4 minute read
straeon o’r wal olion dwylo
straeon o'r… waliau olion dwylo
Pan ofynnir beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan fyddwch chi’n meddwl am Tˆy Hafan, mae’r atebion yn debygol o fod yn amrywiol iawn. Ond rhywbeth sy’n taro ymwelwyr â’r hosbis yw pa mor lliwgar yw hi, o’i hawyrgylch unigryw i’r cymeriadau y byddwch yn eu cwrdd ac wrth gwrs, yr olion dwylo tanbaid ar y waliau.
Wrth gerdded i ganol yr hosbis, cewch eich cyfarch gan olion dwylo a thraed o bob siâp, maint a lliw. Mae’r waliau wedi’u haddurno â’r darluniau hyn o fan a lle ers agor ein drysau. Maen nhw’n rhan enfawr o’r hosbis ac mor bwysig i’r rhai hynny sydd wedi gadael eu hôl. Mae creu atgofion yn rhan fawr o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn Tˆy Hafan ac mae rhywbeth dirnadol fel yr olion dwylo yn helpu i wneud i’r cysylltiad â’r amser hapus y gwnaethon nhw ei dreulio gyda’i gilydd barhau. O blant Tˆy Hafan a’u teuluoedd i’n noddwr, Tywysog Cymru, mae’r waliau hyn yn arddangos rhan fawr o stori Tˆy Hafan, gan roi cefndir i olion dwylo a thraed y plant hynny sydd wedi pasio trwy ein bywydau yn llawer rhy gyflym ond sydd wedi gwneud argraff ddofn iawn. Bydd Tˆy Hafan yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ond mae coffau heb amheuaeth yn un o’n helfennau pwysicaf. Mae gallu ailymweld â’r waliau a gweld yr olion hyn o gyfnod gwahanol yn golygu cymaint i deuluoedd, gan wybod bod yna le lle na fydd eu plentyn byth yn angof. Ar ôl mwy nag 20 mlynedd o ddefnydd cyson, mae tipyn o dyllau a marciau wedi ymddangos ar y waliau. Felly, i’w chadw’n ffres ac i roi mwy o le i ni allu parhau â’r traddodiad hwn, yn rhan o’r gwaith o adnewyddu’r hosbis, rydym wedi edrych am ffyrdd newydd o gadw’r olion. Mae pob ôl ar bob wal wedi’i ddigideiddio’n ofalus, gan amlygu’r rhai sydd wedi colli eu lliw a grwpio teuluoedd gyda’i gilydd, maen nhw wedi eu hatgynhyrchu ar bersbecs a’u gosod o flaen y rhai gwreiddiol fel eu bod wedi’u diogelu y tu ôl i’r waliau newydd. Mae’n ffordd o sicrhau hirhoedledd yr olion a chadw’r rhai gwreiddiol, gan hefyd fwrw ymlaen â’r gwaith adnewyddu sydd mor hanfodol i’r ffordd yr ydym yn darparu gofal arbenigol i’n teuluoedd.
Gall teuluoedd bellach weld sut y mae’r waliau ar eu newydd wedd yn edrych a dechrau ychwanegu atyn nhw. Mae llawer o bethau am ein hosbis sydd wedi ei hadnewyddu i deimlo’n gyffrous amdanyn nhw, ond y man cychwyn i’r cyfan yw ein waliau olion dwylo enwog.
Dyma olion dwylo a thraed y plant hynny sy’n pasio trwy ein bywydau yn rhy gyflym ond sy’n gadael argraff mor barhaol.
o chwaer wych i nyrs wych
Mae Meg Fears, 23, wedi ymuno â’n Tîm Gofal yn ddiweddar fel un o nyrsys gofal lliniarol arbenigol Tˆy Hafan. Cawsom air gyda Meg a gofyn iddi rannu ei phrofiadau i’n helpu ni i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys.
“Ymunais â’r tîm gofal yn Tˆy Hafan fel nyrs gofal lliniarol pediatrig yn ddiweddar,” meddai Meg, “ond rwyf wedi bod yn dod i Tˆy Hafan ers i mi fod yn wyth oed. “Mae gan fy mrawd Greg Syndrom Down yn ogystal â phwysedd gwaed uchel yr ysgyfaint a chlefyd y galon. Dechreuodd ddod i Tˆy Hafan pan oedd yn 15, a dechreuodd fy mrawd arall Tom a mi ddod yma hefyd. “Roeddwn i wrth fy modd o’r cychwyn cyntaf. Mae tîm hyfryd wedi bod yma bob amser a phan oeddwn i’n iau byddwn i’n ‘helpu’ y nyrsys – byddwn i’n copïo popeth yr oedd y nyrsys yn ei wneud. “Gyda fy rhieni a fy mrawd arall Tom, rwyf i wedi gofalu llawer iawn am Greg. Felly, roedd yn teimlo fel dewis naturiol i mi i fynd ymlaen i astudio nyrsio pediatrig ym Mhrifysgol Abertawe. Gweithiais wedyn yn Ysbyty Arch Noa am gyfnod, a oedd yn brofiad anhygoel. “Ond penderfynais ddod i faes gofal nyrsio lliniarol yn Tˆy Hafan oherwydd rwy’n credu ei fod mor arbennig. Mae’n llawer iawn mwy na’r hyn y mae pobl yn ei feddwl. “Mae gan Greg nodweddion awtistiaeth felly mae’n bwysig iawn bod ganddo, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, yr un bobl yn gofalu amdano. Ac mae’n cael hynny yma yn Tˆy Hafan. Mae’r awyrgylch yma bob amser mor hyfryd. “Hyd yn oed pan adawodd Greg Tˆy Hafan oherwydd ei fod wedi tyfu’n hˆyn nag y mae’r gwasanaethau’n addas ar eu cyfer, cefais i lawer o gefnogaeth trwy grwˆp Super Sibs Tˆy Hafan o hyd. “Nawr, 15 mlynedd ar ôl i mi ddod yma fel plentyn yn gyntaf, rwy’n nyrs yn gweithio yn Tˆy Hafan. Mae’n hyfryd ond mae’n dal i deimlo’n swreal. Rwy’n deffro ac yn meddwl ‘O ie, rwy’n mynd i weithio yn Tˆy Hafan!’ Mae mor anhygoel!”