Course rep 2024/25 handbook CY

Page 1


Canllawiau Cynrychiolwyr

CYFLWYNIAD

Rose a Gwion ydan ni a ni yw’r Is-lywydd Addysg a Llywydd UMCB yn Undeb Bangor.

Fel cynrychiolwyr cwrs newydd neu rai sy’n dychwelyd, hoffem ddiolch i chi am eich ymrwymiad i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ac at glywed eich syniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Gyda’n gilydd, gobeithiwn y gallwn barhau i wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer pob myfyriwr a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

Rydym wedi paratoi'r llawlyfr hwn i roi mwy o wybodaeth ichi am y drefn Cynrychiolwyr Cwrs eleni ac i nodi rhai o'r dyddiadau allweddol. Mae croeso i chi gysylltu â ni, ond, fel arall, edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd yn y cyfarfod nesaf.

Cysylltiadau

Niamh Ferron

Cydlynydd Cynrychiolaeth niamh.ferron@undebbangor.com

Rose Pugh

Is-lywydd Addysg

Gwion Rowlands

Llywydd UMCB

BETH YW UNDEB BANGOR?

Undeb Bangor yw eich Undeb Myfyrwyr. Ein pwrpas yw cynrychioli, grymuso a chefnogi myfyrwyr a gwneud yn siŵr bod eich profiad fel myfyriwr cystal ag y gall fod.

Rydym yn cael ein harwain gan dîm o Swyddogion Sabothol ymroddedig, sydd wedi’u hethol gennych chi, y myfyrwyr. Byddant yn gweithio ar ymgyrchoedd ac yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a bod y math o weithgareddau sydd eu hangen yn cael eu datblygu.

Rydym yn rhedeg y clybiau chwaraeon, cymdeithasau, projectau gwirfoddoli, UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), y cynrychiolwyr cwrs a chyngor y myfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyngor academaidd cyfrinachol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud, ewch i'n gwefan www.undebbangor.com

Gallwch ddod o hyd i ni yn Pontio ar y 4ydd Llawr.

BETH YW CYNRYCHIOLYDD CWRS?

Fel cynrychiolydd myfyrwyr, byddwch yn un o oddeutu 300 o wirfoddolwyr sy'n gweithio i gynrychioli myfyrwyr ar faterion academaidd. Byddwch yn gwrando ar safbwyntiau myfyrwyr ac yn gweithio'n agos gydag aelodau staff yn eich ysgol, yr Is-lywydd Addysg, Llywydd UMCB os byddwch yn gynrychiolydd cyfrwng Cymraeg, ac Undeb Bangor, i roi newidiadau cadarnhaol ar waith ac i sicrhau bod myfyrwyr bob amser yn gallu dweud eu dweud am eu profiad academaidd.

Pam fo angen Cynrychiolwyr Cwrs?

Mae cynrychiolwyr cwrs yn creu cyswllt hanfodol rhwng y myfyrwyr, y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr. Maent yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mynegi eu barn yn uniongyrchol am eu profiad academaidd a sicrhau newidiadau cadarnhaol i'w cyrsiau. Mae strwythur y cynrychiolwyr cwrs yn galluogi i ysgolion, colegau, a'r brifysgol nodi unrhyw faterion sy’n codi ac ymateb yn gyflym.

Y STRWYTHUR CYNRYCHIOLWYR CWRS

Mae’r strwythur cynrychiolwyr cwrs wedi'i drefnu er mwyn sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed. Cymerwch olwg ar y disgrifiadau swydd isod am ragor o wybodaeth.

Mae'n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau a’r hyn y gallant ddod atoch yn ei gylch. Mae’n bwysig hefyd, tra eich bod yn hyrwyddo eich hun i fyfyrwyr eraill eich bod yn dod i nabod y cynrychiolwyr cwrs eraill hefyd er mwyn i chi allu cydweithio â nhw pan fydd materion yn codi.

Pa swyddi sydd ar gael?

Cynrychiolwyr Myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen

Mae'r Cynrychiolwyr Cwrs yma’n gyfrifol am gynrychioli'r myfyrwyr hynny sy'n dilyn blwyddyn sylfaen eu hastudiaethau ag unrhyw broblemau maen nhw’n eu hwynebu a wnelo â’u gwaith academaidd.

Cynrychiolwyr Myfyrwyr Israddedig

Mae yna Gynrychiolwyr Myfyrwyr Israddedig ar gyfer pob cam astudio, sy'n gyfrifol am gynrychioli myfyrwyr ar eu cwrs gyda materion academaidd ac unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu.

Cynrychiolwyr Myfyrwyr Ôl-radd Hyfforddedig

Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr Ôl-radd Hyfforddedig yn cynrychioli’r myfyrwyr hynny ar eu cyrsiau gyda phroblemau academaidd ac unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu yn ystod eu hastudiaethau.

Cynrychiolwyr Myfyrwyr Ôl-radd Ymchwil

Mae'n rhaid i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd wneud pethau ychydig yn wahanol gan nad oes ganddynt garfan glir o gyd-fyfyrwyr fel yn achos cyrsiau eraill. Bydd y cynrychiolwyr yn gweithio ar ran myfyrwyr eraill ar gyrsiau ymchwil ôl-radd gydag unrhyw broblemau academaidd y gallent eu hwynebu.

Cynrychiolwyr Myfyrwyr Cydanrhydedd

Bydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr Cydanrhydedd yn cynrychioli unrhyw fyfyrwyr sy’n gwneud gradd gydanrhydedd ag unrhyw broblemau y gallent eu hwynebu wrth astudio ar draws mwy nag un ysgol.

Cynrychiolwyr Myfyrwyr Cyfrwng Cymraeg

Bydd unrhyw fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy'n cofrestru i fod yn gynrychiolydd cwrs yn cael y dewis o fod yn Gynrychiolydd Cwrs Cyfrwng Cymraeg hefyd. Byddant yn gyfrifol am gynrychioli safbwyntiau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a thrafod pynciau sy'n ymwneud â’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor gyda Llywydd UMCB yn y cyngor.

Myfyriwr ar Leoliad

I fyfyrwyr sy'n cwblhau lleoliadau fel rhan o'u cymwysterau proffesiynol, deallwn y byddwch i ffwrdd o'r campws am rannau helaeth o'r flwyddyn rhwng cyfnodau astudio, a fydd yn ei gwneud hi’n anodd dod i gyfarfodydd a digwyddiadau Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor.

Mae'n dal yn bwysig iawn eich bod yn cofrestru i fod yn gynrychiolydd cwrs, yn cynrychioli safbwyntiau eich carfan ac yn dod i ddigwyddiadau pan fyddwch yn gallu gwneud hynny, ond nid ydym yn dymuno i chi deimlo dan bwysau os byddwch i ffwrdd ar leoliad. Yn dilyn adborth gan gynrychiolwyr cwrs blaenorol, rydym wedi cyflwyno ffurflen adborth sy'n golygu eich bod yn gallu cynnig adborth o bell, gan barhau i ddylanwadu a chael effaith ar eich ysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar dudalen 13

UWCH GYNRYCHIOLWYR

Mae un uwch gynrychiolydd i bob ysgol.

Mae gan Uwch Gynrychiolwyr gyfrifoldebau ychwanegol, gan gynnwys cyd-gadeirio cyfarfodydd pwyllgor staff-myfyrwyr, a chynnal gweithgareddau a sesiynau ymgysylltu gyda myfyrwyr a chynrychiolwyr eraill. Maent hefyd yn derbyn cefnogaeth un-i-un gan y Tîm Llais Myfyrwyr i’w cynorthwyo gyda’u gwaith.

Trwy gwblhau'r tasgau ychwanegol hyn, mae’r Uwch Gynrychiolwyr yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth o £300.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, ewch i https://www.undebbangor.com/becoming-a-senior-course-rep

Bwrsariaeth Cynrychiolwyr Uwch

Mae bwrsariaeth o £300 ar gael sy’n cael ei rannu’n 2, £150 bob tymor, ac i gael yr arian disgwylir i chi gyflwyno adroddiad (naill ai’n ysgrifenedig neu drwy fideo) yn manylu ar yr hyn rydych wedi’i gyflawni yn ystod pob tymor.

Yn ogystal â disgwyliadau arferol Cynrychiolwyr Cwrs (gan gynnwys ymgymryd â hyfforddiant, bod yn aelod o gynghorau cynrychiolwyr cwrs, casglu adborth myfyrwyr) bydd disgwyl i Uwch-gynrychiolwyr gwblhau’r gofynion bwrsariaeth canlynol (nodwch eu bod wedi’u rhannu dros y ddau semester):

• Mynychu Hyfforddiant Uwch-gynrychiolwyr yn Semester 1 a fydd hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar y cynnwys y bydd angen iddynt ei gyflwyno yn ystod Hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs.

• Diweddaru adran yr ysgol ar wefan Undeb Bangor. Byddwn yn mynd i’r afael â hyn yn ystod yr Hyfforddiant Uwch-gynrychiolwyr. Gallwch wedyn ddefnyddio'r adran hon i hysbysebu unrhyw ddigwyddiadau yr ydych yn eu cynnal, yn ogystal â rhoi gwybod i fyfyrwyr eraill y gallant ddefnyddio'r adran hon i gyflwyno adborth uniongyrchol i'w hysgol.

• Cyflwyno cynnwys gofynnol i'w hysgolion yn y Diwrnod Hyfforddi Cynrychiolwyr Cwrs perthnasol yn Semester 1.

• Mynychu a chyd-gadeirio cyfarfodydd pwyllgorau cyswllt staff-myfyrwyr eu hysgolion bob tymor.

• Cynnal un grŵp ffocws y tymor gyda myfyrwyr o'u hysgol. Cyllid ychwanegol ar gael i gynnal sesiynau ffocws. Anogir creadigrwydd! Gellid ei ddatblygu i fod yn ddigwyddiad cymdeithasol i fyfyrwyr gydag elfen o fewnwelediad.

• Mynychu a chadeirio’r drafodaeth gyda chynrychiolwyr eraill yn eich ysgol yng Nghyngor y Cynrychiolwyr Cwrs bob semester, a rhoi adborth i’r Tîm Llais.

• Eistedd ar y panel i benderfynu ar Arweinydd Myfyrwyr / enillwyr Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn Semester 2.

• Bod yn aelod o’r Tîm Uwch-gynrychiolwyr sy’n gweithio gyda'r Is-lywydd Addysg ar brojectau ac ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn.

• Bod yn gynrychiolydd ar Gyngor y Myfyrwyr ym mhob semester, i sicrhau bod buddiannau academaidd myfyrwyr yn cael eu cynrychioli wrth wneud penderfyniadau.

• Cynhyrchu adroddiad diwedd tymor, a'i gyflwyno erbyn y dyddiad cau a bennwyd gan y Tîm Llais Myfyrwyr.

• Cefnogi cynrychiolwyr cwrs eraill os oes ganddynt gwestiynau trwy gydol y flwyddyn, a chydlynu sesiynau dal i fyny pan fo angen.

DS – Er nad yw Uwch Gynrychiolwyr ‘yn gyfrifol’ am gynrychiolwyr cwrs eraill ac na ddylent geisio cyfarwyddo eu gwaith, byddant yn gyfrifol am gydlynu sesiynau dal i fyny â chynrychiolwyr cwrs eu hysgol, a rhoi adborth i’r tîm Llais Myfyrwyr/Is-lywydd Addysg ar unrhyw themâu sy’n dod i’r amlwg.

BETH SY’N RHAID I MI EI WNEUD?

Fel cynrychiolydd cwrs, disgwylir i chi:

• Mynd i hyfforddiant i ddeall yn well y swydd i adeiladu ar sgiliau sydd eu hangen i fod yn gynrychiolydd

• Hyrwyddo eich swydd fel cynrychiolydd cwrs i fyfyrwyr ar eich cwrs.

• Casglu adborth (cadarnhaol a negyddol)

• Mynd i gyfarfodydd y Pwyllgor Staff-Myfyrwyr a Chyngor y Cynrychiolwyr Cwrs a chynrychioli safbwyntiau myfyrwyr.

• Rhoi’r newyddion diweddaraf i fyfyrwyr am benderfyniadau cyfarfodydd.

• Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i ddod á materion at ein sylw.

Peidiwch â phoeni os yw hyn yn swnio ychydig yn frawychus - rydym yma i'ch cefnogi. Gallwn ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych, eich helpu i ennyn diddordeb myfyrwyr a’ch helpu i godi mater os nad ydych yn siŵr sut i wneud.

Cytundeb Swydd Cynrychiolwyr Cwrs

Pan fyddwch yn cofrestru i fod yn gynrychiolydd cwrs, gofynnir i chi gytuno/anghytuno i Gytundeb Swydd Cynrychiolwyr Cwrs. Mae copi ohono i’w weld isod:

Trwy gofrestru i fod yn Gynrychiolydd Cwrs, rydych chi'n cytuno i'r canlynol:

• Dilyn hyfforddiant i ddeall y swydd yn well a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fod yn gynrychiolydd.

• Hyrwyddo eich swydd fel cynrychiolydd cwrs i fyfyrwyr ar eich cwrs ac ar lefel ysgol os byddwch yn dewis swydd uwch.

• Casglu adborth (cadarnhaol a negyddol)

• Mynd i gyfarfodydd y Pwyllgor Staff-Myfyrwyr a Chyngor y Cynrychiolwyr Cwrs a chynrychioli safbwyntiau myfyrwyr.

• Rhoi’r newyddion diweddaraf i fyfyrwyr am benderfyniadau cyfarfodydd.

• Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i ddod á materion at ein sylw.

• Cytuno i ymddwyn yn unol â Siarter Myfyrwyr y Brifysgol.

Trwy gofrestru i fod yn Gynrychiolydd Cwrs, gellwch ddisgwyl y canlynol gan Undeb Bangor:

• Darperir hyfforddiant llawn i fod yn Gynrychiolydd Cwrs

• Hoffem annog cynrychiolwyr cwrs o gefndiroedd o bob math i gynrychioli corff amrywiol o fyfyrwyr. Rydym yn deall bod gan fyfyrwyr ymrwymiadau eraill a gwahanol amgylchiadau, felly rydym yma i'ch cefnogi i gymryd rhan ym mha bynnag ffordd y gallwn, boed hynny'n darparu dewisiadau ar-lein i gymryd rhan, neu'r dewis i ddod â'ch gofalwr, partner neu blant i sesiynau a digwyddiadau.

• Gellir defnyddio’r grant cynrychiolwyr cwrs i’ch helpu i drefnu digwyddiadau i hyrwyddo eich swydd fel cynrychiolydd cwrs, casglu adborth gan gyd-fyfyrwyr a hefyd helpu i feithrin cymuned yn eich ysgolion.

• Mae gennym hefyd aelod staff ymroddedig i gefnogi cynrychiolwyr cwrs, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn wynebu sefyllfa nad ydych yn gwybod

sut i ymdrin â hi, neu os ydych yn cael trafferth gyda'r gwaith, gallwch ddod i siarad â ni a byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ateb.

• Fe'ch gwahoddir i ddod i’r seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn i ddathlu gwaith y Cynrychiolwyr Cwrs, lle dyfernir Gwobr am Lwyddiant Eithriadol ynghyd á gwobr ariannol o £1000.

HYFFORDDIANT

Byddwch yn mynd i sesiwn hyfforddi gyda'r cynrychiolwyr cwrs eraill sydd wedi cofrestru o'ch ysgol.

Mae’n brynhawn o ddysgu a deall mwy am swydd y cynrychiolydd cwrs, dod i nabod eich gilydd, a helpu i feithrin cymuned yn eich ysgol. Bydd yn cynnwys cyflwyniadau gan staff a hyfforddwyr Undeb Bangor, sesiynau chwarae rôl ac ymarferion adeiladu tîm.

Bydd hefyd yn gyfle i chi ddysgu mwy am swydd yr Uwch Gynrychiolydd Cwrs, p'un ai yr hoffech gynnig eich hun neu eich bod yn nabod rhywun a allai fod â diddordeb.

Pan fyddwch yn cofrestru i fod yn Gynrychiolydd Cwrs, byddwch hefyd yn derbyn rhywfaint o waith darllen i'w wneud cyn yr hyfforddiant a fydd o gymorth mawr i chi yn ystod y sesiynau.

Os nad ydych yn gallu dod ar y dyddiad penodedig ar gyfer sesiwn hyfforddi eich ysgol, anfonwch e-bost at coursereps@undebbangor.com ac fe wnawn ni geisio trefnu dyddiad arall i chi!

HYRWYDDO’CH HUN I FYFYRWYR

Y cam cyntaf i gasglu adborth yw gadael i fyfyrwyr wybod amdanoch. Dyma rai syniadau:

• Cyflwynwch eich hun yn eich grŵp sgwrs cwrs WhatsApp neu ar eich grŵp Facebook Os nad oes gennych chi grŵp o’r fath, beth am greu un?

• Gofynnwch i staff roi eich enw, eich teitl fel cynrychiolydd cwrs a’ch manylion cyswllt ar Blackboard ynghyd â rhestr o’r materion y gallant eu trafod â chi.

• Defnyddiwch y pecyn adnoddau a phrintiwch rai posteri i gynnwys eich manylion cyswllt a'r hyn y gall myfyrwyr ei drafod gyda chi. Gofynnwch i'r staff a allwch roi copïau ar hysbysfyrddau'r Ysgol ac mewn ystafelloedd cyffredin.

• Ymunwch â Rhwydwaith Myfyrwyr perthnasol. Mae 12 rhwydwaith y gallwch gymryd rhan ynddynt, a allai eich helpu i ddod o hyd i gymuned o fyfyrwyr.

• Os ydych chi'n Gynrychiolydd Myfyrwyr Ôl-radd Ymchwil, fe fyddwch yn ymwybodol na fydd gennych garfan yn yr un ffordd ag sydd gan fyfyrwyr eraill. Yn ogystal ag ymuno â’r rhwydwaith Myfyrwyr Ôl-radd Ymchwil mae digwyddiadau eraill i gymryd rhan ynddynt fel Paned Ôl-radd

Cyhoeddiadau mewn darlithoedd

Gofynnwch i'ch darlithwyr a allwch chi gael 5 munud ar ddechrau neu ddiwedd darlith i gyflwyno'ch hun. Rhowch wybod i'r dosbarth sut i gysylltu â chi, eglurwch eich rôl a'r math o bethau y gallant eu trafod gyda chi.

Os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad o flaen cynulleidfa, gallech baratoi sleid PowerPoint a gofyn i ddarlithwyr ei chynnwys yn eu cyflwyniad.

Gwefan Undeb Bangor

Mae gennym adran benodol o'n gwefan ar gyfer cynrychiolwyr cwrs, gan gynnwys adnodd defnyddiol 'Dod o hyd i’ch Cynrychiolydd' fel y gall myfyrwyr ddod o hyd i’w cynrychiolydd cwrs. Gwnewch yn siŵr eich bod yn uwchlwytho llun i'ch cyfrif, ac fe wnawn ni'r gweddill.

FFYRDD O GASGLU ADBORTH

Mae’r uchod yn rhai ffyrdd o gasglu adborth. Ond os ydych chi’n cael trafferth ennyn diddordeb myfyrwyr, cysylltwch â ni a gallwn eich helpu.

Ffurflen Adborth Cynrychiolwyr Cwrs

Rydym wedi paratoi ffurflen adborth ar gyfer pob ysgol gan ddefnyddio adborth gan Gynrychiolwyr Cwrs blaenorol.

Gall myfyrwyr gael mynediad at y ffurflen hon ar wefan Undeb Bangor a gwefan Blackboard eich ysgol.

Bydd gan yr Uwch Gynrychiolwyr, Staff Undeb Bangor a'r Cyfarwyddwr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr fynediad i’r ffurflen a gall borthi i drafodaethau cyfarfodydd.

Defnyddiwch y ffurflen i gyfrannu unrhyw adborth y byddwch yn ei dderbyn a hefyd anogwch bob myfyriwr i lenwi'r ffurflen hon pan fydd ganddynt sylwadau i’w gwneud.

Siarad â Myfyrwyr

Y ffordd fwyaf effeithiol o gael adborth gan fyfyrwyr yw siarad â nhw'n uniongyrchol. Gall hyn amrywio o sgwrs anffurfiol gyda chwpl o fyfyrwyr pan fyddwch yn aros i ddarlith ddechrau, neu gyfarfod wedi'i drefnu i gasglu adborth ar bynciau penodol. Cofiwch y gallwch gynnal cyfarfodydd ar-lein hefyd gan ddefnyddio Zoom neu Microsoft Teams.

Arolygon

Gall arolygon fod yn ffordd wych o gael ymateb i gwestiwn penodol, neu i gasglu data i gefnogi eich achos mewn cyfarfodydd pwyllgor staff-myfyrwyr. Mae ffurflenni Microsoft a ffurflenni Google yn caniatáu ymatebion dienw.

Mae'n syniad da peidio ag anfon gormod o arolygon - mae myfyrwyr yn derbyn nifer ohonynt o wahanol lefydd ac efallai y byddant yn rhoi'r gorau i ymateb os byddwch yn anfon gormod ohonynt.

Blychau Sylwadau

Gallwch drefnu gyda chynrychiolwyr eraill yn eich ysgol i osod blwch sylwadau mewn ystafell gyffredin neu ofyn i staff a oes rhywle yn eich ysgol lle gallech osod un. Cofiwch wirio'r blwch yn rheolaidd.

Trefnu Digwyddiad

Mae hon yn ffordd wych o ddod â'ch carfan ynghyd a gall hefyd fod yn gyfle i ofyn ychydig o gwestiynau neu gyhoeddi’r newyddion diweddaraf am rywbeth rydych wedi bod yn gweithio arno a helpu i feithrin cymuned yn y broses.

Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi trefnu nosweithiau ffilm, lluniau dosbarth a Dawnsfeydd Nadolig i enwi ychydig o enghreifftiau. Gellwch fod mor greadigol ag y dymunwch.

Gellwch wneud y gorau o'r Grant Cynrychiolwyr Cwrs i'ch helpu gyda chostau.

Cyfryngau Cymdeithasol

Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd wych o ofyn cwestiynau i fyfyrwyr a chasglu sylwadau, ond cofiwch osod ffiniau. Rhowch wybod i fyfyrwyr pryd y gallant gysylltu â chi ac na fyddwch ar gael drwy’r amser. Gall fod yn syniad rhoi’r grŵp neu’r sgwrs ar ‘mute’ pan fyddwch chi eisiau amser i chi’ch hun.

CYFARFODYDD PWYLLGORAU STAFF-

MYFYRWYR

Bydd eich ysgol yn eich gwahodd i gyfarfodydd SSLiC. Mae'n bwysig eich bod yn paratoi ar gyfer eich Cyfarfodydd SSLiC ac yn gwneud eich gorau i'w mynychu pan gewch wahoddiad.

Byddwn yn mynd drosodd mewn hyfforddiant sut i baratoi ar gyfer y SSLiCs, sut i gyflwyno adborth a hefyd beth i'w ddisgwyl o'r cyfarfodydd hyn.

CHYNGOR Y CYNRYCHIOLWYR CWRS

CYMRAEG

Cynhelir Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs unwaith y semester gan Undeb Bangor. Dyma ein cyfle i ddod at ein gilydd unwaith y semester, bydd Undeb Bangor yn adrodd am yr hyn rydym wedi bod yn gweithio arno ar sail eich adborth blaenorol a byddwn yn edrych ar bynciau sy'n effeithio ar gymuned ehangach y Brifysgol y gallwn barhau i weithio arnynt, ar eich rhan chi.

Mae'r rhain yn sesiynau rhyngweithiol lle rhoddir y cyfle i gynrychiolwyr cwrs glywed newyddion Undeb Bangor, gwrando ar siaradwyr o bob rhan o'r Brifysgol a chynnig adborth am nifer o wahanol bynciau.

Mae cyfarfodydd y cyngor yn rhoi cyfle i chi weithio gyda chynrychiolwyr myfyrwyr eraill, gwrando ar broblemau y mae myfyrwyr eraill yn eu hwynebu, cynllunio digwyddiadau i feithrin ymdeimlad o gymuned yn eich ysgolion a chlywed am weithgareddau sydd ar y gweill y gallech fod yn dymuno cymryd rhan ynddynt.

Bydd yr Is-lywydd Addysg a Llywydd UMCB yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn ac yn arwain y sgyrsiau gyda chi. Bydd Llywydd UMCB hefyd yn cynnal trafodaeth ar wahân gydag unrhyw gynrychiolwyr sydd wedi dewis bod yn Gynrychiolwyr Cwrs Cymraeg i drafod unrhyw bynciau sy’n benodol i’r iaith Gymraeg a’r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

CYMERWCH RAN

Mae gennym nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Cadwch lygad ar eich e-byst ac ar ein gwefan am fanylion am ein holl ddigwyddiadau. Dyma restr o ddyddiadau allweddol Undeb Bangor y dylech wybod amdanynt fel Cynrychiolydd Cwrs:

Sylwch y byddwch hefyd yn derbyn gwahoddiad i gyfarfodydd Pwyllgor Cyswllt Staff-Myfyrwyr eich ysgol a chyfarfodydd eraill y gallai'r Cyfarwyddwr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr a staff eraill y brifysgol deimlo y byddent yn elwa o gael cynrychiolaeth myfyrwyr ynddynt.

Enw’r Digwyddiad Pryd? Lle? Ar gyfer pwy? Disgrifiad

Hyfforddiant i Uwch

Gynrychiolwyr 3 Medi 2024 1-3pm Ystafell y Gofyniad, Undeb Bangor, 4ydd Llawr Pontio

Pob Uwch

Gynrychiolydd etholedig ar gyfer blwyddyn academaidd 24-25.

Hyfforddiant i ddeall rôl yr

Uwch

Gynrychiolydd yn well, cyfarfod â'r Islywydd Addysg a chlywed eu cynlluniau ar gyfer cabinet am y flwyddyn i ddod.

Hyfforddiant

Cynrychiolwyr Cwrs 2 Hydref 2024 10am-2pm Campws Wrecsam Ar gyfer pob Cynrychiolydd

Cwrs sy'n astudio yn Wrecsam

Hyfforddiant

Cynrychiolwyr

Cwrs

Hyfforddiant

Cynrychiolwyr

Cwrs

9 Hydref 2024 I'w gadarnhau

I fyfyrwyr yn y Coleg

Gwyddoniaeth a Pheirianneg a'r Coleg

Meddygaeth ac Iechyd

Hyfforddiant yn y cnawd i gwrdd â chynrychiolwyr

cwrs eraill a meithrin gwell dealltwriaeth o'r rôl a'r cyfrifoldebau

Hyfforddiant yn y cnawd i gwrdd â chynrychiolwyr cwrs eraill a meithrin gwell dealltwriaeth o'r rôl a'r cyfrifoldebau

16 Hydref 2024 I'w gadarnhau

I fyfyrwyr yng

Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas

Cyfarfod

Cyngor y 13 Tachwedd 2024 I'w gadarnhau

I Gynrychiolwyr Cwrs

Hyfforddiant yn y cnawd i gwrdd â chynrychiolwyr cwrs eraill a meithrin gwell dealltwriaeth o'r rôl a'r cyfrifoldebau

Cyfarfod i bob cynrychiolydd

Cynrychiolwyr Cwrs 1-4pm

Cyfarfod

Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs

26 Chwefror 2025 I'w gadarnhau

I Gynrychiolwyr Cwrs

cwrs ddod at ei gilydd, clywed yr hyn y mae

ysgolion eraill yn ei wneud, trafod adborth ac arferion

gorau a hefyd cael clywed am yr hyn

mae Undeb

Bangor yn gweithio arno.

Cyfarfod i bob cynrychiolydd cwrs ddod at ei gilydd, clywed yr hyn y mae

ysgolion eraill yn ei wneud, trafod adborth ac arferion

gorau a hefyd cael clywed am yr hyn

mae Undeb

Bangor yn gweithio arno.

