Canllaw Prynu Moesegol i Grwpiau

Page 1

Canllaw Prynu Moesegol i Grwpiau

Plastigion

Mae'n bwysig i ni chwarae rhan weithredol wrth leihau ein defnydd o blastig i ddiogelu'r amgylchedd. Fel myfyrwyr, gallwch leihau eich gwastraff plastig trwy addasu i arferion prynu mwy cynaliadwy.

Dewiswch gynhyrchion sydd ag ychydig iawn neu ddim deunydd pacio plastig Chwiliwch am gynhyrchion sydd wedi’u pecynnu gyda deunyddiau arall fel gwydr, cardbord, neu ddeunyddiau bioddiraddadwy; mae ' r rhain yn well i'r amgylchedd ac fe ellir eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio. Trwy ddefnyddio poteli dŵr a chwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio, gellir osgoi defnyddio plastig untro a derbyn gostyngiad ar ddiodydd poeth ym mannau arlwyo’r brifysgol yn yr un modd Efallai na fydd dewisiadau ar wahân i blastig ar gael bob amser Pan na ellir osgoi plastig wrth brynu, ceisiwch sicrhau eich bod yn cael gwared â’r deunydd pacio yn gywir, gan ailgylchu lle bo modd.

Trwy ddewis dewisiadau ar wahân i blastig untro ac ymdrin â gwastraff yn gyfrifol, gallwch gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a helpu i leihau llygredd plastig

Amazon

Amazon yw adwerthwr ar-lein mwyaf y byd, yn cludo tua 1 6 miliwn o becynnau bob dydd, sy ’ n arwain at hyrwyddo prynwriaeth ddiangen, allyriadau gormodol, a gwastraff chynnyrch a phecynnu. Lle bo modd, dewiswch fusnesau lleol er mwyn cefnogi’r stryd fawr a ’ r economi leol. Er y gall Amazon fod yn ddewis cyfleus ar gyfer pryniannau personol ac ar gyfer clwb/cymdeithas/prosiect, mae ' n bwysig fel cymuned ein bod yn ymwybodol o ' n dewisiadau fel defnyddwyr a ' u dylanwad ar yr amgylchedd ehangach ac ar fusnesau lleol

Trwy ddod o hyd i gynnyrch ar lefel leol a mwy cynaliadwy, gallwn ymladd yn erbyn newid hinsawdd a helpu i leihau gwastraff diangen ac allyriadau cerbydau Gall cynllunio ymlaen llaw helpu i leihau dibyniaeth ar Amazon a lleihau'r angen i archebu cynhyrchion funud olaf ar gyfer y diwrnod nesaf

Yn naturiol, efallai na fydd dewisiadau ar wahân i Amazon bob amser yn bosibl oherwydd cyfyngiadau amser, cost, neu lefelau stoc Fodd bynnag, trwy wneud penderfyniad ymwybodol i ddewis ffynonellau mwy cynaliadwy, lle bo modd, rydym yn blaenoriaethu gwerthoedd cymunedol, yn cefnogi busnesau lleol ac yn gwarchod yr amgylchedd

Yn naturiol, efallai na fydd dewisiadau ar wahân i Amazon bob amser yn bosibl oherwydd

cyfyngiadau amser, cost, neu lefelau stoc Fodd bynnag, trwy wneud penderfyniad ymwybodol i ddewis ffynonellau mwy cynaliadwy, lle bo modd, rydym yn blaenoriaethu gwerthoedd cymunedol, yn cefnogi busnesau lleol ac yn gwarchod yr amgylchedd

Yn naturiol, efallai na fydd dewisiadau ar wahân i Amazon bob amser yn bosibl oherwydd

cyfyngiadau amser, cost, neu lefelau stoc Fodd bynnag, trwy wneud penderfyniad ymwybodol i ddewis ffynonellau mwy cynaliadwy lle bo modd, rydym yn blaenoriaethu gwerthoedd cymunedol, yn cefnogi busnesau lleol ac yn gwarchod yr amgylchedd.

Dewisiadau Eraill Lleol ar wahân i Amazon

Cynnyrch Syniadau eraill Lleoliad

Gwisgoedd ffansi Sparx Stryd Fawr 208a

Eitemau crefft The Works Stryd Fawr 241

Cardiau Card Factory Canolfan Deiniol

Ffonau a thechnoleg Qanovi Mobile Canolfan Deiniol

Addurniadau, gemwaith, a rhoddion

Bwyd a chynnyrch/gofal croen eco (fegan, masnach deg ac ati)

The Dead Faeries Canolfan Deiniol

Dimensions

15 Ffordd Caergybi

Dillad Soulful Living Canolfan Deiniol

Gwaith Celf Studio 9 Canolfan Deiniol

Ail lenwi cynhyrchion harddwch/glanhau

Llyfrau

Addurniadau cartref

Hen bethau, llyfrau a gemwaith

Wild Origins Canolfan Deiniol

Awen Menai

17 A545, Porthaethwy

Enchantment Canolfan Deiniol

Pete the Hats Canolfan Deiniol

Masnach Deg

Trwy ddewis cynhyrchion Masnach Deg Ardystiedig, rydym yn cefnogi cynaliadwyedd, cyflogau teg i weithwyr a ffermwyr, ac amodau gwaith gwell

Er ei bod yn well dewis Masnach Deg Ardystiedig, nid yw bob amser yn ddewis ymarferol. Mewn rhai achosion, nid yw opsiynau masnach deg ar gael oherwydd lefelau stoc neu gostau Ar ben hynny, anaml iawn y mae swm mawr o de a choffi masnach deg ar gael Felly, rhoddir ystyriaeth i ddeunydd pacio a gwastraff sy ' n gysylltiedig â phrynu symiau llai

Lle bo modd, ystyriwch ddewis te a choffi Masnach Deg Ardystiedig at ddefnydd personol a digwyddiadau clybiau/cymdeithasau/prosiectau

Mae Cynghrair y Goedwig Law yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol mewn amaethyddiaeth a gwella cadwraeth.

Lle nad oes modd darparu Masnach Deg Ardystiedig, neu os yw ’ n anymarferol, ystyriwch ddewis brandiau gyda Thystysgrifau Cynghrair y Goedwig Law

Mae rhai enghreifftiau isod ar gyfer brandiau sydd ag ardystiadau Masnach Deg neu Gynghrair y Goedwig Law.

Te Cyngrair y Goedwig Law

Pg Tips

Tetley’s

Yorkshire Tea

Typhoo

Fuze

Lipton

Coffi Parod Cynghrair y Goedwig Law

Tesco Gold

ASDA Extra Special Italian Style Instant Coffee

ASDA Extra Special Colombian Instant Coffee

Costa Instant Coffee Smooth Medium Roast

Eraill

Asda Instant Hot Chocolate

Just Essentials by ASDA instant hot chocolate

Cyngor wrth Brynu

Defnyddiwch wefan gymharu cynaliadwyedd

Mae LeafScore yn darparu argymhellion ac arweiniad ar gyfer dewis cynhyrchion cynaliadwy. Wrth brynu, gwiriwch ganllawiau cynaliadwyedd, gwnewch ymchwil ar y cynnyrch, darllenwch adolygiadau a sicrhewch y bydd yn bodloni'ch gofynion er mwyn osgoi prynu ’ n ddiangen neu ’ n anaddas. Chwiliwch am gynhyrchion sydd ag ardystiadau gan gyrff dyfarnu cynaliadwyedd cydnabyddedig sydd ag enw da Mae'r rhain yn helpu i ddangos pan fo cwmnïau'n gwneud ymdrech i wella eu llinell gynhyrchu, cynhwysion, pecynnu a chludiant

Byddwch yn ymwybodol o gwmnïau sy ’ n defnyddio termau fel ‘ eco ’ , a ‘gwyrdd’ ond heb wybodaeth sylweddol i gefnogi’u honiadau. Gall cwmnïau ddefnyddio'r geiriau awgrymog hyn yn gyfreithlon wrth hysbysebu heb orfod gwneud unrhyw newidiadau i'w cynhyrchion Dyma enghraifft o wyrdd galchu ac mae ’ n annog pobl i brynu cynnyrch dan yr argraff anghywir eu bod yn prynu eitem gynaliadwy

Ymchwiliwch i gwmnïau a cheisiwch edrych du hwnt i’r ymdrechion marchnata cychwynnol i weld a yw ’ r cynnyrch yn wirioneddol gynaliadwy.

Ystyriwch a yw prynu fersiwn ailddefnyddiadwy o ' r cynnyrch yn opsiwn priodol Er y gall fod gan gynhyrchion y ailddefnyddiadwy gost uwch ar y pryd, fel arfer mae ganddynt gost gyffredinol is nac ail brynu eitemau untro yn barhaus

Defnyddiwch yr hyn sydd gennych yn barod. Gwiriwch a ydych yn berchen ar rywbeth y gellir ei ailddefnyddio neu roi ail bwrpas iddo. Nid yn unig yw hyn yn arbed arian ond mae ' n osgoi defnydd diangen

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.