Asesiad Risg Gweithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs
• Mae’n rhaid i bob Cynrychiolydd Cwrs sy’n cynnal digwyddiadau neu weithgareddau gwblhau asesiad risg cyn i’r gweithgaredd ddechrau.
• Mae’r mwyafrif o weithgareddau dan do ar-gampws gan gynnwys y rheiny sy’n gweini bwydydd risg isel wedi’u cynnwys o fewn yr Asesiad Risg Generig. Bwydydd a ellir eu bwyta ar dymheredd ystafell (lle nad oes angen eu hoeri na’u cynhesu) ydi Bwydydd Risg Isel ac fe’i prynir o fusnesau bwydydd (e.e. archfarchnad, caffi) sydd ag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
• Os ydi’ch gweithgaredd chi yn yr awyr agored, oddi ar y safle, yn delio â choginio neu werthu bwyd, neu ddim yn cael ei gynnwys o fewn yr Asesiad Risg Generig, cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor. Mi wnawn ni eich helpu chi i baratoi Asesiad Risg Penodol ar gyfer eich gweithgaredd.
• Cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor os ydych chi’n bwriadu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau codi arian (e.e. gwerthu cacennau).
• Gall y Tîm gynnig cyngor ar yr wybodaeth a roddir yn unig. Os cuddir manylion, efallai na roddir cyngor priodol a allai effeithio ar iechyd, diogelwch a lles cyfranogwyr ac eraill a effeithir gan weithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs.
• Rhaid i Gynrychiolwyr Cwrs roi gwybod i’r Tîm Llais Myfyrwyr am unrhyw newidiadau yn eu gweithgaredd neu broffil risg ar unwaith.
Teitl Asesiad Risg Enw’r Digwyddiad Dyddiad y crëwyd
ac/neu
adolygwyd yr AR
Rhif Fersiwn
Trefnydd y Digwyddiad Enw Swydd Rôl cynrychiolydd cwrs ac ysgol
Crynodeb o’r gweithgarwch y mae’r AR yn ei gynnwys
Disgrifiwch yr holl weithgareddau fydd yn digwydd yn eich digwyddiad
Lleoliad(au) mae’r AR yn ei gynnwys Ystafelloedd Prifysgol lle bydd y digwyddiad Person(au) mae’r AR yn ei gynnwys
E.e. myfyrwyr, staff, ymwelwyr Datganiad
Cadarnhewch a yw’r Asesiad Risg Generig yn addas ar gyfer y digwyddiad Cynrychiolydd Cwrs yr ydych chi wedi’i drefnu
Os ‘NAC YDY’ cadarnhewch eich bod chi wedi cwblhau’r Asesiad Risg Penodol
Rwy’n cadarnhau y bydd y rheiny sy’n mynychu’n cael eu briffio ar gynnwys yr Asesiad Risg gyda
chofnod ohono
YDI / NAC YDY
YDW / NAC YDW
YDW / NAC YDW
Adolygwyd gan y Tîm Llais Myfyrwyr
Aseswr(wyr) yr AR Dyddiad
Llofnodwyd Dyddiad adolygu AR nesaf
Asesiad Risg Generig
Perygl Rheolaeth Bresennol Camau Pellach Gweithredir gan Hygyrchedd a Chynhwysiant
• Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau hygyrchedd a chynhwysiant.
• Dylai trefnwyr y digwyddiadau ystyried anghenion eu hunain ac eraill drwy’r amser.
• Ni ddylai’r rhai sy’n mynychu orfod datgelu anghenion penodol gan fod angen eu rhagweld.
• Dylai pawb gael eu trin yn hafal / teg drwy’r amser.
• Gofyn am gyngor gan y Tîm Llais Myfyrwyr i sicrhau hygyrchedd a chynhwysiant.
• Atgoffa eraill y gallan nhw drafod eu hanghenion penodol yn gyfrinachol, a all olygu bod angen cefnogi neu wneud addasiadau.
Cyfleusterau Mewnol: Defnydd, cyflwr a chyfleusterau cyffredinol yr adeilad
• Trefnu bod ystafelloedd yn cael eu cadw drwy’r Tîm Llais Myfyrwyr neu drwy eich Ysgol.
• Mae gan adeiladau’r UM / PB drefniadau addas ar waith i sicrhau bod yr ystafelloedd yn addas i’w defnyddio e.e. system canfod a rhybuddio tân, cynnal a chadw, glanhau.
• Mae’r gweithgareddau’n dod o dan bolisïau, gweithdrefnau, rheolau a rheoliadau’r UM a PB.
• Briffio’r grŵp am bolisïau perthnasol ac ati.
• Gadael yr adeiladau fel y cawsant eu canfod e.e. glan, taclus.
• Rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion sy’n ymwneud â’r adeilad i’r UM a / neu’r Gwasanaeth Diogelwch os yw’n achos brys.
Anaf/Salwch: Lle mae angen Cymorth Cyntaf
• Mae Cymorth Cyntaf ar gael yn y rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol. Dylid arddangos manylion ar Bosteri Cymorth Cyntaf.
• Gall y Gwasanaeth Diogelwch ddarparu Cymorth Cyntaf ar dir y Brifysgol: Ffôn Mewnol - 333 / Ffôn Symudol - 01248
382795.
• Ffurflen adrodd am ddigwyddiadau i’w chwblhau.
• Sicrhau diogelwch y rheiny sy’n cymryd rhan, y swyddog cymorth cyntaf a’r sawl a anafwyd.
• Mewn achos brys lle mae bywyd rhywun yn y fantol dylai trefnwr y digwyddiad alw 999 ar unwaith ac yna rhoi gwybod i Wasanaeth Diogelwch y Brifysgol.
• Galw ar y Gwasanaeth Diogelwch os oes angen cymorth cyntaf.
Diogelwch Tân
• Yn ystod rhybudd tân, dylai defnyddwyr adael yr adeilad ac ymgasglu yn y Man Ymgynnull Tân. Ni ddylai defnyddwyr ddychwelyd i’r adeilad nes y dywedir wrthynt wneud hynny.
• Ni cheir defnyddio’r lifftiau yn ystod
rhybudd tân. Rhaid i ddefnyddwyr sydd ddim yn gallu gadael gan ddefnyddio’r grisiau fynd i Fan Lloches a’i ysgogi.
• Mae angen Asesiad Risg Penodol ar gyfer gweithgareddau sy'n cynyddu'r risg o dâncysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor.
• Os yn defnyddio cyfleusterau allanol, cadarnhau fod trefniadau diogelwch tân ar waith.
• Ar ddechrau’r gweithgaredd, briffio’r aelodau am beth i’w wneud os ydyn
nhw’n canfod tân, neu synau
rhybudd tân, gan gynnwys lleoliadau’r Allanfeydd Tân a’r Mannau Ymgynnull Tân.
• Ystyried y rheiny sydd angen cymorth wrth adael e.e. y rhai na all adael gan
ddefnyddio’r grisiau.
Diogelwch Trydanol
• Rhaid i offer trydanol fod yn addas i’w ddiben ac i’r amgylchedd lle’i defnyddir e.e. defnydd yn yr awyr agored.
• Rhaid i’r holl offer trydanol a ddeuir ar y safle fod â Marc CE a Phrawf PAT dilys gyda label ar yr eitem i ddangos ei fod wedi cael Prawf PAT.
• Peidio defnyddio offer sydd heb label Prawf PAT dilys neu os ydych chi’n pryderu am ei gyflwr.
• Cysylltu â’r Tîm Llais Myfyrwyr os oes angen Hyfforddiant Prawf PAT.
Enw
Diogelwch Bwyd: Alergenau, hylendid
• Defnyddio bwyd gan ddarparwr dibynadwy e.e. Archfarchnad neu fusnes sydd ag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus priodol ac Ardystiad Hylendid Bwyd.
• Peidio byth â darparu bwyd sydd heb ei labelu / wedi dod i ben.
• Rhaid i’r holl fwyd sy’n cael ei weini/allu cael ei fwyta’n oer ac ni cheir eu hailgynhesu ar y safle dan unrhyw amgylchiadau.
• Dylai unrhyw alergenau cyffredin gael eu labelu’n glir.
• Bod yn ofalus wrth ddelio â bwydydd neu ddiodydd poeth er mwyn lleihau’r risg o losgi.
• Ymarfer hylendid dwylo da wrth ddelio ag unrhyw fwyd neu ddiod- golchi neu ddiheintio dwylo cyn paratoi neu fwyta bwyd.
• Mae Canllawiau Diogelwch Bwyd ar gael i’r rheiny sy’n delio â bwyd.
• Sicrhau bod y rhai sy’n cymryd rhan yn ymwybodol o’r cyfleusterau golchi
dwylo sydd ar gael ac y dylen nhw olchi neu ddiheintio eu dwylo cyn delio â bwyd neu ddiod.
• Ni ddylai’r rheiny sy’n cymryd rhan
rannu bwyd neu blatiau, cwpanau, cyllyll a ffyrc ac ati.
• Paratoi rhestr gynhwysion sy’n
cynnwys alergenau ar gyfer yr holl
fwyd a weinir, neu gadw pecynnau’r
bwydydd oedd wedi’u pecynnu’n
barod.
• Gofyn am gyngor gan y Tîm Llais
Myfyrwyr ar gyfer bwydydd risg
uchel (e.e. bwydydd poeth cartref, bwydydd sydd angen eu hoeri) neu
os ydych chi’n bwriadu gwerthu
bwyd (e.e. gwerthu cacennau).
Afiechydon trosglwyddadwy gan
gynnwys Cofid-19
• Dylai unrhyw un sydd â symptomau
afiechydon trosglwyddadwy gan gynnwys
Cofid-19 aros adref ac ni ddylen nhw
fynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb yn
unol â chanllawiau Prifysgol Bangor.
• Anogir y rhai sy’n cymryd rhan i roi
unrhyw wastraff (e.e. gwastraff
bwyd, cadachau ac ati) yn y biniau
neu fagiau bin a ddarperir.
Enw
• Dylid glanhau offer ac ystafelloedd ar ôl y digwyddiad.
• Dylai’r rhai sy’n cymryd rhan gadw hylendid dwylo da drwy olchi neu ddiheintio eu dwylo’n gyson trwy gydol y dydd.
• Caiff y rhai sy’n cymryd rhan wisgo gorchudd wyneb os dymunant.
• Dylid rhoi hidlyddion aer ymlaen os oes rhai ac fe ddylid agor ffenestri lle bo’n briodol, er enghraifft, mewn mannau gorlawn.
• Dylai trefnwyr y digwyddiad sicrhau bod yr ystafelloedd a’r arwynebau yn cael eu gadael yn lân ar ddiwedd y digwyddiad.
• Sicrhau bod y rhai sy’n cymryd rhan yn ymwybodol o leoliadau’r cyfleusterau golchi dwylo ar ddechrau’r digwyddiad a’u hannog i’w defnyddio’n rheolaidd.
• Annog y rhai sy’n cymryd rhan i olchi neu ddiheintio eu dwylo cyn ac yn ystod gemau a gweithgareddau cyswllt agos.
Alcohol
• Ni chaniateir i alcohol gael ei yfed na bod yn bresennol yn ystod y gweithgareddau tu hwnt i safle trwyddedig.
• Gofyn am ganiatâd gan y Tîm Llais Myfyrwyr os am drefnu bod alcohol mewn digwyddiad.
• Sefydlu gofynion fel y cynghorir.
• Mae’r holl Gynrychiolwyr Cwrs a mynychwyr y gweithgareddau’n Llysgenhadon i PB / UM ac mae’n rhaid iddynt ddilyn polisïau a gweithdrefnau PB a’r UM bob amser yn ystod gweithgareddau swyddogol. All
• Rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan beidio â phechu eraill, achosi niwsans na thorri gweithdrefnau/polisïau. Mae cynrychiolaeth yn cynnwys gwisgo dillad sydd wedi’u brandio.
• Bydd yr UM yn cymryd camau disgyblu os oes angen.
• Atgoffa aelodau o’r safonau gofynnol.
• Monitro i sicrhau bod y safonau’n cael eu bodloni.
Enw
Enw Risg niweidio enw da: UM, PB, Cynrychiolwyr Cwrs
Siaradwyr Gwadd: Proses
• Caiff siaradwyr gwadd eu cynnwys o dan Bolisi PB ac ni ddylid eu gweithredu heb arweiniad gan yr Undeb Myfyrwyr.
• Rhaid i bob gweithgaredd fod yn unol â’r Cod Ymarfer ar Bolisi Rhyddid i Lefaru.
Enw
• Rhaid i drefnwyr y digwyddiadau lenwi’r ffurflen gais Siaradwyr Gwadd ar waelod y ddogfen uchod a’i chyflwyno i’r Tîm Llais Myfyrwyr.
Asesiad Risg Penodol ar gyfer Gweithgareddau oddi ar y Safle ac Awyr Agored
Perygl Rheolaeth Bresennol Camau Pellach Gweithredir gan
Teithio Cerbyd: Bws mini, gyrrwr cyffredinol a diogelwch cerbyd
• Rhaid cydymffurfio ag Asesiad Risg Cerbydau Undeb y Myfyrwyr. Er Enghraifft: hyd y daith, nifer y gyrwyr, defnyddio cerbydau personol / llogi, archwiliadau cerbydau.
• Rhaid briffio’r aelodau ynghylch y gofynion.
• NODER: Mae gofynion penodol yn berthnasol ar gyfer gyrru bysiau mini a / neu dynnu trelar.
• Cysylltu â’r Tîm Llais Myfyrwyr os oes angen gyrrwr ar gyfer gweithgaredd.
• Dilyn trefniadau yn unol â chyngor y Tîm Llais Myfyrwyr.
• Briffio’r aelodau ar weithdrefnau gyrwyr / cerbydau / bysiau mini.
• Monitro i sicrhau cydymffurfiaeth.
Lleoliadau Allanol: Defnydd, cyflwr, cyfleusterau
• Rhaid i grwpiau ddewis lleoliadau priodol os ydynt yn defnyddio safleoedd sydd ddim yn eiddo i’r Brifysgol / UM ar gyfer gweithgareddau / digwyddiadau cymdeithasol.
• Dylai grwpiau ofyn am gyngor gan y Tîm Llais y Myfyrwyr os oes angen.
• Gwirio’r pethau sylfaenol os yn defnyddio safle sydd ddim yn lleoliad cyhoeddus sefydledig e.e. Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, glendid, Sgôr Bwyd, diogelwch tân.
Ystyriaethau Amgylcheddol: Tywydd, llanw, oriau dydd
• Penodi unigolyn cyfrifol (UC) i wirio’r amodau ar gyfer y gweithgaredd: yn arwain ato, yn ystod ac am gyfnod ar ôl rhag ofn y bydd oedi.
• Rhoi’r cymhwysedd ac awdurdod i’r UC ganslo’r digwyddiad lle ymddangosir y
• Cymeradwyaeth gan y Tîm Llais Myfyrwyr ar gyfer pob gweithgaredd gyda’r nos.
• Gwirio’r rhagolygon tywydd ac ymofyn am wybodaeth leol arbenigol cyn cynnal y gweithgareddau.
Diogelwch Personol
gweithgaredd yn anniogel, e.e. tywydd, diffyg profiad Arweinwyr Gweithgareddau neu rai sy’n cymryd rhan.
• Rhaid i’r gwiriadau gynnwys yr holl amodau perthnasol ar gyfer y gweithgaredd a’r lleoliad e.e. golau dydd, tymheredd, gwynt, glaw, llanw.
• Rhaid cynnwys yr holl wybodaeth yng nghynllun y gweithgaredd, gyda gweithgareddau wedi’u haddasu os oes angen.
• Offer ychwanegol e.e. goleuadau wrth gefn i’w cymryd ar weithgareddau sy’n digwydd yn y tywyllwch, neu yn ystod golau isel neu sero.
• Briffio’r aelodau am yr hyn sydd i’w ddisgwyl a’r trefniadau.
• Ystyried ffyrdd o gysylltu ag eraill yn ystod gweithgaredd e.e. llinell tir, ffôn symudol.
• Rhoi cyngor i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ôl yr angen, e.e. gweithio mewn parau.
• Cysylltu â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor a chymorth ynglŷn ag adnoddau i wneud penderfyniadau.
• Cyn y gweithgaredd – rhoi gwybod i aelodau am drefniadau a’u cyfrifoldebau uniongyrchol e.e. dillad glaw, bwyd, diod.
• Gwirio bod yr aelodau wedi paratoi cyn gadael.
• Llunio amserlen y gweithgaredd –gadael copi gydag UC sydd ddim yn rhan o’r gweithgaredd.
• Peidio â chaniatáu i aelodau gymryd rhan os nad ydynt yn barod, neu os ydych chi’n bryderus am eu gallu i gymryd rhan yn ddiogel.
• Adrodd am bryderon i’r Undeb Myfyrwyr, Gwasanaeth Diogelwch y Brifysgol neu’r Heddlu os oes angen.
• Adrodd am unrhyw ddigwyddiadau ar Ffurflen Ddamweiniau a Digwyddiadau’r Brifysgol.
Llithro, Baglu a Chwympo
• Os oes angen Cymorth Cyntaf, sicrhau fod y sawl sydd wedi’i anafu a’r swyddog cymorth cyntaf yn ddiogel. Bydd rhaid llenwi ffurflenni Adrodd Digwyddiad hefyd.
• Sicrhau fod y digwyddiad wedi’i leoli mewn ardal addas, â’r risg lleiaf o lithro, baglu neu gwympo.
• Sicrhau fod cynllun y digwyddiad yn addas ar gyfer cymhwysedd y rhai sy’n cymryd rhan, o ystyried amodau amgylcheddol.
Ychwanegwch beryglon gweithgareddau penodol a rheolaethau pellach isod.
Asesiad Risg Penodol ar gyfer Gweithgareddau Eraill
Perygl Rheolaeth Bresennol Camau Pellach Gweithredir gan Enw