Yr Etholiad MAWR 2019 - Maniffestos Ymgeiswyr!

Page 1

MA N I F F E S T O S Y MG E I S WY R


Llywydd

MANIFFESTOS YMGWEISGWYR


M ARK BA RR OW Y N L L YWY DD !

''Byddaf yn parhau i weithio er budd POB myfyriwr, a byddaf yn sicrhau bod eich llais bob amser yn cael ei glywed.''

RHOI MYFYRWYR YN GYNTAF: Ennyn Diddordeb: Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn gwybod beth sy'n digwydd yn Undeb Bangor, a sut i gymryd rhan. Eleni, rwyf wedi gweld bod cyhoeddiadau mewn darlithoedd, cefnogi digwyddiadau clybiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli, a throeon traws-campws y swyddogion sabothol i gyd yn cael eu gwerthfawrogi gan fyfyrwyr. Ad-drefnu Pontio a ffreutur i fyfyrwyr: Rwy'n teimlo bod y brifysgol wedi colli cyfle wrth gynllunio Pontio. Er ei fod yn adeilad trawiadol, mae cymaint yn fwy y gallem ei gyflawni er mwyn ei wneud yn lle deniadol i fyfyrwyr! Rwy'n credu y dylai fod yna ffreutur i fyfyrwyr, gyda bwyd am bris rhesymol, ac mae digon o fannau gwag ar gyfer ystafelloedd cyfrifiaduron/mannau astudio hefyd. Byw’n iach: Byddaf yn pwyso ar y brifysgol i ddarparu'r modd i chi fyw bywyd iach. Hoffwn weld tegellau a microdonnau mewn ystafelloedd cyffredin/mannau astudio, yn ogystal â ffynhonnau dŵr. Hefyd, hoffwn ddatblygu cynllun 'llogi beiciau', gan ddefnyddio'r degau o feiciau a adewir yn y neuaddau preswyl bob blwyddyn. Gweithio gyda'r gymuned/busnesau lleol - cyfleoedd gwaith: Byddaf yn cysylltu â busnesau lleol ac yn sefydlu adran 'swyddi' ar wefan Undeb. Bydd hwn yn fan i gyflogwyr hysbysebu swyddi gwag. Lleihau plastig: Rydym wedi cael dechrau da o ran lleihau plastig eleni, ond mae dal llawer mwy y gallwn ei wneud. Byddaf hefyd yn gweithio gyda busnesau lleol i sefydlu cynllun achredu, a fydd yn cynnig cyfle i’w hyrwyddo yn ôl cyn lleied o blastig y byddant yn ei ddefnyddio.

#MAKE YOUR MAR K



Llywydd Gax Liz Person Ha unben! Fy enw dynol cyfredol yw Gax Liz Person, ac rwy’n fyfyriwr astudiaethau ffilm, ond rydw i wedi byw am dros 400 o flynyddoedd. Efallai y cofiwch chi fy nghyfaill agos i, Panos. Mae yntau hefyd wedi rhoi cynnig ar fod yn llywydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae pobl yn ein camgymryd ni o hyd. Ar hyn o bryd rwyf yn fy [GOLYGWYD] flwyddyn ym Mangor ac rydw i wedi sylwi bod llawer o newidiadau, ond hefyd bod llawer o bethau wedi aros yr un fath. Mae gen i brofiad na wyr neb amdano o lywodraethu dros nifer o blanedau, ac o’r herwydd rwy’n credu y medrwn i ddod ag oes newydd o oruchafiaeth i Fangor. Rwyf i wedi byw a rhannu profiadau gyda myfyrwyr o wahanol gefndiroedd gwahanol, ac rwy’n teimlo’n sicr bod fy dewisiadau innau’n adlewyrchu trwch y myfyrwyr. Er enghraifft, un o’m haddewidion yw gwerthu’r Caban i Aberystwyth, a defnyddio’r arian i sicrhaf na wnaiff dyfodiad y Gwrthlywydd anfad effeithio ar Brifysgol Bangor o gwbl. Cynhaliaf gyfarfodydd wythnosol â’m llu dibynadwy o fadfall-bobl anweledig a seicig. Mi wnaiff hynny sicrhau fy mod i’n gallu bod yn llais i’r myfyrwyr. Bydd y cyfryw lu hefyd yn darparu cynllun wrth gefn pan gaiff Blackboard ei gau i lawr drwy ddefnyddio pelicaniaid cludo. Byddai newidiadau amlwg eraill hefyd, gan gynnwys codi uchder nenfwd pob ystafell ddarlithio, er mwyn dod â Bangor i amlygrwydd fel amgylchedd sydd â lefel uchel o safonau addysgol. Yn olaf, byddaf hefyd yn troi’r holl ystafelloedd ymolchi’n rhai niwtral o ran rhyw. Bwriadaf gadw llawer iawn mwy o addewidion na hyn, darn bach iawn yn unig o’r gacen dan sylw sydd yma. Cofiwch sibrwd fy enw cyn mynd i gysgu, i sicrhau goruchafiaeth i bawb.


IL Cymdeithasau MANIFFESTOS a Gwirfoddoli YMGWEISGWYR


Helo, fy enw i yw Osian Evans ac rwy'n sefyll i fod yn Islywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli.

P�E��L�I���C� D�O� OS��� EV��� #1 I FO� Y� IL Yn ystod fy mlynyddoedd ym Mhrifysgol Bangor, ni fu semester sengl lle nad wyf wedi bod yn rhan o C��DE����SA� A G�I�F����LI gymdeithas ac yn cymryd rhan weithredol yn eu gweithgareddau. Diolch i hyn, rwyf wedi dod i weld faint y mae'r cymdeithasau a'r projectau gwirfoddoli yn ei ychwanegu at fywyd prifysgol a sut maen nhw'n helpu i ehangu gorwelion i unrhyw un sy'n ymuno â nhw.

Yr h�� r� 'n e� ad�� i c�i: Cyswllt Un o'm prif nodau yw datblygu'r cysylltiadau sydd gan Undeb y Myfyrwyr gyda gweddill y myfyrwyr. Rydym ni yma i chi, a'ch pryderon chi yw ein pryderon ni. I wneud hyn, rwy'n bwriadu adfywio'r cynllun wythnos diwethaf. Hyrwyddo Rwyf am wella'r cyhoeddusrwydd a roddir i ddigwyddiadau a drefnir gan gymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli: rydych chi i gyd yn gweithio'n galed i wneud rhywbeth yr ydych chi'n ei fwynhau, a dylai eraill gael gwerthfawrogi eich holl ymdrechion. Ar gael Rwy'n credu'n gryf bod Undeb y Myfyrwyr yn bodoli i wasanaethu'r myfyrwyr, ac i hyrwyddo hyn, byddwn yn neilltuo cyfran o'r wythnos i groesawu unrhyw un sydd â chwestiynau y byddent yn hoffi eu gofyn yn bersonol, heb orfod trefnu cyfarfod. Rhwydweithiau Cysyniad newydd a gyflwynwyd eleni oedd y rhwydweithiau rhwng cymdeithasau o natur debyg. Rwy'n bwriadu gwella'r rhwydweithiau hyn trwy drefnu cyfarfodydd rhwng y rhai dan sylw ac annog digwyddiadau ar draws cymdeithasau.

Ple����is���h d�o Eva� i fo� y� #1


IL Cymdeithasau a Gwirfiddoli

Muhammad Firdaus Muhammad Amdani | Make It Muhammad

Rydych chi’n dewis eich IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli a gwn eich bod chi isio’r ymgeisydd gorau ar gyfer dwy ran y rôl hon. A finnau hefyd.? Ar ôl bron i 8 mis yn y swydd, gallaf ddweud fel hyn wrthych chi: Nid yw’r rôl yn ymwneud â phwy ydych chi, mae’n ymwneud â’r hyn y gallwch chi ei wneud ar gyfer eich myfyrwyr. Llai o siarad, mwy o wrando; llai o’r hunan, mwy o wasanaeth. Y llynedd, ymgyrchais ar lwyfan o nodweddion personol, nid polisïau. Daw polisi da o egwyddorion da, ac mi wnaethoch chi fy newis i oherwydd Gonestrwydd, Diplomyddiaeth, Sgiliau a Phrofiad. Gyda’ch help chi, treuliais fy nhymor yn meithrin rhwydweithiau rhwng cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli, gan osod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy cydweithredol. Gofynnaf am eich cydsyniad i ganiatáu i mi adeiladu ar y gwaith hwn am ail dymor. Yn ychwanegol at y pedair nodwedd wreiddiol, dyma’r ymrwymiadau a wnaf i chi, sydd eisoes wedi dechrau gweld llwyddiant: - Byddaf yn parhau i gefnogi a hyrwyddo Gwirfoddoli. Mae ein gwirfoddolwyr yn cyffwrdd â bywydau, ac maen nhw’n haeddu swyddog sabothol a wnaiff eu grymuso. - Byddaf yn parhau i eiriol dros Gynaliadwyedd ym mhob agwedd ar Gymdeithasau a Gwirfoddoli yn amgylcheddol, yn ariannol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. - Byddaf yn parhau i wella cyfathrebu a rhwydweithio rhwng cymdeithasau / projectau gwirfoddoli i’ch helpu chi ledaenu’r neges, cydweithredu a llwyddo ar eich telerau chi eich hun. - Byddaf yn parhau i gefnogi rhyngwladoliaeth ochr yn ochr â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, sydd wedi bod mor groesawgar imi fel myfyriwr rhyngwladol. - Fi fydd eich swyddog sabothol ar y tu mewn. Y perygl mwyaf yn y rôl yma yw ego - ond rwy’n hen law erbyn hyn, wedi bod drwyddi droeon, ac wedi ennill chevrons y rhingyll. Rwyf yma i’ch cynrychioli chi, byddaf yn parhau i wrando arnoch chi, a byddaf yn ymladd drosoch chi. Rwy’n gwybod sut beth yw cael eich anghofio - wna’ i ddim eich anghofio chi! Bydd y flwyddyn i ddod yn un heriol i ni. Rydych chi’n haeddu rhywun sydd wedi’i brofi, sy’n gallu gweld beth sy’n dod a mynd amdani o’r cychwyn cyntaf. Rydym wedi cyflawni pethau rhyfeddol eleni - gadewch i ni wneud y flwyddyn nesaf yn well byth!




RHIANNON WILLIAMS

IS-LYWYDD CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI PAM FI?

Mae Undeb Bangor (UB) wedi bod yn rhan annatod o fy ngyrfa brifysgol. Rwyf wedi cadeirio'r Gymdeithas Herpetolegol am 3 blynedd ac wedi cydweithio gyda thîm UB i greu digwyddiadau mawr, gan gynnwys cynadleddau rhyngwladol. Gan fy mod yn awyddus i hwyluso cymdeithasau eraill, ymunais â Phwyllgor Gwaith y Cymdeithasau. Dros y 2 flynedd ddiwethaf, rwyf wedi hyrwyddo ymgyrchoedd cymdeithasau ac UB, ac wedi annog cydweithio rhwng cymdeithasau trwy gyfarfodydd rhwydwaith. Cynorthwyais i drefnu'r Ffair Cymdeithasau, i greu llwyfan cenedlaethol i hyrwyddo'r gwaith gwych y mae cymdeithasau UB yn ei wneud. Rwy'n aelod o Gyngor Undeb Bangor, sy'n cynrychioli gwaith y Pwyllgor Gwaith Cymdeithasau ac yn gweithredu'r syniadau yr ydych chi, fel y myfyrwyr, wedi eu cyflwyno. Bûm yn gynrychiolydd cwrs am ddwy flynedd ac yn llysgennad dros fyfyrwyr Cymraeg i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn y swyddi hynny, cynrychiolais anghenion amrywiaeth eang o fyfyrwyr a deuthum i ddeall gwerth a grym llais y myfyrwyr. Mae gwirfoddoli'n rhan bwysig o'm bywyd. Rwy'n Gadeirydd Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid Gogledd Cymru, ac rwyf wedi bod yn wirfoddolwr cadwraeth am 8 mlynedd. Pe bawn yn cael fy ethol, byddwn yn dod â'r profiad hir hwn o wirfoddoli effeithiol a phrofiad trefniadol helaeth i'm canlyn, yn deillio o'm gwaith gyda'r Gymdeithas Herpetolegol a threfnu cynadleddau rhyngwladol. Rwy'n awyddus i roi'r hyn rwyf wedi'i ddysgu oddi wrth y tîm gwirfoddoli ar waith, ac i ddatblygu swyddogaeth Islywydd i gynrychioli'r holl fyfyrwyr yn llawn yn y cynfod anodd hwn i'r Brifysgol.

Rwy'n gyffrous ynghylch y cyfle i'ch cynrychioli chi a'ch anghenion, ac yn hyderus mai fi yw'r un iawn i wneud hynny!

FEL IS-LYWYDD BYDDWN YN GWNEUD Y CANLYNOL:

1) HYRWYDDO

CYMDEITHASAU AC YMGYRCHOEDD, PROJECTAU A DIGWYDDIADAU GWIRFODDOLI

2) HYRWYDDO A HWYLUSO CYDWEITHIO I GREU DIGWYDDIADAU MAWR A GWAHANOL.

3) CYNRYCHIOLI

ANGHENION A BARN CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI O LEFEL PRIFYSGOL I GYNADLEDDAU CENEDLAETHOL.

4)

GWEITHREDU MEWN FFORDD GLIR AC YMATEB YN AGORED A HYBLYG I FEIRNIADAETH ADEILADOL A SYLWADAU.

5) HYRWYDDO

AMRYWIAETH, GAN GYNNIG LLWYFAN I'R HERIAU UNIGRYW Y MAE LLAWER O FYFYRWYR YN EU HWYNEBU.

6) BOD AR GAEL YN RHWYDD A HAWDD CYSYLLTU Â MI TRWY GYFRYNGAU CYMDEITHASOL, SESIYNAU GALW HEIBIO RHEOLAIDD A PHOLISI DRWS AGORED.


IL Chwaraeon

MANIFFESTOS YMGWEISGWYR





Henry Williams

AM IL IL CHWARAEON CHWARAEON AM AM IL CHWARAEON PAM Henry? Swyddog digwyddiadau ar bwyllgor gwaith yr UA 18/19 Capten clwb yr UA 18/19 Wedi gweithio'n agos gyda'r Is-lywydd Chwaraeon presennol Wedi cymryd rhan lawn yn yr UA trwy gydol cyfnod fy ngradd.

DWI EISIO WNEUD HYN I CHDI Sicrhau bod pob darlith ddydd Mercher yn cael ei recordio ar Panopto. Cadw prynhawniau Mercher yn rhydd o ddarlithoedd. Llunio cofrestr academaidd UA a fyddai'n caniatáu i ysgolion drefnu sesiynau labordy / tiwtorialau / seminarau i athletwyr o gwmpas eu gemau. Cyflwyno sesiynau adferiad i fyfyrwyr ag anafiadau. Ymchwilio i gysylltiadau posibl rhwng clybiau'r UA, cymdeithasau ac ysgolion academaidd at ddibenion ymchwil a chyflogadwyedd. Cynyddu ymwybyddiaeth am gyfleoedd codi arian i glybiau'r UA ac i elusennau, gan gydweithio â RAG. Diogelu a rheoli cyllid yr UA yn effeithlon. Parhau i godi proffil Noson yr UA, digwyddiadau'r UA ac ymgyrchoedd presennol Gweithio'n galetach dros ymgyrchoedd iechyd meddwl. Gweithio'n agos gyda'r holl swyddogion sabothol i sicrhau profiad cyfannol i fyfyrwyr. Gwella mynediad at gymwysterau chwaraeon a chyhoeddusrwydd amdanynt. Sefydlu cysylltiadau pellach gyda'r gymuned leol at ddibenion cyfleoedd hyfforddi a rhannu cyfleusterau. Ymchwilio i ddulliau eraill o drafnidiaeth i greu UA mwy cynaliadwy. Gwella'r berthynas waith efo VX3

"Rwy'n credu bod yr UA a chwaraeon wrth wraidd profiad myfyrwyr ac rwy'n ymroddedig i sicrhau ei fod y gorau y gall fod."

PLEIDLESIO YMA

6/3-8/3

#HwylGydaHenry

#HenryI'rUA


MANIFFESTOS YMGWEISGWYR

Llywydd UMCB


N I D D R Y M U C

LL

LLEU MCB 2019-2020 U D D Y ag YW

gw m a c r e w a l l d d y n Ceir o ll n y l l fy e s y w tr

· Cadw llygad manwl ar faterion ariannol y Brifysgol a sicrhau na fydd y Gymraeg nac anghenion myfyrwyr UMCB yn cael eu hesgeluso mewn toriadau pellach. · Cymreigio’r Wythnos Groeso · Parhau i gefnogi holl gymdeithasau a thimau chwaraeon UMCB a bod yn barod i fod o gymorth iddynt ym mha bynnag fodd sy’n bosibl. · Byddwn yn hyrwyddo mwy ar gyfleoedd gwirfoddoli a chodi arian yn lleol. · Chwilio am ddatblygiadau pellach i’r ffordd y mae UMCB yn cael ei farchnata. · Cynllunio i gomisiynu llyfr ar Hanes UMCB a fyddai’n brosiect sylweddol, ond byddai modd anelu i’w lansio erbyn ein 50 mlwyddiant yn 2026.

PLEIDLEISIO: 06.03.19 -08.03.19


MANIFFESTOS YMGWEISGWYR

IL Addysg


Pleidleisiwch PAIGE DIXON fel Is-lywydd Addysg! Amdanaf i: Rwy'n fyfyriwr yn fy nhrydedd flwyddyn yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas sy'n gwneud gradd yn Hanes yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Yn fy ail flwyddyn cefais fy ethol yn gynrychiolydd cwrs, a gwnaeth fy nhîm i ennill gwobr ariannol Ffau’r Dreigiau ar gyfer ein project i greu llyfrgell adnoddau ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, gan ddefnyddio 2,000 o lyfrau a arferai fod yn y storfa. Cefais fy enwebu ar gyfer rhestr fer Gwobr Arloesi Ede a Ravenscroft am y project hwn. Eleni fe'm hetholwyd yn Uwch Gynrychiolydd Cwrs ac yn Gynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol Undeb Bangor. Rwyf hefyd yn cyd-drefnu taith brifysgol i dde'r Eidal. Pam rydw i am fod yn Is-lywydd Addysg: Mae Bangor wedi cynnig llawer o gyfleoedd i mi. Rydw i am sicrhau’r cyfleoedd i bob myfyriwr gyflawni eu dyheadau. Rydw i eisiau pontio'r bwlch rhwng UM a'r myfyrwyr. Yn bwysicach oll, rwyf am wneud eich profiad ym Mhrifysgol Bangor y gorau y gall fod. Yr hyn fydda i'n ei gyflawni: Byddaf yn mynnu amrywiaeth bellach i'r cwricwlwm academaidd. Mae dysgu am leiafrifoedd yn aml yn cael ei adael allan o fodiwlau ysgolion. Byddaf yn eu haddysgu am y grwpiau hyn ac yn eu hannog i'w cynnwys yn eu cwricwlwm. Byddaf yn trefnu ffeiriau gwaith penodol i gyrsiau gradd ar draws y brifysgol a fydd yn cynnig darpariaeth berthnasol i astudiaethau myfyrwyr unigol yn hytrach na ffeiriau gwaith cyffredinol. Byddaf yn gwella gwasanaethau iechyd meddwl y brifysgol. Yn ogystal â pharhau â Big White Wall Undeb, byddaf yn trefnu seminarau proffesiynol i addysgu myfyrwyr am sut i roi mwy o gymorth i'w cyfoedion. Bydd addysgu myfyrwyr ynglŷn â sut i gefnogi eu cyd-fyfyrwyr yn gwella lles meddyliol pob myfyriwr.

Fel Is-lywydd Addysg, rwy'n gwybod y byddwn yn cyflawni pethau mawr. Fy mhrif flaenoriaeth fel IL Addysg yw'r myfyrwyr ac rwy'n eich annog i roi'r cyfle i mi brofi hynny i chi.

Trowch Ddalen Newydd gyda PAIGE dros Brifysgol Bangor!


PLEIDLEISIWCH #1 i fod yn IL Addysg




PLEIDLEISIWCH DROS HARRY RILEY IS-LYWYDD DROS ADDYSG P W Y YD W I ?

Dwi'n fyfyriwr yn fy mhedwaredd flwyddyn yn astudio am radd Meistr mewn Bioleg ac rwy'n dod o Benrhyn Cilgwri (The Wirral). Yn ystod fy nghyfnod ym Mangor rwyf wedi bod yn rhan o nifer o gymdeithasau ac ymgyrchoedd. Rwy'n Gydlynydd Bywyd Campws ac wedi bod yn Llywydd y Gymdeithas Fiolegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Hefyd arweiniais yr ymgyrch Bangor Ddi-blastig ar draws y ddinas. Mae'r ymgyrch hon wedi cael sylw cenedlaethol a'i thrafod yn y Senedd.

P A M D D YLE C H C HI BLE ID L EIS IO DRO S OF F I?

- Cynyddu cyfleoedd gwaith trwy weithio gyda chymdeithasau dysgedig megis Cymdeithas Frenhinol Bioleg / Cymdeithas Seicoleg Prydain, yn ogystal â'r Brifysgol, i gynnig nifer o sgiliau a swyddi sy'n gwella gyrfaoedd. -Mae Panopto i fod i gael ei ddefnyddio ym mhob darlith sydd ar gael. Ond dydi hynny ddim yn digwydd. Mae'n fater sy'n codi dro ar ôl tro ac nid yw byth wedi'i ddatrys. Byddaf yn ymgyrchu i sicrhau bod Panopto yn cael ei ddefnyddio ym mhob darlith bosibl. - Mwy o gyfleusterau cegin o amgylch y campws fel poptai microdon, ffynhonnau dŵr a biniau bwyd i hyrwyddo byw'n iach a chynaliadwyedd. - Parhau â'm gwaith gyda Bangor Ddi-blastig. Byddaf yn ymgyrchu i leihau ymhellach faint o blastig a ddefnyddir o amgylch y Brifysgol. Byddaf hefyd yn gweithio gyda'r Lab Cynaliadwyedd a'r gymuned leol i leihau gwastraff a mynd i'r afael â phroblem sbwriel ym Mangor.



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.