LLAWLYFR 2020/21
UNDEB MYFYRWYR CYMRAEG BANGOR
ALLWEDD UNDEB BANGOR Sefydliad sy'n gyfrifol am gynrychioli myfyrwyr Prifysgol Bangor a sicrhau bod ganddynt lais. UMCB Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor sydd yn sicrhau llais a chyfleoedd i'r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Y CYMRIC Corff cymdeithasol UMCB. NEUADD JMJ (JOHN MORRIS-JONES) Neuadd breswyl ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn unig.
2
CYNNWYS Sefydlu UMCB
6
UMCB Heddiw
8
Llywydd UMCB
10
Undeb Bangor
11
Effaith Covid-19
12
Pwyllgor UMCB
14
Cymdeithasau UMCB
17
Gwirfoddoli UMCB
20
Chwaraeon y Cymric
20
Materion Academaidd
22
Digwyddiadau
25
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
27
Cysylltiadau
28
3
4
UNDEB MYFYRWYR CYMRAEG BANGOR 2019/20 5
BETH YW UMCB? Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yw UMCB ac
SEFYDLU UMCB
mae’n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg a Chymreig yn ystod eu cyfnod yma ym Mangor. Ers sefydlu’r Brifysgol, roedd cymdeithas y ‘Cymric’ yn weithredol fel cymdeithas Gymraeg y Brifysgol gan gynnal digwyddiadau llenyddol, dadlau a chymdeithasol. Mewn hinsawdd gyfnewidiol gydag aflonyddwch cynyddol y Cymry yn y 70au, sylweddolodd aelodau o’r gymdeithas nad oedd ‘Y Cymric’ yn ddigon cryf i gynrychioli’r myfyrwyr Cymraeg, fel oedd y sefydliad ar y pryd. Yn sgil hynny, sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) fel
undeb newydd ac annibynnol yn 1976 ond llwyddwyd cyn hynny i sicrhau Neuadd Gymraeg I breswylwyr y brifysgol, sef Neuadd John Morris-Jones. Mae gwaddol y Neuadd a’r Cymric yn bodoli hyd heddiw gyda Neuadd John Morris-Jones yn parhau i fod yn breswylfan i fyfyrwyr Cymraeg ac yn ganolbwynt i weithgareddau UMCB ac mae’r Cymric wedi parhau fel cymdeithas gymdeithasol, a’r pwyllgor hwnnw sy’n gyfrifol am galendr cymdeithasol ein cymuned. Mae ein diolch a’n dyled erbyn heddiw i’r rhai a fu ynghlwm â sefydlu UMCB yn fawr iawn gan mai nhw yw’r rhai sy’n gyfrifol am osod y seiliau i UMCB, sydd heddiw’n Undeb fyrlymus, weithgar a brwdfrydig.
6
UMCB
CRIW JMJ 1984/85
7
UMCB HEDDIW
Dros y blynyddoedd mae perthynas UMCB gyda’r Undeb a’r Brifysgol wedi datblygu ac erbyn heddiw mae gan UMCB berthynas gadarn efo Undeb Bangor a’r Brifysgol sy’n sicrhau bod cynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn fwy effeithiol. Rydym bellach yn rhan o Undeb Bangor gyda swyddog sabothol â statws llawn. Trwy hynny mae modd i ni ledaenu ein bwriad trwy’r brifysgol a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a hawliau myfyrwyr tu hwnt i ffenest UMCB. Mae hyn yn sicrhau fod pawb o fewn yr Undeb yn gweld pwysigrwydd a budd yr iaith i'n myfyrwyr a staff. Fel rhan o’r Undeb, mae UMCB yn cael llais llawn yn y dweud pan fo materion sy’n effeithio ar yr holl fyfyrwyr yn dod i’r fei. Yn academaidd, ein rôl yw sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i fywyd academaidd y brifysgol ac rydym yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg, Canolfan Bedwyr a’r Brifysgol i sicrhau hyn. Yn ogystal, mae arnom ddyletswydd yn dilyn yr hawliau a amlinellwyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar ddechrau 2018 a byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r brifysgol i wireddu’r hawliau. Os bydd gennych unrhyw broblem, mae croeso i chi gysylltu gyda Chanolfan Bedwyr neu swyddfa UMCB. Ein rôl gymdeithasol yw cefnogi ein holl gymdeithasau. Mae UMCB yn cynnig llu o gymdeithasau gwahanol ar gyfer pawb sydd yn cael eu arwain gan ein myfyrwyr ni ein hun. Rydym eisiau gweld y gymuned Gymraeg, sydd yn fyw ac iach yn y brifysgol yn parhau i dyfu ac rydym yn ymfalchïo yn ein cymuned. A honno’n un clos a chyfeillgar gydag ymdeimlad cryf o deulu yn perthyn i’r sefydliad. Bydd y llawlyfr hwn yn rhoi syniad i chi o strwythur UMCB a’r holl gyfleoedd sydd ynghlwm ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ac os oes gennych unrhyw ymholiad, mae’r holl fanylion cyswllt yn y llawlyfr.