Gwobrau

Dysgu dan Arweiniad

Myfyrwyr

I'w gadarnhau Mai 2025

Neuadd PJ Cynrychiolwyr Cwrs, Staff Noson i ddathlu llwyddiannau'r flwyddyn

Drwy gydol y flwyddyn, byddwn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Cyflogadwyedd a gynhaliodd weithdai fel ein ffordd o ddiolch i chi am eich gwaith fel cynrychiolwyr a’ch helpu i ddatblygu eich hunain ymhellach. Cysylltwch â ni ar coursereps@undebbangor.com os oes gennych unrhyw awgrymiadau am bynciau yr hoffech eu gweld yn cael eu trafod.

Sylwch y byddwn yn eich gwahodd i’n holl ddigwyddiadau trwy eich cyfeiriad e-bost Prifysgol a'ch calendr. Mae'n bwysig eich bod yn gwirio eich e-byst yn rheolaidd fel na fyddwch yn colli allan ar newyddion gennym.

Pan fyddwch yn derbyn gwahoddiad calendr, mae'n bwysig eich bod yn ymateb iddo, p'un a ydych yn gallu dod i’r digwyddiad ai peidio. Felly, bydd y trefnydd yn gwybod faint o bobl i'w disgwyl.

GWOBRAU DYSGU DAN ARWEINIAD

MYFYRWYR

Byddwn yn cynnal noson wobrwyo bob blwyddyn i ddathlu gwaith y cynrychiolwyr cwrs a’r aelodau staff gorau. Mae 5 Gwobr ar gael ym maes Arweinwyr Myfyrwyr: Dewis y Myfyrwyr, Dewis Staff, Cynrychiolydd Cwrs Cyfrwng Cymraeg, Gwobr yr Is-lywydd Addysg, a Gwobr Cyrhaeddiad Eithriadol (gyda gwobr ariannol o £1000). Gwahoddir pob cynrychiolydd cwrs i ddod i'r noson wobrwyo hon, a bydd pob cynrychiolydd yn derbyn tystysgrif yn gydnabyddiaeth ffurfiol am y gwaith maent wedi'i wneud.

Materion

Personol

Eich gwaith fel cynrychiolwyr cwrs yw ymdrin â materion academaidd a chynrychioli barn myfyrwyr. Nid oes raid i chi ymdrin â materion personol myfyrwyr, nac â phroblemau academaidd unigol, megis paneli disgyblu neu gwynion personol. Serch hynny, fel wyneb cyfarwydd y mae myfyrwyr yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo, mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn dod atoch am gymorth.

Y peth gorau i'w wneud os bydd hyn yn digwydd yw gwrando ar y myfyriwr ac yna eu cyfeirio at y gwasanaeth cywir. Mae ystod eang o wasanaethau myfyrwyr ar gael yn y Brifysgol i gynghori myfyrwyr ar bopeth o dai at iechyd meddwl. Ewch i undebbangor.com/coursereps i lawrlwytho ein canllawiau cyfeirio.

Os nad ydych yn siŵr pwy all helpu, gofynnwch i'r myfyriwr gysylltu â ni yn studentvoice@undebbangor.com a gallwn eu cysylltu â'r gwasanaeth cywir.

CYNGOR ACADEMAIDD

Mae Undeb Bangor yn cynnig gwasanaeth cynghori academaidd proffesiynol a chyfrinachol i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Gallwn eich cynghori ynglŷn â'r gwahanol weithdrefnau, cynnig sylwadau ar eich apêl a chwynion a'ch helpu i baratoi ar gyfer gwrandawiadau disgyblu neu gyfarfodydd prifysgol. Gallwn hyd yn oed fynd gyda chi neu ar eich rhan i wrandawiadau neu gyfarfodydd o’r fath. Byddwn yn eich helpu i gyflwyno’ch hun yn y ffordd orau bosib o ran eich 'achos' a sicrhau eich bod yn dilyn gweithdrefnau cywir y brifysgol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth eich hun, neu'n cyfeirio cyd-fyfyrwyr pan fo angen.

www.undebbangor.com/advice

http://www.undebbangor.com/academicadvice

Tara Hine

Cydlynydd Projectau Lles a Chyngor Academaidd

OES GENNYCH CHI

Ewch i https://www.undebbangor.com/cy/coursereps neu ebost coursereps@undebangor.com

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.