Gwanwyn/Haf 2022 Celebrating
2
y
0
e a r s
rhowch
Y newyddion a'r straeon diweddaraf gan Työ Hafan
gwneud i bob eiliad gyfri
y tu mewn straeon o’r wal olion dwylo
04
stori esmai
08
cipolwg ar yr arwyr tawel
12
ymuno aö ’n cymuned
cwtch
cynnwys croeso
03
straeon o’r wal olion dwylo
04
seth yn gwneud ei farc
06
cyllid ychwanegol gan y llywodraeth
07
stori esmai
08
hosbis ar ei newydd wedd
10
cipolwg ar yr arwyr tawel
12
gŵyl oleuadau canol gaeaf
13
cymorth codi arian
14
draig o’r enw môr
15
t ŷ hafan mewn rhifau
16
lle mae’r adar yn canu ein henwau
18
cysylltwch Mae sawl ffordd o gysylltu â ni yn T ŷ Hafan: www.tyhafan.org supportercare@tyhafan.org 029 2053 2199
02
Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
croeso gan maria Wrth i ni edrych ymlaen at ddyddiau brafiach o haf, rwyf wrth fy modd i’ch gwahodd i fwynhau rhifyn diweddaraf ‘Cwtch’. Gobeithio y cewch chi, fel fi, eich ysbrydoli, gan rai o’r lluniau a straeon rhai o’r bobl fwyaf arwrol yr wyf yn eu hadnabod, y plant, y bobl ifanc a’u teuluoedd anhygoel sy’n cael eu cefnogi gan ein helusen. I Tŷ Hafan, a llawer ohonoch chi, mae’n teimlo fel ein bod yn dod allan o gyfnod hir o aeafgysgu. Wedi dweud hynny, mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o brysur i ni i gyd. Wrth i’n timau gofal anhygoel barhau i ddarparu eu gofal tyner, arbenigol mewn cyfarpar diogel personol, bob awr o’r dydd a’r nos, roedd ein timau cymunedol allan yng nghartrefi plant, ysgolion, mewn ysbytai, lle bynnag yr oedd eu hangen. Er gwaethaf y cyfyngiadau parhaus, gweithiodd ein cydweithwyr manwerthu yn galed i gadw ein siopau ar agor; parhaodd ein cydweithwyr loteri, codi arian, dyngarwch a gofal am gefnogwyr i ymgysylltu â’n cefnogwyr a’n rhoddwyr i godi arian hanfodol i’n galluogi i gefnogi rhai o’r plant a’r teuluoedd mwyaf arbennig yng Nghymru drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae’n rhaid i mi gofio fy nghydweithwyr ‘y tu ôl i’r llenni’ hefyd. Mae rhedeg busnes i fod yn elusen, a darparu gofal a chefnogaeth liniarol am ddim i’r rhai hynny sydd eu hangen, yn parhau i fod yn her wirioneddol yn yr
ein cylchgrawn ar ei newydd wedd mae cwtch wedi ei weddnewid, ond mae’n dal i gynnwys y straeon ysbrydoledig gan bobl ifanc a’u teuluoedd, a’r newyddion diweddaraf am godi arian.
hinsawdd bresennol, ond cawn ein hysbrydoli bob dydd gan y plant a’r teuluoedd hyn, a gennych chi, ein cefnogwyr ffyddlon. Bu rhai uchafbwyntiau cadarnhaol. Yn nyddiau tywyllaf y gaeaf, ymatebodd Llywodraeth Cymru i’n hymgyrch ar y cyd (a gefnogwyd gan lawer ohonoch chi) â Tŷ Gobaith, yr hosbis i blant yn y gogledd, am ‘Gronfa Achubiaeth’, gan gynyddu, i ddechrau, ein cyllid statudol ar gyfer cost gofal o 5% i 21%, i fod yr un fath â Lloegr. Er bod llawer mwy i’w wneud i gyflawni cyllid o 50% (fel hosbisau plant yn yr Alban), mae hwn yn gam sylweddol ymlaen, yn enwedig pan fo costau’n cynyddu ar gyfradd ddigynsail ym mhob rhan o’r elusen gyfan. Roedd y ddwy elusen wrth eu boddau hefyd i gael eu dewis gan gydweithwyr Cymdeithas Adeiladu Principality yn Elusen y Flwyddyn - gan ein galluogi i godi arian, ac yn hanfodol, ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau ledled Cymru. Gwnaethom ni hefyd gwblhau’r gwaith o adnewyddu ein hosbis a’n gerddi synhwyraidd, a gobeithio y cewch chi eu gweld cyn bo hir.
Unwaith eto, ni allem wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud heboch chi. Diolch!
Rydym wedi cyflwyno codau QR, felly gallwch sganio’r cod yn gyflym ar eich dyfais symudol i ddarllen mwy am yr erthygl ei hun a straeon tebyg.
03
cwtch
Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan
www.tyhafan.org
straeon o'r… waliau olion dwylo Pan ofynnir beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan fyddwch chi’n meddwl am Tŷ Hafan, mae’r atebion yn debygol o fod yn amrywiol iawn. Ond rhywbeth sy’n taro ymwelwyr â’r hosbis yw pa mor lliwgar yw hi, o’i hawyrgylch unigryw i’r cymeriadau y byddwch yn eu cwrdd ac wrth gwrs, yr olion dwylo tanbaid ar y waliau. Wrth gerdded i ganol yr hosbis, cewch eich cyfarch gan olion dwylo a thraed o bob siâp, maint a lliw. Mae’r waliau wedi’u haddurno â’r darluniau hyn o fan a lle ers agor ein drysau. Maen nhw’n rhan enfawr o’r hosbis ac mor bwysig i’r rhai hynny sydd wedi gadael eu hôl. Mae creu atgofion yn rhan fawr o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn Tŷ Hafan ac mae rhywbeth dirnadol fel yr olion dwylo yn helpu i wneud i’r cysylltiad â’r amser hapus y gwnaethon nhw ei dreulio gyda’i gilydd barhau. O blant Tŷ Hafan a’u teuluoedd i’n noddwr, Tywysog Cymru, mae’r waliau hyn yn arddangos rhan fawr o stori Tŷ Hafan, gan roi cefndir i olion dwylo a thraed y plant hynny sydd wedi pasio trwy ein bywydau yn llawer rhy gyflym ond sydd wedi gwneud argraff ddofn iawn. Bydd Tŷ Hafan yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ond mae coffau heb amheuaeth yn un o’n helfennau pwysicaf. Mae gallu ailymweld â’r waliau a gweld yr olion hyn o gyfnod gwahanol yn golygu cymaint i deuluoedd, gan wybod bod yna le lle na fydd eu plentyn byth yn angof.
Dyma olion dwylo a thraed y plant hynny sy’n pasio trwy ein bywydau yn rhy gyflym ond sy’n gadael argraf f mor barhaol.
04
Ar ôl mwy nag 20 mlynedd o ddefnydd cyson, mae tipyn o dyllau a marciau wedi ymddangos ar y waliau. Felly, i’w chadw’n ffres ac i roi mwy o le i ni allu parhau â’r traddodiad hwn, yn rhan o’r gwaith o adnewyddu’r hosbis, rydym wedi edrych am ffyrdd newydd o gadw’r olion. Mae pob ôl ar bob wal wedi’i ddigideiddio’n ofalus, gan amlygu’r rhai sydd wedi colli eu lliw a grwpio teuluoedd gyda’i gilydd, maen nhw wedi eu hatgynhyrchu ar bersbecs a’u gosod o flaen y rhai gwreiddiol fel eu bod wedi’u diogelu y tu ôl i’r waliau newydd. Mae’n ffordd o sicrhau hirhoedledd yr olion a chadw’r rhai gwreiddiol, gan hefyd fwrw ymlaen â’r gwaith adnewyddu sydd mor hanfodol i’r ffordd yr ydym yn darparu gofal arbenigol i’n teuluoedd. Gall teuluoedd bellach weld sut y mae’r waliau ar eu newydd wedd yn edrych a dechrau ychwanegu atyn nhw. Mae llawer o bethau am ein hosbis sydd wedi ei hadnewyddu i deimlo’n gyffrous amdanyn nhw, ond y man cychwyn i’r cyfan yw ein waliau olion dwylo enwog.
Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
ych o chwaer wych i nyrs w Mae Meg Fears, 23, wedi ymuno â’n Tîm Gofal yn ddiweddar fel un o nyrsys gofal lliniarol arbenigol Tŷ Hafan. Cawsom air gyda Meg a gofyn iddi rannu ei phrofiadau i’n helpu ni i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys.
“Mae gan Greg nodweddion awtistiaeth felly mae’n bwysig iawn bod ganddo, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, yr un bobl yn gofalu amdano. Ac mae’n cael hynny yma yn Tŷ Hafan. Mae’r awyrgylch yma bob amser mor hyfryd.
“Ymunais â’r tîm gofal yn Tŷ Hafan fel nyrs gofal lliniarol pediatrig yn ddiweddar,” meddai Meg, “ond rwyf wedi bod yn dod i Tŷ Hafan ers i mi fod yn wyth oed.
“Hyd yn oed pan adawodd Greg Tŷ Hafan oherwydd ei fod wedi tyfu’n hŷn nag y mae’r gwasanaethau’n addas ar eu cyfer, cefais i lawer o gefnogaeth trwy grŵp Super Sibs Tŷ Hafan o hyd.
“Mae gan fy mrawd Greg Syndrom Down yn ogystal â phwysedd gwaed uchel yr ysgyfaint a chlefyd y galon. Dechreuodd ddod i Tŷ Hafan pan oedd yn 15, a dechreuodd fy mrawd arall Tom a mi ddod yma hefyd.
“Nawr, 15 mlynedd ar ôl i mi ddod yma fel plentyn yn gyntaf, rwy’n nyrs yn gweithio yn Tŷ Hafan. Mae’n hyfryd ond mae’n dal i deimlo’n swreal. Rwy’n deffro ac yn meddwl ‘O ie, rwy’n mynd i weithio yn Tŷ Hafan!’ Mae mor anhygoel!”
“Roeddwn i wrth fy modd o’r cychwyn cyntaf. Mae tîm hyfryd wedi bod yma bob amser a phan oeddwn i’n iau byddwn i’n ‘helpu’ y nyrsys – byddwn i’n copïo popeth yr oedd y nyrsys yn ei wneud. “Gyda fy rhieni a fy mrawd arall Tom, rwyf i wedi gofalu llawer iawn am Greg. Felly, roedd yn teimlo fel dewis naturiol i mi i fynd ymlaen i astudio nyrsio pediatrig ym Mhrifysgol Abertawe. Gweithiais wedyn yn Ysbyty Arch Noa am gyfnod, a oedd yn brofiad anhygoel. “Ond penderfynais ddod i faes gofal nyrsio lliniarol yn Tŷ Hafan oherwydd rwy’n credu ei fod mor arbennig. Mae’n llawer iawn mwy na’r hyn y mae pobl yn ei feddwl.
“15 mlynedd ar ôl i mi ddod yma yn gyntaf, rwyf nawr yn nyrs yn Tŷ Hafan.”
05
cwtch
Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan
seth yn gwneud ei farc ar senedd ieuenctid Cymru
Gwnaeth Seth Burke, sydd yn ei arddegau, hanes yn ddiweddar drwy ddod yn aelod cyntaf erioed Tŷ Hafan o Senedd Ieuenctid Cymru. Ef hefyd yw’r aelod cyntaf erioed â chyflwr sy’n gwaethygu gydol oes o senedd gyntaf y DU a weithredir ar gyfer a gan bobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 18 oed. “Fy enw i yw Seth Burke, rwy’n 13 oed, a fi yw eich Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer Rhanbarth Canol De Cymru, wedi fy lleoli yn Ninas Powys. Rwy’n falch o fod yn bartner â Hosbis Tŷ Hafan, sydd wedi bod yn fy helpu i a fy nheulu am y pum mlynedd ddiwethaf. “Rwy’n credu mai fi yw’r cyntaf yn y Senedd [â chyflwr sy’n gwaethygu gydol oes] ac rwy’n dymuno gosod esiampl i blant eraill i ddilyn eu breuddwydion. Rwy’n credu weithiau, oherwydd ei bod wedi bod yn anodd i mi, fy mod i’n dymuno ei gwneud yn haws i bawb. “Rwyf mor falch o fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru – a hyd yn oed yn fwy balch o fod yr Aelod cyntaf o’r Senedd Ieuenctid sydd mewn cadair olwyn ac sydd â Nychdod Cyhyrol Duchenne (DMD). Rwyf eisiau bod yn llais cryf dros blant eraill fel fi, dros blant eraill sy’n defnyddio cadair olwyn a dros hosbisau plant, a’r teuluoedd a’r ffrindiau hynny sy’n mynd i’r eithaf i wneud yn siŵr nad oes dim na ellir ei gyflawni.” Ychwanegodd Seth: “Ar ôl tair blynedd yn y swydd, rwy’n gobeithio y byddaf wedi helpu i greu Cymru sy’n fwy tosturiol i blant fel fi, ac i sicrhau bod hosbisau plant Cymru yn cael yr holl gymorth y gallan nhw ei gael er mwyn gallu helpu hyd yn oed mwy o bobl ifanc, ac rwy’n gobeithio cael y profiadau a’r sgiliau bywyd i fynd ymlaen i wneud beth bynnag rwy’n dymuno ei wneud.”
Mae Seth wedi pennu pum maes blaenoriaeth y mae’n bwriadu mynd i’r afael â nhw yn ei swydd yn y Senedd. 1. Amddiffyn yr amgylchedd a byd natur
2. Gwella hygyrchedd i
fannau cyhoeddus i bobl ag anableddau
3. Trechu bwlio ar-lein
06
4. Mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc
5. Cynyddu mynediad at
glybiau am ddim sy’n hybu gweithgareddau corfforol i blant a phobl ifanc
www.tyhafan.org
Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
y cyllid ychwanegol gan iaeth” llywodraeth “yn achub Prif bwyslais yn Tŷ Hafan dros y blynyddoedd diwethaf fu adeiladu mwy o gydnerthedd yn ein gwasanaethau yn yr hosbis ac yn y gymuned. Gan fod llai na 10%, ac yn aml cyn lleied â 4%, o’n cyllid yn dod gan y llywodraeth, mae Tŷ Hafan wedi dibynnu bron yn gyfan gwbl ar ewyllys da ein cefnogwyr i ariannu ein gwasanaethau hanfodol. Yn Lloegr, mae’r cyllid cyfatebol yn 21%, yng Ngogledd Iwerddon 25% ac yn yr Alban 50%. Yn dilyn galwadau am “Gronfa Achubiaeth” ar gyfer hosbisau plant Cymru yn sgil yr adroddiad diweddar Lleisiau ein Teuluoedd, gwnaeth y gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, ddatganiad ar ganfyddiadau cam cyntaf adolygiad cyllid hosbisau Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Gofal Diwedd Oes. Roedd y cyhoeddiad yn amlinellu dyraniad blynyddol ychwanegol o £888,000 mewn cyllid gan y Llywodraeth, wedi’i rannu rhwng y ddwy hosbis. Bydd y cyllid hwn yn galluogi Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, yr hosbis plant yn y gogledd, i ymestyn ehangder a dyfnder eu gwasanaethau a darparu mwy o ofal seibiant i’r teuluoedd hynny sydd ei angen mor daer. Yn y pen draw, bydd y cyhoeddiad yn helpu i leihau baich derbyniadau heb eu cynllunio a rhai argyfwng ar y GIG. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen y cymorth ychwanegol hwn ar deuluoedd plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd. Mae teuluoedd wedi dweud wrthym mai Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn aml yw’r unig leoedd lle maen nhw’n derbyn gofal a chymorth hanfodol. Bydd y cyllid newydd hwn yn datblygu ein huchelgais i greu Cymru fwy tosturiol, un sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd gofalu am blentyn tuag at ddiwedd eu bywyd annheg o fyr ac yn cefnogi’r teulu drwy’r adegau anoddaf.
Sganiwch i weld rhagor o wybodaeth am y gronfa achubiaeth
07
cwtch
Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan
www.tyhafan.org
stori esmai
Ym mhob rhifyn o Cwtch, rydym yn achub ar y cyfle i dynnu sylw at stori o leiaf un teulu i ddangos i’r darllenwyr yr effaith wirioneddol y mae eu cymorth yn ei chael ar fywydau y bobl hynny sydd ein hangen ni. Nid yw taith pob teulu gyda Tŷ Hafan yr un fath. Rhan o’r her ac, heb os nac oni bai, rhan o lawenydd y swydd, yw gweithio gyda phob teulu i benderfynu sut y gallwn eu cefnogi orau. Gallai hynny gynnwys caniatáu i’r plentyn fynegi ei deimladau drwy gerddoriaeth, rhoi dihangfa i frodyr a chwiorydd neu helpu rhieni i ymdopi, hyn i gyd gan ddarparu gofal meddygol arbenigol pan fo angen. Cafodd Esmai o’r Barri, sy’n bedair blwydd oed, ddiagnosis o Syndrom CHARGE yn fuan ar ôl cael ei geni. Cafodd hi a’i mam, Sami, eu hatgyfeirio i Tŷ Hafan yn 2017 pan oedd Esmai yn ddim mwy na naw mis oed ac maen nhw wedi bod yn defnyddio ein gwasanaethau oddi ar hynny. “Mae Syndrom CHARGE yn golygu bod Esmai yn rhannol ddall ac yn rhannol fyddar. Mae’n rhaid iddi hefyd gael ei bwydo drwy diwb, nid oes ganddi unrhyw gydbwysedd, mae’n cael pyliau yn rheolaidd ac mae ganddi broblemau cysgu ac ymddygiad,” meddai Sami. “Mae’n gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd, ond mae’n waith caled gofalu amdani. Dydw i ddim yn cael llawer o gwsg. Mae hyn wedi achosi i mi ddioddef iselder a gorbryder. “Tŷ Hafan yw’r unig seibiant y mae Esmai a mi yn ei gael. Yn y blynyddoedd cyntaf pan oeddem yn dod yma i aros am ddiwrnod neu ddau – dwywaith y flwyddyn – roeddwn i’n aros gyda hi yn yr hosbis.
“Yna, pan ddaeth Covid, cawsom wybod mai dim ond un ymweliad y flwyddyn y byddem ni’n ei chael, ond yn ddiweddar, gan ein bod ni’n byw yn y Barri ac yn agos i’r hosbis, mae Esmai wedi gallu mynd i mewn am fwy o gyfnodau o ofal seibiant oherwydd eu bod nhw wedi ein ffonio ni ar fyr rybudd pan fo gwely ar gael yno. “Mae gofalu am Esmai yn waith bob awr o’r dydd a’r nos felly pan fydd hi’n mynd i T ŷ Hafan am ofal seibiant, mae’n fy ngalluogi i wneud y pethau symlaf, fel cael bath a chysgu. Pethau y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol yn llwyr. “Heb Tŷ Hafan byddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn oherwydd dyna’r unig seibiant rwy’n ei gael ar hyn o bryd. Roedd fy mam yn arfer fy helpu gyda hi gryn dipyn ond dydyn ni ddim wedi gallu ei gweld hi’n iawn am flwyddyn bellach oherwydd y pandemig. “Mae Esmai yn gofyn yn barhaus os yw hi’n cael mynd i Tŷ Hafan nawr. Mae hi wrth ei bodd â’i hystafell yno. Pan fydda’ i’n mynd â hi yno, mae hi’n codi ei llaw ac yn dweud, “ta ta mam” ac i ffwrdd â hi. Mae’n gwneud lles i’r ddwy ohonom ni, i’n hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol. “Tŷ Hafan yw’r unig gymorth, y tu allan i’r teulu yr wyf i erioed wedi cael ei gynnig. Pan oeddwn i’n aros yno gyda Esmai, roedd yn wych. Roedd bwyd gwych yn cael ei goginio i mi ac roedd gen i wely cyfforddus. Roedd fel bod mewn gwesty heblaw’r ffaith mod i’n gallu cael ychydig o gwsg yno.”
Dod i wybod mwy am ein teuluoedd
“Tŷ Hafan yw’r unig ofal seibiant y mae Esmai a mi yn ei gael”
08
Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
beth d o b y w yn g m i d d i o.” d w d b e h “Dyd d w neu i e ’n i n fyddw
09
cwtch
Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan
www.tyhafan.org
hosbis ar ei newydd wedd Mae hi wedi bod yn wych gwylio’r gwaith o adnewyddu’r hosbis yn datgelu ei hun ac rydym yn dwlu ar fanylion y thema traeth sy’n ei gwneud yn lle mor fywiog – y cefndir perffaith i’r golygfeydd dros Fôr Hafren. Dyma gasgliad o luniau o’r tu mewn i’r hosbis.
10
Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
11
cwtch
Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan
cipolwg ar yr arwyr tawel
www.tyhafan.org
Mae anghenion meddygol pob plentyn sy’n defnyddio Tŷ Hafan yn hynod o gymhleth, ac mae rhai cyflyrau bron â bod yn unigryw i’r plentyn hwnnw. Felly pan fyddwn ni’n darparu ein cymorth cyfannol i’r plant hyn, mae’n cymryd tîm o weithwyr proffesiynol sydd wedi cael llawer iawn o hyfforddiant i fodloni eu hanghenion. Rydych chi wedi cwrdd â’n nyrsys ar y tudalennau hyn o’r blaen ac rydym wrth ein bodd yn rhannu fideos a lluniau o’r arbenigwyr yn nhîm y cymuned ar ein cyfryngau cymdeithasol. Ond pwy yw’r arwyr tawel sy’n gwneud yn siŵr bod gan y plant rywun yno ar eu cyfer bob amser, sy’n cefnogi’r nyrsys ac yn mwynhau gwneud llanast gyda’r plant yn ystod chwarae blêr? Mae Karen yn weithiwr cymorth gofal iechyd yn T ŷ Hafan a dyma y mae’n ei hoffi fwyaf am ei swydd. Rwyf wedi bod yn gweithio yn Tŷ Hafan am ychydig dros dair blynedd fel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gan weithio ochr yn ochr â’r nyrsys a’r gweithwyr proffesiynol eraill i gynnig gofal seibiant byr, gofal argyfwng a gofal diwedd oes i blant a’u teuluoedd. Mae’n lle arbennig iawn i weithio ynddo. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fwynhau fy swydd ac rwy’n credu ei bod yn fraint gallu gweithio gyda phlant mor anhygoel, a threulio amser gyda nhw a’u teuluoedd – nid pawb sy’n gallu dweud eu bod wedi dod i’r gwaith wedi gwisgo fel Tellytubby ar gyfer sifft! Gall ein dyddiau / nosweithiau amrywio o gael llawer iawn o hwyl – taflu dŵr gyda phlentyn a’i frawd neu chwaer ar y maes chwarae, dathlu Nadolig yn yr haf i alluogi teuluoedd i wneud atgofion gwerthfawr neu ddarllen hoff stori i blentyn yn ei wely pan fo angen ychydig o gysur. Mae gwybod bod rhieni a theuluoedd yn ymddiried digon ynoch chi i adael eu plentyn yn eich gofal yn anhygoel!! Gobeithio, y gallan nhw gymryd amser i wneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau a threulio amser gyda’u plant eraill ac adfywio. Weithiau, gallu cysgu drwy’r nos sydd ei angen arnyn nhw fwyaf.
un atgof clir Roeddem yn gofalu am ferch ifanc ysbrydoledig a’i breuddwyd oedd mynd i ŵyl gerddoriaeth. Yn anffodus, oherwydd y math o salwch a oedd ganddi a’i diagnosis nid oedd hi’n bosibl trefnu hynny. Trefnodd ei mam, menyw ysbrydoledig arall, ŵyl yn ei henw ac yn ffodus iawn cefais y fraint o fynd â hi, gyda’i nyrs wych, Katie (yn y llun gyda fi, gyferbyn), i’r ŵyl. Roedd y croeso a gawsom a’r diwrnod cyfan yn fythgofiadwy. Byddaf i bob amser yn ddiolchgar fy mod i wedi bod yn rhan fach o’r diwrnod. Yn drist, bu farw’r ferch ifanc yn fuan wedyn, ond mae ei mam yn gobeithio parhau â’r ŵyl fel digwyddiad blynyddol i godi arian i achosion sy’n ymwneud â chyflwr ei merch ac arian ar gyfer amryw o elusennau gan gynnwys Tŷ Hafan.
12
Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
gŵyl oleuadau canol gaeaf Roedd hud y Nadolig i’w weld yn amlwg pan wnaethom wahodd teuluoedd i’r hosbis ar gyfer ein hail Ŵyl Oleuadau. Treuliodd staff Tŷ Hafan oriau lawer hapus (ac oer!) yn gweddnewid ein gerddi hardd yn lle hudol wedi ei oleuo ag amrywiaeth anhygoel o oleuadau a gweithgareddau’r Nadolig. Gwnaethom fanteisio i’r eithaf ar y babell enfawr y rhoddodd Rob Pearce o TAD Ltd a Lewis Smith o LT Scaffold Services Ltd i ni yn hael iawn, a’n gardd synhwyraidd newydd hyfryd diolch i Greenfingers. Darparwyd llawer o nodweddion golau ychwanegol a gwnaed yr arddangosfa hyd yn oed yn fwy anhygoel gan rodd oddi wrth Figure of Eight Events.
Gwahoddwyd y teuluoedd i ddod i ymlwybro drwy’r gerddi prydferth wedi’u goleuo, ymuno mewn amryw o weithgareddau’r Nadolig ar y ffordd a gorffen gydag ychydig o hwyl y Nadolig. Gan ei fod yn ddigwyddiad awyr agored, bu’n rhaid ystyried yn ofalus sut i gadw ein teuluoedd a’n gilydd mor ddiogel â phosibl, ac rydym yn hynod o falch o faint mae’r digwyddiad hwn wedi codi calonnau’r teuluoedd yr ydym yn gweithio gyda nhw.
“Roedd yn daith gerdded wych, yn llawn o hwyl y Nadolig a goleuadau prydferth! Pawb yn gwenu” Ruby Nash, rhiant Tŷ Hafan
13
cwtch
Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan
www.tyhafan.org
rydym wedi gweld eich eisiau… …felly, roedd yn bleser llwyr croesawu pawb yn ôl i ddigwyddiadau gyda phobl eraill gyda Nadolig yn y Gadeirlan, mewn pryd i groesawu cyfnod y Nadolig.
Ymunodd y cyflwynydd teledu Lucy Owen â ni, gan gyflwyno’r noson a oedd yn cynnwys perfformiadau gwych gan Gôr Cadeirlan Metropolitanaidd Caerdydd a Chôr Meibion Treorci. Heb os nac oni bai, seren y noson oedd Seth, a oedd newydd ddod y person cyntaf sy’n defnyddio cadair olwyn i ymuno â’r Senedd fel un o’r 60 o bobl ifanc a etholwyd i Senedd Ieuenctid Cymru (gallwch ddarllen mwy am Seth ar dudalen 6). Darllenodd Seth “Christmas Wish for You” gan Kristen M Saccardi o flaen y gynulleidfa o 230 o bobl (heb gynnwys aelodau’r côr), a chafwyd darlleniad hefyd o’r gerdd, “Megan’s First Snow” gan yr Athro Tony Curtis. Mae’r gerdd yn dod o antholeg yr Athro Curtis: Where the Birds Sing Our Names: Anthology ar gyfer T ŷ Hafan, sydd ar gael i’w phrynu a’r holl elw yn mynd i Tŷ Hafan.
admiral anhygoel Roedd Tŷ Hafan yn un o naw elusen i dderbyn anrheg Nadolig gan y cwmni gwasanaethau ariannol o Gymru Admiral, sydd wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau ac elusennau yr effeithiodd y pandemig arnyn nhw. Daeth rhodd anhygoel Admiral o £38,000 i Tŷ Hafan ychydig cyn y Nadolig oherwydd i’r staff ein dewis yn un o’r elusennau a fyddai’n derbyn arian o’u Cronfa Cymorth Covid-19. Dyma a ddywedodd Nicki Burns, Cynorthwyydd Gweithredol yn Admiral am Tŷ Hafan: ‘’Rydym wrth ein bodd â’r hyn yr ydych chi’n ei wneud. Mae ein staff wedi eich enwebu chi. Rydych chi’n gwasanaethu’r ardaloedd daearyddol lle mae llawer o’n staff yn byw, ac mae ein teuluoedd wedi defnyddio eich gwasanaethau. Rydych chi’n gwneud gwaith anhygoel i gefnogi plant a’u teuluoedd yn ogystal â’r cymorth yr ydych yn ei roi i wirfoddolwyr. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’n diben.’’ Mae staff Admiral wedi cefnogi Tŷ Hafanmewn sawl ffordd dros y blynyddoedd, gan roi mwy na £250,000 i’r elusen.
Os hoffech chi a’ch cwmni gefnogi Tŷ Hafan – ewch i’n gwefan neu sganiwch y cod QR. 14
Gallwch brynu “Where the Birds Sing Our Names” yma neu ewch i’n gwefan i gael manylion
deilen arian i blair Mae gan Blair Lundie – sydd wedi bod yn cefnogi Tŷ Hafan ers i ni agor ein drysau ym 1999 – lu o syniadau ar gyfer helpu’r elusen. Cyn y Nadolig, trodd ei ddwylo talentog i saernïo a phaentio pren i greu amrywiaeth o nwyddau poblogaidd ar gyfer y Nadolig. Mae ei holl ddeunyddiau yn rhai lleol. Mae’n cerfio ac yn sgwrio’r pren, yn paentio golygfeydd Nadoligaidd gyda’i chwaer Liz, ac yna’n treulio’i amser hamdden yn gwerthu’r hyn y maen nhw wedi’i wneud mewn ffeiriau ysgol a marchnadoedd Nadolig yn y cymoedd. Mae e’ hyd yn oed yn defnyddio’r amser gyda’i gwsmeriaid i ddweud wrthyn nhw am Tŷ Hafan. Mae Blair yn dweud ei fod wedi dechrau gwneud a gwerthu crefftau fel ffordd wahanol o’n cefnogi ni ar ôl rhoi’r gorau i redeg dwy flynedd yn ôl. Mae Blair wedi cefnogi Tŷ Hafan mewn sawl ffordd dros y 25 mlynedd ddiwethaf, gan redeg rasau, gan gynnwys Marathon Llundain, a gwneud teithiau cerdded fel ein taith i Wal fawr Tsieina yn ôl yn 2017. Dros y blynyddoedd mae Blair wedi codi degau o filoedd o bunnoedd ar ein cyfer ac roeddem wrth ein bodd i gyflwyno deilen arian iddo ar ein coeden anrhegion arbennig i gydnabod ei waith codi arian a’r gefnogaeth y mae wedi’i rhoi i ni.
Cadwch lygad am grefftau Pasg cyn bo hir! Sut gallwch chi godi arian ar ein cyfer ni
Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
jilly, t ŷ hafan a draig o’r enw môr Mae Jilly Bebbington yn dweud ei bod yn dod o deulu o storïwyr ac ers i Tŷ Hafan fodoli bron iawn, mae hi wedi bod yn wirfoddolwr brwdfrydig gyda’n tîm gofal, ac wrth ei bodd yn “adrodd straeon gwirion i’r plant, unrhyw beth i roi ychydig o hwb i’r plant!” Un dydd, trodd y straeon hyn yn llyfr o’r enw ‘A Dragon Called Môr’, un cyntaf Jilly, a oedd yn adrodd hanes draig fôr unig sy’n ymddangos ar lannau Môr Hafren. Mae’r llyfr yn gasgliad o bedair stori am Môr, ar gyfer plant rhwng chwech ac 11 oed, a gellir ei brynu am £4.99 drwy sganio’r cod QR, a’r holl elw yn mynd tuag at y £4.5 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hosbis a’r rhaglenni cymunedol yn weithredol. “Roeddwn i’n gallu gweld Môr yn glir iawn – mae’n ddraig fôr i ddechrau, sy’n eithaf prin, wyddoch chi. Mae’n lliw glaswyrdd, ac mae’n ddraig fach sy’n unig iawn.
“Un noson, mae’n ymddangos ar y gefnen dywod honno, ac mae wedi drysu ac yn eithaf trist oherwydd nad oes ganddo neb i chwarae tag â nhw. Ond yna mae’n edrych i fyny ac yn gweld goleuadau’r hosbis ac mae merch fach yno, yn codi ei llaw arno, yn ei wahodd i mewn, ac mae’n meddwl wrth ei hun ‘Gwych! Nawr, does dim rhaid i mi fod yn unig dim mwy!’ Ac mae’n dechrau yn y fan honno.” “Mae plant yn dwlu arno, chi’n gweld, oherwydd bod Môr yn cael pob math o anturiaethau ac mae’n gwneud camgymeriadau drwy’r amser – ac mae plant yn dwlu ar wrando ar bobl eraill yn gwneud camgymeriadau. Ac rwyf wedi rhoi cynnig ar ysgrifennu fel bod y plant hŷn yn deall y jôcs, tra bod y plant iau yn mwynhau’r helyntion.” Mae anturiaethau drygionus Môr wedi diddanu cannoedd o blant yn Tŷ Hafan dros y blynyddoedd wrth i Jilly ddatblygu ei draig fach a’i anturiaethau. “Rwyf wedi ei wneud yn ddraig sy’n llysieuwr” meddai hi. “Wedi’r cyfan, doeddwn i ddim eisiau bod â’r perygl y byddai yn bwyta un o’r plant!”
Prynwch eich copi yma
“Mae plant yn dwlu arno, chi’n gweld, oherwydd bod Môr yn cael pob math o anturiaethau.”
15
16
17
cwtch
Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan
www.tyhafan.org
lle mae’r adar yn canu ein henwau “Bydd yr Enwau Hyn yn Byw am Byth yn yr Awyr” fu un o’n prosiectau mwyaf uchelgeisiol a dirdynnol yn ddiweddar, modd cwbl unigryw o gofio pob un o blant Tŷ Hafan ar ddiwedd eu bywydau byr. Mae ein gardd goffa brydferth yn noddfa ac yn lle i hel atgofion lle mae olion sain enwau pob plentyn, wedi eu troi yn gân aderyn, yn canu ac yn asio gyda’r amgylchedd naturiol. Ac mae’n deyrnged teimladwy a ysbrydolodd yr Athro Barddoniaeth emeritws ym Mhrifysgol De Cymru, yr Athro Tony Curtis, i gyhoeddi casgliad o gerddi i godi arian i Tŷ Hafan gyda chyfraniadau gan rai o’r awduron mwyaf adnabyddus ym Mhrydain.” Golygodd yr Athro Curtis yr antholeg, o’r enw Where the Birds Sing Our Names, ar ôl gweld ei hun sut mae Tŷ Hafan yn cysuro, cefnogi a gofalu am blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd, yn dilyn angladd wyres ffrind iddo, a oedd wedi cael cymorth gan yr elusen. Mae’r llyfr yn cynnwys cerddi gan Ganghellor Prifysgol De Cymru a chyn Archesgob Caergaint, Rowan Williams; y digrifwr a’r diddanwr Max Boyce; y gantores sy’n ysgrifennu caneuon, Kizzy Crawford; ac Athro Ysgrifennu Creadigol Prifysgol de Cymru, Philip Gross, i enwi ond ychydig. “Mae’r staff yn Tŷ Hafan yn gwneud gwaith rhagorol,” meddai. “Mae’r ystafelloedd ar gyfer eu plant a’u teuluoedd yn cynnwys yr holl offer arbenigol i helpu i wneud yr annioddefol yn fwy derbyniol. “Mae’r pandemig wedi effeithio’n wael ar elusennau fel Tŷ Hafan, felly rwy’n falch o allu eu cefnogi nhw a helpu i godi ychydig o arian.”
Mae ei gerdd ragarweiniol yn esbonio mwy:
Where the birds sing our names When the children pass on Their names are put into Morse Code, dot and dash, And the parents choose a song-bird – Robin, blackbird, wren and thrush – These name-notes are played as you pass each tree In the woods around Tŷ Hafan, the house-haven. Bird sings to bird across the land, A chain of notes until the trees end And the oceans begin. Then they fly beyond. So imitative birds pass on these name-notes of song Against the murmurings of the sea: Some kind of immortality. Dywedodd Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tŷ Hafan: “Mae fy nghydweithwyr a mi yn hynod ddiolchgar i Tony am fod â’r weledigaeth a’r cymhelliad i gyflawni’r prosiect hwn. Mae wedi cydweithio â beirdd amlwg ledled y DU sydd wedi cyfrannu’n hael at y llyfr hyfryd hwn. “Mae Where the Birds Sing Our Names yn antholeg o gerddi hyfryd, a’r holl elw yn mynd i gefnogi ein gwaith gyda phlant sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd yng Nghymru. “Bydd pob llyfr sy’n cael ei werthu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r hyn y gallwn ni ei ddarparu i’r 270 o blant yng Nghymru yr ydym yn eu cefnogi bob blwyddyn, ac rwy’n siŵr y bydd yn gwneud anrheg hyfryd i bobl sy’n hoff o farddoniaeth ym mhob man.” Mae Where the Birds Sing Our Names ar gael i’w brynu nawr drwy sganio’r cod QR ac yn siopau elusen Tŷ Hafan ledled de a chanolbarth Cymru.
Prynwch eich copi yma
18
Gwanwyn/Haf 2022
rhowch
Dangoswch eich cefnogaeth i’n teuluoedd…
1.
Hoffwn roi rhodd o:
2.
Eich manylion
£25
£30
£50
£60
£100
£150 neu arall £ .............
Enw: ................................................................................................................................................ Cyfeiriad: .................................................................................................... Cod Post: .....................
3.
Cynyddwch eich rhodd gyda Rhodd Cymorth
4.
Eich taliad
Os byddwch yn cytuno i gynnwys Rhodd Cymorth yn eich rhoddion, byddwn yn gallu hawlio Rhodd Cymorth ar unrhyw roddion gennych yn y pedair blynedd ddiwethaf hefyd. Rwy’n dalwr trethi yn y DU ac rwy’n deall, os byddaf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf na’r swm o Rodd Cymorth sy’n cael ei hawlio ar fy holl roddion yn y flwyddyn dreth honno, mai fy nghyfrifoldeb i yw talu unrhyw wahaniaeth. Mae’r datganiad hwn hefyd yn berthnasol i’r holl roddion a roddais i Tŷ Hafan yn y pedair blynedd ddiwethaf a’r holl roddion ar ôl hyn oni roddaf wybod i chi fel arall.
Hoffwn dalu â: Siec
Archeb Bost
Visa
Debyd
Mastercard
Taleb CAF
(Yn daladwy i Tŷ Hafan)
Enw deiliad y cerdyn: ................................................................................................................. Address of cardholder (if different to above): ................................................................................ ...........................................................................................................
.....................................
Card number
Rhif diogelwch
/
Dyddiad dyroddi
/
Rhif diogelwch
Cardiau debyd yn unig – Rhif dyroddi
(3 digid olaf ar gefn y cerdyn)
Llofnod: .............................................................................. Dyddiad: ....................................... Os byddai’n well gennych beidio â derbyn llythyr diolch, ticiwch yma:
5. 6.
A fyddai gennych ddiddordeb mewn derbyn Pecyn Gwybodaeth Cymynrodd? – byddai (ticiwch) Hoffem roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth i blant yng Nghymru a ffyrdd eraill y gallwch chi helpu. Rhowch wybod i ni sut yr hoffech glywed gennym Os gwelwch yn dda, hoffwn i ni gysylltu â mi drwy e-bost Fy nghyfeiriad e-bost yw: ........................................................................................... Gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost i supporterservices@tyhafan.org Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac yn parchu eich preifatrwydd. Ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn rhannu eich manylion ac rydym yn addo eu cadw’n ddiogel. I gael rhagor o fanylion am sut mae eich data yn cael eu defnyddio a’u cadw, ewch i www.tyhafan.org/data-protection.
19
i'w gadarnhau
www.