Elections - Rules and Regs 24 CY

Page 1


Rheolau a Rheoliadau'r Etholiadau - 2024/25

Caiff Etholiadau Swyddogion Sabothol Undeb Bangor eu llywodraethu gan Is-Ddeddf 7Etholiadau, Cyfansoddiad Undeb Bangor (sydd i’w gweld ymawww.UndebBangor.com/governancedocuments) a gan y rheolau a'r rheoliadau isod, fel y’u cymeradwywyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a Phwyllgor Etholiadau Undeb Bangor.

Os caiff unrhyw un o’r rheolau hynny eu torri gallai hynny arwain at osod sancsiynau ar ymgeisydd, ymgyrchydd neu ymgyrch.

Enwebiadau

1. Rhaid i’r ymgeisydd gyflawni'r meini prawf canlynol yn llwyddiannus er mwyn cael ei gynnwys yn yr etholiad:

1.1. Byddant wedi eu henwebu eu hunain gan ddefnyddio'r broses enwebu ar-lein erbyn dyddiad cau’r enwebiadau.

1.2. Yn gymwys i sefyll yn yr etholiadau fel y diffinnir yn yr Erthyglau Cymdeithasu a’r Is-Ddeddfau.

1.3. Buont yng Nghyfarfod Briffio’r Ymgeiswyr, neu wedi derbyn cyfarwyddyd ar lafar gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau os nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd amgylchiadau arbennig.

1.4. Cytunwyd i ymrwymo i'r rheolau hyn ac i Is-Ddeddf 7 Undeb BangorEtholiadau.

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

1. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr.

2. Ni chaniateir i ymgeiswyr na fuont yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr sefyll yn yr etholiadau.

3. Os na all unrhyw ymgeisydd fod yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr, bydd y broses fel a ganlyn:

3.1. Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno amgylchiadau arbennig i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith wedi dyddiad cyfarfod briffio'r ymgeiswyr.

3.2. Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu manylion yr amgylchiadau arbennig a pham nad yw/nad oedd yn gallu bod yn bresennol.

3.3. Bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau’n penderfynu a ddylid cadarnhau’r amgylchiadau arbennig.

3.4. Os na all ymgeiswyr fod yn bresennol yn y cyfarfod briffio oherwydd amgylchiadau arbennig, yn unol â'r uchod, bydd y Dirprwy Swyddog

Canlyniadau’n trefnu cyfle arall i'r ymgeisydd dderbyn cyfarwyddyd llafar.

4. I gael eu cynnwys yn yr etholiad, rhaid i’r ymgeiswyr dderbyn briffiad llafar yr ymgeiswyr o fewn 4 diwrnod gwaith wedi’r cyfarfod briffio i ymgeiswyr sydd ar yr amserlen.

Mae hynny’n cynnwys rhai a allai fod wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig yn unol â'r

uchod. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn ôl disgresiwn y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y caniateir i ymgeiswyr sefyll yn yr etholiad os na chyflawnir yr uchod.

Testun y Maniffesto

1. I sefyll gyda maniffesto rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu maniffesto, yn Gymraeg neu yn Saesneg erbyn y dyddiad cau sydd yn amserlen yr etholiadau.

2. Cyfyngiadau testun y maniffesto yw;

2.1. Etholiadau Swyddogion Sabothol: dim mwy na 350 o eiriau ym mha bynnag iaith y caiff ei gyflwyno.

Ymddygiad

1. Ni chaiff ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, oherwydd eu cysylltiad ag Undeb Bangor, neu yn rhinwedd y ffaith eu bod yn dal swydd neu wedi dal swydd o gyfrifoldeb yn Undeb Bangor, ddefnyddio adnoddau sydd ar gael iddyn nhw ond nad ydynt ar gael i fyfyrwyr eraill. jMae hynny’n cynnwys offer a dillad a brynwyd gan Undeb Bangor, unrhyw restrau postio canolog sy’n eiddo i Undeb Bangor a grwpiau cyfryngau cymdeithasol swyddogol Undeb Bangor. Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr ond nid yw'n cynnwys unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n perthyn i glybiau neu gymdeithasau unigol neu grwpiau.

2. Ni chaiff ymgyrchwyr ddefnyddio rhestrau postio onid yw’n gyfreithlon gwneud hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen cydsyniad penodol yr aelodau sydd ar y rhestr i ddefnyddio eu manylion. Mae'r rheol hon hefyd yn berthnasol i grwpiau WhatsApp, lle mae'n rhaid i bobl roi caniatâd penodol i gael eu hychwanegu at grŵp, neu maent yn ymuno trwy ddefnyddio'r ddolen a roddwyd, a'i bod yn amlwg beth oedd pwrpas y grŵp cyn ymuno neu gael ei ychwanegu.

3. Mae’r ymgeiswyr yn gyfrifol dros holl weithgarwch yr ymgyrchu a wneir yn eu henw; mae hynny’n cynnwys gweithredoedd gan drydydd partïon ar eu rhan.

4. Rhaid i ymgeiswyr a/na’u hymgyrchwyr beidio ag ymgyrchu'n weithredol a/na defnyddio dim deunyddiau hyrwyddo tan ddechrau swyddogol y cyfnod ymgyrchu. Mae hynny’n cynnwys defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

5. Rhaid i’r ymgeiswyr roi rhestr o'u tîm ymgyrchu swyddogol i Undeb y Myfyrwyr erbyn y dyddiad a nodir gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau.

6. Cyn dechrau ymgyrchu, caiff y timau ymgyrchu ddefnyddio Facebook, WhatsApp neu grwpiau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol i gynllunio a threfnu'n fewnol, ond dylai'r grwpiau hynny fod yn gaeedig, yn breifat ac yn gyfyngedig i'r tîm ymgyrchu craidd.

7. Ni chaiff ymgeiswyr nac ymgyrchwyr wneud y canlynol:

7.1. Gorfodi, bygwth na rhoi pwysau o unrhyw fath ar fyfyrwyr i bleidleisio, yn enwedig pan fyddant ar fin pleidleisio neu wrthi'n pleidleisio.

7.2. pleidleisio ar ran myfyriwr arall

7.3. Cymryd dyfais myfyriwr arall i'w helpu nhw bleidleisio, oherwydd mae’n rhaid trin pob dyfais fel gorsaf bleidleisio.

7.4. Cymryd dyfais myfyriwr arall i'w helpu nhw bleidleisio, oherwydd mae’n rhaid trin pob dyfais fel gorsaf bleidleisio.

7.5. Defnyddio eu dyfeisiau electronig eu hunain i gael pleidleisiau gan eraill neu ganiatáu i eraill eu defnyddio i bleidleisio.

7.6. codi ofn ar unrhyw un sy’n cymryd rhan yn yr etholiad

7.7. tanseilio unrhyw ymgyrch yn fwriadol ac eithrio eu hymgyrch eu hunain.

7.8. difetha deunyddiau, cyhoeddusrwydd, cyfryngau ar-lein, gwefan rhwydweithio cymdeithasol ac yn y blaen sy’n eiddo i ymgeisydd arall

7.9. gwneud unrhyw ymgais i dwyllo yn yr etholiad

7.10. gwneud unrhyw ymgais i ddylanwadu ar ddidueddrwydd y Swyddog Canlyniadau, y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y Pwyllgor Etholiadau neu staff Undeb Bangor

7.11. trafod nodweddion personol ymgeisydd arall

7.12. Camliwio safbwyntiau ymgeisydd arall neu wneud honiadau sy'n anwir amdanynt eu hunain neu am unrhyw ymgeisydd arall

7.13. Sefydlu eu 'gorsaf bleidleisio' eu hunain, rhoi dyfais electronig i bleidleiswyr at ddibenion pleidleisio, goruchwylio neu wylio pleidleisiwr sydd wrthi’n pleidleisio, neu fynnu bod pleidleiswyr yn defnyddio eu dyfais electronig hwythau i bleidleisio’n syth

7.14. Derbyn nawdd gan gwmni neu gorff allanol

7.15. Cael eu cymeradwyo gan adran Prifysgol, Ysgol, Gwasanaeth neu aelod o’r staff.

7.16. Ennill mantais trwy fod staff y Brifysgol yn anfon e-byst at fyfyrwyr ar eu rhan

7.17. Defnyddio grwpiau, tudalennau neu gyfrifon y cyfryngau cymdeithasol canolog a swyddogol y Brifysgol i gynorthwyo’r ymgyrchu, os nad ydynt ar gael i bob ymgeisydd arall hefyd. Mae hynny’n cynnwys, ymhlith eraill, y mathau canlynol o gyfrifon: Coleg, Ysgol, Neuaddau, Gwasanaethau’r Brifysgol ac yn y blaen.

7.18. dwyn anfri ar y broses etholiadol

8. Rhaid i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr wneud y canlynol:

8.1. Cadw at lythyren ac ysbryd rheolau'r etholiad a pholisi Cyfle Cyfartal, polisi Goddef Dim Aflonyddu a pholisi Dwyieithrwydd Undeb Bangor ar bob adeg.

8.2. Cadw at ddeddf gwlad a rheoliadau’r Brifysgol ar bob adeg.

Gwariant ar Etholiadau

1. Cyfyngir ar wariant yr ymgeiswyr ac ni chaniateir gwario dros y trothwy hwnnw na’i gynyddu.

2. Mae'r cyfyngiadau gwario fel a ganlyn

2.1. Terfyn gwariant ymgyrch o £30, i'w wario’n unol â rheolau'r etholiad. Nid yw hynny’n cynnwys y costau argraffu.

2.2. £30 a all fynd ar argraffu. Dim mwy na £30 ar argraffu ffisegol.

3. Rhaid rhoi cyfrif am bob gwariant etholiadol, a chyflwyno derbynebau neu dystiolaeth o wariant i: etholiadau@undebbangor.com erbyn y dyddiad cau a nodir yn amserlen yr etholiadau. Rhaid i ymgeiswyr roi gwybod hefyd i'r tîm etholiadau os na fu dim gwariant er mwyn cadarnhau hynny.

4. Os aiff unrhyw ymgeisydd y tu hwnt i'r terfynau gwariant, gall hynny arwain at gosbau gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau.

5. Bydd y Swyddog Canlyniadau, neu ddirprwy enwebedig, yn rhoi gwerth mewn arian parod ar bopeth a ddefnyddir yn yr etholiad (ac eithrio’r eitemau a restrir yn Adran 5.1 isod). Er eglurdeb, mae’r rheol hon yn berthnasol i ‘roddion ymgyrchu’ na wnaeth gostio dim i chi o bosib, ond y mae iddynt werth ariannol yn y ‘byd real’.

6. Dylai'r holl adnoddau a’r dulliau a ddefnyddiwch yn eich ymgyrch etholiadol y gellid rhoi gwerth ariannol arnynt fod ar gael i'r holl ymgeiswyr eraill. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio hynny gyda'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau cyn eu defnyddio.

7. Ni chaiff yr un ymgeisydd dderbyn nawdd gan gwmni neu gorff allanol.

8. Mae'r eitemau canlynol, er enghraifft, ar gael yn rhwydd i'r holl ymgeiswyr a'u cefnogwyr ac felly nid oes gwerth ariannol i ddefnydd teg arnynt:

8.1. Hen grysau-T; Paent; Hen gynfasau gwely; Pennau Marcio; Blu-tack; Hen gardbord; Hen bren; Pensiliau; Llinyn; Tâp gludiog; Pinnau, Eitemau Gwisg Ffansi Ail Law. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a rhaid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y Dirprwy Swyddog Canlyniadau.

8.2. Pwrpas y rheol hon yw cynorthwyo ymgeiswyr i wneud y cyfnod etholiadau'n gyfnod cyffrous, bywiog ac uchel ei broffil. Mae'r Swyddog Canlyniadau a'r dirprwy’n ymwybodol fod y rheol yn agored i'w chamddefnyddio a byddant yn monitro adnoddau'r ymgyrch yn fanwl oherwydd hynny. Cofiwch mai nhw yw'r bobl sy'n pennu 'defnydd teg'.

