2 minute read

croeso

croeso gan maria

Wrth i ni edrych ymlaen at ddyddiau brafiach o haf, rwyf wrth fy modd i’ch gwahodd i fwynhau rhifyn diweddaraf ‘Cwtch’. Gobeithio y cewch chi, fel fi, eich ysbrydoli, gan rai o’r lluniau a straeon rhai o’r bobl fwyaf arwrol yr wyf yn eu hadnabod, y plant, y bobl ifanc a’u teuluoedd anhygoel sy’n cael eu cefnogi gan ein helusen.

I Tˆy Hafan, a llawer ohonoch chi, mae’n teimlo fel ein bod yn dod allan o gyfnod hir o aeafgysgu. Wedi dweud hynny, mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o brysur i ni i gyd. Wrth i’n timau gofal anhygoel barhau i ddarparu eu gofal tyner, arbenigol mewn cyfarpar diogel personol, bob awr o’r dydd a’r nos, roedd ein timau cymunedol allan yng nghartrefi plant, ysgolion, mewn ysbytai, lle bynnag yr oedd eu hangen. Er gwaethaf y cyfyngiadau parhaus, gweithiodd ein cydweithwyr manwerthu yn galed i gadw ein siopau ar agor; parhaodd ein cydweithwyr loteri, codi arian, dyngarwch a gofal am gefnogwyr i ymgysylltu â’n cefnogwyr a’n rhoddwyr i godi arian hanfodol i’n galluogi i gefnogi rhai o’r plant a’r teuluoedd mwyaf arbennig yng Nghymru drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae’n rhaid i mi gofio fy nghydweithwyr ‘y tu ôl i’r llenni’ hefyd. Mae rhedeg busnes i fod yn elusen, a darparu gofal a chefnogaeth liniarol am ddim i’r rhai hynny sydd eu hangen, yn parhau i fod yn her wirioneddol yn yr hinsawdd bresennol, ond cawn ein hysbrydoli bob dydd gan y plant a’r teuluoedd hyn, a gennych chi, ein cefnogwyr ffyddlon. Bu rhai uchafbwyntiau cadarnhaol. Yn nyddiau tywyllaf y gaeaf, ymatebodd Llywodraeth Cymru i’n hymgyrch ar y cyd (a gefnogwyd gan lawer ohonoch chi) â Tˆy Gobaith, yr hosbis i blant yn y gogledd, am ‘Gronfa Achubiaeth’, gan gynyddu, i ddechrau, ein cyllid statudol ar gyfer cost gofal o 5% i 21%, i fod yr un fath â Lloegr. Er bod llawer mwy i’w wneud i gyflawni cyllid o 50% (fel hosbisau plant yn yr Alban), mae hwn yn gam sylweddol ymlaen, yn enwedig pan fo costau’n cynyddu ar gyfradd ddigynsail ym mhob rhan o’r elusen gyfan. Roedd y ddwy elusen wrth eu boddau hefyd i gael eu dewis gan gydweithwyr Cymdeithas Adeiladu Principality yn Elusen y Flwyddyn - gan ein galluogi i godi arian, ac yn hanfodol, ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau ledled Cymru. Gwnaethom ni hefyd gwblhau’r gwaith o adnewyddu ein hosbis a’n gerddi synhwyraidd, a gobeithio y cewch chi eu gweld cyn bo hir.

ein cylchgrawn ar ei newydd wedd

mae cwtch wedi ei weddnewid, ond mae’n dal i gynnwys y straeon ysbrydoledig gan bobl ifanc a’u teuluoedd, a’r newyddion diweddaraf am godi arian. Rydym wedi cyflwyno codau QR, felly gallwch sganio’r cod yn gyflym ar eich dyfais symudol i ddarllen mwy am yr erthygl ei hun a straeon tebyg.

This article is from: