Pecyn Enwebiadau

Page 1

ENWEBIADAU AR AGOR Rhagfyr 11 2023 - Chwefror 9 2024

NOMINATIONS OPEN December 11th 2023 - February 9th 2024

UNDEBBANGOR.COM/ELECTIONS

Pecyn Pecyn Enwebiadau PecynEnwebiadau Enwebiadau 2023/24 2023/24 2023/24


Beth yw Swyddogion Sabothol?

Swyddogion Sabothol yw arweinwyr yr Undeb Myfyrwyr. Maen nhw’n penderfynu’r fath bethau mae’r undeb myfyrwyr yn ymgyrchu, pa ddigwyddiadau maen nhw eisiau redeg, ac yn cynrychioli myfyrwyr ar lefelau uchel ar draws y brifysgol. Maen nhw’n gweithio gyda gwahanol grwpiau o fyfyrwyr drwy’r flwyddyn i sicrhau newid positif ar draws Prifysgol Bangor. Mae pob swyddog sabothol gyda chylch gwaith ei hunain. Gwelir disgrifiad swydd lawn yn y pecyn hwn.

UNDEBBANGOR.COM/ELECTIONS


13 RHESWM I SEFYLL

1. 2. 3.

Byddwch yn cael y cyfle i siarad â myfyrwyr eraill, datblygu eich syniadau a gwella bywydau myfyrwyr. Gweithio ar ymgyrchoedd a phrosiectau cenedlaethol. Ennill profiadau gwerthfawr wrth gynllunio prosiectau, o'r dechrau i'r diwedd.

4.

Byddwch yn cael profiad gwerthfawr o weithio'n agos fel tîm tuag at eich nod.

5.

Byddwch yn datblygu ac yn defnyddio ystod eang o sgiliau.

6.

Mae'n gyfle gwych i gyfoethogi'ch CV fel eich bod yn sefyll allan o'r dorf i gyflogwyr y dyfodol.

7.

Cyfle unwaith mewn oes i gael swydd amlochrog lle byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr yn ogystal â staff lefel uchel y brifysgol ar brosiectau a mentrau i greu newid gwirioneddol.

8.

Cwrdd â phobl newydd a chael hwyl.

9.

Mae bod yn Sabb yn swydd llawn amser, a byddwch yn cael eich talu dros £22,000 y flwyddyn.

10. Gweithio gyda myfyrwyr angerddol eraill. 11.

Mae bod yn Swyddog Sabothol yn gyfle unigryw i wneud swydd i chi'ch hun. Gwneud newidiadau cadarnhaol i fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

12. Os yr ydych yn llwyddiannus fe gewch fod ym Mangor dros yr haf ac mae’n 13. hyfryd pan mae’r haul yn gwenu!


ATEB EICH OFNAU

FEAR: Mae swyddogion sabothol yn gallu ail-redeg, does gen i dim cyfle. ANSWER: Efallai y byddwch chi'n meddwl fod y Sabbs yn cael eu hail-ethol bob amser? Wyddoch chi yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf ym Mangor, nid yw periglor bob amser wedi cael ei ail-ethol. FEAR: Dydw i ddim yn barod i wneud y swydd. ANSWER: Y swydd yw’r hyn yr ydych chi’n ei gwneud hi! Er y bydd hi’n bendant yn flwyddyn brysur, bydd gennych lawer o gefnogaeth o fewn yr UM i’ch galluogi i lwyddo. FEAR: Does gen i ddim amser i ymgyrchu. ANSWER: Does dim rhaid i chi wneud y cyfan. Gall eich ffrindiau eich helpu chi ymgyrchu, fel rhan o dîm. Cofiwch bob tro, ansawdd dros niferoedd! Gwelir yn aml y mae’r pethau yr ydych yn ei wneud eisoes yn gyfle ymgyrchu gwych. FEAR: O bosib mi wna i golli. ANSWER: Nid yw cael eich ethol yn sicr, ond ni fyddwch yn gwybod heblaw i chi drio. Mae rhedeg yn yr etholiadau yn brofiad gwych, ac yn rhywbeth y gallwch ei hychwanegu i’ch CV. FEAR: Does gen i ddim yr arian i ymgyrchu. ANSWER: Mae etholiadau yma ym Mangor yn hygyrch i bawb. Rydym yn darparu cyllideb i bob ymgeisydd na ellir mynd y tu hwnt iddi, er mwyn sicrhau chwarae teg. FEAR: Ni theimlaf digon boblogaidd i ennill etholiad. ANSWER: Os oes gennych bolisïau addas sy’n seiliedig ar yr hyn y mae myfyrwyr eisiau, gallwch ysbrydoli myfyrwyr i bleidleisio drosoch. FEAR: Ni allaf ddylunio poster. ANSWER: Nid yw’r mwyafrif o ymgeiswyr yn arbenigo ym maes dylunio graffig. Yr hyn sy’n bwysig yw cyfleu eich neges. Rydym yn argymell defnyddio canva.com i’ch helpu i ddylunio posteri. I gael ysbrydoliaeth, pam na wnewch chi edrych ar faniffestos blaenorol yn undebbangor.com/maniffesto. Rydym hefyd yn cynnal gweithdy marchnata yn benodol ar gyfer ymgeiswyr, gallwch ddod o hyd i wybodaeth yn y pecyn hwn.


Disgrifiadau Swyddi Swyddogion Sabothol Pob Swyddog Sabothol:

Cyflog blynyddol: £22,681 Tymor y swydd: Gorffennaf 1 - Mehefin 30 Bydd yn ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr. Ystyrir yn ‘deiliad prif swyddog undeb’ fel ei ddiffinnir gan Ddeddf Addysg 1994. Bydd yn aelod llawn, â phleidlais o Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor a Phwyllgor Gwaith Undeb Bangor. Bydd yn cynnig arweiniad ar gyfer ymgyrchoedd a digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. Bydd yn cynorthwyo ac yn cefnogi gweithgareddau’r Wythnos Groeso, gan gynnwys ffair y Glas. Cefnogi gwaith swyddogion a staff yr Undeb. Gall hyn fod gyda'r nos ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Hyrwyddo gwerthoedd yr Undeb ar bob achlysur. Yn gweithio i sicrhau bod eu gwaith nhw, a gwaith Undeb y Myfyrwyr, yn cael ei gyfathrebu’n gywir ac yn effeithiol i fyfyrwyr. Disgwylir iddynt ddarparu erthyglau rheolaidd ar gyfer cyhoeddiadau'r Undeb, gan gynnwys y wefan. Yn gweithio i gefnogi a chyflawni cylch gwaith iechyd, lles, cynaliadwyedd a chymunedol Undeb y Myfyrwyr. Yn gweithio'n rhagweithiol ar syniadau a pholisïau myfyrwyr a phasiwyd yng Nghyngor Undeb Bangor. Mynychu a chynrychioli myfyrwyr yng nghyfarfodydd lefel uchel y brifysgol gan gynnwys; grwpiau tasg strategaeth a grwpiau gorffen a phwyllgorau. Cydgysylltu ag adrannau perthnasol y brifysgol ar faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Mynychu cynadleddau cenedlaethol. Eistedd ar baneli cyfweld Undeb y Myfyrwyr a’r brifysgol pan fo angen. Cynorthwyo wrth gynrychioli myfyrwyr ym mhrosesau apeliadau a disgyblaethau'r brifysgol pan fo angen. Mynychu cyfarfodydd Undeb y Myfyrwyr megis y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyngor Undeb Bangor, gan ddarparu adroddiadau ac ateb cwestiynau myfyrwyr pan fo angen. Cefnogi Undeb y Myfyrwyr i gynhyrchu adroddiadau. Ymgysylltu'n rheolaidd â myfyrwyr o amgylch y campws.


Disgrifiadau Swyddi Swyddogion Sabothol Cyflog Blynddol: £22,681 Tymor y swydd: Gorffennaf 1 - Mehefin 30

Bydd yn swyddog arweiniol yr Undeb ac yn bennaeth y tîm Swyddogion Sabothol. Bydd yn gynrychiolydd arweiniol yr Undeb i’r brifysgol, gan gydgysylltu rhwng Undeb y Myfyrwyr a Gweithrediaeth y Brifysgol. Bydd yn brif gynrychiolydd yr Undeb i'r gymuned leol a'r cyfryngau lleol a chenedlaethol. Yn cadw mewn cysylltiad ag undebau myfyrwyr eraill a sefydliadau allanol perthnasol. Bydd yn gyfrifol am oruchwylio wrth greu a drafftio cyllideb yr Undeb ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Bydd yn gyfrifol am ddrafftio a gweithredu strategaeth yr Undeb a bydd yn goruchwylio polisi gweithredol ar y cyd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Cyflwyno adroddiad ar waith y Swyddogion Sabothol i bob Cyfarfod Cyffredinol o Gyngor Undeb Bangor ac Undeb Bangor. Dirprwyo cyfrifoldeb rheolwr llinell dros Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr rhwng cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor. Swyddog arweiniol ar faterion yn ymwneud â materion staffio o fewn yr Undeb. Cadeirio cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor. Bydd yn swyddog arweiniol ar faterion yn ymwneud â democratiaeth Undeb ac yn gyfrifol am gynnal a dehongli'r cyfansoddiad. Bydd yn swyddog sy’n gyfrifol am gylch gwaith cymunedol yr Undeb, gan gynnwys myfyrwyr yn y gwaith prosiect cymunedol, ymgyrchoedd cymunedol lleol a byd-eang, yr agenda dinasyddiaeth a chysylltu â grwpiau trigolion a’r cyngor lleol. Bydd yn arwain ar faterion yn ymwneud â Sicrhau Ansawdd Prifysgolion. Yn gweithio'n agos gyda'r Is-lywydd Addysg ar faterion yn ymwneud ag addysg.


Disgrifiadau Swyddi Swyddogion Sabothol Cyflog Blynddol: £22,681 Tymor y swydd: Gorffennaf 1 - Mehefin 30

Bydd yn swyddog sy’n gyfrifol am gylch gorchwyl Addysg yr Undeb, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion polisi, cyllid ac ansawdd addysg cenedlaethol a lleol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys pob mater sy'n ymwneud ag addysg ôl-raddedig. Bydd yn cysylltu'n rheolaidd â Gweithrediaeth y Brifysgol ar faterion sy'n ymwneud ag addysg. Cydweithio’n agos gyda Llywydd UMCB ar faterion yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd yn gyfrifol am gydlynu system Cynrychiolwyr Cyrsiau Undeb y Myfyrwyr, gan sicrhau cyswllt rheolaidd â’r Brifysgol ac Ysgolion Academaidd unigol. Cynllunio a hwyluso Cyngor Cynrychiolwyr Cyrsiau. Gweithio'n agos gyda Chabinet y Cynrychiolwyr Cwrs a Chynrychiolwyr Cwrs ar fentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Yn gweithio’n agos gyda Llywydd UMCB i gydlynu agweddau’r Gymraeg ar system cynrychiolwyr cyrsiau’r brifysgol. Cefnogi gwaith Ymchwil Academaidd Undeb y Myfyrwyr. Cefnogi Undeb y Myfyrwyr i gynhyrchu adroddiadau sy’n ymwneud â phrofiad academaidd.


Disgrifiadau Swyddi Swyddogion Sabothol Cyflog Blynddol: £22,681 Tymor y swydd: Gorffennaf 1 - Mehefin 30

Bydd y swyddog hwn yn gyfrifol am gylch gwaith Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu’n agos â’r brifysgol a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â Chymdeithasau a Gwirfoddoli. Cyfrifol am gylch gwaith cymdeithasau a gwirfoddoli’r Undeb, gan gynnwys bod yn gyfrifol am ei weithrediad a’i gyllid, a sicrhau bod yr holl gymdeithasau yn derbyn yr adnoddau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Cydgysylltu â’r Is-lywydd Chwaraeon ac Is-Lywydd Myfyrwyr Cymraeg / Llywydd UMCB i gydlynu pecyn hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgorau PA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Annog a hyrwyddo gweithgaredd hamdden yn y brifysgol, gan gynnig cymorth trwy Dîm Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor. Gweithio'n agos gyda, a chadeirio, pwyllgorau Gweithredol Cymdeithasau a Gwirfoddoli, gan gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Gweithio'n agos gydag aelodau pwyllgor cymdeithas a gwirfoddoli i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Cymorth i fonitro gweithgareddau Cymdeithas a Gwirfoddoli. Gall hyn fod gyda'r nos ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Cynorthwyo wrth gynllunio a hwyluso digwyddiadau Cymdeithasau a Gwirfoddoli rhwng prifysgolion.


