiniol Cynan Jones ac Owen Martell i rannu eu huchafbwyntiau

Dilynwch lwybr dyfyniadau o waith Dylan Thomas wedi’u dewis gan y bardd a’r ysgolhaig sy’n arbenigo ar Dylan, Peter Thabit Jones.

Heno, rydym yn croesawu’r awduron blaenllaw Cynon Jones, Owen Martell a Fflur Dafydd i rannu eu huchafbwyntiau. Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 100 ( 01792 463980

Mynediad Am Ddim (029 2057 3600


Nos Iau 10 Gorffennaf, 7.30pm

Cyfres Jazz Dan y Wenallt Stan Tracey Neuadd Bentref Reynoldston Mae DT Jazz a Gw ˆ yl Gw ˆ yr yn cyflwyno perfformiad campwaith jazz eiconig Stan Tracey y dylanwadwyd arno gan ddrama Dylan Thomas i leisiau. Bydd actorion a cherddorion proffesiynol o dref enedigol Thomas, sef Abertawe, yn dod ynghyd ar gyfer y cyflwyniad amlgyfrwng hwn. Tocynnau: £13 – ynghyd â ffioedd cadw lle ar-lein (01792 475715

Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf dydd Sul 2 Tachwedd

‘Harmoni’ - Gwobr Wydr Ryngwladol Dylan Thomas Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi gwahodd artistiaid pensaernïol a gwydr lliw o bedwar ban byd i greu gwaith newydd a ysbrydolwyd gan y gair ‘Harmoni’. O’r detholiad o waith a ddengys yn yr amgueddfa, dewisir enillydd ar gyfer Gwobr Wydr Ryngwladol Dylan Thomas. Mynediad Am Ddim (02920 573600

7


Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf, taith lawn - 2.00 pm - 7.30 pm; Darlith yn unig - 6.00pm - 7.00pm

Dydd Sadwrn 12 tan ddydd Sul 13 Gorffennaf, 10.00am 4.30pm

Sied Ysgrifennu Dylan Canolfan Dylan Thomas

Dylan Thomas’ Swansea Uplands: the Boy and the Young Dog 5 Rhodfa Cwmdoncyn, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Uplands yw gwlad Dylan Thomas. Dewch i ymuno â Phil Carradice, bywgraffydd Dylan a Hannah Ellis, wyres Dylan ar daith gerdded o amgylch y lleoedd yr arferai fynd iddynt yn ystod ei blentyndod ac ar ddechrau ei yrfa. Mae’r diwrnod yn dod i ben yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyda’r Athro M. Wynn Thomas a Dr. Kirsti Bohata yn ystyried pam roedd cael eich magu yn Abertawe ar ddechrau’r ugeinfed ganrif wedi arwain at gynifer o ysgrifenwyr eithriadol. Tocynnau: Taith gyfan - £17; Darlith yn unig - £8 ( 02920 472266

100

I weld Sied Ysgrifennu Deithiol Tyˆ Cychod Dylan Thomas a geiriadur Dylan Thomas, ewch i Ganolfan Dylan Thomas. Bydd y replica hwn o sied ysgrifennu eiconig Dylan Thomas yn Nhalacharn y tu allan i Ganolfan Dylan Thomas, felly gallwch alw heibio ac ychwanegu eich gair eich hun at eiriadur Dylan. Mynediad Am Ddim ( 01792 463980

100


Dydd Sul 13 Gorffennaf, 10.30am – 12.30pm

Dydd Wener 18 – Sunday 20 July

Words - absurd, misheard, slurred and unheard of... until now:’ – Gweithdy gydag Emily Hinshelwood Canolfan Dylan Thomas

Penwythnos llenyddiaeth ddwyieithog wedi’i guradu gan Menna Elfyn Canolfan Dylan Thomas Mae’r digwyddiadau’n cynnwys taith o amgylch tafarndai Dylan gyda Wyn Thomas, trafodaeth ar R.S. Thomas a Dylan Thomas gyda Daniel Williams ac M. Wynn Thomas, T. James Jones yn sgwrsio am Dan Y Wenallt, ei gyfieithiad o Under Milk Wood, a lansiad Haven From Hitler gan Heini Gruffudd. Bydd dathliad o fywyd a gwaith Nigel Jenkins hefyd.

Ddwy flynedd cyn ei farwolaeth, dywedodd Dylan Thomas ei fod wedi “cwympo mewn cariad â geiriau.” Y rheiny oedd y “pethau pwysicaf i mi...erioed.” I anrhydeddu ei gariad at eiriau, rydym yn llunio geiriadur i Dylan. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn chwarae gyda geiriau, yn creu geiriau newydd ac yn ysgrifennu rhyddiaith neu gerddi gyda nhw. Dyma gyfle i chi ddyfeisio Mwy o wybodaeth a thocynnau: eich gair perffaith a’i weld yn cael ei www.dylanthomas.com gyhoeddi mewn geiriadur i Dylan. 100 ( 01792 463980 Tocynnau: S £5 C £3.50 PTL £1.50 100 ( 01792 463980

9


Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf, taith lawn - 5.00 pm - 9.30 pm; sgwrs a dangosiad yn unig: 7.30pm - 9.30pm

Dydd Sul 20 Gorffennaf, dydd Sul 27 Gorffennaf, dydd Sul 10 Awst, dydd Sul 17 Awst, dydd Sul 24 Awst, dydd Sul 31 Awst, dydd Sul 14 Medi, 10.30am – 12.30pm

Hollywood Abertawe Dylan Thomas: y Mymi a’r Hen Dyˆ Tywyll Theatr Palace i Theatr y Grand Abertawe

Taith Dywys Abertawe Dylan Canolfan Dylan Thomas

Roedd Dylan wedi gwylio sawl ffilm yn sinemâu Abertawe ac mae’r daith hon yn ymweld â thair ohonynt gyda thaith gerdded mewn ardal gyfrinachol mewn pedwaredd; y Carlton. Bydd y digwyddiad yn cynnwys yr awdur a’r sgriptiwr Andrew Davies, yr arbenigwr a chadeirydd Cymdeithas Dylan Thomas Jeff Towns, a threfnydd yr w ˆ yl, yr arbenigwr ffilmiau a’r cynhyrchydd Berwyn Rowlands. Uchafbwynt y digwyddiad fydd dangosiad â chyflwyniad o ddrama newydd Andrew Davies ‘A Poet in New York’, gyda sesiwn holi ac ateb ar ei ôl yn Theatr y Grand.

Bydd Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno taith dywys fywiog a difyr sy’n seiliedig ar berfformiad o gwmpas canol Abertawe Dylan. Bydd yn dechrau o Ganolfan Dylan Thomas ac yn cynnwys Sgwâr Dylan Thomas, The Three Lamps, safle’r Kardomah, Sgwâr y Castell ac yn gorffen yn y No Sign Wine Bar Tocynnau: S £10 C £8 PTL £4 (01792 463980 100

Tocynnau: Taith lawn - £17, sgwrs a dangosiad yn unig - £8 (02920 472266

100


Nos Iau 31 Gorffennaf, 7.30pm

Dydd Sadwrn, 2 Awst, 1pm

Beirdd yng Nghanolfan Dylan Ffocws ar y Theatr - Cwmni Thomas gyda Sue Moules Theatr Fluellen yn cyflwyno Canolfan Dylan Thomas Trifles gan Susan Glaspell. Canolfan Dylan Thomas Mae gwaith Sue Moules wedi’i gyhoeddi’n faith mewn cylchgronau llenyddol. Mae ei gwaith hefyd wedi ymddangos mewn sawl blodeugerdd, gan gynnwys Poetry Wales 25 Years (Seren),The Ground Beneath Her Feet (Cinnamon),The Voice of Women in Wales (Wales Women’s Coalition). Hi oedd bardd y mis Honno Press ym mis Gorffennaf 2012 a hi fydd bardd y mis Honno Press ym mis Gorffennaf 2014. Mae wedi cyhoeddi tri chasgliad - In The Green Seascape (Lapwing), The Earth Singing (Lapwing) a The Moth Box (Parthian). Mae’n aelod o’r grw ˆp perfformio cerddi Red Heron.

Caiff ffermwr ei lofruddio yn ei wely ei hun. Y person a ddrwgdybir yw ei wraig. Ymddengys yn achos hawdd ei ddatrys. Ond….. Drama wych gan ddramodydd gwych ac enillydd gwobr Pulitzer sydd yn drychinebus wedi’i esgeuluso. Mae holl gynyrchiadau Ffocws ar y Theatr yn gynyrchiadau sgriptmewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. Tocynnau; S £5 PTL £2 (01792 463980

Mae’r noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored. Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 (01792 463980

11


Nos Wener 15 Awst 7.30pm

Brian Turner yn darllen – My Life as a Foreign Country Canolfan Dylan Thomas Bydd Brian Turner yn darllen o’i gofiant newydd, My Life as a Foreign Country (2014) ac yn ei drafod, sy’n dychwelyd i’w brofiad rhyfel fel milwr-fardd. Ef yw awdur dau gasgliad o gerddi, Phantom Noise (2010) a Here, Bullet (2005) a enillodd wobr Beatrice Hawley 2005, “Dewis y Golygydd” y New York Times, gwobr Pen Center USA “Gorau yn y Gorllewin” 200, Gwobr y Beirdd 2007, ymysg eraill. Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 (01792 463980 100

Dydd Sadwrn 16 Awst, 10.30am - 12.30pm

Gweithdy Brian Turner – “The Soldier’s Rucksack” Canolfan Dylan Thomas Bydd y gweithdy cynhyrchiol hwn yn astudio technegau crefft cyffredin (ac anghyffredin) a ddefnyddir gan awduron llenyddiaeth ryfel. Yna byddant yn archwilio ymagweddau gwahanol i integreiddio’r technegau hyn yn ein harfer ysgrifennu ein hunain. Dewch ag offer ysgrifennu gyda chi (pin, papur, etc.) Tocynnau: S £10 C £7 PTL £3 (01792 463980 100


Nos Iau 28 Awst 7.30pm

Dydd Mercher 3 – dydd Gwener 5 Medi

Beirdd yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda John Greening Dylan Dilyffethair: Cynhadledd Canmlwyddiant Canolfan Dylan Thomas Dylan Thomas, 1914-2014 I goffáu canmlwyddiant dechrau’r Prifysgol Abertawe a Rhyfel Byd Cyntaf, bydd John Chanolfan Gelfyddydau Greening yn darllen o’i gasgliad Taliesin diweddaraf, To the War Poets (Carcanet 2013). Cyfres o lythyrau penillion a cherddi yw’r llyfr sy’n rhoi safbwynt trawiadol ar ganrif o wrthryfel. Mae’r noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored. Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 (01792 463980

Bydd beirniaid blaenllaw yn cynnal sgyrsiau ar waith a dylanwad Dylan Thomas. Bydd darlleniadau o gerddi beirdd cyfoes, drama a ysgrifennwyd gan David Britton, lansiad cyfrol newydd y Collected Poems of Dylan Thomas, ac arddangosfeydd, teithiau a darlithoedd cyhoeddus. Croeso i bawb. Tocynnau: O £8 ar gyfer digwyddiadau unigol i £300 ar gyfer pecyn preswyl llawn. (01792 295665

13


Dydd Sadwrn 6 Medi, 11.00 - 5.30am

Dydd Sadwrn 6 Medi, 12.00pm 6.00pm.

