2 minute read

cipolwg ar yr arwyr tawel

Next Article
stori esmai

stori esmai

Mae anghenion meddygol pob plentyn sy’n defnyddio Tˆy Hafan yn hynod o gymhleth, ac mae rhai cyflyrau bron â bod yn unigryw i’r plentyn hwnnw. Felly pan fyddwn ni’n darparu ein cymorth cyfannol i’r plant hyn, mae’n cymryd tîm o weithwyr proffesiynol sydd wedi cael llawer iawn o hyfforddiant i fodloni eu hanghenion.

Rydych chi wedi cwrdd â’n nyrsys ar y tudalennau hyn o’r blaen ac rydym wrth ein bodd yn rhannu fideos a lluniau o’r arbenigwyr yn nhîm y cymuned ar ein cyfryngau cymdeithasol. Ond pwy yw’r arwyr tawel sy’n gwneud yn siwˆr bod gan y plant rywun yno ar eu cyfer bob amser, sy’n cefnogi’r nyrsys ac yn mwynhau gwneud llanast gyda’r plant yn ystod chwarae blêr? Mae Karen yn weithiwr cymorth gofal iechyd yn Tˆy Hafan a dyma y mae’n ei hoffi fwyaf am ei swydd.

Rwyf wedi bod yn gweithio yn Tˆy Hafan am ychydig dros dair blynedd fel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gan weithio ochr yn ochr â’r nyrsys a’r gweithwyr proffesiynol eraill i gynnig gofal seibiant byr, gofal argyfwng a gofal diwedd oes i blant a’u teuluoedd. Mae’n lle arbennig iawn i weithio ynddo. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fwynhau fy swydd ac rwy’n credu ei bod yn fraint gallu gweithio gyda phlant mor anhygoel, a threulio amser gyda nhw a’u teuluoedd – nid pawb sy’n gallu dweud eu bod wedi dod i’r gwaith wedi gwisgo fel Tellytubby ar gyfer sifft! Gall ein dyddiau / nosweithiau amrywio o gael llawer iawn o hwyl – taflu dwˆr gyda phlentyn a’i frawd neu chwaer ar y maes chwarae, dathlu Nadolig yn yr haf i alluogi teuluoedd i wneud atgofion gwerthfawr neu ddarllen hoff stori i blentyn yn ei wely pan fo angen ychydig o gysur. Mae gwybod bod rhieni a theuluoedd yn ymddiried digon ynoch chi i adael eu plentyn yn eich gofal yn anhygoel!! Gobeithio, y gallan nhw gymryd amser i wneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau a threulio amser gyda’u plant eraill ac adfywio. Weithiau, gallu cysgu drwy’r nos sydd ei angen arnyn nhw fwyaf.

Roeddem yn gofalu am ferch ifanc ysbrydoledig a’i breuddwyd oedd mynd i wˆyl gerddoriaeth. Yn anffodus, oherwydd y math o salwch a oedd ganddi a’i diagnosis nid oedd hi’n bosibl trefnu hynny. Trefnodd ei mam, menyw ysbrydoledig arall, wˆyl yn ei henw ac yn ffodus iawn cefais y fraint o fynd â hi, gyda’i nyrs wych, Katie (yn y llun gyda fi, gyferbyn), i’r wˆyl. Roedd y croeso a gawsom a’r diwrnod cyfan yn fythgofiadwy. Byddaf i bob amser yn ddiolchgar fy mod i wedi bod yn rhan fach o’r diwrnod. Yn drist, bu farw’r ferch ifanc yn fuan wedyn, ond mae ei mam yn gobeithio parhau â’r wˆyl fel digwyddiad blynyddol i godi arian i achosion sy’n ymwneud â chyflwr ei merch ac arian ar gyfer amryw o elusennau gan gynnwys Tˆy Hafan.

un atgof clir

This article is from: