PECYN RECRIWTIO YMDDIRIEDOLWR ALLANOL
2022 www.UndebBangor.com
MAE UNDEB BANGOR (UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGOR) YN SEFYDLIAD LLWYDDIANNUS, BYWIOG A CHYFFROUS SYDD GYDA DYFODOL DISGLAIR IAWN O’I FLAEN. Wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru rhwng y mynyddoedd a’r môr rydym yn cynrychioli tua 13,000 o fyfyrwyr. Mae gennym berthynas ardderchog â’r Brifysgol, enwyd ein Clybiau a'n Cymdeithasau yn y 3 uchaf yn Nhabl Cynghrair Student Crowd 2021 yn ogystal â bod yn y deg uchaf yn eu Tabl Cynghrair am yr Undeb Myfyrwyr Gorau. Mae gennym dîm o pedwar Swyddog Sabothol a etholwyd i sicrhau bod syniadau, anghenion a dymuniadau myfyrwyr yn cael eu gweithredu, a thîm o 15 o staff sy’n cefnogi’r Tim o Swyddog Sabothol i gyflawni ein strategaeth a’n cynlluniau ar draws yr Undeb. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ganolog i’n trefn lywodraethu a’r ymddiriedolwyr yw calon ein Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae'r 13 unigolyn hynny’n gwneud penderfyniadau hollbwysig am yr Undeb a mae ein Hymddiriedolwyr Allanol yn dod ag arbenigedd a phrofiad penodol i'r Bwrdd. Mae gennym bedwar lle ar gyfer ymddiriedolwyr allanol ar ein bwrdd (sy'n eistedd ochr yn ochr â'n pum Swyddog Sabothol a phedwar Ymddiriedolwr Myfyrwyr).
Rydym yn chwilio am un Ymddiriedolwr allanol newydd i'n helpu i ddatblygu Undeb Bangor, herio penderfyniadau, sicrhau ein bod gadarn yn ariannol ac yn llywodraethu'n yn y ffordd gywir. Rydym yn awyddus i gynyddu amrywiaeth y Bwrdd ac rydym yn edrych am arbenigedd penodol mewn materion llywodraethu, ac yn chwilio am ymgeiswyr gyda profiad yn y maes Undebau Myfyrwyr ac Addysg Uwch. Dewch o hyd i ni ar-lein, dyma fwy o wybodaeth am y Q Uo A Y yIComisiwn S Brifysgol, a dewch hyd L i niIarTwefan Elusennau.
T HynEbwriadu B Epenodi S Tun Ar hyn o bryd, rydym ymddiriedolwr allanol i ymuno â’r tri presennol, a bydd y rôl yn dechrau ar unwaith ar ôl cwblhau’r broses BUSINESS recriwtio. Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno popeth byddwch ei PL N . a chwblhau eich angen i chi ddeall mwy amA y swydd cais.
I wneud cais bydd angen i chi anfon eich CV atom ynghyd â llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4) yn dweud ychydig amdanoch chi'ch hun a pham rydych chi eisiau bod yn Ymddiriedolwr i Undeb Bangor. Anfonwch i: llinos.gashe@undebbangor.com erbyn y 10fed o Orffennaf 2022 ac fe ddown yn ôl atoch. Diolch, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu.
YCHYDIG AM UNDEB BANGOR.... Rydym yn elusen ddemocrataidd a arweinir gan fyfyrwyr ac a gyllidir (yn bennaf) trwy grant bloc gan Brifysgol Bangor. Er ein bod yn gweithio'n agos gyda'r Brifysgol rydym yn sefydliad ar wahân ac annibynnol a chymerir penderfyniadau’n fewnol gennych chi ein haelodau.
NI YW LLAIS Y MYFYRWYR YN Y BRIFYSGOL A
EIN DIBEN
Byddwn yn eich cynrychioli, eich grymuso a'ch cefnogi ym Mhrifysgol Bangor, ac yn eich paratoi at eich dyfodol.
CHARTREF BYWYD MYFYRWYR YM MANGOR! Ni yw llais y myfyrwyr yn y Brifysgol a chartref bywyd myfyrwyr ym Mangor! Amlinellir ein Diben, Addewid a’n Hegwyddorion sefydliadol yn ein. Mae ein strategaeth yn nodi amrywiol flaenoriaethau a meysydd ffocws ar gyfer Undeb Bangor dros y cyfnod 2021-24. Gyda'i gilydd mae'r rhain yn ffurfio'r dull y byddwn yn ei ddefnyddio i gyflawni ein strategaeth a'r ffordd yr ydym yn bwriadu gwella profiad myfyrwyr ar gyfer ein haelodau. Gweler copi o'n strategaeth yma.
EIN HADDEWID Rydym yn addo gwrando arnoch, ac addasu i'ch anghenion er mwyn eich cefnogi
EIN HEGWYDDORION Bydd ein hegwyddorion yn rhychwantu ein gwaith a'n dull gweithredu ac yn sylfaen iddynt dros gyfnod y strategaeth hon, a chaiff ein diwylliant ei dywys gan yr egwyddorion hyn: 1. RYDYM YN GYNHWYSOL AC YN AGORED I BOB MYFYRWYR YN Y BRIFYSGOL: Mae hyn yn golygu ein bod yno ar eich cyfer beth bynnag eich rhywedd, ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol, cyfeiriadedd rhywiol, gallu corfforol, hunaniaeth a chefndir diwylliannol. 2. RYDYM YMA I'CH CEFNOGI: Rydym yn siŵr y cewch chi amser gwych ym Mhrifysgol Bangor, ond rydym am i chi wybod y byddwn yma i gynnigcefnogaeth i chi pan fyddwch yn wynebu anawsterau bywyd. 3. RYDYM YN CYNRYCHIOLI MYFYRWYR: Mae hynny’n golygu, trwy gynnal etholiadau bob blwyddyn, bod gennym arweinwyr myfyrwyr a fydd yn cynrychioli eich llais i'r brifysgol, y gymuned a'r wlad! 4. RYDYM YN HYRWYDDO'R IAITH GYMRAEG: Rydym yn falch o ddathlu pwysigrwydd y diwylliant a’r hanes sy'n ein galluogi i wneud yn fawr o’n Cymreictod. 5. RYDYM YN RHOI GWERTH AR AMRYWIAETH: Rydym yn llawn gydnabod y gwahaniaethau rhwng ein haelodau a sut y gall hynny greu cryfder; rydym eisiau creu cymunedau a chysylltiadau amlddiwylliannol a fydd yn aros gyda ni trwy gydol ein bywydau.
Mae gennym dîm o bump o Swyddogion Sabothol etholedig sy’n cynrychioli agos at 13,000 o fyfyrwyr Bangor, i sicrhau bod syniadau, anghenion a gofynion myfyrwyr yn cael eu gweithredu arnynt, a thîm o 15 o staff sy'n cefnogi'r Tîm Swyddogion Sabothol etholedig i roi ein strategaeth a chynlluniau fel Undeb ar waith. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn darparu trefn lywodraethu a goruchwylio i'r Undeb, yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith gwlad ac yn gwario’n unol â'n cynlluniau a chyllidebau. Fel Undeb rydym wedi cyflawni newidiadau a datblygiadau enfawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a thrwy weithio gyda'r brifysgol rydym wedi gallu sicrhau:
Clybiau a Chymdeithasau Am Ddim Mannau Astudio 24 awr Hwb Gweithgareddau newydd sbon ar gyfer ein grwpiau myfyrwyr Cyllid i gefnogi Iechyd a Lles myfyrwyr yn ystod Covid-19 Mynediad am ddim i Gynhyrchion Mislif ar draws y Campws Gwell Mannau Astudio i Fyfyrwyr Cynrychiolaeth gan Fyfyrwyr ar bob Pwyllgor Prifysgol
Mae ein trefn lywodraethu yn rhan bwysig o'n gwaith a chyda'r bobl iawn yn eu lle gallwn wneud pethau gwych.
PAM BOD YN YMDDIRIEDOLWR ALLANOL? Mae’r swydd yn un gwirfoddol a byddech yn rhoi eich amser i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn, yn dilyn fframweithiau cyfreithiol ac yn dilyn gofynion a osodir gan ein rheoleiddwyr (y Comisiwn Elusennau a’r Brifysgol). Yn bwysicaf oll mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud yn siŵr bod Undeb Bangor yn ymateb anghenion newidiol ein myfyrwyr.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL Y BWRDD: Sicrhau bod pob agwedd ar waith UM yn gyfreithlon ac yn ateb y gofynion rheoleiddiol, gan gynnwys y rheiny a ddisgrifir yn Neddf Elusennau 2010 a Deddf Addysg 1994 sy’n ymwneud yn benodol ag Elusennau ac Undebau Myfyrwyr. Sicrhau bod yr holl waith a wneir gan Undeb Bangor yn ymwneud ag amcanion elusennol y sefydliad - gan sicrhau bod popeth yn dod a budd i brofiad myfyrwyr ym Mangor. Penderfynu ar gyfeiriad strategol cyffredinol Undeb y Myfyrwyr a datblygu’r sefydliad yn unol ag egwyddorion llywodraethu da. Cynorthwyo i ddatblygu Undeb y Myfyrwyr trwy oruchwylio cynllunio strategol clir yn seiliedig ar ddealltwriaeth gydlynol o’r amgylchedd y mae’r sefydliad yn gweithredu ynddi. Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu mewn modd effeithiol, cyfrifol ac atebol o fewn gofynion cyfreithiol ac ariannol sefydliad elusennol. Cynnal goruchwyliaeth ariannol gadarn a rheoli arian ac adnoddau i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod yn hyfyw. Adnabod a goruchwylio rheolaeth o risgiau ariannol, cyfreithiol neu unrhyw risg sylweddol arall i’r Undeb y Myfyrwyr.
DYLETSWYDDAU PENODOL: Mynychu o leiaf pedwar cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr bob blwyddyn academaidd. Mae opsiynau i fod yn bresennol modd electronig. Darllenwch bob papur a anfonwyd i’w drafod yn drylwyr cyn cyfarfodydd a pharatoi syniadau a chyfraniadau, a chynnal cyfrinachedd bob amser. Ymgorffori gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr wrth wneud eu dyletswyddau. Gosod y cyfarwyddyd ar gyfer staff a gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â strategaeth, polisi, ariannu a gweithredu Undeb y Myfyrwyr. Ar y cyd â aelodau eraill y Bwrdd, gosod amcanion strategol, ac adolygu gwaith Cyfarwyddwr Undeb Bangor. Cymryd rhan mewn is-bwyllgorau a grwpiau prosiect sy’n berthnasol i’ch arbenigedd. Ymgymryd a cyfnod cynefino ac unrhyw hyfforddiant arall i’ch cefnogi chi i wneud y gwaith dyletswyddau uchod.
HOFFWN I CHI GAEL Y RHINWEDDAU DILYNNOL... HANFODOL Brwdfrydedd am werthoedd Undeb Myfyrwyr Bangor fel sefydliad democrataidd, cyfranogol, dan arweiniad myfyrwyr. Ymrwymiad i neilltuo amser a sylw angenrheidiol i rôl yr Ymddiriedolwr Allanol. Y gallu i feddwl yn strategol. Dealltwriaeth o rôl yr Ymddiriedolwr Allanol, gan gynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol ac ariannol. Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm â lefelau amrywiol o brofiad. Y gallu i fynegi barn yn annibynnol. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol. Ymlynu â saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan - anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth. Gwybodaeth dechnegol benodol a phrofiad ymarferol mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol: cyllid sefydliadol, adnoddau dynol neu faterion cyfreithiol.
DYMUNOL Gwybodaeth a phrofiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr. Dealltwriaeth o Undebau Myfyrwyr, Prifysgolion neu’r Sector Addysg Uwch. Gwerthfawrogiad o bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg ac ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd ddwyieithog. Dealltwriaeth o faterion llywodraethu Profiad neu wybodaeth o waith elusennau. O leiaf bum mlynedd o brofiad mewn maes perthnasol. Ymrwymiad i faterion sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb cymdeithasol. Profiad o annog cyfranogiad ac ymgysylltu.
GWYBODAETH GYFFREDINOL... NID OES TÂL AM Y SWYDD HON OND GELLIR TALU TREULIAU ARIAN PAROD YN UNOL Â PHOLISÏAU A THREFNAU ARIANNOL UNDEB BANGOR. CYNEFINO, HYFFORDDIANT A CHEFNOGAETH Bydd pob ymddiriedolwr yn mynd trwy raglen gynefino ynglŷn â gwaith Undeb Bangor ac yn derbyn gwahoddiad i Hyfforddiant Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae ein rhaglen gynefino yn hyblyg ac wedi’i chynllunio i gefnogi a datblygu’r ymddiriedolwr unigol.
HYD Y PENODIAD Fel rheol caiff Ymddiriedolwyr Allanol eu penodi am gyfnod o bedair blynedd.
CYFLE CYFARTAL Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.
SUT YDW I’N GWNEUD CAIS? SI wneud cais bydd angen i chi anfon CV diweddar atom ynghyd â llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4) yn dweud ychydig amdanoch a pham yr hoffech fod yn Ymddiriedolwr Undeb Bangor. Anfonwch y rhain at llinos.gashe@undebbangor.com erbyn y 10fed o Orffennaf 2022, ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.
SUT BYDD Y BROSES RECRIWTIO YN CAEL EI CHYNNAL? ·Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Llywodraethu a Phenodi Undeb Bangor a bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad anffurfiol lle byddant yn cwrdd â rhai o'r ymddiriedolwyr presennol a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Bydd cyfweliadau’n canolbwyntio ar eich cefndir, profiad a gwybodaeth.
OS YDW I’N LLWYDDO BETH FYDD YN DIGWYDD NESAF? Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddechrau ar y broses gynefino gyda Llywydd Undeb Bangor a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Datganiad Ymddiriedolwr Elusen i gadarnhau nad ydych wedi’ch gwahardd rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen. Caiff hyn ei ddilyn gan Wiriad Datgelu Sylfaenol. Byddwn yn gofyn i Gyngor Undeb Bangor eich derbyn yn ffurfiol fel Ymddiriedolwr. Byddwch yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod nesaf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
RHAGOR O WYBODAETH I gael rhagor o wybodaeth ac i drafod bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â: Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr mair.rowlands@undebbangor.com Byddem yn croesawu’r cyfle i siarad â chi yn bersonol os oes gennych ddiddordeb a gallwn ddarparu rhagor o fanylion am y swydd ac ati. Cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod ar-lein.
DIOLCH A PHOB LWC...