cwtsh
cylchlythyr/hydref 2021
newyddion a straeon tŷ hafan
diolch am fod yn
achubiaeth y tu mewn
the hospice for children in Wales yr hosbis i blant yng Nghymru
Stori ollie t.6
eich cefnogaeth t.9
the big give t.10
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
croeso Mae’n anhygoel meddwl bod cylchgrawn Cwtsh wedi bod yn mynd ers 2009. Mae wedi cael un neu ddau o weddnewidiadau ers hynny, ond mae wedi edrych yn weddol debyg ers mis Mawrth 2014. Felly yr haf hwn, fe wnaethom ni ofyn i grŵp o ddarllenwyr am eich barn ar Cwtsh, eich cylchlythyr chwe-misol ar bopeth yn ymwneud â Tŷŷ Hafan, oherwydd eich cylchgrawn chi yw hwn wedi'r cwbl. Mae’n llawer o hwyl rhoi Cwtsh at ei gilydd ac mae’n cynnig darlun da o’r hyn sydd wedi digwydd drwy’r elusen gyfan dros y chwe mis diwethaf. Bob tro y byddwch yn rhoi i’r ymgyrch, yn cymryd rhan mewn digwyddiad, yn prynu o’n siopau neu’n rhoi iddynt, neu’n gwirfoddoli yn unrhyw ran o’r sefydliad, rydych yn gwneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd Tŷ Hafan ledled Cymru a gallwch weld yma sut mae eich cymorth yn cael ei roi at ddefnydd da. Yn yr arolwg diweddar, gofynnwyd i chi hefyd sut y byddech yn newid Cwtsh pe gallech chi. Cafwyd rhai awgrymiadau diddorol, ac er na allwn ni wneud newidiadau eang y tro hwn, ein bwriad fydd ailwampio’r cylchgrawn dros y rhifyn neu ddau nesaf. Felly eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch y rhifyn hwn o gylchgrawn Cwtsh. Diolch am bopeth yr ydych yn ei wneud i gynorthwyo Tŷ Hafan. Mae’r straeon hyn yn dangos sut mae eich cymorth wedi gwneud gwahaniaeth mor enfawr i fwy na 1,000 o blant a theuluoedd ers i Tŷ Hafan agor gyntaf ym 1999.
cynnwys croeso.....................................................................................................02 straeon o’r ardd goffa ........................................................................04 anrhydeddu ein nyrsys o ynysoedd philippines ........................05 hanes ollie..............................................................................................06 eich cymorth..........................................................................................09 the big give.............................................................................................10 pobl gyffredin, bywydau arbennig..................................................12
2
Mae eich cymorth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fwy na 1,000 o blant a theuluoedd ers i Tŷ Hafan agor gyntaf ym 1999
cylchlythyr/hydref hydref/gaeaf 2021
"Rwy’n falch o’r ffordd y mae ein timau gofal medrus wedi ymateb a pha mor benderfynol yr oeddent o fod yno i deuluoedd" Mae’n anodd credu bod bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i mi wneud y penderfyniad i wneud cais i fod yn gyfarwyddwr gofal newydd Tŷ Hafan. Cefais fy nghymell gan ei dreftadaeth gyfoethog o fod yno i blant a theuluoedd sy’n byw gyda’r ansicrwydd a’r heriau sy’n deillio o salwch sy’n cyfyngu ar fywyd, a’i ymrwymiad i gyrraedd ymhellach a gwneud gwahaniaeth mwy yn y dyfodol. Ni allwn wedi bod yn fwy balch bod yr Ymddiriedolaeth wedi rhoi eu hyder ynof i. Erbyn i mi gyrraedd ddiwedd mis Mawrth 2020, roedd pandemig Covid-19 yn gosod cyfyngiadau ar ein bywydau ni i gyd. I’r plant a’r teuluoedd sy’n troi at Tŷ Hafan am gymorth a chefnogaeth, roedd hyn yn arbennig o anodd, ac roeddem yn canolbwyntio’n llwyr o’r cychwyn cyntaf ar ddod o hyd i ffyrdd i helpu pob teulu i deimlo eu bod wedi’u cysylltu â ni, er bod hynny mewn ffyrdd newydd. Rwy’n falch o’r ffordd y mae ein timau gofal medrus wedi ymateb a pha mor benderfynol yr oeddent o fod yno i deuluoedd, gan gynnig cysur, gofal a hwyl mewn ffordd sy’n unigryw i Tŷ Hafan. Heddiw, rydym yn wynebu gaeaf arall â Covid-19, ond y tro hwn rydym yn cynllunio yn fwy hyderus oherwydd yr amddiffyniad ychwanegol y mae’r brechlyn yn ei gynnig. Rydym yn cadw yn effro fel y gellir gwneud newidiadau yn gyflym os oes angen, ond rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld mwy o blant a theuluoedd yn yr hosbis, mewn cartrefi teuluol a thrwy ein digwyddiadau ‘aros a chwarae’ a’n digwyddiadau i frodyr a chwiorydd ar draws ein cymunedau. Ychydig bach o normalrwydd, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn nid yn unig yn para ond yn cynyddu. Yn yr hosbis, byddwn yn cwblhau ein prosiect ailwampio yn fuan, rhywbeth na allem fod wedi ei wneud heb eich cymorth chi. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n gallu croesawu mwy o deuluoedd - rydym yn edrych ymlaen yn arw at eu gweld a’u dangos o gwmpas. Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb eich cymorth chi, ac ni allem fod yn fwy diolchgar. Diolch oddi wrth yr holl blant, teuluoedd a phawb yn Tŷ Hafan am y gwahaniaeth yr ydych yn ei wneud.
Deborah Ho Cyfarwyddwr Gofal * Tynnwyd y llun cyn y pandemig
3
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
straeon o’r ardd goffa Mae Tŷ Hafan yn llawn mannau sy’n golygu popeth i’r teuluoedd sy’n defnyddio’r hosbis. Mae’r ystafell gerddoriaeth, yr ystafell chwarae, y Ffau a’r ystafell amlsynnwyr i gyd wedi ymddangos yn Cwtsh, ac mae pob un yn ychwanegu at fywydau teuluoedd Tŷ Hafan yn ei ffordd ei hun. Ond efallai o ran mannau sy’n golygu’r mwyaf, mae’n rhaid i’r anrhydedd honno fynd i’r ardd goffa. Mae lleoliad delfrydol Tŷ Hafan ar lannau Môr Hafren yn cynnig llonyddwch i blant a theuluoedd a noddfa i ymlacio a myfyrio. Mae’r ardd yn gwneud hynny yn fwy arbennig fyth. Mae’r gosodwaith Cân Adar, “Bydd yr enwau hyn yn ein ffurfafen am byth”, yn ffordd unigryw a gwefreiddiol o barhau etifeddiaeth y plant a’r bobl ifanc sy’n pasio drwy ein bywydau. Ei nod yw cofio a dathlu bywydau’r plant sydd wedi marw trwy gyfrwng cân adar. Caiff enw pob plentyn ei gyfieithu gan ddefnyddio cod Morse i gân yr aderyn sy’n canu’n fwyaf croch yn y mis y bu farw’r plentyn ac fe’i dilynir gan dawelwch o un eiliad ar gyfer bob blwyddyn o fywyd y plentyn. Mae’r darn yn para dros ddwy awr a hanner ar hyn o bryd ac yn chwarae yn yr ardd goffa. Gallwch ddarganfod mwy am y gosodwaith trwy chwilio am ‘cân adar’ ar ein gwefan. Caiff yr atgof am ferch Pauline Harvey, Abigail, ei ddathlu gyda chân y robin, felly mae’r ardd yn golygu llawer iawn iddi hi a’i theulu. Mae Pauline yn myfyrio yma ar lansiad hynod emosiynol Cân Adar:
“Sefais yn y gasebo yn yr Ardd Goffa yn gwrando wrth i gân unigol yr adar ddod o wahanol rannau o’r ardd. Roedd yn ymddangos weithiau bod un aderyn yn dilyn yn syth ar ôl yr un blaenorol, weithiau roedd y bylchau mor hir ei bod yn syndod pan roedd y nesaf yn dechrau. Roedd yr holl ganeuon yn wahanol iawn i’w gilydd, yn unigryw ac yn hyfryd. A digwyddodd rhywbeth a wnaeth fy synnu, roedd yn teimlo fel pe bai’r gawod emosiynol wedi codi a bod yr haul wedi dod allan o’r tu ôl i’r cymylau (parhaodd y glaw go iawn yn ddi-baid, roedd y tywydd yn ofnadwy ac yn amlwg nid oedd ganddo unrhyw synnwyr o achlysur). “Teimlais gynhesrwydd a chysur aruthrol. Nid oeddwn yn aros i glywed enw Abigail mwyach, nid oedd yn ymddangos bod hynny’n bwysig bellach, roedd yn rhan o’r côr, roedd yn rhan o gân bob aderyn, roedd y cyfnodau o dawelwch yn dathlu pob bywyd byr unigol, ond roedd yn teimlo fel pe bai’r holl blant gyda’i gilydd yng nghân pob aderyn. Nid yw Abigail ar ei phen ei hun, mae hi gyda ffrindiau ac maen nhw’n canu’n braf.
4
“Rwy’n siŵr y bydd pob person sy’n cael y profiad “Bydd yr enwau hyn yn ein ffurfafen am byth” yn teimlo rhywbeth gwahanol. Bydd y profiad yn unigryw iddyn nhw. Mae’n ychwanegiad hyfryd, llawn ysbrydoliaeth, syfrdanol at yr ardd goffa, yr wyf i’n teimlo yn aruthrol o ddiolchgar amdano yn bersonol i Tŷ Hafan, yr Artist Sain Justin Wiggan a Phennaeth Gwasanaethau Cymunedol Tŷ Hafan ei hun, Tracy Jones." Cydnabuwyd y gosodwaith gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd ac fe’i rhoddwyd ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Celfyddydau ym Maes Iechyd, i’w chyhoeddi ddiwedd mis Hydref. Meddai Brian Medley, sy’n gwirfoddoli fel garddwr i Tŷ Hafan: “Nid oes gen i unrhyw gysylltiad personol â Tŷ Hafan ac eithrio bod yn fachgen o Benarth ac mae gan bawb ym Mhenarth le yn eu calonnau i’r hosbis leol a’r siop yn y dref.
“Mae’r ardd yn Tŷ Hafan yn lle da i ddysgu gan y gwirfoddolwyr eraill, y mae gan rai ohonynt erddi a rhandiroedd. Nid yw gweithio mewn gardd fyth yr un fath ddwy wythnos yn olynol. Rwyf i wedi gweld gwelyau blodau yn marw yn yr hydref ac yn cael eu tocio yn y gaeaf. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld y bywyd newydd yn blaguro yn y gwanwyn, felly rwy’n cael llawer o fwynhad personol ohono. “Os yw gwella’r amgylchedd yn helpu gyda llesiant, rwy’n teimlo ei fod yn sicr yn ddefnydd gwerth chweil o fy amser a’m hegni. Mae’r ardd yn lle arbennig i’r teuluoedd sy’n ei defnyddio fel ffordd o greu atgofion, yn enwedig gan fod rhai o’r plant mor fregus, ac rwy’n hapus i wybod y gallaf i chwarae rhan fach i’w cynorthwyo. “Hoffwn ddweud hefyd pa mor arbennig yw hi bod pob aelod o dîm Tŷ Hafan yr wyf i wedi dod i gysylltiad â nhw yn yr ardd, mewn e-byst ac yn y rhith-gyfarfod Zoom, yn ddieithriad, wedi bod mor werthfawrogol. Mae’n anhygoel y gall ychydig oriau o waith wneud cymaint i godi ysbryd pawb."
cylchlythyr/hydref hydref/gaeaf 2021
anrhydeddu ein nyrsys o ynysoedd philippines Mae pawb yn nheulu Tŷ Hafan yn gadael eu marc, ni waeth ba mor hir maen nhw gyda ni. Gwnaeth grŵp o nyrsys gofal lliniarol o Ynysoedd Philippines y daith hir i Sili dros 20 mlynedd yn ôl ac maent wedi bod yn rhan annatod o’r hosbis fyth ers hynny. Mae Livet Eyao, Emee Miller, Mai Mai Mallari, Myra Belonio, Gigi Ricaforte, Leila Gariando ac Anne Alog wedi gwneud Tŷ Hafan yn gartref i’w hunain dros y ddau ddegawd diwethaf ac i nodi’r pen-blwydd hwn ar 1 Gorffennaf, talodd Tŷ Hafan deyrnged i’w hymroddiad, eu haberth personol a’u gwaith caled yn yr hosbis yn Sili.
“Mae ethig gwaith y nyrsys heb ei hail ac mae teulu yn hollbwysig iddyn nhw. Yn unigol, ac fel tîm, maen nhw wedi bod yno i Tŷ Hafan erioed, felly ar ran ein holl gydweithwyr hoffwn ddweud diolch, oherwydd nid yn unig yr wyf i’n ddiolchgar iawn am bopeth y maen nhw’n ei wneud, ond rwyf i hefyd yn ddiolchgar iawn am bopeth ydyn nhw.”
Meddai Beth Morgan, Pennaeth Gwasanaethau Hosbis: “Rydym ni yma i gydnabod dau ddegawd o wasanaeth gan y grŵp ymroddedig hwn o nyrsys o Ynysoedd Philippines.
Mae Gigi Ricaforte, Dirprwy Nyrs Arwain, yn cofio symud i Gymru: “Pan wnaethon ni adael ein cartrefi yn Ynysoedd Philippines i ddod i weithio i Tŷ Hafan, rhoddwyd y cyfle i ni gael gwell bywyd. Daethom ni yma ar gyfer y swyddi. Doedden ni ddim yn sylweddoli bryd hynny ei fod yn gymaint mwy na gwaith ac er ein bod ni wedi gadael ein teuluoedd ein hunain gartref, roeddem yn ymuno â theulu Tŷ Hafan.
“Mae ugain mlynedd o nyrsio gofal lliniarol plant yn gyflawniad enfawr ynddo’i hun, ond mae pwysau’r pandemig wedi bod yn her aruthrol iddyn nhw. Mae pawb wedi cael trafferthion drwy gydol y 15 mis diwethaf, ond bu’n rhaid i’r grŵp hwn o nyrsys Tŷ Hafan hefyd ymdopi a bod miloedd o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a’u hanwyliaid, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf brawychus rwy’n credu y gallwn ni i gyd ei gofio, pan gafodd eu cymuned eu hunain ei tharo yn arbennig o galed gan Covid. “Er gwaethaf hyn, maen nhw wedi bod yma ddydd ar ôl dydd mewn cyfarpar diogelu personol yn cynorthwyo’r plant a’r teuluoedd yr ydym yn gweithio â nhw. “Nid oes unrhyw ffordd arall o’i ddweud – rwy’n llawn parch enfawr atyn nhw i gyd. Maen nhw’n bobl arbennig o hyfryd, gofalgar, ymroddedig a hynod broffesiynol.
“Rydym ni wedi bod mor ddiolchgar am hyn erioed. Rydym ni’n caru’r hyn rydym ni’n ei wneud, ac rydym ni’n ei wneud o waelod ein calonnau.” Meddai Anne Alog, Nyrs Arwain, sydd wedi bod yn gweithio i Tŷ Hafan ers 2001: “Doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan wnaethon ni gyrraedd gyntaf, ond rydym ni wedi cael y cyfle i dyfu a datblygu ein sgiliau. Mae’n fraint gweithio yn Tŷ Hafan.” Talodd y Prif Weithredwr Maria Timon Samra deyrnged i’r nyrsys: “Rydych chi wedi rhoi ugain mlynedd o’ch bywydau proffesiynol i’n helusen. Mae’r hyn rydych chi wedi ei wneud i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd yr ydym ni’n gofalu amdanyn nhw, yn anhygoel.”
5
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
hanes ollie - i ni, mae tŷ hafan yn achubiaeth Dim ond 22 oed oedd Sophie a Sean pan gafodd eu mab bach Ollie ddiagnosis o’r Syndrom MOSAIC arbennig o brin. Yma, mae Sophie yn rhannu eu hanes ac yn esbonio sut mae Tŷ Hafan, yn gwbl lythrennol, yn achubiaeth i’r teulu cyfan. “Ollie yw ein hail blentyn, brawd bach i Summer. Bu’n rhaid iddo gael ei ddadebru ar ôl iddo gael ei eni, ond fe’i hanfonwyd i ward arferol wedi hynny. “Roedd ganddo grych sacrol ar waelod ei asgwrn cefn a phan ofynnais am hwn dywedodd un o’r meddygon iau bod gan Ollie ‘wyneb anarferol’ – llygaid ar wahân a chlustiau isel, ond fe wnaeth y meddygon eraill ei diystyru. “Cafodd drafferth yn bwyta o’r cychwyn. Yna methodd ei brawf clyw. Sylwodd meddyg iau arall nad oedd Ollie yn gwneud cyswllt llygad ac awgrymodd brofion pellach. “Roedd yn gyfanswm o bedwar mis rhwng ei eni ac Ollie yn cael ei dderbyn i’r ysbyty yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd. Rhoddwyd tiwb gastrig trwynol iddo am y tro cyntaf a llwyddodd i gael bwyd. Druan ag ef, dyna oedd y tro cyntaf yr oeddwn i erioed wedi ei weld yn fodlon ar ôl cael bwyd y tro hwnnw. “Yna, cafodd ei dderbyn i’r ysbyty a chynhaliwyd llwyth o archwiliadau arno. Dywedodd y meddygon wrthym eu bod wedi gweld yr holl nodweddion hyn, ond yn unigol, nid gyda’i gilydd.” Yn y pen draw, cafodd Ollie ddiagnosis o Syndrom MOSAIC. “Dim ond 22 oed oedd fy ngŵr Sean a minnau. Cawsom ein hanfon i ffwrdd gyda deunydd wedi’i argraffu o Google am y cyflwr ar ôl apwyntiad deg munud. Ac nid oedd unrhyw argymhellion o ran ble i fynd i gael rhagor o gymorth.” Ni chafodd y teulu eu profiad cyntaf o Tŷ Hafan tan oedd Ollie yn 18 mis oed. “Roeddwn i wedi bod yn ofni sut brofiad y byddai, ond roedd yn hyfryd, ddim yn glinigol o gwbl. Mae pawb yn hapus ac yn rhedeg o gwmpas yn ceisio rhoi’r amser gorau i’r plant. Roedd Ollie yn fach iawn ar yr adeg honno, dim ond 18 mis oed.” “Cefais lawer iawn o gymorth gan y staff yn Tŷ Hafan pan fu farw fy chwaer, Emma, dair blynedd yn ôl o fethiant yr arennau,” meddai. “Dim ond 35 oed oedd hi ac roeddem ni’n agos iawn.” “Arhosodd Ollie yn Tŷ Hafan gyntaf ym mis Medi 2020 ar ôl iddo ddod allan o’r ysbyty ac mae wedi bod yno sawl gwaith ers hynny. Mae’n wych.
6
“Arhosais gydag ef yn Tŷ Hafan ychydig o weithiau, ond rwy’n byw mor agos, dydw i ddim eisiau defnyddio cyfleusterau os nad oes angen i mi wneud gan fod llawer o deuluoedd eraill allan yna sydd angen y math hwn o gymorth hefyd. “Ond nid yw’n fater o’r arosiadau seibiant yn unig. Os wyf i’n cael diwrnod ofnadwy o wael, rwy’n gwybod y bydd gan rywun yn Tŷ Hafan yr amser i eistedd a gwrando arnaf i. “Nid wyf i a Sean yn siarad am yr hyn rydym ni’n mynd drwyddo gan fod y ddau ohonom ni’n mynd drwyddo a dydyn ni ddim yn gorfeddwl am y peth, rydym ni’n ceisio bwrw ymlaen â phethau. Felly i ni, mae Tŷ Hafan yn wirioneddol ardderchog. “Ac mae Summer wedi cael cwnsela hefyd. Roedd hi mor anhapus pan fu farw fy chwaer. Dyna oedd ei phrofiad cyntaf o farwolaeth. Ar ôl hynny roedd hi’n deffro yng nghanol y nos yn crio, gan redeg i mewn i ystafell Ollie i wneud yn siŵr ei fod dal yn anadlu. “Nawr mae Summer newydd orffen cyfnod arall o gwnsela. Mae wedi bod yn y tŷ drwy gydol y pandemig. Ac mae’r cwnsela wedi bod mor arbennig o dda iddi oherwydd nawr mae’n gofyn cwestiynau ac yn siarad mwy am Ollie. Rwyf i wedi prynu Bwystfil Gofidion iddi – os bydd pethau yn achosi gofid iddi yna mae’n ysgrifennu pethau i lawr ac yn eu rhoi nhw yn y bwystfil gofidion. “Nawr, diolch i’r cwnsela y mae wedi ei gael gan Tŷ Hafan, mae Summer yn teimlo ei bod yn gallu siarad am yr hyn sy’n digwydd a mwy. Ac roeddwn i eisiau hyn – roeddwn i eisiau iddi allu cael popeth allan yn yr agored. Mae’n iawn crio, mae’n iawn bod yn anhapus. “Mae Ollie eisoes wedi cael ei drosglwyddo ar frys i Tŷ Hafan ddwywaith neu dair ar gyfer gofal diwedd oes. Mae cwnsela yn sicr wedi ei helpu i ymdopi â hyn, ac oherwydd y bu’n rhaid iddi fwy am y flwyddyn ddiwethaf o dan y cyfyngiadau mwyaf llym gan ei bod yn gwarchod. “Mae Summer yn ôl yn yr ysgol gynradd bellach ac mae pethau yn bendant yn well iddi. “Pe na bai gennym ni gymorth gan Tŷ Hafan - ni fyddem ni’n cael unrhyw seibiant o gwbl. Mae’r pwll hydrotherapi yn anhygoel, yn ogystal â’r cymdeithasu â phlant a theuluoedd eraill. Mae’r nyrsys
cylchlythyr/hydref hydref/gaeaf 2021
wedi adnabod Ollie drwy gydol ei oes ac maen nhw’n anhygoel gydag ef. Hefyd, drwy’r grŵp Super Sibs, mae Summer yn cael cyfle i siarad â phlant yn yr un sefyllfa â hi ac mae hi wrth ei bodd gyda hynny. Mae Kelly Jo, yn arbennig, yn anhygoel. Roedd hi’n gwneud galwadau fideo unwaith neu ddwywaith yr wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud, ac roedd Summer yn edrych ymlaen yn arw at sgwrsio â hi. “Mae Tŷ Hafan wedi bod yno i ni yr holl ffordd. Maen nhw hyd yn oed wedi anfon parseli bwyd i ni ar ddechrau’r cyfyngiadau symud cyntaf [pan roeddem ni’n gwarchod] ac yn ein ffonio yn rheolaidd i weld sut ydym ni. “Un tro, aeth pethau’n drech na fi ac fe es i Tŷ Hafan. Roedd un o’r nyrsys, Adrian, newydd orffen gweithio ond doedd dim ots. Eisteddodd gyda fi a gwrando. Rhoddodd hynny ddigon i mi godi a dal ati.” Kelly Jo yw Gweithiwr Cymorth Brodyr a Chwiorydd Tŷ Hafan ac mae wedi treulio llawer o amser gyda Summer, ar-lein ac, yn fwy diweddar, yn bersonol. Meddai: “Roeddwn i’n cynorthwyo Summer yn wythnosol yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd Summer a minnau yn cael sgwrs ar alwadau fideo i gychwyn, roeddem ni’n chwarae gemau ac yn cyflawni gweithgareddau gyda’n gilydd, fel creu sleim, coginio a hyd yn oed gwneud lamp lafa. Cyn gynted ag yr oeddwn i’n gallu mynd â Summer allan, fe aethom ni am dro i Ynys y Barri ac i Barc Porthceri. “Un tro, penderfynodd arllwys y glaw, felly fe aethom ni i’r coed i gael lloches gan lwyddo i osgoi cael ein socian. Mwynhaodd Summer y diwrnod hwnnw gan iddi gael y siocled poeth mwyaf yr wyf i erioed wedi ei weld, yn llawn dop â malws melys – roedd yn enfawr!! “Pan ddychwelodd Summer i’r ysgol, fe’i gwelais yn ein rhith-sesiynau Super Sibs. Nawr ein bod ni’n cael sesiynau wyneb yn wyneb o’r diwedd, mae Summer yn dod i bob un ohonyn nhw, yn ogystal â’n grŵp Roblox.”
Mae Tŷ Hafan wedi bod yno i ni yr holl ffordd
Darganfyddwch sut i fod yn achubiaeth i deuluoedd fel un Ollie dros y dudalen.
7
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
gallwch chi fod yn achubiaeth i deuluoedd fel un Ollie trwy gynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan Ariennir bron i chwarter ein gwasanaethau gofalu gan roddion syn cael eu cynnwys yn ewyllysiau pobl bob blwyddyn. Rydym ni wedi ffurfio partneriaeth â’r Rhwydwaith Ewyllysiau Am Ddim Cenedlaethol i roi’r cyfle i’n cefnogwyr ysgrifennu ewyllys syml (neu bâr o ewyllysiau adlewyrchu) gyda chyfreithiwr lleol am ddim. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gynnwys rhodd i Tŷ Hafan yn eich ewyllys wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, ond rydym yn gobeithio y gwnewch chi ystyried cofio Tŷ Hafan ar ôl darparu ar gyfer eich anwyliaid. Mae croeso i chi gysylltu i glywed mwy am ein cynigion ysgrifennu ewyllys am ddim. Ewch i tyhafan.org/be-a-lifeline am ragor o wybodaeth. Fel arall, ffoniwch 02920 532 255 neu anfonwch e-bost at ein Cynghorydd Rhoddion mewn Ewyllysiau, Abbie, yn abbie.barton@tyhafan.org Bydd rhodd, ni waeth pa mor fawr neu fach, yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaethau gofal. Gyda’ch cymorth chi, gallwn barhau i fod yn achubiaeth, gan ddarparu gofal a chymorth hanfodol i’r holl deuluoedd sydd ein hangen ni, nawr ac yn y dyfodol.
8
I ddarllen mwy o straeon teuluoedd, ewch i: tyhafan.org/ family-stories
cylchlythyr/hydref hydref/gaeaf 2021
eich cymorth Mae cefnogwyr Tŷ Hafan wedi bod allan yn llu yn codi arian i’r elusen dros y misoedd diwethaf. Yn ôl yr arfer, ni fu unrhyw brinder o greadigrwydd na phenderfyniad pan ddaw i ddewis her codi arian. Mae’n amhosibl cynnwys popeth sydd wedi tynnu ein sylw, ond rydym yn gobeithio eich bod yn sylweddoli faint mae pob un ohonoch sy’n rhoi amser ac ymdrech i’n cynorthwyo yn ei olygu i bawb sy’n gysylltiedig â Tŷ Hafan.
cadw pethau’n glasurol Mae Dave yn cofio arosiadau Callum yn Tŷ Hafan: “Fy mab Callum oedd un o’r cyntaf i fod yn ddigon lwcus cael mwynhau’r cyfleusterau sydd ar gael yn Tŷ Hafan. Cawsom i gyd groeso mawr ac yn fuan roedd Callum yn dechrau aros ar ei ben ei hun gan ein bod ni fel rhieni yn difetha ei hwyl. Cafodd rai amseroedd gwych yno gyda’r ffrindiau lawer iddo eu gwneud yno.” Mae Dave wedi chwalu ei darged o £1,500 ac wedi cyrraedd swm anhygoel o £1,818. Llongyfarchiadau gan bob un ohonom ni.
emily yn cerdded yn eu hesgidiau Efallai mai dim ond 12 oed yw Emily Harmsworth, ond mae wedi bod yn mynd i’r afael â her codi arian enfawr er cof am ei brawd bach Peter, y gofalwyd amdano yn Tŷ Hafan, gan gymryd rhan mewn nid un, ond pedair o deithiau cerdded noddedig. Wrth gymryd rhan yn Walk A Day in Their Shoes, dywedodd Emily: “Nid wyf i wedi bod yn ddigon hen i gymryd rhan yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau codi arian Tŷ Hafan tan nawr, felly rwy’n gynhyrfus iawn am yr un yma!” Y pedwar aelod o staff a’r pellteroedd i ddewis o’u plith yw ein gweithiwr cymorth i dadau Dan – un filltir; nyrs bontio Sophie – pum milltir; therapydd cyflenwol Katie – deg milltir a nyrs hosbis Claire – 15 milltir.
Os hoffech gymryd rhan mewn her codi arian eich hun, dylech anfon e-bost i supportercare@tyhafan.org a dweud wrthym amdano fel y gallwn eich helpu ar eich ffordd. Os hoffech rywfaint o ysbrydoliaeth, ewch i tyhafan.org/fundraise-for-us
9
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
the big give Y Nadolig hwn, bydd Tŷ Hafan yn cymryd rhan yn ymgyrch arian cyfatebol ar-lein mwyaf y DU – Her Nadolig the Big Give. Am saith diwrnod, mae’n cynnig cyfle i gefnogwyr yr elusennau sy’n cymryd rhan ddyblu eu rhodd. Eleni, bydd Her Nadolig 2021 yn cael ei chynnal o 12:00pm 30 Tachwedd tan 12:00pm 7 Rhagfyr. Bydd yr ymgyrch codi arian hon yn uno dyfarnwyr grantiau, busnesau a chyhoedd Cymru mewn cefnogaeth i brosiect yn ein hosbis a fydd yn creu man chwarae a therapïau cynhwysol i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd. Bydd ein Prosiect Chwarae Hygyrch newydd yn creu man unigryw i blant a theuluoedd archwilio eu byd, deall eu teimladau a mynegi emosiynau mewn amgylchedd amlsynnwyr difyr. Mae gan blant Tŷ Hafan anableddau cymhleth yn aml, sy’n golygu y gall mannau chwarae safonol fod yn beryglus ac yn anhygyrch iddynt. Mae hyn yn gadael teuluoedd yn teimlo eu bod wedi’u heithrio ac mae’r plentyn yn colli allan ar hwyl a chyffro. Bydd ein prosiect Her Big Give 2021 yn helpu i ddatrys y broblem hon trwy ddarparu cymorth chwarae a therapi arbenigol a rhyngweithiol, wedi’i ddylunio ar sail anghenion plant o bob oed a gallu. Bydd y man yn cael ei weddnewid i’w wneud yn fwy cynhwysol ac ystyriol o ddefnyddwyr. Bydd offer codi o’r nenfwd newydd yn cael ei ychwanegu drwyddi draw, gan ei gwneud yn haws i symud o gwmpas y man a rhyngweithio gydag offer chwarae a phlant eraill. Bydd yr offer codi yn cael eu hategu gan wregysau arbenigol y mae’n hawdd eu gosod ac sy’n gefnogol a chyfforddus. Gall cael eu codi fod yn frawychus i blant, felly bydd ein gweithiwr chwarae bob amser wrth ochr y plentyn i wneud y profiad yn hwy ac yn rhan o’n taith chwarae a therapi. Mae Her Nadolig y Big Give yn cynnig cyfle unigryw yn y flwyddyn i ddyblu effaith eich rhodd i Tŷ Hafan trwy roi arian cyfatebol ar gyfer pob punt a roddir. Rydym ni wir angen eich cymorth y Nadolig hwn i’n helpu i gyrraedd ein targed codi arian cyhoeddus o £10,000 drwy Her y Big Give. Os hoffech ddarganfod mwy am y prosiect hanfodol hwn neu i roi eich cefnogaeth heddiw, cysylltwch ar 02920 532199 neu anfonwch e-bost i supportercare@tyhafan.org
10
fan newydd diolch i euro commercials Mae Tŷ Hafan yn falch iawn o allu mynd ag un o’n gwasanaethau allweddol – y fenter diwrnodau Aros a Chwarae bythol-boblogaidd – allan i’r gymuned, diolch i haelioni Euro Commercials, ein Gwerthwr Faniau Mercedes-Benz lleol. Mae’r fan, model L1 Vito 119 CDI Premium cryno, yn destun cytundeb nawdd newydd gydag Euro Commercials, a ddewisodd Tŷ Hafan fel eu helusen i’w chefnogi eleni. Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Euro Commercials Jeff Carne: “O ystyried y gwaith anhygoel y mae’r tîm yn TŷŷHafan yn ei wneud, roedd yn ddewis hawdd iawn cefnogi a bod yn bartner i’r elusen ardderchog hon. Rydym yn arbennig o falch y bydd y Vito yn mynd â Tŷ Hafan i’r gymuned ac yn sicrhau bod y gwasanaeth Aros a Chwarae yn dod yn hygyrch i gynulleidfa lawer ehangach.”
cylchlythyr/hydref hydref/gaeaf 2021
cofio eich anwyliaid Gall rhodd er cof am rywun fod yn ffordd arbennig ac ystyrlon iawn o gofio a dathlu bywyd rhywun agos atoch chi. Sut bynnag y byddwch yn penderfynu eu cofio gyda Tŷ Hafan, gallwch fod yn siŵr y byddwch chi a’ch anwylyd, gyda’ch gilydd, yn darparu gofal a chymorth i gannoedd o blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd yng Nghymru, am flynyddoedd lawer i ddod. Dyma rai o’r gwahanol ffyrdd y gallwch roi er cof am rywun neu gasglu rhoddion Tŷ Hafan er cof am anwylyd: • Creu cronfa deyrnged – crëwch gofeb ar-lein hirhoedlog i’ch anwylyd yn tyhafan.org/in-memory. Gallwch rannu’r dudalen hon gyda’ch ffrindiau a’ch teulu a’u gwahodd i rannu atgofion arbennig, lluniau ac ychwanegu rhoddion ystyriol i gofio eich anwylyd •
asgliadau a rhoddion angladd yn hytrach na blodau – gofynnwch i deulu a C ffrindiau wneud rhodd er cof am rywun yn ei angladd
•
igwyddiadau er cof – cymerwch ran mewn taith gerdded, rhedeg neu D her bersonol er cof am eich anwylyd, neu plannwch flodyn neu goeden i’w gofio. Gallech hefyd ddathlu ei fywyd trwy gael te prynhawn i rannu atgofion parhaol gyda theulu a ffrindiau
dathlu adegau gwerthfawr bywyd Dathlwch briodas, partneriaeth sifil, pen-blwydd, pen-blwydd priodas neu garreg filltir bwysig arall gan helpu i gynorthwyo plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd. Mae gofyn am roddion yn hytrach nag anrhegion yn ffordd llawn ysbrydoliaeth o ddathlu achlysur arbennig. • Codi arian mewn priodas – mae cefnogi Tŷ Hafan wrth ddathlu eich priodas neu bartneriaeth sifil yn ffordd anhygoel o wneud y diwrnod yn fwy arbennig fyth! Gallwch ddewis o’n hamrywiaeth hyfryd o ffafrau priodas, sefydlu tudalen ddathlu ar-lein, gwneud cais am amlenni rhodd neu fwynhau ein cardiau swîp areithiau – y mae pob un yn ffordd wych o godi arian heb gymryd unrhyw amser ychwanegol yn ystod y dydd. • Codi arian ar ben-blwydd – dathlwch eich diwrnod arbennig trwy sefydlu tudalen ddathlu ar-lein neu godi arian ar Facebook a’u rhannu gyda ffrindiau a theulu fel y gallant roi i Tŷ Hafan yn hytrach nag anrhegion pen-blwydd. •
Te i Tŷ Hafan – beth am gynnal te parti i ddathlu eich pen-blwydd, eich diwrnod graddio, pen-blwydd priodas neu achlysur arbennig arall a gwahodd eich ffrindiau, eich teulu neu gydweithwyr! O wahoddiadau i gemau parti, defnyddiwch ein hadnoddau y gellir eu lawrlwytho i helpu i gynllunio’r parti perffaith.
Bydd eich rhodd er cof am anwylyd neu i ddathlu achlysur arbennig yn helpu teuluoedd Tŷ Hafan i greu a mwynhau eu hatgofion hapus eu hunain i ddal gafael arnynt am byth. Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu ar bob cam o’r daith. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch ar 02920 532199 neu anfonwch e-bost i supportercare@tyhafan.org Ewch i tyhafan.org/in-celebration am ragor o wybodaeth.
11
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
pobl gyffredin, bywydau arbennig Wythnos Hosbisau Plant (dydd Llun 21 i ddydd Sul 27 Mehefin) yw’r unig wythnos codi ymwybyddiaeth ac arian sydd wedi’i neilltuo i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’r gwasanaethau sy’n eu cynorthwyo. Mae bob amser yn wythnos i’w nodi yn y calendr, â digonedd o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer ein teuluoedd. Eleni, fe wnaethom ymuno â Tŷ Gobaith, yr hosbis plant yng ngogledd Cymru, i ddefnyddio Wythnos Hosbisau Plant i gydnabod cadernid a dewrder aruthrol y 430 o blant â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd ledled Cymru yr ydym yn eu cynorthwyo – pobl y mae byw beunyddiol yn aml yn cyflwyno heriau lluosog a chymhleth, heriau sydd wedi cael eu gwneud yn fwy anodd fyth gan y pandemig. Yn siarad yn ystod Wythnos Hosbisau Plant, dywedodd Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tŷ Hafan: “Mae teuluoedd plentyn â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd eisoes yn ei chael yn anodd o ran sut maen nhw’n byw eu bywydau beunyddiol. Maen nhw’n bobl gyffredin sy’n byw bywydau arbennig. Mae pandemig y coronafeirws wedi lluosi’r heriau hynny yn esbonyddol. “Tra bu’n rhaid i gynifer ohonom ni gydbwyso gweithio gartref ac addysgu gartref yng nghanol pryderon am effaith Covid ar ein teuluoedd a’n hanwyliaid, mae hyn yn cael ei roi yn ei wir oleuni pan fyddwn yn meddwl am rieni ein plant hosbis. “Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn ddarparwyr gofal sylfaenol i’w plentyn â chyfyngiad ar ei fywyd bob awr o bob dydd, heb y mynediad arferol at rwydweithiau cymorth. Mae eu cyfleoedd arferol i gael seibiant wedi cael eu hatal oherwydd y cyfyngiadau amrywiol a gofynion gwarchod. “Mae ein hosbisau, y mae ein teuluoedd wedi eu disgrifio fel eu ‘hachubiaeth’, wedi aros ar agor i ddarparu gofal argyfwng a chymorth diwedd oes trwy gydol y pandemig ac yn croesawu mwy o deuluoedd yn ôl yn ofalus ac yn ddiogel. Ychwanegodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr Tŷ Gobaith: “Fe wnaethom ni benderfynu defnyddio achlysur Wythnos Hosbisau Plant i dynnu sylw at y plant rhyfeddol hyn a’u teuluoedd, i
12
gydnabod yn union pa mor arbennig ydyn nhw, drwy’r dydd, bob dydd yn aml gydag ychydig iawn o gymorth, a sut rydym ni, yr hosbisau plant yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu i deuluoedd y cymorth y maen nhw’n ei haeddu a’i angen yn ddybryd yn aml iawn, ac yn fwy fyth ers mis Mawrth 2020 pan drowyd byd pob un ohonom ni wyneb i waered. “Rydym ni hefyd eisiau defnyddio’r achlysur hwn i ddiolch i’r miloedd o unigolion, clybiau a chymdeithasau, busnesau a sefydliadau sydd wedi cynorthwyo Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith mor hael drwy rai o’n cyfnodau anoddaf – rydym ni’n diolch iddyn nhw o waelod ein calonnau. Rydym ni bob amser wrth ein boddau pan hoffai rywun ein helpu mewn rhyw ffordd ac rydym ni bob amser yn agored i gynigion a syniadau newydd,” meddai Andy Goldsmith. “Mae galw am wasanaethau gofal lliniarol i blant yng Nghymru yn parhau i gynyddu ac rydym ni’n esblygu gwasanaethau ein hosbisau yn gyson i geisio bodloni’r galw hwn. Er ein bod ni wrth ein boddau o glywed y bydd ein ffrindiau yn y sector hosbisau plant yn yr Alban yn parhau i elwa o 50% o gyllid llywodraeth,” meddai Maria Timon Samra, “mae ein helusennau ni yn derbyn llai na 10% o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i gynllunio ymlaen llaw, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni.” Ychwanegodd Andy Goldsmith: “Mae angen i ni gynyddu ein cais am gyllid teg a chynaliadwy i hosbisau plant yng Nghymru nawr, fel nad yw plant Cymru a’u teuluoedd o dan anfantais annheg. Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Achubiaeth”. Os hoffech ddarganfod mwy am waith Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, ewch i tyhafan.org/lifeline-fund.
cylchlythyr/hydref hydref/gaeaf 2021
"Mae ein hosbisau, y mae ein teuluoedd wedi eu disgrifio fel eu ‘hachubiaeth’, wedi aros ar agor i ddarparu gofal argyfwng a chymorth diwedd oes trwy gydol y pandemig"
13
cwtsh
newyddion a straeon t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
grŵp sgowtiaid tŷ hafan yn ennill gwobr y frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol Llongyfarchiadau i Grŵp Sgowtiaid Tŷ Hafan, y Grŵp Sgowtiaid cyntaf i gael ei leoli mewn hosbis plant yn y DU, am gael ei anrhydeddu â Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol, y wobr uchaf y gall grŵp gwirfoddol ei hennill yn y DU. Sefydlwyd Grŵp Sgowtiaid Tŷ Hafan 13 mlynedd yn ôl ac mae wedi cynnig cyfleoedd i ddysgu a thyfu mewn amgylchedd difyr a chynhwysol i fwy na 100 o blant ers ei gychwyn, a chredir mai dyma’r unig grŵp Sgowtiaid o hyd sydd wedi’i leoli mewn hosbis plant yn y DU. Nawr, mae’r grŵp, sy’n cynnwys yr arweinwyr gwirfoddol Ruth Weltch a Steve Barkley, wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol at y gymuned.
14
Meddai’r rhiant Kyle Jones: “Mae ein mab Christopher wedi bod yn mynychu Grŵp Sgowtiaid Tŷ Hafan ers dros flwyddyn. Mae’n gallu bod yn ef ei hun ac mae gweithgareddau yn cael eu haddasu i sicrhau cynwysoldeb. Mae’r grŵp yn mynd gam ymhellach i gynnwys yr holl blant er gwaethaf eu galluoedd ac mae’n helpu ein mab i dyfu o ran hyder a sgiliau newydd. Ewch i tyhafan.org/latest-news i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn Tŷ Hafan.
cylchlythyr/hydref 2021
15