Myfyrwyr 'Yn Y' Gymuned

Page 1

Canllawiau I FYFYRWYR

‘YN Y’

GYMUNED SWYDDFA TAI MYFYRWYR WWW.BANGORSTUDENTPAD.CO.UK

SW Y DD FA NEUAD DAU


HELO,

Nid yn unig y mae Bangor yn lle hardd i fyw, ond mae hefyd yn lle hardd i’w alw’n gartref. Wrth i chi symud o neuadd breswyl i’ch ty newydd, hoffem i chi ystyried Bangor fel eich cartref a theimlo’n aelod cyflawn a gwerthfawr o’r gymuned. Er mwyn i chi allu cymryd balchder yn lle rydych yn byw, mae angen i chi allu cymryd balchder yn sut rydych yn byw a dangos dealltwriaeth o’r rheiny sy’n byw o’ch cwmpas. Pan fyddwch yn symud i’ch tŷ newydd, mae’n bosib y byddwch yn dod yn rhan o gymuned sydd eisoes wedi’i sefydlu yn gartref i fyfyrwyr ynghyd â phreswylwyr eraill. Rydym wedi llunio’r canllawiau cryno hyn i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch amser yma a’ch helpu â’r cyfnod o drawsnewid o ‘Neuadd i Gartref’. Byddwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl, yr hyn a ddisgwylir ohonoch chi, ac yn gwneud i chi deimlo’n fwy cartrefol ym Mangor gobeithio.

Gall symud o lety Prifysgol fod yn gyfnod pryderus ond mae digon o bobl a all eich helpu a byddwn yn hapus iawn i’ch cyfeirio atynt. Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu llunio gan Undeb Bangor (eich Undeb Myfyrwyr yma ym Mangor), y Swyddfa Tai Myfyrwyr a’r Swyddfa Neuaddau er mwyn sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth rydych ei hangen ar yr adeg gyffrous hon.

UNDEB BANGOR TÎM SABOTHOL 2016 - 17

CYSYLLTIADAU

ALLWEDDOL P r i f ys go l Bang o r U n d eb Ba ng o r

01248 351151 01248 388000

Sw y d d fa Tai Myfyrw yr Sw y d d o g Heddlu’r Campws Cy n go r G wynedd Sw y d d fa Neuaddau H ed d lu (heb fo d yn acho s b rys)

01248 01286 01766 01248 101

(U n deb Myf yrwyr Prif ysgo l Bango r)

Mudiad

Cyswllt

382034 670924 771000 382667

Rhif Cyfrif

Landlord

Asiant Gosod Darparwr Rhyngrwyd Cwmni Teledu

Cyflenwyr Dŵr Cymru Cwmni Nwy Cwmni Trydan

Cyswllt

DARLLENIAD

(SYMUD I MEWN)

DARLLENIAD

(SYMUD ALLAN)


BLAENORIAETHAU MAE’R RHAIN YN FATERION PWYSIG: AWGRYMIADAU WRTH SYMUD I MEWN:

RHESTR EIDDO CYMERWCH FFOTOGRAFFAU WEDI’U DYDDIO PAN FYDDWCH YN SYMUD I MEWN

CYMERWCH DDARLLENIADAU O’R MESURYDDION (NWY, TRYDAN).

Dylech dderbyn rhestr eiddo gan eich landlord (neu asiant gosod). Bydd yn cynnwys rhestr fanwl o’r cynnwys a disgrifiad o gyflwr eich tŷ. Gwiriwch y rhestr hon i wneud yn siŵr ei bod yn gywir. Mae angen i chi gadw cofnod o gyflwr y tŷ ac unrhyw ddiffygion/niwed (os yn berthnasol) pan fyddwch yn symud i mewn. Bydd hyn yn gwneud pethau’n haws os cwyd unrhyw anghydfod pan fyddwch yn hawlio eich blaendal yn ôl ar ddiwedd eich tenantiaeth.

Bydd angen i chi drefnu bod y cyfrifon nwy a thrydan yn cael eu trosglwyddo i’ch enw(au) chi (oni bai eu bod yn cael eu darparu gan y landlord fel rhan o’ch cytundeb tenantiaeth). Efallai y bydd angen i chi siarad â’r landlord cyn newid darparwyr y gwasanaethau a gallwch gael golwg ar-lein am y bargeinion gorau. Mae talu drwy ddebyd uniongyrchol misol yn llawer haws ei reoli na biliau chwarterol.

TREFNWCH YSWIRIANT CYNNWYS I DDIOGELU EICH EIDDO GWERTHFAWR

Mae gan Endsleigh Insurance gytundebau da wedi’u teilwra at fyfyrwyr.

GOFYNNWCH I’R ARWYDD ‘I’W OSOD’ GAEL EI GYMRYD I LAWR.

Cysylltwch â’ch landlord neu asiant gosod.

EWCH I GWRDD Â’CH CYMDOGION

Mae hyn yn bwysig iawn, a byddant yn falch i gwrdd â chi. Ewch i ddweud helo a gadael iddynt wybod ychydig amdanoch chi a’ch cyd-letywyr.

GWNEWCH GAIS AM GAEL EICH EITHRIO O’R DRETH GYNGOR Nid yw myfyrwyr llawn amser yn gorfod talu’r dreth gyngor (mae rhai eithriadau).

Gwybodaeth lawn am hyn: https://www.bangor.ac.uk/ar/main/faq/answers/oq20.php.en

EICH CYMUNED CHI YW HON

BYDDWCH YN RHAN OHONI! Dylech deimlo’n rhan o’r gymuned, a’r mwyaf y byddwch yn cyfrannu, y mwyaf y cewch ohoni. Mae Bangor yn gymuned sy’n gymysgedd fywiog o fyfyrwyr a phreswylwyr eraill, felly gwnewch y mwyaf o’r bennod gyffrous newydd hon yn eich bywyd. Cofiwch fod argraffiadau cyntaf yn bwysig, felly:

1. 2. 3. 4. 5.

Hefyd gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru manylion eich cyfeiriad ar FyMangor

SWYDDFA TAI MYFYRWYR

Gallwch hefyd ddefnyddio rhestrau gwirio’r Swyddfa Tai Myfyrwyr, Symud-i-Mewn a Symud-Allan, sydd i’w gweld yma: www.bangor.ac.uk/studentservices/studenthousing/

6.

EWCH I GWRDD Â’CH CYMDOGION

Dywedwch ‘helo’ a chyfnewid rhifau ffôn er mwyn i unrhyw broblemau allu cael eu datrys yn gyflym. Bydd hyn yn gwneud iddynt deimlo’n gyffyrddus os bydd angen iddynt drafod unrhyw beth â chi.

YSTYRIWCH EICH YMDDYGIAD A BYDDWCH YN YSTYRIOL O’I EFFEITHIAU ARNYN NHW

Oes gan eich cymdogion blant? Ydyn nhw’n gweithio sifftiau? Ydyn nhw mewn oed? Dylech roi gwybod iddynt os ydych yn bwriadu cael parti.

AGORWCH EICH LLENNI YN YSTOD Y DYDD

Os ydych gartref agorwch ffenest am ychydig oriau i adael i awyr iach gylchredeg.

CADWCH EICH GARDD FFRYNT A’CH GARDD GEFN YN DACLUS

Bydd eich cymdogion yn ddiolchgar am hynny.

A OES GENNYCH GYMDOGION SYDD ANGEN UNRHYW GYMORTH

Mae cynnig mynd i nôl pethau o’r siop, neu dorri’r gwair yn ffordd wych o deimlo’n rhan o’r gymuned a rhoi help llaw i bobl sydd fwyaf ei angen.

MAE PARCIO’N AML YN FATER DADLEUOL

A ydych wedi ystyried os oes angen trwydded? Ydych chi’n parcio yn lle rhywun arall neu’n rhwystro mynediad i’w tŷ?


BYDDWCH YN

DACLUS Rydym i gyd wedi arfer ag ailgylchu erbyn hyn. Yma yng Ngwynedd mae eich gwastraff (bin gwyrdd) yn cael ei gasglu pob tair wythnos, a’ch cyfrifoldeb chi yw ailgylchu’n effeithiol.

Mae Undeb Bangor a’r Brifysgol yn gweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’u casgliadau ac rydym wedi bod yn rhoi llawer o bwys ar ailgylchu effeithiol.

Cofiwch;

Rhowch eich blychau ailgylchu (a’r bin lliw) allan ar y diwrnod cywir. Dewch â nhw yn ôl i mewn. Peidiwch â chymysgu’r gwastraff ailgylchu. Efallai na chaiff ei gasglu a gallech gael eich dirwyo.

Rydym eisiau rhoi cymaint o gyfle â phosib i chi ailgylchu. Os nad oes gennych y biniau gwastraff cywir, neu’r hoffech gael mwy o finiau glas, bagiau/biniau gwastraff bwyd gallwch gysylltu â’r Cyngor ar 01766 771000, Adran Ailgylchu Gwynedd.

Byddwn yn trefnu casgliadau ychwanegol bob blwyddyn gyda’r Swyddfa Tai Myfyrwyr a Chyngor Gwynedd. Byddwn yn trefnu casgliadau ychwanegol bob blwyddyn gyda’r Swyddfa Tai Myfyrwyr a Chyngor Gwynedd. Byddwn yn rhoi digon o gyhoeddusrwydd iddynt ymlaen llaw a thrwy gynlluniau fel Y Rhoi Mawr. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Swyddfa Neuaddau i gasglu unrhyw eiddo neu fwyd diangen, a gânt eu dosbarthu i elusennau.

YMWNEUD Â’R GYMUNED

Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n rhan o’r gymuned leol. Mae gennym nifer o weithgareddau y gellwch gymryd rhan ynddynt a fydd yn eich helpu i wella eich sgiliau datblygiad cymunedol a hefyd yn ennill pwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) / Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR) i chi.

BETH AM DIPYN O

DDEMOCRATIAETH / ARWEINIAD CYMUNEDOL? Mae yna ddigonedd o gyfleoedd i ymuno â grwpiau pwyllgor neu grwpiau cymunedol.

• YDYCH CHI’N TEIMLO’N GRYF AM DDATBLYGIAD CYMUNEDOL? • HOFFECH CHI FOD YN RHAN O DDEMOCRATIAETH A NEWID LLEOL? Cysylltwch â ni drwy undeb@undebbangor.com am fwy o fanylion a chyngor.

COFRESTRWCH I Bleidleisio

Yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr efallai y cewch y cyfle i bleidleisio mewn etholiadau allweddol:

• ETHOLIAD CYFFREDINOL • ETHOLIADAU CYNULLIAD CYMRU • COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU • LOCAL COUNCIL ELECTIONS

GWOBRAU

LANDLORDIAID

WIRFODDOLI?

Mae gan Undeb Bangor ddigonedd o gyfleoedd i chi gymryd rhan a chefnogi eich cymuned leol:

• GLANHAU TRAETHAU • Y RHOI MAWR • RAG Ewch i www.undebbangor.com i weld y gweithgareddau a chyfleoedd diweddaraf neu os oes gennych syniad yr hoffech i ni ei roi ar waith cysylltwch drwy undeb@undebbangor.com

Bwriad y gwobrau yw annog myfyrwyr i ystyried cyn rhentu, ac i annog myfyrwyr i gymryd rhan yn ein hymgyrch tai, a chyfrannu’n gadarnhaol at waith Undeb Bangor ar godi safonau a chynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr.

• OES GENNYCH CHI LANDLORD DA? • YDYN NHW’N RHAGWEITHIOL? • GELLWCH EU HENWEBU AR GYFER UN O’N GWOBRAU Cymerwch olwg ar www.undebbangor.com am fwy o wybodaeth am hyn a byddwn mewn cysylltiad i gasglu eich enwebiad tua diwedd y tymor cyntaf.


CADW’N IACH

Mae sicrhau eich bod yn cadw’n ffit, yn iach ac mewn hwyliau da yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol yn bwysig iawn. Ewch i www.undebbangor.com am lu o wybodaeth ar fyw’n iach a sut i gadw yn yr iechyd a hwyliau gorau posib yn ystod eich cyfnod yma ym Mangor.

DOCTORIAID

Sicrhewch eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu lleol. Mae gan Fangor amryw o feddygfeydd o gwmpas y ddinas. Dyma rai o’r amlycaf:

• CANOLFAN FEDDYGOL BODNANT • BRON DERW Mae yna nifer o fferyllfeydd hefyd. Mae’n syniad da i gadw eich deintydd (cartref) eich hun. Serch hynny, mewn achos brys gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru.

BWYD

Gall datblygu eich sgiliau coginio fod yn agwedd gadarnhaol iawn ar eich cyfnod yma yn y brifysgol. Bydd datblygu rhestr o brydau y gellwch eu coginio ac a all eich cynnal chi a’ch cyd-letywyr yn sgil rhagorol i’w meithrin.

Mae gwybodaeth am beth i’w wneud gyda bwyd, cynghorion siopa, paratoi a chanllawiau diogelwch i gyd i’w cael yn y llyfryn hylaw hwn ar:

www.undebbangor.com/bwytandda

CADW’N

IACH DRWY

GLYBIAU A

CHWARAEON Ydych chi wedi ymuno ag un o’r clybiau a chymdeithasau am ddim sydd gennym i’w cynnig? Nid yn unig bydd cymryd rhan yn eich hoff glwb neu gymdeithas yn dda i’ch lles corfforol, bydd hefyd yn dda i’ch iechyd a lles meddyliol hefyd.

U, A D Y R P EICH H C W I , N U I L E B A L U CYNLL A D A I DD

Y D D O W L Y S H CYMERWC

T N I A , M STORIO YDAU, R P H AF C Y W EI M Y H C & GWNEW EDDILLION

W ergell O’CHCG ho adwch eic 3 1. rhwng 0 a o

2.

Cymerwch olwg ar y rhestr o gymdeithasau sydd gan Undeb Bangor i’w cynnig ynghyd â chlybiau’r Undeb Athletau. Os na welwch gymdeithas sydd at eich dant chi ac yr hoffech sefydlu un newydd mae croeso i chi ddod i siarad gyda ni.

siopa neu au r t s e r h c Gwnew un o’ch cypyrdd tynnwch l fnyddiwch n e d a , io in dros be cyn cog Pwyswch rio at unrhyw fwyd focsys sto - Ansawddiogelwch u a r o i e r A erbyn - D io d d y n f e D ewgell h r y n y a r ich ba Cadwch e yn yr oergell ond BYTH pa, mae io s i d n y y! cyn m Bwytwch glyd yn gwario mw siopwr llw

3.

• CYMDEITHASAU • UNDEB ATHLETAU

www.undebbangor.com

DA I’RED BLAN DA IC’CEDH PO

o

4.

5.

6.


ARBED ARIAN

Daw rheoli ac ymestyn cyllideb yn fuan iawn yn ail natur i chi yn eich cartref newydd. Rydym wedi casglu syniadau ynglŷn â sut i wneud hynny a sicrhau bod mwy o arian ar ôl yn eich poced ar ddiwedd pob mis (i brynu llyfrau)?

LLENNI Agorwch eich llenni yn ystod y dydd, os ydych gartref agorwch ffenest am ychydig oriau i adael i awyr iach gylchredeg.

Nid yn unig fydd hyn yn helpu gyda phroblemau tamprwydd, ond bydd agor y llenni’n caniatáu i’r ystafell gynhesu’n naturiol.

