UNDEB BANGOR,UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGOR: ADOLYGIAD SEMESTER 1
GŴYL GROESO
Medi
Roedd gan yr Ŵyl Groeso wedd newydd ac er gwaethaf cyfyngiadau COVID-19 cawsom ddigwyddiad llwyddiannus iawn. Gyda llwyth yn cofrestru i'n clybiau, cymdeithasau a'n prosiectau gwirfoddoli.
ETHOLIADAU Cynhaliom ein Hetholiadau Cyngor Myfyrwyr. Gan sicrhau eich bod yn cael eich cynrychioli'n dda ar holl faterion ym Mhrifysgol Bangor.
Hydref
WYTHNOS AM WASTRAFF Rydym yn cymryd cynaliadwyedd o ddifrif ac roeddem yn falch o gymryd rhan yn yr wythnos hon â gynhaliwyd gan y Brifysgol.
SHWMAE SU'MAE Rydyn ni wedi bod yn annog ein myfyrwyr i ddod o hyd i'w Cymro mewnol wrth annog i bawb ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg!
INTERNIAETHAU Fe wnaethom gyflogi dau intern. Yr Intern Cynllun Tlodi ac Urddas Mislif a'r Intern Caplaniaeth a Ffydd
DIOGELWCH MYFYRWYR Fe wnaethon ni ymuno â ymgyrch lobïo cenedlaethol dros ddiogelwch myfyrwyr ar nosweithiau allan. Fe wnaethon ni boicotio'r clybiau nos a chael noson ffilm yn lle a chynnal gorymdaith i sefyll yn erbyn trais.
FFAIR DDIWYLLIANNOL Mae ein Ffair Ddiwylliannol yn gyfle i ddathlu'r holl ddiwylliannau gwahanol yma ym Mangor. Fe wnaethon ni gynnal noson o berfformiadau a bwyd gyda chyfle i gwrdd â'n cymdeithasau diwylliannol.
CONNECT@BANGOR Rydyn ni wedi bod yn helpu i hyrwyddo Cyswllt@Bangor. Maent yn cynnal Cerdded a Sgwrsio a Sesiynau Galw Heibio Iechyd Meddwl bob prynhawn Mercher gydag Ymgynghorwyr Iechyd Meddwl y Brifysgol fel rhan o'n gwaith i hyrwyddo iechyd meddwl iach.
Tachwedd
DODGEBALL YR UA Mae'r Undeb Athletau yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Dodgeball yr UA oedd y cyntaf o'r flwyddyn a gwelwyd timau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, i gyd wrth wisgo gwisg ffansi.
UNIVERSITY CHALLENGE Cawsom y nifer uchaf erioed o glyweliadau ar gyfer tîm 'University Challenge' Prifysgol Bangor. Fe ddaethon ni o hyd i'n tîm ac rydyn ni'n barod am Jeremy Paxman y BBC!
AROLYGON - GWELLA'CH PROFIAD MYFYRIWR Rydyn ni wedi bod yn gofyn ichi am eich profiadau ym Mangor. Bydd hyn yn ein helpu ni roi adborth i'r Brifysgol a'u lobïo i wneud newidiadau a fydd yn effeithio ar eich amser ym Mangor. Y semester hwn roeddem eisiau gwybod am y themâu Perthyn a Chynwysoldeb.
SESIWN HOLI AG ATEB GYDA SWYDDOGION GWEITHREDOL Y BRIFYSGOL Fe wnaethon ni roi cyfle i chi ofyn cwestiynau i swyddogion gweithredol y Brifysgol am bob agwedd o'r Brifysgol!
UNDEB BANGOR,UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGOR: ADOLYGIAD SEMESTER 1
Add photos or illustrations when needed You can add more steps
REFERENCES Cite the sources used in the infographic
DIWRNOD CREFFTAU YMLADD Arddangosodd ein clybiau Crefftau Ymladd eu celf mewn diwrnod llawn hwyl yng nghlwb nos Academi!
YMGYRCH TAI Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Adran Dai'r Brifysgol i sicrhau bod gennych chi'r holl wybodaeth am arwyddo ar gyfer tŷ myfyriwr. Y pethau i'w gwneud â'r pethau i osgoi-arbob-cost!
PERFFORMIADAU CYMDEITHASAU Mae ein Cymdeithasau wedi bod yn perfformio i'n myfyrwyr trwy gydol y semester. Perfformiodd BEDS (Cymdeithas Ddramatig Saesneg Bangor) 'One Man, Two Guvnors' ym Mhontio ym mis Tachwedd! UNDEB BANGOR,UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGOR: ADOLYGIAD SEMESTER 1
MIS YMWYBYDDIAETH CYNWYSOLDEB Mae ein Cynghorydd Myfyrwyr sy'n Hyrwyddwr Iechyd Meddwl wedi bod yn gweithio ar ddeunydd i hyrwyddo cynwysoldeb a rhannu gwybodaeth ar sut y gellir gwneud pethau'n haws fel y gallwn ni i gyd fod ychydig yn fwy cynhwysol.
IECHYD MEDDWL MENTAL HEALTH CHAMPION
MINDFUL CHEF Bwyd yn cael ei ddanfon at eich drws ac arddangosiad coginio ar-lein i gyd-fynd! Beth sydd ddim i'w hoffi!
TACLO'R TABW Dynion i ddod at ei gilydd i drafod y tabŵ; iechyd meddwl. Mae dynion yn aml yn teimlo fel na allant siarad am iechyd meddwl - ac mae'r sesiynau hyn yma i newid y naratif.
MOVEMBER Mae Movember wedi bod yn fis ysblennydd o godi arian a gwneud gwahaniaeth mewn iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, canser y brostad a chanser y ceilliau.
Fe wnaethon ni herio ein 'Mo-Bros' i dyfu'r tash gorau a fedrant nhw a'n 'Mo-Sisters' i Symud ar gyfer Movember. Cododd myfyrwyr Bangor swm syfrdanol o £6,214 gyda £3,148.80 enfawr yn cael ei godi gan Bêl-droed Dynion Prifysgol Bangor!
Rhagfyr
CYFLEOEDD GWIRFODDOLI Rydyn ni wedi bod yn brysur yn darparu llwyth o gyfleoedd gwirfoddoli i'n myfyrwyr; o gynnal Partïon Te i helpu myfyrwyr y dyfodol i wella eu sgiliau Saesneg.
GALL Y FERCH HON O FANGOR Gall y Ferch Hon o Fangor! Wythnos yn llawn o weithgareddau i annog menywod o unrhyw allu, unrhyw gefndir, ac o unrhyw faint a siâp i gymryd rhan mewn chwaraeon.
PERFFORMIADAU NADOLIG Beth yw'r Nadolig heb ychydig o gyngherddau? Mae ein Cymdeithasau ac UMCB wedi bod yn brysur yn diddanu'r cyhoedd gyda sioeau, a pherfformiadau.
MARCHNAD NADOLIG MANCEINION Fe wnaethon ni drin rhai o'n myfyrwyr gyda thaith i farchnadoedd hudolus Nadolig Manceinion.
LANSIO'R ETHOLIAD SABBS 2022 Un o'n hymgyrchoedd mwyaf a phwysicaf y flwyddyn. Mae ein hymgais i ddod o hyd i'r tîm Swyddog Sabothol nesaf yn hanfodol ar gyfer ein llwyddiannau yn y dyfodol.
TU ÔL I’R LLENNI Aildrefnu Hyfforddiant ar ôl cwymp y Dome Cyfarfodydd datblygu gyda chlybiau a chymdeithasau Estyniad a storfeydd ar gyfer offer y clybiau Cynnal a chadw cit y clybiau Edrych i mewn i gyflenwyr Golchdy gyda'r gobaith o gael y systemau gorau ar draws y Neuaddau'r flwyddyn nesaf. Sicrhau na fydd marciau'n cael eu rhyddhau ar ddydd Gwener ac bod rhywun bob amser yno i siarad â myfyrwyr am ei canlyniadau. Edrych i archwilio sut rydym yn adeiladu sgiliau cyflogadwyedd ehangach yn uniongyrchol i'r cwricwlwm Adroddiadau Ansawdd Mewnol ar gyfer yr Ysgol Gwyddorau Addysg a Gwyddorau Meddygol ac Iechyd; gan gynnwys uchafbwyntiau ac argymhellion ar sut y gallai'r ysgolion wella profiad myfyrwyr. Codi pryderon gan fyfyrwyr am beidio â chael digon o amser mewn darlithoedd i ddysgu'r cwricwlwm. Rydym wedi darparu cyllid i rai o'n cynrychiolwyr cwrs i gynnal digwyddiadau. Rydym wedi gweithio gyda'r Brifysgol i ddiweddaru'r rheolau ynghylch a gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer i sicrhau bod lles a hawliau myfyrwyr yn cael eu gwarchod. Rydym yn gweithio gyda'r Brifysgol i nodi pa sgiliau a phriodoleddau y mae myfyrwyr eisiau wrth adael y Brifysgol - a hefyd wrth symud ymlaen sut y dylid ymgorffori'r rhain yn y cwricwlwm. Gwella’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i ddarpar fyfyrwyr ar Ddiwrnodau Agored Cefnogi gyda prosiect i wella darpariaeth iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg ar-lein Cynrychioli Undebau Myfyrwyr Cymru a’r iaith Gymraeg ym Mwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Senedd Cymru