1 minute read
gwˆyl oleuadau canol gaeaf
Roedd hud y Nadolig i’w weld yn amlwg pan wnaethom wahodd teuluoedd i’r hosbis ar gyfer ein hail W ˆ yl Oleuadau.
Treuliodd staff Tˆy Hafan oriau lawer hapus (ac oer!) yn gweddnewid ein gerddi hardd yn lle hudol wedi ei oleuo ag amrywiaeth anhygoel o oleuadau a gweithgareddau’r Nadolig. Gwnaethom fanteisio i’r eithaf ar y babell enfawr y rhoddodd Rob Pearce o TAD Ltd a Lewis Smith o LT Scaffold Services Ltd i ni yn hael iawn, a’n gardd synhwyraidd newydd hyfryd diolch i Greenfingers. Darparwyd llawer o nodweddion golau ychwanegol a gwnaed yr arddangosfa hyd yn oed yn fwy anhygoel gan rodd oddi wrth Figure of Eight Events. Gwahoddwyd y teuluoedd i ddod i ymlwybro drwy’r gerddi prydferth wedi’u goleuo, ymuno mewn amryw o weithgareddau’r Nadolig ar y ffordd a gorffen gydag ychydig o hwyl y Nadolig. Gan ei fod yn ddigwyddiad awyr agored, bu’n rhaid ystyried yn ofalus sut i gadw ein teuluoedd a’n gilydd mor ddiogel â phosibl, ac rydym yn hynod o falch o faint mae’r digwyddiad hwn wedi codi calonnau’r teuluoedd yr ydym yn gweithio gyda nhw.