Cynrychiolwyr Cwrs – Canllaw Trefnu Digwyddiadau

Page 1

Cynrychiolwyr Cwrs – Canllaw Trefnu

Digwyddiadau

Lluniwyd y canllaw digwyddiadau hwn er mwyn rhoi help i Gynrychiolwyr

Cwrs drefnu digwyddiadau. Mae trefnu digwyddiad neu weithgaredd yn ffordd wych o wneud eich hunain yn weladwy i fyfyrwyr, i hyrwyddo gwaith cynrychiolwyr ac i gasglu adborth am bynciau.

Dyma rai o’r pethau yr hoffech chi feddwl amdanynt o bosib, yn dibynnu ar ba fath o weithgaredd yr ydych chi’n ei drefnu:

NOD Y DIGWYDDIAD

Cyn i chi benderfynu ar beth ydych chi’n mynd i’w wneud, meddyliwch am y pwrpas.

➢ Digwyddiad cymdeithasol

➢ Cyfle i fyfyrwyr gyfarfod ei gilydd

➢ Datblygu sgiliau/gwybodaeth

➢ Casglu adborth

AR GYFER PWY MAE’R DIGWYDDIAD?

Fydd y digwyddiad ar gyfer yr holl fyfyrwyr sydd ar eich cwrs neu ydych chi’n cynrychioli grŵp penodol yr hoffech chi dargedu?

Meddyliwch am beth y mae’r myfyrwyr hynny eisiau ei gael o ddigwyddiad, ac unrhyw bethau ychwanegol y dylech chi eu hystyried ar gyfer y grŵp hwnnw megis ymrwymiadau amser a hygyrchedd.

PWY FYDD YN CYNNAL Y DIGWYDDIAD?

Oes angen i chi recriwtio cynrychiolwyr, staff neu fyfyrwyr eraill i’ch helpu, neu wahodd siaradwr gwadd? Allech chi gydweithio gyda chymdeithas neu brosiect gwirfoddoli sy’n berthnasol i’ch cwrs?

Sicrhewch eich bod chi’n cynllunio ymhell o flaen llaw os fyddwch chi’n gofyn i siaradwyr gwadd gymryd rhan a llenwch y Ffurflen Gais Siaradwr

Gwadd

BETH FYDD Y GWEITHGAREDD/DIGWYDDIAD?

Mae cynrychiolwyr wedi trefnu’r canlynol yn y gorffennol:

• Nosweithiau ‘Caws, gwin a chwyno’

• Dawns Nadolig

• Lluniau dosbarth a blwyddlyfrau

• Encilion ysgrifennu Mwy o syniadau:

• Sesiynau bwyd ac adborth

• Nosweithiau gemau bwrdd

• Tripiau neu deithiau cerdded

• Nosweithiau ffilm

• Digwyddiadau rhwydweithio

• Darlithwyr gwadd

• Sesiynau sgiliau astudio

Ydi eich gweithgaredd yn bodloni anghenion eich cynulleidfa a nod y digwyddiad?

Meddyliwch am ba offer/adnoddau fydd angen arnoch

BLE A PHRYD FYDD Y DIGWYDDIAD YN DIGWYDD?

Dewiswch ddyddiad sy’n rhoi digon o amser ichi hysbysebu- rydym ni’n argymell o leiaf mis.

Fydd y digwyddiad wyneb yn wyneb neu ar-lein? Tu mewn neu du allan?

Sicrhewch eich bod chi’n ystyried y rheoliadau Cofid-19 cyfredol pan fyddwch chi’n trefnu eich digwyddiad.

Os ydych chi angen cadw ystafell ar y campws ar gyfer eich digwyddiad, siaradwch â staff eich ysgol neu anfonwch e-bost at coursereps@undebbangor.com

FYDD GENNYCH CHI FWYD YN EICH DIGWYDDIAD?

Os fyddwch chi’n coginio neu’n gwerthu bwyd, efallai y bydd angen tystysgrif hylendid bwyd arnoch Anfonwch e-bost at coursereps@undebbangor.com os bydd angen cymorth arnoch

Os mai prynu bwydydd risg isel, sydd wedi’u pacio, ni fydd angen tystysgrif hylendid bwyd arnoch. Ond, sicrhewch eich bod chi’n eu cynnwys yn eich asesiad risg.

SUT FYDDWCH CHI’N HYSBYSEBU’R DIGWYDDIAD?

➢ Cyfryngau cymdeithasol

➢ Anfon e-bost at y rheiny sydd ar eich cwrs- gofynnwch i aelod o staff ar eich cwrs i’ch helpu chi gyda hyn

➢ Sôn am y digwyddiad mewn darlithoedd

➢ Posteri ar hysbysfwrdd cyffredin

PARATOI AR GYFER Y DIGWYDDIAD

Ysgrifennwch restr o dasgau a rhannwch nhw er mwyn gwasgaru’r llwyth gwaith. Gallwch ddefnyddio’r tabl ar ddiwedd y ddogfen hon.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

➢ Cwblhau asesiad risg gan ddefnyddio’r ffurflen Asesiad Risg

Digwyddiadau Cynrychiolwyr Cwrs ac anfonwch gopi at coursereps@undebbangor.com

Pethau y gallai fod angen i chi eu gwneud:

➢ Gwneud cais am arian gan y Grant Cynrychiolwyr Cwrs

➢ Penderfynwch ar leoliad ar gyfer eich digwyddiad

➢ Trefnwch fod ystafell wedi’i chadw

➢ Os ydych chi’n cynnal digwyddiad tu allan, fydd angen cynllun wrth gefn arnoch rhag ofn tywydd gwael?

➢ Anfonwch wahoddiadau cyfarfod os ydych chi’n cynnal digwyddiad ar-lein

➢ Prynwch fwyd/offer- cofiwch gadw’r derbynebau

➢ Gosodwch y gweithgaredd cyn i’r myfyrwyr gyrraedd

➢ Printiwch bosteri

➢ Trefnwch fod ystafell wedi’i chadw

GRANT CYNRYCHIOLWYR CWRS

Yma yn Undeb Bangor mae gennym ni Gronfa Weithgareddau

Cynrychiolwyr Cwrs y gall Gynrychiolwyr Cwrs ymgeisio amdani. Gall yr arian hwn gael ei ddefnyddio gan Gynrychiolwyr Cwrs i drefnu tripiau a digwyddiadau Academaidd yn ogystal ag unrhyw syniadau eraill!

Rydym ni symud y ffurflen gais ar-lein, gan ein bod ni’n meddwl y gallai fod yn rhwystr ychwanegol i gynrychiolwyr. Os oes angen nawdd arnoch ar gyfer eich digwyddiad, anfonwch e-bost at coursereps@undebbangor.com gyda manylion eich digwyddiad, faint o arian yr hoffech chi a chofnod o’r hyn fydd yr arian yn cael ei wario arno.

Enw eich digwyddiad yma

Nod y digwyddiad

Argyferpwymae’rdigwyddiad?

Grŵp targed a nifer y myfyrwyr

Disgrifiad o’r digwyddiad

Byddwch mor benodol â phosib

Adnoddau angenrheidiol

e.e bwyd, printio, offer

Pwy arall sy’n ymwneud â’r digwyddiad?

e.e. cynrychiolwyr cwrs, staff, siaradwyr

gwadd

Dyddiad Amser Lleoliad

Tasg

Dilëwch unrhyw rai amherthnasol

Staff cyswllt/ siaradwyr gwadd

Manylion/ nodiadau Pwy sy’n gyfrifol Dyddiad cwblhau Wedi’i gwblhau

Llenwi’r ffurflen siaradwr gwadd

Paratoi’r gyllideb

Gwneud cais am y grant

cynrychiolwyr cwrs

E-bost coursereps@undebbangor.com

gyda manylion a chofnod o’r gyllideb

Cadw ystafell drwy eich ysgol

neu e-bostio coursereps@undebbangor.com

Cwblhau’r asesiad risg

A’i anfon at coursereps@undebbangor.com

Hyrwyddo/hysbysebu’r digwyddiad

Prynu bwyd/ offer

Cofiwch gadw’r derbynebau

Printio deunyddiau

Cael tystysgrif hylendid bwyd

Gosod popeth ar gyfer y digwyddiad

Ychwanegwch unrhyw dasgau

yma

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.