Hysbysu am Sefyllfa Frys / Trefnau mewn Argyfwng - Undeb Bangor

Page 1

Hysbysu am Sefyllfa Frys / Trefnau mewn Argyfwng - Undeb Bangor

Cyngor ac arweiniad ynglŷn â'r hyn i'w wneud mewn argyfwng. Mae'r drefn hon yn rhoi arweiniad i fyfyrwyr a staff ar y camau i'w cymryd yn dilyn sefyllfa frys. Mewn unrhyw sefyllfa frys dylid blaenoriaethu diogelwch a lles y rhai hynny sy'n gysylltiedig â'r sefyllfa frys. Dim ond ar ôl i fygythiad y sefyllfa dawelu a/neu fod y Gwasanaethau Brys wedi cymryd rheolaeth o'r sefyllfa y dylid cymryd y camau canlynol. Dylai canllawiau penodol sy'n berthnasol i reoli eich gweithgareddau neu ddigwyddiadau gael eu cynnwys yn yr Asesiad Risg penodol neu'r Daflen Rheoli Peryglon ar gyfer y gweithgaredd hwnnw, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu Brys (EAP) ar gyfer y safle yr ydych yn gweithredu ohono. At ddibenion y drefn hon, mae Sefyllfa Frys yn golygu "sefyllfa ddifrifol ac annisgwyl/heb ei chynllunio sy'n gofyn am sylw neu weithredu ar unwaith y gallai'r canlyniad gynnwys bod aelod mewn sefyllfa ddiymgeledd, difrod sylweddol i eiddo, anaf, salwch neu farwolaeth aelod neu aelodau." Sefyllfa Frys - Aelod(au) yn Ddiymgeledd Mae gan holl gerbydau Undeb Bangor, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u llogi yn allanol, yswiriant cynhwysfawr os yw'r cerbyd yn torri i lawr. Bydd hyn yn sicrhau o leiaf bod y ddarpariaeth mewn lle i chi ddychwelyd i Fangor. Mae arweiniad ar gyfer y camau sydd i'w cymryd mewn achos o’r fath wedi'i gynnwys yn y dogfennau yn y cerbyd. Dylech hefyd ymgynghori ag Asesiad Risg Cerbydau Undeb Bangor (sydd ar gael yn www.undebbangor.com) Os bydd aelod(au) Undeb Bangor mewn sefyllfa ddiymgeledd ar ôl gadael Bangor oherwydd methiant anadferadwy yn y dull o gludiant a drefnwyd neu yn achos ei weithredwr, dylai trefnydd y daith hefyd gysylltu ag Uned Ddiogelwch Prifysgol Bangor ar 01248 382795 i gynghori'r tîm am y mater. Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn cysylltu â phwynt cyswllt dynodedig Undeb Bangor am gyngor pellach. Efallai y bydd cynrychiolydd o Uned Ddiogelwch Prifysgol Bangor neu staff Undeb Bangor yn cysylltu â chi i gydlynu'r gwaith o gael yr aelod(au) ac unrhyw gerbyd(au) yn ôl adref os oes angen. Bydd yr union gamau i'w cymryd yn dibynnu ar y sefyllfa benodol a'r amodau dan sylw. Mae'r drefn hon yn ymwneud yn unig â theithiau sydd wedi cychwyn. Os ydych yn cael problemau gyda cherbyd a drefnwyd ar gyfer eich gweithgaredd cyn gadael Bangor - h.y. nad yw'r Uned Ddiogelwch yn barod i roi cerbyd i chi gan nad oes gennych y cadarnhad cywir, neu nad yw'r cerbyd ar gael am unrhyw reswm, mae hon yn sefyllfa anffodus ond NID yw'n argyfwng a dylid ei datrys yn ystod oriau swyddfa Undeb Bangor pan fydd y rhesymau dros y digwyddiad yn cael eu hymchwilio iddynt. Sefyllfa Frys - Difrod sylweddol i eiddo Os bydd y camau a gymerwyd gan aelod/aelodau neu drydydd parti yn arwain at ddifrod i eiddo ffisegol, dylid hysbysu Uned Ddiogelwch Prifysgol Bangor am y mater ar 01248 382795 i’w cynghori am y mater. Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn cysylltu â phwynt cyswllt dynodedig Undeb Bangor am gyngor pellach.


