YGG Felindre (Welsh)

Page 1

YSGOL GYNRADD GYMRAEG FELINDRE

PROSBECTWS 2008/2009

CYNNWYS Rhagarweiniad Croeso’r Prifathro Y staff Neges y Llywodraethwyr Y Corff Llywodraethu Cyfleusterau’r ysgol Yr ysgol a’r gymuned Cludiant Polisi iaith Gweithgareddau diwylliannol Cerdd Chwaraeon Gweithgareddau allgyrsiol Cyswllt Cartref a’r Ysgol Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Y Wisg ysgol Amcanion yr ysgol Derbyniadau Amser ac Oriau dysgu

Dyddiadau tymhorau a gwyliau Maint dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn Dysgu yn yr ysgol Themâu Polisi Gwaith Cartref Y Cwricwlwm Sgiliau allweddol Asesu ffurfiol Adroddiadau a nosweithiau rhieni Addysg Uwchradd Addysg Grefyddol Addysg iechyd a rhyw Gofal bugeiliol Polisi ymddygiad Prydlondeb ac absennoldeb Addysg anghenion arbennig Disgyblion ac anabledd Talu am ymweliadau Sut i wneud cwyn Dogfennaeth

-1-


CROESO’R PENNAETH Ein nod yn Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yw darparu’r addysg orau bosib i’r plant yn ein gofal, er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn botensial. Mae pwysleisio safon ac ansawdd yn bwysig, ond rhaid yn gyntaf sicrhau bod y plant yn hyderus yn eu gwaith ac yn gyfforddus wrth astudio. Gallant wedyn ddatblygu yn unol â’u gallu. Partneriaeth rhwng y plant, yr athrawon a’r cartref yw addysg, y tri yn cydweithio er lles y plant. I’r perwyl hwn mae creu awyrgylch agored, cysurus lle gall pobl gyfathrebu’n rhwydd, yn hanfodol. Credwn fod agwedd gefnogol, adeiladol yn annog plant i ffynnu’n academaidd, yn esthetaidd, yn gymdeithasol, yn seicolegol ac yn ysbrydol. Mae gan blant hawl i addysg eang, ysgogol sy’n cynnig her yn ogystal â chodi safonau. Felly rydym yn pwysleisio pwysigrwydd rhychwant eang o weithgareddau ac o brofiadau. Mae gan bob unigolyn ei gryfderau, ac mae’n bwysig ein bod yn cofio hyn. Rydym yn pwysleisio datblygiad ar bob lefel, gyda phob unigolyn yn gyfartal ac yn haeddu cyfle cyfartal. Gwnawn hyn mewn awyrgylch a fydd yn magu hyder a’r parodrwydd i wireddu geiriau ein bathodyn “Nid da lle gellir gwell”.

STAFF DYSGU Ms Catrin Pugh Jones Pennaeth/ Athrawes Cyfnod Allweddol 2 Mrs Katrin Parkhouse Athrawes Cyfnod Allweddol 2(Rhan amser) Mrs Tracey Griffiths Athrawes Cyfnod Sylfaen

STAFF NAD YDYNT YN DYSGU Mrs Kimberley Hughes

-

Gweinyddes Feithrin (N.N.E.B.)

Miss Hayley Rees

-

Cynorthwy-ydd Dysgu

Mrs Heather Davies

-

Ysgrifenyddes yr Ysgol

Mrs Brenda Jones

-

Cynorthwy-ydd Goruchwylio Hŷn

Mrs Phyllis Bell

-

Cynorthwy-ydd Goruchwylio/

Gofalwraig/Glanhawraig

-2-


NEGES CADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR Hoffwn estyn croeso i unrhyw rieni sy’n dymuno i’w plant dderbyn addysg Gymraeg i ymweld ag Ysgol Felindre. Mae’n cynnig holl fanteision traddodiadol ysgol bentref ynghyd ag addysg gyfoes o safon uchel. Mae’r ysgol yn cynnig awyrgylch braf mewn sawl ffordd. Mae’r adeiladau a’r safle yn gadarn a diogel, yn ddigon pell o’r heol fawr, gyda digon o le i ddysgu ac i chwarae. Gan mai ysgol fechan yw hi, mae’r staff yn adnabod pob disgybl a’u rhieni, ac mae hyn yn arwain at gydweithio agos er lles y disgyblion. Mae hyn yn golygu hefyd fod pob plentyn, beth bynnag fo’i oedran, gallu neu amgylchiadau, yn cael cyfle i gymryd rhan ym mhob agwedd o weithgaredd yr ysgol. ‘Does neb yn cael ei adael allan. Ystyria’r Corff Llywodraethol mai ei swyddogaeth yw cyd-weithio gyda’r staff er mwyn cynnal yr awyrgylch arbennig hwn; er mwyn sicrhau bod y plant yn derbyn addysg gyflawn ac effeithiol: addysg fydd yn eu paratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd, ac ar gyfer tyfu’n unigolion cyfrifol a hyderus o fewn cymdeithas. ‘Rydym yn ffodus fod gennym Bennaeth a staff ymroddedig, sydd, fel y rhieni, yn fodlon rhoi o’u hamser yn wirfoddol er mwyn yr ysgol ac er lles y plant. Mae pawb sy’n ymwneud ag Ysgol Felindre, yn staff, rhieni, disgyblion, cymdogion a llywodraethwyr yn falch ohoni. Mewn oes lle mae plentyndod yn ymddangos weithiau fel pe bai mewn perygl o ddiflannu dan bwysau cystadleuaeth a gor-brysurdeb, mae Ysgol Felindre yn dangos sut y gall awyrgylch cartrefol, gwaraidd hyrwyddo a chyd-fynd â gofynion addysg Gymraeg ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

CORFF LLYWODRAETHOL Mrs Lynne Morgan

-

Cadeirydd/ Rhiant Lywodraethwr

Mrs H Jones

-

Is-gadeirydd/ Llywodraethwr Cyngor Cymuned Mawr

Mrs Ann Gimblett

-

Cynrychiolydd A.A.Ll.