Deunydd Cyhoeddusrwydd Printiedig

1. Etholiadau'r Swyddogion Sabothol

1.1. Mae cyhoeddusrwydd printiedig yn gyfyngedig i werth £30 o argraffu.

1.2. Rhaid i’r ymgeiswyr wneud eu hargraffu eu hunain.

1.3. Rhaid argraffu gydag argraffyddion y Brifysgol.

1.4. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno derbynebau i hawlio unrhyw gostau argraffu yn ôl.

1.5. Os oes amheuaeth bod argraffu wedi’i wneud ar argraffyddion nad ydynt yn perthyn i'r brifysgol, gall y Dirprwy Swyddog Canlyniadau ofyn am gael gweld derbynebau’n brawf o argraffu i ddangos y cafodd ei wneud ar argraffyddion y brifysgol.

1.6. Mae’r ymgeiswyr yn gyfrifol am ddylunio eu cyhoeddusrwydd eu hunain

1.7. Caiff yr ymgeiswyr gynhyrchu cymaint o ddyluniadau ag y dymunant.

Deunydd Cyhoeddusrwydd ac Eithrio Print

1. Caiff yr ymgeiswyr ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cyhoeddusrwydd etholiadau ac ymgyrchu’n unol â'r rheolau.

2. Caniateir i ymgeiswyr greu fideos, podlediadau, a ffurfiau eraill ar y cyfryngau ar gyfer cyhoeddusrwydd etholiadol ac ymgyrchu’n unol â'r rheolau.

3. Mae unrhyw wariant ar ymgyrchoedd hyrwyddo a hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyfrif tuag at wariant etholiadol. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o wariant ar hynny gyda derbynebau i sicrhau y cedwir at y rheolau sy’n ymwneud â gwariant.

4. Mae unrhyw wariant ar greu deunydd cyhoeddusrwydd ac eithrio print a’r cyfryngau’n cyfrif tuag at wariant etholiadau. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o wariant ar hynny gyda derbynebau i sicrhau y cedwir at y rheolau sy’n ymwneud â gwariant.

Deunyddiau Cyhoeddusrwydd Eraill

1. Caiff ymgeiswyr gynhyrchu a/neu brynu deunyddiau cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu eraill yn unol â'r rheolau ac yn unol â'r rheolau sy’n ymwneud â gwariant etholiadol.

Polisi Dwyieithrwydd a Chyfieithu

1. Rhaid i bopeth a gynhelir gan Undeb Bangor fod yn ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg. Felly, er enghraifft, caiff maniffestos yr ymgeiswyr eu hanfon i'w cyfieithu i'w harddangos yn ddwyieithog gan Undeb Bangor.

2. Rydym yn annog ymgeiswyr i gynhyrchu deunyddiau cyhoeddusrwydd dwyieithog.

3. Does dim rhaid i ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yr ymgeiswyr fod yn ddwyieithog.

4. Caiff ymgeiswyr anfon testun i'w gyfieithu os dymunant, ond dylent ganiatáu cyfnod rhesymol o amser i wneud y gwaith cyfieithu. Bydd yr amserlenni sy’n ymwneud â chyfieithu’n cael eu rhoi i’r ymgeiswyr yn y sesiwn friffio i’r ymgeiswyr. Ni ellir gwarantu bob amser y caiff y cyfieithiad ei gyflawni, ond gwneir pob ymdrech i sicrhau hynny.

Ymgeiswyr sy'n Ddeiliaid Swyddi

1. Rhaid i ymgeiswyr sy’n ddeiliaid swyddi beidio ag ymgyrchu yn ystod eu horiau gwaith a rhaid iddynt gymryd gwyliau blynyddol i ymgymryd ag unrhyw fath o ymgyrchu gweithredol. Mae hynny’n cynnwys unrhyw ymgyrchu ar lwyfannau ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol.