Os yw'r difrod wedi'i achosi i eiddo cyhoeddus, dylid casglu manylion y perchennog a'u rhoi i Undeb Bangor erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan hwyraf. Dylid hefyd ystyried rhoi gwybod i'r Heddlu trwy naill ai 999 (Brys) neu 101 (Heb fod yn Fater Brys) os ydych yn ansicr ynglŷn ag a yw'n ddigwyddiad sy'n rhaid hysbysu amdano ai peidio. Gofynnwch am gyfeirnod digwyddiad os cymerir y cam hwn. Bydd difrod i unrhyw gerbyd sy'n eiddo i'r Undeb neu wedi'i logi yn golygu bod angen llenwi ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad Cerbyd erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf. Mae'r ffurflen ar gael arlein yn www.undebbangor.com neu o Ganolfan Myfyrwyr Undeb Bangor. Cofiwch gofnodi unrhyw gyfeirnod digwyddiad yr ydych yn ei dderbyn gan yr Heddlu ar y ffurflen hon. Mae'n ddoeth cymryd ffotograffau o unrhyw ddifrod, dogfennaeth a/neu ffactorau sy'n cyfrannu a allai fod yn ddefnyddiol yn nes ymlaen. Sefyllfa Frys - Anaf/salwch aelod(au) Mân anaf/salwch (Efallai y bydd neu na fydd angen sylw meddygol arno) a gafwyd wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau swyddogol Undeb Bangor, a fydd efallai neu na fydd angen cymorth neu ymyriad meddygol. Os bydd y digwyddiad yn arwain at fynd i'r ysbyty a/neu'r angen am gefnogaeth ddilynol, dylid cyfeirio'r mater at Uned Ddiogelwch Prifysgol Bangor ar 01248 382795 i gynghori'r tîm am y mater. Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn cysylltu â phwynt cyswllt dynodedig Undeb Bangor am gyngor pellach. Anaf sylweddol/salwch difrifol (sydd angen sylw meddygol) a gafwyd wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau swyddogol Undeb Bangor, a fydd efallai neu na fydd angen cymorth neu ymyriad meddygol. Os bydd y digwyddiad yn arwain at fynd i'r ysbyty a/neu'r angen am gefnogaeth ddilynol, dylid cyfeirio'r mater at Uned Ddiogelwch Prifysgol Bangor ar 01248 382795 i gynghori'r tîm am y mater. Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn cysylltu â phwynt cyswllt dynodedig Undeb Bangor am gyngor pellach. Gall hon fod yn sefyllfa arbennig o bryderus neu ofidus a dylid ystyried lles y rhai hynny sy'n bresennol. Yn achos y ddau gategori bydd angen llenwi ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan hwyraf. Mae'r ffurflen ar gael ar-lein yn www.undebbangor.com neu o Ganolfan Myfyrwyr Undeb Bangor. Sefyllfa Frys - Marwolaeth aelod(au) Os bydd digwyddiad yn cymryd lle sy'n arwain at farwolaeth aelod neu aelodau, rhaid i chi gysylltu ag Uned Ddiogelwch Prifysgol Bangor ar 01248 382795 i gynghori'r tîm am y mater. Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn cysylltu â phwynt cyswllt dynodedig Undeb Bangor am gyngor pellach. Gall hon fod yn sefyllfa arbennig o bryderus neu ofidus a dylid ystyried lles y rhai sy'n bresennol am beth amser ar ôl y digwyddiad. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i annog y rhai a allai fod wedi cael eu heffeithio arnynt i gysylltu â Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Bangor am gefnogaeth. Bydd hyn yn gofyn am lenwi ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad a byddwn mewn cysylltiad i weithio trwy’r mater gyda chi. Mae'r ffurflen ar gael ar-lein neu o Ganolfan Myfyrwyr Undeb Bangor. Bydd yr Heddlu yn cynnal ymchwiliadau ac efallai y bydd angen datganiadau gan dystion a chyfweliadau. Gallwn eich cefnogi gyda hyn os bydd angen.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.