Cytundeb Rôl Cynrychiolydd Cwrs
Trwy ymrwymo eich hunain i fod yn Gynrychiolydd Cwrs, rydych chi’n cytuno i wneud y canlynol:
• Mynychu hyfforddiant er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r rôl ac adeiladu ar y sgiliau sydd eu hangen i fod yn gynrychiolydd.
• Hyrwyddo eich rôl fel cynrychiolydd cwrs i fyfyrwyr eich cwrs ac ar lefel ysgol os ydych chi’n dewis ail swydd.
• Casglu adborth (cadarnhaol a negyddol).
• Mynychu a chynrychioli barn myfyrwyr mewn Cyfarfodydd Pwyllgor Staff Myfyrwyr a’r Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs
• Diweddaru myfyrwyr am ganlyniadau’r cyfarfodydd.
• Gweithio gyda’r Undeb Myfyrwyr er mwyn tynnu ein sylw at faterion
• Cytuno i ymddwyn yn unol â Siarter Myfyrwyr y Brifysgol.
Trwy ymrwymo eich hunain i fod yn Gynrychiolydd Cwrs, gallwch ddisgwyl y canlynol gan Undeb
Bangor:
• Darperir hyfforddiant llawn er mwyn dod yn Gynrychiolydd Cwrs.
• Rydym ni’n awyddus i annog cynrychiolwyr cwrs o gefndiroedd amrywiol, i gynrychioli corff myfyrwyr amrywiol. Rydym ni’n deall bod gan fyfyrwyr ymrwymiadau eraill ac amgylchiadau amrywiol, felly rydym ni yma i’ch cefnogi chi i gymryd rhan pa bynnag ffordd y medrwn ni, boed hynny drwy ddarparu opsiynau ar-lein er mwyn cymryd rhan, neu’r opsiwn i ddod â’ch gofalwr, partner neu blant gyda chi i sesiynau a digwyddiadau.
• Gall y grant cynrychiolydd cwrs gael ei ddefnyddio i’ch helpu chi i drefnu digwyddiadau i hyrwyddo eich rôl fel cynrychiolydd cwrs, casglu adborth gan gyd-fyfyrwyr ac i helpu i greu cymuned o fewn eich ysgolion.
• Mae gennym ni aelod o staff penodol i gefnogi cynrychiolwyr cwrs, felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, sefyllfa nad ydych chi’n gwybod sut i ddelio â hi, neu os ydych chi’n cael trafferth gyda’r rôl, gallwch ddod i siarad gyda ni, ac fe weithiwn ni gyda chi i ddod o hyd i ddatrysiad.
• Byddwch yn cael eich gwahodd i’r Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn i ddathlu gwaith y Cynrychiolwyr Cwrs, gyda Gwobr Cyflawniad Eithriadol sy’n wobr werth £1000.