Adroddiad Blynyddol UMCB 2021

Page 1

ADRODDIAD BLYNYDDOL

2021 CYNNWYS A DYLUNIAD GAN IWAN EVANS, LLYWYDD UMCB


ADRODDIAD BLYNYDDOL UMCB LLYWYDD UMCB 2020/21 : IWAN EVANS CYHOEDDYWD 30/06/2021


02

DIWEDDARIAD Y LLYWYDD IWAN EVANS

Helo! Wel, am flwyddyn mae wedi bod. Heb os ac oni bau, dyma’r flwyddyn anoddaf i fyfyrwyr ar draws y wlad ddioddef ers amser hir. Gwelwyd cyfyngiadau Covid-19 yn rhwystro cymdeithasu arferol, yn herio’r gallu i ddysgu ac yn gosod straen enfawr ar y Brifysgol ei hun. Er hynny, mae’n rhaid clodfori agwedd ein myfyrwyr tuag at yr holl heriau. Rydym wedi gweld myfyrwyr yn addau ac yn arloesi syniadau newydd er mwyn sicrhau bod digwyddiadau a chyfleoedd i gymdeithasau yn cael eu cynnig trwy’r flwyddyn. Er nid oedd hi’n agos i’r flwyddyn roeddwn ni wedi disgwyl ei chael, mae wedi bod yn brofiad anhygoel, gwerthfawr a llawn sbort, ac hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i holl fyfyrwyr UMCB am hynny. Dwi’n gobeithio bydd y flwyddyn nesaf yn un llawer rhwyddach ichi a gewch chi’r cyfle i fwynhau, cymdeithasu a gwneud yr holl bethau ni wedi methu eleni. Iwan Evans Llywydd UMCB 2020/21


03

UMCB AC UNDEB BANGOR

Ers ail-uno yn 2018 mae perthynas UMCB efo Undeb Bangor wedi parhau i ddatblygu yn flynyddol, lle mae perthynas gryf nawr yn bodoli rhwng y ddau Undeb. Fuodd y berthynas yn holl bwysig wrth herio’r Achosion Busnes dros Newid gafodd eu cyflwyno gan y Brifysgol yn sgîl yr ail-strwythuro (mwy ar dudalen #) trwy rhoi’r cefnogaeth angenrheidiol inni oedd angen wrth ymgynhori ar unrhyw newidiadau oedd yn herio darpariaeth a statws yr iaith Gymraeg. Gwych hefyd ydy gweld yr Undeb yn cadw at y polisi iaith rhoddwyd yn ei le yn ystod yr undod yn 2017, efo’r Gymraeg yn rhan craidd o fusnes yr Undeb bellach. Gweler pob diweddariad, neges ac ebost yn cael ei gyrru yn ddwyieithog, a gweler yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio fel prif iaith rhan helaeth o gyfarfodydd a thrafodaethau staff a myfyrwyr. Efo cyfarfodydd yn symud ar-lein eleni, rhoddwyd rhwystr i allu cynnal cyfarfodydd yn ddwyieithog, ond gyda cymorth uned cyfieithu Canolfan Bedwyr, roeddwn yn gallu cynnig cyfieithu ar y pryd ar gyfer unrhyw gyfarfod efo myfyrwyr boed yn Gyngor y Myfyrwyr neu yn sesiwn ymgynghori ar strategaeth y Brifysgol.


04

LLYWODRAETH UMCB PWYLLGOR GWAITH UMCB

Pwyllgor Gwaith UMCB 2020/21 Llywydd UMCB - Iwan Evans Llywydd JMJ - Cadi Fflur Evans Cynrychiolydd yr 2il Flwyddyn - Catrin Fflur Jones Cynrychiolydd y 3edd Flwyddyn - Mared Fflur Jones Cynrychiolydd Galwadigaethol - Manon Roberts Cynrychiolydd LHDT+ - Celt John Y Cymric - Buddug Roberts, Dylan Jones, Huw Geraint Jones, Mabon Dafydd Cynhaliwyd etholiad yn mis Hydref er mwyn penodi’r 4 safle coll, lle etholwyd Kirsty Lewis yn Gynrychiolydd y Flwyddyn 1af, Bethan Boland yn Gynrychiolydd Ôl-raddedig, Sioned Wyn Jones yn Gynrychiolydd Myfyrwyr Cartref a Danielle Thomas yn Swyddog RAG.

Rhaid rhoi gair o ddiolch i’r Pwyllgor eleni am yr agwedd cadarnhaol maent wedi cael i’r sefyllfa. Heb eu cefnogaeth a chymorth fyddai sicrhau fod UMCB ar y llwybr cywir wedi bod yn anodd iawn.