8
UMCB
CRIW BLWYDDYN 1 2018/19
9
LLYWYDD UMCB Shwmae! Iwan Evans ifi, a fi yw Llywydd UMCB am y flwyddyn academaidd 2020/21. Yn wreiddiol o bentref Gorsgoch ger Llambed, Ceredigion, wnes i fentro symud lan at y Gogs tair mlynedd yn ôl, ar ôl gael fy hudo gan ddelwedd a chymuned Cymraeg yr ardal wrth ymweld ar ddiwrnod agored. Bellach wedi graddio efo gradd mewn Dylunio a Thechnoleg ac Addysg Uwchradd, dwi'n frwdfrydig i gynnal y gymdeithas Gymraeg wnaeth wneud fy mywyd Prifysgol yn un i’w chofio. Ynghlwm gyda fy addysg, rô'n ni yn angerddol tuag at UMCB tra’n fyfyriwr. Fues yn Gynrychiolydd y Flwyddyn 1af, Llywydd JMJ, aelod o’r Cymric, a Chynrychiolydd Chwaraeon ar bwyllgor gwaith UMCB dros fy nhair mlynedd fel myfyrwiwr. Roeddwn hefyd yn gapten ar dim rygbi dynion y Cymric yn ystod fy 2il flwyddyn. Roedd sefyll i fod yn Llywydd UMCB yn gam naturiol i’w gymryd felly, ac rwy'n awyddus i wneud y fwyaf o’r cyfle unigryw yma i sicrhau fod gan myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yr un cyfleoedd ac hapusrwydd â gefais i. Wedi fy magu trwy’r Gymraeg, mae’r iaith wedi bod yn rhan hynod bwysig o fy mywyd. Efo’r Brifysgol ac Undeb Bangor yn sefydliadau sydd yn arwain y sector addysg uwch am ddarpariaeth addysg Gymraeg, teimlaf fod gennai'r cyfle orau i gefnogi a sicrhau hawliau myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol. Fel person sydd yn mwynhau sgwrs, rwy'n annog i’r holl fyfyrwyr Cymraeg i ddod atai efo unrhyw faterion, gan fy mhod yn llawn hyderus fy mhod yn barod i gynorthwyo a sicrhau fod llais ein myfyrwyr Cymraeg yn cael ei glywed a’i chymryd o ddifri.
10
UNDEB BANGOR Undeb Bangor yw llais y Myfyrwyr a chartref bywyd myfyrwyr ym Mangor! Mae Undeb Bangor ar gyfer holl fyfyrwyr Bangor ac yn cael ei arwain gan gynrychiolwyr myfyrwyr etholedig sy'n gweithio i gyfoethogi a gwella eich profiad myfyriwr. Mae tîm o Swyddogion Sabothol (Sabbs) ymroddedig yn gweithio i Undeb Bangor i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a bod y math o weithgareddau sydd ei angen yn cael ei datblygu.
Henry Williams Llywydd yr Undeb
Iwan Evans Llywydd UMCB
James Avison Is-lywydd Addysg
Yn cefnogi'r Swyddogion Sabothol mae staff proffesiynol Undeb y Myfyrwyr, tîm profiadol sy’n lletya ymgyrchoedd a pholisïau'r Sabbs; yn cydweithio gyda'r Brifysgol i wella profiad myfyrwyr i bob myfyriwr! Undeb Bangor sydd yn rhedeg y Clybiau Chwaraeon, Cymdeithasau, Projectau Gwirfoddoli, UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), Cynrychiolwyr Cwrs a ein Cyngor Myfyrwyr. Mae gennyn nhw nifer o gyfleoedd i chi ddod o hyd i hobi newydd, cwrdd ag unigolion tebyg, gwella eich cyflogadwyedd a gwneud gwahaniaeth. Os oes unrhyw beth rydych chi eisiau neu yn meddwl bod angen ei newid, mae'n nhw yma i wrando arnoch chi a'ch cefnogi chi, felly cysylltwch â nhw.
Katie Tew Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli
11
EFFAITH COVID-19 Yn amlwg eleni, mae Covid-19 wedi gael sgîl effaIth ar gallu Undebabu Myfyrwyr i gynnal cyfleoedd ar gyfer ein myfyrwyr. Efo cyfyngiadau cenedlaethol yn rhwystro faint o bobol sydd yn gallu cyfarfod mewn un man ar unrhyw adeg, boed hynny tu fewn neu tu allan, rydym wedi gorfod ail-ddylunio ein gweithgareddau amrywiol er mwyn sicrhau diogelwch ein myfyrwyr, tra hefyd yn gwneud ein gorau i gynnig y cyfle gorau i fyfyrwyr cymdeithasu efo'u gilydd. Mae clybiau Chwaraeon y Cymric wedi llwyddo i allu cynnal ymarferion, yn ogystal â rhai gemau cyfeillgar yn erbyn timau eraill y Birfysgol e.e. pêl-droed a rygbi. Mae'n bwysig iawn fod cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr cymdeithasu mewn ardal awyr agored, tra hefyd yn cadw'n ddiogel, felly mae pob un o'r clybiau wedi'u gyfarparu efo deunydd glanweithdra er mwyn sicrhau bod yr haent ddim yn cael ei ledaenu, tra bod pawb hefyd yn gorfod loggio fewn i weithgareddau chwaraeon yn defnyddio system profi ac olrhain y Brifysgol. Mae ein cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli hefyd wedi bod yn cadw i gyfarfod ar-lein yn defnyddio technolegau newydd sydd wedi dod i'r feu. Er fod nifer y pethau sydd wedi bod yn bosib i'w wneud, heb fod i r'un safon â beth oedd cynCovid, rydym dal yn gallu cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr mynychu sesiynau cymdeithasu a dod i adnabod pobol newydd. Ein bwriad yw ceisio cynnig y mwyafrif o weithgareddau a chyfleoedd ag sy'n bosib i'n myfyrwyr, boed hynny wyneb yn wyneb neu trwy sgrîn. Rydym yn deall yr effaith gadarnhaol mae'r gallu i gymdeithasu yn cael ar iechyd meddwl myfyrwyr, sydd llawn mor bwysig â iechyd corfforol. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfleoedd i drefnu gweithgareddau sydd yn cyd-fynd efo cyfyngiadau Covid y wlad, cofiwch i'w ddweud wrth Bwyllgor Gwaith UMCB.
12
UMCB
STEFFAN A SIONED YN LLYFRGELL SHANKLAND
13
PWYLLGOR UMCB Mae Pwyllgor Gwaith UMCB wedi'i gynrychiioli gan fyfyrwyr sydd yn cael eu hethol i'w rôlau gan eu cyd-fyfyrwyr yng nghyfarfod cyffredinol olaf y flwyddyn (ar wahân i gynrychiolydd y flwyddyn 1af). Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod yn misol er mwyn trafod materion llywodraethol UMCB ac hefyd materion cymdeithasol. Mae'r pwyllgor yna i fod yn lais ichi,, felly peidiwch ag oedi i gysylltu gydag unrthyw un ohonyn nhw os bod gennych mater i'w godi, dim ots os ydy'n cwyn neu'n nodyn clôd. Mae cynrychiolydd yna ar gyfer pob un myfyriwr felly gwnewch yn siwr eich bod yn siarad efo nhw er mwyn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Mae fod yn rhan o'r pwyllgor yn cyfle gwych i roi eich barn ar sut mae UMCB yn cael ei arwain, tra hefyd yn datblygu sgiliau trefnu a chyfathrebu. Os oes gennych ddiddordeb, ymgeisiwch am un o'r rôlau yn yr etholiadau ar ddiwedd y flwyddyn.
Iwan Evans Llywydd UMCB iwan.evans@undebbangor.com
Cadi Evans Llywydd JMJ cdv19kps@bangor.ac.uk
Kirsty Lewis Cynrychiolydd y Flwyddyn 1af krl20ljg@bangor.ac.uk
Catrin Jones Cynrychiolydd yr 2il Flwyddyn ctj19bft@bangor.ac.uk
Mared Fflur Jones Cynrychiolydd y 3ydd Flwyddyn mrj18nsj@bangor.ac.uk
Bethan Boland Cynrychiolydd Ôl-raddedig weua1c@bangor.ac.uk
14
Manon Roberts Cynrychiolydd Galwedigaethol mnr18hnz@bangor.ac.uk
Danielle Thomas Swyddog RAG seuaef@bangor.ac.uk
Celt John Cynrychiolydd LGBTQ+ clj19dby@bangor.ac.uk
Buddug Roberts Y Cymric bdr18njs@bangor.ac.uk
Huw Jones Y Cymric hwj18pnn@bangor.ac.uk
Sioned Jones Cynrychiolydd Myfyrwyr Cartref chua51@bangor.ac.uk
Dylan Jones Y Cymric dyj18btc@bangor.ac.uk
Mabon Dafydd Y Cymric a Chynrychiolydd Chwaraeon mbd18gcn@bangor.ac.uk
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith eleni yw Iwan Evans (Llywydd UMCB) â'r Is-gadeirydd yw Mared Jones (Cynrychiolydd y 3ydd Flwyddyn). Huw Jones (Y Cymric) yw Ysgrifennydd y Pwyllgor.
15
UMCB
AELWYD JMJ YN COR CYMRU 2019
16
CYMDEITHASAU UMCB
Mae UMCB hefyd yn cynnig cyfleoedd i'n myfyrwyr gymdeithasu trwy ein cymdeithasau lu. Fel pob cymdeithas sydd wedi'u cynnig gan Undeb bangor, mae holl gymdeithasau UMCB am ddim i ymuno efo. Gallwchj ymuno gyda faint bynnag ohonyn nhw yr hoffech. Mae pob cymdeithas wedi'u rhedeg gan fyfyrwyr, felly maent yn addasu pob blwyddyn er mwyn fod yn addas i'r criwiau newydd sydd yn dod i Fangor pob blwyddyn. Chwiliwch am y gwahanol gymdeithasau ar gyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth.
CYMDEITHASAU JOHN GWILYM JONES
Cymdeithas John Gwilym Jones
Cymdeithas lên Prifysgol Bangor yw Cymdeithas John Gwilym Jones. Ein bwriad fel cymdeithas yw ehangu cyfleoedd myfyrwyr sydd ar dân i werthfawrogi a thrafod eu hoff weithiau llenyddol, drwy gynnal gweithgareddau ffurfiol yn ogystal ag anffurfiol drwy'r flwyddyn academaidd. Mae cymaint o weithgareddau cyffrous ar y gweill ar gyfer myfyrwyr felly cadwch eich llygaid allan ar ein gwefannau cymdeithasol am fwy o fanylion!
@cymdeithasjgj
AELWYD JMJ Mae Aelwyd JMJ yn un o gymdeithasau UMCB, sy’n cyfarfod yn wythnosol a’r nos Fawrth yn Neuadd John Morris Jones. Dyma gymdeithas sy’n llawn brwdfrydedd ac yn cynnig profiadau anhygoel drwy lwyfannu mewn nifer o gystadlaethau yn ystod y flwyddyn. Mae Côr SATB, Côr Bechgyn a Chôr Merched yn yr Aelwyd- mae rhywbeth at ddant pawb! Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn llawn cyffro a chystadlu'r flwyddyn nesa a gwahodd aelodau newydd i’r Aelwyd!
Aelwyd JMJ
@aelwydjmj
17
Y LLEF Dyma bapur newydd ar-lein UMCB. Dyma gyfle i fyfyrwyr Cymraeg bangor i ysgrifennu a pharatoi erthyglau newyddion i'w rhyddhau ar blatfform digidol. Gall y cynnwys ymwneud efo digwyddiadau UMCB, yr Undeb â'r Brifysgol, neu hyd yn oed straeon am y byd ehangach. Tips ffasiwn, newyddion chwaraeon, neu feirniadaeth gig, does ddim copa i'r themau gallwch ysgrifennu am gyda'r Llef. Os hoffech gyfrannu i'r papur, mae'r golygyddion pob tro'n chwilio am gyfranogwyr.
Y Llef
@yllefbangor
RADIO UMCB
Radio UMCB
@stormfm2020
Mae Radio UMCB yn rhan o orsaf radio'r Brifysgol, Strom FM. Mae'n gyfle i fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol i gyflwyno, cynyrchu neu gwrando i raglenni cyfoes sydd yn apelio at bobl ifanc ym Mangor. Mae rhaglenni Radio UMCB fel arfer yn rhedeg o 4-8 ar nos Fawrth efo slotiau awr ar gael, ac mae croeso i unrhywun sydd gyda diddordeb cymryd rhan. Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Facebook Radio UMCB i weld y cynnwys sydd yn cael ei greu.
Y CYMRIC Y Cymric yw adain gymdeithasol UMCB, a nhw sydd yn gyfrifiol am drefnu calendar llawn digwyddiadau amrywiol ar gyfer holl fyfyrwyr UMCB trwy gydol y flwyddyn. Mae 4 aelod o'r Cymric, a rhai o'r digwyddiadau sydd yn cael eu drefnu ydi Wythnos y Glas, Clwb Cymru, Meic Agored, Eisteddfod Dafarn, Crôl Teulu, Crôl Tai ond i enwi ychydig. Mae'n nhw hefyd yn trefnu digwyddiadau ar-lein fel cwisiau, nosweithi gemau a.y.y.b fel bod modd i unrhywun o fyfyrwyr UMCB ymuno yn yr hwyl, dim ots lle maent yn byw.
Y Cymric
@umcb1976
18
UMCB
HUW YN JOIO CLWB CYMRU 'EISTEDDFOD V ROYAL WELSH'
19
GWIRFODDOLI UMCB FFRIND CYMRAEG
Cymdeithas Dysgwyr UMCB
Gynt yn Gymdeithas Dysgwyr UMCB, gwêl trawsnewidiad dros Haf 2020, efo prosiect gwirfoddoli Ffrind Cymraeg yn dod i'r adwy. Bellach yn brosiect sydd yn gweithredu i godi hyder ac annog dysgwyr Cymraeg, mae'r brosiect yma yn un gwych i unrhyw un sydd eisiau cyfarfod pobol newydd a gwneud gwahaniaeth i fywyd dysgwyr. Bydd aelodau yn cael eu paru efo dysgwyr, efo cyfleoedd i cwrdd a gymdeithasu yn unigol neu mewn grwpiau, er mwyn ymarfer sgwrs Cymraeg gya dysgwyr.
@dysgwyrumcb
CHWARAEON UMCB CHWARAEON Y CYMRIC Yn 2018, gwelwyd trawsnewidiad hefyd i adain chwaraeon UMCB. Rydym bellach yn cynnig timau Rygbi a Phêl-droed i ddynion a merched, yn ogystal a thîm Pêl-rwyd a Hoci i ferched. Mae hefyd gennym Glwb Rhedeg y Cymric. Mae'r clybiau cymdeithasol yma i gyd yn ymarfer a chwarae trwy'r Gymraeg, ac yn cystadlu yn cystadleuthau Rhyng-gol, yn ogystal â mewn gemau cyfeillgar yn erbyn timau Cymraeg Prifysgolion eraill Cymru. Mae hefyd Varsity blynyddol yn erbyn Gymdeithas Wyddeleg Bangor, sydd yn cyfle i gymdeithasu efo myfyrwyr o fewn y Brifysgol.
Rygbi (M) Capten Leah Roberts Is-gapten Sara Roberts
Rygbi (D) Capten Mabon Dafydd Is-gapteiniaid Osian Evans Huw Evans
Y Chwaraeon Cymric
@chwaraeonycymric
Pêl-Rwyd Pêl-droed (D) Pêl-droed (M) Hoci Capten Capten Capten Capten Elan Duggan Sion Emlyn Davies Anest Jones Mared Wyn Jones Is-gapten Is-gapteiniaid Is-gapten Is-gapten Swyn Williams Cai Huws Fflur Williams Cadi Roberts Aled Pritchard
20
UMCB
PÊL-DROED DYNION Y CYMRIC
21
MATERION ACADEMAIDD Mae UMCB yn ystyried materion academaidd fel un o’i flaenoriaethau a phan ddaw mater i’r adwy, rydym gan amlaf yn ei ddatrys ar y cyd efo’r Brifysgol heb unrhyw broblem. Os bydd unrhyw broblem academaidd yn dod i’ch rhan, boed efo’r cwrs neu ddarpariaeth Gymraeg, siaradwch gyda’ch tiwtor personol neu cysylltwch efo Iwan, trwy ei ebost, am sgwrs neu fedrwch chi gysylltu gyda’ch cynrychiolydd perthnasol ar bwyllgor UMCB.
CYNRYCHIOLWYR CWRS Mae Undeb Bangor hefyd yn gyfrifol am strwythur y Cynrychiolwyr Cwrs. Mae gennym ni rhwydwaith o gynrychiolwyr cwrs sy’n siarad Cymraeg ym mhob maes pwnc. Bydd modd ichi gysylltu gyda’ch cynrychiolwyr cwrs trwy wefan Undeb Bangor. Bydd y cynrychiolwyr cwrs yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda staff yr adran er mwyn datrys unrhyw broblemau ond os nad ydych yn teimlo bod eich llais chi’n cael ei glywed, cysylltwch gyda Llywydd UMCB. Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Llywydd UMCB, felly cysylltwch efo nhw os bod gyda chi mater i'w godi.
CYNGOR MYFYRWYR Mae Cyngor Myfyrwyr yr Undeb wedi'i gyfansoddi o 27 gownselydd sydd yn cynrychioli myfyrwyr o bob cymuned. Mae hefyd gan UMCB un gynrychiolydd penodol, yn ogystal â chynrychiolydd iaith Gymraeg. Mae'r Cyngor yn cyfarfod yn misol er mwyn trafod materion pwysig sydd yn effeithio pob myfyriwr. Gallwch ddod o hyd i'r gwaith mae'r cownselwyr gwahanol yn gwneud ar ein gwefan. mae hefyd tudalen ar y wefan ichi gynnig syniadau ar gyfer sut all yr Undeb wella, neu ymgyrchoedd ddylai'r Cyngor fod yn rhedeg. Bydd y 5 syniad efo'r mwyaf o bleidleisiau ar y wefan, erbyn diwedd y mis, yn cael eu trafod. Gallwch ymgeisio i fod yn gownselydd ar gychwyn pob blwyddyn academaidd trwy wefan Undeb Bangor.
22
CANOLFAN BEDWYR Mae modd ichi wneud cwyn ynghylch unrhyw agwedd ar yr Iaith Gymraeg yn y brifysgol, gan gynnwys darpariaeth academaidd. Os oes gennych gwestiynau, sylwadau neu gwynion am weithrediad y Polisi Iaith Gymraeg a’r Safonau Iaith Gymraeg yn y Brifysgol, dilynwch y ddolen hon; canolfanbedwyr@bangor.ac.uk
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Cangen Prifysgol Bangor o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i leoli yng Nghanolfan Bedwyr. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfleoedd niferus i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Bangor yn darparu mwy o fodiwlau a chyrsiau trwy gyfrwng Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall. Ym Mangor hefyd y ceir y nifer fwyaf o fyfyrwyr sy’n dewis astudio trwy’r Gymraeg. Mae modiwlau Cymraeg neu ddwyieithog ar gael ym mhob un o ysgolion academaidd y Brifysgol erbyn hyn, ac mae llyfryn modiwlau yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy’n amlinellu’r dewis helaeth o fodiwlau sydd ar gael.
IOAN, BETH A SION
23
BOIS BLWYDDYN 2/3 YN MEIC AGORED 2019
24
DIGWYDDIADAU UMCB
WYTHNOS GROESO
CYFARFODYDD CYFFREDINOL
Mae’r Wythnos Groeso yn wythnos bwysig iawn yn eich calendr ac yn gyfle arbennig i chi gynefino’n llawn â bywyd Prifysgol. Bydd Y Cymric ac UMCB yng ngofal trefniadau’r nos a dilynwch amserlenni eich ysgolion ar gyfer y dydd. Byddwch yn barod hefyd i gymdeithasu gyda glasfyfyrwyr o’ch cwrs chi. Os nad oes un o gymdeithasau UMCB yn dwyn eich diddordeb, cewch gyfle i weld holl gymdeithasau a chlybiau chwaraeon yr Undeb yn Serendipedd. Mae’r holl glybiau a chymdeithasau am ddim (ry’n ni’n 1 o 3 prifysgol ym Mhrydain sy’n cynnig hyn).
Cynhelir cyfarfod cyffredinol UMCB ar gychwyn pob tymor, ac ar ddiwedd y flwyddyn academaidd i drafod gwahanol faterion sy’n ymwneud ag UMCB. Mae’n bwysig o ran gwneud newidiadau cyfansoddiadol. Mae UMCB yn rhan o Undeb Bangor ac mae’r berthynas rhyngom yn un gref. Mae modd ichi weld cyfansoddiad UMCB a deall y strwythur mewn manylder cyfreithiol drwy edrych ar dudalen UMCB ar wefan Undeb Bangor.
WYTHNOS SHW’MAE SU’MAE
DIGWYDDIADAU RHYNG-GOLEGOL
Mae’r ymgyrch Shw’mae Su’mae yn un cenedlaethol. Mae ymgyrch UMCB bob blwyddyn ar yr achlysur hwn bob tro’n llwyddiant mawr gyda’r gweithgareddau erbyn hyn ar hyd yr wythnos. Mae’r ymgyrch yn ganolog i waith UMCB ac rydym yn awyddus i gael cynifer o bobl ynghlwm â’r ymgyrch ag sy’n bosib! Bydd calendr llawn o’r gweithgareddau ar gael yn agosach at y dyddiad! Gwelwyd Gig Rhithiol gyda Elis Derby, Alffa ac Y Cledrau eleni yn cael ei gynnal yn Pontio a ffrydio ar AM i goroni'r wythnos.
Yn ystod y flwyddyn, ceir ddau ddigwyddiad gydag undebau a chymdeithasau Cymraeg prifysgolion Cymru. Cynhelir y ddawns yn flynyddol yn Aberystwyth tra bod yr Eisteddfod yn teithio o amgylch Cymru. Yn yr Eisteddfod, mae amrywiaeth o gystadlaethau o’r rhai unigol, y canu corawl a’r rhai digrif heb anghofio’r cystadlaethau llenyddol a chwaraeon. Mae’n rhoi’r cyfle i gymdeithasu gyda phawb o Gymru! Yn anffodus bu rhaid gohirio'r digwyddiadau eleni, gyda Cwpan Her Rhyngol yn cael ei gynnal ar-lein yn lle. Croeswn bysedd i 2021/22! 25
Y DAITH RYGBI
VARSITY CELTAIDD
Pob blwyddyn mae UMCB yn trefnu trip rygbi i naill ai Dulyn neu Caeredin i gyd-fynd efo gemau rygbi Cymru yn y Chwe Gwlad. Eleni roeddwn i fod mynd i Gaeredin, ond oherwydd Covid, gafodd hyn ei ohirio, felly byddwn ni'n edrych i gynnal rhywbeth ym Mangor eleni. Blwyddyn nesaf, byddwn yn mynd i Ddulyn goebithio.
Ers dwy flynedd bellach mae UMCB wedi bod yn trefnu Varsity Celtaidd yn erbyn Gymdeithas Wyddeleg y Brifysgol yn chwarae gemau Peldroed, Rygbi a Phêl-droed Gwyddeleg yn eu herbyn. Mae'n benwythnos llawn hwyl pob blwyddyn sydd yn arawin at gymdeithasu gyda'r nos a chyfle i gyfarfod pobol newydd.
CAEREDIN 2019
PÊL-DROED MERCHED
GLODDEST, DAWNS YR HAF A SWPER OLAF UMCB Dyma ddigwyddiadau mwyaf ffurfiol UMCB lle cewch chi’r cyfle i wisgo eich dillad gorau a mwynhau pryd o fwyd a dathliad Nadolig a diwedd y flwyddyn academaidd gyda’ch gilydd. Bydd yr atgofion a’r lluniau yn rhai i’w trysori am byth! Bydd y wybodaeth i gyd yn cael ei rhyddhau’n agosach at y dyddiadau.
BOIS BLWYDDYN 1 YN GLODDEST 2019
26
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Cangen Bangor o’r CCC wedi ei lleoli yng Nghanolfan Bedwyr, sydd yn Neuadd Dyfrdwy ar Ffordd y Coleg. Mae Lleucu Myrddin, Swyddog Cangen Bangor eleni, yn gweithio fel pwynt cyswllt i fyfyrwyr ac yn cefnogi gwaith y Coleg. Mae croeso i fyfyrwyr cysylltu â hi i gael sgwrs am y Coleg ac am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor. Yno hefyd mae stiwdio fideo-gynadledda’r CCC, sydd wedi’i datblygu’n bwrpasol ar gyfer dysgu modiwlau cyfrwng Cymraeg ar y cyd â phrifysgolion eraill.
LLYSGENHADON CCC 2018
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â phob prifysgol yng Nghymru er mwyn sicrhau mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg. Mae Bangor yn chwarae rhan amlwg yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae 9 o bob 10 myfyriwr sy’n siarad Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn astudio rhywfaint o’u cwrs drwy’r Gymraeg. Sut All y Coleg dy Helpu Di? Mae’n ariannu darlithwyr a phynciau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion er mwyn datblygu cyrsiau cyfrwng Cymraeg• Mae’n cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôlraddedig sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg• Mae’n creu adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr er mwyn eu helpu gyda’u hastudiaethau• Mae’n cynnig y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg, sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol.
TEGWEN
Ymaelodi â’r Coleg Mae ymaelodi’n hawdd - drwy’r wefan, ac am ddim! Bydd aelodau’n derbyn manylion am y cyfleoedd yn ymwneud ag astudio drwy’r Gymraeg, a’r diweddaraf am weithgareddau a datblygiadau’r Coleg. colegcymraeg.ac.uk/ymaelodi 27
CYSYLLTIADAU SWYDDFA UMCB iwan.evans@undebbangor.com 01248 388006 Yst. 6, Undeb Bangor, Llawr 4 – Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor. neu Neuadd Gyffredin JMJ, Bryn Dinas. Safle Ffriddoedd, Bangor
UNDEB BANGOR undeb@undebbangor.com 01248 388000 Undeb Bangor, Llawr 4 – Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor.
CANOLFAN BEDWYR canolfanbedwyr@bangor.ac.uk 01248 383293 Neuadd Dyfrdwy, Ffordd y Coleg, Bangor
28
CANGEN BANGOR lleucu.myrddin@undebbangor.com 01248 388247 Neuadd Dyfrdwy, Ffordd y Coleg, Bangor
GWASANAETHAU MYFYRWYR gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk 01248 382024 Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor
GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL
Mae'r Brifysgol yn cynnig llawer o wasanaethau i fyfyrwyr sy'n ymwneud â iechyd meddwl. Gellir darganfod y wybodaeth i gyd trwy'r linc yma:
https://www.bangor.ac.uk/studentservices/mentalhealth/index.php.cy
Mae Undeb Bangor hefyd yn cynnig gwasanaethau a sesiynau i'n myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae sesiynau Cyswllt@Bangor, Taclo'r Tabŵ a Walk & Talk, yn esiamplau o rai o'r gwahanol gwasanaethau sydd ar gael i'n myfyrwyr. Os ydych angen unrhyw fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Llywydd UMCB, neu Undeb Bangor.
29
Cynnwys a Dyluniad gan Iwan Evans Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor