Fersiwn Cymraeg

Page 1

Yn y pecyn hwn mae ' r holl wybodaeth fydd angen arnoch i wneud cais ar gyfer rôl staff myfyrwyr yn Undeb Bangor

Dyddiad Cau: Hanner nos, nos Fawrth yr 22ain o Awst

Ni fydd ceisiadau yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn

Oriau:

Rhwng 10-16 awr yr wythnos yn ystod y tymor ac oriau achlysurol yn ystod yr haf, ac mae ' n bosib y bydd ychydig o waith gyda'r nos ac ar benwythnosau Yn ystod cyfnodau prysur yn yr Undeb, efallai y bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 16 awr. Rydym ni eisiau i'r oriau weddu i ddeiliad y swydd ac i anghenion y sefydliad, felly byddant yn cael eu trafod ac fe gytunir arnynt ar y cyd.

Mae lles meddyliol a chorfforol ein gweithwyr yn bwysig i ni. Gofynnir i'r holl staff gymryd egwyl 45-munud di-dâl yn ystod unrhyw sifft 9-5 i sicrhau eu bod nhw'n cael y saib sydd ei angen arnynt ac amser i adfer

Bydd modd trafod gweithio hybrid a gweithio hyblyg: Rydym ni'n gwybod bod gan fyfyrwyr ystod o ymrwymiadau eraill; rydym ni'n ceisio caniatáu gweithio hyblyg lle bo'n bosib

Cyfradd tâl yr awr:

Byddwch chi'n derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol sy ' n £12.22 yr awr ar hyn o bryd, mae ' r cyfraddau hyn hefyd yn cynnwys lwfans ar gyfer tâl gwyliau sy ' n 12 07%

Mae'r swydd ddisgrifiadau canlynol yn rhoi syniad cychwynnol i chi o ' r gwaith y bydd disgwyl i chi ei wneud. Gallent newid o bryd i'w gilydd er mwyn gweddu i amgylchiadau sy ' n newid.

Cynorthwyydd Cynnwys Digidol

Mae'r rôl hon yn cael ei chynnig i fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn unig.

Rydym ni am i Undeb Bangor wirioneddol gynrychioli'r holl fyfyrwyr, ac mae hynny'n cynnwys ein tîm staff myfyrwyr hefyd Rydym ni'n annog ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, waeth beth fo'u hunaniaeth neu statws fel myfyrwyr, ac rydym ni'n awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd o gymunedau myfyrwyr sydd heb gynrychioleath ddigonol yn benodol

Adran: Cyllid a Gweithrediadau

Tîm: Cyfathrebu a Marchnata

Atebol i: Arweinydd Cyfathrebu a Marchnata

Pwrpas y Swydd: Creu cynnwys deniadol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a gwefan yr Undeb sy ' n hyrwyddo'r Undeb, ei weithgareddau a'i Swyddogion Sabothol.

Swydd Ddisgrifiad:

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

• Cynllunio cynnwys deniadol â nhw'n fyw.

• Creu Reels a TikToks sy ' n trendio er mwyn ennyn ymateb gan ein cynulleidfa

• Dogfennu digwyddiadau'r Undeb drwy fideograffeg a ffotograffeg

• Troi syniadau eraill yn gynnwys digidol.

Meini Prawf Hanfodol Dymunol Myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor X Rhywun rhagweithiol sy ' n gallu meddwl yn greadigol X Profiad o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol X Deall technoleg a dawn gyda ystod o feddalweddau creadigol ac ar-lein (megis Canva.com, Adobe package) X Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol X Sgiliau gwrando a deall rhagorol X Gallu gweithio ar eich menter eich hunain ac fel rhan o dîm X Sgiliau trefnu da gyda'r gallu i gynllunio gwaith a chwrdd â therfynau amser cytunedig X Rhaid bod ar gael i weithio yn ystod Ffair y Glas a'i gosod rhwng 19–21/09/2023 X

Rhestr fer a Chyfweliad: Byddwn yn llunio rhestr fer ar sail y ceisisadau fydd yn cael eu derbyn, ac os cewch chi eich gwahodd i fynychu cyfweliad, byddwch yn cael eich hysbysu amdano dros e-bost. Felly os cewch chi wahoddiad, sicrhewch eich bod chi'n gwirio'ch e-byst er mwyn cadarnhau y byddwch chi'n bresennol yno Mae'n debyg y bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod hanner cyntaf mis Awst

Rydym ni'n awyddus i addasu ar gyfer unrhyw anghenion gwahaniaethol allai fod gennych chi ac felly gellir cynnal y cyfweliadau ar-lein neu wyneb yn wyneb

Dyddiad dechrau: Disgwylir dechrau rywdro rhwng yr 28ain o Awst a ' r 4ydd Fedi

SUT I YMGEISIO

Mae ymgeisio am rôl yn hawdd. Dilynwch y cyfarwyddiadau a llenwch ffurflen gais ar www.undebbangor.com/jobs.

Beth ddylech chi gynnwys yn eich cais?

Dyma fyddwn ni'n chwilio amdano mewn ceisiadau: Efallai mai dyma'r tro cyntaf ichi gwblhau cais am swydd, neu efallai fod gennych chi lawer o brofiad; naill ffordd, rydym ni eisiau rhoi gwybod i chi am yr hyn yr ydym ni'n chwilio amdano yma yn Undeb Bangor

Ar gyfer eich cais, darparwch ddatganiad ysgrifenedig neu fideo (dim mwy na 5 munud) sy'n cynnwys y wybodaeth ganlynol:

Cyflwynwch eich hunain, rhowch synnwyr i ni o'ch personoliaeth - nid recriwtio niferoedd ydym ni, rydym ni eisiau eich deall chi fel person.

Eglurwch pam eich bod chi eisiau'r rôl a sut mae eich gwerthoedd personol chi'n gweddu gyda'n gwaith ni fel Undeb Myfyrwyr

Dywedwch wrthym pam eich bod chi'n addas ar gyfer y swydd - atebwch ofynion y swydd

ddisgrifiad - rhowch amlinelliad o'ch profiadau blaenorol (enghreifftiau cyflogedig, gwirfoddol a bywyd personol) er mwyn dangos pa sgiliau sydd gennych chi sy'n cwrdd ag anghenion pob rôl yr ydych chi'n ymgeisio amdani.

Diolch a Phob Lwc

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.