DIFFODD Bydd diffodd peiriannau wrth y plwg pan nad ydynt yn cael eu defnyddio yn arbed arian pellach. Diffoddwch y goleuadau pan nad ydych yn eu defnyddio (dechreuwch feddwl fel eich rhieni).

GWRESOGI Cytunwch yn y tŷ ar adegau priodol i’r dŵr poeth a’r gwresogi ddod ymlaen yn ystod y dydd – er enghraifft yn y bore pan fyddwch yn codi ar gyfer darlithoedd ac yn gynnar gyda’r hwyr pan fyddwch yn dychwelyd.

• Mae cynnal gwres ar lefel is cyson yn ystod y misoedd oeraf yn well na hyrddiau byr o wres uchel. • Gosodwch y thermostat ar 20-25 gradd C.

COGINIWCH

GYDA’CH GILYDD

gwnewch bryd i bawb yn y tŷ. Nid yn unig bydd hyn yn defnyddio llai o fwyd na choginio’n unigol, ond bydd yn helpu i leihau costau nwy a thrydan. Mae hefyd yn ffordd dda o gynnal awyrgylch glyd yn eich tŷ. Ceisiwch eistedd i lawr gyda’ch gilydd yn yr ystafell fwyta/ ystafell fyw a bwyta gyda’ch gilydd.

CERDYN

NUS EXTRA

Gwnewch yn siŵr o wneud y mwyaf o ostyngiadau i fyfyrwyr ar bethau dymunol i’r tŷ. Mae’r cerdyn yn £12 am flwyddyn ond bydd wedi talu dros ei hun gyda dwy daith i’r sinema yn Llandudno.

Mae’n bosib cael un ar-lein drwy www.nus.org.uk/nusextra

N ’ W Y B

Y W D A I L GYNA ETY PREIFAT MEWN LL

1. 2. 3.

ngen i elusen. ia d u a m e it e h ch eic chio fo - rhow lu i e e ll ’n o . h c Rhow gwmpas y tŷ o d la il d d o l anego ch haen ychw w g is w G ? r e O dach gilydd a y g h c iw h it e - Gw wch hu yn Hawdd ff a ailgylchu allan. Gwne lc y g il A d u e n ny! Gw stra or syml â hyn tro i roi’r gwa cymryd eich helpu gyda hyn .... mae m i rota ailgylchu fell. ych yn yr ysta d y d a n n a p dau ffwrdd i Trowch oleua dych yn golch u. y s o is d d ilia here dillad ar dym n sylwi arbediad yn eich b h ic e h c w h lc Go hy 30°C byddwc eich dillad ar ffres ae perlysiau bryd. M t? s e n e ff silff rhyw Awydd garddchwanegiad blasus i un yn gwneud y yn y astraff bwyd in. w ll o h h ic e u g ce lch Gallwch ailgy bach a ddarperir yn eich n w biniau bro n y microdon yl. h c iw d d y fn e ib D e y bo’n bos lle’r popty ll

4. 5.

6.

7. 8.


CADWCH YN

DDIOGEL

Mae Bangor yn un o’r dinasoedd mwyaf diogel i fod yn fyfyriwr, ond nid yw hynny’n golygu na fydd rhai unigolion yn cymryd mantais os oes cyfle’n cael ei gynnig iddynt. Dyma rai cynghorion ar sut i gadw’n ddiogel a pheidio â dioddef trosedd yn ystod eich cyfnod yn astudio ym Mangor.

CLOEON

Clowch y drysau a’r ffenestri ar bob adeg. Mae hynny’n bwysig hyd yn oed os yw eich cyd-letywyr gartref, gan y gallai eich yswiriant dros gynnwys y tŷ fod yn ddi-rym os na chymerir y cam elfennol hwn.

YSWIRIANT Mae yswiriant dros gynnwys y tŷ yn ffordd wych o warchod eich eiddo gwerthfawr. Mae rhai o’r bargeinion gorau i’w gweld yma.

EIDDO GWERTHFAWR COFRESTRU Eich STWFF DRUD

Cadwch eich eiddo gwerthfawr, fel eich ffonau, gliniaduron, arian parod etc. yn ddiogel trwy eu cadw o’r golwg.

OSGOI

Mae chiwladron yn llai tebygol o dorri i mewn i dŷ os oes golwg gymen a thaclus arno a bod y gymdogaeth yn edrych fel pe bai’n cael ei gofalu amdani. Felly cadwch lygad ar eich biniau a chyflwr cyffredinol yr ardd.

LARYMAU BWRGLERIAETH

Os oes gan eich tŷ larwm bwrgleriaeth gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae’n gweithio, a chysylltwch â’ch landlord i ofyn am gyfarwyddiadau. Unwaith eto, os na chymerir y cam hwn, gall eich yswiriant fod yn ddi-rym.

Mae’r heddlu’n cynghori myfyrwyr i gofrestru eitemau fel gliniaduron, cyfrifiaduron, beiciau etc.

Mae gennym hefyd blismon campws ymroddedig a gellir cysylltu ag ef/hi ar 01286 670924.

GOLWG

Unwaith eto, bydd golwg eich tŷ yn chwarae rhan hanfodol yn sicrhau bod y gyfradd droseddu yn cael ei chadw mor isel â phosib. Gall gwahoddiad ffenest agored gael ei atgyfnerthu os oes arwydd ‘I’w osod’ wedi’i arddangos ar flaen y tŷ, fel baner fawr yn dweud ‘Mae myfyrwyr yn byw yma’. Cysylltwch â’ch landlord i ofyn iddo/iddi dynnu’r arwydd i lawr.

SYMUD ALLAN Pan ddaw hi’n ddiwrnod ymadael ar ddiwedd tymor mae yna rai camau pwysig i chi eu cymryd:

BILIAU

Gwnewch yn siŵr o gymryd darlleniad mesurydd ar eich diwrnod olaf. Rydych yn parhau i fod yn gyfrifol am y biliau gwasanaethau nes eich bod yn gadael yn swyddogol. Bydd angen i chi hysbysu eich darparwr eich bod yn gadael heddiw, a rhoi eich darlleniad(au) olaf iddyn nhw.

EICH

BLAENDAL Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cadarnhau’r trefniadau ynglŷn â’ch diwrnod symud allan gyda’ch landlord/asiant gosod a chysylltwch â’r cynllun blaendal ynghylch dychwelyd eich blaendal.

GWASTRAFF Rydym yn gweithio’n galed yn Undeb Bangor i helpu sicrhau eich bod yn cael eich blaendal i gyd yn ôl ar ddiwedd eich tenantiaeth. Un maes lle gallwn fod o gymorth yw trwy ein partneriaeth ag Ailgylchu Cyngor Gwynedd. Rydym wedi trefnu casgliadau ychwanegol o flychau glas/biniau gwyrdd yn ystod yr wythnosau symud allan.

TANYSGRIFIADAU Sicrhewch eich bod wedi canslo eich holl danysgrifiadau (teledu, band eang, cylchgronau etc.) cyn i chi adael.

RHESTR EIDDO Bydd gan eich landlord/asiant gosod reolau ynglŷn â’r rhestr eiddo wrth adael, a dylent gysylltu â chi o fewn o leiaf fis cyn diwedd eich tenantiaeth. Caiff y rhestr eiddo ei chymharu â’r rhestr eiddo symud i mewn y gwnaethoch ei chwblhau ar ddechrau eich tenantiaeth, a gellir gwneud didyniadau o’ch blaendal os nad yw’r eiddo yn cael ei ddychwelyd mewn cyflwr boddhaol.

CASGLIADAU

Elusen

Ar ben y casgliadau ychwanegol gan y Cyngor, rydym hefyd wedi trefnu casgliad i elusen ar gyfer eich eitemau diangen, felly cadwch lygad am fanylion pellach yn y trydydd tymor.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.