Mr Leyton Jones

-

Rhiant Lywodraethwr

-

Rhiant Lywodraethwr

Miss Tracey Griffiths

-

Athrawes Lywodraethwr

Mrs Phyllis Bell

-

Llywodraethwr Staff nad ydynt yn Dysgu

Mr Huw Morgan

-

Llywodraethwr Cyfetholedig

Mrs Joanne Davies

-

Llywodraethwr Cyfetholedig

Miss Silvia Arrowsmith

-

Cynrychiolydd A.A.Ll.

Ms Catrin Pugh Jones

-

Pennaeth

Mrs Heather Davies

-

Clerc i’r Corff Llywodraethu

Ms Eryl Jones

`

-3-


LLE GWYCH I DDYSGU Saif Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre ym mhentref dymunol Felindre, rhyw 3 milltir o Langyfelach yn Ninas a Sir Abertawe. Mae’n Ysgol Gymraeg Benodedig fywiog a blaengar sy’n greiddiol i’r gymuned. Mae athroniaeth gadarnhaol a gofalgar yn cwmpasu pob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol yn ymfalchïo yng nghynnydd a safonau cyrhaeddiad y disgyblion oll. Mae yma hinsawdd neilltuol i hybu datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol ac academaidd y disgyblion. Mae ehangder datblygiad diwylliannol ein disgyblion yn destun balchder hefyd. Mae gan yr ysgol adnoddau gwych i hyrwyddo datblygiad personol y disgyblion ac i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn ogystal â dwy uned ddysgu gynhwysfawr, Uned Cyfnod Sylfaen ac Uned Yr Iau, mae ystod ardderchog o gyfleusterau chwaraeon, hamdden ac astudio awyr agored ar gael i’r ysgol. Mae’r disgyblion hefyd yn elwa o’r profiadau cyfoethog sy’n deillio o amryfal ymweliadau a digwyddiadau addysgol gydol y flwyddyn. Daw disgyblion 3 i 11 oed presennol yr ysgol o Bontarddulais, Llangyfelach, Treboeth, Craigcefn-parc, Cwmrhydyceirw a Threforys yn ogystal â phentref Felindre ei hun a’r dalgylch lleol.

CYMORTH RHAGOROL WRTH DDATBLYGU SGILIAU IAITH Beth bynnag fo iaith y teulu, beth bynnag fo gallu ieithyddol ac oed y plant pan ddônt i’r ysgol, mae pob disgybl yn datblygu ei sgiliau iaith Gymraeg yn hawdd yn sgîl ein dull ysgogol a chefnogol o ddysgu. Dengys ymchwil fyd-eang fod dwyieithrwydd yn ffon gymorth i feithrin pob math o sgiliau sy’n gaffaeliad yn yr oes hon, gan gynnwys doniau creadigol a’r gallu i ddatrys problemau.

-4-


CYFLEUSTERAU ANHYGOEL UNED Y CYFNOD SYLFAEN Mae gan yr uned hon gyfleusterau modern arbennig i hyrwyddo datblygiad plant y Cyfnod Sylfaen (3 – 4 oed) a Chyfnod Allweddol 1 (5 – 7 oed). Amgylchedd hapus, cysurus ac ysgogol sy’n nodweddu’r uned. Mae’r adnoddau helaeth yn cynnwys: •

Ystafell ddosbarth ddeniadol

Llyfrgell gynhwysfawr a chylch rhannu stori

Cornel celf a chrefft

Tŷ chwarae rôl a defnyddio dychymyg

Cyfrifiaduron a Bwrdd Gwyn rhyngweithiol

Ardaloedd gweithgareddau amrywiol

Lle chwarae gwlyb a sych deniadol

Lle chwarae awyr agored

NEUADD YR YSGOL Mae gan Neuadd yr Ysgol gyfarpar gymnasteg. Cynhelir gwersi dawns, canu, drama a cherdd yno yn ogystal â gwasanaethau dyddiol, arddangosfeydd crefftau a gweithdai coginio.

Mae croeso i chi ymweld â’r ysgol unigryw hon. Gallwch gwrdd â’r staff a chael eich tywys o gwmpas y cyfleusterau gwych. Ffoniwch i drefnu amser – byddwch yn rhyfeddu.

-5-


CYFLEUSTERAU ANHYGOEL UNED YR IAU Mae cyfleusterau arbennig Uned Yr Iau yn golygu ei bod wedi’i harfogi’n gymwys i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i blant Cyfnod Allweddol 2 (7 – 11 oed). Mae yma amgylchedd gofalgar, cadarnhaol ac ysgogol. Mae’r adnoddau’n cynnwys: •

Ystafell ddosbarth ddeniadol

Cornel celf a chrefft

Llyfrgell lyfrau darllen

Cyfrifiaduron dosbarth. Bwrdd Gwyn rhyngweithiol

Ystafell Adnoddau Yn ogystal a’r dosbarth mae ystafell ychwanegol syn cynnwys:•

Llyfrgell gynhwysfawr a chornel adrodd stori

Rhwydwaith o Gyfrifiaduron

Uned deledu gyda peiriant fideo a CD

Adran gerddoriaeth a gwasanaeth benthyg offerynnau

Cornel Staff

ADNODDAU AWYR AGORED Mae’r ysgol yn meddu ar nifer o nodweddion sydd gyda’i gilydd yn gweithredu fel ystafell ddosbarth awyr agored. Mae gennym warchodfa natur ragorol, parc antur, tiroedd glas hyfryd ar gyfer gweithgareddau a digon o le i chwarae. Defnyddir y cae chwarae cyfagos ar gyfer chwaraeon a hamdden. Caiff y plant fwynhau gwersi nofio a gymnasteg reolaidd a threfnir amrywiaeth eang o ymweliadau a digwyddiadau addysgiadol diddorol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn poeni am faterion amgylcheddol. Mae’n hysgol ni yn rhedeg y rhaglen Eco Ysgolion hyd a chynlluniau’r Sir ar ailgylchu. Cynlluniwyd ein rhaglen gwaith fel bo ymwybyddiaeth a gweithredu amgylcheddol yn dod yn rhan gynhenid o fywyd ac ethos yr ysgol – yn staff a disgyblion. Mae gennym ymrwymiad i gyflawni’r safonau uchaf mewn addysg a rheolaeth amgylcheddol.

-6-


YSGOL SY’N RHAN O’R GYMUNED Mae’r ysgol yng nghanol cymdeithas y pentref. Mae bywyd yr ysgol a’r gymuned yn cydblethu. Mae’r plant yn elwa o’r berthynas hyfyw hon ac mae’r pentref yn croesawu eu cyfraniad.

POLISI IAITH CYNHWYSOL Beth bynnag fo’u hiaith pan ddônt i’r ysgol, mae’r plant i gyd yn datblygu eu sgiliau Cymraeg a Saesneg yn hawdd yn sgîl ein dull ysgogol a hyblyg o ddysgu. Rydym yn cynnig cynllun iaith Gymraeg o arwain disgyblion ac mae cymorth Cymraeg arbenigol ar gael yn rhad ac am ddim i ddisgyblion 7 oed neu hŷn sy’n ymuno â’r ysgol. Mae’r holl wybodaeth a anfonir o’r ysgol at rieni, gan gynnwys llythyr newyddion yr ysgol ‘Bant â’r Cart’ yn ddwyieithog. Darpeirir gwasanaeth cyfieithu adeg digwyddiadau megis yr Eisteddfod a gynhelir yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r polisi cynhwysol hwn yn golygu bod yr ysgol a’n gweithgareddau yn agored i bawb gan estyn yr un croeso i rieni ac ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg â’r rhai di-Gymraeg.

DATBLYGIAD IEITHYDDOL Mae plant y Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1 yn cael eu trwytho yn y Gymraeg. Mae ymateb ieithyddol y staff i blant sy’n dod o aelwydydd Saesneg eu hiaith gyfryw fel bod y plant yn teimlo’n gwbl gartrefol wrth feithrin eu sgiliau ieithyddol. Cyflwynir Saesneg fel iaith ffurfiol ym Mlwyddyn 3 (Cyfnod Allweddol 2) ac fel rhagarweiniad i hyn caiff y plant gyfle i ymgyfarwyddo â llyfrau Saesneg ar ddiwedd Blwyddyn 2. Yn ystod Cyfnod Allweddol 2 rhennir astudiaethau ieithyddol yn gyfartal rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Er bod pwyslais ar y Gymraeg ar draws y cwricwlwm, sicrheir bod sgiliau iaith Saesneg y plant yn blodeuo wrth iddynt ymbaratoi ar gyfer addysg uwchradd a thu hwnt. GWEITHGAREDDAU DIWYLLIANNOL Mae amryw o ddisgyblion yr ysgol yn teithio o du hwnt i’r dalgylch diffiniedig ac yn cael budd o gyfranogi o gymdeithas wledig gydweithredol ei naws. Mae cysylltiad naturiol rhwng ysgol a chymuned yn Felindre. Un o nodweddion hynod yr ysgol yw datblygiad cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. Mae’r ysgol yn cynnal adloniant yn neuadd a chapel y pentref yn rheolaidd ac mae’r pentrefwyr yn frwd iawn eu cefnogaeth i’r gweithgareddau hynny. Yn eu plith mae’r gyngerdd Nadolig flynyddol, a’r neuadd/capel bob amser dan ei sang, a gwasanaeth diolchgarwch bob cynhaeaf yng nghapel Nebo. Cynhelir noson o adloniant ar Ddydd Gwyl Ddewi yn y neuadd pan fydd y pentrefwyr yn paratoi gwledd o gawl a phice ar y maen i’r plant a’u rhieni a’r pentrefwyr. Mae’r eisteddfod flynyddol hithau’n enghraifft glodwiw o’r cydweithio sy’n digwydd rhwng ysgol a phentre. Neilltuir y prynhawn i gystadleuwyr lleol ac mae gwaith celf, llên, barddoniaeth a pherfformio yn cael lle amlwg. Mae’r ysgol hefyd yn cystadlu ac wedi llwyddo yng nghystadlaethau celf a pherfformio Eisteddfod yr Urdd. Mae’r plant yn cymryd rhan yn rheolaidd yng Nghwisiau Llyfrau’r Cyngor Llyfrau Cymraeg ac wedi cael cryn lwyddiant ynddynt yn y gorffennol.

-7-


CERDD Mae traddodiad cerdd llwyddiannus yn yr ysgol. Mae gennym athrawes peripatetic sy’n addysgu cerddoriaeth yng Nghyfnod Allweddol 2. Yn ogystal mae disgyblion yn medru dysgu canu, amrywiaeth o offerynnau gan gynnwys offerynnau chwyth, pres a thelyn. Mae’r plant yn perfformio ac yn canu gyda’i gilydd mewn cyngherddau yn y pentref ac mewn digwyddiadau cymunedol, yn ogystal a chystadleuthau’r Urdd. CHWARAEON Fel rhan o’r Cwricwlwm Addysg Gorfforol, mae’r plant wedi cael budd o gyrsiau rygbi a chyrsiau phêl-droed a gynhaliwyd yn yr ysgol. Rydym yn defnyddio buarth yr ysgol i ymarfer sgiliau a chae chwarae y pentref ar gyfer amryw o chwaraeon megis rygbi, pêl-droed, hoci, tenis, pêl-fasged a phêl-rwyd. Mae’r plant yn cymryd rhan mewn cystadlaethau amrywiol yn ystol y flwyddyn ysgol. Yn ystod tymhorau’r gaeaf a’r gwanwyn, mae’r plant yn mynd i’r pwll nofio lleol i gael gwersi nofio. Yn nhymor yr Haf, trefnwyd ymweliadau i gampfa Fforestfach i gael gwersi gymnasteg. Mae’r gampfa hon yn un hynod fodern sy’n cynnwys yr offer diweddaraf a gwasanaeth hyfforddwr profiadol. GWEITHGAREDDAU ALLGYRSIOL Mae yna Adran yr Urdd yn cwrdd nos Fawrth ar ôl ysgol o 3.30 i 4.30 y prynhawn. Mae rhaid i’r plant for yn aelodau o’r Urdd i ymuno â’r Adran ac ym mlwyddyn 2 neu uwch. Y staff addysgu sy’n trefnu’r clwb ac mae’n rhaid i’r plant dalu £1.00 yr wythnos i’w fynychu. Mae’r plant yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y flwyddyn ysgol gan gynnwys: Chwaraeon, Gêmau a Chystadlaethau,Celf a Chrefft a paratoi ar gyfer digwyddiadau. CYSWLLT CARTREF A’R YSGOL Mae cyfathrebu agored ac effeithiol rhwng yr ysgol â’r cartref yn hanfodol i ddatblygiad a lles pob plentyn. Gall rhieni gysylltu â’r ysgol unrhyw adeg i drafod gofidiau neu i wneud apwyntiad i siarad a’r athro dosbarth neu’r Pennaeth. Dosbarthu’r cytundebau Ysgol-Cartref i bob teulu. Ystyriwn ddatblygiad addysgiadol y plentyn yn broses a rhennir rhwng y teulu a’r ysgol.

-8-


CYMDEITHAS RHIENI, ATHRAWON A FFRINDIAU (CRAFf) Mae Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Ffrindiau’r Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yn un arbennig o weithgar. Mae’n gwneud ei gorau glas i ymateb yn gadarnhaol i geisiadau’r athrawon a rhoi pob cefnogaeth iddynt yn eu gwaith. Mae pwrpas y Gymdeithas yn ddeublyg: cynnal gweithgareddau cymdeithasol a fo’n meithrin perthynas dda rhwng y rhieni, plant, athrawon a’r gymuned leol, a chodi arian. Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu fel arfer yn neuadd y pentref y ffeiriau Nadolig, y twmpathau dawns, y barbiciws a’r nosweithiau adloniant ac mae pobl y gymuned yn gefnogol iawn. Mae CRAFf yn ogystal yn rhoi cefnogaeth a chymorth ymarferol wrth baratoi ar gyfer amryfal ddigwyddiadau’r calendr addysgol megis Eisteddfod flynyddol y pentref, y cwis Llyfrau, Eisteddfod yr Urdd, ac yn darparu lluniaeth adeg y Gyngerdd Nadolig blynyddol a’r mabolgampau. Mae’n prynu a gwerthu nwyddau ac yn cyflenwi a dosbarthu’r wisg ysgol. Mae’r Gymdeithas Rhieni/Athrawon yn falch o’r berthynas sydd wedi ei meithrin rhwng yr ysgol a diwydiant a busnesau lleol a chenedlaethol. Yn y gorffennol mae Dŵr Cymru, Laings, Shimano, a Banc HSBC wedi darparu nawdd a chefnogaeth sylweddol. Yn sgîl y nawdd hwn llwyddwyd i adeiladu ac ariannu ystafell chwarae amlbwrpas ar gyfer y plant lleiaf ac i greu gwarchodfa natur ar y tir glas y tu cefn i’r adeiladau. Mae hwn yn adnodd addysgol gwerthfawr iawn i’r plant ac yn galluogi iddynt lawn werthfawrogi gogoniant byd natur sy’n gymaint nodwedd o Ysgol Felindre. Mae croeso i rieni a ffrindiau, hen a newydd, ymuno yng ngweithgaredd y Gymdeithas. Y WISG YSGOL Porffor yw lliw y wisg ysgol. Gallwch archebu’r wisg drwy’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ac mae’n cynnwys y canlynol:

Crys chwys/cnu porffor gyda logo Crys T porffor neu grys polo gwyn Trowsus du Ffrog gingam borffor (yn yr haf) Mae sgert lwyd neu drowsus llwyd hefyd yn dderbyniol

Dylid gwisgo esgidiau synhwyrol. Mae tlysau yn gallu achosi problemau diogelwch a dylid tynnu unrhyw glustdlysau cyn gwersi Addysg Gorfforol. NODAU’R YSGOL Sicrhau Bod pob plentyn yn profi llwyddiant ar ei wastad ei hun. Bod yna ystod eang o brofiadau amrywiol fel bo’r plentyn yn cyrraedd ei botensial. Y diwellir anghenion y plentyn wrth iddo symud drwy’r system addysg ac ymbaratoi ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Ei bod yn meithrin hunan-hyder a meddyliau bywiog. Ein bod ni’n datblygu talentau, ennyn diddordeb a chwilfrydedd y plant.

