2 minute read

seth yn gwneud ei farc

ar senedd ieuenctid Cymru

Gwnaeth Seth Burke, sydd yn ei arddegau, hanes yn ddiweddar drwy ddod yn aelod cyntaf erioed Tˆy Hafan o Senedd Ieuenctid Cymru. Ef hefyd yw’r aelod cyntaf erioed â chyflwr sy’n gwaethygu gydol oes o senedd gyntaf y DU a weithredir ar gyfer a gan bobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 18 oed.

“Fy enw i yw Seth Burke, rwy’n 13 oed, a fi yw eich Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer Rhanbarth Canol De Cymru, wedi fy lleoli yn Ninas Powys. Rwy’n falch o fod yn bartner â Hosbis Tˆy Hafan, sydd wedi bod yn fy helpu i a fy nheulu am y pum mlynedd ddiwethaf. “Rwy’n credu mai fi yw’r cyntaf yn y Senedd [â chyflwr sy’n gwaethygu gydol oes] ac rwy’n dymuno gosod esiampl i blant eraill i ddilyn eu breuddwydion. Rwy’n credu weithiau, oherwydd ei bod wedi bod yn anodd i mi, fy mod i’n dymuno ei gwneud yn haws i bawb. “Rwyf mor falch o fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru – a hyd yn oed yn fwy balch o fod yr Aelod cyntaf o’r Senedd Ieuenctid sydd mewn cadair olwyn ac sydd â Nychdod Cyhyrol Duchenne (DMD). Rwyf eisiau bod yn llais cryf dros blant eraill fel fi, dros blant eraill sy’n defnyddio cadair olwyn a dros hosbisau plant, a’r teuluoedd a’r ffrindiau hynny sy’n mynd i’r eithaf i wneud yn siwˆr nad oes dim na ellir ei gyflawni.” Ychwanegodd Seth: “Ar ôl tair blynedd yn y swydd, rwy’n gobeithio y byddaf wedi helpu i greu Cymru sy’n fwy tosturiol i blant fel fi, ac i sicrhau bod hosbisau plant Cymru yn cael yr holl gymorth y gallan nhw ei gael er mwyn gallu helpu hyd yn oed mwy o bobl ifanc, ac rwy’n gobeithio cael y profiadau a’r sgiliau bywyd i fynd ymlaen i wneud beth bynnag rwy’n dymuno ei wneud.”

Mae Seth wedi pennu pum maes blaenoriaeth y mae’n bwriadu mynd i’r afael â nhw yn ei swydd yn y Senedd.

1. Amddiffyn yr amgylchedd a byd natur 2. Gwella hygyrchedd i fannau cyhoeddus i bobl ag anableddau 3. Trechu bwlio ar-lein 4. Mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc 5. Cynyddu mynediad at glybiau am ddim sy’n hybu gweithgareddau corfforol i blant a phobl ifanc

This article is from: