79878-Course_Rep_&_Network_Leader_Risk_Assessment_1_-CY

Page 1


Asesiad Risg Gweithgareddau Cynrychiolwyr

Cwrs

 Rhaid i bob Cynrychiolydd Cwrs sy'n cynnal digwyddiadau neu weithgareddau sicrhau bod asesiad risg yn ei le cyn i'r gweithgaredd ddechrau.

 Mae'r Asesiad Risg Generig yn cwmpasu’r rhan fwyaf o weithgareddau dan do ar y campws, gan gynnwys rhai sy'n gweini bwydydd risg isel.

Mae bwydydd risg isel yn fwydydd y gellir eu bwyta ar dymheredd ystafell (nid oes angen eu rhewi na’u hailgynhesu) ac a brynwyd gan fusnes bwyd (e.e. archfarchnad, caffi) gydag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.

 Os yw’r gweithgaredd yn yr awyr agored, oddi ar y safle, yn ymwneud â choginio neu werthu bwyd, neu nad yw'n dod o dan amodau’r Asesiad Risg Cyffredinol am ryw reswm arall, cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor. Byddwn yn eich helpu i baratoi Asesiad Risg Penodol ar gyfer eich gweithgaredd.

 Cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor os ydych yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau codi arian (e.e. gwerthu cacennau).

 Dim ond ar sail y wybodaeth a gyflwynir y gall y Tîm gynnig cyngor. Os na ddatgelir y manylion, efallai na chaiff y cyngor priodol ei gynnig, a gallai hynny effeithio ar iechyd, diogelwch a lles y cyfranogwyr a phobl eraill y mae gweithgareddau’r cynrychiolwyr cwrs yn effeithio arnynt.

 Rhaid i Gynrychiolwyr Cwrs hysbysu’r Tîm Llais Myfyrwyr ar unwaith os bydd eu gweithgarwch neu eu proffil risg yn newid.

Teitl yr Asesiad Risg

Dyddiad Creu a/neu Adolygu’r Asesiad Risg

Fersiwn Rhif

Trefnydd

Digwyddiadau Swydd

Crynodeb o'r Gweithgarwch mae'r Asesiad Risg yn ei gynnwys

Lleoliadau mae'r

Asesiad Risg yn eu cynnwys

Datganiad

Unigolion mae'r

Asesiad Risg yn eu cynnwys

Cadarnhewch a yw'r Asesiad Risg Generig yn addas ar gyfer y digwyddiad Cynrychiolwyr Cwrs yr ydych wedi'i drefnu

Os 'NAC YDY' cadarnhewch eich bod wedi cwblhau'r Asesiad Risg Penodol

Rwy'n cadarnhau y bydd pawb sy’n bresennol yn derbyn cyfarwyddyd ar gynnwys Asesiadau Risg ac y

cedwir cofnodion o hynny

Adolygwyd gan y Tîm Llais Myfyrwyr

Aseswyr yr Asesiad Risg Dyddiad

Arwyddwyd Dyddiad adolygu

Asesiad Risg nesaf

YDY / NAC YDY

DO / NADDO

YDW / NAC YDW

Asesiad Risg Generig

Perygl

Mynediad a Chynwysoldeb

Cyfleusterau Mewnol: Defnydd, cyflwr cyffredinol yr adeilad a chyfleusterau

Camau Rheoli Presennol

 Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau mynediad a chynwysoldeb.

 Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried anghenion pawb sy’n bresennol ar bob adeg.

 Ni ddylai’r sawl sy’n bresennol orfod datgelu anghenion penodol er mwyn i’r anghenion hynny gael eu rhagweld.

 Dylai pawb gael eu trin yn gyfartal / yn deg ar bob adeg.

 Archebwch ystafelloedd drwy’r Tîm Llais

Myfyrwyr neu eich Ysgol.

 Mae gan adeiladau a thir Undeb y Myfyrwyr / Prifysgol Bangor drefniadau priodol mewn lle i sicrhau bod mannau’n addas i'w defnyddio e.e. system canfod tân a rhybuddio, cynnal a chadw, glanhau.

 Mae'r gweithgareddau'n dod o dan bolisïau, trefnau, rheolau a rheoliadau Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Bangor.

Gweithredu Pellach

 Gofynnwch am gyngor gan y Tîm Llais

Myfyrwyr i sicrhau mynediad a chynwysoldeb.

 Atgoffwch aelodau y gallant drafod eu hanghenion penodol yn gyfrinachol, a allai olygu bod angen cynnig cefnogaeth neu wneud addasiadau.

i’w cymryd gan

Anaf/Salwch: Angen Cymorth Cyntaf

 Mae Swyddogion Cymorth Cyntaf ar gael yn y rhan fwyaf o adeiladau'r brifysgol. Dylai'r manylion gael eu harddangos ar Bosteri Cymorth Cyntaf.

 Gall yr adran Ddiogelwch ddarparu Cymorth Cyntaf ar safle'r brifysgol: Ffôn Mewnol333 / Llinell fewnol - 01248 382795

 Rhowch gyfarwyddyd i'r grŵp am bolisïau perthnasol ac ati.

 Gadewch yr adeiladau fel y byddwch yn eu canfod e.e. yn lân, taclus.

 Adroddwch am ddiffygion sy’n ymwneud ag adeiladau wrth Undeb y Myfyrwyr a / neu'r adran Ddiogelwch os yw'n fater brys.

 Sicrhewch ddiogelwch y cyfranogwyr, y swyddog cymorth cyntaf a'r sawl sydd wedi cael anaf.

 Mewn sefyllfa lle mae bygythiad uniongyrchol i fywyd, dylai trefnydd y digwyddiad ffonio 999 ar unwaith ac yna hysbysu adran Ddiogelwch y

Camau
Camau

Diogelwch Tân

 Angen cwblhau ffurflen adrodd am ddigwyddiad.

 Pan fo larwm tân yn seinio, dylai pawb adael yr adeilad ac ymgasglu yn y Man Ymgynnull mewn Achos Tân. Ni ddylai defnyddwyr ddychwelyd i'r adeilad hyd nes y cânt gyfarwyddyd i wneud hynny.

 Ni ddylid defnyddio lifftiau pan fo larwm tân yn seinio. Dylai defnyddwyr nad ydynt yn gallu gadael yr adeilad trwy ddefnyddio’r grisiau fynd i Fan Aros Diogel a’i actifadu.

 Mae angen Asesiad Risg Penodol ar gyfer gweithgareddau sy'n cynyddu risg tâncysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor.

brifysgol.

 Ffoniwch yr adran Ddiogelwch os oes angen cymorth cyntaf

 Os ydych yn defnyddio cyfleusterau allanol, cadarnhewch fod trefniadau diogelwch tân mewn lle.

 Ar ddechrau'r gweithgaredd, rhowch wybod i'r aelodau beth i'w wneud os byddant yn dechrau tân neu’n canfod un, neu fod y larwm tân yn seinio, gan gynnwys lleoliadau Allanfeydd Tân a Mannau Ymgynnull mewn Achos Tân.

 Ystyriwch y bobl hynny a fydd angen cefnogaeth os caiff adeilad ei wagio e.e. yn methu â gadael gan ddefnyddio grisiau.

Diogelwch Trydanol

Diogelwch Bwyd: Alergenau, hylendid

 Dylai cyfarpar trydanol fod yn addas i'r diben ac i'r amgylchedd perthnasol e.e. defnydd awyr agored.

 Rhaid i bob cyfarpar trydanol a gludir i’r safle fod â marc CE, a rhaid iddo fod wedi derbyn Prawf PAT dilys gyda label ar yr eitem i ddangos ei fod wedi cael Prawf PAT.

 Gwnewch yn siŵr fod darparwr unrhyw fwyd yn ddibynadwy e.e. archfarchnad neu fusnes sy'n meddu ar Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac Ardystiad Hylendid Bwyd priodol.

 Peidiwch byth â darparu bwyd heb ei labelu / wedi dyddio.

 Rhaid gweini pob eitem o fwyd yn oer/yn

 Peidiwch byth â defnyddio offer heb label Prawf PAT dilys neu os ydych yn pryderu am ei gyflwr.

 Cysylltwch â'r Tîm Llais Myfyrwyr os oes angen Hyfforddiant Prawf PAT.

 Hysbyswch y cyfranogwyr am gyfleusterau golchi dwylo a dywedwch wrthynt am olchi neu ddiheintio eu dwylo cyn trin bwyd neu ddiod.

 Ni ddylai cyfranogwyr rannu bwyd na phlatiau, cwpanau, cyllyll a ffyrc ac ati.

Clefydau trosglwyddadwy gan gynnwys Covid-19

gallu ei fwyta’n oer a pheidio â'i ailgynhesu ar y safle o dan unrhyw amgylchiadau.

 Dylai unrhyw alergenau cyffredin gael eu labelu'n glir.

 Byddwch yn ofalus wrth drin bwyd neu ddiodydd poeth i leihau'r risg o sgaldiadau a llosgiadau.

 Golchwch eich dwylo cyn trin bwyd neu ddiod - golchwch neu diheintiwch eich dwylo cyn paratoi neu fwyta bwyd.

 Mae Canllawiau Diogelwch Bwyd ar gael i'r sawl sy'n trin bwyd.

 Dylai cyfranogwyr sydd â symptomau clefydau trosglwyddadwy, gan gynnwys Covid-19, aros gartref a pheidio â mynd i ddigwyddiadau yn y cnawd, yn unol â chanllawiau Prifysgol Bangor.

 Dylid glanhau offer a mannau ymgynnull ar ôl y digwyddiad.

 Dylai pawb sy'n cymryd rhan gynnal hylendid dwylo da trwy olchi neu ddiheintio eu dwylo'n rheolaidd trwy gydol y dydd.

 Gall cyfranogwyr wisgo gorchudd wyneb os dymunant.

 Dylid troi unedau ffilter aer ymlaen os yw hynny’n opsiwn, a dylid agor ffenestri lle bo'n briodol, er enghraifft mewn ystafelloedd llawn.

 Paratowch restr cynhwysion, gan gynnwys alergenau, ar gyfer yr holl fwyd a weinir, neu cadwch becynnau’r bwydydd oedd wedi'u rhag-becynnu.

 Gofynnwch am gyngor y Tîm Llais Myfyrwyr yn achos bwydydd risg uchel (e.e. bwydydd cartref poeth, bwydydd sydd angen eu cadw yn yr oergell) neu os ydych yn bwriadu gwerthu bwyd (e.e. sêl cacennau).

 Dylid annog y cyfranogwyr i roi unrhyw wastraff (e.e. gwastraff bwyd, llieiniau papur ac ati) mewn biniau neu fagiau bin a ddarperir.

 Dylai trefnwyr digwyddiadau sicrhau bod ystafelloedd ac arwynebau'n cael eu gadael yn lân ar ddiwedd y digwyddiad.

 Rhowch wybod i’r cyfranogwyr am leoliad cyfleusterau golchi dwylo cyfagos ar ddechrau'r digwyddiad, ac anogwch y cyfranogwyr i’w defnyddio'n rheolaidd.

 Anogwch y cyfranogwyr i olchi neu ddiheintio eu dwylo cyn ac yn ystod gemau a gweithgareddau cyswllt agos.

Alcohol

 Ni chaniateir yfed na chludo alcohol yn ystod gweithgareddau y tu allan i eiddo trwyddedig.

 Gofynnwch am ganiatâd y Tîm Llais Myfyrwyr os dymunwch drefnu bod alcohol ar gael mewn digwyddiad.

Risg i Enw Da: Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Cynrychiolwyr Cwrs

 Mae pob Cynrychiolydd Cwrs a phawb sy’n

bresennol mewn gweithgaredd yn

Hyrwyddwyr Prifysgol Bangor / Undeb y Myfyrwyr, a rhaid iddynt ddilyn polisïau a threfnau Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr ar bob adeg yn ystod gweithgareddau swyddogol.

 Rhaid i’r cyfranogwyr beidio â thramgwyddo eraill, achosi niwsans na gweithredu'n groes i drefnau / polisïau. Mae cynrychiolaeth yn cynnwys adegau pan wisgir dillad wedi'u brandio.

 Bydd Undeb y Myfyrwyr yn cymryd camau disgyblu os yw'n ofynnol.

Siaradwyr Allanol: Y Broses  Daw Siaradwyr Allanol o dan Bolisi Prifysgol Bangor ac ni ddylid eu gwahodd heb gyfarwyddyd gan Undeb y Myfyrwyr.

 Sefydlwch ofynion yn unol â'r cyngor a roddir i chi.

 Atgoffwch aelodau am y safonau gofynnol.

 Rhaid monitro i sicrhau bod safonau'n cael eu bodloni.

 Rhaid i'r holl weithgaredd fod yn unol â'r Polisi Cod Ymarfer ar Ryddid i Lefaru.

 Rhaid i drefnwyr digwyddiadau lenwi’r ffurflen gais Siaradwyr Allanol ar waelod y ddogfen uchod a’i chyflwyno i’r Tîm Llais Myfyrwyr.

Asesiad Risg Penodol ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Oddi ar y Safle Perygl Camau Rheoli Presennol Camau Gweithredu Pellach Camau i’w cymryd gan

Teithio mewn Cerbyd: Bysiau Mini, diogelwch cyffredinol gyrwyr a cherbydau

 Rhaid cydymffurfio ag Asesiad Risg Cerbydau

Undeb y Myfyrwyr. Er enghraifft: hyd taith, nifer o yrwyr, defnydd o gerbydau personol / wedi'u llogi, archwiliadau cerbydau.

 Rhaid i'r Aelodau gael eu briffio am y gofynion.

 COFIWCH: Mae gofynion penodol yn gymwys os bydd angen gyrru Bysiau Mini a/neu'n tynnu ôl-gerbydau.

 Cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr os oes angen gyrru mewn perthynas â gweithgareddau.

 Dilynwch y trefniadau’n unol â chyngor y Tîm Llais Myfyrwyr.

 Rhowch gyfarwyddyd i'r aelodau am weithdrefnau gyrwyr / cerbydau / bysiau mini.

 Sicrhewch eu bod yn cael eu monitro i sicrhau cydymffurfiaeth.

Lleoliadau Allanol: Defnydd, cyflwr, cyfleusterau

Ystyriaethau Amgylcheddol:

Tywydd, llanw, oriau golau dydd

 Mae'n rhaid i grwpiau ddewis lleoliadau priodol os ydynt yn defnyddio adeiladau nad ydynt yn perthyn i Brifysgol Bangor / Undeb y Myfyrwyr ar gyfer gweithgareddau / digwyddiadau cymdeithasol.

 Dylai grwpiau geisio cyngor gan y Tîm Llais Myfyrwyr os bydd angen.

 Penodwch Unigolyn Cyfrifol i wirio'r amodau ar gyfer gweithgaredd: cyn iddo ddigwydd, yn ystod y gweithgaredd, ac am gyfnod yn ei ddilyn, rhag ofn y bydd oedi.

 Rhaid i'r unigolyn cyfrifol feddu ar y cymhwysedd a'r awdurdod i ganslo os na ellir cyflawni'r gweithgaredd yn ddiogel e.e. tywydd, diffyg profiad Arweinwyr Gweithgaredd neu gyfranwyr.

 Gwiriadau i gynnwys yr holl amodau perthnasol ar gyfer y gweithgaredd a'r lleoliad e.e. golau dydd, tymheredd, gwynt, glaw, llanw.

 Gwybodaeth i'w chynnwys wrth gynllunio

 Gwiriwch yr hanfodion os ydych yn defnyddio lleoliadau nad ydynt yn lleoliadau cyhoeddus sefydledig e.e. Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, glanweithdra, safon hylendid bwyd, trefniadau diogelwch tân.

 Y Tîm Llais Myfyrwyr i gymeradwyo pob gweithgaredd liw nos.

 Gwiriwch ragolygon y tywydd a cheisiwch wybodaeth leol arbenigol cyn dechrau ar weithgareddau.

 Cysylltwch â'r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor a chymorth ynglŷn ag adnoddau i wneud penderfyniadau.

 Cyn y gweithgaredd, hysbyswch yr aelodau am y trefniadau a'u cyfrifoldebau uniongyrchol eu hunain e.e. dillad dal dŵr, bwyd, diod.

 Gwiriwch fod yr aelodau wedi'u

Diogelwch Personol

gweithgareddau, gan addasu'r gweithgareddau os fydd angen.

 Offer ychwanegol e.e. goleuadau wrth gefn ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn y tywyllwch, neu pan fo lefel y goleuni'n isel neu nad oes goleuni.

 Rhowch gyfarwyddiadau i'r aelodau ar yr hyn sydd i'w ddisgwyl a'r trefniadau.

 Ystyriwch ddulliau o gysylltu ag eraill yn ystod gweithgareddau e.e. ffôn llinell tir, ffôn symudol.

 Dylech gynghori cyfranogwyr yn ôl yr angen e.e. gweithio mewn parau.

paratoi cyn ymadael.

 Cyflwynwch amserlen y gweithgaredd – gadewch gopi gydag unigolyn cyfrifol nad yw’n cymryd rhan yn y gweithgaredd.

 Peidiwch â gadael i'r aelodau gymryd rhan os nad ydynt yn barod neu os ydynt yn pryderu am eu gallu i gymryd rhan yn ddiogel.

 Adroddwch am bryderon i Undeb y Myfyrwyr, adran Ddiogelwch y brifysgol neu'r Heddlu os yw'n briodol.

 Adroddwch am bob digwyddiad ar Ffurflen Damweiniau a Digwyddiadau'r brifysgol.

Llithro, Baglu neu Syrthio

 Os oes angen cymorth cyntaf, sicrhewch fod y sawl sydd wedi'i anafu a'r swyddog cymorth cyntaf yn ddiogel. Mae hefyd angen cwblhau ffurflen adrodd am ddigwyddiad.

Nodwch beryglon a chamau rheoli pellach sy’n benodol i’r gweithgaredd isod.

 Sicrhewch fod y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn lleoliad addas gyda’r risg lleiaf o lithro, baglu neu syrthio.

 Sicrhewch fod cynllun y digwyddiad yn addas ar gyfer cymhwysedd y cyfranogwyr, gan ystyried yr amodau amgylcheddol.

Enw

Asesiad Risg Penodol ar gyfer Gweithgareddau Eraill

Perygl Camau Rheoli Presennol Camau Gweithredu Pellach Camau i’w cymryd gan

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.