-9-


Polisi Ysgol Gyfan: Hunan-barch a pharch tuag at gyfoedion, at athrawon, ac at oedolion o fewn yr ysgol a thu allan. Bod disgyblion yn gwneud eu gorau bob amser. Gwobrwyo ymdrech yn ogystal â llwyddiant. Annog disgyblion i feddwl drostynt eu hunain ac i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu haddysg eu hunain. Cyflwyno addysg mewn ffordd ddiddorol, gan mai mwynhad sy’n sbarduno ymdrech ac ymroddiad. Sicrhau bod pob plentyn yn gwbl ddwyieithog. Dysgir y Babanod drwy gyfrwng y Gymraeg ac fe gyflwynir Saesneg yn ffurfiol yng Nghyfnod Allweddol 2. Annog disgyblion i wybod beth yw bod yn Gymry a charu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ogystal â’r wlad. Rhoi cyfle cyfartal i bob unigolyn, beth bynnag fo’r amgylchiadau, gymryd rhan ym mhob gweithgaredd. Bod plant yn gallu cyfathrebu’n rhwydd ar lafar ac yn ysgrifenedig. Arddangos gwaith disgyblion gyda balchder. Sicrhau bod y trosglwyddiad o un dosbarth i’r llall, ac o’r ysgol bentref i’r ysgol uwchradd yn hwylus. Cymell plant i barchu eu hamgylchedd a phwysleisio rôl pob unigolyn yn ei gymdogaeth. Annog plant i fod yn oddefgar a pharchu syniadau a daliadau eraill, boed foesol, grefyddol neu arall. Cydnabod bod pob plentyn yn unigolyn ac felly’n unigryw a bod rhaid parchu eu syniadau, eu barn a’u teimladau. Rhaid i blant ddysgu cydweithio a helpu ei gilydd. Rhaid i ni fel athrawon wrando ar blant a rhaid iddynt hwythau ddysgu gwrando ar eraill. DERBYNIADAU Gall plant ddechrau eu haddysg llawn amser ar ddechrau’r flwyddyn ysgol pan fyddant yn bum mlwydd oed. Mae’r plant yn cael eu derbyn i’r Meithrin y diwrnod ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Mae croeso i rieni a phlant ymweld ag Uned y Cyfnod Sylfaen cyn ymuno â’r Meithrin er mwyn iddynt ddod yn gyfarwydd â’r Uned. Mae’r plant Meithrin yn mynychu’r ysgol bob bore rhwng 8.50am a 11.20am. Yn ystod yr amser hwn maent yn cael ffrwyth/tost a llaeth er mwyn ymdopi â’r bore prysur.

- 10 -


AMSER AC ORIAU DYSGU Oriau’r ysgol yw 8.50 y bore tan 3.15 y prynhawn (babanod) neu 3.20 y prynhawn (yr iau). Ceir egwyl rhwng 10.30 a 10.45 y bore a rhwng 2.00 a 2.10 y prynhawn. Mae’r awr ginio rhwng deng munud i ganol dydd a deng munud i un Dylai’r plant gyrraedd yn brydlon a dylid eu hebrwng o’r ysgol yn brydlon hefyd. DYDDIADAU TYMHORAU/GWYLIAU A DIWRNODAU HYFFORDDIANT MEWN SWYDD Cyfeirier at Atodlen 1 am fanylion dyddiadau tymhorau’r ysgol/y gwyliau. Ceir 7 niwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd bob blwyddyn, pan fydd yr ysgol ar gau i blant. Byddwn yn eich hysbysu drwy lythyr am ddyddiadau yma.

MAINT Y DOSBARTHIADAU A’R GRWPIAU BLWYDDYN Gan mai ysgol fach yw Felindre, mae maint y dosbarthiadau a’r grwpiau blwyddyn yn amrywio. Mae’r dosbarthiadau bach yn golygu ein bod ni’n gallu rhoi sylw arbennig i ddysgu pob plentyn yn unigol. ADDYSG YN YR YSGOL Mae athrawon yr ysgol yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu yn ôl gofynion yr unigolyn a’r dosbarth. Mae’r dulliau a ddefnyddir yn cynnwys gwaith unigol a gwaith pâr a gwersi dosbarth cyfan. Bydd rhai gweithgareddau’n ymarferol tra bo eraill yn gofyn am ganolbwyntio dwys a thawelwch. Yn y Cyfnod Sylfaen, y cydbwysedd rhwng chwarae rhydd a chwarae trefnus yw sail yr addysg. Mae’r staff dysgu yn cynllunio’u gwaith ar y cyd fel bo cydbwysedd yn y cwricwlwm a phwyslais cywir ar wahanol bynciau. Mae pwyslais ar ddilyniant a pharhad yn yr ysgol er mwyn sicrhau pontio hwylus o ddosbarth i ddosbarth ac o ysgol i ysgol. Cynllunir cynnydd pob pwnc yn ofalus er mwyn sicrhau parhad a dilyniant wrth gyflwyno syniadau newydd. Dyma’r drefn:

Meithrin / Derbyn Blynyddoedd 1 a 2 Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6

-

Cyfnod Sylfaen Cyfnod Allweddol 1 Cyfnod Allweddol 2

Caiff y plant gyfle beunydd i weithio fel unigolion, fel grŵp ac fel dosbarth. Yn ystod yr wythnos byddwn yn canolbwyntio ar Sgiliau Allweddol e.e. rhifedd, llythrennedd, llawysgrifen, ayb. Bydd cyfle hefyd i wneud gwaith trawsgwricwlaidd a gwaith thema. Drwy gadw’r ddysgl yn wastad rhwng y gwahanol ddulliau, hyderwn allu cyflawni pob un o raglenni astudio’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

- 11 -


THEMÂU Mae themâu yn ddull effeithiol o ddysgu pob agwedd o’r cwricwlwm yn ystyrlon a pherthnasol. Er enghraifft, gall y thema “Fi fy Hun” gwmpasu hanes, daearyddiaeth, iaith, gwyddoniaeth, mathemateg, addysg grefyddol, ayb. Mae gennym raglen chwe thema, un y tymor am ddwy flynedd. Er ein bod yn defnyddio dull thema ar gyfer llawer o’r dysgu, treulir peth amser yn cyflwyno ac yn ymarfer Sgiliau Allweddol, h.y. rhifedd a llythrennedd + T.G.ach Mae’r dull thema yn rhoi cyfle i’r plant:

chwarae rhan weithredol yn eu gwaith fwynhau ystod o brofiadau ddatblygu sgiliau astudio gael boddhad o arddangos eu gwaith

POLISI GWAITH CARTREF Staff yr ysgol sy’n gyfrifol am bennu polisi gwaith cartref. Sicrha hyn fod pawb yn gwybod beth yw diben gosod gwaith cartref, pwy sydd i wneud y gwaith cartref, pwy sy’n ei osod a pha bryd y digwydd hynny. • •

Babanod Blynyddoedd 3 - 6

-

unwaith yr wythnos ddwywaith yr wythnos

Estyniad yw gwaith cartref o’r gwaith a wneir yn yr ystafell ddosbarth.. Gall fod yn waith chwilota neu gall ymwneud ag unrhyw agwedd o’r cwricwlwm. Ni ddylai gwaith cartref gymryd mwy na chwarter awr i’w gwblhau yn Adran y Babanod a hanner awr yn Adran yr Iau. Y CWRICWLWM Y Pennaeth a’r staff sy’n datblygu nodau’r cwricwlwm a byddant yn trafod y rhain gyda’r Llywodraethwyr. Mae’r cwricwlwm a’r rhaglenni astudio yn seiliedig ar y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae pedwar pwnc craidd: • •

Cymraeg Mathemateg

• •

Saesneg Gwyddoniaeth

a naw pwnc sylfaen: o o o o o o o o o

Dylunio a Thechnoleg Technoleg Gwybodaeth Hanes Daearyddiaeth Celf Cerdd Addysg Gorfforol Addysg Grefyddol Addysg Bersonol a Chymdeithasol

- 12 -


CYFLWYNO’R CWRICWLWM Drwy’r Pennaeth a’r staff dysgu, mae Llywodraethwyr yr ysgol yn datblygu ac yn adolygu dogfennau polisi pob un o feysydd y cwricwlwm, gan ystyried gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Defnyddir nifer o ddulliau dysgu i gyflwyno’r cwricwlwm, e.e. dysgu dosbarth, gwaith grŵp, pâr, unigol. Gellid gweld dogfennau cwricwlwm yr ysgol drwy ofyn i’r Pennaeth. HYBU SGILIAU AR DRAWS Y CWRICWLWM CENEDLAETHOL Mae’r disgyblion yn dysgu, yn ymarfer, yn cyfuno, yn datblygu, ac yn mireinio ystod eang o sgiliau yn eu gwaith ym mhob cyfnod allweddol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. GOFYNION CYFFREDIN Mae’r Gofynion Cyffredin yn tanlinellu pwysigrwydd darparu cyfleoedd, lle bo’n briodol, yn holl bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, i ddisgyblion ddatblygu Gofynion Cyffredin yn ymwneud a’r sgiliau canlynol:Cyfathrebu Mae cyfathrebu’n cynnwys sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae sgiliau siarad a gwrando yn golygu gallu siarad â chynulleidfaoedd gwahanol yn effeithiol; gwrando, deall ac ymateb yn briodol i eraill; a chyfranogi’n effeithiol o drafodaeth grwp. Mae sgiliau darllen ac ysgrifennu yn golygu gallu darllen yn rhugl amrywiaeth eang o destunau llenyddol a ffeithiol ac ymateb yn feirniadol i’r hyn a ddarllenir; ysgrifennu’n rhwydd at ddibenion a chynulleidfaoedd gwahanol, a thafoli gwaith ysgrifenedig personol a gwaith ysgrifenedig disgyblion eraill. Cymhwyso rhif Mae cymhwyso rhif yn sgil allweddol yn ymwneud â datblygu amrediad o sgiliau cyfrifo pen a’r gallu i gymhwyso’r rhain mewn llawer cyd-destun. Mae gofyn datblygu dealltwriaeth a defnydd o iaith fathemategol mewn perthynas â rhifau a chyfrifiadau er mwyn prosesu data, datrys problemau ac esbonio’r rhesymeg a ddefnyddiwyd. Technoleg Gwybodaeth Datblygu a chymhwyso’r gallu i ddefnyddio amrediad o ffynonellau gwybodaeth ac offer TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) i ddarganfod, dadansoddi, dehongli, gwerthuso a chyflwyno gwybodaeth ar gyfer amryfal ddibenion. Personol a Chymdeithasol Mae’r sgil allweddol hwn yn erfyn gallu i ddatblygu’n gymdeithasol, yn ysbrydol ac yn foesol gan ddeall y gwahaniaeth rhwng da a drwg. Y Cwricwlwm Cymreig Ein nod yw hybu datblygiad diwylliannol y disgyblion drwy eu meithrin i ddeall a pharchu’r traddodiadau diwylliannol Cymreig ac i allu gwerthfawrogi ac ymateb i doreth o brofiadau esthetig. Datrys problemau Mae hyn yn cynnwys datblygu a chymhwyso sgiliau cwestiynu, darogan a phenderfynu. Sgiliau creadigol Datblygu’r dychymyg creadigol a’r gallu i fynegi syniadau. - 13 -


ASESU FFURFIOL Yr athrawon sy’n asesu’r plant ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2. Asesir plant yn y pynciau craidd – Mathemateg, Cymraeg a Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 1; a Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 2. Hysbysir y rhieni o’r canlyniadau. Mae cynnydd y plant yn cael ei fonitro a’i asesu drwy gydol y flwyddyn hefyd, yn unol â pholisi asesu’r ysgol. ADRODDIADAU A NOSWEITHIAU RHIENI Ar ddiwedd blwyddyn ysgol, mae pob disgybl yn derbyn adroddiad ysgrifennedig. Cynhelir dwy noson rhieni yn flynyddol, un yn yr Hydref ac un yn y Gwanwyn. Gellid hefyd drefnu i drafod cynnwys yn adroddiad ysgrifennedig. ADDYSG UWCHRADD Y mae mwyafrif disgyblion Ysgol Felindre yn mynd rhagddynt i Ysgol Gyfun Bryntawe. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd paratoi ein plant yn drylwr ar gyfer addysg uwchradd ac fel rhan o’r broses hon rydym wedi meithrin cysylltiadau clos â’r ysgol uwchradd. Hefyd, yn ystod eu tymor olaf yn Ysgol Felindre, mae’r disgyblion yn cael mynd ar Gwrs Pontio preswyl yn Llangrannog i’w baratoi i’r ysgol uwchradd.. Maen nhw hefyd yn elwa o ymweliadau, diwrnodau ‘blas ar wersi’ a nosweithiau agored (yr olaf gyda’u rhieni) yn Ysgol Gyfun Bryntawe. Yn unol â pholisi’r Awdurdod Addysg Lleol rydym yn annog rhieni i ymweld ag Ysgol Gyfun Bryntawe ac i fanteisio ar y nosweithiau agored pan fydd eu plentyn ym Mlwyddyn 6 Ysgol Felindre. ADDYSG GREFYDDOL Mae Addysg Grefyddol yn bwnc gorfodol yn fframwaith y cwricwlwm a chaiff ei ddysgu yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Addysg Lleol. Mae’r gwasanaeth boreol yn rhan o frethyn yr ysgol ac anogir plant o bob oedran i gymryd rhan. Mae hawl gan rieni ofyn am gael eithrio’u plant o’r ddarpariaeth hon. ADDYSG IECHYD A RHYW Mae Addysg Iechyd yn cael ei lle ymhlith rhai agweddau o’r cwricwlwm, er enghraifft, y thema “Fi fy Hun”. Mae hefyd yn rhan annatod o arferion yr ysgol, e.e. golchi dwylo cyn cinio neu goginio, ar ôl bod yn y tŷ bach, ac yn y blaen. Mae’r Corff Llywodraethu wedi penderfynu ar fabwysiadu polisi’r Sir yn ogystal â chanllawiau’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch addysg rhyw. Mae hawl gan rieni dynnu eu plant o’r gwersi addysg rhyw, pe dymunant. GOFAL BUGEILIOL Cyfrifoldeb y staff i gyd yw gofal bugeiliol y plant. Y Pennaeth sydd â’r cyfrifoldeb eithaf. Nod yr ysgol yw creu awyrgylch cynnes, cartrefol a fydd yn diwallu holl anghenion y plant. Mae amgylchedd diogel a hapus yn ystyriaeth bwysig.

Pan fo plentyn yn sâl neu’n cael damwain, cysylltir â’r rhieni neu’r gwarcheidwaid ar unwaith i wneud trefniadau priodol. Pan fydd disgybl yn cael damwain, gweinyddir cymorth cyntaf gan yr athro dosbarth, neu bwy bynnag fydd ar ddyletswydd ar y pryd. Pan fo’r sefyllfa’n fwy difrifol, cysylltir â’r gwasanaethau brys ac â’r rhieni neu’r gwarcheidwaid. - 14 -


Mae pob disgybl 5 oed yn cael prawf clyw ac mae’r rhai 8 oed yn cael prawf golwg. Archwilir plant â phroblemau golwg, lleferydd neu glyw yn rheolaidd. Cysylltir â’r Gwasanaeth Lles Addysg a’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg pan fo angen. Goruchwylir y plant yn ofalus o 8.40 yn y bore ac yn ystod cyfnodau egwyl y bore a’r prynhawn. Yn ystod yr awr ginio, bydd plant o dan ofal staff cynorthwyol. Profir offer Addysg Gorfforol yn rheolaidd a goruchwylir gwersi addysg gorfforol yn fanwl hefyd. Mae cloeon ar y drysau allanol, ac ni all neb gael mynediad heb ganiatâd. Ymarferir dril tan yn rheolaidd. POLISI YMDDYGIAD Mae pawb yn gyfrifol am ymddygiad yn Ysgol Felindre. Disgwylir i bawb ymddwyn yn rhesymol yn yr amgylchedd gofalgar a diogel a grëir. Anogir plant i feddwl drostynt eu hunain am yr hyn a wnânt ac i feithrin hunanddisgyblaeth. Fel arfer bydd yr athro/athrawes (d)dosbarth neu’r athro/athrawes ar ddyletswydd ar y buarth yn delio ag unrhyw achos o gamymddwyn. Gall gorfod gosod sancsiynau olygu colli breintiau. Os yw plentyn yn gyson anystywallt bydd y Prifathro yn cysylltu â’r rhieni/gwarcheidwaid. Ein nod yw bod yn deg wrth drafod ymddygiad, cans gwyddom fod plant yn parchu ac yn deall tegwch. Mae copi o’r polisi ymddygiad ar gael yn yr ysgol. PRYDLONDEB AC ABSENOLDEB Mae’n bwysig bod y plant yn brydlon ar bob adeg. Dylid hysbysu athrawon o unrhyw apwyntiad meddygol neu ddeintyddol sy’n golygu bod plentyn yn mynd i fod yn absennol o’r ysgol. Os yw plentyn yn absennol o’r ysgol oherwydd afiechyd, mae’n angenrheidiol danfon nodyn neu roi galwad ffôn i’r ysgol i egluro hynny. Rhaid cael caniatâd y llywodraethwyr am wyliau teulu sy’n ymestyn am fwy na 2 wythnos o fewn blwyddyn ysgol. ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG Cyhoeddwyd Côd Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig yn 1994 ac mae’n cynnwys Canllawiau i ysgolion. Mae darpariaeth Anghenion Arbennig yr ysgol yn seiliedig ar y ddogfen hon ac yn broses o gael ei diweddaru yn ôl y Côd Ymarfer Cymru 2002. Bydd angen darpariaeth addysgol arbennig ar nifer o blant ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa ysgol. Fel arfer, gellir diwallu’r cyfryw anghenion yn yr ysgol heb gymorth asiantaethau allanol. Pan fo angen cyngor a chymorth o’r tu allan i’r ysgol byddwn yn troi at Adran Addysg Arbennig yr Awdurdod Addysg Leol. Mae’r Côd Ymarfer Addysg Arbennig Cymru yn argymell Ymateb Cam wrth Gam er mwyn helpu plant sydd ag anghenion arbennig. Pan ganfyddir bod gan blentyn anghenion addysgol arbennig, dilynir camau yn seiledig ar egwyddorion ‘Gweithredu gan yr ysgol’ a ‘Gweithredu gan yr ysgol a Mwy‘. Nid camau ar y ffordd tuag at asesiad statudol fydd y rhain fel rheol. Yn hytrach, mesurir darpariaeth addysgol arbennig yn ôl anghenion y plentyn. Mae camau yn rhan o drefn barhaus yr ysgol o gynllunio, weathered ac adolygu. Er mwyn galluogi pob plentyn i ddysgu ac i ffynnu. Mae gennym staff cymorth dysgu sy’n cynorthwyo’r athrawon o fewn y dosbarthiadau. Os yw’r cydlynydd, ar ôl ymgynghori â’r rhieni, yn teimlo bod lle i bryderu ynglŷn â’r plentyn, bydd yr ysgol yn gofyn i’r Awdurdod Addysg Lleol am asesiad statudol. Ar ôl i’r plentyn gael ei asesu’n ffurfiol gan seicolegydd plant arbenigol, bydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn penderfynu a ddylid rhoi Datganiad Anghenion Addysg Arbennig i’r plentyn ai peidio.

- 15 -


DISGYBLION AC ANABLEDD Mae rhannau o adeilad yr ysgol yn addas ar gyfer disgyblion ag anableddau corfforol. TALU AM YMWELIADAU YSGOL Mae’r ysgol yn gwneud ei gorau glas i ddarparu’r cyfleoedd addysgol gorau posib i bob plentyn o fewn y gyllideb ysgol a ddarperir gan yr Awdurdod Addysg Leol. Mae’r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i addysg plentyn o fewn oriau ysgol fod yn rhad ac am ddim ac mae’r ysgol yn frwd o blaid yr egwyddor hon. Cydnabyddir, fodd bynnag, bod nifer o weithgareddau addysgiadol gwerthfawr yn dibynnu ar gefnogaeth ariannol ychwanegol. Heb hyn byddai’n anodd cynnal ansawdd ac amrywiaeth yr addysg a ddarperir mewn unrhyw ysgol. Rydym yn ymdrechu i gadw cyfraniadau ariannol mor isel â phosib ac yn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyfranogi o unrhyw weithgaredd, beth bynnag fo’i amgylchiadau. Mae’r gyfraith yn cydnabod bod yn rhaid i ysgolion mewn amgylchiadau arbennig ofyn i rieni am gyfraniad ar yr amod fod yr ysgol yn cyhoeddi ei Chanllawiau’n eglur wrth ofyn tâl. Dyma’n polisi ni: Ymweliadau diwrnod ysgol Mae’r ysgol yn gwahodd tâl gwirfoddol tuag at gost ymweliad addysgol sy’n digwydd o fewn diwrnod ysgol. Ar gyfer ymweliadau y tu allan i oriau ysgol, codir tâl am gostau rhesymol. Gellir addasu neu ostwng tâl i’r sawl sy’n gwneud cais i’r Prifathro. Ymweliadau preswyl yn ystod oriau ysgol Gwahoddir cyfraniadau gwirfoddol oddi wrth rieni i gwrdd ag unrhyw gostau heblaw costau llety a bwyd. Y rhieni fydd yn talu’n gyfan gwbl am fwyd a llety’r plentyn. TREFNIADAU CWYNO Os oes gennych gwyn mae’n bwysig eich bod yn ceisio datrys y broblem yn gyntaf drwy drefnu i ymweld â’r athrawes ddosbarth neu’r Pennaeth i drafod y mater. Os oes gennych gwyn dan adran 23 Deddf Diwygio Addysg (yn ymwneud â’r cwricwlwm, addysg grefyddol ac addoli), mae’r Awdurdod Addysg Lleol wedi paratoi ‘Dull o Gwyno’ ffurfiol a gallwch gael copi o’r ysgol, o’r Adran Addysg neu o lyfrgell gyhoeddus. Mae gwybodaeth bellach ar gael o Adran Cymorth Rhieni a Phlant, Neuadd y Sir, Abertawe - (01792) 636000. DOGFENNAETH Gellir archwilio a chopïo’r dogfennau hynny y mae hawl eu harchwilio yn ôl y Rheoliadau, yn yr ysgol yn ystod oriau ysgol. Mae’n rhaid trefnu amser ymlaen llaw gyda’r Pennaeth.

Credir bod y wybodaeth hon yn gywir ar adeg cyhoeddi – Tymor yr Hydref 2008

- 16 -


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.