2. Rhaid cyflwyno amserlen i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau sy’n rhoi manylion am yr oriau gwaith a’r oriau ymgyrchu. Rhaid i hynny gynnwys oriau gyda'r hwyr. Rhaid cyflwyno'r amserlen honno cyn dechrau gweithgarwch ymgyrchu yn hytrach nag yn ôl-weithredol. Caiff yr ymgeiswyr dempled i’w lenwi.

3. Rhaid peidio â gwisgo dillad â brand yr Undeb arnynt wrth ymgyrchu.

4. Ni ellir defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Undeb, er enghraifft cyfrifon neu dudalennau Facebook y Swyddogion Sabothol, i ymgyrchu nag i hyrwyddo etholiadau.

5. Ni ellir defnyddio rhestrau postio’r Undeb at ddibenion ymgyrchu.

6. Wrth ymweld â grwpiau i ymgyrchu, rhaid ei gwneud yn eglur nad yw'r ymgeiswyr sy'n ddeiliaid swyddi’n bresennol ar fusnes Undeb y Myfyrwyr yn rhinwedd eu swyddi fel Swyddogion Sabothol. Rhaid cynnwys manylion yn yr oriau ymgyrchu ar yr amserlen.

7. Rhaid peidio â defnyddio adnoddau Undeb y Myfyrwyr i gynorthwyo’r ymgyrchu.

Cwynion a Thorri Rheolau

1. Rhaid cyflwyno pob cwyn ynghylch ymgeiswyr, ymgyrchwyr, swyddogion etholiadol neu’r broses bleidleisio i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau ar y Ffurflen Cwynion Etholiadau ffurfiol ar e-bost.

Dim ond cwynion a gyflwynir ar y Ffurflen Cwynion Etholiadau swyddogol a gaiff eu hystyried. Rhaid bod y gŵyn:

1.1. Yn ffeithiol

1.2. Yn cynnwys tystiolaeth glir o dorri’r rheolau

1.3. Yn cynnwys tystiolaeth ddigonol i fedru cynnal ymchwiliad

1.4. Nodwch y rheol etholiadol a gafodd ei thorri.

2. Yn y lle cyntaf, bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau’n ystyried unrhyw gŵyn ac yn penderfynu a ellir ei datrys yn anffurfiol neu a ddylid ymdrin â hi fel cwyn ffurfiol.

3. Os gellir ei datrys yn anffurfiol, unwaith y caiff ei datrys yn anffurfiol, dyna fydd diwedd y broses.

4. Os na ellir datrys y gŵyn yn anffurfiol, neu os penderfynwyd na ellir ei datrys yn anffurfiol, caiff ei thrin fel cwyn ffurfiol.

5. Unwaith y bydd yn cael ei thrin fel cwyn ffurfiol, bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn gwneud dyfarniad ynghylch y gŵyn o fewn 24 awr.

6. Gall y Dirprwy Swyddog Canlyniadau hefyd wneud penderfyniad i ymchwilio'n anffurfiol neu'n ffurfiol i achosion o dorri rheolau a gwneud dyfarniadau wedi hynny, os caiff tystiolaeth o dorri’r rheolau ei dwyn i'w sylw.

7. Bydd y broses ganlynol yn cael ei dilyn wrth ymchwilio i gwynion a thorri rheolau:

7.1. Adolygu'r gŵyn a’r dystiolaeth o dorri’r rheolau. Gall hynny gynnwys siarad ag unrhyw achwynwyr neu'r rhai sy'n gallu cynnig tystiolaeth yn ogystal â cheisio gwybodaeth ychwanegol megis lluniau teledu cylch cyfyng neu logiau gwefannau (nid oes cyfyngiadau ar hynny).

7.2. Cysylltu â'r ymgeisydd dan sylw i ddisgrifio’r gŵyn a/neu dorri’r rheolau.

7.3. Caiff yr ymgeisydd gyfle i ymateb i'r gŵyn a/neu achosion honedig o dorri’r rheolau. Unwaith y cysylltir â'r ymgeisydd i ymateb, mae gan yr ymgeisydd 2 awr i ymateb. Os na fyddant yn ymateb o fewn 2 awr, ystyrir nad ydynt yn dymuno ymateb.

7.4. Ar ôl adolygu'r gŵyn, tystiolaeth o dor-rheolau honedig, a siarad gydag unrhyw bartïon angenrheidiol, gan gynnwys yr ymgeisydd dan sylw, bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau’n penderfynu, yn ôl yr hyn sy’n debygol, a fu tor-rheol.

7.5. Caiff y penderfyniad ei gyfleu i’r ymgeisydd yn ysgrifenedig ac ar lafar. Rhaid i’r ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael i siarad â'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau os oes angen.

8. Os bu tor-rheol, y sancsiynau sydd ar gael i’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yw:

8.1. Rhybuddio ymgeiswyr ynghylch eu hymddygiad at y dyfodol.

8.2. Cymryd camau i sicrhau amodau cyfartal i bawb i unioni achos o dorri rheoliad etholiadol.

8.3. Dirwyo ymgeiswyr naill ai drwy leihau faint o arian y cânt ei wario, neu drwy gymryd deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig oddi arnynt.

8.4. Gwahardd ymgeiswyr a’u hymgyrchwyr rhag ymgyrchu am gyfnod o amser.

8.5. Gwahardd ymgyrchydd o weddill yr ymgyrch (lle nad yw'r ymgyrchydd yn ymgeisydd).

8.6. Cyfyngu ar eu cynnwys yng nghyhoeddusrwydd Etholiadau’r Undeb.

8.7. Ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeiswyr hyrwyddo ymgeiswyr eraill ochr yn ochr â hwythau

8.8. Gofyn am ymddiheuriad cyhoeddus ffurfiol gan yr ymgeisydd

9. Yn ogystal â’r holl sancsiynau uchod, mae’r canlynol hefyd ar gael:

9.1. Atal ymgeisydd o’r etholiad nes bydd ymchwiliad

9.2. Atal proses yr etholiad nes bydd ymchwiliad

9.3. Diarddel ymgeisydd

9.4. Argymell i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr y dylid ailgynnal yr etholiad neu ddirymu pleidlais. Yna byddai angen i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr wneud penderfyniad ynghylch a ddylid cadarnhau’r argymhelliad hwnnw ar sail y dystiolaeth.

10. Caiff ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniadau’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau trwy gyflwyno’r apêl yn ysgrifenedig, ar e-bost at: etholiadau@undebbangor.com.

11. Rhaid i’r ymgeiswyr hysbysu’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau o’u dymuniad i apelio cyn pen dwy awr ar ôl gwneud y penderfyniad, a chyflwyno’r apêl o fewn chwe awr ar ôl gwneud y penderfyniad, gan ddilyn y drefn apelio isod:

11.1. Cyflwyno’r apêl yn ysgrifenedig i: etholiadau@undebbangor.com

11.2. Dylai'r apêl bennu sail yr apêl yn glir, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth.

11.3. Anfonir yr apêl at y Swyddog Canlyniadau.

11.4. Bydd y Swyddog Canlyniadau’n gwneud dyfarniad ffurfiol ynghylch yr apêl.

11.5. Mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau’n derfynol a dyna ddiwedd y broses.

11.6. Bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad yr apêl.

12. Caiff unrhyw gwynion a wneir i’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau eu cydnabod ar e-bost o fewn 24 awr; os na chewch chi e-bost peidiwch â chymryd ein bod wedi derbyn eich neges - ffoniwch 01248 388000 i wneud yn siŵr.

13. Dylid gwneud cwynion ynglŷn ag ymddygiad y Dirprwy Swyddog Canlyniadau’n ysgrifenedig yn uniongyrchol i Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr.

14. Rhaid cyflwyno cwynion cyn dechrau cyfrif yr etholiad. Dim ond cwynion ynglŷn â phroses y cyfrif ei hun a gaiff eu hystyried ar ôl i'r cyfrif ddechrau, a rhaid cyflwyno'r cwynion hynny o fewn 24 awr wedi cyhoeddi'r canlyniadau.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.