LLYFR COGINIO IEC H Y D CH W A R A E O N PO B L
UNDEB ATHLETAU
CYNNWYS
CIG
FEGAN
LLYSIEUOL
BWYD MÔR
BYRBRYDAU
CIG
Stiw Tomato a Chorizo Rysáit gan Pêl-rhwyd Barod mewn 15 munud Digon i 2 o bobl
DULL ½ llwy fwrdd o olew olewydd 150g o selsig chorizo wedi'u torri 1 nionyn coch 1 llwy de o Lazy Garlic 1 tin o domatos wedi'u torri (400g) 2 wy Persli fel garnais
DULL
1. Rhowch yr olew mewn padell ffrio neu wok ar wres canolig. Ychwanegwch y chorizo a'r nionyn i'r badell a'u ffrio nes bod y nionod yn meddalu (4 munud). Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu troi'n rheolaidd i beidio â’u llosgi. 2. Ychwanegwch y garlleg a ffrio am funud arall. 3. Arllwyswch y tomatos i’r wok a'u gadael i ffrwtian am 2 funud. 4. Gostyngwch y gwres i ganolig/isel, torrwch yr wyau i'r gymysgedd a'i ysgeintio â phupur. 5. Gadewch i fudferwi am 5 munud neu nes bod y gwynnwy wedi coginio a'r melynwy yn dal i redeg.
IADAU nwch AWGRYM o saws lle
wy I wneud m dŵr a'i â o t a m o tin t hanner y i'r badell. u g e n a w ych o hyd i s Gellir dod an sbeisy r d a w y h r mewn un archnad. f h c r a n yd mew nrhyw fw u io d d y fn ta *Gellir de saws pas l e f n e b s sydd dro blasus!*
CIG
Adenydd cyw iâr tshili, iogwrt ac oregano Rysáit gan Pêl-rhwyd Barod mewn 15 munud Digon i 6 o bobl
CYNHWYSION Cwmin mâl - 4 llwy de Paprica - 1 llwy de Pupur cayenne - 4 llwy de Halen môr mân - 2 lwy de Puprennau du wedi'u malu i wneud 1/4 llwy de 30 o adenydd cyw iâr, y blaenau wedi'u tynnu ac wedi'u torri'n ddarnau Oregano - llond llaw da, wedi'i dorri'n fân
SAWS IOGWRT Garlleg - 6 ewin, wedi'u malu Sudd lemwn - 3 llwy fwrdd Iogwrt naturiol - 300g
DULL 1. Paratowch y barbeciw ar gyfer coginio anuniongyrchol trwy fancio'r glo i un ochr fel bod ochr boeth ac ochr oerach. 2. Ar gyfer y saws iogwrt, cymysgwch y garlleg gyda'r sudd lemwn mewn powlen a'i roi i un ochr. 3. Cyfunwch y sbeisys, yr halen a'r pupur mewn powlen. Trowch yr adenydd gyda 3 llwy fwrdd o'r gymysgedd hon mewn powlen arall. Coginiwch yr adenydd ar ochr oerach y barbeciw, gyda'r caead drostynt, am 30 munud, gan eu troi hanner ffordd drwy’r broses. Symudwch yr adenydd i wres uniongyrchol, dros y glo, a'u coginio am 5 munud arall, gan eu symud a'u troi i wneud yn siŵr eu bod yn crimpio'n gyfartal. (Fel arall, cynheswch y popty i 180C/ffan 160C/nwy 6 a rhennwch yr adenydd rhwng dwy badell. Rhostiwch am 45 munud nes eu bod wedi'u coginio drwyddynt. Cynheswch y gril ar wres uchel a throsglwyddwch yr adenydd i badell fawr, gan daflu unrhyw sudd coginio. Griliwch am 15-20 munud, gan eu troi bob 3-4 munud, nes eu bod wedi'u gridyllu ac yn grimp.) 4. Gorffennwch saws iogwrt trwy straenio'r gymysgedd lemwn a garlleg trwy ridyll i mewn i'r iogwrt gyda phinsiad o halen a'i gymysgu'n dda. 5. Trowch yr adenydd yn y gymysgedd sbeis sy'n weddill ac yna'u rhoi ar ddysgl a diferu ychydig o'r saws iogwrt drostynt, gan weini gweddill y saws fel saig drochi.Taenwch yr oregano drostynt a'u gweini.
AWGRYMIADAU
I roi mymryn o awch pella ch, ychwanegwch ychydig o groen lemwn cyn eu gweini a bwytwch gyda pheint iac hus neu 12 i’w canlyn i leddfu pob gofid am aseiniadau.
CIG
IADAU AWGRYfeM wiadau r o amry
ni Mae yna - newid y sáit hon ry i'r b si po wneud yn ei u au ne stoc i lysi egu llysiau u ychwan fegan ne thogi. oe yf g n neu gig i'w dig o hale wch ychy Ychwaneg ai st pa r u' aneg ar ôl ychw as wella'r bl
CYNHWYSION
Minestrone Syml Rysáit gan Barod mewn 20 munud Digon i 2 o bobl
DULL
Un jar o saws pasta (tua 350ml) Un tin o ffa cymysg 750ml o stoc cyw iâr 100g o basta bach e.e. ditalini neu facaroni
1. Draeniwch y ffa a'u rhoi mewn sosban gyda'r saws pasta a'r stoc 2. Dewch â'r badell i'r berw ac yna ychwanegwch y pasta 3. Unwaith mae'r pasta yn dyner cymerwch oddi ar y gwres a'i adael i sefyll am o leiaf 5 munud cyn ei weini
CIG
Bowlen Bwdha Mecsico Rysáit gan Pêl-Droed Barod mewn 30 munud Digon i 1-2 o bobl
DULL 1. Berwch lond sosban fach o ddŵr a berwi'r cwinoa yn ôl cyfarwyddiadau'r pecyn (tua 15 munud fel arfer). 2. Tra bod y cwinoa yn coginio, torrwch y cyw iâr yn ddarnau maint cegaid. Tynnwch yr hadau o'r pupurau a'u torri'n stribedi. Rhowch y cyfan mewn powlen gymysgu fawr. 3. Ychwanegwch ddigon o olew i'r bowlen i orchuddio'r cyw iâr a'r pupurau, 2-3 llwy de o paprica, ac 1-2 lwy de o bowdwr cwmin a tsili. Ychwanegwch sudd hanner leim a'i sesno â halen a phupur. 4. Cymysgwch y cyfan! 5. Ffriwch y cyw iâr a'r pupurau. Dylai'r rhain a'r cwinoa fod yn barod tua'r un adeg. 6. Ychydig o funudau cyn diwedd yr amser coginio gosodwch y ffa Ffrengig mewn powlen fach a'u rhoi yn y microdon am 1-2 funud. 7. Draeniwch y cwinoa ar ôl iddo goginio. 8. Yn olaf, gosodwch bopeth yn ddestlus mewn powlen a gwneud eich holl ddilynwyr Instagram yn genfigennus! 9. Mwynhewch!
CYNHWYSION Oddeutu 300g o frest/clun cyw iâr heb esgyrn 2 bupur Faint a fynnir o cwinoa 1/2 tun o ffa Ffrengig wedi'u draenio leim paprica, cwmin a phowdr tsili
CIG
AU YMIAbD R G gig cig w W A nu ri neu l yw pry
se arfero ologne Y drefn ageti b yfer sb n eich g a r g a d n d y eidio fel OND b eidion carne. gig cig ig tsili con ol o friw e briwg n a fo m c sa ster! A pecyn h!! Mae % o fra c 0 ta 2 ru a wer d arfer tu r yn lla yn llai frasde raean â llai o i tua th ae'n rc tw gig idion, m iw e fr ig n c a g gig dau na briw wn pry e r e m st s a y o fr idion nnw c cig e c o'i gy o a , st h a c d gy rhata se e n g l bolo bwyd fe flasus!! n mor mae'r u
CYNHWYSION 1 nionyn 2 ewin o arlleg wedi'u torri'n fân 250g briwgig twrci/cynnyrch llysieuol 2 gan o domatos wedi'u torri'n fân 1 ciwb stoc cig eidion/llysiau 2 lwy de o bowdr tsili 1 llwy de o sinamon a chwmin Reis basmati
Tsili Briwgig Gallw ch hefyd ddefn y brow n yn ll ddio reis e reis os yd gwyn ych a m arben fwyta’n nig o iach!
Ry Rysáit gan Pêl-Droed Barod mewn 40 munud Bar Digon i 1-2 o bobl
DULL 1. Ffriwch y nionyn a'r garlleg mewn padell fawr ar wres canolig i uchel am 2 funud. 2. Ychwanegwch y briwgig twrci a'i goginio nes ei fod wedi brownio. 3. Ychwanegwch y ddau gan o domatos a'u cyfuno. 4. Ychwanegwch y ciwb stoc a'r sbeisys, a throi'r cyfan. 5. Rinsiwch y reis ac yna dechrau’i goginio mewn padell o ddŵr berwedig hallt. Gwnewch yn siŵr o droi'r ddwy sosban. 6. Ar ôl i'r reis goginio am oddeutu 10 munud, draeniwch a'i roi ar blât/powlen. Erbyn hyn dylai'r tsili fod yn fwy trwchus ac yn barod i'w weini!
Rysáit gan Pêl-Droed Barod mewn 95 munud Digon i 2-4 o bobl
AWGRYMIADAU Ffordd iach, flasu s (a rhad) i fyfyrwyr orffen yr wythnos - tatw s melys wedi'u stwffio â ch yw iâr harissa! Gallwch ei goginio fel pryd llysieuol he b y cyw iâr ac mae'r un m or flasus!!
CIG
Tatws Melys wedi'u Stwffio
DULL
CYNHWYSION
2/3 taten felys Tua 500g o frest/clun cyw iâr heb esgyrn 1 nionyn coch Tin o ffa Ffrengig Tin o india-corn Ewin o arlleg Leim Mozzarella wedi'i gratio Llond llaw o bersli wedi'i dorri'n fân Sbeis harissa
1. Pobwch y tatws am 90 munud. 2. 20 munud cyn diwedd amser coginio’r tatws, torrwch y cyw iâr yn dalpiau, sesnwch gyda harissa a’u ffrio nes eu bod wedi’u coginio drwyddynt. Tynnwch o'r badell a'u rhoi mewn powlen gymysgu fawr. 3. Torrwch y garlleg a'r nionyn yn fân a'u ffrio ar wres canolig nes eu bod yn feddal. Tynnwch o'r badell a'u rhoi yn y bowlen gymysgu. 4. Hanerwch y tatws a defnyddio llwy i godi'r perfeddion a’u rhoi yn y bowlen gymysgu gan adael y croen. 5. Ychwanegwch yr india-corn a'r ffa Ffrengig wedi'u draenio a'r sudd leim i'r bowlen a'u troi. Sesnwch gyda halen a phupur ychwanegwch sbeisys eraill e.e. paprica os dymunwch. 6. Rhowch y gymysgedd yn ôl yng nghrwyn y tatws gyda llwy. Rhowch gaws a phersli wedi'i dorri'n fras ar ben y gymysgedd. Pobwch nes bod y caws wedi toddi. 7. Mwynhewch!
CIG
Cyri Cyw Iâr â Fenugreek Rysáit gan Canw Barod mewn 60 munud Digon 4 o bobl
CYNHWYSION 700g o gyw iâr heb groen a heb esgyrn wedi'i dorri'n giwbiau (gellir defnyddio darnau Quorn ar gyfer dewis amgen llysieuol) Sudd 1 leim 1 llwy de o halen 4 llwy fwrdd o olew blodau'r haul 1 nionyn mawr, wedi'i dorri'n fân 2 lwy de o biwrî sinsir 2 llwy de o biwrî garlleg
½ llwy de o dyrmerig wedi'i falu ½ llwy de o bowdr tshili 1 llwy fwrdd o goriander wedi'i falu 400g o domatos wedi'u torri'n fân (tin) 125ml o ddŵr cynnes 1 llond llwy fwrdd o ddail fenugreeksych ½ llwy de o garam masala 2 lwy fwrdd o ddail coriander ffres wedi'u torri'n fân 2-4 tshili gwyrdd ffres
DULL 1. Rhowch y cyw iâr mewn powlen anfetelaidd a rhwbio'r sudd leim a'r halen drosto. Rhowch gaead drosto a'i roi i un ochr am 30 munud 2. Cynheswch yr olew mewn wok neu badell ffrio drom dros wres canoliguchel. Ychwanegwch y nionyn a'i dro-ffrio am 7-8 munud, nes iddo ddechrau newid lliw 3. Ychwanegwch y piwrî sinsir a garlleg a pharhewch i dro-ffrio am oddeutu munud. Ychwanegwch y tyrmerig, y powdr tshili a'r coriander wedi'i falu, yna troi'r gwres i lawr a choginio'r sbeisys am 25-30 eiliad. 4. Ychwanegwch hanner y tomatos, eu tro-ffrio am 3-4 munud ac yna ychwanegu'r tomatos sy'n weddill. Parhewch i goginio, gan ei droi yn achlysurol, nes bod y sudd tomato wedi anweddu a bod yr olew yn gwahanu o'r past sbeis ac yn arnofio ar yr wyneb 5. Ychwanegwch y cyw iâr a throi'r gwres yn uchel. Tro-ffriwch am 4-5 munud ac yna ychwanegwch y dŵr cynnes 6. Gostyngwch y gwres i ganolig-isel a'i goginio am 8-10 munud, neu nes bod y saws wedi tewhau a'r cyw iâr yn dyner 7. Ychwanegwch y dail fenugreek, y garam masala, hanner y coriander a'r tshilis. Coginiwch am 1-2 munud, ei dynnu o'r gwres a'i weini.
DAU A I M Y R G AW i yn ei wein byddaf Fel rheol, a di'i stemio e w is e r gyda u ei n dechra byddaf y r gam 5 goginio a
CIG
Cyw Iâr Jammin' Jerk Rysáit gan Pêl-Droed Barod mewn 30 munud Digon 1-2 o bobl
CYNHWYSION Ar gyfer y Cyw Iâr: Tua 300g o glun/brest cyw iâr heb esgyrn os gallwch ei fforddio. Torrwch yn ddarnau maint cegaid. (Gallwch ddefnyddio cyw iâr ag esgyrn ond bydd yn cymryd mwy o amser i'w goginio.) 2 lwy ffwrdd o olew olewydd 2 lwy fwrdd o sudd lemwn 1 llwy fwrdd o sesnin jerk 1 llwy de o halen Ar gyfer y reis: · 200g o reis basmati Can 400ml/g o laeth coconyt Ychydig o nionod ifainc, wedi'u sleisio Teim 2 ewin o arlleg wedi'u torri'n fân 1 llwy de o bupur Jamaica mâl 1 can o ffa Ffrengig wedi'u draenio Dau lond llaw o bys (gallant fod wedi'u rhewi)
DULL 1. Gwnewch farinâd o'r olew, y sudd lemwn, sesnin jerk a’r halen. Tywelltwch y marinâd dros y cyw iâr a'i adael am o leiaf ddwy awr, neu'nddelfrydol dros nos. 2. Rinsiwch y reis mewn dŵr oer ac yna'i roi mewn sosban fawr. 3. Ychwanegwch y llaeth coconyt, cwpl o'r nionod gwanwyn, ysgeintiad o deim, y garlleg a'r pupur Jamaica. 4. Sesnwch â halen, ychwanegwch 350ml o ddŵr oer a throwch y gwres ymlaen yn uchel. Unwaith y bydd yn dechrau berwi, trowch i lawr i wres canolig a'i orchuddio. Coginiwch am 10 munud, a’i droi'n aml. 5. Unwaith y bydd wedi dechrau coginio, cynheswch olew mewn padell ffrio/gradell a choginio’r cyw iâr. 6. Tua diwedd amser coginio’r reis ychwanegwch y ffa Ffrengig a’r pys. Gorchuddiwch a thynnwch o'r gwres am 5 munud i'r hylif gael ei amsugno. 7. Ar ôl i'r cyfan gael ei goginio gweinwch gyda leim a thaenelliad ffres o nionod ifainc! 8. Mwynhewch!
IADAU AWGRYM s i'w fwyta Pryd blasu yd yn oed cyn neu h i rfer corff ar ôl yma gyflenwi radau a carbohyd phrotein!
CIG
Potes y Bwäwr Rysáit gan Saethyddiaeth Barod mewn 60=80 munud Digon 2-4 o bobl
CYNHWYSION 1 llond cwpan o ffacbys brown sych 1 nionyn mawr (wedi'i dorri'n fân) 100g o chorizo (sleisys bach) 1 daten fawr (talpiau gweddol fawr) 1 foronen fawr (wedi'i sleisio) 2-3 ewin o arlleg (wedi'u haneru) Ciwb o stoc llysiau/cyw iâr/cig eidion 1 lwy de o berlysiau cymysg 1 lwy de o paprica 2 lwy fwrdd o olew olewydd Halen a phupur
DULL 1. Mwydwch y corbys mewn dŵr am o leiaf 6 awr cyn dechrau coginio 2. Ffriwch y nionod mewn sosban fawr nes eu bod yn troi'n felyn 3. Ychwanegwch y chorizo a'r garlleg a'u ffrio nes bod y cig wedi'i selio 4. Ychwanegwch bupur a halen a'r perlysiau cymysg 5. Nawr ychwanegwch y foronen a'r tatws a dal i'w droi er mwyn iddo beidio â glynu 6. Draeniwch a rinsio'r ffacbys ac yna'u hychwanegu i'r sosban a'u cymysgu 7. Ychwanegwch ddigon o ddŵr berwedig i orchuddio'r holl gynhwysion gydag oddeutu modfedd o ddŵr ac yna ychwanegu'r ciwb stoc 8. Coginiwch am rhwng 40 a 60 munud nes bod y corbys a'r llysiau'n feddal
IADAU yn socian AWGRYM eich bod
ysig er Mae'n bw d yr ams d y b u e n y corbys h. wer hirac a ll n y io wer cogin sugno lla m a n y s rby Mae'r co io; rth gogin w r ŵ d d r os o wy o ddŵ f h c w g e troi’n ychwan ei fod yn lo im e t ydych yn ydych am s o u e n s hu rhy drwc gawl. yn fwy o iddo fod
CIG
Fajitas cyw iâr popty Rysáit gan Rygbi Undeb Merched Barod mewn 50 munud Digon i 4 o bobl
AWGRYMIADAU Gorau po fwyaf o ga ws! Gwnewch eich cym ysgedd fajita eich hun gyda phaprica, powdr nio nyn, powdr garlleg, pupu r cayenne ac un llwy fwrdd o cwmin
CYNHWYSION Ffiledi cyw iâr bychain 3 pupur 1 nionyn Sesnin fajita 1 llwy ffwrdd o olew olewydd 8 wrap tortila Hufen sur, salsa, guacamole Caws
DULL 1. Cyn-gynheswch y popty i 200 gradd/170 gradd i bopty ffan 2. Tynnwch yr hadau o'r pupurau a'u torri'n dafelli 3. Pliciwch y nionyn a'i dorri'n dafelli 4. Rhowch mewn dysgl bobi ac ychwanegwch y ffiled cyw iâr 5. Ysgeintiwch yr olew drostynt ac yna'r sesnin fajita i roi blas 6. Cymysgwch bopeth ynghyd 7. Pobwch am 30-40 munud, gan ei droi ar ôl 20 munud 8. Gweinwch ar wraps tortila gyda hufen sur, salsa
CIG
Cyw Iâr Paprica Hufennog Rysáit gan Pêl-Droed Gwyddelig Barod mewn 45 munud Digon i 2 o bobl
CYNHWYSION 200g o ffiledau brest cyw iâr 3 llwy fwrdd o paprica 1 ewyn o arlleg 2 bupur 1 ciwb stoc cyw iâr 2 lwy de o flawd 1 llwy de o hufen dwbl 2 fag o reis Talp o fenyn 350ml o ddŵr
AWGRYMIADAU
e Defnyddiwch crèm fraiche am lai o galorïau. Gallwch hefyd ddefnyddio olew cyw llysiau i goginio'r iâr.
DULL 1. Cynheswch y menyn mewn padell nes ei fod wedi toddi. Ychwanegwch y cyw iâr a'i goginio am 5-6 munud, cynheswch nes ei fod yn euraidd. 2. Berwch y reis mewn pot am 15 munud ar wres isel. 3. Ychwanegwch y paprica, garlleg, nionod a phupur i'r badell a'i droi'n rymus. 4. Ychwanegwch y stoc cyw iâr i'r badell a throi'r gwres i lawr i'w fudferwi am 5 munud. 5. Ychwanegwch hufen dwbl/crème fraiche a'i droi'n ysgafn nes bod yr hufen i gyd wedi lleihau. Coginiwch ar wres isel am 5-10 munud.
Rysáit gan Bocsio Barod mewn 10 munud Digon i 1 perspn
CIG
Wyau wedi'u sgramblo â chorizo AWGRYMIADAU
Gellwch brynu chori zo braster is a/neu ddefnyddio chwistrell olew 1 cal i'w wneu d yn fwy iach Macros 392 o galorïau 4g carb 30g braster 26g protein
DULL
CYNHWYSION 3 wy maint canolig 30g o chorizo 1 pupur coch Halen a phupur Naddion tshili 1 llwy fwrdd o olew ffrio
1. Torrwch y pupur a’r chorizo yn ddarnau mân 2. Ffriwch y chorizo a'i ddraenio ar bapur cegin 3. Ffriwch y pupur yng ngweddill yr olew chorizo ar wres canolig-isel 4. Ychwanegwch yr wyau i'r badell, defnyddiwch sbatwla i sgramblo'r wyau 5. Sesnwch yr wyau gyda halen, pupur a tshili i roi blas
CIG
Cyw Iâr Hoisin wedi'i Dro-Ffrio gyda Phupur Coch a Nwdwls Rysáit gan Peli Paent Barod mewn 30 munud Digon i 2 o bobl
CYNHWYSION 280g clun (thigh) cyw iâr wedi'i dorri'n fân 1 pupur coch 2 sialót 50ml saws soi 1 ewyn o arlleg 1 nionyn coch 20g o sinsir ffres 2 uned o nwdls Saws soi Saws hoisin Coriander
DULL 1. Rhowch sosban fawr o ddŵr gyda phinsiad o halen i ferwi ar gyfer y nwdls. Rhowch y cyw iâr wedi'i dorri'n giwbiau mewn powlen gymysgu. Ysgeintiwch y pum sbeis Tsieineaidd drosto (cymerwch ofal i beidio â defnyddio'r cyfan, mae'n eithaf cryf!), cymysgwch yn dda a'u taenu dros y cyw iâr, ei orchuddio âffoil/clingffilm a'i roi i un ochr. 2. Yn y cyfamser, hanerwch y pupur a thaflwch y craidd a'r hadau. Torrwch yn dafelli tenau. Hanerwch, plicio a thorri'r nionyn coch yn dafelli tenau ar siâp hanner lleuad. Tociwch y sialóts a'u sleisio'n denau. Pliciwch a gratio'r sinsir a'r garlleg (neu defnyddiwch wasg garlleg). Torrwch y coriander yn fras (gan gynnwys y coesynnau). 3. Ychwanegwch y nwdls i'r badell o ddŵr berwedig a'u coginio am 4 munud. Unwaith y byddant wedi coginio, draeniwch drwy ridyll ac yna rhoi dŵr oer drostynt nes eu bod yn colli eu gwres. Rhowch yn eu hôl yn y badell a'u gorchuddio â dŵr oer. 4. Tra bod y nwdls yn coginio, cynheswch ddiferyn o olew mewn padell ffrio (neu wok) dros wres uchel. Tro-ffriwch y cyw iâr nes ei fod yn frown, bydd yn cymryd 8-10 munud. Ar ôl ei goginio, trosglwyddwch y cyw iâr i bowlen a'i roi i un ochr. PWYSIG: Bydd y cyw iâr wedi'i goginio pan nad yw bellach yn binc yn y canol. 5. Ychwanegwch ddiferyn arall o olew i'r badell wag (os yw'n sych) a gostwng y gwres ychydig. Tro-ffriwch y pupur am 3 munud, ac yna ychwanegu'r nionyn. Coginiwch am 2 funud arall, yna rhowch y cyw iâr yn ôl yn y badell. Ychwanegwch y sinsir a'r garlleg a choginio am 1 munud arall cyn draenio'r nwdls eto a'u hychwanegu ynghyd â'r saws soi a'r saws hoisin. 6. Trowch yn dda i wneud yn siŵr bod yr holl gynhwysion wedi'u cyfuno a choginiwch am 2 funud arall i sicrhau bod y nwdls yn chwilboeth. Gorffennwch y tro-ffrio trwy ychwanegu'r sialóts a chymaint o goriander ag y dymunwch, ac yna'i weini ar unwaith. Mwynhewch!
IADAU sy AWGRYM r oer dro ŵ d g e d e Mae rh rhag eu hatal nwdls yn wy. coginio m osodwch nt oeri, g y d id l ô r A atal r oer i'w h ŵ d n w e nhw m gilydd u wrth ei n ly g g a rh ch, adell yn fa Os yw'r b h y cyw coginiwc eud yn piau i wn y s n w e iâr m n stiwio. yw'r cig y d a n r iŵ s
CIG
Stwnsh Tatws a Chorizo Rysáit gan Rygbi Undeb Merched Barod mewn 30-40 munud Digon i 4 o bobl
AWGRYMIADAU
Ychwanegwch be rsli a phupur garlleg am fymryn bach o gic Mae paprica'n gw eddu hefyd
CYNHWYSION 2 ewin o arlleg 6 owns o chorizo 3 taten fawr, wedi'u torri'n giwbiau bach 1 llwy fwrdd o fenyn heb ei halltu Halen a phupur 4 wy 2 bupur 1 nionyn
DULL 1. Rhowch 1 llwy fwrdd o fenyn mewn padell ac aros iddo doddi 2. Ar ôl iddo doddi, ychwanegwch datws a gorchuddio'r badell am 10 munud; cymysgwch hanner ffordd drwy'r broses i'w hatal rhag glynu 3. Yn dilyn hynny, ychwanegwch y pupur, y nionyn, y garlleg a'r chorizo, eu gorchuddio a'u coginio am 15 munud, gan gymysgu'nachlysurol i'w hatal rhag glynu 4. Pan fo 5 munud ar ôl, torrwch yr wyau i badell ffrio a'u coginio, gan ychwanegu halen a phupur i roi blas 5. Rhowch yr wyau ar ben y gymysgedd a'i weini
Rysáit gan Cleddyfa Barod mewn 45 munud Digon i 6 o bobl
CYNHWYSION 1 gneuen fenyn 2 nionyn Cyw iâr (500g) Crème fraiche (300 ml) Olew Halen Pupur
CIG
Cawl Cnau Menyn AWGRYMIADAU
Gallwch ychwan egu ychydig o gaws at y cawl a'i weini'n gynnes.
DULL 1. Torrwch y nionod a'r gneuen fenyn a'r cyw iâr yn ddarnau. 2. Ffriwch y nionod a'r gneuen fenyn mewn sosban gyda'r olew am tua 3 munud nes bod y nionod yn frown. 3. Ychwanegwch y cyw iâr a gadewch iddo goginio am 2 funud. 4. Ychwanegwch ddŵr i'r sosban. 5. Gadewch iddo goginio am oddeutu 20/25 munud. 6. Pan welwch fod y darnau o gneuen fenyn yn feddal rhowch y gwres i ffwrdd a throi'r cawl. 7. Ychwanegwch y crème fraiche, yr halen a'r pupur a'i gymysgu eto.
FEGAN
Cyri Ffa Menyn, Gwygbys a Courgette Rysáit gan Gymnasteg Barod mewn 25 munud Digon i 4 o bobl
CYNHWYSION 1 nionyn 1 llwy de o olew olewydd 2 lwy de o bowdwr cyri 1 llwy de o dil 1 llwy de o goriander 1/2 llwy de o nytmeg 2 ewyn o arlleg 1/2 llwy de o halen 1/2 llwy de o bupur 200g o domatos tin 150ml o laeth coconyt 200g courgette Tin o wygbys Tin o ffa menyn 1/3 cwpan o reis y pen
DULL 1. Cynheswch 1 llwy de o olew olewydd mewn padell maint canolig nes ei fod yn boeth. Torrwch y nionyn yn fras a'i ffrio yn y badell ar wres canolig am 5 munud (neu nes ei fod yn euraidd). Rhowch y badell hon i un ochr er mwyn i chi allu defnyddio gweddillion yr olew i ffrio'r llysiau yng ngham 5. 2. Berwch hanner llond padell fach o ddŵr ac ychwanegwch 1/3 cwpan o reis y pen i'w fwyta gyda'r cyri. Yn bersonol, mae'n well gen i reis brown, ond mae unrhyw reis yn gwneud y tro. 3. Unwaith bydd y nionyn yn euraidd, tynnwch o'r stôf a rhowch mewn jwg yn barod i'w flendio. Ychwanegwch y powdr cyri, dil, coriander, nytmeg, yr ewinau garlleg, halen a phupur a'i flendio; os bydd angen mwy o hylif ar y gymysgedd, ychwanegwch ddiferyn o olew. Ar ôl i'r cynhwysion gael eu cymysgu yn bast, profwch i weld a yw at eich blas. 4. Ychwanegwch y tomatos tin a'r llaeth coconyt i'r gymysgedd a'i flendio nes ei fod yn llyfn. Blaswch y gymysgedd eto a gwnewch newidiadau i'r blas yn ôl yr angen. 5. Torrwch y courgette yn fras a'i roi yn y badell a ddefnyddiwyd eisoes. Ffriwch am 3 munud ar wres canolig. Tra bod y courgette yn ffrio, draeniwch y gwygbys a'r ffa menyn a'u hychwanegu i'r badell. Coginiwch y gymysgedd o lysiau am 5 munud ar wres isel i atal y ffa rhag hollti. 6. Yna, ychwanegwch y past cyri i'r badell a'i gynhesu am 10 munud. Gwnewch yn siŵr eich bod yn troi'r gymysgedd bob ychydig funudau i atal y cyri rhag llosgi neu lynu yn y badell. 7. Unwaith y bydd wedi coginio, straeniwch y reis, gweinwch y cyri a mwynhewch!
FEGAN
Cawl Ffacbys a Llysiau Rysáit gan Ki-Akido Barod mewn 40 munud Digon i 2 o bobl
IADAU u stoc AWGRYM dio ciwbia d y fn e d Gellir ŵr, yn i mewn d d d to u i' d we iadau'r yfarwydd unol â ch r bouillon lle'r powd n y , n y c pe llysiau. llir o flas ge I roi mwy bwrdd o gu 1 llwy ychwane llwy ffres ac 1 ddail teim m r âl. goriande bwrdd o
CYNHWYSION 85g o ffacbys coch sych 2 foronen, wedi'u deisio 3 ffon seleri, wedi'u sleisio 2 genhinen, wedi'u sleisio 2 lwy fwrdd o biwrî tomato 3 ewin mawr o arlleg, wedi'u torri'n fân llwy fwrdd o bowdr bouillon llysiau
DULL 1. Rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban ac arllwyswch 1.5L o ddŵr berwedig drostynt. Trowch yn dda. 2. Gorchuddiwch a'i adael i fudferwi am 30 munud nes bod y llysiau a'r ffacbys yn dyner. 3. Arllwyswch i fowlenni a'i fwyta ar unwaith. Gellir ei weini trwy hylifo traean o'r cawl mewn peiriant blendio neu brosesydd bwyd.
Rysáit gan Pêl Fasged Dynion Barod mewn 11 munud Digon i 3 o bobl
FEGAN
Pasta Aglio e Olio MIADAU io'r AWGRY or-gogin g â h c eu Peidiw iwch nes in g o c , g garlle elyn. bod yn f
DULL
CYNHWYSION ½ bỳlb o arlleg 1 bwnsh o bersli 120ml o olew olewydd o ansawdd da (digon i orchuddio gwaelod padell) 1 llwy de o naddion chili 250g o linguine sych ½ lemwn wedi'i wasgu
1. Halltwch sosban fawr o ddŵr a dewch ag ef i'r berw. Coginiwch y pasta hyd at al dente wrth gwblhau'r camau isod. 2. Torrwch yr ewinedd garlleg yn dafelli tenau a'u rhoi o'r neilltu. Torrwch y dail persli o'u coesau, a'u torri'n fân. Tywelltwch yr olew olewydd i badell sauté fawr a’i gynhesu dros fflam ganolig nes ei fod yn disgleirio. 3. Ychwanegwch y tafelli garlleg a’u troi'n gyson nes bod y garlleg wedi tostio'n ysgafn. Ychwanegwch y naddion chili a thynnu’r badell o'r gwres. 4. Ychwanegwch y pasta wedi'i goginio a'i ddraenio, ynghyd â 50ml - ychydig lwyeidiau bwrdd - o ddŵr pasta. Bydd hyn yn helpu i wneud y saws yn fwy gludiog. 5. Ychwanegwch y sudd lemon a’r persli a'i droi i'w cyfuno 6. Ychwanegwch halen a phupur a'i weini. 7. (Dewisol: Ychwanegu pentwr o gaws Parmesan)
FEGAN
Cyri Aubergine a Choconyt Rysáit gan BUPLS Barod mewn 30 munud Digon i 2 o bobl
CYNHWYSION 1 llwy fwrdd o olew (ffrio) 1 nionyn, wedi’i sleisio 1 ewin o arlleg wedi'i dorri'n fân 1 llwy fwrdd o bast cyri 1 aubergine, wedi'i sleisio Can 400ml o laeth coconyt ½ mwg o bys wedi'u rhewi wedi'u dadrewi Reis Iogwrt i'w weini
AWGRYMIADAU Yn ôl prisiau 2017, dylai gosti o tua £1.40 y pen
DULL 1. Ffriwch y nionod a'r garlleg mewn sosban. Pan fydd y nionod yn dechrau brownio, ychwanegwch y past cyri a'r llaeth coconyt. 2. Dewch â'r badell i'r berw ac yna ychwanegwch ar aubergine. 3. Mudferwch am 10 munud nes bod yr aubergine yn feddal ac yna ychwanegwch y pys. 4. Gweinwch gyda reis ac iogwrt.
Rysáit gan Rygbi Undeb Merched Yn barod mewn 15 munud Digon i 3 o bobl
CYNHWYSION 2 ewin o arlleg Talpyn o sinsir Amrywiaeth o lysiau at eich blas e.e. madarch, brocoli, pupurau a nionyn coch neu lysiau rhatach wedi'u rhewi 2 lwy fwrdd o saws soi 1 llwy fwrdd o siwgr brown 1 llwy fwrdd o siracha 200g o nwdls
AWGRYMIADAU I roi mymryn mwy o awch i’r blas ychwanegwc h lemwn! Ychwanegwch gy w iâr os ydych awydd cig . Os oes arnoch ffa nsi blas mwy sbeislyd, yc hwanegwch naill ai tshili mely s neu fwy o siracha.
FEGAN
Tro-Ffrio 99c
DULL 1. Rhowch y nwdls i goginio yn ôl cyfarwyddiadau'r pecyn. 2. Torrwch y garlleg a'r sinsir a rhoi'r badell dros wres uchel gyda diferyn o olew. 3. Ychwanegwch y llysiau i'w tro-ffrio am oddeutu 5 munud. Ychwanegwch ddiferyn o ddŵr os yw'n edrych yn sych. 4. Ychwanegwch y saws soi, siwgr a siracha a'u cymysgu'n dda. 5. Pan fydd y nwdls yn barod, draeniwch a'u rinsio a'u hychwanegu i'r tro-ffrio. 6. Gweinwch a mwynhewch.
FEGAN
Gnocchi mewn saws tomato Rysáit gan Skate Barod mewn 10 munud Digon i 2 o bobl
CYNHWYSION 400g o Gnocchi 1 nionyn bach 1-2 ewin o arlleg 1 llwy fwrdd o olew olewydd Halen, pupur, siwgr Perlysiau Eidalaidd 100g o domatos ceirios
IADAU AWGRYM Mae'n u ar ôl blasu ora hir o diwrnod sglefrio.
DULL 1. Pliciwch a thorri'r nionyn a'r garlleg yn fân. 2. Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban 3. Ffriwch y nionyn nes ei fod yn dechrau troi'n frown. (2 i 3 munud). Yna ychwanegwch y garlleg a'i goginio am 1/2 funud pellach. 4. Ychwanegwch y tomatos wedi'u stwnshio. Sesnwch gyda halen, pupur, siwgr a pherlysiau Eidalaidd i roi blas. Coginiwch ar wres isel am oddeutu pum munud, gan ei droi'n achlysurol. 5. Yn y cyfamser, coginiwch gnocchi da yn ôl cyfarwyddiadau'r pecyn neu nes eu bod yn arnofio i ben y dŵr berwedig (3 i 4 munud). 6. Yna draeniwch, ychwanegu'r saws a'i droi i gyfuno'r gymysgedd. Sesnwch eto i roi mwy o flas. Gweinwch gyda thomatos ceirios a/neu naddion burum maethol os dymunwch.
LLYSIEUOL
Pwmpen Pleserus Rysáit gan Rhwyfo Barod mewn 40 munud Digon i 3-4 bobl (neu 2 rwyfwr llwglyd)
CYNHWYSION 1 bwmpen fawr (enfawr os ydych yn bwriadu pobi yn y bwmpen) 1 nionyn coch mawr, wedi'i dorri'n dafelli mân 1 brocoli o faint da, wedi'i dorri'n fflurynnau 250-300g o facaroni 75g o gaws Cheddar wedi'i gratio (neu ddigon i roi blas caws i'r saws béchamel gydag ychydig i'w sbario)
600ml o laeth 65g o flawd plaen 40g o fenyn Cymysgedd o hadau (mae hadau pwmpen, blodau'r haul a chia yn gyfuniad da) 1/2 llwy de o nytmeg a deilen bae os ydych am fod yn ffansi)
DULL 1. Cynheswch y popty i 200 Celsius 2. Tociwch ben y bwmpen. Tynnwch y perfeddion a'r hadau (mae'r hadau'n gwneud byrbryd braf os byddwch yn eu sychu am ddiwrnod ac yna'u rhostio gyda phaprica mwg, cwmin a halen) a llwywch y cnawd (sgŵp hufen iâ sy'n gweithio orau) i ffurfio cudynnau tenau. (Os ydych am bobi yn y bwmpen, lapiwch hi mewn ffoil a'i rhoi ar ddysgl bobi). 3. Berwch y macaroni fel ei fod wedi'i goginio ychydig yn llai nag al dente (yn gyffredinol 2-3 munud yn llai na'r amser coginio, ond profwch wrth fynd), ac ychwanegwch y brocoli am y 5 munud olaf i gadw tipyn o grensh iddo. 4. Yn y cyfamser, ffriwch y nionyn yn y menyn nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch y blawd (a'r nytmeg) a'i guro’n bast. Arllwyswch y llaeth drosto'n araf deg a’i chwisgio i ymgorffori'r roux (ac ychwanegwch y ddeilen bae). Parhewch i droi ar wres canolig nes bod y saws yn tewhau, heb adael iddo ferwi, dim ond ffrwtian. Ar ôl ei dewhau cymysgwch y bwmpen iddo a dwy ran o
LLYSIEUOL
Risotto Tomatos Hufennog Rysáit gan Athletau Barod mewn 40 munud Digon i 4 o bobl
CYNHWYSION Can 400g o domatos wedi'u torri'n fân 1 stoc llysiau 1 nionyn wedi'i dorri'n fân 1 llwy fwrdd o olew olewydd Slab o fenyn 250g o reis risotto 1 ewin o arlleg wedi'i dorri'n fân Pecyn bach o basil 4 llwy fwrdd o gaws parmesan wedi'i gratio
DULL 1. Arllwyswch y tomatos a'r stoc i sosban a'u ffrwtian yn ysgafn dros wres isel 2. Rhowch y menyn a'r olew yng ngwaelod sosban fawr a'u cynhesu'n ysgafn - ychwanegwch y nionyn a'i goginio nes ei fod wedi meddalu (6-8 munud). Ychwanegwch y garlleg a'r rhosmari ac yna'i goginio am funud arall. Yna ychwanegwch y reis a'i goginio am 1 munud 3. Dechreuwch ychwanegu'r tomatos a'r stoc fesul chwarter ar y tro. Ychwanegwch fwy o stoc ar ôl iddo gael ei amsugno. Dylai gymryd 20-25 munud arall 4. Ychwanegwch y basil a'i droi. Gweinwch gyda'r parmesan
IADAU
AWGRYM
dio ddefnyd h c w ll a G yd wrth w b d d y s prose ysiau a'r ll c o t s 'r u gymysg i edi'u torr w s o t a tom hynny'n w y id n d on eidiol angenrh
LLYSIEUOL
Crwyn tatws wedi'u stwffio Rysáit gan Syrf Barod mewn 20 munud Digon i 1 person
TIP Microwaved po tatoes are hot; don’t bu rn yourself! If you do, a dip in the sea sh ould help cool off an y burns.
CYNHWYSION 2 daten yn eu crwyn 1-2 llwy fwrdd o pesto 150ml o gaws colfran (cottage cheese) Halen/pupur
DULL 1. Gwnewch dyllau yn y tatws gyda fforc 2. Rhowch y tatws yn y microdon am 10 munud 3. Tynnwch allan o'r microdon a'u torri yn haneri 4. Crafwch ganol y tatws allan gyda llwy a'u rhoi mewn powlen o'r neilltu Cyfunwch y caws colfran, y pesto, yr halen a'r pupur gyda'r tatws 5. Rhowch y gymysgedd yn ôl yn y crwyn tatws 6. Pobwch yn y popty ar 200 gradd am 10 munud
Rysáit gan Pêl-Droed Merched Yn barod mewn 30 munud Digon i 4 o bobl
CYNHWYSION 1 Brocoli Hanner bag o gêl (kale) 2 bupur 1 nionyn coch Cymysgedd sbeisys fajita Olew 8 tortila Guacamole Creme fraiche Caws (opsiynol)
AWGRYMIADAU Ychwanegwch guacamole i'r llysia u i roi mwy o flas Os nad yw'r caws yn toddi trowch y gwres i lawr am ychydig
LLYSIEUOL
Quesadillas Llysiau
DULL 1. Torrwch y llysiau'n fras 2. Cymysgwch y llysiau mewn powlen gyda'r gymysgedd fajita 3. Cynheswch lwy fwrdd o olew mewn sosban fawr 4. Ar wres canolig i uchel ychwanegwch y llysiau a'u ffrio nes eu bod yn feddal ac ychydig yn frown 5. Rhowch y llysiau wedi'u coginio yn ôl yn y bowlen 6. Trowch y gwres i lawr i ganolig 7. Rhowch tortila yn y badell a'i lenwi â rhywfaint o’r gymysgedd llysiau, ychwanegu caws wedi'i gratio os ydych yn ei ddefnyddio ac yna rhowch tortila arall ar ei ben 8. Ar ôl i'r tortila gwaelod frownio, trowch y Ceistadilla drosodd ac aros i'r ochr arall frownio 9. Torrwch yn chwarteri a'i weini gyda'r guacamole a'r creme fraiche 10. Ailadroddwch gyda gweddill y tortilas
Rysáit gan Sboncen Yn barod mewn 90 munud Digon i 4-6 o bobl CYNHWYSION
700g o bysgod gwyn (mae eog yn dda hefyd) 110g o gorgimychiaid wedi'u plicio 1 peint o laeth 110g o fenyn 50g o flawd plaen 2 wy wedi'u berwi'n galed, wedi'u torri'n fras 1 llwy fwrdd o gaprys, wedi'u draenio 3 llwy fwrdd o bersli ffres wedi’i dorri 100g o bys wedi'u rhewi llwy fwrdd o sudd I'R1TOPIN: lemwn 900g o datws wedi'u Sesnin berwi'n ffres 25g o fenyn 4 llwy fwrdd o laeth Pinsiad o nytmeg 25g o gaws Cheddar aeddfed, wedi'i gratio
BWYD MÔR
PEI PYSGOTWR
DULL 1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200ºC/400ºF/Marc Nwy 6. 2. Trefnwch y pysgod mewn dysgl bobi a'u sesno'n dda gyda halen a phupur. Arllwyswch hanner y llaeth drostynt, eu britho â 25g o'r menyn a'u pobi yn y popty am 15-20 munud. 3. Unwaith y bydd allan o'r popty, arllwyswch hylif ohono a'i gadw, ond gadewch yr hylif ar waelod y ddysgl bobi. Tynnwch y croen o'r pysgod a haenu'r cnawd yn ddarnau mawr. 4. Ar gyfer y saws: gwnewch roux trwy doddi'r 75g sy'n weddill o'r menyn mewn sosban a throi'r blawd iddo, ac yna tywallt yr hylif coginio a arbedwyd o'r ddysgl iddo'n raddol. Awgrym: i gael gwared ar y lympiau blawd byddaf yn defnyddio chwisg coil. Pan fydd y saws yn llyfn ychwanegwch y llaeth, ei droi ychydig eto a'i sesno. 5. Cymysgwch y pysgod a'r corgimychiaid pob i'r saws ynghyd â'r darnau wy wedi'u berwi'n galed, y caprys, persli, pys wedi'u rhewi a’r sudd lemwn. Cymerwch flas i weld a yw'r sesnin wrth eich bodd; fel arall, ychwanegwch fwy. 6. Arllwyswch y cyfan i ddysgl bobi 1.5 litr sydd wedi'i hiro'n dda â menyn. Awgrym: Mae dysglau pyrex neu seramig yn berffaith ar gyfer hyn. 7. Ar gyfer y topin: pliciwch a thorri’r tatws a’u berwi am ddeutu 20 munud/nes eu bod yn disgyn yn hawdd o ben cyllell, ac yna gwnewch stwnsh gyda'r menyn a'r llaeth. Sesnwch ac ychwanegwch y nytmeg. 8. Taenwch y stwnsh dros y pysgod pob yn y ddysgl a gwneud patrwm tlws ynddo gyda fforc. 9. Ysgeintiwch y caws Cheddar wedi'i falu'n fân drosto a'i bobi am 30-40 munud nes ei fod wedi brownio. 10. Gweinwch gyda llysiau gwyrdd crimp a gwin gwyn; haleliwia!
IADAU saws i AWGRYM in gwyn i'r w h c w g Ychwane dwol. no roi cic fed wn powle y pys me h c wi w o re h d R p i dda nes o'r ta n y c r ŵ d d ws. oi yn y sa cyn eu rh o berwi'r o g angh fi a h c iw id Pe aled! i'r wyau’n g u moron chwaneg y m a i! th Be h amdan fyd? Ewc pastai he
Rysáit gan Pêl-Foli Yn barod mewn15 munud Digon i 1 person
CYNHWYSION Tomatos ceirios piccolini - 15 Langwstinau - 5 1 ewin o arlleg Pasta - 100g Olew olewydd pur
BWYD MÔR
Pasta Con Langostinos
DULL 1. Cynheswch oddeutu 3 llwy fwrdd o olew olewydd mewn padell ffrio ar wres canolig isel. 2. Pliciwch a malu ewin o arlleg gan ddefnyddio ochr wastad cyllell. Ychwanegwch y garlleg i'r olew, ac yna ei dynnu o'r olew ar ôl 2 funud. 3. Yn y cyfamser, torrwch y tomatos ceirios yn haneri a'u hychwanegu i'r badell ar ôl tynnu'r garlleg ohoni. 4. Wrth ddisgwyl i'r tomatos feddalu mymryn, golchwch y langwstinau o dan ddŵr oer ac yna'u rhoi yn y badell. 5. Gan ddefnyddio caead pot, gorchuddiwch y badell a choginio ar wres isel am 7-10 munud. Cadwch olwg cyson arno i wneud yn siŵr nad yw'n tewhau gormod. 6. Tra bod y saws yn tewhau, coginiwch y pasta (gwnewch yn siŵr o roi halen yn y dŵr). Unwaith y mae'n barod, trosglwyddwch y pasta i'r badell ffrio a gadewch iddo goginio yn y saws am funud arall, gan ei droi'n gyson er mwyn iddo amsugno blas y saws.
eddol o'u IADAU udd sylw s u AWGRYM n n y d dd hynn'n matos . Os na fy u Dylai'r to a n ti s w anegu c o'r lang s ac ychw re w g hunain a y h wc 'r saws , gostyng r nad yw iŵ s n digwydd y h ewc n drwy'r lew. Gwn yn ffrwtia mwy o o h c a tr y h ond yn yn berwi el y edi gada amser. ich bod w e u d fod re 'i c a yn mser Os ydych rmod o a o m a s h rt W gwre â phoeni. saws ar y peidiwch , s u h wfaint o'r c ry rw yddiwch yn rhy d fn e d , ta oi gu'r pas sta yndd ychwane ferwi'r pa h c o goginio th i e na wch ati li a d dŵr y gw a ig yd saws ych n barod. deneuo'r y saws y d o b lo yn teim nes eich
Rysáit gan Jiu-Jitsu Yn barod mewn 40 munud Yn gwneud 24 Teisen Gri
CYNHWYSION 265g o flawd plaen 1½ llwy de o bowdr pobi 1 llwy de o allspice 130g o fenyn oer heb ei halltu 75g o siwgr brown golau 75g o lugaeron 50g o siocled gwyn (wedi'i gratio) 1 wy mawr 1 llwy fwrdd o lefrith
BYRBRYDAU
Teisennau Cri Llugaeron
DULL 1. Hidlwch y blawd, y powdr pobi a'r allspice i bowlen gymysgu fawr. 2. Torrwch y menyn yn dalpiau a'i rwbio i'r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion bara. 3. Ychwanegwch y siwgr a'r llugaeron, ynghyd â'r siocled gwyn wedi'i gratio. 4. Gwnewch dwll yng nghanol y briwsion bara a thorri'r wy iddo, ychwanegwch y llaeth a chwisgiwch hwnnw i’r gymysgedd gyda fforc nes ei fod yn does. 5. Daliwch ati i weithio'r toes ynghyd yn ysgafn nes bod pob briwsionyn yn cael ei godi. 6. Ysgeintiwch ychydig o flawd ar wyneb gwaith a rholiwch eich toes ynddo nes ei fod tua 5mm o drwch. Yna torrwch y toes yn deisennau gyda thorrell rychog 6cm. 7. Cynheswch eich padell am ychydig funudau, ei iro ag ychydig o fenyn a choginio'r teisennau cri am 3-4 munud ar bob ochr. Coginiwch ddarnau prawf i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn rhy dywyll. eth gydag ychydig o fenyn 8. Ar ôl eu coginio, gallwch eu gweini'n boeth neu adael iddynt oeri.
IADAU eu AWGRYM dol caiff teisennau cri ydd
odia rw, ond b Yn dradd aearn bw h ll e d neud y ra r en yn gw ta s coginio a h rt w g adell dur unrhyw b n oer ch fargarî iw d d y tro. fn , de h yn fegan na stwns ner bana Os ydych n a h , n y e yn ll e'r men u geirch iawn yn ll almon ne th e a ll a y yn lle'r w wch. u i siocled, b llaeth o ddaion y w m u r coco eisia d o bowd Os ydych rd fw y lw gwch 2 ychwane tywyll.
Rysáit gan Bocsio Yn barod mewn 5 munud Digon i 1 person
BYRBRYDAU
Smwythyn Protein Cyn-Ymarfer
CYNHWYSION 250g o iogwrt Groegaidd braster isel 150g o aeron wedi'u rhewi 1 banana Sblash o sudd oren 1 llwy fwrdd o bowdwr spirulina (dewisol)
DULL 1. Blendiwch yr iogwrt, aeron a’r banana 2. Ychwanegwch y spirulina a'r sudd, a'i flendio eto.
AWGRYMIA DAU Macros 343 o galorï au 51.7g carb 5.9g braste r 34.4g prote in