Dylan Thomas, Criw’r Kardomah, yr Actor a’r Comedïwr Dechrau a chychwyn yng Nghanolfan Dylan Thomas

Gw ˆ yl Green Fuse Parc Cwmdoncyn Diwrnod llawn cerddoriaeth acwstig, cerddi, adrodd straeon, rhodianna, theatr a gweithdai. Bydd y digwyddiad hwn sydd am ddim yn cyflwyno etifeddiaeth Dylan Thomas i deuluoedd ac oedolion mewn parc a oedd ei ‘…fyd o fewn y byd’

Bydd Dr. John Goodby a chadeirydd Cymdeithas Dylan Thomas, Jeff Towns, yn ystyried dylanwad y bobl hyn ar bersonoliaeth a barddoniaeth Dylan trwy’r lleoedd lle arferai Mynediad am ddim gymdeithasu. Dewch ar daith trwy 8 www.cwmdonkinpark.com Abertawe a Gw ˆ yr a chlywed sgwrs fer gan Sidney Roe, a dreuliodd ei blentyndod gyda Dylan, wrth fwynhau cinio yn Langland’s Brasserie. Bydd yr ymweliad yn gorffen gyda thaith gerdded fer lan i Faen Ceti yng Nghefn Bryn – lle ceisiodd Dylan alw ar ysbrydion ar ôl perfformio drama. Tocynnau: £32 (gan gynnwys cinio dau gwrs) ( 029 2047 2266 100


Dydd Sadwrn 6 Medi, 1.00pm

Ffocws ar y Theatr: Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno Music Lovers gan Georges Feydeau Canolfan Dylan Thomas Mae Lucille yn aros am ei hathro piano. Mae Edouard yn cynllunio cyfarfod rhamantus â’r feistres. Beth allai fynd o’i le? Bydd y sioe ddoniol hon yn llawn achosion o gam-adnabod a double-entendres o’r dyn a ddyfeisiodd y ffars fodern, Georges Feydeau. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgriptmewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. Tocynnau S £5 PTL Abertawe £2 ( 01792 463980

Nos Iau 11 Medi, 7.30pm

Noson gyda’r Beirdd Rack Canolfan Dylan Thomas Mae’r pamffled cerddi’n cael ei atgyfodi ar hyn o bryd gyda Rack Press o Bowys, yr unig wasg yng Nghymru erioed i fod yn y rownd derfynol (ddwywaith) yng Ngwobrau Michael Marks am bamffledi cerddi, yn cyflwyno pedwar bardd Rack diweddar: Samantha Wynne Rhydderch, y cyhoeddwyd ei phamffled Lime & Winter eleni, ynghyd â Deirdre Shanahan, Recovery Position, William Palmer, The Paradise Commissionaire a Ros Hudis, Terra Ignota. Cânt eu cyflwyno gan Rack Press a’r cyhoeddwr yw Nicholas Murray. Y flwyddyn nesaf, bydd Rack Press yn dathlu ei degfed ben-blwydd a dyma fydd cyfle i glywed rhai o’i lleisiau barddonol diweddaraf. Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 100 ( 01792 463980

15


Dydd Sadwrn 13 Medi dydd Mawrth 23 Rhagfyr

Dydd Sul 21 Medi dydd Sul 12 Hydref

Arddangosfa Llawysgrifau Dylan Thomas Canolfan Dylan Thomas

Dylan Thomas – Ei Bobl a’i Leoedd Oriel yr Atig

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys llawysgrifau o gerddi, rhestr o eiriau sy’n odli a chyfres o luniau du a gwyn o Dylan Thomas, nad yw llawer ohonynt wedi cael eu harddangos na’u hatgynhyrchu’n eang. Mae rhai yn dyddio o ddiwedd y 1930au pan oedd newydd briodi, a thynnwyd yr ail gasgliad yn y 50au cynnar yn Efrog Newydd. Mae’r eitemau hyn yn dangos ei broses ysgrifennu a hefyd ei ochr chwareus - mae gan ffacsimile ‘Fern Hill’, er enghraifft, groesair ar y cefn gan Dylan.

Gofynnwyd i saith artist arweiniol o Gymru ganfod a dehonglir yr hyn a welodd Dylan Thomas a’r hyn a’i ysbrydolodd. Mae’r artistiaid yn cynnwys ffrind Dylan, Glenys Cour, y mae ei phaentiadau lliwgar a haniaethol yn datgelu golygfa farddonol o Fae Abertawe; ceir gwaith gan Mike Jones o astudiaethau y tu mewn i Gaffi’r Kardomah ac mae Maurice Sheppard yn archwilio cefn gwlad plentyndod Dylan yng ngorllewin Cymru. Bydd yr arddangosfa unigryw hon hefyd yn cynnwys paentiadau o Abertawe gan Jack Jones, cyfoeswr Dylan o’r 1920au; nid yw’r gweithiau hyn wedi’u harddangos yn gyhoeddus o’r blaen.

Mae’r eitemau’n cael eu benthyg gan Gasgliad Cerddi Llyfrgelloedd y Brifysgol, Prifysgol Buffalo, Prifysgol Talaith Efrog Newydd. Mynediad Am Ddim (01792 463980

Mynediad am ddim ( 01792 653387 100 8 www.atticgallery.co.uk


Nos Fercher 24 Medi, 7.30pm

Nos Iau 25 Medi, 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Canolfan Dylan Thomas

Beirdd yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda Matt Brydon Canolfan Dylan Thomas

Bob mis, bydd arbenigwr blaenllaw yn ei faes yn rhoi sgwrs ragarweiniol fer ac yna sgwrs anffurfiol gyfeillgar. Gallwch eistedd yn ôl, ymlacio gyda diod yn eich llaw a gwrando neu gymryd rhan yn y drafodaeth a’r ddadl Ewch i www.swansea.ac.uk/ science/swanseasciencecafe i weld pwnc y noson. Mynediad am ddim ( 01792 463980

Athro Saesneg iaith gyntaf yw Matt Bryden ac mae wedi mynd i addysgu yn Twsgani, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pŵyl. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf, Boxing the Compass, yn 2013. Enillodd Night Porter, sy’n dogfennu bywyd mewn gwesty yn Swydd Efrog, gystadleuaeth Templar Poetry Pamphlet yn 2010. Mae ei fersiynau o’r bardd o Taiwan, Ami, wedi ymddangos yn Modern Poetry in Translation a’r casgliad llawn The Desire to Sing after Sunset, a gyhoeddwyd yn Tsieinëeg ac yn Saesneg yn 2013. Yn 2012, aeth ar daith The Captain’s Tower, blodeugerdd am Bob Dylan, mewn lleoliadau ar draws y DU gan gynnwys gw ˆ yl Latitude. Mae’r noson hefyd yn cynnwys sesiwn microffon agored. Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 100 ( 01792 463980 17


Yn parhau gyda: 2 Hydref

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol, Canolfan Dylan Thomas

3 - 4 Hydref

Time Let Me Play, Theatr Dylan Thomas

4 Hydref

Dylan: Prynhawn Barddoniaeth a Jazz, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

8

Cerddoriaeth yn y Geiriau, Neuadd Brangwyn

Hydref

11 Hydref

Dangosiad Cyntaf o Drioleg Dylan Thomas, Neuadd Brangwyn

15 Hydref

Teyrnged i Thomas mewn Cân a Phenillion, Neuadd Brangwyn

18

Hydref

Cerddorfa Ffilharmonig Talaith Rwsia, Neuadd Brangwyn

19 - 28 Hydref

Y Dechrau, Man Geni Dylan Thomas

24 - 26 Hydref

Gw ˆ yl Do Not Go Gentle, Lleoliadau Amrywiol, Uplands

26 - 27 Hydref

Dylanathon, Theatr y Grand

27 9

Hydref- Tachwedd Gw ˆ yl Dylan Thomas, Canolfan Dylan Thomas

29

Hydref

Bob Kingdom: Return Journey, Canolfan Dylan Thomas

Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion y rhaglen hon yn gywir, mae Dinas a Sir Abertawe’n cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen heb rybudd. Cefnogir gan:

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael mewn fformatau eraill. Cyswllt: ( 01792 635478


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.