Maniffestos cymraeg

Page 1

Maniffestos Ymgeiswyr

GWION ELIDIR ROWLANDSRHEDEG AM

LYWYDD UMCB

echyd Meddwl a chadw’n heini

Cynnal gweithgareddau hamdden a ffitrwydd i fyfyrwyr UMCB. Bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn wythnosol gyda amryw o weithgareddau gan gynnwys teithiau cerdded, dringo mynyddoedd, rhedeg, nofio a sesiynau yn yr ystafell ffitrwydd. Denu mwy i Fangor

Sefydlu gwefan i UMCB sy ’ n hysbysebu digwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau cymdeithasol, yr eisteddfod ryng-golegol a digwyddiadau JMJ Targedu’r chweched dosbarth lleol wrth fynd i ysgolion gan wneud cyflwyniad yn dangos y rhesymau syml pam fod prifysgol Bangor yn le arbennig

Canoli’r Iaith Gymraeg

Ymdrechu i gael ystafell waith sydd dim ond ar gael i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Yn ychwannegol, bydd hwn yn hybu fwy o myfyrwyr i siarad cymraeg ac yn annog hyder i ddysgwyr.

JMJ

Adnewyddu JMJ gan sicrhau eu bod yn teimlo yn fwy cartrefol gan wrando ar eu barn er mwyn gwella adnoddau yr adeilad Ymdrechu i helpu llywydd JMJ gan adnewyddu yr ystafell gyffredinol gan sicrhau mai dim ond myfyrwyr JMJ a Tegfan sy ’ n cael mynediad. Sicrhau fod mentor JMJ yn rhugl yn y Gymraeg a fod gweinyddwyr y neuaddau yn cadw at reolau’r polisi iaith.

Digwyddiadau Cymdeithasol

Cynnal digwyddiadau cymdeithasol uniongyrchol i ferched a bechgyn fydd yn galluogi myfyrwyr UMCB i ddod yn agosach fel cymuned.

Chwaraeon Y Cymric

Cyd-weithio gyda chwaraeon Y Cymric i sicrhau fod yna ddigwyddiadau cyson a bod digon o gyfle i fyfyrwyr allu cymryd rhan. Wrth sicrhau fod cyfloeoedd yn y meysydd pel droed, rygbi, hoci, dartiau a phel rwyd mae ’ n galluogi myfyrwyr i gymdeithasu Mae’n bwysig hefyd eu bod yn cael y cymorth i drefnu cystadlaethau fel yr eisteddfod ryng-golegoll, aber 7s a thwrnamentau peldroed.

ZEESHAN ISHAQRHEDEG AM ISLYWYDD ADDYSG

Annwyl gyd-fyfyrwyr,

Rwyf wedi cyffroi ynglŷn â sefyll fel ymgeisydd ar gyfer swydd Is-lywydd Addysg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Gydag ymroddiad angerddol i wella’r profiad addysgol i bawb, rwy ’ n cyflwyno fy maniffesto, ac yn ymrwymo i feithrin cynhwysiant a thwf academaidd o fewn ein cymuned.

*1. Adnoddau a Chefnogaeth Academaidd:*

Rwy'n addo gwella gwasanaethau cefnogaeth academaidd trwy ehangu tiwtora, cynghori academaidd, ac adnoddau iechyd meddwl Yn ogystal, byddaf yn eiriol dros gael rhagor o gyllid ar gyfer adnoddau academaidd hanfodol megis llyfrgelloedd, labordai, a mannau astudio i hwyluso dysgu effeithiol

*2 Gwella’r Cwricwlwm:*

Byddaf yn cydweithio â staff academaidd a staff gweinyddol i adolygu a diweddaru’r cwricwlwm, gan sicrhau ei berthnasedd a pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd a heriau’r dyfodol Yn ogystal â hynny, rwy ' n cefnogi cyfuno safbwyntiau amrywiol a dulliau rhyngddisgyblaethol i feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol ac ymwybyddiaeth fyd-eang

*3 Cyfranogiad ac Ymgysylltiad Myfyrwyr:*

Fy nod yw hybu ymgysylltiad myfyrwyr trwy annog cyfrannu gweithredol mewn trafodaethau dosbarth, projectau ymchwil, a gweithgareddau allgyrsiol Byddaf hefyd yn eiriol dros ragor o gyfleoedd ar gyfer mentrau dan arweiniad myfyrwyr megis symposia ymchwil a chynadleddau academaidd i arddangos llwyddiannau myfyrwyr

*4 Mynediad a Chynwysoldeb:*

Byddaf yn eiriol dros arferion addysgu hygyrch a chynhwysol i sicrhau mynediad cyfartal at addysg i bob myfyriwr, gan gynnwys y rhai ag anableddau ac sydd o gefndiroedd ymylol Yn ogystal â hynny, byddaf yn mynd i'r afael â rhwystrau i addysg, gan eirioli dros ragor o gyfleoedd am ysgoloriaethau a gwasanaethau cefnogi iaith i fyfyrwyr rhyngwladol

*5 Cydweithredu rhwng Myfyrwyr a Staff:*

Byddaf yn hwyluso deialog a chydweithio ystyrlon rhwng myfyrwyr ac aelodau staff er mwyn mynd i’r afael â phryderon a chreu atebion ar y cyd i wella’r profiad addysgol. Yn ogystal, byddaf yn cefnogi mentrau sy ' n hyrwyddo cyfleoedd mentora a chyfleoedd datblygu proffesiynol megis interniaethau a chynorthwywyr ymchwil.

*Casgliad:*

Gyda’n gilydd, gadewch i ni greu amgylchedd dysgu deinamig a chynhwysol lle gall pob myfyriwr ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial. Gofynnaf yn ostyngedig am eich cefnogaeth a ’ch pleidlais i wasanaethu fel eich Is-lywydd Addysg. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i lunio dyfodol dysgu ym Mhrifysgol Bangor!

BEN WILKINSONRHEDEG AM ISLYWYDD ADDYSG

Helo, Ben ydw i Rwy'n fyfyriwr Addysg ar fy nhrydedd flwyddyn ac yn sefyll fel eich Is-lywydd Addysg yma ym Mhrifysgol Bangor.

Ers i mi ddechrau yma ym Mhrifysgol Bangor, rwyf wedi gweithio’n agos gyda swyddogion sabothol y gorffennol a ’ r presennol i wneud newidiadau sydd o fudd i fyfyrwyr o fewn eu hadrannau a ’ u hysgolion priodol, ac rwy ’ n bwriadu parhau â’r gwaith hwn, yn ogystal â chyflwyno polisi newydd sy ’ n gwneud yr addysg yma ym Mhrifysgol Bangor ymysg y gorau yn y Deyrnas Unedig.

Os caf fy ethol, rwy ’ n bwriadu gweithredu fy 7 pwynt i wella Prifysgol Bangor:

Datblygu’r gwaith o gyflwyno mwy o gefnogaeth iechyd meddwl i fyfyrwyr sy ' n mynd ar leoliad, y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt

Cyflwyno cynllun ad-daliad teg i fyfyrwyr sydd wedi teithio fel rhan o ' u cwrs, fel nad yw myfyrwyr ar eu colled yn ystod yr argyfwng costau byw erchyll yr ydym yn ei brofi

Cynyddu’r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ar eu cyrsiau a rhoi pwysau ar y brifysgol i fuddsoddi mewn mwy o adnoddau digidol y gellir eu defnyddio, waeth ble’r ydych chi

Gweithio gyda llywodraeth leol a chenedlaethol i wneud ein cyrsiau’n fwy hygyrch ac yn fwy croesawgar i fyfyrwyr rhyngwladol, a gwneud yn siŵr bod eu barn cael ei glywed a ’ u bod yn cael y gynrychiolaeth y maent yn ei haeddu.

Gweithio gyda'r Brifysgol ac Ysgolion o fewn y Brifysgol i helpu i leihau'r straen ariannol a roddir ar bob myfyriwr yn ystod y cyfnod anodd hwn

Creu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr gwrdd â darlithwyr fel nad ydych yn teimlo eich bod yn cael eich gadael ar ôl neu deimlo eich bod yn y tywyllwch o ran eich cyrsiau.

Sicrhau bod y carfannau Cymraeg a Saesneg yn cael yr un faint o adnoddau a chefnogaeth â’i gilydd fel bod pawb yn cael yr un cyfleoedd, adnoddau a chyfleoedd i lwyddo

AMOS OMOTUNDE FADILE - RHEDEG AM

IS-LYWYDD ADDYSG

Cyd-fyfyrwyr,

Rwyf wrth fy modd datgan fy mod yn ymgeisio am y rôl Is-lywydd Addysg Yn ystod fy ngyrfa academaidd, rwyf wedi dal amrywiaeth o swyddi arweinyddiaeth, gan gynnwys Ysgrifennydd Cyffredinol, Prif Swyddog, a Chynrychiolydd Myfyrwyr. Mae'r profiadau hyn wedi rhoi'r offer a ' r cymhelliant i mi greu newid adeiladol. Hoffwn ymestyn fy ymrwymiad i gryfhau lleisiau myfyrwyr yn rhan o fy ymgyrch ar gyfer y rôl Is-lywydd Addysg.

Maniffestos

Os caf fy ethol, rwy ’ n ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion canlynol fel y gallwn wella addysg academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr Bangor er mwyn cyflawni rhagoriaeth:

Eirioli dros Hygyrchedd: Cydweithio ar draws swyddogaethau i gynyddu’r cymorth i fyfyrwyr sydd ag anawsterau corfforol. Mae hyn yn cynnwys terfyn ar ddarlithoedd, ac ystafell ddosbarth breifat i atal hunan-barch isel. Mynd i'r Afael â'r Bwlch Digidol: Hyrwyddo fy menter ‘T.O.L.E’ (‘Technology on Loan for Excellence’), sy ’ n cynyddu mynediad at liniaduron Dylai technoleg rymuso academyddion yn hytrach na ' u rhwystro Ailystyried y Calendr Academaidd: Ystyried cyddwyso dosbarthiadau i dri diwrnod yr wythnos Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i academyddion ddarparu cefnogaeth ymchwil wedi'i thargedu, ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd astudio i fyfyrwyr

Gwella Adnoddau Llywio’r Campws: Creu map/almanac cyfoes sy ’ n apelio’n weledol i gynorthwyo myfyrwyr sydd newydd ddechrau yn y brifysgol i ddod o hyd i ddarlithfeydd, ac adnoddau amgen i’r rhai nad ydynt efallai’n gwybod sut i ddefnyddio map.

Croeso Myfyrwyr sydd Newydd Gyrraedd: Sicrhau fod gan fyfyrwyr sydd newydd gyrraedd fynediad at lety dros dro am 2 ddiwrnod fel bod y cyfnod pontio’n esmwyth ac yn ddi-straen

Ehangu Mannau Astudio: Eirioli dros fannau astudio mwy amrywiol sydd ag adnoddau dysgu ar draws y campws, yn debyg i Pontio

Rhoi llais i fyfyrwyr Byddaf yn cynnal seminar agored bob tymor i gasglu awgrymiadau ac adborth gan fyfyrwyr Mae myfyrwyr angen mynediad anghyfyngedig at addysg, technoleg sy ' n eu helpu i gyflawni eu nodau, cydbwysedd ar gyfer rhaglenni gradd trwyadl, arweiniad wrth ddysgu systemau newydd, ystyriaeth trwy gydol cyfnodau pontio, mannau astudio cydweithredol, ac, yn bwysicach na dim, y gallu i ddewis eu profiadau addysgol. Mae fy mhendantrwydd, fy egni, fy angerdd am ragoriaeth academaidd, a ’ m profiad wedi fy mharatoi i gyflawni'r amcan hwn.

Rwy’n croesawu ’ r cyfrifoldeb o wasanaethu fel eich Is-lywydd Addysg

Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn rhoi myfyrwyr yn gyntaf!

ALI AMEER HAMZA - RHEDEG AM IS-LYWYDD ADDYSG

Maniffesto: Grymuso Addysg, Dyrchafu Rhagoriaeth

Annwyl Fyfyrwyr Arbennig Prifysgol Bangor, Mae’n anrhydedd i mi gyflwyno fy maniffesto fel eich ymgeisydd am y rôl Is-lywydd Addysg. Mewn cyfnod lle mae addysg yn gonglfaen cynnydd, rwy ’ n sefyll o ’ch blaen gyda gweledigaeth glir ac ymrwymiad cadarn i gyfoethogi’r profiad academaidd i bob myfyriwr yn y sefydliad nodedig hwn

1 Mynediad a Chynwysoldeb

Dylai addysg fod yn hawl, nid yn fraint. Rwy’n addo gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pob myfyriwr, ni waeth beth fo’i amgylchiadau neu ei gefndir/chefndir, yn cael mynediad cyfartal i adnoddau a chyfleoedd addysgol Mae hyn yn cynnwys eirioli dros raglenni cefnogaeth ariannol, ehangu gwasanaethau anabledd, a hyrwyddo amrywiaeth a gweithredu fel pont rhwng myfyrwyr a staff gweinyddol y brifysgol

2. Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr: Gall llywio cymhlethdodau bywyd prifysgol fod yn heriol. Fel Is-lywydd Addysg, byddaf yn eiriol dros wasanaethau cefnogi cadarn i fyfyrwyr, gan gynnwys adnoddau iechyd meddwl, cyngor academaidd a chwnsela gyrfa, i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr arweiniad a ' r cymorth y mae arnynt eu hangen i ffynnu’n academaidd ac yn bersonol

3 Atebolrwydd a Llywodraethu Tryloyw: Rwy’n credu mewn bod yn agored a chyfathrebu’n glir. Os caf fy ethol, byddaf yn sefydlu fforymau rheolaidd ar gyfer casglu adborth myfyrwyr, yn sicrhau atebolrwydd mewn prosesau gwneud penderfyniadau, ac yn cynnal egwyddorion llywodraethu democrataidd i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu gwrando arnynt a ’ u parchu

4 Gwaith Estyn Allan ac Ymgysylltu Cymunedol Mae ein prifysgol yn rhan annatod o gymuned Bangor. Byddaf yn cryfhau cysylltiadau rhwng y brifysgol a ’ r gymuned leol trwy fentrau dysgu gwasanaethol, rhaglenni gwirfoddolwyr, a gweithgarwch estyn allan a fydd yn mynd i’r afael â materion cymdeithasol dybryd ac yn cyfrannu at les pawb

5 Trawsnewid Digidol: Mewn byd cynyddol ddigidol, byddaf yn hyrwyddo integreiddio technoleg mewn addysg, gan ddefnyddio offer a llwyfannau digidol i wella canlyniadau dysgu, hwyluso mynediad o bell at adnoddau addysgol, a hyrwyddo sgiliau llythrennedd digidol ymhlith myfyrwyr a staff fel ei gilydd Fy nghyd-fyfyrwyr, mae ' r daith tuag at ragoriaeth addysgol yn gofyn am ymdrech ar y cyd ac ymroddiad diwyro Gyda'ch cefnogaeth chi, rwy ' n hyderus y gallwn wireddu ein gweledigaeth o gymuned fywiog, gynhwysol ac academaidd-gyfoethog yma ym Mhrifysgol Bangor. Ar Ddiwrnod yr Etholiad, rwy ’ n gofyn yn ostyngedig am eich ymddiriedaeth ac am eich pleidlais. Gyda’n gilydd, gadewch i ni gychwyn ar y daith hon i rymuso addysg a dyrchafu rhagoriaeth er lles pawb

Yn gywir, Ali Ameer Hamza

Ymgeisydd am rôl Is-lywydd Addysg, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor

TEMITOPE OSIMOKUNRHEDEG AM IS-LYWYDD ADDYSG

Annwyl fyfyrwyr,

Pleser yw cyhoeddi fy mod yn sefyll fel Is-lywydd Addysg, rôl sydd ag arwyddocâd aruthrol wrth lywio ein taith academaidd Rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth addysgol, ac rwyf wedi ymrwymo i arwain mentrau a fydd yn gwella dysgu, yn annog arloesedd ac yn meithrin datblygiad cyfannol ein cymuned myfyrwyr

Mae fy ngweledigaeth ar gyfer Gwella Ansawdd Academaidd yn cynnwys:

Cyfoethogi’r Cwricwlwm:

Wrth gydweithio â staff a myfyrwyr, byddaf yn asesu ac yn gwella ein cwricwlwm yn barhaus Mae fy ymrwymiad yn ymestyn i ganolbwyntio ar bolisi addysg cenedlaethol a lleol, cyllid ac ansawdd, gan drosoli fy rôl bresennol fel Cynrychiolydd Cwrs

Dull sy ’ n Canolbwyntio ar y Myfyriwr:

Fy nod yw sefydlu system adborth agored, gan sicrhau bod eich lleisiau'n cael eu clywed, a thrwy hynny, meithrin cymuned addysgol gydweithredol ac ymatebol. Gyda’n gilydd, byddwn yn meithrin amgylchedd dysgu sy ’ n bodloni dewisiadau ac arddulliau dysgu amrywiol

Mae fy ngweledigaeth ar gyfer Cyfleoedd Datblygu Proffesiynol yn cynnwys:

Gweithdai a Seminarau:

Rwy’n rhagweld y byddaf yn trefnu gweithdai a seminarau rheolaidd sy ’ n cynnwys arbenigwyr o ’ r diwydiant, gan ddarparu mewnwelediadau amhrisiadwy, cyfleoedd rhwydweithio a sgiliau ymarferol y tu hwnt i gyfyngiadau’r ystafell ddosbarth.

Cefnogaeth gydag Interniaethau a Lleoliadau:

Byddaf yn mynd ati i gydweithio’n frwd â’r adran gwasanaethau gyrfaoedd i ehangu cyfleoedd interniaeth a lleoliadau Mae'r ymrwymiad hwn yn sicrhau bod ein graddedigion yn hyderus ac yn gymwys i ymuno â'r gweithlu.

Fy ngweledigaeth ar gyfer Integreiddio Technolegol yw:

Rhaglenni Llythrennedd Technoleg:

Bydd cyflwyno rhaglenni i roi hwb i lythrennedd technolegol ymysg myfyrwyr yn eich paratoi i wynebu gofynion digidol y byd proffesiynol.

Fy ngweledigaeth ar gyfer Atebolrwydd a Thryloywder yw:

Adroddiadau Cynnydd Rheolaidd:

Gan weithredu system ar gyfer adroddiadau cynnydd rheolaidd ar fentrau academaidd, byddaf yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd wrth gyflawni ein nodau addysgol a rennir

Gadewch inni gychwyn ar daith gyda’n gilydd i wella ein profiad academaidd yma ym Mhrifysgol Bangor Bydd eich cefnogaeth yn fy ngrymuso i drawsnewid ein tirwedd addysgol trwy hwyluso persbectif byd-eang, ymrwymo i wella hygyrchedd i fyfyrwyr ag anghenion amrywiol, sicrhau cyfle cyfartal i bawb ragori a pharatoi pob myfyriwr i lwyddo yn ein byd sy ' n datblygu'n gyflym.

Pleidleisiwch dros Ddyfodol o Ragoriaeth mewn Addysg!

Temitope (Taymi) Osimokun

MANAL JABEEN BUTT - RHEDEG AM

IS-LYWYDD ADDYSG

Rwy'n fyfyriwr ymroddedig ar y cwrs MBA Rheolaeth ac mae gen i gefndir cryf sy ’ n rhychwantu busnes, addysg a thechnoleg. Gan dynnu ar fy mhrofiadau amrywiol, rwyf wedi ymrwymo i wneud y profiad addysgol ym Mhrifysgol Bangor yn wirioneddol eithriadol. Trwy feithrin arloesedd, hyrwyddo cynhwysiant, a chynnal safonau rhagoriaeth academaidd, fy nod yw sicrhau bod taith pob myfyriwr nid yn unig yn llwyddiannus ond hefyd yn foddhaus. Gyda'n gilydd, gadewch i ni greu amgylchedd dysgu lle mae potensial pob unigolyn yn cael ei wireddu a'i ddathlu.

AMAN AZADRHEDEG AM IS-

LYWYDD CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI

Fel ymgeisydd Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli, rwyf i, Aman Azad, yn addo cyflwyno dull deinamig a chynhwysol o gyfoethogi’r profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Gyda ffocws ar feithrin cymuned fywiog, hyrwyddo amrywiaeth, a chynyddu cyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol, mae fy maniffesto’n amlinellu gweledigaeth glir er mwyn gwella ein prifysgol.

Grymuso Drwy Ymgysylltu: Rwy’n credu mewn grymuso myfyrwyr drwy ddarparu llwyfannau i gynnal cyfranogiad gweithredol ac ymgysylltiad ystyrlon. Byddaf yn gweithio i atgyfnerthu cymdeithasau presennol a sefydlu cymdeithasau newydd er mwyn diwallu diddordebau amrywiol Trwy sesiynau adborth rheolaidd a fforymau agored, fy nod yw sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed a'i werthfawrogi.

Hyrwyddo Cynwysoldeb ac Amrywiaeth: Amrywiaeth yw ein cryfder, a chynwysoldeb yw ein hegwyddor arweiniol. Rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant o barch, goddefgarwch a dealltwriaeth o fewn cymuned ein prifysgol. Trwy drefnu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, gweithdai a digwyddiadau cynhwysol, byddaf yn meithrin amgylchedd lle mae pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei gynrychioli a'i gefnogi.

Gwella Cyfleoedd Gwirfoddoli: Nid rhoi’n ôl yn unig yw diben gwirfoddoli; mae ' n ymwneud â thwf personol a gwneud gwahaniaeth go iawn o fewn y gymdeithas. Byddaf yn cydweithio â sefydliadau ac elusennau lleol i ehangu cyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr Byddaf yn ymdrechu i ddarparu llwybrau amrywiol i fyfyrwyr gyfrannu'n gadarnhaol at y byd o ' u cwmpas, boed hynny drwy gadwraeth amgylcheddol, lles cymdeithasol, neu allgymorth cymunedol. Arweinyddiaeth Dryloyw ac Atebol: Tryloywder ac atebolrwydd yw conglfeini arweinyddiaeth effeithiol. Byddaf yn cynnal sianeli cyfathrebu agored, yn cyhoeddi adroddiadau cynnydd rheolaidd, ac yn gofyn am adborth i sicrhau bod fy ngweithredoedd yn cyd-fynd ag anghenion a dyheadau myfyrwyr. Bydd fy nrws bob amser ar agor i wrando ar eich pryderon a 'ch syniadau.

Gyda’n gilydd, gallwn feithrin cymuned gryfach, fwy cynhwysol a bywiog ym Mhrifysgol Bangor. Pleidleisiwch dros Aman Azad fel Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli ar ddiwrnod yr etholiad – oherwydd gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth “Mae Cymdeithas yn Dechrau Gyda Ni: Aman Azad yn Is-lywydd!"

#AmanDrosGymdeithasau

OMANCHI AGBAJIRHEDEG AM ISLYWYDD

CYMDEITHASAU A GWIRFODDOL

Helo!

Fy enw i yw Omanchi Agbaji a fi yw eich darpar Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli.

Hyrwyddo Cymdeithasau

Fel Is-lywydd, byddaf yn gwella deunyddiau hyrwyddo cymdeithasau a ' u digwyddiadau i'r boblogaeth fyfyrwyr ehangach Byddaf yn cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli sy ’ n berthnasol i wahanol swyddi a byddaf yn gwneud yn siŵr bod gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor, sy ’ n perthyn i bob grŵp lleiafrifol, le diogel, bod hynny yn y cnawd neu ar-lein.

Ydych chi erioed wedi rhyngweithio â chymdeithas yn Serendipedd, ac wedi bwriadu mynd i sesiwn, ond wedi anghofio popeth amdano yng nghanol prysurdeb bywyd myfyriwr? Rwy'n bwriadu rhoi sylw penodol i un gymdeithas yr wythnos, gyda'r nod o gynyddu cyrhaeddiad cymdeithasau arbenigol a hyrwyddo digwyddiadau cymdeithasau ar raddfa fawr.

Creu Mannau Diogel

Mae teimlo nad ydych yn perthyn yn gallu cael effaith andwyol ar eich ansawdd bywyd. Mae’n fwy angenrheidiol nag erioed ein bod â mannau dynodedig lle gall pobl ymlacio ac uniaethu â phobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg iddynt. Rwy'n gweithio gydag arweinwyr rhwydwaith ac rwyf eisoes wedi sefydlu mannau diogel i ddod â chymunedau ynghyd, megis sefydlu man diogel LHDTC+ yn Undeb y Myfyrwyr a chymuned prifysgol lle bydd pob diwylliant rhyngwladol yn teimlo ei fod yn cael ei gynrychioli.

Gwirfoddoli a Chyflogadwyedd

Gyda'r argyfwng costau byw presennol, mae gan fwy o fyfyrwyr swyddi rhan amser, sy ' n golygu prin yw ’ r amser i wirfoddoli. Mae rhwydwaith da’n ffordd wych o warantu swydd ar ôl y brifysgol, nawr yn fwy nac erioed, ac mae gwirfoddoli yn ffordd wych o feithrin y rhwydwaith hwnnw Rwy’n credu bod gweithio gyda’r gymuned ehangach a gwella’r cyfleoedd sydd gennym ar hyn o bryd yn ffyrdd gwych o gynyddu perthnasedd gwirfoddoli a chynyddu faint o bobl sy ’ n meddwl am wirfoddoli

Rwy'n edrych ymlaen at gynrychioli eich llais i chi yn undeb y myfyrwyr a gweithio i wella Prifysgol Bangor!

NADIA NAZAR -

RHEDEG AM ISLYWYDD CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI

Fel Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli, rwy ' n addo gwella bywiogrwydd ein cymuned myfyrwyr. Byddaf yn cydweithio â'r brifysgol, yn cefnogi gweithrediadau cymdeithas, ac yn sicrhau digon o adnoddau ar gyfer projectau gwirfoddoli. Dewch i ni feithrin amgylchedd deinamig a chynhwysol ar gyfer pob cymdeithas a gwirfoddolwr!

ILCYMDEITHASAUAGWIRFODDOLI VPFORVOLUNTEERING&SOCIETIES

Rwy'ncredubodpawbynwerthfawracynunigryw.Rydynigydfelplanedau,ynllawnpethaui'w darganfod.Rwy'nedmygu'rgwreiddioldebhwnacyncreduydylideiddatgelua'ifyw.Dynapamfy modynfalchoenwebufyhunfelIs-lywyddcymdeithasauagwirfoddoli,aallfyngalluogii adlewyrchufyngweledigaethadodâhi'nfyw.Byddafyncreucyfleoeddibawbddangospamor unigrywydynt.Niywlliwiaubywyd,fellydylemadaeli’nhunainddisgleirio!

Rwy’nymwybodolbodBangorynllebach,syddagopsiynaucyfyngedigorancyfleoeddhamddeni fyfyrwyrsy’nchwilioambethaugwahanoli’wgwneud.Rwy'nbwriaducydweithiogyda chymdeithasauathrefnudigwyddiadaugwahanolacarbennig,gangynnwysarddangosfeydd, cystadlaethauasioeau.Wrthwneudhyn,fynodywcreudigonowahanolopsiynauermwyn sicrhaubodrhywbethatddantpawb.

Wrthi’rbydnewid,maeeinhanghenionynnewid.Mae'nhanfodoleinbodyngallucadwarflaeny newidiadauhyn.Maefyngweledigaethynadlewyrchuhyn.Rwyfwireisiaugwneudnewidiadau, bachamawr,abodynrhanogymunedwellaciachach.Byddafynparhauigynnigcyfleoedd gwirfoddoliamrywiol,gangynnwyscynnigcyfleoeddgwirfoddolirhithwirifyfyrwyra fyddai’nffafriohyn,neuaallaifodâchyfyngiadauamserneubroblemauoranteithio.Rwy'n bwriadueucyflwynomewnmapiau,afyddyneichgalluogiiddewisyllwybrgorauargyfereich nodaueichhunadatblygusgiliauhanfodolachaelprofiadausy’ngysylltiedigâ’chgyrfayny dyfodol.Maehefydynfforddddaiawnowneudnewidiadaubachynybydyrydymynbywynddo!

Maecydraddoldebachynhwysiantynbwysigimi.Byddafynymdrechuigynnigcyflecyfartali bawbachreuamgylcheddaudiogelsy’ngalluogipawbifodynnhweuhunain.Ondypeth pwysicaf,wrthgwrs,yweichlles.Byddafyncysylltuâphobunohonochtrwyarolygonbarn rheolaiddiofynameichprofiadaua’chbarnamfymhrojectau,acigaelgwybodaethameich lles.Byddafyngweithio’neffeithlongydagadrannauachymdeithasauerailligreu gweithgareddauasesiynauereichlleschi,sy’nhygyrchibawb.

HOLLIE KOROBCZYC -

RHEDEG AM ISLYWYDD CHWARAEON

Hollie Korobczyc ydw i. Rwy'n sefyll i fod yn Is-lywydd Chwaraeon i chi. Rwyf wedi bod yn rhan o chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor dros y tair blynedd diwethaf a byddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i ehangu fy ngwybodaeth a fy nghysylltiadau yn y gymuned yma ymhellach fyth! Mae gen i lawer o brofiad a syniadau newydd y byddwn wrth fy modd yn gallu eu cyflawni gyda chymorth eich pleidlais! Byddwn ar ben fy nigon petawn yn cael y cyfle i weithio'n agos gyda'r holl glybiau a chwaraeon gwahanol yma ym Mhrifysgol Bangor, a dod i adnabod y gymuned yn well fyth

Mae rhai pwyntiau yr hoffwn eu cyflawni’n cynnwys:

Gwella cyfranogiad: sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch i bawb, gan hyrwyddo sesiynau a digwyddiadau i annog pawb i gymryd rhan, waeth beth fo’u gallu neu gefndir Addysgu myfyrwyr am bwysigrwydd chwaraeon a sut y gallai effeithio’n gadarnhaol ar eich iechyd meddwl, eich iechyd corfforol a ’ch iechyd cymdeithasol

Hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant: cynnig mwy o gyfleoedd i sesiynau/timau cymysg Cyfle cyfartal i bob athletwr, waeth beth fo’i ddiddordebau chwaraeon

Gwella cyfleusterau: archwilio cyfleoedd i ddatblygu cyfleusterau newydd/gwell ar gyfer chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Sicrhau bod cyfleusterau’n fwy hygyrch i bob myfyriwr E e Cae 3G newydd a chyfleoedd hyfforddi allanol

Meithrin cymuned: trefnu digwyddiadau a thwrnameintiau sy ' n dod â chymuned yr

Undeb Athletau ynghyd wrth hefyd gynnwys y gymdeithas a grwpiau gwirfoddol

CLARK THOMAS - RHEDEG AM ISLYWYDD

CHWARAEON

SICRHAU BOD CHWARAEON BANGOR YN PARHAU AM DDIM

Mae Bangor yn un o ddwy Brifysgol yn y Deyrnas Unedig sy ' n cynnig chwaraeon am ddim. Mewn lleoedd eraill, mae myfyriwr yn talu cyfartaledd o £400+ ar aelodaeth ac ati i ymuno â chlybiau chwaraeon

Cyflwyno ail Gae Synthetig 4G (Astro turf) ym Mangor

Mae sawl tîm yn y Brifysgol yn rhannu’r un cae synthetig, felly mae ' n anodd cynnal sawl sesiwn hyfforddi’r wythnos fel y mae timau eraill yr ydym yn cystadlu yn eu herbyn yn ei wneud, yn enwedig gan fod timau lleol hefyd yn cynnal eu sesiynau hyfforddi a ' u gemau ar y cae synthetig

Parhau i ddod â hyfforddwyr allanol i mewn

Mae nifer yr hyfforddwyr allanol sy ' n gweithio yn y Brifysgol wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fy nod yw ail-gyflwyno’r fenter hon er mwyn gwella ein lefelau cystadleuol eto fyth. Adolygu'r dyraniad grant presennol o ran y clybiau nad ydynt yn cystadlu gyda Chwaraeon

Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS)

Prin y bydd timau nad ydynt yn cystadlu gyda Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) yn cystadlu mewn lleoedd eraill drwy gydol y flwyddyn, ac mae hyn oherwydd bod yr unigolion a ’ r clybiau eu hunain yn gorfod talu’r costau teithio a llety. Maent yn cynrychioli'r bathodyn lawn cymaint â thimau sy ' n cystadlu gyda Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), felly mae angen i hyn newid.

Cyflwyno monitorau cyfradd curiad y galon am ddim i dimau sy ' n cystadlu gyda Chwaraeon

Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) i wella perfformiad mewn sesiynau hyfforddi a gemau Rwy'n credu y gallai cyflwyno monitorau cyfradd curiad y galon wella ein perfformiad ar y cae ac yn ystod sesiynau hyfforddi yma ym Mhrifysgol Bangor i lefelau uwch nag erioed. Yn ogystal â chynnig helpu o fewn chwaraeon, gall cofnodi’n gywir pa mor galed y mae unigolion a thimau’n gweithio helpu i gynnig budd mawr i iechyd ac ein helpu i osgoi anafiadau

Cadw sesiynau ffisiotherapi a thylino chwaraeon am ddim i fyfyrwyr yr Undeb Athletau

Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i gynnig y sesiynau tylino chwaraeon a ffisiotherapi am ddim Mae hyn wedi galluogi myfyrwyr i atal unrhyw anafiadau a allai fod ganddynt, ac rydym wedi profi cynnydd mewn perfformiad ers dechrau cynnig y sesiynau.

Cynghrair rygbi cyffwrdd Chwaraeon y Campws

Wrth i fwy a mwy o bobl ddangos diddordeb mewn rygbi o flwyddyn i flwyddyn yma ym Mhrifysgol Bangor, gallai twrnamaint rygbi adloniadol, yn debyg iawn i bêl-droed neu bêl-rwyd, fod yn ffordd wych o fwydo ein 2 dîm sefydledig yn y Brifysgol.

AMY WYATTRHEDEG AM ISLYWYDD

CHWARAEON

Helo, Amy ydw i, ac rwyf ar fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon Rwyf wedi bod yn y Brifysgol ers bron i 4 blynedd bellach, ac rwyf ar hyn o bryd yn gweithio fel ysgrifennydd cymdeithasol tîm pêl law Prifysgol Bangor, felly rwy ’ n eithaf uchel fy nghloch, fel y gallwch ddychmygu Rwyf hefyd yn gweithio gyda'r Undeb Athletau ar hyn o bryd fel y swyddog cyfryngau cymdeithasol. Cyn hyn, fi oedd Prif Hyfforddwr tîm nofio Prifysgol Bangor. Mae gen i nifer o nodau mawr y byddwn wrth fy modd yn gallu eu gweithredu fel yr Is-lywydd chwaraeon. Un o fy mhrif nodau yw helpu i gynyddu cyllid ar gyfer timau, gan y bydd hyn yn galluogi timau i brofi mwy o lwyddiant yn y brifysgol, yn ogystal â galluogi timau i fuddsoddi mwy mewn hyfforddiant a gwella strwythur o fewn timau

Oherwydd materion cludiant, mae timau wedi methu â chystadlu neu wedi bod yn hwyr sawl gwaith eleni Mae hwn yn fater mawr sydd angen ei ddatrys er mwyn sicrhau nad yw ’ n parhau i ddigwydd.

Rwyf eisiau helpu i wella cynwysoldeb o fewn chwaraeon, a chwalu ystrydebau mewn perthynas â chwaraeon. Dylai chwaraeon yn y brifysgol fod yn agored i bob myfyriwr, ni waeth pwy ydyn nhw.

Rwyf eisiau ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr allu cyfathrebu â’r Undeb Athletau pan fydd angen cymorth arnynt, yn ogystal â rhoi awgrymiadau i’r Undeb Athletau am ffyrdd o wella, gan fod gan bob myfyriwr yr hawl i leisio ei farn, ac fel Undeb Athletau, rydym bob amser yn gallu gwella a datblygu.

Rwy’n awyddus i gynnal mwy o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr yn y brifysgol, gan ein bod, yn fy marn i, yn gweld y brifysgol ar ei gorau pan fyddwn yn caniatáu i bawb gymryd rhan a chael hwyl.

Dros y cyfnod ymgyrchu hwn, rwyf eisiau i chi deimlo eich bod yn gallu siarad â mi Mae gennych bob hawl i leisio eich barn, felly gyrrwch neges ataf os ydych eisiau sgwrs am yr hyn yr ydych eisiau ei wella neu ei newid. Neu, mae croeso i chi stopio i gael sgwrs os ydych yn fy ngweld ar grwydr o gwmpas y brifysgol neu o gwmpas y dref

MORGAN SLINGERRHEDEG AM ISLYWYDD CHWARAEON

Helo bawb, fy enw i yw Morgan Slinger ac rwy ' n sefyll fel yr Is-lywydd chwaraeon. Rwy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn yn astudio seicoleg, a fi yw Capten Clwb yr Undeb Rygbi Dynion Rwyf wedi mwynhau fy amser ym Mhrifysgol Bangor yn fawr, ac rwy ’ n awyddus i roi’n ôl i'r brifysgol a ’ r myfyrwyr sydd wedi gwneud y 3 blynedd mor bleserus. Er mwyn cadw hyn yn gryno, mae gen i dri phwynt ffocws fel Is-lywydd

Mae parch a lles yn werthoedd allweddol i mi. Rwyf eisiau cynnal mwy o gynadleddau arweinyddiaeth myfyrwyr fel bod pwyllgorau’n gallu gwella cefnogaeth lles a sgiliau arwain a fydd o fudd i aelodau pob clwb. Tra bod pwyllgorau’n gweithio’n galed i amddiffyn aelodau eu clwb, hoffwn sefydlu sesiynau galw heibio rheolaidd i helpu pwyllgorau clybiau i fanteisio ar gefnogaeth a thrafod datblygiad eu clwb Rwy’n credu y byddai dechrau trafodaethau rhwng gwahanol bwyllgorau’n cynnig cyfleoedd i ddysgu o brofiadau eich gilydd, a bydd yn gymorth i wella eich clybiau Cymuned ac undeb. Rwy’n bwriadu rhoi menter “llwybr gwylwyr” ar waith, a fydd yn cynnwys bysiau gwennol lle gall unrhyw fyfyriwr, sy ’ n cymryd rhan neu beidio, deithio o un gêm i’r llall er mwyn sicrhau mantais gartref. Rhoi hwb i wylwyr a datblygu cymhelliant ar y cae. Mae hyn yn darparu egwyl astudio ar ddydd Mercher ac awyr iach i fyfyrwyr. Waeth pa gamp, cefndir neu ddosbarth cymdeithasol, rydym i gyd yn rhan o undeb athletau Rwy’n credu bod yr awyrgylch rhwng y clybiau yn gystadleuol trwy gydol y flwyddyn, ond wrth i ni gyrraedd y Bencampwriaeth Ryng-golegol, rydym yn un tîm mawr Gadewch i ni feithrin y natur tîm prifysgol gyfan hwn, a welir yn y Bencampwriaeth Rynggolegol, trwy gydol y flwyddyn.

Datblygiad personol a chyfranogiad Rwyf wedi ymrwymo i dwf pob clwb chwaraeon a phob chwaraewr unigol. Mae rygbi wedi bod yn ddigon ffodus o sicrhau rhaglen berfformio Mae pob clwb yn haeddu’r cyfle i greu ei raglenni neu gynlluniau ei hun i ddatblygu’r clwb. Os caf fy ethol, byddaf yn ymrwymo amser gyda phob clwb yn unigol, ac yn defnyddio fy mhrofiad i weithio ar gynllun i gyflawni eich nodau.

Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy am fy syniadau, ac mae croeso i chi stopio am sgwrs os ydych yn fy ngweld o gwmpas y brifysgol.

Slinger yn anelu i fod yn Is-lywydd!

RAHUL KUMARRHEDEG AM IS-

LYWYDD

CHWARAEON

Grymuso'r Athletwr O Fewn Maniffesto Is-lywyddiaeth – Dyrchafu chwarae teg, undod a rhagoriaeth.

SUMIT KUMAR

RUNNING FOR PRESIDENT

Dim Maniffesto wedi'i gyflwyno

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.