05

Buodd Celt John hefyd yn Gynrychiolydd UMCB ar Cyngor y Myfyrwyr, efo Oliver Wright yn Gynrychiolydd Cyfrwng Cymraeg. Roedd mewnbwn y ddau ohonyn nhw’n bwysig iawn ar y Cyngor, yn enwedig wrth drafod Ail-strwythuro’r Brifysgol a Strategaeth Dwyieithrwydd y Brifysgol. Oherwydd i gyfyngiadau Covid, bu’n rhaid cynnal etholiadau Pwyllgor 2021/22 ar-lein eleni eto, ond gwelwyd llawer o ddiddordeb ynddynt efo 19 o fyfyrwyr yn rhedeg am rôl. Yn dilyn etholiad llwyddiannus, pleser ydy cyflwyno Pwyllgor Gwaith UMCB 2021/22. Llywydd UMCB - Mabon Dafydd Llywydd JMJ - Catrin Lois Jones Cynrychiolydd yr 2il Flwyddyn - Lowri Wyn Davies Cynrychiolydd y 3edd Flwyddyn - Cadi Fflur Evans Cynrychiolydd Ôl-raddedig - Huw Geraint Jones Cynrychiolydd Galwadigaethol - Beca Dafydd Evans Cynrychiolydd LHDT+ - Celt John Y Cymric - Cadi Elen Roberts, Huw Meirion Evans, Siriol Howells, Catrin Fflur Jones Bydd Cynrychiolydd y Flwyddyn 1af, Cynrychiolydd Myfyrwyr Cartref a Swyddog RAG yn cael eu hethol yn y flwyddyn academaidd newydd. Pob lwc i’r pwyllgor newydd. Pob lwc i Bwyllgor Gwaith UMCB 2021/22! Gobeithio gwnewch chi fwynhau'r profiad a gewch chi pob llwyddiant mewn blwyddyn fydd yn brysur iawn.


06

UMCB A'R GYMUNED Mewn blwyddyn lle mae cymuned wedi bod yn bwysicach ná dim, mae myfyrwyr UMCB hefyd wedi bod yn edrych ar yr holl ffurf gallan nhw helpu a gwneud ei rhan i gynnal y berthynas clos sydd gan y myfyrwyr a Bangor fel dinas. Er bod y cyfyngiadau wedi herio’r ffordd allwn ni ymwneud efo’r gymuned, rydym wedi bod yn parhau i gynnal digwyddiadau ac ymgyrchu i godi arian ar gyfer achosion ac elusennau sydd yn bwysig i’n cymdeithas ni o fewn UMCB. Yn Tachwedd gwelwyd criw enfawr o fyfyrwyr Chwaraeon y Cymric yn mynd ati i godi arian ar gyfer ymgyrch Tashwedd (Movember) lle buodd criw o fois yn tyfu mwstash, lliwio’u gwallt yn felyn, symud dros 2,000 o filltiroedd dros y mis a fe wnaeth 9 o fyfyrwyr hyd yn oed rhedeg marathon mewn ymdrech i annog pobol i gyfrannu tuag at elusen sydd yn ffocysu ar gynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a problemau iechyd corfforol dynion, ac annog dynion i siarad. Llwyddwyd i godi £2,207 o bunnoedd yn ystod yr ymgyrch yma. Buodd Aelwyd JMJ hefyd yn gweithio’n galed i godi arian. Creuwyd Cyngerdd Nadolig Rhithiol yn Rhagfyr er mwyn codi arian ar gyfer Aren Cymru, elusen oedd yn agos iawn at galonnau llawer o aelodau’r Aelwyd ac UMCB. Llwyddwyd i godi £270 i’r elusen. Yna yn mis Ebrill rhyddhawyd fersiwn arbennig o gan Dewch Ynghyd mewn partneriaeth rhwng Aelwyd JMJ, Aelwyd Pantycelyn (Aberystwyth) ac Aelwyd y Waun Ddyfal (Caerdydd). Penderfynodd y tair aelwyd godi arian a’u rhannu rhwng 3 elusen gwahanol oedd yn bwysig i bob aelwyd. Aeth canran UMCB tuag at Epilepsy UK. Llwyddwyd i godi £420 yn gyfan gwbwl ar gyfer y tair elusen dewisiwyd.


07

CYFATHREBU Efo popeth yn symud ar-lein eleni roedd cyfathrebu’n glir efo’n myfyrwyryn holl bwyisg er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r wybodaeth diweddaraf. Gwneir hyn trwy Cylchlythyr Wythnosol Undeb Bangor lle gellir cynnwys unrhyw profiadau neu cyfleoedd bwysig gall fod o ddiddordeb i’n myfyrwyr. Defnyddiwyd Blwch Ebost Myfyrwyr Cymraeg hefyd eleni er mwyn gofyn am farn a rhoi’r cyfle i fyfyrwyr llenwi holiaduron ar wahanol agweddau gwahanol o fywyd myfyrwyr e.e. Achosion Busnes dros Newid y Brifysgol a darpariaeth tiwtoriaid personol cyfrwng Cymraeg. Gwelwyd cyfrif Instagram a Snapchat UMCB yn cael mwy o ddefnydd eleni hefyd er mwyn rhannu newyddion byr neu hysbysebu ein digwyddiadau, er mwyn ceisio ymestyn ymhellach i’n holl fyfyrwyr. Yn annffodus efo popeth ar-lein am y mwyafrif o’r flwyddyn, ni welwyd llawer o fudd o atgyfodi Teledu UMCB, er fydden ni wedi mwynhau ei wneud. Er hynny, gobeithio wnewn ni weld y gyfres yn dychwelyd yn y flwyddyn nesaf.


08

NEUADD JMJ Yn wahanol i flynyddoedd cynt, nid oedd brwydro eleni i adnewyddu unrhyw elfennau o’r neuadd preswyl. Er bod llawer o ymgyrchu a gofyn wedi bod yn gynt i adnewyddu’r ystafelloedd ymolchi, roedd teimlad bod pethau llawer mwy pwysig i ffocysu eleni efo rhent myfyrwyr yn destun llosg ar draws y flwyddyn. Efo myfyrwyr yn gorfod cadw i’w fflatiau yn hytrach na cymdeithasu ar draws y neuadd fel blynyddoedd cynt, a’r Neuadd Gyffredin wedi cloi, roedd rhaid edrych ar ffyrdd gwahanol i gymdeithasu a chymysgu mewn modd Covid-ddiogel. Gwelwyd nosweithiau thema ar-lein yn cael eu cynnal gan Llywydd JMJ, yn ogystal a Gwobrau Nadolig, â’r Cymric yn trefnu Eisteddfodau Dafarn ar-lein, oedd yn galluogi myfyrwyr i gymysgu trwy sgrîn a cael bach o hwyl. Bu 4 aelod o’r Pwyllgor hefyd yn treulio ychydig o amser yn y Neuadd Gyffredin tuag at ddiwedd y flwyddyn yn tacluso’r ystafell a cael gwared ar unrhyw llanast di-angen er mwyn sicrhau bod y neuadd yn barod ar gyfer y flwyddyn newydd, lle gobeithio gall digwyddiadau dychwelyd. Prynnwyd 10 ‘beanbag’ i’r Neuadd Gyffredin hefyd yn y gobaith o annog mwy o fyfyrwyr i fynd lawr i gymdeithasu yna pan fydd modd.


09

YMGYRCHU

Eleni gwelwyd llawer o ymgyrchoedd yn rhedeg gan Undeb Bangor yn cynnwys ymgyrch Tlodi Misglwyf, ‘Cards against Harassment’, Lles Iechyd Meddwl i enwi ychydig. Mae UMCB wedi bod yn rhan o rhain i gyd yn sicrhau fod yr elfen Gymraeg yn cael ei gynnwys ymhob agwedd. Gwelwyd cychwyn ymgyrch #CaruAmaeth eleni hefyd. Ymgyrch oedd hon i annog myfyrwyr i gefnogi busnesau lleol â’r sector amaeth yma yng Nghymru. Yn enwedig ar ôl yr effaith gafodd y cyfnod clo ar busnesau lleol, teimlai bod dyletswydd arnom i gefnogi. Rhannwyd llawer o wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos lle gallan nhw fynd i brynnu cynnyrch lleol e.e. Llaeth yn syth o’r fferm, neu siopau fferm bach yn yr ardal. Parhawyd efo’r traddodiad o gynnal Wythnos Shwmae Su’mae eleni hefyd. Cyfrannodd pob un o gymdeithasau UMCB tuag at yr ymgyrch. Buodd Chwaraeon y Cymric yn rhannu termau chwaraeon, Ffrind Cymraeg yn rhoi gwers ar-lein ar eirfa cychwyn sgwrs ac Y Llef yn ysgrifennu erthygl ar eu gwefan newydd. Rhannodd Aelwyd JMJ uchafbwyntiau Eisteddfod 2019, tra gwnaeth Chymdeithas JGJ ein addysgu am ymadroddion Saesneg. Terfynir yr wythnos efo Gig Rhithiol wedi’i ffilmio ym Mhontio gyda Elis Derby, Alffa ac Y Cledrau yn perfformio. Ffrydiwyd y gig ar blatfform AM, a gwyliwyd gan dros 150 o gyfrifion, un o’r rheini yn Nhafarn y Glôb lle roedd dros 60 o bobol yn gwylio. Hoffwn ddiolch i Menter Iaith Bangor am noddi’r gig, ac i holl staff Pontio am helpu i gynnal y digwyddiad.


10

IECHYD MEDDWL Mae Iechyd Meddwl wedi bod yn destun pwysig iawn inni eleni. Mae’r sefyllfa wedi cael effaith mawr ar gallu ein myfyrwyr i gymdeithasu a dod i adnabod eu gilydd, tra bod thema unighrwydd wedi bod yn un sydd wedi codi llawer rhy aml. Roedd dyletswydd ar UMCB i geisio herio hyn. Yn mis Awst 2020, trefnwyd cyfarfod efo Cyswllt@Bangor er mwyn sicrhau bod cownselydd cyfrwng Cymraeg ar gael ymhob sesiwn, oedd yn digwydd ar bob Dydd Mercher, fel bod myfyrwyr yn gallu rhannu profiadau neu trafod trwy gyfrwng y Gymraeg efo gweithwyr proffesiynnol os oedden nhw eisiau. Yn mis Tachwedd 2020 i gyd fynd efo ymgyrch Tashwedd, cychwynnwyd sesiynau Taclo’r Tabŵ. Dyma sesiynau anffurfiol i ddynion dod at eu gilydd a trafod profiadau yn ymdopi gyda heriau iechyd meddwl heb angen iddyn nhw deimlo cywilydd. Buodd y sesiynau yma’n llwyddiant mawr efo llawer o fyfyrwyr yn gweld budd o’r elfen anffurfiol. Roedd hefyd yn gyfle da i fyfyrwyr dod i adnabod eu gilydd yn well, tra hefyd yn gyfle i rannu cyngor efo’u gilydd ar ffyrdd i ymdopi. Gwnaeth y sesiynau yma parhau trwy’r flwyddyn, tra bod sesiynau i ferched hefyd wedi cael eu cynnal. Defnyddiwyd rhaglenni cyfyrngau cymdeithasol UMCB hefyd i rannu gwasanaethau a dogfennau all fod o gymorth i fyfyrwyr oedd ei angen.


11

UNDEBAU CYMRAEG CYMRU Eleni, fues yn ffodus i gal fy ethol fel Cynrychiolydd Myfyrwyr Cymru ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd yn broifad gwych i allu rhannu achosion holl fyfyrwyr Cymru, ac yn gyfel da i gydweithio gyda Llywyddion Undebau Cymraeg gweddill y wlad. Tra hefyd yn eistedd ar Fwrdd Academaidd y CCC mae wedi bod yn gyfle gwych i weld sut mae pethau ym mhrifysgolion eraill Cymru, a gweld sut all Bangor gwella. Rhywbeth sydd yn uchafbwynt i Undebau Cymraeg pob blwyddyn ydy’r digwyddiadau Rhyngol, ond yn anffodus roedd rhaid gohirio rhain eleni. Er hynny fues yn cydweithio gyda Moc Lewis, Llywydd UMCA, er mwyn ‘brainstormio’ syniadau ar beth allwn gynnig. Ar ôl meddwl am ambell i syniad gwnaethon gyfarfod gyda Martha Owen, Llywydd GymGym Caerdydd a Gwern Dafis, Llywydd GymGym Abertawe, a penderfynwyd ar gynnal Cwpan Her Rhyngol 2021. Dyma gystadleuaeth ar-lein rhyng golegol efo amrywiaeth o gystadleuthau o Eisteddfod i Gemau Tafarn, ac o Chwaraeon i TikTok. Cynhaliwyd y diwrnod cystadlu ar y 31ain o Fawrth, ac ar ddiwedd y dydd, UMCB a Bangor oedd yn fuddugol. Yn sicr, dyma ffordd dda i gychwyn paratoi tuag at Eisteddfod Rhyngol Bangor 2022.


12

DIGWYDDIADAU Mae UMCB pob blwyddyn yn trefnu calendar llawn o ddigwyddiadau cyffrous gyda’r Cymric yn gyfrifol am drefnu’r calendar cymdeithasol. Yn sicr mae eleni wedi bod yn anodd iawn wrth ystyried trefnu digwyddiadau, ond er hynny mae pob clôd yn mynd i’n myfyrwyr sydd wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol i drefnu digwyddiadau ar-lein a gwyneb i wyneb. Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch yn fawr iawn i Buddug, Dylan, Huw a Mabon - Y Cymric - am eu gwaith di-flino a’u ymrywmiad i’w rôl eleni.

PYTHEFNOS Y GLAS

GLÔB-EST

Eleni, yn hytrach na trefnu mond wythnos

Pob blwydydn, mae digwyddiad Gloddest yn

croeso, trefnwyd pythefnos o ddigwyddiadau

uchafbwynt i’n myfyrwyr, efo pawb yn

ar-lein a gwyneb i wyneb er mwyn rhoi mwy

manteisio ar y cyfle i wisgo’n smart i ddathlu

o gyfle i fyfyrwyr dod i adnabod eu gilydd.

diwedd y tymor gyntaf. Eleni, er mwyn

Cafwyd nosweithi cwis, Eisteddfod Dafarn,

sicrhau bod y traddodiad yn gallu parhau,

ambell i Grôl yn dilyn canllawiau Covid a

trefnwyd Glôb-est, sef fersiwn gwahanol o’r

digon o ddigwyddiadau i helpu pawb i setlo

wŷ l, lle awgrymir i bawb fynd i’r Glôb efo’u

ym Mangor.

fflatiau neu cartrefi, wedi gwisgo’n smart i fwynhau. Fuodd yn ddigwyddiad hynod lwyddiannus.

DYDD GWYL DEWI

WYTHNOS OLAF UMCB

Mae UMCB pob blwyddyn yn gwneud

Gyda’r cyfyngiadau yn llacio erbyn diwedd y

amrywiaeth o bethau i ddathlu dydd ein

flwyddyn, rhoddodd cyfle imi â’r Cymric i

nawdd sant. Parhawyd efo’r draddodiad

drefnu wythnos llawn dathlu wyneb i wyneb

eleni, efo llawer o ddeunyddiau yn ncael eu

ar gyfer holl fyfyrwyr UMCB. Rhai o

rhannu dros cyfryngau cym,deithasol o

uchafbwyntiau’r wythnos yn sicr oedd y

fideos coginio i daflenni gwybodaeth ac hyd

gemau pêl-droed yn erbyn Hen Ser UMCB, y

yn oed perfformiad arbennig gan Aelwyd

Swper Olaf ar ddydd Sul ac wrth gwrs y

JMJ.

Crôl-af ar nos Fawrth lle cafwyd y cyfle i ffarwelio efo’r rheini sydd yn ein gadael.


13

CYFLEOEDD

Dyma gyfle imi ddiolch i’n holl gymdeithasau ar eu llwyddiant eleni mewn blwyddyn hynod o annodd iddyn nhw. Mae’r cymdeithasau wedi goresgyn heriau mawr ac wedi parhau i gynnig cyfleoedd i’n myfyrywr sydd yn ysbrydoliedig ac yn dyst i angerdd yr arweinwyr. Diolch yn fawr ichi. Mae arweinydd pob cymdeithas wedi ysgrifennu adroddiad eu hun ar gyfer yr adroddiad yma, felly wnai ddim diflasu chi gyda fy nhisgrifiadau i o’r holl bethau maent wedi cyflawni. Braf oedd gweld Aelwyd JMJ yn parhau i dyfu eleni ac hefyd yr agwedd bositif mae criw Ffrind Cymraeg (Cymdeithas Dysgwyr UMCB gynt) wedi gael wrth drawsnewid o gymdeithas i brosiect gwirfoddoli. Wrth fod yn onest, mae’n amlwg bod angen ychydig o sylwi ar Y Llef a Chymdeithas JGJ dros yr Haf er mwyn sicrhau eu bod yn cryfhau ac yn gallu dychwelyd i rym yn y flwyddyn newydd.


14

CHWARAEON Mae Chwaraeon wedi bod yn destun balchder imi eleni. Wedi bod yn rhan o atgyfodiad Chwaraeon y Cymric yn 2018 braf yw gweld bod ein timau chwaraeon wedi mynd o nerth i nerth eleni unwaith eto er yr holl cyfnodau clo a chyfyngiadau. Mae Chwaraeon wedi bod yn ddihangfa i lawer o’u ystafelloedd a wedi bod yn ffordd hynod effeithiol o gael myfyrwyr i gymysgu a dod i adnabod pobol newydd. Eleni ychwanegwyd 2 camp ychwanegol i’n repertoire, efo tim Hoci’r Cymric yn cael ei greu yn ogystal â Chlwb Rhedeg y Cymric. Mae yn awr gennyn ni 7 clwb o fewn yr adain Gymraeg sydd yn gyfle gwych i’n myfyrwyr. Gwelwyd mwy o gydweithio eleni hefyd efo’r Undeb Athletau sydd ond yn mynd i gryfhau ein timau yn y dyfodol. Rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn sicr oedd gweld tim Hoci’r Cymric yn dal tim y Brifysgol i gem gyfartal, 1-1, yn eu gem cyntaf erioed, a gweld tim Pêl-droed Dynion y Cymric yn curo Porthmadog 3-2 ar Y Traeth. Gwelwyd tim Rygbi Dynion y Cymric yn trechu timau Rygbi’r Undeb a Rygbi’r Cyngrhair y Brifysgol mewn twrnament Rygbi Cyffwrdd a hefyd tim Pêl-droed Merched y Cymric yn trechu Hen Ser UMCB mewn gem hynod o gyffrous gwnaeth orffen efo sgôr o 5-4. Diolch mawr i Mabon Dafydd, Cynrychiolydd Chwaraeon y Cymric, am ei waith di flino ac hefyd i’r holl gapteiniaid sydd wedi cynnal ymarferion a trefnu gemau trwy gydol y flwyddyn.


15

GWOBRAU UMCB

Efo holl seremoniau eraill yr Undeb yn digwydd ar-lein eleni, braf oedd gallu cynnal Gwobrau UMCB wyneb i wyneb yn Quad Fewnol Adeilad y Prif Celfyddydau. Roedd yn wych gallu defnyddio lleoliad mor hardd ar gyfer y gwobrau, a diolch i Brifysgol Bangor am adael inni wneud hynny. Roedd y panel gwobrwyo yn cynnwys Andrew Edwards, Jessica Mullan a Lleucu Myrddin. Braf oedd gweld trafodaeth iach yn y sesiwn dyfarnu o ganlyniad i’r cynifer o enwebiadau â dderbyniwyd. Dyfarnir gwobrau fel y ganlyn:

YMRODDIAD ARBENNIG

DIGWYDDIAD Y FLWYDDYN

Mared Wyn Jones Ffion Awen Tegwen Bruce-Deans Catrin Hedges Criw Z500-508 JMJ Celt John Lara Williams Oliver Wright Sion Emlyn Davies

Marathon Tashwedd Chwaraeon y Cymric

CYDNABYDDIAETH ARBENNIG

GWOBR YSBRYD Y GYMUNED GYMRAEG

Dylan Jones Elan Duggan Mabon Dafydd Mared Fflur Jones Buddug Roberts Huw Geraint Jones Cadi Evans

DYSGWR Y FLWYDDYN Katie Tew

CLWB, CYMDEITHAS NEU GRŴP UMCB Y FLWYDDYN Chwaraeon y Cymric

Taclo'r Tabŵ Ioan Rees am brosiect Dewch Ynghŷ d

Llongyfarchiadau i'r holl ennillwyr!


16

UMCB A'R BIRFYSGOL Mae'n glir fod eleni heb fod yn flwyddyn hawdd i'r Brifysgol. Mae heriau arian wedi cael eu atgyfnerthu gan effeithiau Covid â golygwyd bod yn rhaid i'r Brifysgol edrych ar dorriadau ac felly ail-strwythuro. Roedd yn bwysig iawn fod UMCB yn ymwybodol o'r hyn roedd yn cael ei ystyried er mwyn sicrhau fod darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ddim o dan fygythiad. Gret oedd gallu fod yn rhan o holl drafodaethau'r Brifysgol felly, a sicrhau fod llais UMCb yn un gryf oedd yn cael ei glywed. Roedd gwella'r nifer o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg oedd yn gweithio fel Arwweinwyr Cyfoed yn destun roeddwn ni eisiau edrych fewn iddi eleni. Er bu trafodaethau mawr yn ystod yr Haf, ar sut oedd annog mwy o fyfyrwyr i ymgeisio, a sut oedd gwneud y fenter yn fwy atyniadol, ni fuodd llawer on waith ar hyn ar ôl i'r flwyddyn academaidd gychwyn efo cyfrifoldebau eraill yn cymryd blaenoriaeth. Gwych byddai gweld y gwaith yma yn codi eto blwyddyn nesaf gan credaf fod cael arweiniwr cyfoed sydd yn siarad Cymraeg yn gallu cychwyn myfyriwr ar y llwybr addysg Gymraeg llawer mwy effeithiol nag agweddau eraill o'r Wythnos Groeso. Fues hefyd yn edrych llawer ar ddarpariaeth tiwtoriaid personol cyfrwng Cymraeg. Sioc oedd darganfod mae ond 65% o fyfyrwyr oedd wedi derbyn tiwtor Cymraeg ar ddechrau'r flwyddyn - er ei fod yn hawl i bod myfyriwr Cymraeg. Es ati efo cymorth Enlli Thomas a Lowri Hughes i ychwilio fewn i'r mater ac annog myfyrwyr i godi eu llais a gofyn am diwtor Cymraeg. Cadarnhaol oedd yr ymateb, efo llawer yn rhoi adborth eu bod bellach wedi derbyn tiwtor Cymraeg. Er hyn mae dal tipyn o waith i'w wneud yn y dyfodol i sicrhau fod hyn yn rhywbeth sydd yn digwydd yn awtomatig.


17

UMCB A'R BIRFYSGOL Achosion Busnes dros Newid Gyda'r achosion yn cael eu rhyddhau i'r Cyngor ar ddiwedd mis Medi roedd yn gyfle i gychwyn ar y gwaith o ddadansoddi'r newidiadau ar gyfer creu ymateb gan UMCB i'r cynigion. Trefnwyd llawer o grwpiau ffocws efo ysgolion amrywiol y Brifysgol, cynrychiolwyr cwrs, Pwyllgor Gwaith UMCB a chynfyfyrwyr er mwyn dadansoddi barn cynhwysfawr y myfyrwyr. Llwyddwyd i gyflwyno adroddiad 68 o dudalennau o hyd i'r Brifysgol yn herio unrhyw newidiadau byddai'n bygwth yr iaith. Roedd yr adroddiad yn ystyried sefyllfa'r Gymraeg ymhob un ysgol yn ogystal ag 17 o lythyron cefnogaeth gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr. Yn wir roedd mwyafrif o'r swn yn dod o'r Ysgol Gymraeg lle roedd gwrthwynebiad mawr i'r ail-strwythuro i Adran y Gymraeg yn ogystal a cholli aelodau o staff dysgu arbenigol. Braf oedd gweld y Brifysgol yn gwrando i'tr llais yma ac yn newid eu cynlluniau, fel bu yr hanes yn nifer o ysgolion eraill y Brifysgol, efo'r Tim Gweithredu yn gaddo i amddiffyn statws y Gymraeg. Marchnata Mae perthynas UMCb efo'r adran Marchnata wedi cryfhau ymhellach eleni trwy amrywiaeth o weithgareddau megis Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld ar-lein. Ond, yn sicr sefydlu Is-grwp Marchnata a Recriwtio Cymraeg oedd uchafbwynt y flwyddyn efo'r grwp yn edrych yn fanylach ar sut i ddenu nid yn unig mwy o siaradwyr Cymraeg i'r Brifysgol ond hefyd mwy o fyfyrwyr o Gymru i gryfhau Cymreictod y Brifysgol. Bu hefyd cyfle i greu llawer o ddeunydd marchnata i'r Brifysgol trwy creu fideos amrywiol a llawlyfrau fyddai'n sicr o ddefnydd wrth ledaenu UMCB i ysgolion a myfyrwyr posib.


18

UMCB A'R BIRFYSGOL Pontio Roedd cydweithio gyda Pontio ar Gig UMCb eleni yn gyfle gwych i ddangos sgiliau arloesi'r Brifysgol wrth edrych ar heriau cyfyngiadau Covid. Mae diolch enfawr yn mynd i dîm Pontio ac yn enwedig Osian a Gwion, heb eu cymorth a'u arbenigedd nhw, ni fyddai'r gig wedi bod yn bosib. CELT Cefais y fraint o gyflwyno mewn webinar eleni gyda CELT ar ddysgu dwyieithog o safbwynt myfyrwyr. Rioedd yn gyfle da i addysgu ychydig o staff y Brifysgol o hawliau myfyrwyr Cymraeg yn ogystal â dangos fideos safbwynt cyntaf gan fyfyrwyr o'r tair coleg yn esbonio'r buddion o allu astudio trwy eu iaith cyntaf. Canolfan Bedwyr Mae'r bartneriaeth rhwng Canolfan Bedwyr ac UMCB wedi bod yn un gryf ers blynyddoedd, a braf oedd gallu parhau ar y bartneriaeth yna eleni. Mae diolch enfawr yn mynd i Llion, Lowri a Leucu eleni am eu holl cymorth trwy gydol y flwyddyn. Diolch hefyd i'r Uned Cyfieithu sydd wedi bod ar gael ar gydfer nifer o gyfarfodydd yr Undeb, rhai lle fi oedd yr unig siaradwr Cymraeg. Mae ei gwaith nhe eleni wedi bod yn gwbwl bwysig wrth sicrhau fod cyfarfodydd yn gallu cael eu cynnal yn Gymraeg, dim ots eu bod trwy'r sgrîn. Mae'r Ganolfan wir yn ased i'r Brifysgol ac un i'w thrysori.


19

CLOI Mae eleni wir bwedi bod yn fraint. Mae'n anodd cychwyn ar diolchiadau gan fod gymaint o bobol wedi bod yn gymorth imi, a dwi wedi ennill sawl ffrind dros y flwyddyn diwethaf. Mae''n rhaid imi ddiolch i holl staff yr Undeb. Heb eich cymorth chi (a'ch amynedd) fydden ni heb wedi gallu cael flwyddyn mor llwyddiannus ag eleni. Er ni chefais godi'r tarian yn yr Eisteddfod Rhyngol, na chodi gwydred yn y Three Sisters yng Nghaeredin eleni, dwi wir wedi mwynhau pob eiliad o fod yn Lywydd UMCB ac fydd yn brofiad fyddai'n trysori am fyth. Pob lwc i Mabon blwyddyn nesaf yn ei flwyddyn fel Llywydd, fi'n gwybod bod fi'n gadael UMCB mewn dwylo da. Diolch yn fawr ichi gyd

Iwan Evans Llywydd UMCB 2020/21


20

ADRODDIAD AELWYD JMJ GAN MARED FFLUR Bu’r flwyddyn diwethaf yn heriol i’r Aelwyd wrth geisio cadw’r ysbryd corawl i fynd yn rhithiol. Gwnaethom ein gorau i gynnal ymarferion ar-lein drwy gydol y flwyddyn ac fe lwyddwyd i gynnal ymarferion ar gyfer y Côr Merched, Côr Bechgyn a’r Côr Cymysg. Llwyddwyd hefyd i drefnu cyngerdd Nadolig a gafodd gryn dipyn o ganmoliaeth, a fe wnaethom godi arian ar gyfer yr elusen Aren Cymru. Yn anffodus, cafodd yr Eisteddfod Ryng-golegol ac Eisteddfod yr Urdd eu gohirio unwaith eto eleni. Er hyn, fe fuom fel Aelwyd yn brysur yn cystadlu yn y cystadleuthau rhithiol a drefnwyd yn eu lle sef Cwpan Her Rhyngol ac Eisteddfod T. Penderfynom gydlynnu prosiect gydag Aelwydydd Prifysgolion Cymru hefyd, a chydweithio yn hytrach na chystadlu yn eu herbyn! Gwnaethom gyd-ganu ‘Dewch Ynghyd’ gan Caryl Parry Jones, ac fe gafodd aelodau’r côr gyfle i siarad ar y teledu a’r radio er mwyn hybu’r prosiect. Fe wnaethom lwyddo fel criw i godi swm anrhydeddus ar gyfer elusennau Epilepsi, Mind Cymru a Banc Bwyd Caerdydd. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio cael dychwelyd i’r Ystafell Gyffredin yn JMJ er mwyn cael ymarfer wyneb yn wyneb a meithrin cymuned frwd yr Aelwyd yn ôl i’r hyn a fu. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Rhyng-gol yn dychwelyd er mwyn i ni gael cystadlaethau i weithio tuag atynt, ac yn gobeithio parhau gyda’r gwaith elusennol.


21

ADRODDIAD FFRIND CYMRAEG GAN CATRIN HEDGES Eleni trawsffurfiwyd Cymdeithas Dysgwyr Cymraeg UMCB i brosiect gwirfoddoli Ffrind Cymraeg. Cafwyd llu o wirfoddolwyr rhugl yn rhoi eu henwau ymlaen yn ystod Haf 2020 i fod yn rhan o’r prosiect, a chystal nifer o ddysgwyr yn dangos diddordeb hefyd. Oherwydd y cyfyngiadau bu’n rhaid gweithredu oddi tanynt, penderfynwyd i gydlynwyr y prosiect gynnal sesiynau grŵp Zoom er mwyn cynnal synnwyr o agosatrwydd i’r prosiect a gobeithio i gymell y dysgwyr a’u Ffrind Cymraeg i gyfarfod yn amlach wedi hynny. Ar ôl llwyddiant sesiwn Zoom gyda Francesca Sciarrillo a Meg Elias, aeth y cydlynwyr ati i drefnu sawl cyfweliad dwyieithog arall i’r dysgwyr eu defnyddio fel ffynhonnell gwybodaeth a geirfa. Sicrhawyd hefyd bod ffurflen adborth wedi cael ei anfon allan i’r gwirfoddolwyr a’r dysgwyr er mwyn cael synnwyr o lwyddiant y prosiect heb gael cyfarfod â’r cyfranogwyr wynebyn-wyneb. Sefydlwyd perthynas dda gydag adran gwirfoddoli’r Undeb ei hun yn hytrach na gorbwyso ar arweinyddiaeth cangen UMCB, trwy greu ambell fideo cyffredinol ‘Dysgu Cymraeg’ o dan themâu tymhorol megis y Nadolig a’r Pasg i’w cyfryngau cymdeithasol hwythau hefyd. Cymerwyd y penderfyniad i drosglwyddo awenau’r prosiect gwirfoddoli i Lywydd UMCB ei hun y flwyddyn nesaf. Mae gennym ffydd yn llwyddiant a photensial prosiect Ffrind Cymraeg i dyfu ac i ffynnu, ond o dan amodau cyfyngedig eleni bu’n anodd recriwtio cyfranogwyr rhugl o’r flwyddyn gyntaf ac o ganlyniad bu’n anodd trosglwyddo rôl y cydlynwyr i’r genhedlaeth nesaf.


22

ADRODDIAD CYMDEITHAS JOHN GWILYM JONES GAN ELEN WYN Yn sicr y mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol fel cymdeithas eleni. Roeddem wedi bwriadu trefnu nifer o ddigwyddiadau ond yn sgil y pandemig, ni lwyddwyd cyflawni hyn. Fodd bynnag, dyma ychydig o syniadau y mae’r pwyllgor wedi trafod yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf: Y gobaith cyntaf yw sefydlu pwyllgor newydd, ag aelodau brwd a pharod i barhau â’n gobeithion i hybu barddoniaeth a nofelau. Rydym yn gobeithio cael nosweithiau anffurfiol yn hybu a thrafod barddoniaeth, nofelau, cynganeddu a dramâu dros beint neu baned mewn amryw o leoliadau ym Mangor er mwyn cyd weithio â’r gymuned a chefnogi busnesau a sefydliadau lleol. Bu nosweithiau fel hyn yn hynod lwyddiannus o fewn y gymdeithas llynedd felly yn sicr byddem yn parhau i wahodd llenorion i ymuno a thrafod eu llenyddiaeth gyda ni. Wrth gwrs bydd y gymdeithas yn parhau i gynnal cynhyrchiad blynyddol gan sicrhau digon o hysbysebu o flaen llaw er mwyn ceisio denu mwy i fod yn rhan o’r cynhyrchiad. Dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r gymdeithas gan ei fod yn brosiect sy’n cadw cysylltiad cadarn â’r gymuned. Yn olaf, bydd y gymdeithas yn cyd weithio’n agos ag Ysgol y Gymraeg er mwyn gweld beth sydd ar y maes llafur ym mhob blwyddyn a gweld sut byddai’r gymdeithas o fudd i fyfyrwyr yr ysgol wrth fynd â’r gwaith o’r ysgol tu hwnt i furiau’r darlithoedd. Mae blwyddyn gyffrous iawn o’m blaenau felly cadwch eich llygaid allan ar ein gwefannau cymdeithasol am ddigwyddiadau i ddod!


23

ADRODDIAD CHWARAEON Y CYMRIC GAN MABON DAFYDD Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un dra wahanol, ond cynhyrchiol iawn i dimau Chwaraeon y Cymric. Sicrhawyd na fyddai’r pandemig yn effeithio gormod ar ein campau ac fe addasom gan gynnal gymaint o sesiynau ymarfer a gemau a fu’n bosib. Rydym bellach yn rhedeg 7 o glybiau yn dilyn dyfodiad ein tîm hoci merched a’r clwb rhedeg yn ystod y flwyddyn. Bu’r timau rygbi’n brysur iawn gan gynnal cystadleuaeth rygbi cyffwrdd yn erbyn timau Rygbi’r Undeb a Cynghrair y Prifysgol. Chwaraeodd y bois rygbi pert iawn gan orffen yn ail yn y gystadleuaeth, gan ennill dwy gêm. Llwyddodd y merched i fod yn hynod gystadleuol yn erbyn tîm y Prifysgol, gan golli o un pwynt yn y gêm gyntaf. Byddai buddugoliaeth wedi bod yn bosib gyda’i carfan llawn. Y gobaith ydy cynnal gemau dros yr haf yn erbyn timau cymdeithasau Cymraeg Prifysgolion Cymru, yn dilyn ein dychweliad i elfennau cyswllt yn yr ymarferion. Mi fyddwn hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth saith bob ochr Calon Cymru ym mis Awst. Er gwaetha’r amgylchiadau fe lwyddodd ein tîm pêl-droed dynion i chwarae 12 o gemau yn ystod y flwyddyn. Yn ei crysau adidas newydd chwaraeodd y tîm yn bêl-droed taclus ac effeithiol iawn yn erbyn gwrthwynebwyr profiadol megis timau’r Brifysgol ac amryw o dimau lleol o wahanol lefelau safon. Yr uchafbwynt heb os oedd curo cymysgedd o dîm cyntaf ac ail dîm Porthmadog ar y Traeth eto eleni. Chwaraeodd tîm y merched gêm yn erbyn tîm dychwelwyr y Cymric ac hefyd cynnal ymarferion yn ystod y flwyddyn.


24

Roedd hi’n flwyddyn rhwystredig iawn i dîm pêl-rwyd y Cymric. Ni chaniatawyd cynnal ymarferion dan dô nes yn hwyr ym mis Mai. Felly cyfyngiedig iawn oedd gweithrediad y pêl-rwydwyr yn anffodus. Er hynny mae’r gobaith yn fawr ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda’r ymarferion yn boblogaidd a’r tîm yn mynd o nerth i nerth. Y gobaith ydy cynnal gemau yn erbyn timau’r Brifysgol ac yn erbyn criw o ddynion y Cymric. Roedd dyfodiad y tîm hoci yn boblogaidd iawn ymysg merched y Cymric eleni. Llwyddodd y genod i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn timau’r Brifysgol gan chwarae’n arbennig. Buodd yr ymarferion yn eithriadol o boblogaidd gyda nifer o’r merched yn awchu i ail-afael yn ei ffiniau hoci. Mae’r dyfodol yn addawol iawn a gobeithiaf weld y tîm yn mynd o nerth i nerth flwyddyn nesaf. Bu dyfodiad y clwb rhedeg ar ddiwedd 2020 yn llwyddiannus iawn hefyd, gan ddenu nifer o aelodau UMCB allan i redeg neu cerdded yn yr awyr agored. Gobeithiwn allu ail-afael yn y rhedeg neu’r cerdded yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Gobeithiwn am fwy o lwc yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, gan obeithio’n bennaf y byddwn or-diwedd yn gallu trefnu’n cystadleuaethau rhyng-golegol. Gobeithiaf hefyd weld penwythnos ein gemau cwpan yn erbyn y Gymdeithas Wyddelig yn dychwelyd i galendr UMCB y flwyddyn nesaf. Mae hi wedi bod yn fraint cynrychioli UMCB ar y meysydd chwarae eleni. Er gwaetha’r amgylchiadau heriol, dwi wedi mwynhau pob eiliad a gobeithiaf am flynyddoedd cryfach i ddod. UPPA CYMRIC


25

ADRODDIAD Y CYMRIC GAN HUW GERAINT JONES Er fod y flwyddyn ddiwethaf ‘ma wedi bod yn un dra-wahanol i’r arfer, mae’n sicr wedi bod yn un i’w chofio! Rydym ni fel Y Cymric wedi cael y cyfle i addasu ein trefniadau arferol yn unol â’r canllawiau priodol gan gynnal wythnos groeso, eisteddfodau, eisteddfodau tafarn a chwisiau rhithiol, yr wythnos olaf yn ogystal a Bangor yn fuddugol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol rithiol! Diolch i chi gyd UMCB am wneud ein blwyddyn ni fel Y Cymric yn un i’w chofio!


ADRODDIAD BLYNYDDOL

2021


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.