3 minute read
stori esmai
Ym mhob rhifyn o Cwtch, rydym yn achub ar y cyfle i dynnu sylw at stori o leiaf un teulu i ddangos i’r darllenwyr yr effaith wirioneddol y mae eu cymorth yn ei chael ar fywydau y bobl hynny sydd ein hangen ni.
Nid yw taith pob teulu gyda Tˆy Hafan yr un fath. Rhan o’r her ac, heb os nac oni bai, rhan o lawenydd y swydd, yw gweithio gyda phob teulu i benderfynu sut y gallwn eu cefnogi orau. Gallai hynny gynnwys caniatáu i’r plentyn fynegi ei deimladau drwy gerddoriaeth, rhoi dihangfa i frodyr a chwiorydd neu helpu rhieni i ymdopi, hyn i gyd gan ddarparu gofal meddygol arbenigol pan fo angen. Cafodd Esmai o’r Barri, sy’n bedair blwydd oed, ddiagnosis o Syndrom CHARGE yn fuan ar ôl cael ei geni. Cafodd hi a’i mam, Sami, eu hatgyfeirio i Tˆy Hafan yn 2017 pan oedd Esmai yn ddim mwy na naw mis oed ac maen nhw wedi bod yn defnyddio ein gwasanaethau oddi ar hynny. “Mae Syndrom CHARGE yn golygu bod Esmai yn rhannol ddall ac yn rhannol fyddar. Mae’n rhaid iddi hefyd gael ei bwydo drwy diwb, nid oes ganddi unrhyw gydbwysedd, mae’n cael pyliau yn rheolaidd ac mae ganddi broblemau cysgu ac ymddygiad,” meddai Sami. “Mae’n gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd, ond mae’n waith caled gofalu amdani. Dydw i ddim yn cael llawer o gwsg. Mae hyn wedi achosi i mi ddioddef iselder a gorbryder. “Tˆy Hafan yw’r unig seibiant y mae Esmai a mi yn ei gael. Yn y blynyddoedd cyntaf pan oeddem yn dod yma i aros am ddiwrnod neu ddau – dwywaith y flwyddyn – roeddwn i’n aros gyda hi yn yr hosbis. “Yna, pan ddaeth Covid, cawsom wybod mai dim ond un ymweliad y flwyddyn y byddem ni’n ei chael, ond yn ddiweddar, gan ein bod ni’n byw yn y Barri ac yn agos i’r hosbis, mae Esmai wedi gallu mynd i mewn am fwy o gyfnodau o ofal seibiant oherwydd eu bod nhw wedi ein ffonio ni ar fyr rybudd pan fo gwely ar gael yno.
“Mae gofalu am Esmai yn waith bob awr o’r dydd a’r nos felly pan fydd hi’n mynd i Tˆy Hafan am ofal seibiant, mae’n fy ngalluogi i wneud y pethau symlaf, fel cael bath a chysgu. Pethau y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol yn llwyr.
“Heb Tˆy Hafan byddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn oherwydd dyna’r unig seibiant rwy’n ei gael ar hyn o bryd. Roedd fy mam yn arfer fy helpu gyda hi gryn dipyn ond dydyn ni ddim wedi gallu ei gweld hi’n iawn am flwyddyn bellach oherwydd y pandemig. “Mae Esmai yn gofyn yn barhaus os yw hi’n cael mynd i Tˆy Hafan nawr. Mae hi wrth ei bodd â’i hystafell yno. Pan fydda’ i’n mynd â hi yno, mae hi’n codi ei llaw ac yn dweud, “ta ta mam” ac i ffwrdd â hi. Mae’n gwneud lles i’r ddwy ohonom ni, i’n hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol. “Tˆy Hafan yw’r unig gymorth, y tu allan i’r teulu yr wyf i erioed wedi cael ei gynnig. Pan oeddwn i’n aros yno gyda Esmai, roedd yn wych. Roedd bwyd gwych yn cael ei goginio i mi ac roedd gen i wely cyfforddus. Roedd fel bod mewn gwesty heblaw’r ffaith mod i’n gallu cael ychydig o gwsg yno.”