1 minute read

draig o’r enw môr

Next Article
cymorth codi arian

cymorth codi arian

jilly, tˆy hafan a draig o’r enw môr

Mae Jilly Bebbington yn dweud ei bod yn dod o deulu o storïwyr ac ers i Tˆy Hafan fodoli bron iawn, mae hi wedi bod yn wirfoddolwr brwdfrydig gyda’n tîm gofal, ac wrth ei bodd yn “adrodd straeon gwirion i’r plant, unrhyw beth i roi ychydig o hwb i’r plant!”

Un dydd, trodd y straeon hyn yn llyfr o’r enw ‘A Dragon Called Môr’, un cyntaf Jilly, a oedd yn adrodd hanes draig fôr unig sy’n ymddangos ar lannau Môr Hafren.

Mae’r llyfr yn gasgliad o bedair stori am Môr, ar gyfer plant rhwng chwech ac 11 oed, a gellir ei brynu am £4.99 drwy sganio’r cod QR, a’r holl elw yn mynd tuag at y £4.5 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hosbis a’r rhaglenni cymunedol yn weithredol. “Roeddwn i’n gallu gweld Môr yn glir iawn – mae’n ddraig fôr i ddechrau, sy’n eithaf prin, wyddoch chi. Mae’n lliw glaswyrdd, ac mae’n ddraig fach sy’n unig iawn. “Un noson, mae’n ymddangos ar y gefnen dywod honno, ac mae wedi drysu ac yn eithaf trist oherwydd nad oes ganddo neb i chwarae tag â nhw. Ond yna mae’n edrych i fyny ac yn gweld goleuadau’r hosbis ac mae merch fach yno, yn codi ei llaw arno, yn ei wahodd i mewn, ac mae’n meddwl wrth ei hun ‘Gwych! Nawr, does dim rhaid i mi fod yn unig dim mwy!’ Ac mae’n dechrau yn y fan honno.” “Mae plant yn dwlu arno, chi’n gweld, oherwydd bod Môr yn cael pob math o anturiaethau ac mae’n gwneud camgymeriadau drwy’r amser – ac mae plant yn dwlu ar wrando ar bobl eraill yn gwneud camgymeriadau. Ac rwyf wedi rhoi cynnig ar ysgrifennu fel bod y plant hˆyn yn deall y jôcs, tra bod y plant iau yn mwynhau’r helyntion.” Mae anturiaethau drygionus Môr wedi diddanu cannoedd o blant yn Tˆy Hafan dros y blynyddoedd wrth i Jilly ddatblygu ei draig fach a’i anturiaethau. “Rwyf wedi ei wneud yn ddraig sy’n llysieuwr” meddai hi. “Wedi’r cyfan, doeddwn i ddim eisiau bod â’r perygl y byddai yn bwyta un o’r plant!”

Prynwch eich copi yma

“Mae plant yn dwlu arno, chi’n gweld, oherwydd bod Môr yn cael pob math o anturiaethau.”

This article is from: