20 ADRODDIAD
19
Adroddiad Blynyddol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor Llywydd 2018-19: Gethin Morgan Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin, 2019
DIWEDDARIAD Y LLYWYDD
Annwyl Gyfeillion, Mae hi’n anodd credu ein bod ni bron â chyrraedd diwedd y flwyddyn academaidd hon. Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda i UMCB er gwaethaf yr heriau ariannol oedd yn wynebu’r Brifysgol. Yng nghanol holl firi’r toriadau, dwi’n hyderus bod myfyrwyr UMCB wedi parhau i fwynhau bwrlwm bywyd myfyrwyr Cymraeg Bangor. Petawn yn gorfod dewis un peth da a gododd o ganlyniad i’r toriadau, y ffaith bod UMCB wedi llwyddo i wreiddio ei hun yn ddwfn yn y Brifysgol fel mudiad gwleidyddol a chanddi wir ddiddordeb a rôl i’w chwarae yn nemocratiaeth a llais myfyrwyr y Brifysgol fyddai hynny. Hyderaf ein bod ni eleni, yn dilyn gwaith caled gan ragflaenwyr UMCB, wedi sefydlu’n gadarn ar draws y Brifysgol fel corff sy’n gwneud mwy na darparu digwyddiadau cymdeithasol i griw cymharol fach o fyfyrwyr. Ond peidiwch â meddwl mai fi sydd wedi bod yn gweithredu’n annibynnol - llafur caled fy rhagflaenwyr a thîm diwyd o fyfyrwyr y tu ôl imi sydd wedi ein galluogi i gamu i’r llwyfan gwleidyddol yn y Brifysgol a thu hwnt. Pan ddechreuais fy nghyfnod fel Llywydd, nid oedd fy amcanion yn dra gwahanol i rai o’r llywyddion blaenorol. Mewn gwirionedd, y cyfan mae Llywydd UMCB yn ei wneud yw hwylio’r llong mor llyfn ac effeithiol ag sy’n bosib. Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd gen i rai amcanion penodol ac rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu’r hyn rydym wedi llwyddo ei wneud gyda’n gilydd. Fy uchafbwynt personol i eleni, heb os, oedd y Noson Wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd JMJ. Un o fy mhrif amcanion ar ddechrau’r flwyddyn oedd gwobrwyo myfyrwyr UMCB a dangos ein gwerthfawrogiad o waith da ein myfyrwyr. Rwy’n gobeithio bod y noson wedi bod yn llwyddiant ac y bydd yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.
03
UMCB AC UNDEB BANGOR Eleni oedd y flwyddyn academaidd gyntaf i UMCB fod yn rhan o Undeb Bangor ers bron i 10 mlynedd. Mae’r berthynas rhwng UMCB ac Undeb Bangor wedi bod yn un tymhestlog yn hanesyddol, ond rwy’n hyderus bod yr is-ddeddfau a osodwyd gan fy rhagflaenwyr yn gosod sylfaen ddiogel i ddyfodol UMCB. Mae’r cyfnod o gynefino i strwythurau’r Undeb wedi bod yn un hwyliog ar y cyfan er ei bod hi’n anodd ar brydiau cytuno â gweledigaeth rhai o’r swyddogion sabothol eraill ond mae hynny, yn amlwg, yn rhan naturiol o fywyd yr Undeb. Gan fod yr Undeb yn annibynnol o’r Brifysgol, nid oes rhaid iddynt ddilyn y safonau iaith sy’n ddisgwyliedig gan Brifysgolion felly euthum ati ar ddechrau’r flwyddyn i lunio is-ddeddf dwyieithrwydd Undeb Bangor. Mae’r is-ddeddf yn gosod gofynion tebyg i rai’r Brifysgol ac yn sicrhau ymrwymiad yr Undeb i’r iaith Gymraeg yn y dyfodol. Gweler yr isddeddf yma:
www.undebbangor.com/dwyieithog ‘ARFer’. Roedd y project yn gweithio ar hybu’r Gymraeg yn y gweithle ac roeddwn yn awyddus i sicrhau bod dilyniant i’r gwaith da a gyflawnwyd. O ganlyniad iddo, â holl staff parhaol yr Undeb erbyn hyn yn medru defnyddio o leiaf rhywfaint o Gymraeg, mae bob uned yn y swyddfa lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol yn cynnal awr Gymraeg unwaith yr wythnos. Mae’n awr boblogaidd iawn ac yn meithrin sgiliau a hyder y dysgwyr sydd mor barod i gyfrannu yn Undeb Bangor. Bu UMCB hefyd yn rhan o gynhadledd arweinwyr myfyrwyr Undeb Bangor yn addysgu myfyrwyr am yr is-ddeddf dwyieithrwydd a sut y gallwn gynorthwyo clybiau a chymdeithasau a’u hymrwymiad i’r Gymraeg. Cafwyd newid hefyd i strwythur staffio UMCB. Er bod UMCB yn cael ei gynnwys yn swydd-ddisgrifiad holl aelodau staff y tîm Cyfleoedd erbyn hyn, mae’r aelod staff sydd â chyfrifoldeb dros gymdeithasau Undeb bellach yn Gydlynydd Cymdeithasau ac UMCB. Yn ogystal, rydym wedi cyflogi aelodau staff-myfyrwyr am 16 awr yr wythnos a bu UMCB yn ffodus i benodi pobl arbennig yn Lleucu Myrddin ac Elen Wyn. Mae’r ddwy wedi bod ynghlwm â llawer o’r gwaith yn trefnu digwyddiadau UMCB ac mae ein dyled yn fawr i’r ddwy ohonynt. Mae Undeb yn cynnal noson wobrwyo flynyddol i’r projectau gwirfoddoli a’r cymdeithasau. Roedd hi’n fraint bersonol i mi gael cyflwyno’r noson honno ond yn fwy na hynny, roedd hi’n braf gweld gwobr newydd eleni ar gyfer cymdeithas orau UMCB, ynghyd â’r un arferol am gyfraniad i ddiwylliant Cymraeg. Enillwyr eleni oedd Aelwyd JMJ a gipiodd y wobr newydd a Chymdeithas John Gwilym Jones a gafodd y wobr cyfraniad i ddiwylliant Cymraeg. Mae’n braf gweld bod UMCB yn rhan ganolog o waith Undeb Bangor. Mae hi erbyn hyn yn gyfnod o baratoi cynlluniau gweithredu ar gyfer y flwyddyn i ddod ac mae UMCB a gwaith UMCB yn rhan ganolog o’r cynlluniau hynny.
04
LLYWODRAETHU UMCB Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol cyntaf eleni ym mis Hydref ac etholwyd Mabon Dafydd yn aelod o’r pwyllgor fel cynrychiolydd y flwyddyn gyntaf. Roedd hi’n braf gweld cynifer o lasfyfyrwyr yn sefyll am y swydd sy’n arwydd o frwdfrydedd a chyffro at y dyfodol. Roedd y pwyllgor yn awyddus i ail-strwythuro’r pwyllgorau rhywfaint eleni gan fanteisio mwy ar yr is-bwyllgor (cymdeithasau). Mae’r is-bwyllgor wedi bod yn bwysig o ran trafod digwyddiadau a dyddiadau o wythnos i wythnos ac wedi cyfrannu’n effeithiol i’r Pwyllgor. Yn ogystal â hyn, mae golygydd y Llef wedi cael ei dynnu o’r pwyllgor er mwyn gwneud lle i Gynrychiolydd LHDT+. Fy ngobaith yw y bydd Lleucu'n gallu dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf gyda strwythur pendant i’r pwyllgorau. Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol ddiwedd y flwyddyn ar 30 Ebrill. Roedd hi unwaith eto yn braf gweld cynifer yn cynnig eu henwau am wahanol swyddi a dyma’r tîm a fydd yn llywio UMCB flwyddyn nesaf:
Llywydd JMJ – Mabon Dafydd Cymric - Iwan Evans, Branwen Roberts, Aled Rosser ac Ioan Rees Cynrychiolydd yr Ail Flwyddyn – Huw Jones Cynrychiolydd y Drydedd Flwyddyn – Bethan Boland Cynrychiolydd Galwedigaethol – Emily Birch Cynrychiolydd LGBT+ - Aled Rosser Cynrychiolydd Chwaraeon – Iwan Evans Golygydd y Llef – Branwen Roberts
Bydd cynrychiolydd ôl-radd, cartref a’r flwyddyn gyntaf yn cael eu hethol ym mis Hydref.
05
UMCB A'R GYMUNED Bob blwyddyn, mae UMCB yn pontio â’r gymuned leol drwy amryw o ffyrdd, ac efallai nad yw cysylltu â’r gymuned wedi bod mor effeithiol eleni o gymharu â blynyddoedd cynt. Ond, lle oedd modd, cydweithiodd UMCB â Menter Iaith Bangor, yn arbennig felly dros gyfnod y Nadolig a Gŵyl Ddewi. Mae gwirfoddoli’n rhan bwysig o fywyd UMCB eleni ac roedd hi’n braf cydweithio â’r Ganolfan Ehangu Mynediad ar y project ‘Profi’. Bu UMCB yn cynorthwyo â’r gwaith hyrwyddo ac roedd hi’n braf gweld nifer o siaradwyr Cymraeg yn rhan o’r project. Yn ogystal, mae’r project ‘Ffrind Cymraeg’ wedi bod yn llwyddiant eleni gyda thros 20 o fyfyrwyr yn cymryd rhan ynddo. Bu UMCB yn estyn at y gymuned hefyd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd yn ystod ein ‘Prynhawn Prosecco’. Roedd hi’n braf cyfarfod â nifer o wahanol bobl gan gynnwys darpar fyfyrwyr a chroesawu cyn-fyfyrwyr yn ôl i stondin y Brifysgol. Mae’r holl gymdeithasau hefyd yn cynnal digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r gymuned, yn amrywio o gynhyrchiad o ddrama ‘Ac Eto Nid Myfi’ John Gwilym Jones at gyngerdd yr Aelwyd, a bu llawer o’n myfyrwyr yn cydweithio’n annibynnol â’r gymuned. Nid af i ymhelaethu am y cymdeithasau gan fod ganddynt eu hadroddiadau eu hunain.
CYFATHREBU Mae UMCB wedi gwneud pob ymdrech i geisio sicrhau ein bod yn cyfathrebu trwy ddulliau fel cylchlythyrau ac e-byst. Eleni, am y tro cyntaf, sefydlwyd teledu UMCB a oedd yn cyflwyno crynhoad byr o’m gweithgareddau misol. Mae’r fideos wedi bod yn boblogaidd ac rwy’n gobeithio y byddant yn parhau flwyddyn nesaf. O ran y cyfryngau cymdeithasol, rydym wedi ymdrechu i sicrhau ein bod mor fywiog â phosib. Nid ydym wedi llwyddo ymhob maes ac efallai y dylem wella ar Instagram a Snapchat ac mae gwaith i’w wneud i wella proffil UMCB ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn rhan o’n cynllun i wella cyfathrebu, cynhaliwyd noson ‘Beth yw bod yn Llywydd UMCB’ er mwyn i mi roi gwell darlun o waith Llywydd UMCB i’n myfyrwyr. Rwy’n gobeithio bod y noson wedi bod yn fuddiol.
06
NEUADD JMJ Eleni, cafodd Neuadd JMJ geginau newydd wedi blynyddoedd o lobïo. Mae’r ceginau wedi bod yn boblogaidd iawn a’r gobaith oedd adnewyddu’r ystafelloedd. Erbyn hyn, am resymau ariannol mae’r Brifysgol wedi tynnu yn ôl ac yn bwriadu paratoi cynllun hirdymor. Teimlwn na fyddai’n fuddiol brwydro’n galed dros hyn gan fod gan UMCB frwydrau i’w hennill mewn meysydd academaidd, a phenderfynodd y Pwyllgor Gwaith ei bod yn bwysicach i ni lobïo dros addysg Gymraeg. Byddaf yn mynd ati dros yr wythnosau nesaf i weld beth y gallwn ei wneud i geisio gwella’r Ystafell Gyffredin. Rydym eisoes wedi cael bwrdd du a rhoi rhai lluniau ychwanegol fyny.
YMGYRCHU Mae UMCB wedi bod ynghlwm â holl ymgyrchoedd Undeb Bangor: Dim Tir Llwyd, Tlodi Misglwyf, Cymorth Astudio a llawer mwy. Rydym wedi sicrhau bod materion Cymraeg a Chymreig yn cael sylw yn yr ymgyrchoedd hyn. Ein prif ymgyrch eleni, fel arfer, oedd yr Wythnos Shw’mae Su’mae. Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a aeth allan i ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth am yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Roedd presenoldeb UMCB o gwmpas y Brifysgol yn amlwg iawn. Roedd y gig yn Pontio yn uchafbwynt i’r Wythnos ac mae’n bwysig inni gydnabod gwaith fy rhagflaenydd, Mirain Llwyd, a wnaeth y trefniadau pan oedd yn Llywydd. Gobeithio y gallwn ni adeiladu ar yr wythnos hon flwyddyn nesaf. Ym mis Ionawr eleni, aeth UMCB ati i gynnal ymgyrch ar-lein yn edrych ar ffeithiau a phroffiliau am Hanes Cymru. Enw’r ymgyrch oedd Mis Hanes Cymru UMCB a’i bwriad oedd codi ymwybyddiaeth am Hanes Cymru. Roedd hi’n ymgyrch boblogaidd gyda llawer o’r ffeithiau a’r proffiliau’n cael nifer o drawiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn dilyn poblogrwydd Mis Hanes Cymru, aed ati i wneud yr un peth ym mis Ebrill gyda Mis Hanes Bangor. Unwaith eto, roedd yr ymgyrch yn un boblogaidd a gwnaeth pawb ei mwynhau. Rhoddwyd y ffeithiau’n ddwyieithog er mwyn i bawb eu deall. 07
IECHYD MEDDWL Mae Iechyd Meddwl yn parhau i fod yn bwnc llosg i fyfyrwyr. Unwaith eto, mae’n fater y byddwn wedi hoffi gwneud mwy yn ei gylch ond rydym wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau bod y Brifysgol yn penodi cwnselydd Cymraeg i’r Adran Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae Undeb Bangor hefyd yn y broses o lunio strategaeth Iechyd Meddwl dan arweiniad myfyrwyr ar y cyd â’r Brifysgol a bydd cryn bwyslais ar y Gymraeg yn y strategaeth honno. Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) Cymru (rydw i hefyd ar Bwyllgor Gwaith UCMC) wedi sicrhau £2 filiwn ychwanegol gan y llywodraeth at wasanaethau iechyd meddwl. Y datblygiadau diweddaraf ynghlwm â’r grant yw bod Undeb Bangor yn cydweithio ag Adran Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Bedwyr a chyrff allanol er mwyn mynd ati i gyflwyno cais i ennill arian i ddatblygu adnoddau Cymraeg ym maes Iechyd Meddwl. Bydd hyn, gobeithio, yn ddechrau ar gyfnod cyffrous ac arloesol yn y Brifysgol ym maes Iechyd Meddwl cyfrwng Cymraeg.
RÔL GENEDLAETHOL Mae fy rôl genedlaethol yn bennaf wedi bod ynghlwm â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel aelod o’r Bwrdd Academaidd a Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Rydw i wedi cyflwyno 2 bapur i’r Bwrdd Academaidd sy’n amlinellu’r posibilrwydd o gael Llywydd llawnamser Cymraeg Cenedlaethol a gwella cynrychiolaeth ar y bwrdd. Mae’r papur diweddaraf yn ymwneud â newid cynrychiolaeth ac aelodaeth myfyrwyr ar y Bwrdd Academaidd gan gynnwys swyddogion myfyrwyr a etholwyd gan eu hundebau. Mae’n gam cyffrous a’r weledigaeth yw bod cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg yn dod at ei gilydd a chreu fforwm gwleidyddol a phwerus. Mae UMCB yn parhau i gydweithio ag Undebau Myfyrwyr Cymraeg ar draws Cymru ac yn trafod materion gydag UMCA, UMCC a Swyddog Iaith Gymraeg Prifysgol Abertawe. Mae’r 4 ohonom wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ac wedi cynnig help llaw i’n gilydd pan fo angen. Hoffwn longyfarch Abertawe yn arbennig am lwyddo i gael swyddog iaith Gymraeg llawn-amser am y tro cyntaf erioed ac i UMCC yng Nghaerdydd ar ddechrau ar y daith tuag at gael un.
08
DIGWYDDIADAU Y m m o d d a r f e r o l U MC B , m a e l l a w e r o d d i g w y d d i a d a u y n c a e l e u t r e f n u i f y f y r w y r b o b b l w y d d y n . Y n d r a d d o d i a d o l , m a e U MC B w e d i c a e l e i w e l d f e l m u d i a d s y ’ n t r e f n u d i g w y d d i a d a u c y f f r o u s a d i m b y d arall. Ond, dros y blynyddoedd, mae ymdrechion mawr wedi talu ffordd ac mae’r cyfrifoldeb dros yr arlwy cymdeithasol wedi cael ei ddirprwyo i’r Cymric. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i 4 aelod y Cymric – Llinos, Lleucu, Non ac Alistair sydd wedi gweithio mor ddiwyd eto eleni i s i c r h a u b w r l w m y m Ma n g o r U c h a f . O n d m a e U MC B h e f y d w e d i t r e f n u n i f e r o d d i g w y d d i a d a u i ’ r myfyrwyr a dyma rai ohonynt.
Wythnos Groeso
Taith Rygbi
Roedd yr Wythnos Groeso yn wythnos arbennig iawn ac yn gyfle i wneud yn siŵr bod y glasfyfyrwyr yn cael croeso arbennig yma ym Mangor. Gwerthwyd dros 150 o becynnau’r glas oedd yn cynnwys amryw o ddeunyddiau UMCB a thocyn i’r Gig Shw’mae Su’mae. Am y tro cyntaf eleni, cafodd y myfyrwyr lawlyfr helaeth yn llawn gwybodaeth am UMCB ar gyfer y flwyddyn. Gallwch weld ein llawlyfr yma:
Roedd y daith rygbi yn un hynod boblogaidd eto eleni a phawb wedi mwynhau. Aeth dros 100 ohonom ar fws i Gaeredin i gefnogi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Roedd myfyrwyr UMCB, fel ym mhob digwyddiad eleni, yn gwbl ddisgybledig a’u hymddygiad yn haeddu dim byd ond clod.
www.undebbangor.com/BethywUMCB Dros yr wythnos, trefnwyd Brecwast UMCB yn neuadd JMJ er mwyn i bawb ddod i nabod ei gilydd yn well a threfnwyd un ym mis Ionawr adeg arholiadau. Roedd hyn yn rhywbeth newydd eleni a braf oedd gweld myfyrwyr UMCB yn dod ynghyd i drafod nifer o wahanol bethau. Roedd y Ffair
Gloddest Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Gloddest wedi cael ei chynnal yng Nghwesty’r Celtic Royal, Caernarfon. Ond, teimlad y Pwyllgor Gwaith eleni oedd cael lleoliad newydd. Cafwyd gwledd yng ngwesty’r Meifod, Bontnewydd. Diolch iddynt am y croeso.
Digwyddiadau Rhyng-golegol
Dydd Gŵyl Dewi a Santes Dwynwen
Heb os, un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd UMCB yw’r digwyddiadau Rhyng-golegol. Cynhaliwyd y Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth a’r Eisteddfod yn Abertawe.
Yn anffodus, bob blwyddyn mae’r Orymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei chynnal ar yr un dyddiad a’r Eisteddfod Ryng-golegol, felly mae’n drueni nad yw UMCB yn gallu ymroi’n llawn i’r digwyddiad a chodi ei phroffil ar draws y Brifysgol. Ond, aed ati adeg Santes Dwynwen i werthu rhosod gyda negeseuon arnynt er mwyn dathlu’r digwyddiad.
Teithiodd bron i 100 ohonom lawr i Abertawe a sicrhau buddugoliaeth am y pedwerydd tro yn olynol. Daeth y darian yn ôl i Fangor wedi llwyddiant yn rhai o brif gystadlaethau’r gwaith cartref, y llwyfan a’r chwaraeon. Roedd hi’n benwythnos anhygoel ac yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn, gydag ymddygiad UMCB unwaith eto yn gwbl ddisgybledig. Roedd pob un o’r perfformiadau’n safonol a diolch i bawb a fu ynghlwm â’r gwaith trefnu.
09
CYFLEOEDD Cymdeithasau Mae rhai o’n cymdeithasau wedi mynd o nerth i nerth a hoffwn longyfarch bob un ohonynt a diolch i’r bobl hynny sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith trefnu. O siarad o brofiad, mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig ac rydw i fel Llywydd yn falch iawn o’n myfyrwyr. Mae bob un cymdeithas wedi gwneud yn anhygoel. Gan fod gan bob cymdeithas adroddiad, ni af i’ch diflasu gyda gwybodaeth benodol ond roedd hi’n braf iawn gweld geni Cymdeithas John Gwilym Jones eleni. Mae’r gymdeithas honno wedi creu cryn argraff ym mywyd myfyrwyr UMCB a’r gymuned. Mae’n deg dweud bod gwaith i’w wneud gyda Chymdeithas y Dysgwyr a’r Llef ond rwy’n edrych ymlaen at ddechrau trafodaethau gyda Lleucu a’r swyddogion newydd er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r cymdeithasau yma. Llongyfarchiadau i bob un cymdeithas a phob hwyl iddynt yn y dyfodol.
Chwaraeon Mae Chwaraeon UMCB, heb os, wedi bod yn destun clod eleni fel mae’r adroddiad yn pwysleisio. Hoffwn ddiolch i’r rhai hynny sydd wedi bod ynghlwm â’r trefnu a dymuno pob hwyl at y dyfodol. Mae capteiniaid y flwyddyn nesaf eisoes wedi cael eu penodi felly pob lwc i’r criw newydd a gobeithio bydd yr ysgogiad yn eich mysg yn parhau.
10
GWOBRAU UMCB Un o fy mlaenoriaethau fel Llywydd UMCB eleni oedd sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael mwy o glod am eu gwaith caled dros fywyd myfyrwyr. Euthum ati i drefnu noson wobrwyo i’n myfyrwyr gyda chymorth ein staffmyfyrwyr. Roedd hi’n noson arbennig iawn ac roedd llwyth o fyfyrwyr a swyddogion y Brifysgol yn bresennol. Diolch i Osian Owen, Nia Haf, Liam Evans a Steffan Nicholas am noddi tarian newydd, sef tarian ‘Afallon’ i’r clwb neu gymdeithas orau yn UMCB. Gyda hynny, gobeithio y bydd y noson yn parhau o flwyddyn i flwyddyn. Y tair oedd ar y panel yn beirniadu (yn dilyn enwebiadau gan fyfyrwyr) oedd Lois Roberts o’r Coleg Cymraeg, Mari Price o’r Adran Gyflogadwyedd a Kim Jones o broject ‘Profi’. Cafodd y tair modd i fyw wrth feirniadu a dyma’r buddugwyr:
Ymroddiad Arbennig
Digwyddiad y Flwyddyn
Bethan Boland Ioan Wynne Rees Criw ‘Ac Eto Nid Myfi’ Tomos Morris Jones Catrin Hedges
Cynhyrchiad Cymdeithas John Gwilym Jones
Dysgwr y Flwyddyn
Cydnabyddiaeth Arbennig
Jack Wilson
Alistair Mahoney Awen Fflur Edwards Catrin Llewelyn Huw Bebb Iwan Evans Lleucu Myrddin Llinos Hughes Magi Elin Hughes Nerys Williams Non Roberts Osian Owen Steffan Dafydd Tomos Huw Owen
Cymdeithas neu Glwb y Flwyddyn Chwaraeon y Cymric
Llongyfarchiadau mawr i’r buddugwyr i gyd! 11
UMCB A'R BRIFYSGOL Fel y gwyddoch, mae hi wedi bod yn gyfnod tymhestlog iawn i Brifysgol Bangor dros y flwyddyn ddiwethaf gyda lleihad yn niferoedd y myfyrwyr yn golygu bod toriadau yn angenrheidiol. Yn dilyn hyn, ar y cyfan, mae UMCB wedi cynnal perthynas dda gyda’r Brifysgol. Mae’n deg dweud bod straen wedi bod yn y berthynas ar brydiau gan fod barn wahanol gan rai ynglŷn â pha drywydd y dylai’r Brifysgol ei dilyn yn y dyfodol. Pan gychwynnais yn fy swydd, un peth yr oeddwn yn awyddus i’w wneud oedd cryfhau strwythurau cynrychiolwyr cwrs Cymraeg er mwyn gwella profiad myfyrwyr yn y Brifysgol. Erbyn hyn, mae cynrychiolydd cwrs Cymraeg ar bob un pwyllgor staff-myfyrwyr felly rydym ar y trywydd iawn. Yn gynharach yn y flwyddyn academaidd, sefydlwyd fforwm i’r cynrychiolwyr cwrs Cymraeg gyda’r gobaith o gael cyfarfodydd rheolaidd a chyson. Mae’n rhaid imi gyfaddef nad ydwyf wedi mynd â’r maen i’r wal fel y byddwn wedi hoffi gwneud ond mae’r seiliau yn eu lle. Er gwaethaf hynny, cefais y cyfle i siarad gyda nifer o fyfyrwyr a chynrychiolwyr cwrs yn ystod yr Ymgynghoriad. Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, roedd gofyn imi eistedd ar bwyllgor tasg a gorffen yn ymchwilio i sefyllfa bresennol Ysgol y Gymraeg. Roedd yr Ysgol, yn dilyn ailstrwythuro’r llynedd, wedi dod yn rhan o’r Ysgol Ieithoedd, Ieithyddiaeth a Llenyddiaethau. Daeth i’r amlwg bod hyn yn peri gofid i nifer ac euthum ati i lunio adroddiad ar farn y myfyrwyr ynghylch y mater a chynnal grŵp ffocws i gloriannu’r farn honno. Barn y myfyrwyr oedd ail-sefydlu Ysgol y Gymraeg gan ychwanegu elfen Astudiaethau Celtaidd ac euthum ati i fynegi’r farn honno yn gwbl glir. Sefydlwyd Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr.
Penodi Is-ganghellor newydd Mae’r Brifysgol yn y broses o benodi Is-ganghellor newydd ac mae UMCB wedi bod yn llafar iawn ei safiad ynghylch gofyniad iaith y swydd. Ysgrifennwyd llythyr ar y cyd rhwng UMCB a’r AC Siân Gwenllian yn mynegi ein barn a chafwyd sylw cenedlaethol yn y wasg.
Ymgynghoriad ar achosion busnes i sicrhau cynaliadwyedd ariannol Roedd cyfnod yr ymgynghoriad yn brysur iawn i mi fel llywydd ac i UMCB. Yn ystod y cyfnod hwn, bûm yn gweithio gyda myfyrwyr ar draws ysgolion i lunio dogfen oedd yn crynhoi pryderon a sylwadau myfyrwyr. Mae’r adroddiad i’w weld yma: www.undebbangor.com/AchosionBusnes Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar warchod y ddarpariaeth Gymraeg ar draws yr holl Ysgolion. Roedd pryderon cychwynnol y myfyrwyr ym meysydd Cerddoriaeth, Cymraeg, Gwyddorau Chwaraeon, Cemeg a Nyrsio (Anableddau Dysgu) ac aed ati i ymchwilio’n fanwl er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith â phosib ar y ddarpariaeth Gymraeg.
12
Ar y cyfan, rwyf o’r farn bod y Brifysgol wedi rhoi sylw dyledus i’r iaith Gymraeg yn ystod y cylch hwn o doriadau. Mae’r Brifysgol hefyd wedi sicrhau bod UMCB yn rhan bwysig o’r trafodaethau ac rydym wedi llwyddo i gael trafodaethau agored a chynhyrchiol wrth geisio gwarchod y ddarpariaeth. Roedd UMCB yn derbyn bod toriadau’n anorfod ac rydym wedi mynd ati’n adeiladol i sicrhau’r effaith leiaf bosib ar ein myfyrwyr. Er hynny, nid yw’r gwaith drosodd eto a bydd fy olynydd yn llwyr ymwybodol o’r holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd ac rwy’n gwbl hyderus y bydd hithau'n cadw llygad barcud ar y sefyllfa o fis Medi ymlaen. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Athro Jerry Hunter, Dr. Llion Jones a Dr. Lowri Hughes am fod mor barod i ateb unrhyw ymholiadau ynghylch y ddarpariaeth ac i wrando ar unrhyw bryderon a gododd ymysg myfyrwyr. Fel Llywydd UMCB, mae gofyn imi fynychu nifer o gyfarfodydd y Brifysgol, yn bennaf ynghylch y Gymraeg. Rwy’n gwbl hyderus fy mod wedi cynrychioli myfyrwyr mor effeithiol ag y medrwn, yn enwedig ar brif bwyllgor y Brifysgol, sef y Cyngor, ac ar y Pwyllgor Dwyieithrwydd, un o is-bwyllgorau’r Cyngor. Bûm ynghlwm â’r broses o gael y Cyngor i gymeradwyo egwyddorion craidd i’w gwarchod yn ystod y toriadau gan frwydro i sicrhau bod y polisi iaith a buddion myfyrwyr yn cael eu parchu. Yn ogystal â’r cyfarfod hwn, rwyf wedi bod ynghlwm â chyfarfodydd ynghylch safonau academaidd y Brifysgol, safonau’r Gymraeg a gwahanol baneli disgyblu.
Marchnata Mae UMCB yn parhau i fod yn arf marchnata i Brifysgol Bangor oherwydd yr arlwy yr ydym yn ei gynnig. Eleni, mae UMCB wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd marchnata’r Brifysgol trwy fynychu’r Eisteddfod am wythnos, mynd i ffeiriau UCAS, mynd ar daith o gwmpas ysgolion De Cymru a bod yn rhan ganolog o ginio’r Cymry yn ystod diwrnodau agored.
13
Canolfan Bedwyr Mae Canolfan Bedwyr yn un o brif bartneriaid UMCB yn y Brifysgol. Er gwybodaeth, Canolfan Bedwyr yw’r ganolfan iaith sy’n gartref i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yr Uned Technolegau Iaith a’r Uned Gyfieithu. Mae’r ganolfan ynghlwm â darpariaeth Gymraeg ar draws y Brifysgol ac mae ein perthynas gyda’r Ganolfan yn un sefydlog a chadarn. Os oes unrhyw gwynion ynghylch y Gymraeg, byddaf yn mynd at y Pennaeth Polisi a Datblygu sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth â’r polisi iaith. Ar y cyfan, ychydig o gwynion ynghylch yr iaith yr ydwyf wedi eu derbyn.
Un cynllun cyffrous ar y cyd rhwng Canolfan Bedwyr ac UMCB yw cyflogi intern i fonitro ac asesu’r Gymraeg ar draws y Brifysgol. Penodwyd Emma Lewis fel intern i ymchwilio i ba raddau yr ydym yn cydymffurfio â’r safonau gan weithio gydag ysgolion academaidd, gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr. Rwy’n siŵr y bydd ffrwyth ei llafur i’w weld yn fuan. Mewn cynhadledd a drefnwyd gan Ganolfan Bedwyr, roedd hi’n fraint cael cyfarfod â Gweinidog y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AC i drafod y Gymraeg yn y sector addysg uwch. Pwysleisiais iddi bwysigrwydd sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n flaenoriaeth i’r Llywodraeth.
Pontio Yn ystod y flwyddyn, rydw i wedi gweithio ar nifer o weithgareddau Pontio. Hoffwn ddiolch i’r tîm am eu gwaith caled yn trefnu Gig Shw’mae Su’mae ac am eu gwaith caled gyda chynhyrchiad Cymdeithas John Gwilym Jones. Rydym eisoes wedi sicrhau slot i Aelwyd JMJ yn Theatr Bryn Terfel flwyddyn nesaf. Fel y gwyddoch, mae Cyfarwyddwraig Artistig Pontio yn gadael ac felly bydd recriwtio yn digwydd yn fuan. Bydd UMCB yn rhoi pwysau ar y Brifysgol i sicrhau bod y Brifysgol yn mynd ati i recriwtio gyda’r gofyniad iaith bod y Gymraeg yn hanfodol.
14
CLOI
Mae hi wirioneddol wedi bod yn fraint cael bod yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor. Rydych chi’n griw o fyfyrwyr anhygoel ac mae fy niolch i chi gyd yn enfawr. Chi, y myfyrwyr sy’n gwneud y gwaith caled ac mae’r wefr yr wyf wedi’i chael yn eich gweld yn ymhél â gwahanol weithgareddau wedi bod yn anghredadwy. Felly diolch. Mae fy niolch yn enfawr i nifer o bobl ond hoffwn ddiolch yn arbennig i griw Undeb Bangor, Mair, Dylan, Jess, Gerallt, Lleucu ac Elen am eu gwaith caled, i'r Pwyllgor Gwaith am sicrhau bod UMCB ar y trywydd cywir ac i swyddogion y brifysgol, Yr Athro Jerry Hunter a Dr Llion Jones. Hoffwn ddymuno pob lwc i UMCB ac i Lleucu flwyddyn nesaf. Rwy’n gwybod y bydd Lleucu’n llywydd arbennig iawn ac yn cynnig sgiliau gwahanol i mi a byddaf yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Lleucu am bythefnos cyn iddi ddechrau’n swyddogol. Mae hi wirioneddol wedi bod yn fraint.
Gethin Morgan (Llywydd UMCB 2018-19) 15
ADRODDI ADAU CYMDEI THASAU UMCB
Adroddiad Cymdeithas Dysgwyr UMCB gan Nerys Wyn Williams
Mae’r gymdeithas eleni wedi cael blwyddyn heriol o ran niferoedd. Ond er hyn parhau i geisio cynnal cymdeithas wnaethom. Gyda sawl digwyddiad wedi ei drefnu megis Cymraeg Cyflym, Noson Gemau, Noson Ffrind Cymraeg a chwis rhaid diolch i’r pwyllgor am eu dyfalbarhad drwy’r flwyddyn academaidd. Heb os canolbwynt y gymdeithas yw dysgwyr ond heb help myfyrwyr UMCB ni fyddai modd parhau i godi hyder dysgwyr ac felly diolch i’r rhai a fu’n cefnogi’r gymdeithas eleni. Mae ein cynllun Ffrind Cymraeg yn destun canmoliaeth gyda thua 25 o ddysgwyr wedi ymrwymo i’r cynllun gyda chymorth myfyrwyr UMCB. Ein gobaith ar gyfer y gymdeithas yw gweithio ar farchnata a cheisio sicrhau cysylltiad cryfach gyda chynlluniau dysgu lleol. Credwn fod angen gwneud pwrpas y gymdeithas yn gliriach gan bwysleisio nad i ddechreuwyr yn unig mae’r gymdeithas ond ar gyfer unrhyw un sydd wedi dysgu’r Gymraeg. Credwn hefyd fel pwyllgor eleni fod angen creu sylfaen fwy cadarn i’r gymdeithas gan geisio cynnig rhywbeth wythnosol i ddysgwyr, lle gallent ymarfer eu Cymraeg yn fwy rheolaidd. Hefyd fel pwyllgor eleni rydym wedi ceisio dysgu mwy am ddeunyddiau sydd ar gael i ddysgwyr a cheisio hyrwyddo'r rhain trwy ein cyfryngau cymdeithasol. Mae ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol wedi codi a gobeithio y byddwn yn parhau â’r cynnydd hwnnw wrth geisio cyflwyno rhestr eiriau neu syniad tebyg bob wythnos. Hoffwn ddiolch i holl aelodau UMCB a fu ynghlwm â’r gymdeithas eleni, a diolch yn arbennig i’r rhai sy’n cyfrannu at gynllun Ffrind Cymraeg. Hoffwn ddiolch i Gethin Morgan, Llywydd UMCB am fod yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd bosib gyda’r gymdeithas a hefyd llongyfarch un o’n Cadeiryddion eleni, Jack Wilson, ar gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn academaidd nesaf.
16
Adroddiad Aelwyd JMJ gan Steffan Dafydd
Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur i ni fel Aelwyd eleni gan gymryd rhan mewn nifer o gyngherddau a chystadlaethau. Braf iawn oedd croesawu nifer fawr o aelodau newydd nôl ym mis Medi. Daeth digwyddiad cyntaf y flwyddyn yn gynnar iawn ar ôl dechrau gyda’r Côr SATB yn canu mewn cyngerdd yn Theatr Bryn Terfel, Pontio. Dyma’r tro cyntaf i’r côr gael perfformio ar y llwyfan enwog hwn. Dyma oedd dechrau cyffrous i flwyddyn dda i’r Aelwyd. Un o uchafbwyntiau'r Aelwyd, a oedd efallai ychydig yn annisgwyl, oedd cael perfformio mewn aduniad o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol o’r 80au. Mor braf oedd cael morio canu yn y Glôb â’n gilydd gan gymharu hanesion o’n cyfnodau yn y brifysgol. Daeth pinacl holl waith y semester cyntaf wrth i ni gynnal ein cyngerdd Nadolig. Roedd hi’n noson hynod lwyddiannus gyda Chapel Berea Newydd yn llawn. Gwych oedd gallu gwneud dros £800 o elw a chyfrannu £250 tuag at elusen Mind Môn a Gwynedd. Dyma’r tro cyntaf i’r Aelwyd drefnu cyngerdd Nadolig ar ôl gorfod gohirio'r llynedd oherwydd tywydd drwg. Nesaf yng nghalendr y côr oedd cystadlu yn rownd gynderfynol Côr Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Braint oedd cael cystadlu mewn cystadleuaeth mor uchel ei safon a chenedlaethol. Dyma brawf o safon yr Aelwyd wrth i’r côr gyrraedd y tri uchaf drwy Gymru gyfan yng nghategori’r corau ieuenctid. Roedd yn brofiad anhygoel cael perfformio ar y teledu a chynrychioli Prifysgol Bangor gan ledu ei henw da. Adeiladwyd ar hyn yn ystod ein perfformiad yng Nghynulliad blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gwnaeth ein dehongliad o ‘Gwinllan’ yn sicr greu cynnwrf gyda nifer yn canmol y côr am eu canu mewn digwyddiad cenedlaethol.
17
Doedd dim seibiant ar ôl hynny wrth i’r côr baratoi i gystadlu yn Eisteddfod Sir Eryri a gynhaliwyd yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Unwaith eto cafwyd perfformiadau arbennig gan y côr, partïon, parti cerdd dant ac ensemble gan ennill pob cystadleuaeth. Llongyfarchiadau mawr i Cai Fôn am wneud yn wych yn unigol hefyd. Edrychwn ymlaen at gynrychioli’r Brifysgol ac Eryri lawr yng Nghaerdydd dechrau mis Mehefin. Yn y mis diwethaf, mae hi wedi bod yn gyfnod gwobrwyo i gymdeithasau ar lefel lleol a chenedlaethol. Mae’r Aelwyd wedi bod yn llwyddiannus gan ennill gwobr ‘Cymdeithas y Flwyddyn’ UMCB yng ngwobrau Undeb Bangor a chyrraedd rhestr fer y gymdeithas gelfyddydol orau yng Ngwobrau Cenedlaethol y Cymdeithasau UCM. Cynhaliwyd y noson honno ym Manceinion a daeth Aelwyd JMJ i'r brig yn genedlaethol! Ar lefel bersonol, hoffwn ddiolch i’r pwyllgor, ac Awen yn benodol fel cadeirydd, am eich holl waith dros y flwyddyn a hefyd i Gethin fel Llywydd UMCB sydd wedi bod mor barod i helpu ag unrhyw beth. Hoffwn ddiolch hefyd i Nerys ac i Alistair am arwain y corau merched a’r bechgyn. Mae'r un diolch yn mynd i sêr mwyaf yr Aelwyd sef ein cyfeilyddion, Catrin ac Elain. Nid oes dwywaith amdani mai uchafbwynt Côr Aelwyd JMJ eleni oedd Eisteddfod yr Urdd. Roedd chwe pharti neu gôr yn bresennol gyda JMJ a llwyddom i ennill chwe gwobr gyntaf. Roedd hyn yn dipyn o gamp yn erbyn rhai o gorau mwyaf enwog Cymru ac roedd y cystadlu o’r safon uchaf posib. Gallwch wylio’r holl berfformiadau ar YouTube. Dyma’r canlyniadau 1af yn yr Ensemble Lleisiol – trefniant o ‘Mardi Gras ym Mangor Ucha’’ gan Ioan Rees. 1af yn y Parti Cerdd Dant – gosodiad gan Elain Rhys 1af yn y Parti Bechgyn 1af yn y Parti Merched 1af yn y Côr gyda hyd at 40 o aelodau 1af yn y Côr gyda dros 40 o aelodau Mae’n werth nodi mai gwaith caled myfyrwyr sydd wedi ennill clod. Nid ar chwarae bach yw gwneud gosodiadau Cerdd Dant a threfniannau lleisiol a llwyddodd ein myfyrwyr i wneud hynny a chyfareddu Cymru. Hoffwn longyfarch Cai Fôn Davies, aelod o’r aelwyd, am sicrhau lle yn rownd derfynol Côr Cymru hefyd. Pob lwc Cai! Yn olaf, hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Aelwyd am eich cefnogaeth a’ch ffyddlondeb yn dod i’r ymarferion ac i godi safon yr Aelwyd gan fynd o nerth i nerth.
18
Adroddiad Cymdeithas John Gwilym Jones gan Osian Owen
Roedd disodli hen Gymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor â chymdeithas newydd yn risg. Roedd y Gymdeithas yn un ag iddi hanes hir ers ei sefydlu yn y 1920au, ac o’r herwydd nid ar chwarae bach yr aeth y pwyllgor ati i gymryd cam dewr ymlaen i’w thrawsnewid yn gymdeithas lenyddol gyffrous a fyddai’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr Bangor fwynhau llenyddiaeth. Roedd sefydlu’r gymdeithas yn rhan o rywbeth cenedlaethol sydd yn digwydd ar hyn o bryd, gyda nosweithiau barddol/llenyddol cymdeithasol yn cael eu trefnu ledled Cymru gan griwiau sydd â’u bryd ar wneud llenyddiaeth yn hygyrch i bawb. Ni ymhelaethwn ymhellach, ond am fwy o wybodaeth gallwch ddarllen yr erthygl hon: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45473650 Cyflwyno llenyddiaeth i fyfyrwyr mewn cyd-destun cymdeithasol oedd y bwriad felly, a hynny gan gadw traddodiad craidd yr hen Gymdeithas Ddrama – sef y cynhyrchiad blynyddol. Crynhown weithgaredd y Gymdeithas dros y flwyddyn ar ffurf pwyntiau bwled, er mwyn hwyluso’r darllen.
Prif Ddigwyddiadau Lansiad y Gymdeithas – noson o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chymdeithasu er mwyn dathlu allbwn llenyddol Bangor. Adloniant gan Elis Derby. Mynychwyd y noson gan oddeutu 60 o bobl. Stomp Cymdeithas John Gwilym Jones – digwyddiad llwyddiannus iawn a roddodd gyfle i rai o’n myfyrwyr rannu eu gwaith am y tro cyntaf. Noson hwyliog dan arweiniad tan gamp Gruffudd Antur. Sgwrs Flynyddol y Gymdeithas, ‘Gwaddol John Gwil’ – noson ddifyr gyda nifer anhygoel yn mynychu. Llwyddwyd i lenwi Neuadd Mathias, gyda gofod i sefyll yn unig erbyn i’r digwyddiad ddechrau. Cynhyrchiad Blynyddol - heb os, uchafbwynt y flwyddyn. Daeth criw gweithgar at ei gilydd a gwerthu’r holl docynnau mewn mater o ddyddiau. I ddarllen mwy am y digwyddiad hynod lwyddiannus, dilynwch y ddolen hon: https://my.bangor.ac.uk/content/newyddion-pontio/pontio-a-chymdeithas-ddrama-gymraeg-y-brifysgol-yncydweithio-ac-yn-denu-cynulleidfa-lawn-40259
Prif Ddigwyddiadau Lansiad y Gymdeithas – noson o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chymdeithasu er mwyn dathlu allbwn llenyddol Bangor. Adloniant gan Elis Derby. Mynychwyd y noson gan oddeutu 60 o bobl. Stomp Cymdeithas John Gwilym Jones – digwyddiad llwyddiannus iawn a roddodd gyfle i rai o’n myfyrwyr rannu eu gwaith am y tro cyntaf. Noson hwyliog dan arweiniad tan gamp Gruffudd Antur. Sgwrs Flynyddol y Gymdeithas, ‘Gwaddol John Gwil’ – noson ddifyr gyda nifer anhygoel yn mynychu. Llwyddwyd i lenwi Neuadd Mathias, gyda gofod i sefyll yn unig erbyn i’r digwyddiad ddechrau. 19
Marchnata Marchnata effeithiol Presenoldeb ar-lein Gwobr Diwylliant Cymraeg, Gwobrau Cymdeithasau Undeb Bangor Digwyddiad y Flwyddyn, Gwobrau UMCB Ymroddiad y Flwyddyn, Cast ‘Ac Eto Nid Myfi’, Cymdeithas John Gwilym Jones
I'w wella'r flwyddyn nesaf: Ffurfioli’r pwyllgor Ymgyrchoedd ar-lein (e.e. yr ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni) Cynaliadwyedd ariannol Dirprwyo cyfrifoldebau Datblygu ‘Her Greadigol yr Wythnos’
Diolch ichi gyd am eich cefnogaeth ar hyd y flwyddyn, a diolch yn arbennig i UMCB am bob cymorth. Bu’n flwyddyn gyntaf lwyddiannus, a hir oes i gymdeithas lenyddol Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
20
Adroddiad y Llef gan Branwen Roberts Hyd hyn eleni, un rhifyn o’r Llef sydd wedi’i gyhoeddi a’r gobaith yw rhyddhau un rhifyn olaf cyn diwedd y flwyddyn academaidd hon. Bu’r rhifyn cyntaf ychydig yn wahanol i’r arfer, yn herio’r Brifysgol i ryw raddau wrth iddynt ddod i benderfyniadau tyngedfennol o ran ddyfodol y Brifysgol a dyfodol yr iaith Gymraeg ynddi. Ehangwyd yr adran Ffordd o Fyw trwy ffocysu ar fywyd myfyrwyr ym Mangor a sut y gellir gwneud yn fawr o’r ddinas a’r ardal o’i hamgylch. Aethpwyd ag adran Y Gornel Greadigol gam ymhellach hefyd trwy ehangu ei chynnwys o ddarnau o ryddiaith a barddoniaeth yn unig ac ychwanegu ffotograffau a gweithiau celf iddi er mwyn arddangos amrediad mwy o waith aelodau UMCB. Roeddwn hefyd yn awyddus i deilwra’r adran newyddion ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Bangor a sôn am newyddion a fyddai’n effeithio arnynt yn uniongyrchol yn hytrach na newyddion rhyngwladol. Er gwaethaf llwyddiant y rhifyn cyntaf a’r gobaith y bydd yr ail rifyn yn llwyddo yn yr un modd, mae’n rhaid edrych i ddyfodol Y Llef a phenderfynu ar ba drywydd y dylid mynd â’r papur. Wedi bod yn olygydd ar y papur ers bron i flwyddyn bellach teimlaf mai nawr yw’r cyfnod gorau i newid trywydd a phwrpas y papur. Dyma amlinelliad o’r hyn y credaf y dylid ei wneud er mwyn gwthio’r Llef i dir newydd a’i chadw’n berthnasol ac yn effeithiol: Mae’n amlwg nad yw papurau newyddion (tu hwnt i’r Llef) cyn bwysiced ag yr oeddent rhai degawdau yn ôl o ganlyniad i’r cynnydd yn hygyrchedd newyddion ar y we, er enghraifft erbyn hyn mae dros hanner poblogaeth y Deyrnas Unedig yn darllen y newyddion diweddaraf ar y we yn hytrach nag o bapur newydd. Teimlaf y dylai’r Llef wneud y mwyaf o hynny yn hytrach na cheisio anwybyddu’r ffeithiau. Oherwydd yr ystadegau hyn yn ogystal â goblygiadau amgylcheddol cyhoeddi cannoedd o bapurau newyddion credaf y dylai’r Llef fod yn gwbl ddigidol o fis Medi ymlaen. Fel y crybwyllais uchod rwyf wedi dechrau teilwra’r papur at ddiben gwahanol sef bod yn ganllaw o ryw fath i fyfyrwyr y Brifysgol ond credaf y dylid mynd gam ymhellach flwyddyn nesaf a rhoi llais uniongyrchol i’r myfyrwyr. Yn hytrach na bod yn bapur newydd credaf y dylai’r Llef fod yn lle i fyfyrwyr leisio eu barn ynglŷn â materion y maent eisiau eu trafod, neu i hybu gweithgareddau. Teclyn i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr y dylai’r Llef fod yn hytrach na ffynhonnell newyddion yn unig. Er mwyn gwireddu hyn credaf y dylid ethol pwyllgor yn hytrach na dilyn y system o gael un golygydd a chriw o is-olygyddion yn gyfrifol am adrannau amrywiol. Credaf y byddai gwneud hyn yn rhoi mwy o ryddid i gyfranwyr i drafod beth bynnag yr hoffent yn hytrach na gorfod ysgrifennu i un adran benodol.
21
Dyma sut y credaf y dylid mynd ati i weithredu’r Llef newydd, digidol hwn: Yn gyntaf dylid creu’r pwyllgor a phenodi un person yn gadeirydd ac un arall yn is-gadeirydd. Nid wyf o’r farn bod angen ethol trysorydd nac ysgrifennydd ar hyn o bryd gan na fydd rhaid delio ag arian ryw lawer o ganlyniad i beidio argraffu rhagor. Dylid cyfyngu pob darn o waith i ryw 300 gair a gosod dyddiad pob mis i dderbyn pob darn o waith. Ni ddylid cyfyngu cynnwys y darnau o gwbl a gadael i bobl ysgrifennu am beth bynnag yr hoffent, o fewn rheswm. Wedi derbyn yr holl waith gellir penderfynu faint i’w gyhoeddi bob wythnos - nid wyf yn credu bod pwrpas gosod rheolau cadarn megis bod yn rhaid cyhoeddi o leiaf dau ddarn yr wythnos gan fod y nifer o weithiau sy’n cael eu derbyn yn amrywio bob tro. Dylid wedyn mynd ati i’w cyhoeddi ar gyfrifon Facebook, Instagram a Thrydar y papur. Un peth arall y byddwn yn ei wneud er mwyn cydfynd â’r newidiadau yma yw comisiynu logo newydd. Syniad arall byddai trefnu rhyw ddau ddigwyddiad y semester. Gallai’r digwyddiadau hynny fod yn ddadl er mwyn trafod materion y Brifysgol neu gellir gwahodd siaradwyr i drafod materion megis effaith Brexit ar fyfyrwyr. Dylid penderfynu ar y digwyddiadau yn ôl yr hyn y mae’r myfyrwyr a dilynwyr y Llef yn dangos y diddordeb mwyaf ynddynt.
Adroddiad y Cymric
Mae’r Cymric wedi bod ar daith dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn creu ‘brand’ annibynnol er mwyn i fyfyrwyr UMCB a’r gymuned ehangach allu gwahaniaethu rhwng UMCB a’r Cymric. Penderfynodd UMCB rai blynyddoedd yn ôl geisio gwahaniaethu’n fwy rhwng UMCB a’r digwyddiadau cymdeithasol gan fod yr aelodaeth yn teimlo bod UMCB yn cael ei gweld fel un digwyddiad cymdeithasol, hwyliog. Yn sgil hyn, mae pwyslais y Cymric bellach yn llawn ar ddigwyddiadau cymdeithasol. Rydym wedi adeiladu ar waith ein rhagflaenwyr ac mae’r ‘brand’ bellach yn rhan ganolog o fywyd myfyrwyr UMCB gyda’r ffin rhwng UMCB a’r Cymric yn un amlwg. Mae’r Cymric wedi llwyddo i ddenu cefnogaeth gan fyfyrwyr UMCB gan drefnu llu o weithgareddau gwahanol dros y flwyddyn, o’r Eisteddfodau Dafarn i’r meiciau agored. Mae’r pedwar ohonom yn hapus iawn gyda datblygiad y Cymric dros y flwyddyn ddiwethaf gan sicrhau cydweithio agos gyda Llywydd UMCB. Nid oes dwywaith amdani fod darparu calendr lawn ar gyfer y myfyrwyr yn rhan hanfodol o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn amlwg ar strydoedd Bangor Uchaf. Hoffwn ni ddiolch o galon i bawb am eu cymorth dros y flwyddyn ddiwethaf gan ddymuno’n dda i’r Cymric flwyddyn nesaf.
22
Adroddiad Chwaraeon y Cymric gan Magi Hughes Mae eleni wedi gweld trobwynt yn hanes chwaraeon UMCB gyda’r cynrychiolydd Chwaraeon cyntaf yn cael y cyfle gyda chriw o gapteiniaid brwdfrydig i ddatblygu chwaraeon y Cymric. Mae datblygiad a delwedd chwaraeon y Cymric wedi gweddnewid eleni gan adeiladu ar sylfeini cadarn a osodwyd mewn blynyddoedd cynt. Rydym wedi cynnal ymarferion pêl-droed bechgyn a merched, rygbi bechgyn a merched a phêl-rwyd merched. Dros y blynyddoedd a fu, nid yw’r ymarferion i gyd wedi bod yn digwydd bob wythnos ond gyda niferoedd sefydlog eleni, hawdd oedd mynd ati i gynnal ymarferion wythnosol. Yn ddiau, cystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yw’r uchafbwynt i’r timau chwaraeon ac eleni, sicrhaodd y timau fuddugoliaeth i UMCB gyda phob tîm yn perfformio’n arwrol. Roedd hi’n bleser gweld myfyrwyr UMCB yn tynnu ynghyd trwy chwaraeon gydag angerdd ein myfyrwyr ar y cae yn rhywbeth a fydd yn aros yn y cof am hir. Mae cael dillad, neu kit, yn rhan bwysig o dîm chwaraeon ac eleni, mae bob tîm wedi cael dillad newydd wedi’u noddi gan y Glôb. Hoffwn ddiolch i Ger am ei garedigrwydd ac i’r criw o fechgyn a fu ynghlwm â’r gwaith trefnu a sicrhau bod y dyluniadau a’r meintiau’n gywir. Mae hyn wedi bod yn fuddsoddiad hirdymor ac yn rhan seicolegol bwysig o sicrhau ffyniant chwaraeon y Cymric. Aed ati i drefnu dau ddigwyddiad newydd eleni. Dau ddigwyddiad yr ydwyf yn gobeithio a fydd yn ganolog i galendr y chwaraeon flwyddyn nesaf, sef gêm rygbi yn erbyn y Geltaidd, Aberystwyth a phenwythnos o chwaraeon yn erbyn Cymdeithas Wyddelig Prifysgol Bangor. Bu’r tîm rygbi bechgyn yn fuddugol yn erbyn y Geltaidd gyda’r penwythnos Gwyddelig yn gyfle inni ddysgu rhywfaint o bêl-droed Gwyddelig. Hoffwn ddiolch i Patrick’s Bar am noddi tlws ar gyfer y digwyddiad. Er bod datblygiadau sylweddol wedi bod, mae lle i wella. Gobeithiaf y bydd chwaraeon y Cymric yn parhau i fynd o nerth i nerth gan fynd ati i ganfod cystadlaethau lleol a chenedlaethol er mwyn hybu a hyrwyddo gwaith da a photensial chwaraeon y Cymric. Mae hi wedi bod yn bleser cynrychioli myfyrwyr UMCB ym maes chwaraeon ac rwy’n gwybod bod yna griw brwdfrydig o olynwyr am sicrhau bod y chwaraeon yn parhau i fynd o nerth i nerth. Pob lwc yn y dyfodol!
23