Course Reps Guide - Cymraeg

Page 1

1
Gynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau i
2023-24
2
Cyflwyniad...........................................................................................................................................4 Beth yw Undeb Bangor? ..................................................................................................................5 Beth yw Cynrychiolydd Cwrs? ……………………………………………………………..… 6 Pam fod gennym ni gynrychiolwyr cwrs? …………………………………….....…6 Llwyddiannau …………………………………………………………………………… 6 Y Strwythur Cynrychiolwyr Cwrs ……………………………………………………….…….. 7 Pa swyddi sydd ar gael? …………………………………………………..………… 7 Uwch Gynrychiolwyr ……………………………………………………………………….….. 11 Bwrsariaeth Cynrychiolwyr Cwrs …………………………………………………… 11 Cabinet Cynrychiolwyr Cwrs ……………………………………………………....…12 Beth sy'n rhaid imi ei wneud? ……………………………………………………………..… 13 Hyfforddiant ……………………………………………………………………………..………. 13 Hyrwyddo’ch hun i fyfyrwyr ……………………………………………………………..…… 15 Cyhoeddiadau mewn darlithoedd ……………………..…………………………. 15 Gwefan Undeb Bangor ………….........……………………………………………... 15 Ffyrdd o gasglu adborth ……………………………………………………………………….16 Adborth gyda Chynrychiolydd Digidol …………………………………………… 16 Siarad â Myfyrwyr ………………………………………………………………...…… 16 Arolygon ……………………………………………………………………………....… 16 Blychau Sylwadau ………………………………………………………………..…… 16 Trefnu Digwyddiad ……………………………………………………………………. 16 Cyfryngau Cymdeithasol ………………………………………………………….… 17 Beth ddylwn i ofyn i fyfyrwyr? ……………………………………………………………….. 18 Cyfarfodydd Pwyllgor Staff-Myfyrwyr …………………………………….…………………19 Paratoi at gyfarfodydd pwyllgorau staff-myfyrwyr ………………………………. 19 Cyflwyno Adborth mewn cyfarfod pwyllgor staff-myfyrwyr …………………… 19 Cau’r Ddolen Adborth ………………………………………………………..………………… 21 Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs ……………………………………………………….……….. 22
TABL CYNNWYS
3 Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs Cymraeg …………………………………………………… 23 Cymerwch Ran ………………………………………......……………………………………… 24 Grant Cynrychiolwyr Cwrs …………………………………………………………….………. 26 Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ……………………………..………………….. 27 Materion Personol ……………………………………………………………………………… 28 Cyngor Academaidd …………………………………………………………………………. 29 Oes gennych chi ddiddordeb? ………………………..……………………………………. 30

CYFLWYNIAD

Ni yw Nida a Celt a ni yw eich Is-lywydd Addysg a Llywydd UMCB yn Undeb Bangor. Fel cynrychiolwyr cwrs newydd neu rai sy’n dychwelyd, hoffem ddiolch i chi am eich ymrwymiad i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ac at glywed eich syniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Gyda’n gilydd, gobeithiwn y gallwn barhau i wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer pob myfyriwr a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

Rydym wedi paratoi'r llawlyfr hwn i roi mwy o wybodaeth ichi am y drefn Cynrychiolwyr Cwrs eleni ac i nodi rhai o'r dyddiadau allweddol. Mae croeso i chi gysylltu â ni, ond fel arall, edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd yn y cyfarfod nesaf.

Cysylltiadau

Is-lywydd Addysg

nida.ambreen@undebbangor.com

Llwydd UMCB

celt.john@undebbangor.com

Cydlynydd Cynrychiolaeth

niamh.ferron@undebbangor.com

4
Nida Ambreen Celt John Niamh Ferron

BETH YW UNDEB BANGOR?

Undeb Bangor yw eich Undeb Myfyrwyr. Ein pwrpas yw cynrychioli, grymuso a chefnogi myfyrwyr, a gwneud yn siŵr bod eich profiad fel myfyriwr cystal ag y gall fod.

Rydym yn cael ein harwain gan dîm o Swyddogion Sabothol ymroddedig, sydd wedi’u hethol gennych chi, y myfyrwyr. Byddant yn gweithio ar ymgyrchoedd ac yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a bod y math o weithgareddau sydd eu hangen yn cael eu datblygu.

Rydym yn rhedeg y clybiau chwaraeon, cymdeithasau, projectau gwirfoddoli, UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), y cynrychiolwyr cwrs a chyngor y myfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyngor academaidd cyfrinachol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud, ewch i'n gwefan www.undebbangor.com

Gallwch ddod o hyd i ni yn Pontio ar y 4ydd Llawr.

5

BETH YW CYNRYCHIOLYDD CWRS?

Fel cynrychiolydd cwrs, byddwch yn un o oddeutu 300 o wirfoddolwyr sy'n gweithio i gynrychioli myfyrwyr ar faterion academaidd. Byddwch yn gwrando ar safbwyntiau myfyrwyr ac yn gweithio'n agos gydag aelodau staff yn eich ysgol, yr Is-lywydd Addysg, Llywydd UMCB os dewch yn gynrychiolydd cyfrwng Cymraeg, ac Undeb Bangor, i roi newidiadau cadarnhaol ar waith ac i sicrhau bod myfyrwyr bob amser yn gallu dweud eu dweud am eu profiad academaidd.

Pam fod gennym ni gynrychiolwyr cwrs?

Mae cynrychiolwyr cwrs yn creu cyswllt hanfodol rhwng y myfyrwyr, y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr. Maent yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mynegi eu barn yn uniongyrchol am eu profiad academaidd a sicrhau newidiadau cadarnhaol i'w cyrsiau. Mae strwythur y cynrychiolwyr cwrs yn galluogi ysgolion, colegau, a'r brifysgol i nodi unrhyw faterion sy’n codi ac ymateb yn gyflym.

Llwyddiannau

Mae cynrychiolwyr cwrs yn gyson gyfrifol am sicrhau newidiadau cadarnhaol yn eu cyrsiau. Yn y gorffennol, mae cynrychiolwyr wedi pwyso am fodiwlau dewisol a theithiau tramor, yn ogystal â bod yn allweddol wrth greu Polisi Panopto, gan sicrhau bod darlithoedd yn cael eu recordio. Mae cynrychiolwyr cwrs hefyd wedi cynnal digwyddiadau i gyd-fyfyrwyr ac wedi helpu i greu ymdeimlad o gymuned yn eu cyrsiau.

Mae rhai llwyddiannau eraill yn cynnwys:

• Dawnsfeydd Nadolig

• Ystafelloedd Cyffredin

• Nosweithiau 'caws a chwyn'

6

Y STRWYTHUR CYNRYCHIOLWYR CWRS

Mae’r strwythur cynrychiolwyr cwrs wedi'i drefnu er mwyn sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â'n cynrychiolwyr rhaglenni arferol, ein bod wedi cyflwyno cynrychiolwyr mewn meysydd lle adroddodd myfyrwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli. Edrychwch ar y disgrifiadau swydd isod am ragor o wybodaeth.

Gallwch ddewis hyd at ddwy o'r swyddi isod, un fel prif swydd (ar lefel cwrs) ac un fel is-swydd (ar lefel ysgol). Mae'n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn gyffredinol yn ymwybodol o ba swyddi rydych chi'n eu gwneud, a'r hyn y gallant ddod atoch chi yn ei gylch. Gwelwch dudalen 14 am syniadau ynghylch sut y gallwch hyrwyddo eich hun i fyfyrwyr eraill. Mae hefyd yn bwysig, tra byddwch yn hyrwyddo eich hun i fyfyrwyr eraill, eich bod yn dod i adnabod y cynrychiolwyr cwrs eraill hefyd fel y gallwch weithio gyda'ch gilydd pan fydd materion yn codi.

Pa swyddi sydd ar gael?

Prif Swyddi

Cynrychiolwyr Myfyrwyr Israddedig

Mae yna Gynrychiolwyr Myfyrwyr Israddedig ar gyfer pob cam astudio, sy'n gyfrifol am gynrychioli myfyrwyr ar eu cwrs gyda materion academaidd ac unrhyw rwystrau y gallent ddod ar eu traws.

Cynrychiolydd Myfyrwyr Ôl-radd Hyfforddedig

7

Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr Ôl-radd Hyfforddedig yn cynrychioli’r myfyrwyr ar eu cwrs gyda materion academaidd ac unrhyw rwystrau y gallent ddod ar eu traws yn ystod eu hastudiaethau.

Cynrychiolydd Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd

Mae'n rhaid i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd wneud pethau ychydig yn wahanol gan nad oes ganddynt garfan glir o fyfyrwyr fel cyrsiau eraill. Maent yn cynrychioli myfyrwyr eraill ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ac unrhyw faterion academaidd y gallent ddod ar eu traws.

Cynrychiolydd Myfyrwyr Cydanrhydedd

Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr Cydanrhydedd yn cynrychioli unrhyw fyfyrwyr sy’n gwneud gradd gydanrhydedd ac unrhyw faterion y gallent ddod ar eu traws wrth astudio ar draws mwy nag un ysgol.

Is-swyddi

Cynrychiolydd Myfyrwyr Cyfrwng Cymraeg

Mae ein cynrychiolwyr cwrs cyfrwng Cymraeg yn gweithio gyda myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn hyrwyddo hawliau ieithyddol ac yn cynnig gwybodaeth am gyfleoedd ac adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys y Dystysgrif Sgiliau Cymraeg, bwrsariaethau, a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymru.

Cynrychiolydd Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae cynrychiolwyr Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynrychioli myfyrwyr rhyngwladol ar faterion academaidd, gan gynnwys materion sy'n effeithio'n anghymesur ar fyfyrwyr rhyngwladol. Maent yn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol trwy eu tywys at gyfleoedd, gweithgareddau ac adnoddau, megis y rhai sydd ar gael trwy'r Ganolfan Addysg Ryngwladol.

Cynrychiolydd Myfyrwyr Cydanrhydedd

Mae cynrychiolwyr Cydanrhydedd yn ymdrin ag unrhyw faterion sydd a wnelo â chyrsiau cydanrhydedd, megis gwrthdaro yn yr amserlen neu rhwng arholiadau, neu anawsterau eraill sy'n codi o fod yn fyfyriwr mewn dwy ysgol. Argymhellwn fod y cynrychiolwyr hyn yn derbyn gwahoddiad i gyfarfodydd y pwyllgorau staff myfyrwyr yn eu dwy ysgol.

8

Cynrychiolydd Myfyrwyr Anabl

Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr Anabl yn cynrychioli'r holl fyfyrwyr sy'n nodi eu bod yn anabl (gan gynnwys rhai â namau corfforol a synhwyraidd a chyflyrau iechyd parhaus, ond heb fod yn gyfyngedig i'r myfyrwyr hyn). Byddant yn cyfathrebu â myfyrwyr anabl ar eu cyrsiau i nodi unrhyw bryderon sydd ganddynt ac yn rhoi gwybod i staff amdanynt er mwyn sicrhau bod unrhyw rwystrau dysgu yn cael eu dileu. Byddant hefyd yn cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau ac adnoddau cefnogi perthnasol, megis y Gwasanaethau Anabledd.

Cynrychiolwyr LHDTC+

Mae cynrychiolwyr LHDTC+ yn cynrychioli ac yn gwrando ar fyfyrwyr sy’n uniaethu fel LHDTC+ (Lesbiad, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Cwiar/Cwestiynu) i nodi materion academaidd a rhwystrau sy’n benodol i’r myfyrwyr hyn. Byddant hefyd yn gweithio i wella pa mor gynhwysol yw’r cwricwlwm mewn perthynas â materion rhywioldeb a rhywedd, bod yn bwynt cyswllt i fyfyrwyr LHDTC+, a chyfeirio myfyrwyr LHDTC+ at adnoddau perthnasol.

Cynrychiolydd Rhieni a Gofalwyr

Mae Cynrychiolwyr Rhieni a Gofalwyr yn cynrychioli pob myfyriwr sy’n rhieni neu ofalwyr, gan eu cynrychioli ar faterion academaidd a’u cyfeirio at wasanaethau prifysgol pan fo angen.

Cynrychiolydd Myfyrwyr o Leiafrifoedd

Ethnig

Mae'r Cynrychiolwyr Myfyrwyr o Leiafrifoedd Ethnig yn cynrychioli unrhyw fyfyriwr sy'n ystyried ei hun yn perthyn i leiafrif ethnig. Maent yn gyfrifol am gyfathrebu â myfyrwyr, nodi unrhyw faterion a all godi a'u cyfeirio at wasanaethau'r brifysgol pan fo angen.

Cynrychiolydd Myfyrwyr Niwrowahanol

Mae’r Cynrychiolwyr Myfyrwyr Niwrowahanol yn cynrychioli’r holl fyfyrwyr sy’n nodi eu bod yn niwrowahanol, gan gyfathrebu â myfyrwyr i nodi materion a rhwystrau y gallent eu hwynebu yn ystod eu hastudiaethau yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau prifysgol pan fo angen.

Cynrychiolydd Myfyrwyr Traws, Dirywedd ac Anneuaidd

Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr Traws, Dirywedd ac Anneuaidd yn gwrando ar fyfyrwyr sy'n nodi eu bod yn draws, yn ddirywedd ac yn anneuaidd, ac yn cynrychioli, i nodi materion academaidd a rhwystrau sy'n benodol i'r myfyrwyr hyn. Byddant hefyd yn gweithio i wella pa mor gynhwysol yw’r cwricwlwm mewn perthynas â materion

9

rhywioldeb a rhywedd, bod yn bwynt cyswllt i fyfyrwyr traws, dirywedd ac anneuaidd, a’u cyfeirio at adnoddau perthnasol.

Cynrychiolydd Merched

Mae'r Cynrychiolwyr Merched yn cynrychioli’r myfyrwyr benywaidd, gan gyfathrebu

â nhw i nodi unrhyw faterion academaidd a rhwystrau sy'n benodol i'r myfyrwyr hyn. Byddant yn gweithio i wella cynwysoldeb, bod yn bwynt cyswllt i fyfyrwyr a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau perthnasol pan fo angen.

Cynrychiolydd myfyrwyr hŷn

Mae’r cynrychiolwyr myfyrwyr hŷn yn cynrychioli unrhyw fyfyrwyr hŷn o fewn eu carfan ac maen nhw’n gyfrifol am adnabod unrhyw broblemau sy’n codi a’u cyfeirio at wasanaethau’r brifysgol pan fo angen.

10

UWCH GYNRYCHIOLWYR

Etholir un Uwch Gynrychiolydd fesul maes pwnc, gydag etholiadau’n agor ar ôl y sesiwn hyfforddi olaf ar 18 Hydref 2023.

Mae gan Uwch Gynrychiolwyr gyfrifoldebau ychwanegol, gan gynnwys cydgadeirio cyfarfodydd pwyllgorau staff-myfyrwyr, a chynnal gweithgareddau a sesiynau ennyn diddordeb gyda myfyrwyr a chynrychiolwyr eraill. Maent hefyd yn derbyn cefnogaeth un i un gan y Tîm Llais Myfyrwyr i’w cynorthwyo gyda’u gwaith.

Wrth gwblhau'r tasgau ychwanegol hyn, mae Uwch Gynrychiolwyr yn gymwys i gael bwrsariaeth o £300.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, ewch i https://www.undebbangor.com/becoming-a-senior-course-rep

Bwrsariaeth Cynrychiolydd Cwrs

Mae’r bwrsariaeth o £300 sydd ar gael yn cael ei rannu’n 2, £150 bob tymor ac i gael gafael ar yr arian, disgwylir i chi gyflwyno adroddiad (naill ai’n ysgrifenedig neu ar fideo) yn manylu ar yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni yn ystod pob tymor.

Drwy gydol Tymor 1, disgwylir i chi gwblhau’r canlynol:

• Bod yn bresennol yn holl gyfarfodydd Pwyllgor Staff-Myfyrwyr eu hysgolion bob tymor a’u cyd-gadeirio.

• Cynnal un grŵp ffocws y tymor gyda myfyrwyr o'u hysgol. Cyllid ychwanegol ar gael i gynnal sesiynau ffocws. Anogir creadigrwydd! Gellid ei ddatblygu yn ddigwyddiad cymdeithasol i fyfyrwyr gydag elfen o fewnwelediad.

• Bod yn bresennol mewn cyfarfod dal i fyny gyda’r tîm llais myfyrwyr ddwywaith y tymor i drafod unrhyw themâu sy'n codi o ymwneud â myfyrwyr.

• Briffio diwedd tymor cyntaf.

• Gweithio gyda'r Is-Lywydd Addysg pan fo angen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad Tymor 1 yw 22 Ionawr 2024

Drwy gydol Tymor 2, disgwylir i chi gwblhau’r canlynol:

• Bod yn bresennol yn holl gyfarfodydd y Pwyllgor Staff-Myfyrwyr bob tymor a’u cyd-gadeirio.

• Cynnal un grŵp ffocws/gweithgaredd ymgysylltu gyda chynrychiolwyr eu hysgol. Gellid ei ddatblygu yn ddigwyddiad cymdeithasol i fyfyrwyr gydag elfen o fewnwelediad.

• Eistedd ar banel i benderfynu ar enillwyr Gwobrau’r Cynrychiolwyr Cwrs / Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr.

11

• Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd dal i fyny gyda’r tîm llais myfyrwyr

ddwywaith y tymor.

• Briffio diwedd tymor cyntaf (uchafbwyntiau a heriau)

• Gweithio gyda'r Is-Lywydd Addysg pan fo angen.

Y dyddiad cau i gyflwyno adroddiad Tymor 2 yw 10 Mehefin 2024.

Gallwch gyflwyno'ch adroddiad trwy lenwi'r ffurflen yma.

Cabinet y Cynrychiolwyr Cwrs

Mae'r uwch gynrychiolwyr hefyd yn ffurfio Cabinet y Cynrychiolwyr Cwrs ac yn gweithio gyda'r Is-lywydd Addysg ar brojectau ac ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn. Mae ganddynt hefyd gynrychiolydd ar Gyngor y Myfyrwyr, i sicrhau bod buddiannau academaidd myfyrwyr yn cael eu cynrychioli wrth wneud penderfyniadau.

12

BETH SY’N RHAID I MI EI WNEUD?

Fel cynrychiolydd cwrs, disgwylir i chi:

• Mynd i hyfforddiant i ddeall yn well y swydd i adeiladu ar sgiliau sydd eu hangen i fod yn gynrychiolydd

• Hyrwyddo eich swydd fel cynrychiolydd cwrs i fyfyrwyr ar eich cwrs

• Casglu adborth (cadarnhaol a negyddol)

• Mynd i gyfarfodydd y Pwyllgor Staff-Myfyrwyr a Chyngor y Cynrychiolwyr Cwrs a chynrychioli barn myfyrwyr

• Diweddaru myfyrwyr ar ddeilliannau cyfarfodydd

• Gweithio gydag UM i ddwyn materion at ein sylw

Peidiwch â phoeni os yw hyn yn swnio ychydig yn frawychus - rydym yma i'ch cefnogi. Gallwn ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon, eich helpu i ennyn diddordeb myfyrwyr a’ch helpu i godi mater os nad ydych yn siŵr sut i wneud.

13

HYFFORDDIANT

Byddwch chi’n mynychu sesiwn hyfforddiant gyda’r cynrychiolwyr cwrs eraill sydd wedi cofrestru yn eich ysgol.

Prynhawn i chi gael ennyn gwell dealltwriaeth o’ch rôl fel cynrychiolydd cwrs, dod i adnabod eich gilydd, a helpu i greu cymuned yn eich ysgol ydyw. Bydd yn cynnwys cyflwyniadau gan staff a hyfforddwyr Undeb Bangor, sesiynau chwarae rhan ac ymarferion gwaith tîm.

Hwn fydd eich cyfle i ddysgu mwy am rôl yr Uwch Gynrychiolydd Cwrs, pe byddech chi’n awyddus i roi eich enw ymlaen neu ddod i adnabod y rheiny a all fod â diddordeb yn y rôl.

Pan fyddwch chi’n cofrestru i fod yn Gynrychiolydd Cwrs, byddwch hefyd yn derbyn ychydig o waith darllen i’w wneud cyn yr hyfforddiant fydd yn eich helpu’n fawr yn ystod y sesiynau.

Os na fyddwch chi’n medru dod i’r sesiwn hyfforddiant ar gyfer eich ysgol chi, anfonwch e-bost at coursereps@undebbangor.com ac fe welwn ni beth allwn ei wneud!

14

HYRWYDDO’CH HUN I FYFYRWYR

Y cam cyntaf i gasglu adborth yw gadael i fyfyrwyr wybod amdanoch. Dyma rai syniadau:

• Cyflwynwch eich hun yn eich grŵp sgwrs cwrs ar WhatsApp neu ar eich grŵp Facebook. Os nad oes gennych chi grwpiau o’r fath, beth am greu un?

• Gofynnwch i staff roi eich enw, eich teitl fel cynrychiolydd cwrs a’ch manylion cyswllt ar Blackboard ynghyd â rhestr o’r materion y gallant eu trafod â chi.

• Defnyddiwch y pecyn adnoddau a phrintiwch rai posteri i gynnwys eich manylion cyswllt a'r hyn y gall myfyrwyr siarad â chi amdano. Gofynnwch i'r staff a allwch roi copïau ar hysbysfyrddau'r Ysgol ac mewn ystafelloedd cyffredin.

• Ymunwch â Rhwydwaith Myfyrwyr perthnasol. Mae 12 rhwydwaith y gallwch gymryd rhan ynddynt, a all helpu i ddod o hyd i gymuned o fyfyrwyr

• Os ydych chi'n Gynrychiolydd Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd, byddwch yn ymwybodol na fydd gennych chi garfan yn yr un ffordd ag sydd gan fyfyrwyr eraill. Yn ogystal ag ymuno â rhwydwaith Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd mae pethau eraill i gymryd rhan ynddynt fel PGTea

Cyhoeddiadau mewn darlithoedd

Gofynnwch i'ch darlithwyr a allwch chi gael 5 munud ar ddechrau neu ddiwedd darlith i gyflwyno'ch hun. Rhowch wybod i'r dosbarth sut i gysylltu â chi, eglurwch eich rôl a'r math o bethau y gallant eu trafod gyda chi.

Os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad o flaen cynulleidfa, gallech baratoi sleid PowerPoint a gofyn i ddarlithwyr ei chynnwys yn eu cyflwyniad.

Gwefan Undeb Bangor

Mae gennym adran benodol o'n gwefan ar gyfer cynrychiolwyr cwrs, gan gynnwys adnodd defnyddiol 'Dod o hyd i’ch Cynrychiolydd' fel y gall myfyrwyr chwilio am eu cynrychiolydd cwrs. Gwnewch yn siŵr eich bod yn uwchlwytho llun i'ch cyfrif, ac fe wnawn ni'r gweddill.

15

FFYRDD O GASGLU ADBORTH

Mae’r uchod yn rhai ffyrdd o gasglu adborth. Ond os ydych chi’n cael trafferth ennyn diddordeb myfyrwyr, cysylltwch â ni a gallwn eich helpu.

Adborth gyda Chynrychiolydd Digidol

Gall unrhyw fyfyriwr anfon adborth yn uniongyrchol at eu cynrychiolwyr cwrs trwy wefan Undeb Bangor.

Bydd y cynrychiolwyr cwrs yn derbyn e-bost, a gallant gynnig sylwadau ac ymateb.

Gall unrhyw fyfyriwr weld yr adborth a gyflwynwyd ar gyfer eu hysgol.

Gall cynrychiolwyr cwrs lunio a lawrlwytho adroddiadau i fynd i'w cyfarfodydd.

Siarad â Myfyrwyr

Y ffordd fwyaf effeithiol o gael adborth gan fyfyrwyr yw siarad â nhw'n uniongyrchol.

Gall hyn amrywio o sgwrs anffurfiol gyda chwpl o fyfyrwyr pan fyddwch yn aros i ddarlith ddechrau, neu gyfarfod wedi'i drefnu i gasglu adborth ar bynciau penodol. Cofiwch y gallwch gynnal cyfarfodydd ar-lein hefyd gan ddefnyddio Zoom neu Microsoft Teams.

Arolygon

Gall arolygon fod yn ffordd wych o gael ymateb i gwestiwn penodol, neu i gasglu data i gefnogi'ch achos mewn cyfarfodydd pwyllgor staff-myfyrwyr. Mae Microsoft Forms a Google Forms yn caniatáu ymateb yn ddienw.

Mae'n syniad da peidio ag anfon gormod o arolygon - mae myfyrwyr yn derbyn nifer o arolygon o wahanol gyfeiriadau ac efallai y byddant yn rhoi'r gorau i ymateb os byddwch yn anfon gormod ohonynt.

Blwch Sylwadau

Gallwch drefnu gyda chynrychiolwyr eraill yn eich ysgol i osod blwch sylwadau mewn ystafell gyffredin neu ofyn i staff a oes rhywle yn eich ysgol lle gallech osod un. Cofiwch wirio'r blwch yn rheolaidd.

16

Trefnu Digwyddiad

Mae hon yn ffordd wych o ddod â'ch carfan ynghyd a gall hefyd fod yn gyfle i ofyn ychydig o gwestiynau neu roi diweddariad ar rywbeth yr ydych wedi bod yn gweithio arno.

Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi trefnu nosweithiau ffilm, lluniau dosbarth a Dawnsfeydd Nadolig. Gallwch fod mor greadigol ag y dymunwch. Os oes gennych syniad am ddigwyddiad a’ch bod eisiau cymorth i'w drefnu, e-bostiwch coursereps@undebbangor.com

Gallwch chi wneud y gorau o'r Grant Cynrychiolwyr Cwrs i'ch helpu gyda chostau.

Cyfryngau Cymdeithasol

Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd wych o ofyn cwestiynau i fyfyrwyr a chasglu adborth, ond cofiwch osod ffiniau. Rhowch wybod i fyfyrwyr pryd y gallant gysylltu â chi ac na fyddwch ar gael bob amser. Gall fod yn syniad rhoi’r grŵp neu’r sgwrs ar ‘mute’ pan fyddwch chi eisiau amser i chi’ch hun.

17

BETH DYLWN I EI OFYN I FYFYRWYR?

Gofynnwch gwestiynau penodol i gael adborth defnyddiol. Dyma rai enghreifftiau:

• Sut oedd y cyfnod cynefino i chi?

• Beth yw eich argraffiadau o ddysgu ar-lein/yn y cnawd?

• Ydych chi'n cael digon o adborth ac ydi o’n berthnasol?

• A oes digon o amser rhwng aseiniadau?

• Oes gennych chi'r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch chi?

• A oes digon o sesiynau ymarferol//gweithdai?

• A yw'r rhestrau darllen yn gyfredol ac yn berthnasol?

• A oes unrhyw broblemau gyda'ch amserlen?

• Ydych chi'n cael digon o gymorth gyda'ch lleoliadau?

• Ydy'ch holl ddarlithoedd yn cael eu recordio?

• A oes digon o gyfleoedd ar gyfer gwaith grŵp?

• Ydych chi’n cael digon o gyswllt â’ch tiwtor personol?

18

CYFARFODYDD PWYLLGORAU

STAFF-MYFYRWYR

Bob semester cynhelir dau gyfarfod Pwyllgor Staff-Myfyrwyr / Pwyllgor Cyswllt StaffMyfyrwyr yn eich ysgol. Dylai pob cynrychiolydd dderbyn gwahoddiad i gyfarfodydd pwyllgor staff-myfyrwyr eu hysgol. Y cyfarfodydd hyn yw eich cyfle i roi adborth eich myfyrwyr yn uniongyrchol i'r staff yn eich ysgol.

Paratoi at gyfarfodydd pwyllgorau staffmyfyrwyr

Rhowch wybod i fyfyrwyr bod cyfarfod yn mynd i gael ei gynnal. A oes unrhyw bynciau ar agenda'r cyfarfod y mae angen ichi gasglu adborth myfyrwyr yn eu cylch? Nodwch unrhyw faterion sydd angen eu codi a nodwch yr hyn rydych yn bwriadu ei ddweud.

Meddyliwch am ychydig o atebion posibl i unrhyw faterion. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr yn fwy tebygol o gael canlyniad y maent yn hapus ag ef.

Mae'n bwysig trafod unrhyw faterion y byddwch yn eu codi yn y Pwyllgor StaffMyfyrwyr gyda'ch cyd-gynrychiolwyr cwrs. Mae hyn yn osgoi ailadrodd ac yn golygu y gallwch gyflwyno achos cryfach trwy gyd-gyflwyno materion os ydych wedi wynebu'r un problemau.

Cofiwch roi adborth ar y pethau cadarnhaol hefyd a chynnig syniadau. Gallai’r rhain fod yn newidiadau i’r cwricwlwm, digwyddiad neu weithgaredd ac enghreifftiau o ymarfer addysgu da.

Cyflwyno Adborth mewn cyfarfod pwyllgor staff-myfyrwyr

Mae'n hanfodol eich bod yn sicrhau eich bod yn rhoi adborth yn effeithiol. Sicrhewch bob amser fod eich adborth:

• Yn gywir - a oes gennych y manylion cywir?

• Yn gytbwys - faint o fyfyrwyr sy'n rhannu'r farn hon? A oes mwy nag un safbwynt?

• Yn adeiladol - beth yn benodol sydd angen ei wella? Beth yw'r ateb yr hoffech ei weld?

• Yn gyffredinol yn hytrach na phersonol - peidiwch â defnyddio enwau na beirniadu aelodau staff unigol.

19

Ni ddylai nifer yr aelodau staff fyth fod yn fwy na nifer y myfyrwyr mewn cyfarfodydd pwyllgor staff-myfyrwyr. Dylai'r cyfarfodydd hyn fod yn fannau diogel i chi godi unrhyw faterion, pryderon neu syniadau. Os nad yw hynny’n wir, rhowch wybod i'r Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs.

20

CAU'R DDOLEN ADBORTH

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr am

ddeiliannau pwyllgorau staff-myfyrwyr a Chynghorau Cynrychiolwyr Cwrs. Gall hyn fod mor syml ag anfon neges ar sgwrs y cwrs neu gyswllt i gofnodion y cyfarfod. Mae myfyrwyr sy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf yn fwy tebygol o ymwneud â chi eto.

21
Y Dolen Adborth- 1. Casglu adborth 2. Paratoi adborth. 3. Cyflwyno adborth. 4. Rhoi adborth i fyfyrwyr. Yna mae'r cylch yn dechrau eto.

CYNGOR Y CYNRYCHIOLWYR CWRS

Cynhelir Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs unwaith y semester gan Undeb Bangor. Mae'r rhain yn sesiynau rhyngweithiol lle rhoddir y cyfle i gynrychiolwyr cwrs glywed newyddion Undeb Bangor, gwrando ar siaradwyr o bob rhan o'r Brifysgol ac adrodd am adborth ar nifer o bynciau gwahanol.

Mae cyfarfodydd y cyngor yn rhoi cyfle i chi weithio gyda chynrychiolwyr myfyrwyr eraill, gwrando ar faterion y mae myfyrwyr eraill yn dod ar eu traws, cynllunio digwyddiadau i adeiladu ymdeimlad o gymuned yn eich ysgolion, clywed am weithgareddau sydd i ddod y gallech fod am gymryd rhan ynddynt ac wrth gwrs, bydd bwyd yn cael ei ddarparu.

22

CYNGOR Y CYNRYCHIOLWYR CWRS

CYMRAEG

Cyngor ychwanegol a gynhelir unwaith y semester yw hwn ar gyfer ein Cynrychiolwyr Cwrs Cyfrwng Cymraeg, dan arweiniad Llywydd UMCB. Yn y sesiynau hyn, mae cynrychiolwyr yn trafod materion sy’n ymwneud â'r Gymraeg a'r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

celt.john@undebbangor.com

23

CYMERWCH RAN

Mae gennym nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Cadwch lygad ar eich e-byst ac ar ein gwefan am fanylion am ein holl ddigwyddiadau. Dyma restr o ddyddiadau allweddol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt fel Cynrychiolydd Cwrs:

Enw’r Digwyddiad Pryd? Lle? Ar gyfer pwy mae'r

Hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs

4 Hydref 2023 12:30-16:15

gweithdy?

Prif Adeilad y Celfyddydau Ar gyfer myfyrwyr yn y Coleg

Meddygaeth ac Iechyd

Disgrifiad

Hyfforddiant wyneb yn

wyneb i gwrdd â

chynrychiolwyr

cwrs eraill, cael gwell dealltwriaeth

o'r rôl a'r

cyfrifoldebau

Hyfforddiant

Cynrychiolwyr Cwrs

11 Hydref 2023 12:30-16:15

Prif Adeilad y Celfyddydau Ar gyfer myfyrwyr yng

Ngholeg y Gwyddorau a

Pheirianneg

Hyfforddiant

wyneb yn

wyneb i gwrdd â

chynrychiolwyr

cwrs eraill, cael gwell

dealltwriaeth

o'r rôl a'r

cyfrifoldebau

Hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs

18 Hydref 2023 12:30-16:15

Prif Adeilad y Celfyddydau Ar gyfer myfyrwyr yng

Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau

Cymdeithas

Hyfforddiant

wyneb yn

wyneb i gwrdd â

chynrychiolwyr

cwrs eraill, cael gwell

dealltwriaeth

o'r rôl a'r

cyfrifoldebau

Etholiadau Cynrychiolwyr Cwrs Uwch yn

Agor

18 Hydref 2023 Ar lein Cyfle i'r rhai sydd â

diddordeb

gynnig eu

hunain ar gyfer y rôl ac i

gynrychiolwyr

cwrs

24

bleidleisio am uwch gynrychiolydd eu hysgol.

Etholiadau Cynrychiolwyr

Cwrs Uwch yn Cau

Cyfarfod

Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs

Sesiynau Galwheibio Cynrychiolwyr

Cwrs

Cyfarfod Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs

Digwyddiad Diwedd Blwyddyn Cynrychiolwyr

Cwrs

Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

10 Tachwedd 2023 Ar lein

15 Tachwedd 2023 Ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs

6 Rhagfyr 2023 UM, Pontio Ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs

Cyfarfod i bob cynrychiolydd cwrs ddod at ei gilydd

Sesiynau galw heibio trwy gydol y dydd ar gyfer unrhyw adborth munud olaf cyn diwedd y tymor

28 Chwefror 2024 Ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs

24 Ebrill 2024 UM, Pontio Ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs

Cyfarfod i bob cynrychiolydd cwrs ddod at ei gilydd

Digwyddiad anffurfiol cyn diwedd y tymor

2 Mai 2024 Neuadd PJ Cynrychiolwyr Cwrs, Staff Noson i ddathlu llwyddiannau'r flwyddyn

25

GRANT CYNRYCHIOLWYR CWRS

Mae’r grant cynrychiolwyr cwrs ar gael i’ch helpu chi i gynnal digwyddiadau Cynrychiolwyr Cwrs er mwyn creu cymuned yn eich carfan, casglu adborth gan fyfyrwyr eraill am eu profiadau academaidd a dod i adnabod eich gilydd.

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y mae cynrychiolwyr cwrs wedi defnyddio’r grant ar ei gyfer yn y gorffennol:

· ‘Cheese and ‘Whine’

· Nosweithiau ffilm

· Pitsa a sgwrs

· Dawns Nadolig

Pe byddech chi’n hoffi gwneud y mwyaf o’r grant, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud ydi anfon e-bost at coursereps@undebbangor.com gyda chynllun o’ch digwyddiad a faint hoffech chi ymgeisio amdano, ac fe wnawn ni eich helpu chi gyda’r gweddill.

26

GWOBRAU DYSGU DAN ARWEINIAD

MYFYRWYR

Byddwn yn cynnal noson wobrwyo bob blwyddyn i ddathlu gwaith y cynrychiolwyr cwrs ac aelodau staff gorau. Mae 5 Gwobr Cynrychiolwyr Cwrs i’w hennill: Dewis y Myfyrwyr, Dewis Staff, Cynrychiolydd Cwrs Cyfrwng Cymraeg, Gwobr yr Is-lywydd Addysg, a Gwobr Cyrhaeddiad Eithriadol (gyda gwobr o £1000). Gwahoddir pob cynrychiolydd cwrs i ddod i'r noson wobrwyo hon, a bydd pob cynrychiolydd yn derbyn tystysgrif yn gydnabyddiaeth ffurfiol am y gwaith maent wedi'i wneud.

27

MATERION PERSONOL

Eich gwaith fel cynrychiolwyr cwrs yw ymdrin â materion academaidd a chynrychioli barn myfyrwyr. Nid oes raid i chi ymdrin â materion personol myfyrwyr, nac â phroblem academaidd unigol, megis paneli disgyblu neu gwynion personol. Serch hynny, fel wyneb cyfarwydd y mae myfyrwyr yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo, mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn dod atoch am gymorth.

Y peth gorau i'w wneud os bydd hyn yn digwydd yw gwrando ar y myfyriwr ac yna eu cyfeirio at y gwasanaeth cywir. Mae ystod eang o wasanaethau myfyrwyr ar gael yn y Brifysgol i gynghori myfyrwyr ar bopeth o dai at iechyd meddwl. Ewch i undebbangor.com/coursereps i lawrlwytho ein canllawiau cyfeirio.

Os nad ydych yn gwybod pwy all helpu, gofynnwch i'r myfyriwr gysylltu â ni yn studentvoice@undebbangor.com a gallwn eu cysylltu â'r gwasanaeth cywir.

28

CYNGOR ACADEMAIDD

Mae Undeb Bangor yn cynnig gwasanaeth cynghori academaidd proffesiynol a chyfrinachol i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Gallwn eich cynghori ynglŷn â'r gwahanol weithdrefnau, cynnig sylwadau ar eich apêl a chwynion a'ch helpu i baratoi ar gyfer gwrandawiadau disgyblu neu gyfarfodydd prifysgol. Gallwn hefyd fynd gyda chi neu ar eich rhan i wrandawiadau neu gyfarfodydd o’r fath. Byddwn yn eich helpu i gyflwyno’ch hun yn y ffordd orau bosib o ran eich 'achos' a sicrhau eich bod yn dilyn gweithdrefnau cywir y brifysgol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth eich hun, neu'n cyfeirio cydfyfyrwyr pan fo angen.

www.undebbangor.com/advice

http://www.undebbangor.com/academicadvice

29
Cydlynydd Projectau Lles a Chyngor Academaidd

OES GENNYCH CHI DDIDDORDEB?

Ewch i https://www.undebbangor.com/cy/coursereps

Cofrestrwch yma

30

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.