Disgrifiadau Swyddi Swyddogion Sabothol Cyflog Blynddol: £22,681 Tymor y swydd: Gorffennaf 1 - Mehefin 30

Bydd y swyddog yma’n gyfrifol am gylch gwaith Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu’n agos ag Adran Chwaraeon y Brifysgol ac Adran Chwaraeon Bangor, gan gynrychioli myfyrwyr ar faterion sy’n ymwneud â chwaraeon. Bydd yn mynychu holl gyfarfodydd perthnasol BUCS a BUCS Cymru. Bydd yn Lywydd yr Undeb Athletau, ac yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid, a sicrhau bod gan ei glybiau'r holl adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Cydgysylltu â'r gymuned leol a chyrff cenedlaethol ar faterion chwaraeon. Bydd yn cysylltu â’r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli a Llywydd UMCB i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgorau PA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Bydd yn annog ac yn hyrwyddo cyfranogiad aelodau mewn chwaraeon cystadleuol a hamdden yn y brifysgol, gan gynnig cymorth drwy'r Undeb Athletau. Gweithio’n agos gyda, a chadeirio, Gweithrediaeth yr Undeb Athletau, gan gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Gweithio'n agos gydag aelodau pwyllgor clwb chwaraeon i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Cymorth i fonitro gweithgareddau'r Undeb Athletau a chwaraeon. Gall hyn fod gyda'r nos ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Cynorthwyo gyda chynllunio a hwyluso digwyddiadau chwaraeon rhwng prifysgolion.


Disgrifiadau Swyddi Swyddogion Sabothol Cyflog Blynddol: £22,681 Tymor y swydd: Gorffennaf 1 - Mehefin 30

Rhaid bod yn siaradwr Cymraeg a chynrychioli pob siaradwr a dysgwr Cymraeg. Bydd y swyddog hwn yn gyfrifol am gylch gorchwyl Iaith Gymraeg Undeb y Myfyrwyr, gan gydweithio’n agos â’r brifysgol a chynrychioli myfyrwyr ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Bydd Llywydd UMCB, yn gyfrifol am ei weithrediad a’i gyllid, gan sicrhau bod gan ei grwpiau’r holl adnoddau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Cydgysylltu â'r brifysgol, y gymuned leol a chyrff cenedlaethol ar faterion sy’n ymwneud â darpariaeth Gymraeg ac ehangu cyfranogiad ymhlith siaradwyr Cymraeg. Cydweithio’n agos â’r Is-lywydd Addysg i gydlynu agweddau’r Gymraeg ar system cynrychiolwyr cyrsiau’r brifysgol ac ar faterion sy’n ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg. Yn cyfarfod yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Cwrs Iaith Gymraeg. Bydd yn cysylltu â’r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli a’r Is-lywydd Chwaraeon i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgorau PA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Bydd yn annog cynhwysiant a hyrwyddiad yr iaith Gymraeg a'i diwylliant ym mhob agwedd ar faterion y Brifysgol a'r Undeb. Yn gweithio i gynnwys y gymuned leol Gymraeg ei hiaith yng ngwaith yr Undeb ac yn cysylltu â Llywydd ac Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli ar waith cymunedol. Gweithio’n agos gyda Phwyllgor Gwaith UMCB ac aelodau pwyllgor cymdeithas UMCB i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Cymorth i fonitro gweithgareddau UMCB. Gall hyn fod gyda'r nos ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Cynorthwyo gyda chynllunio a hwyluso digwyddiadau Cymraeg rhwng prifysgolion. Bydd yn eistedd ar Gyngor y Brifysgol.


AMSERLEN AMSER

DIGWYDDIAD

DYDDIAD

Enwebiadau yn agor

Dydd Llun 11/12/23

09:00

Gwybodaeth Ymgeiswyr Cyfle galw heibio

Dydd Mercher 13/12/23 Dydd Llun 29/01/2024

14:00 – 15:00 13:00 – 14:00

Enwebiadau yn cau

Dydd Gwener 09/02/24

17:00

Briffio Ymgeiswyr

Dydd Llun 12/02/24

18:00

Gweithdy Ymgyrchu Gweithdy Marchnata Cyfarfod a chyflwyniad â Cyfarwyddwr yr UM.

Dydd Mercher 31/01/24 Dydd Iau 07/02/24

14:00-15:00 14:00-15:00

Dydd Mercher 14/02/24

14:00-15:00

Dydd Mercher 14/02/24

12:00

Dydd Iau 22/02/24

17:00

Maniffesto, Testun Hyrwyddo & Dyddiad Cau Cyfateb Ymgeisydd. Cyfyngiad o 350 gair ar faniffestos Cyfieithiad yn ôl i Ymgeiswyr

Dyddiad cau i gyflwyno fideo & Dyluniadau Terfynol (h.y. posteri ac ati) Dydd Llun 26/02/24

12:00

Cyfnod ymgyrchu’n dechrau

12:00

Dydd Gwener 01/03/24

Sesiwn holi ymgeiswyr

Yn ystod y cyfnod ymgyrchu

Pleidlesio’n agor

Dydd Llun 11/03/24

12:00

Pleidleisio’n cau Cyfri’r pleidleisiau

Dydd Mercher 13/03/24 Dydd Mercher 13/03/24

14:00 16:00

Cyhoeddi’r Canlyniadau

Dydd Mercher 14/03/24

18:00

Anfonwch unrhyw ymholiadau a’ch cais i elections@undebbangor.com


YSGRIFENNU MANIFFESTO

Peidiwch â phoeni’n ormodol am ysgrifennu maniffesto. Yn y bôn, gofynnir i’ch maniffesto ddatgan yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud pe bawch yn swyddog sabothol, a pha newidiadau hoffech weld. Cofiwch, nid yw’n gyfle i siarad yn ddrwg am eich gwrthwynebwyr, na gwneud addewidion afrealistig. Cymerwch eich amser, ac ystyriwch yr hyn hoffech ei gyflawni, a’r hyn byddai’r pleidleiswyr yn ymateb iddo. ‘Top Tips’ wrth ysgrifennu eich maniffesto; Byddwch yn ymwybodol a defnyddiwch iaith glir. Osgowch eiriau hir a chymleth- o bosib y byddwch yn dieithrio pleidleiswyr pwysig. Meddyliwch yn ofalus am ei strwythur a chadwch mewn coff bydd y maniffesto gorffenedig yn ddwyieithog. Ceisiwch ei ddylunio’n ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf. Gosodwch eich nodau ar gyfer eich cyfnod yn y swydd, a sicrhewch eu bod yn realistig ac yn gyraeddadwy. Mae eich maniffesto amdanoch chi’ch hun, nid am eich gwrthwynebwyr! Ceisiwch osgoi amharchu eraill, nid yw’n broffesiynol ac yn y pen draw gall arwain at dorri rheolau. Byddwch yn berthnasol. Meddyliwch am yr hyn sydd angen i gyflawni’r rôl a chanolbwyntiwch ar hynny. Cadwch at y terfyn geiriau (350 gair). Dyma i chi’r rheolau - ac wedi’r cyfan bydd pleidleiswyr am ddarllen yr hyn sydd gennych ddweud. Meddyliwch yn ofalus ar sut i gyflyno eich prif bwyntiau, a sut i ddefnyddio’r geiriau sydd gennych yn addas. Byddwch yn greadigol ac yn ysbrydoledig, a chadwch o fewn y rheolau. Os yr ydych yn ansicr, gofynnwych bob tro!

Rhaid cyflwyno eich maniffesto i www.undebbangor.com/nominations erbyn 12:00, Dydd Mercher, 14 o Chwefror, 2024.

I WELD ENGHREIFFITAU O DESTUNAU A PHOSTERI MANIFFESTO, EWCH I’N WEFAN WWW.UNDEBBANGOR.COM/MANIFESTO


GWETHDAI ETHOLIAD

‘Top Tips’ i redeg ymgyrch effeithiol Gweithdy sy’n amlinellu rhai awgrymiadau da ar redeg ymgyrch lwyddiannus, a sut i sicrhau eich bod yn cynllunio’n effeithiol.

31/01/24 - 2y.h.

Gweithdy Marchnata Sesiwn i fynd trwy’r hyn sy’n gweithio neu beidio, wrth geisio cyfathrebu â chorff y myfyrwyr, ac ymgysylltu â nhw.

07/02/24 - 2y.h.

Cyflwyniad i’r UM â’r Cyfarwyddwr Bydd sesiwn gyda Chyfarwyddwr Undeb Bangor, yn eich cyflwyno chi i’r UM gan egluro ein strwythurau, llywodraethau a strategaeth, a rôl y swyddogion sabothol o fewn yr Undeb. Bydd hefyd gyfle am sesiwn holi ac ateb gyda’r Cyfarwyddwr.

14/02/24 - 2y.h


PARU YMGEISWYR

Defnyddir paru ymgeiswyr i nodi i’r holl fyfyrwyr eich safle fel Ymgeisydd Swyddog Sabothol ar faterion amrywiol sy’n effeithio corff y myfyrwyr. Rhowch wybod i ni sut yr ydych yn teimlo am y materion isod! Bydd gennych gyfle i gyflwyno datganiad 100 gair yn trafod eich safbwyntiau a’r rhesymau dros eich atebion.

Deadline | Dyddiad Cau: 14/02/2024


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.