1
Allwedd
2
Undeb Bangor: Sefydliad sy’n sicrhau llais a chyfleoedd i fyfyrwyr Prifysgol Bangor Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB): Y sefydliad sy’n sichrau llais a chyfloedd i fyfyrwyr Cymraeg a Chymreig Y Cymric: Adain gymdeithasol UMCB
06 08 12 16 18 20 22 26
Gair o Groeso Beth yw UMCB? Pwyllgor UMCB Materion Academaidd Cymdeithasau Y Cymric Digwyddiadau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 28 Cystylliadau
3
4
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor 2017/18
5
Gair o Groeso
Gethin Morgan Llywydd UMCB 2018/19
6
Shw’mae, Gethin Morgan ydw i sef Llywydd UMCB am y flwyddyn academaidd 2018/19. Mae hi’n dipyn o fraint cael bod yn llywydd ar Undeb sydd wedi bod yn rhan ganolog o’m mywyd Prifysgol. Cyrhaeddais Bangor wedi teithio 3 awr o Lanbedr Pont Steffan gyda theimladau cymysg iawn. O aelwyd a chymuned glos a chyfeillgar, roedd elfen o hiraeth, digon o nerfusrwydd ond hefyd roedd y cyffro’n amlwg ynof. Ac o’r diwrnod cyntaf, mae UMCB wedi llunio fy holl fywyd, yn gymdeithasol ac yn academaidd. Fel y soniais ynghynt, dwi’n dod yn wreiddiol o ardal Llambed ac o gefndir amaethyddol gyda fy mhraidd o ddefaid a’m merlod Cymreig yn agos iawn at fy nghalon. Ond rhaid oedd gweld mwy o Gymru ac felly penderfynais mai astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor oedd y peth gorau i mi. A dwi’n difaru dim! Dros y flwyddyn, fy ngobaith yw siarad gyda chynifer ohonoch ag sy’n bosib a gobeithio y byddaf yn adnabod llwyth ohonoch erbyn diwedd y flwyddyn! Mae fy ngweledigaeth am y flwyddyn yn glir ac yn fras fy mwriad yw parhau i lywio a hybu’r gwaith da y mae myfyrwyr UMCB yn ei wneud i sicrhau ein ffyniant. Mae Cymreigio Undeb Bangor a sicrhau cynrychiolwyr cwrs Cymraeg ar bob pwyllgor staff-myfyrwyr yn flaenoriaethau hefyd ond ni af ymlaen i’ch llethu gyda fy ngweledigaethau i gyd. Bydd y rhain wedi’u hamlinellu ar ein gwefan ac os
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
ydych yn awyddus i gael sgwrs i drafod rhywbeth - mae fy nrws bob tro’n agored! Yr hyn sy’n bwysig pwysleisio yw bod UMCB yma ar eich cyfer chi, felly gwnewch y mwyaf o’r holl gyfleoedd a ddaw i’ch rhan. Ac mae ein rôl wleidyddol yn rhoi’r cyfle i chi fod yn rhan o rywbeth sy’n bwysig i chi. Mae fy nrws bob tro ar agor ac nid oes yr un cwestiwn yn rhy fach. Felly dewch draw i Swyddfa UMCB ar lawr 4, Pontio am sgwrs bellach er mwyn trafod beth yn UMCB a fydd o ddiddordeb ichi. A dwi’n gobeithio y bydd y llawlyfr hwn yn rhoi mwy o syniad i chi am yr hyn yr ydym yn ei gynnig
7
Ein Hanes
8
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yw UMCB ac mae’n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ystod eu cyfnod yma ym Mangor. Ers sefydlu’r Brifysgol, roedd cymdeithas y ‘Cymric’ yn weithredol fel cymdeithas Gymraeg y Brifysgol gan gynnal digwyddiadau llenyddol, dadlau a chymdeithasol. Mewn hinsawdd gyfnewidiol gydag aflonyddwch cynyddol y Cymry yn y 70au, sylweddolodd aelodau o’r gymdeithas nad oedd ‘Y Cymric’ ynddi’i hun yn fforwm digon cryf i gynrychioli’r myfyrwyr Cymraeg. Yn sgil hynny, sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) fel undeb newydd ac annibynnol ym 1976 ond llwyddwyd cyn hynny i sicrhau Neuadd Gymraeg I breswylwyr y brifysgol, sef Neuadd John Morris-Jones. Mae gwaddol y Neuadd a’r Cymric yn bodoli hyd heddiw gyda Neuadd John Morris-Jones yn parhau i fod yn breswylfan i fyfyrwyr Cymraeg ac yn ganolbwynt i weithgareddau UMCB ac mae’r Cymric wedi parhau fel cymdeithas gymdeithasol, a’r pwyllgor hwnnw sy’n gyfrifol am galendr cymdeithasol ein cymuned. Mae ein diolch a’n dyled erbyn heddiw i’r rhai a fu ynghlwm â sefydlu UMCB yn fawr iawn gan mai nhw yw’r rhai sy’n gyfrifol am osod y seiliau i UMCB, sydd heddiw’n Undeb fyrlymus, weithgar a brwdfrydig.
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
9
UMCB Heddiw
10
Dros y blynyddoedd mae perthynas UMCB gyda’r Undeb a’r Brifysgol wedi datblygu ac erbyn heddiw mae gan UMCB berthynas gadarn efo Undeb Bangor a’r Brifysgol sy’n sicrhau bod cynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn fwy effeithiol. Rydym bellach yn rhan o Undeb Bangor gyda swyddog sabothol â statws llawn. Trwy hynny, mae modd i ni ledaenu ein bwriad trwy’r brifysgol a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a hawliau myfyrwyr tu hwnt i ffenest UMCB. Fel rhan o’r Undeb, mae UMCB yn cael llais llawn yn y dweud pan fo materion sy’n effeithio ar yr holl fyfyrwyr yn dod i’r fei. Yn academaidd, ein rôl yw sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i fywyd academaidd y brifysgol ac rydym yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg, Canolfan Bedwyr a’r brifysgol i sicrhau hyn. Yn ogystal, mae arnom ddyletswydd yn dilyn yr hawliau a amlinellwyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar ddechrau 2018 a byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r brifysgol i wireddu’r hawliau. Os bydd gennych unrhyw broblem, mae croeso i chi gysylltu gyda Chanolfan Bedwyr neu swyddfa UMCB. Ein rôl gymdeithasol yw cefnogi ein holl gymdeithasau. Mae UMCB yn cynnig llu o gymdeithasau gwahanol ar gyfer pawb ac mae UMCB yn eu harwain i sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd eu llawn botensial. Rydyn ni eisiau gweld cymuned Gymraeg fyw ac iach yn y brifysgol ac rydym yn ymfalchïo yn ein cymuned. A honno’n un clos a chyfeillgar gydag ymdeimlad cryf o deulu yn perthyn i’r sefydliad. Bydd y llawlyfr hwn yn rhoi syniad i chi o strwythur UMCB a’r holl gyfleoedd sydd ynghlwm ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ac os oes gennych unrhyw ymholiad, mae’r holl fanylion cyswllt yn y llawlyfr.
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
llun
11
Mae Pwyllgor UMCB yn cael eu hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ar gyfer y flwyddyn sy’n dilyn (oni bai am gynrychiolydd y flwyddyn gyntaf). Mae’r pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn trafod pob mater a materion llywodraethol UMCB. Mae’r cyfarfodydd wedi’u rhannu’n ddwy adran, 1) Cymdeithasol 2) Materion eraill. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw un o’r pwyllgor ynghylch unrhyw faterion. Mae’r gwahanol gynrychiolwyr yn gyfrifol am gynrychioli’u meysydd perthnasol felly os ydych yn fyfyriwr yn y maes hwnnw, cofiwch gysylltu gyda nhw am unrhyw fater, yn gŵyn neu’n ganmoliaeth! Mae’r cynrychiolwyr yn eu lle i ddatrys eich problemau chi.
Gethin Morgan Llywydd UMCB a Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith Gethin.morgan@undebbangor.com 01248388006
Osian Owen Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith a chynrychiolydd ôl-radd weu623@bangor.ac.uk
12
Ioan Wynne Rees
Elena Brown
Iwan Evans
Cynrychiolydd yr Ail Flwyddyn
Cynrhychiolydd Myfyrwyr Cartref
Llywydd JMJ
muua6b@bangor.ac.uk
13
elu969@bangor.ac.uk
edub7f@bangor.ac.uk
Nerys Wyn Williams
Naomi Rees
Alistair Mahoney
Cynrychiolydd y Drydedd Flwyddyn a chadeirydd Cymdeithas Dysgwyr Cymraeg UMCB weu826@bangor.ac.uk
Cynrychiolydd Galwedigaethol
Aelod o’r Cymric
edu8fd@bangor.ac.uk
muu816@bangor.ac.uk
Lleucu Myrddin
Branwen Roberts
Magi Hughes
Aelod o’r Cymric
Golygydd y Llef
Cynrychiolydd Chwaraeon
soubc2@bangor.ac.uk
Llinos Hughes
Non Roberts
Aelod o’r Cymric
Aelod o’r Cymric
edu911@bangor.ac.uk
14
weua16@bangor.ac.uk
edu908@bangor.ac.uk
peu80a@bangor.ac.uk
15
Mae UMCB yn ystyried materion academaidd fel un o’i flaenoriaethau a phan ddaw mater i’r adwy, rydym gan amlaf yn ei ddatrys ar y cyd efo’r brifysgol heb unrhyw broblem. Os bydd unrhyw broblem academaidd yn dod i’ch rhan, boed efo’r cwrs neu ddarpariaeth Gymraeg, siaradwch gyda’ch tiwtor personol neu dewch i Swyddfa UMCB ym Mhontio am sgwrs neu medrwch chi gysylltu gyda’ch cynrychiolydd perthnasol ar bwyllgor UMCB. Cynrychiolwyr Cwrs Mae Undeb Bangor hefyd yn gyfrifol am strwythur y Cynrychiolwyr Cwrs ac eleni am y tro cyntaf yr ydym yn gobeithio sefydlu rhwydwaith o gynrychiolwyr cwrs sy’n siarad Cymraeg ym mhob maes pwnc. Bydd modd ichi gysylltu gyda’ch cynrychiolwyr cwrs trwy wefan Undeb Bangor. Bydd y cynrychiolwyr cwrs yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda staff yr adran er mwyn datrys unrhyw broblemau ond os nad ydych yn teimlo bod eich llais chi’n cael ei glywed, cysylltwch gyda Llywydd UMCB.
16
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
Canolfan Bedwyr Mae modd ichi wneud cwyn ynghylch unrhyw agwedd ar yr Iaith Gymraeg yn y brifysgol, gan gynnwys darpariaeth academaidd. Os oes gennych gwestiynau, sylwadau neu gwynion am weithrediad y Polisi Iaith Gymraeg a’r Safonau Iaith Gymraeg yn y Brifysgol, dilynwch y ddolen hon; https://www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr/sylwadau.php.cy Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae Cangen Prifysgol Bangor o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i leoli yng Nghanolfan Bedwyr. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfleoedd niferus i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Bangor yn darparu mwy o fodiwlau a chyrsiau trwy gyfrwng Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall. Ym Mangor hefyd y ceir y nifer fwyaf o fyfyrwyr sy’n dewis astudio trwy’r Gymraeg. Mae modiwlau Cymraeg neu ddwyieithog ar gael ym mhob un o ysgolion academaidd y Brifysgol erbyn hyn, ac mae llyfryn modiwlau yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy’n amlinellu’r dewis helaeth o fodiwlau sydd ar gael. 17
Papur newydd Cymraeg yw’r Llef sy’n cael ei ysgrifennu a’i baratoi gan fyfyrwyr Cymraeg Bangor. Mae’n cynnwys y newyddion diweddaraf am yr Undeb, y Brifysgol a’r byd o’n cwmpas yn lleol ac yn ehangach, yn ogystal â chynghorion ar ffasiwn, adolygiadau, adran chwaraeon a gemau, ynghyd â’r Hadau, cylchgrawn Prifysgol Bangor i ddysgwyr. Os hoffech gyfrannu i’r papur, rydym bob amser yn chwilio am gyfranwyr newydd. golygyddyllef@gmail.com Y Llef @y_llef
Mae côr, parti bechgyn a pharti merched Aelwyd JMJ yn cyfarfod yn wythnosol yn ystafell gyffredin Neuadd JMJ. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y côr yn Eisteddfod 2018, mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno yn hwyl y byd canu neu ymuno i gymdeithasu mewn llu o wahanol nosweithiau cymdeithasol. aelwydjmj1864@gmail.com Aelwyd JMJ @JohnMorrisJone1
18
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
Cymdeithas John Gwilym Jones
Cymdeithas lenyddiaeth Gymraeg Prifysgol Bangor yw CJGJ sydd â’r bwriad o ddod â llenyddiaeth Gymraeg yn fyw yn Ninas Dysg! Byddwn yn cynnal gweithgareddau cyffrous o fyd barddoniaeth, rhyddiaith, a’r ddrama Gymraeg, mewn gwahanol leoliadau yn y ddinas. Byddwn yn mynd ar deithiau yn aml i weld dramâu, yn ogystal ag ymweld â llefydd o ddiddordeb llenyddol. Fe redir y Gymdeithas gan griw o bobl ifanc sydd ar dân dros lenyddiaeth! Dilynwch ein gwefannau cymdeithasol i dderbyn rhagor o wybodaeth ynglŷn â digwyddiadau! cymdeithasjgj@undebbangor.com Cymdeithas John Gwilym Jones @cymdeithasJ
Cymdeithas Dysgwyr Learners Society
P’un ai eich bod yn ddysgwr neu eich bod eisiau helpu dysgwyr eraill gyda’r iaith, dyma’r lle i chi gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a chael pob cefnogaeth a chroeso. Cymdeithas Dysgwyr Cymraeg UMCB Welsh Learners’ Society @dysgwyrUMCB
19
Y Cymric yw’r adain sy’n gyfrifol am drefnu digwyddiadau cymdeithasol UMCB. Boed yn Eisteddfod Dafarn, yn daith Pentref Bach neu’n Noson Glwb Cymru, Y CYMRIC sy’n sicrhau bod eich bywydau cymdeithasol yn llawn. Y 4 sydd wrth y llyw eleni yw Lleucu Myrddin, Llinos Hughes, a Alistair Mahoney Adran Chwaraeon Mae chwaraeon yn rhan bwysig iawn o galendr cymdeithasol UMCB a’r Cymric. Dyma’r chwaraeon sydd ar gael a chadwch olwg ar y dudalen Facebook i weld pa bryd y mae’r ymarferion. Rydym hefyd yn chwilio am fwy o syniadau am glybiau a chymdeithasau newydd er mwyn i chi allu cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Os oes gennych syniad am un, dewch i’m gweld i a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu chi i’w sefydlu a’i redeg. Trwy fod yn gymdeithas sy’n rhan o’r Undeb yn ogystal ag UMCB, bydd gennych yr hawl i ddefnyddio bysiau mini, cael eich yswirio o dan bolisi yswiriant yr Undeb a cheisio am grantiau gan yr Undeb i helpu i gyllido eich gweithgareddau.
20
Pel-droed Bechgyn
Pel-rwyd Merched
Pel-droed Merched
Capten Tomos Owen
Capten Kate Jones
Capten Magi
Is-gapten Sioend Rowlands
Is-gapten Catrin Llywelyn
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
21
22
Wythnos Groeso a Serendipedd
Cyfarfodydd Cyffredinol
Mae’r Wythnos Groeso yn wythnos bwysig iawn yn eich calendr ac yn gyfle arbennig i chi gynefino’n llawn â bywyd Prifysgol. Bydd Y Cymric ac UMCB yng ngofal trefniadau’r nos a dilynwch amserlenni eich ysgolion ar gyfer y dydd. Byddwch yn barod hefyd i gymdeithasu gyda glasfyfyrwyr o’ch cwrs chi. Os nad oes un o gymdeithasau UMCB yn dwyn eich diddordeb, cewch gyfle i weld holl gymdeithasau a chlybiau chwaraeon yr Undeb yn Serendipedd. Mae’r holl glybiau a chymdeithasau am ddim (ry’n ni’n 1 o 3 prifysgol ym Mhrydain sy’n cynnig hyn).
Cynhelir cyfarfod cyffredinol UMCB ar ddechrau ac ar ddiwedd y flwyddyn academaidd i drafod gwahanol faterion sy’n ymwneud ag UMCB ac mae’n bwysig o ran gwneud newidiadau cyfansoddiadol. Mae UMCB yn rhan o Undeb Bangor ac mae’r berthynas rhyngom yn un gref. Mae modd ichi weld cyfansoddiad UMCB a deall y strwythur mewn manylder cyfreithiol drwy ddilyn y ddolen hon; https://www.undebbangor.com/ pageassets/voice/gm/Undeb-Bangor-Bye-Law-11-UMCB-September-2017.pdf
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
23
Wythnos Shw’mae Su’mae
Digwyddiadau Rhyng-golegol
Mae’r ymgyrch Shw’mae Su’mae yn un cenedlaethol. Mae ymgyrch UMCB bob blwyddyn ar yr achlysur hwn bob tro’n llwyddiant mawr gyda’r gweithgareddau erbyn hyn ar hyd yr wythnos. Mae’r ymgyrch yn ganolog i waith UMCB ac rydym yn awyddus i gael cynifer o bobl ynghlwm â’r ymgyrch ag sy’n bosib! Bydd calendr llawn o’r gweithgareddau ar gael yn agosach at y dyddiad! Eleni, am y tro cyntaf, ar y cyd efo Pontio, rydym wedi trefnu gig Shw’mae Su’mae ym Mhontio. Mae tocynnau ar gael o Pontio.
Yn ystod y flwyddyn, ceir ddau ddigwyddiad gydag undebau a chymdeithasau Cymraeg prifysgolion Cymru. Cynhelir y ddawns yn flynyddol yn Aberystwyth tra bod yr Eisteddfod yn teithio o amgylch Cymru. Yn yr Eisteddfod, mae amrywiaeth o gystadlaethau o’r rhai unigol, y canu corawl a’r rhai digrif heb anghofio’r cystadlaethau llenyddol a chwaraeon. Mae’n rhoi’r cyfle i gymdeithasu gyda phawb o Gymru! Eleni, mae’r ddawns ar 17 Tachwedd yn Aberystwyth a’r Eisteddfod ar 1 Mawrth. Bydd modd prynu tocynnau o siop UMCB ar ein gwefan.
Gloddest, Dawns yr Haf a’r Swper Olaf
Gwirfoddoli
Dyma ddigwyddiadau mwyaf ffurfiol UMCB lle cewch chi’r cyfle i wisgo eich dillad gorau a mwynhau pryd o fwyd a dathliad Nadolig a diwedd y flwyddyn academaidd gyda’ch gilydd. Bydd yr atgofion a’r lluniau yn rhai i’w trysori am byth! Bydd y wybodaeth i gyd yn cael ei rhyddhau’n agosach at y dyddiadau.
Mae Gwirfoddoli yn Undeb Bangor yn cynnig dros 750 o gyfleoedd gwirfoddoli i’n myfyrwyr mewn dros 40 o wahanol brojectau. Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud cyfanswm o 600 a mwy o oriau’r wythnos o waith, ac yn ein helpu i feithrin perthynas agosach â’r gymuned leol. Rydym yn credu y dylai pawb gael y cyfle i wirfoddoli yn ystod eu cyfnod ym Mhrifysgol Bangor. Mae Undeb Bangor yn gweithio i sicrhau bod ein holl wirfoddolwyr yn gallu datblygu eu projectau ac yn cael cefnogaeth lawn i wneud hynny. Un project yw Ffrind Cymraeg sef cyfle i fentora dysgwyr Cymraeg a’u help i fagu hyder. Bydd digon o gyfle i chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned ym Mangor drwy ymuno yn y gweithgareddau gwirfoddoli a gynhelir gan UMCB a’i gymdeithasau. Am fwy o wybodaeth, ewch i ; https://cy.undebbangor.com/gwirfoddoli/
Y Daith Rygbi Mae UMCB yn trefnu’r daith flynyddol rygbi ac eleni bydd y daith yn mynd i Gaeredin. Mae hwn yn gyfle arall i gymdeithasu gyda myfyrwyr Prifysgol Cymru a bydd tocynnau ar gyfer y daith a chrys rygbi ar werth ym mis Hydref.
24
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
25
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â phob prifysgol yng Nghymru er mwyn sicrhau mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg. Mae Bangor yn chwarae rhan amlwg yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae 9 o bob 10 myfyriwr sy’n siarad Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn astudio rhywfaint o’u cwrs drwy’r Gymraeg. Sut All y Coleg dy Helpu Di? • Mae’n ariannu darlithwyr a phynciau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion er mwyn datblygu cyrsiau cyfrwng Cymraeg. • Mae’n cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg. • Mae’n creu adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr er mwyn eu helpu gyda’u hastudiaethau. • Mae’n cynnig y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg, sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol
26
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
Cangen Bangor o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae Cangen Bangor o’r CCC wedi ei lleoli yng Nghanolfan Bedwyr, sydd yn Neuadd Dyfrdwy ar Ffordd y Coleg. Mae Lois Roberts, Swyddog Cangen Bangor, yn gweithio fel pwynt cyswllt i fyfyrwyr ac yn cefnogi gwaith y Coleg. Mae croeso i fyfyrwyr ymweld â hi i gael sgwrs am y Coleg ac am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor. Yno hefyd mae stiwdio fideo-gynadledda’r CCC, sydd wedi’i datblygu’n bwrpasol ar gyfer dysgu modiwlau cyfrwng Cymraeg ar y cyd â phrifysgolion eraill. Ymaelodi â’r Coleg Mae ymaelodi’n hawdd - drwy’r wefan, ac am ddim! Bydd aelodau’n derbyn manylion am y cyfleoedd yn ymwneud ag astudio drwy’r Gymraeg, a’r diweddaraf am weithgareddau a datblygiadau’r Coleg. colegcymraeg.ac.uk/ymaelodi Cyswllt: l.a.roberts@bangor.ac.uk neu 01248 388247 Twitter: @cangenbangor Instagram: @cangenbangor Facebook: Cangen Bangor
27
Swyddfa UMCB E-bost: gethin.morgan@undebbangor.com Rhif ffôn: 01248388006 Lleoliad: Yst. 6, Undeb Bangor, Llawr 4 – Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor. Undeb Bangor E-bost: undeb@undebbangor.com Rhif ffôn: 01248388000 Lleoliad: Undeb Bangor, Llawr 4 – Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor. Canolfan Bedwyr E-bost: canolfanbedwyr@bangor.ac.uk Rhif ffôn: 01248383293 Lleoliad: Neuadd Dyfrdwy, Ffordd y Coleg, Bangor.
28
Undeb Myfwyrwyr Cymraeg Bangor Croeso i Fangor
Cangen Bangor – Coleg Cymraeg Cenedlaethol E-bost: l.a.roberts@bangor.ac.uk Rhif ffôn: 01248 388247 Lleoliad: Neuadd Dyfrdwy, Ffordd y Coleg, Bangor. Gwasanaethau Myfyrwyr E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk Rhif ffôn: 01248382024 Lleoliad: Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor.
29
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor
UMCB Prifysgol Bangor Cynnwys gan Gethin Morgan Cynlluniwyd gan Elis Povey
30