1 minute read
cyllid ychwanegol gan y llywodraeth
Prif bwyslais yn Tˆy Hafan dros y blynyddoedd diwethaf fu adeiladu mwy o gydnerthedd yn ein gwasanaethau yn yr hosbis ac yn y gymuned. Gan fod llai na 10%, ac yn aml cyn lleied â 4%, o’n cyllid yn dod gan y llywodraeth, mae Tˆy Hafan wedi dibynnu bron yn gyfan gwbl ar ewyllys da ein cefnogwyr i ariannu ein gwasanaethau hanfodol. Yn Lloegr, mae’r cyllid cyfatebol yn 21%, yng Ngogledd Iwerddon 25% ac yn yr Alban 50%. Yn dilyn galwadau am “Gronfa Achubiaeth” ar gyfer hosbisau plant Cymru yn sgil yr adroddiad diweddar Lleisiau ein Teuluoedd, gwnaeth y gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, ddatganiad ar ganfyddiadau cam cyntaf adolygiad cyllid hosbisau Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Gofal Diwedd Oes.
Roedd y cyhoeddiad yn amlinellu dyraniad blynyddol ychwanegol o £888,000 mewn cyllid gan y Llywodraeth, wedi’i rannu rhwng y ddwy hosbis.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi Tˆy Hafan a Tˆy Gobaith, yr hosbis plant yn y gogledd, i ymestyn ehangder a dyfnder eu gwasanaethau a darparu mwy o ofal seibiant i’r teuluoedd hynny sydd ei angen mor daer. Yn y pen draw, bydd y cyhoeddiad yn helpu i leihau baich derbyniadau heb eu cynllunio a rhai argyfwng ar y GIG. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen y cymorth ychwanegol hwn ar deuluoedd plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd. Mae teuluoedd wedi dweud wrthym mai Tˆy Hafan a Tˆy Gobaith yn aml yw’r unig leoedd lle maen nhw’n derbyn gofal a chymorth hanfodol. Bydd y cyllid newydd hwn yn datblygu ein huchelgais i greu Cymru fwy tosturiol, un sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd gofalu am blentyn tuag at ddiwedd eu bywyd annheg o fyr ac yn cefnogi’r teulu drwy’r adegau anoddaf.