Undeb Bangor sy ’ n rhoi llais i fyfyrwyr ac mae ’ n darparu
canolbwynt i fywyd myfyrwyr ym Mangor Ein
cenhadaeth yma yn Undeb Bangor yw cyfoethogi a gwella profiad holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor trwy ddarparu cyngor a gwasanaethau ategol
Rydym wedi ein lleoli yn adeilad Pontio, yng nghanol
campws prysur, lle mae dros 10,000 o fyfyrwyr yn byw, astudio ac yn treulio eu hamser yn cymryd rhan yn ein
gweithgareddau Trwy weithio gyda ni, cewch gyfle
i gyrraedd miloedd o fyfyrwyr a ' n helpu ni i ymestyn ein
hymrwymiad i wella profiad prifysgol holl fyfyrwyr
Prifysgol Bangor
!Mae cyfle cyffrous wedi codi gydag Undeb
Bangor, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Bob blwyddyn, rydym yn cynnal pencampwriaeth ryng-golegol, sef uchafbwynt y flwyddyn chwaraeon. Mae miloedd o fyfyrwyr yn cystadlu ac yn gwylio wrth i Aberystwyth a Bangor fynd benben â’i gilydd, sy ’ n ei wneud yn ddi-os yn uchafbwynt yng nghalendr y myfyrwyr. Mae nawdd yn hanfodol i godi proffil ein digwyddiad a sicrhau profiad da i fyfyrwyr Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad a 'ch cefnogaeth yn fawr.
Mae pob myfyriwr yn dod yn aelod o Undeb
Bangor yn awtomatig. Mae dros 10,000 o fyfyrwyr yn aelodau, ac mae hysbysebu trwy'r
Undeb yn cynnig mynediad heb ei ail ac yn helpu i feithrin ffydd ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
( )
Noddwr platinwm. Dim ond 3 sydd ar gael. - £3,000
·Logo ar nwyddau a roddir i fyfyrwyr (hwdis neu grysau-T, bydd y logo yn cael ei roi ar y llawes)
·Logo ar ddiwedd y fideo hyrwyddo a ddefnyddir trwy gydol y flwyddyn at ddibenion recriwtio
Diolch arbennig i'r prif noddwyr ar ddechrau'r cystadlaethau mwyaf poblogaidd
·Logo yng nghefndir fideos ar gyfer cyfweliadau.
·Bwrdd am ddim yn Serendipedd 2 (ein ffair fyfyrwyr) ar 29 Ionawr 2025
·Defnyddio’r logo mewn partneriaeth gyda logo Pencampwriaeth Ryng-golegol 2025 ar bob sianel cyfryngau cymdeithasol
·Baner ar ochr y cae yn y prif ddigwyddiadau yn Nhreborth neu Brailsford.
·Cyfle i anfon e-bost at holl fyfyrwyr y brifysgol gyda deunydd hyrwyddo
·Neges ar y cyfryngau cymdeithasol
Darparu taflenni a/neu samplau i'w cynnwys mewn pecynnau nwyddau
·Gwahoddiad i'n bwffe rhwydweithio yn ystod y digwyddiad.
Noddwr aur. - £2,500
·Logo yng nghefndir fideos ar gyfer cyfweliadau
·Bwrdd am ddim yn Serendipedd 2 (ein ffair fyfyrwyr) ar 29 Ionawr 2025.
·Defnyddio’r logo mewn partneriaeth gyda logo Pencampwriaeth Ryng-golegol 2025 ar bob sianel cyfryngau cymdeithasol
Baner ar ochr y cae yn y prif ddigwyddiadau yn Nhreborth neu Brailsford
Cyfle i anfon e-bost at holl fyfyrwyr y brifysgol gyda deunydd hyrwyddo.
·Neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
·Darparu taflenni a/neu samplau i'w cynnwys mewn pecynnau nwyddau
·Gwahoddiad i'n bwffe rhwydweithio yn ystod y digwyddiad
Noddwr arian - £1,500
·Defnyddio’r logo mewn partneriaeth gyda logo Pencampwriaeth Ryng-golegol 2025 ar bob sianel cyfryngau cymdeithasol
Baner ar ochr y cae yn y prif ddigwyddiadau yn Nhreborth neu Brailsford
·Cyfle i anfon e-bost at holl fyfyrwyr y brifysgol gyda deunydd hyrwyddo.
·Neges ar y cyfryngau cymdeithasol
·Darparu taflenni a/neu samplau i'w cynnwys mewn pecynnau nwyddau
Gwahoddiad i'n bwffe rhwydweithio yn ystod y digwyddiad
Noddwr efydd - £1,000
·Neges ar y cyfryngau cymdeithasol
Darparu taflenni a/neu samplau i'w cynnwys mewn pecynnau nwyddau
·Gwahoddiad i'n bwffe rhwydweithio yn ystod y digwyddiad.
Datganiad o ddiddordeb cyn 21 Rhagfyr
Os oes gennych ragor o gwestiynau neu os hoffech drafod hyn
ymhellach cysylltwch â marketing@undebbangor.com. Gellir ystyried dulliau eraill, er enghraifft talu am gost lawn cortynnau gwddf.